Agenda and draft minutes
Lleoliad: SIAMBR Y CYNGOR, NEUADD Y SIR, RHUTHUN LL15 1YN
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y
Cynghr. Tina Jones a Paul Penlington gysylltiad personol ag eitem 7, sef
Cynllun Datblygu Lleol Newydd Sir Ddinbych – Y Strategaeth a Ffefrir Ddrafft. |
|
PENODI CADEIRYDD Y CYNGOR SIR Penodi Cadeirydd
y Cyngor am y flwyddyn 2019/2020. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gofynnodd y
Cadeirydd sy’n ymddeol, y Cyng. Peter Scott, am enwebiadau ar gyfer penodi
Cadeirydd y Cyngor Sir ar gyfer 2019/2020. Cynigiodd y Cyng.
Rhys Thomas y dylid penodi’r Cyng. Meirick Lloyd Davies yn Gadeirydd. Eiliwyd y cynnig
hwn gan y Cyng. Ann Davies. Ni chafwyd
enwebiadau pellach, ac yn dilyn pleidlais drwy godi dwylo cafodd y Cyng.
Meirick Lloyd Davies ei ethol yn unfrydol i fod yn Gadeirydd y Cyngor ar gyfer
2019/2020. Rhoddodd y
Cadeirydd sy’n ymddeol araith fer a bu’n adlewyrchu ar ei gyfnod fel Cadeirydd
yn ystod y deuddeg mis diwethaf. Diolchodd i’r
Cyng. Meirick Lloyd Davies a’i wraig Nesta am eu cefnogaeth yn ystod y flwyddyn
ddiwethaf. Diolchwyd hefyd i’r swyddogion a’r staff am eu cefnogaeth ac yn
arbennig i Eleri Woolford (Rheolwr Cefnogi a Datblygu Aelodau), Sue License
(Cymhorthydd Personol i Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a
Democrataidd), a Sharon Evans (Cydlynydd Busnes: Swyddfa’r Arweinydd) am eu
gwaith a’u cefnogaeth yn ystod ei gyfnod fel Cadeirydd. Roedd y Cadeirydd
sy’n ymddeol wedi casglu £14,500 i’w elusen ddewisol, sef Hosbis Sant Cyndeyrn.
Derbyniodd Laura
Parry y siec ar ran Hosbis Sant Cyndeyrn gan egluro bod yr hosbis ar hyn o bryd
yn cynnal prosiect gwerth £3 miliwn i gefnogi mwy o bobl yn y gymuned.
Diolchodd am yr holl gefnogaeth a roddwyd a dywedodd y bydd yr arian yn gwneud
gwahaniaeth mawr i’r Hosbis. Dymunodd y
Cadeirydd sy’n ymddeol yn dda i’r Cadeirydd newydd a chyflwynodd y Gadwyn Swydd
iddo. Llofnododd y Cadeirydd newydd y Datganiad Derbyn Swydd. Enwodd y
Cadeirydd newydd ei wraig, Nesta Davies, fel ei gydymaith. Elusennau’r
Cadeirydd newydd yw:- ·
Breast
Cancer UK ·
Prostate
Cancer UK |
|
PENODI IS-GADEIRYDD Y CYNGOR SIR Penodi
Is-Gadeirydd y Cyngor am y flwyddyn 2019/20. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gofynnodd y
Cadeirydd am enwebiadau ar gyfer Is-Gadeirydd. Cynigiodd y Cyng.
Joan Butterfield y dylid penodi’r Cyng. Alan James yn Is-Gadeirydd y Cyngor ar
gyfer 2019/2020. Cyfeiriodd at brofiad eang y Cyng. James. Eiliwyd y cynnig
gan y Cyng. Barry Mellor. Ni chafwyd
enwebiadau pellach, ac yn dilyn pleidlais drwy godi dwylo, cafodd y Cyng. Alan
James ei ethol yn unfrydol i fod yn Is-Gadeirydd y Cyngor ar gyfer 2019/2020. Arwisgodd y
Cadeirydd y Cyng. Alan James gyda Chadwyn Swydd yr Is-Gadeirydd a llofnododd yr
Is-Gadeirydd newydd y Datganiad Derbyn Swydd. Enwodd yr
Is-Gadeirydd newydd ei wraig, Win Mullen-James, fel ei gydymaith. Bu i’r Arweinydd,
Arweinwyr Grŵp ac Aelodau gydnabod gwaith y Cadeirydd sy'n ymddeol dros y
deuddeng mis diwethaf a llongyfarch y Cynghr. Meirick Lloyd Davies ac Alan
James ar gael eu hethol yn Gadeirydd ac yn Is-Gadeirydd yn y drefn honno. |
|
Yn y fan hon (10.30 a.m.) cafwyd egwyl o 20 munud. Ailddechreuodd y cyfarfod am 10.50 a.m. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd 28 Mawrth 2019 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion
cyfarfod y Cyngor Llawn ar 28 Mawrth 2019. PENDERFYNWYD cadarnhau
cofnodion cyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar 28 Mawrth 2019 fel cofnod
cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi. |
|
CYNLLUN DATBLYGU LLEOL NEWYDD SIR DDINBYCH - STRATEGAETH A FFEFRIR DDRAFFT PDF 277 KB I ystyried adroddiad gan y Rheolwr Cynllunio
Strategol a Thai (copi ynghlwm) yn cyflwyno argymhellion gan y Grŵp
Cynllunio Strategol a’r Cabinet ynglŷn â Strategaeth Ddrafft a Ffefrir y
CDLl Newydd a cheisio cymeradwyaeth i ymgynghori ar y Strategaeth Ddrafft a
Ffefrir. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Datganodd y Cyng.
Tina Jones gysylltiad personol gan ei bod yn berchen ar ddarn o dir ym
Mhrestatyn. Datganodd y Cyng. Paul Penlington gysylltiad personol gan fod ei
fam-yng-nghyfraith yn berchen ar ddarn o dir o fewn y CDLl. Cyflwynodd y
Cyng. Brian Jones, Aelod Arweiniol Priffyrdd, Cynllunio a Theithio Cynaliadwy,
yr adroddiad (a gylchredwyd ymlaen llaw) sy’n cyflwyno argymhellion y Grŵp
Cynllunio Strategol a’r Cabinet ar gyfer y Strategaeth a Ffefrir y CDLl Newydd
a cheisiodd dderbyn cymeradwyaeth i ymgynghori ar y Strategaeth Ddrafft. Yn ystod y
drafodaeth codwyd y pwyntiau canlynol: ·
Holodd
y Cyng. Tony Flynn pam nad yw Cynghorwyr Tref wedi eu hysbysu. Eglurwyd fod tair sesiwn alw heibio wedi ei chynnal ar gyfer Cynghorau
Dinas, Tref a Chymuned er mwyn iddynt gael cyfle i fod yn rhan o’r broses ar
gam cynnar. Os yw’r Cyngor yn cymeradwyo’r argymhellion bydd rhagor o
ymgysylltu â Chynghorau Dinas, Tref a Chymuned yn ystod y broses ymgynghori. ·
Cadarnhaodd
y Cyng. Graham Timms bod yr holl Gynghorwyr Sir a Chynghorwyr Dinas, Tref a
Chymuned wedi cael gwybod am y cyfarfodydd a bod Cynghorwyr Sir wedi derbyn
dogfennau drwy gydol y broses. Mynegodd y Cyng. Timms bryder nad oedd yr Aelod Arweiniol, y Cyng. Brian
Jones, wedi cefnogi’r proses na’r CDLl ac nad oedd wedi cynnig yr argymhelliad
yn ystod cyfarfod y Cabinet. ·
Yn
ystod y cyfarfod Cabinet hwn roedd y gweddarlledu wedi stopio oherwydd problem
gyda’r ffrwd rhyngrwyd allanol; roedd y broblem hon y tu hwnt i reolaeth y
Cyngor ac wedi effeithio ar ardal eang. ·
Cyfeiriwyd
at dir at ddibenion diwydiannol a chadarnhawyd y bydd y manylion yn cael eu
hystyried mewn mwy o fanylder yn dilyn y cyfnod ymgynghori. Unwaith eto, eglurwyd mai pwrpas yr adroddiad a gyflwynir i’r Aelodau yw
derbyn cymeradwyaeth y Cyngor i ymgynghori ynghylch y strategaeth ddrafft. ·
Soniwyd
am yr elfennau a fyddai’n cael eu heffeithio arnynt gan y CDLl: Ø
Y
Gymraeg – ceir polisi iaith a bydd digon o gyfleoedd i graffu ar yr elfen
iaith. Ø
Tai
fforddiadwy – ceir diffiniad o dai fforddiadwy ym mharagraffau 8-10. Bydd angen
edrych ar bob ardal benodol o fewn y sir er mwyn cael cydbwysedd. Byddwn yn edrych yn fanylach
ar hyn yn ystod cam nesaf y cynllun. Ø
Cyflogaeth
– ceir gofyniad i ganfod beth fyddai’n briodol ymhob lleoliad ac unwaith eto,
byddai hynny’n cael sylw ar gam nesaf y cynllun. ·
Siaradodd
y Cyng. Richard Mainon am y CDLl blaenorol o gymharu â’r CDLl arfaethedig o ran
Bodelwyddan. Mynegodd ei anfodlonrwydd â’r CDLl arfaethedig. ·
Tai Cymdeithasol
– Dywedodd yr Uwch Swyddog Cynllunio fod tai cymdeithasol y tu allan i’w
harbenigedd, ond y byddai’n dibynnu ar gyllid gan y Llywodraeth Ganolog a
Llywodraeth Cymru. ·
Fel
rhan o’r paratoadau i lunio CDLl i’w archwilio gan y cyhoedd, byddai fframwaith
monitro effeithiol a phriodol yn cael ei ddatblygu a’i gynnwys o fewn y cynllun
a byddai’n ffurfio sail ar gyfer llunio’r Adroddiad Monitro Blynyddol. Yr Adroddiad Monitro Blynyddol fyddai’r prif ddull ar gyfer mesur ac
asesu'r cynnydd wrth weithredu polisïau a chynigion y CDLl Newydd. ·
Mae’r
cynllun yn destun gwerthusiadau cynaliadwyedd a rheoliadau cynefinoedd i
sicrhau bod yr effaith amgylcheddol cyn lleied â phosibl. Yn y fan hon,
gofynnodd y Cyng. Joan Butterfield am bleidlais wedi ei chofnodi. Dywedodd Pennaeth
Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd fod yn rhaid i o leiaf un rhan o
chwech o’r aelodau sy’n bresennol gytuno i gael pleidlais wedi ei chofnodi. Bu
i fwy nag un rhan o chwech o’r aelodau gytuno â’r bleidlais wedi ei chofnodi. Cyn cynnal y ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CYNGOR SIR PDF 499 KB Ystyried Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd Raglen Gwaith i'r
Dyfodol y Cyngor a Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Sesiynau Briffio (a gylchredwyd
ymlaen llaw). Cadarnhawyd y
bydd cyfarfod arbennig o’r Cyngor yn cael ei gynnal ar 30 Mai 2019 i drafod y
Model Darparu Amgen ar gyfer Hamdden. Bydd y sesiwn
friffio nesaf i’r Cyngor yn cael ei chynnal ar 3 Mehefin 2019. PENDERFYNWYD, yn
amodol ar yr uchod, y dylid cymeradwyo a nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor
a’r Sesiynau Briffio. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 12.05 p.m. |