Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun LL15 1YN
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y
Cynghorydd Tony Flynn gysylltiad personol yn Eitem 6, Cynllun Amddiffyn
Arfordir Dwyrain y Rhyl, gan ei fod yn berchen ar 2 eiddo masnachol a 3 eiddo
preswyl yng nghanol Y Rhyl.
|
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim materion
brys. Ar y pwynt hwn,
dywedwyd wrth Aelodau y byddai cwestiwn yn cael ei gyflwyno fel a ganlyn:- Gofynnodd y
Cynghorydd Mabon ap Gwynfor y cwestiwn canlynol: “Mae tri Chyngor Sir yng Nghymru yn bwriadu
dad-fuddsoddi (gwaredu) eu cynlluniau pensiwn o gwmnïau yn gysylltiedig â thanwyddau ffosil. Fel rhan o
gynlluniau’r Cyngor a Chymru i fynd i’r afael â newid hinsawdd, pa gynlluniau sydd gan y Cabinet
i Gynllun Pensiynau Clwyd ddad-fuddsoddi o gwmnïau yn gysylltiedig â thanwyddau
ffosil”? Dyma ymateb y
Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau
Strategol: “Byddai Cyngor Sir Ddinbych, fel corff ar ei
ben ei hun, yn rhy fach i gynnal ei gynllun pensiwn ei hun. Felly, rydym yn
aelod o Gronfa Bensiynau Clwyd, sydd hefyd yn cynnwys Wrecsam, Sir y Fflint
(sy’n gweinyddu’r cynllun) a nifer o Gynghorau Tref a Chymuned llai ynghyd â rhai cyrff gweinyddol eraill. Felly,
rydym yn rhan o’r Pwyllgor, fodd bynnag, fe allwn ddylanwadu ar gyfeiriad y
Pwyllgor. Mae gennym aelod
ar y Pwyllgor sydd yn goruchwylio’r gronfa bensiynau, y Cynghorydd Huw Jones,
sydd yn wael ar hyn o bryd, ond rwy'n ymwybodol ei fod yn chwarae rhan
weithredol yn y Pwyllgor. Mae gan Gronfa Bensiynau Clwyd strategaeth fuddsoddi sydd yn nodi, yn
amodol ar y ddyletswydd sydd ganddi i sicrhau bod rhwymedigaethau pensiynwyr y
presennol a’r dyfodol yn cael eu cwrdd, y bydd yn gwneud buddsoddiadau dewisol
mewn meysydd amgylcheddol, megis technoleg ac ynni glân, isadeiledd
amgylcheddol, coedwigaeth a phethau eraill o’r fath. Caiff y Polisi ei
adolygu yn barhaus ac mae’n destun adolygiad strwythur ar hyn o bryd ac mae
Ymgynghorwyr Buddsoddi'r Gronfa yn ystyried sut y gallant gynnwys risgiau newid
hinsawdd o fewn y strategaeth ddiwygiedig a chyflawni’r hyn sydd angen ei wneud
o ran dyletswydd i bensiynwyr. Ar hyn o bryd,
mae oddeutu 1.2% o’r gronfa wedi’i buddsoddi mewn tanwyddau ffosil, sydd yn
elfen gymharol fychan o’r buddsoddiadau ar y cyfan. Nid yw hyn yn rhywbeth y
gallwn ei reoli’n uniongyrchol gan nad yw o fewn ein cylch gwaith, ond byddwn
yn parhau i ddylanwadu ar hynny drwy'r strwythur rheoli sydd ar waith. Maent yn
mynychu’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn lled-reolaidd, felly fe allwn
fynd i’r afael â’r
mater drwy’r broses honno. Dyna’r sefyllfa gyfreithiol ond y cam cyntaf yw mynd i’r afael â’r
ddyletswydd cynhyrchydd i gwrdd â’n rhwymedigaethau i bensiynwyr y presennol
a’r dyfodol”. |
|
DYDDIADUR Y CADEIRYDD PDF 116 KB Nodi ymrwymiadau
dinesig a ymgymerwyd gan Gadeirydd y Cyngor (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd rhestr o
ddigwyddiadau dinesig a fynychwyd gan y Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd ar gyfer y
cyfnod rhwng 6 Mehefin 2019 a 17 Awst 2019 wedi’i dosbarthu cyn y cyfarfod. PENDERFYNWYD derbyn
y rhestr o ddigwyddiadau dinesig y bu i’r Cadeirydd a'r Is-Gadeirydd eu
mynychu. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd 2 Gorffennaf 2019 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar 2 Gorffennaf 2019. Materion yn Codi: Tudalen 8 (eitem
6 (i)) – Mynegodd y Cynghorydd Mabon ap Gwynfor ei siom nad oedd mwy o gymorth
ar gael i Gynghorau Cymuned bychain. Tudalen 9 – eitem
6 (ii)) – Cwestiynodd y Cynghorydd Glenn Swingler y diweddariad a roddwyd ar
gynnydd yr ail fand o Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif. Eglurodd y
Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts y sefyllfa a bod ymarfer cwmpasu yn mynd
rhagddo ond bod rhaid ei gyflwyno i Bwyllgorau amrywiol cyn ei gyflwyno i'r
Cyngor Llawn. Tudalen 10 – Rhybudd
o Gynnig – Gofynnodd y Cynghorydd Graham Timms am y wybodaeth ddiweddaraf. Cadarnhaodd
Pennaeth y Gyfraith, AD a Gwasanaethau Democrataidd bod y grwpiau gwleidyddol
wedi cytuno ar aelodaeth y Gweithgor. Roedd dyddiad posibl ar gyfer y cyfarfod
cychwynnol, sef 19 Medi 2019, ond byddai’n cysylltu â phob aelod o’r Grŵp cyn y dyddiad hwnnw i
gadarnhau. Mynegodd y
Cynghorydd Brian Jones ei siom bod un o’r Aelodau a gyflwynodd y Rhybudd o
Gynnig wedi gwrthod ei sedd ar y Gweithgor. Tudalen 16 –
(eitem 12) – Dywedodd Pennaeth y Gyfraith, AD a Gwasanaethau Democrataidd wrth
y Cyngor Llawn nad oedd Cadeirydd nac ychwaith Is-Gadeirydd y Pwyllgor
Llywodraethu Corfforaethol ar gael i gyflwyno’r adroddiad, ac felly byddai’n
cael ei ohirio tan gyfarfod y Cyngor Llawn ar 15 Hydref 2019. Tudalen 17 (eitem
14) – Cododd y Cynghorydd Rhys Thomas y mater o Weithredu Model Darparu Amgen
ar gyfer swyddogaethau a gweithgareddau amrywiol yn gysylltiedig â hamdden yn cael ei symud ar y Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol o’r cyfarfod ym mis Medi i’r cyfarfod ar 15 Hydref. Eglurodd Pennaeth
y Gyfraith, AD a Gwasanaethau Democrataidd ei fod yn fater dilyniannu a bod
rhaid cyflwyno’r eitem yng nghyfarfod y Cabinet ar 24 Medi ac yna yng
nghyfarfod y Cyngor Llawn ym mis Hydref. PENDERFYNWYD yn
amodol ar yr uchod, cadarnhau cofnodion y cyfarfod Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar
2 Gorffennaf 2019 fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi. |
|
CYNLLUN AMDDIFFYN ARFORDIR DWYRAIN Y RHYL PDF 334 KB Ystyried
adroddiad gan y Peiriannydd Risg Llifogydd (copi ynghlwm) ar y cynigion am
gynllun amddiffyn arfordir yn nwyrain y Rhyl. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a’r Amgylchedd adroddiad
Cynllun Amddiffyn Arfordir Dwyrain Y Rhyl (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i
hysbysu’r aelodau am gynllun amddiffyn arfordir arfaethedig yn Nwyrain Y Rhyl a
fyddai’n darparu safon briodol o amddiffyniad llifogydd i oddeutu 1,650 eiddo. Nodwyd bod y
tebygolrwydd o lifogydd difrifol yn fwy acíwt yn Nwyrain y Rhyl nag unrhyw
leoliad arall yn Sir Ddinbych. Dangosodd ymchwiliad i lifogydd 2013 y gallai
eiddo ddioddef llifogydd yn ystod digwyddiad 1 mewn 20 mlynedd. Cynllun Amddiffyn
Arfordir Dwyrain y Rhyl oedd y cynllun amddiffyn arfordir â’r flaenoriaeth
uchaf ar gyfer y Cyngor. Roedd cost y
prosiect wedi’i amcangyfrif yn £27.5 miliwn. Roedd y cynllun i
fod i gan ei ariannu yn defnyddio model Menter Benthyca Llywodraeth Leol. Y gyfradd grant ar gyfer gwaith amddiffyn yr
arfordir oedd 75%, felly, byddai’r prosiect yn cael ei ariannu’n llwyr gan y
Cyngor, gyda 75% o’r costau yn cael eu had-dalu gan Lywodraeth Cymru dros gyfnod
o 25 mlynedd drwy’r Grant Cynnal Refeniw.
Oherwydd maint y cynllun, mae’n debyg y byddai’n rhaid i’r Cyngor
fenthyg y mwyafrif o’r arian, er bod £2m o arian cyffredinol wedi’i glustnodi
ar gyfer y cynllun. Ni fyddai
Llywodraeth Cymru yn ystyried ceisiadau am fwy o grant lle’r oedd costau wedi
cynyddu uwchlaw'r swm a gymeradwywyd gan y grant. Er mwyn cyflawni sicrwydd
cost digonol ar gyfer cynllun Dwyrain y Rhyl, penderfynwyd caffael camau
dylunio ac adeiladu'r cynllun gan ddefnyddio Fframwaith Caffael y Sector
Cyhoeddus Scape. Ym mis Awst 2016 gwnaed cytundeb cyflawni gyda'r Partner
Fframwaith, Balfour Beatty. O ganlyniad i'r cysylltiad cynnar hwn gan y
contractwr, roedd hyder y gellid cyflawni'r cynllun hyd at ei gwblhau o fewn yr
amcangyfrif cost cyfredol. Roedd Fframwaith
Scape yn cefnogi defnydd cadwyni cyflenwi lleol. Rheolwyd hyn trwy “Siarter Cadwyn Gyflenwi”
a'i hasesu yn erbyn Dangosyddion Perfformiad Allweddol. Er enghraifft, dylai o leiaf 40% o wariant y
prosiect fod o fewn radiws o 20 milltir a 75% o fewn radiws o 40 milltir. Roedd Balfour Beatty wedi ymgysylltu'n helaeth
ag is-gontractwyr a chyflenwyr lleol, gan ddim ond edrych ymhellach i ffwrdd
pan nad oedd adnoddau ar gael yn lleol neu pan nad oeddent yn gallu darparu
gwerth am arian. Roedd y cynllun
wedi cael ei ystyried yn flaenorol a’i gefnogi gan y Tîm Gweithredol
Corfforaethol, y Grŵp
Buddsoddi Strategol a’r Cabinet ac fe gynhaliwyd sesiynau galw heibio cyhoeddus
ym mis Hydref a mis Tachwedd 2018. Y risg fwyaf
sylweddol oedd gysylltiedig â'r prosiect oedd bod telerau benthyciad
Llywodraeth Cymru yn arwain at faich refeniw hirdymor (25 mlynedd) i'r Cyngor. Roedd y cynllun
arfaethedig yn cynnwys gosod 128,000 tunnell o feini o flaen yr amddiffynfeydd
môr presennol, yn ogystal ag amddiffynfa fôr newydd 600m o hyd ger y wal a'r
promenâd. Byddai tri phwynt
mynediad gwell at y traeth hefyd yn cael eu darparu. Cynigiwyd
y byddai’r gwaith adeiladu yn dechrau ym mis Ebrill 2020 ac yn dod i ben ym mis
Rhagfyr 2022. Cafwyd trafodaeth
fanwl a chodwyd y pwyntiau canlynol: ·
Mynegwyd
pryderon o ran hyd y benthyciad a’r cynnydd posibl i gyfraddau llog. Cadarnhawyd y byddai’r gyfradd llog ar y benthyciad yn sefydlog am y cyfnod
o 25 mlynedd. ·
Codwyd
y risg o’r prosiect yn mynd dros y gyllideb.
Cadarnhawyd bod llawer iawn o waith wedi cael ei wneud gyda’r contractwr ers dechrau’r trafodaethau ar y prosiect er mwyn ceisio lleihau gorwariant ond ni fyddent byth yn gallu dileu'r risg ariannol. Byddai Bwrdd Prosiect yn cael ei sefydlu i oruchwylio’r cynllun a monitro gwariant. Ar y pwynt hwn, gofynnodd y Cynghorydd Joan Butterfield fod y Cynghorydd Barry Mellor yn cael bod yn aelod o’r ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR LLYWODRAETHU CORFFORAETHOL PDF 244 KB Ystyried
adroddiad gan Bennaeth y Gyfraith, Adnoddau Dynol a’r Gwasanaethau Democrataidd
(copi ynghlwm) am waith y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ar gyfer blwyddyn
y cyngor 2018/2019. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gan nad oedd y
Cadeirydd nac ychwaith yr Is-Gadeirydd yn gallu mynychu cyfarfod y Cyngor
Llawn, cytunwyd i ohirio Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol tan gyfarfod y Cyngor ar 15 Hydref 2019. PENDERFYNWYD bod
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn cael ei ohirio tan
15 Hydref 2019. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CYNGOR SIR PDF 411 KB Ystyried Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth
y Gyfraith, AD a Gwasanaethau Democrataidd Raglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor
ynghyd â Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol Briffio'r Cyngor (a ddosbarthwyd yn
flaenorol). Cadarnhawyd y
byddai cyfarfod y Cyngor Arbennig yn cael ei gynnal ar 19 Medi 2019, er mwyn
penodi Pennaeth Cyllid newydd. 15 Hydref, 2019 –
Ychwanegu Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol wedi iddo
gael ei ohirio yn y cyfarfod heddiw. PENDERFYNWYD, yn
amodol ar yr uchod, y dylid cymeradwyo a nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y
Cyngor a Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
Briffio'r Cyngor. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 12.05 p.m. |