Agenda and draft minutes
Lleoliad: SIAMBR Y CYNGOR, NEUADD Y SIR, RHUTHUN LL15 1YN
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad
sy’n rhagfarnu yn y busnes a nodwyd
i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y
Cynghorydd Meirick Lloyd Davies, Ann Davies, Brian Blakeley a Peter Evans
gysylltiad personol ag Eitem 8 Datganodd y
Cynghorydd Gwyneth Kensler gysylltiad personol ag Eitem 9 |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn
y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran
100B (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim eitemau brys. Ar y pwynt hwn,
dywedwyd wrth aelodau y byddai cwestiwn yn cael ei gyflwyno fel a ganlyn: Gofynnodd y
Cynghorydd Arwel Roberts y cwestiwn canlynol: “Gwybodaeth
os gwelwch yn dda. Papur lapio - sy'n
cynnwys plastig yn ei wneuthuriad. Sut mae ein sir yn ailgylchu’r math hwn o
bapur lapio?" Ymateb gan Aelod Arweiniol Priffyrdd, Cynllunio a
Theithio Cynaliadwy, y Cynghorydd Brian Jones: “Rydym ar
hyn o bryd yn anfon ein deunyddiau ailgylchu cymysg i felin bapur UPM sy'n
gwahanu papur oddi wrth ddeunyddiau ailgylchu cymysg eraill. Ni ellir ailgylchu
papur â phlastig neu ffoil neu gliter arno ac ni ellir ei ddefnyddio i wneud
papur newydd, sef prif gynnyrch UPM. Dylid hefyd tynnu bôs,
llinynnau, rhubanau a thâp oherwydd maent yn effeithio ar y broses ailgylchu. Mae’r mwyafrif o
ail-broseswyr papur yn dewis peidio â derbyn papur lapio o gwbl oherwydd maent
yn credu ei fod yn cael effaith ar lif y papur, fodd bynnag, os yw preswylwyr
yn mynd i drafferth i wahanu papur y mae modd ei ailgylchu a phapur nad oes modd
ei ailgylchu gan dynnu tâp gludiog, tagiau a bôs oddi arno, yna rydym yn ei
dderbyn yn y bin glas." |
|
DYDDIADUR Y CADEIRYDD PDF 207 KB Nodi ymrwymiadau
dinesig a ymgymerwyd gan Gadeirydd y Cyngor (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd rhestr o ddigwyddiadau dinesig a fynychwyd gan y Cadeirydd a’r
Is-Gadeirydd ar gyfer y cyfnod rhwng 4 Rhagfyr 2018 ac 17 Ionawr 2019 wedi’i dosbarthu
cyn y cyfarfod. PENDERFYNWYD derbyn
y rhestr o ddigwyddiadau dinesig y bu i’r Cadeirydd a'r Is-Gadeirydd eu
mynychu. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 4 Rhagfyr 2018 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Cyngor Llawn ar 4 Rhagfyr 2018. Materion yn Codi: Tudalen 8 (Eitem
3) (i)) – Nododd y Cynghorydd Glenn Swingler ei fod yn aros i dderbyn ymateb
ysgrifenedig gan yr Aelod Arweiniol Tai, Rheoleiddio a’r Amgylchedd, y
Cynghorydd Tony Thomas. Ymatebodd y
Cynghorydd Thomas gan ddweud bod y swyddog yr oedd angen ymgynghori â hwy wedi
bod ar wyliau am dair wythnos, ond byddai’n ymchwilio i’r mater ac yn anfon
ymateb ysgrifenedig i’r Cynghorydd Swingler. Tudalen 8 (Eitem
3 (ii)) – Gofynnodd y Cynghorydd Mabon ap Gwynfor i’r Aelod Arweiniol Lles ac
Annibyniaeth, y Cynghorydd Bobby Feeeley, a oedd unrhyw wybodaeth bellach ar
gael? Ymddiheurodd y
Cynghorydd Feeley a nododd y byddai hi'n anfon y wybodaeth ymlaen fel y
gofynnwyd iddi. Tudalen 9 (Eitem
3 (iii)) – Gofynnodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts am gadarnhad gan yr
Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, y Cynghorydd Julian
Thompson-Hill na fyddai ôl-ddyledion taliadau cinio yn cael eu tynnu allan o
gyllidebau ysgolion os ydynt yn gwrthod anfon llythyrau atgoffa at rieni. Cadarnhaodd y Cynghorydd Thompson-Hill ei fod wedi trafod y mater â’r
Pennaeth Gwasanaeth perthnasol a bod polisi ar waith i ymdrin â materion, ac
felly, roedd ei ddatganiad yn gywir. Tudalen 11 (Eitem
6) – Ymholodd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies am y ffaith na fydd pobl sy’n
prynu eiddo sydd wedi derbyn gostyngiad ar Dreth y Cyngor yn flaenorol yn gallu
gwneud cais arall am y gostyngiad. Cadarnhaodd y
Pennaeth Cyllid bod y polisi a’r ddeddfwriaeth yn nodi ei fod yn berthnasol i’r
eiddo, nid yr unigolyn, ond fod prosesau ar waith i bobl apelio. PENDERFYNWYD yn
amodol ar yr uchod, cadarnhau cofnodion y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar 4
Rhagfyr 2018 fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi. |
|
CYMERADWYO CYLLIDEB Y CYNGOR 2019/20 (CYNIGION TERFYNOL) PDF 507 KB Ystyried
adroddiad gan Bennaeth Cyllid (copi ynghlwm) i ddarparu trosolwg o broses y
gyllideb ac effaith y Setliad Llywodraeth Leol a chymeradwyo’r gyllideb ar
gyfer 2019/20, gan gynnwys lefel Treth y Cyngor. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol Cyllid Perfformiad ac Asedau Strategol, y Cynghorydd Julian
Thompson-Hill adroddiad y Gyllideb 2019-20 – adroddiad Cynigion Terfynol (a
ddosbarthwyd yn flaenorol). Roedd yn ofynnol
yn ôl y gyfraith i'r Cyngor bennu cyllideb fantoledig y gellir ei chyflawni cyn
dechrau pob blwyddyn ariannol a gosod lefel Treth y Cyngor i ganiatáu i filiau
gael eu hanfon at breswylwyr. Derbyniwyd
Setliad Llywodraeth Leol Terfynol 2019/20 ar 19 Rhagfyr 2018 a arweiniodd at
sefyllfa gyllido arian gwastad (cyfartaledd Cymru oedd +0.2%). Roedd y Setliad Dros Dro a dderbyniwyd ym mis
Hydref 2018 yn nodi gostyngiad o -0.5%
(cyfartaledd Cymru yw –0.3%). Er mwyn dod at sefyllfa gyllidol niwtral o
safbwynt isafswm y pwysau ariannu yn y Cynllun Ariannol Tymor Canolig (CATC),
byddai’n rhaid i’r Setliad fod wedi bod yn nes at +5%. Roedd y newid
rhwng y ddau swm setliad yn adlewyrchu £14.2 miliwn ychwanegol a ddyrannwyd i
lywodraeth leol fel rhan o gynigion cyllideb derfynol Llywodraeth Cymru, o
ganlyniad i gyllideb Llywodraeth y DU ym mis Tachwedd 2018 a chyfrifoldeb
newydd, a gaiff ei ariannu â £7 miliwn ar draws Cymru. Roedd hyn er mwyn darparu ar gyfer cynnydd
yn y terfyn cyfalaf i’r rheiny sy’n talu am ofal preswyl i £50,000. Y dyraniad
i Sir Ddinbych oedd £250,000. Roedd y cynigion
terfynol i fantoli cyllideb 2019/20 i’w gweld yn y detholiad o Gynllun Ariannol
Tymor Canolig y Cyngor yn Atodiad 1 o'r adroddiad. Roedd y prif bwyntiau fel a ganlyn: ·
Setliad
arian gwastad ·
Pwysau
o ran cyflogau, pensiynau a’r Cyflog Byw Cenedlaethol (£1.9 miliwn) wedi’u
hariannu ·
Chwyddiant
prisiau ac ynni (£250,000) ·
Ardoll
y Gwasanaeth Tân (£237,000) ·
Lle ar gyfer cynnydd i gostau’r Cynllun Gostyngiadau i
Dreth y Cyngor, gostyngiad i Grant Gweinyddu'r Adran Gwaith a Phensiynau a chronfeydd wrth gefn canolog (£537,000). Yn ychwanegol, roedd y cyngor wedi parhau i gefnogi ysgolion drwy ariannu
tâl a chwyddiant cysylltiedig ag unrhyw newid mewn perthynas â nifer y
disgyblion. Cyfanswm hyn oedd
£3.7 miliwn (5.4%) yn 2019/20. Roedd y gyllideb
arfaethedig hefyd yn cydnabod pwysau ar feysydd blaenoriaeth eraill, ac er mwyn
ariannu’r pwysau a nodir, rhaid dod o hyd i £5.7 miliwn o arbedion. Roedd y rhain yn cynnwys: ·
Arbedion
corfforaethol a nodwyd yn 2018/19 (£0.5 miliwn) ·
Arbedion
effeithlonrwydd gwasanaeth (£1.3 miliwn ·
Arbedion
gwasanaethau (£2.6 miliwn), ac ·
Arbedion
ysgolion o 2% (£13miliwn). Roedd proses
gyllideb newydd ar gyfer 2019/20 wedi’i sefydlu drwy greu Bwrdd Cyngor
strategol a oedd yn cynnwys aelodau o’r Tîm Gweithredol Corfforaethol,
Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol.
Cynghorwyd y Bwrdd hefyd gan swyddogion Cyllid, AD a Chyfathrebu. Craffwyd y
cyllidebau gan y Bwrdd ac roedd gofyn i wasanaethau ganfod ystod o opsiynau
arbedion. Asesodd y Bwrdd y rhain a
chyfarwyddwyd gwasanaethau i ddatblygu cynigion yn unol â blaenoriaethau
strategol. Roedd manylion y
cynigion arbedion wedi’u dosbarthu i aelodau etholedig ym mis Rhagfyr 2018. Adolygwyd
rhagdybiaethau Cynllun Ariannol Tymor Canolig y Cyngor yn rheolaidd ac
ailaseswyd y pwysau o ran costau. Nid oedd yn
gynaliadwy rheoli’r pwysau heb gynyddu sail gyllid y Cyngor yn barhaol. Gan fod cymorth ariannol Llywodraeth Cymru’n
gostwng bob blwyddyn, mewn termau real, roedd yn rhaid ysgwyddo'r baich yn
lleol. Felly, cynigiwyd cynnydd uwch i
Dreth y Cyngor na'r hyn a gynigiwyd i ddechrau. Byddai'r cynnydd
yn Nhreth y Cyngor o 6.35% yn codi £797,000 ychwanegol i'w ddefnyddio'n rhan
o’r pecyn cyffredinol, a oedd yn cynnwys dyraniad ychwanegol i ofal
cymdeithasol o £2.0 miliwn. Roedd cynigion y gyllideb yn parhau i gynnwys elfen o gyllid i gefnogi’r sefyllfa gyffredinol. Nododd yr Aelod Arweiniol nad oedd hon yn sefyllfa ddelfrydol ac mae’n adlewyrchu’r sefyllfa ariannol anodd a ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
CYNLLUN GOSTYNGIADAU I DRETH Y CYNGOR 2019/20 PDF 385 KB Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Cyflenwi Gwasanaeth a’r Prif Gyfrifydd (copi ynghlwm) i
fabwysiadu’r Cynlluniau Gostyngiadau Treth y Cyngor Cymru gyfan a Rheoliadau
Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013, a’r Rheoliadau Diwygiadau Gofynion
Rhagnodedig (Cymru) 2018, mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2019/20. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
Arweiniol Cyllid, Perfformiad, ac Asedau Strategol Cynllun Gostyngiadau i Dreth
y Cyngor (a ddosbarthwyd yn flaenorol). Roedd Deddf
Diwygio Lles 2012 yn cynnwys darpariaethau i ddiddymu budd-dal treth y cyngor
ar ei ffurf bresennol ar draws y DU. Ar
31 Mawrth 2013 daeth budd-dal treth y cyngor i ben a throsglwyddwyd y
cyfrifoldeb am ddarparu cefnogaeth ar gyfer treth y cyngor a'r arian sy'n
gysylltiedig ag ef, i Lywodraeth Cymru.
Cyflwynodd Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol yng
Nghymru, gynllun newydd i ddarparu cymorth treth y cyngor a fabwysiadwyd gan y
Cyngor ym mis Ionawr 2013. Roedd Llywodraeth Cymru wedi cwblhau’r
ddwy set o reoliadau ar 8 Ionawr 2019 ac roedd yn ofynnol i’r Cynllun
Gostyngiadau i Dreth y Cyngor newydd a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 a
Rheoliadau Diwygiadau Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2019 gael eu mabwysiadu
erbyn 31 Ionawr 2019. Gofynnodd y
Cynghorydd Rhys Thomas a fyddai’n ofynnol i bobl ifanc mewn gofal dalu Treth y
Cyngor. Nododd nad oedd rhai awdurdodau
lleol yn codi Treth y Cyngor nes bod yr unigolyn y 21 oed ac eraill yn dechrau
codi’r dreth arnynt unwaith y bydd yr unigolyn y 25 oed. Cadarnhaodd y
Pennaeth Cyllid bod ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar hyn o bryd ar draws Cymru
yn ymwneud â'r mater a godwyd gan y Cynghorydd Thomas. PENDERFYNWYD: ·
Aelodau i fabwysiadu'r Cynlluniau
Gostyngiadau i Dreth y Cyngor a’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013,
a’r Rheoliadau Diwygiadau i Ofynion Rhagnodedig (Cymru) 2019, o ran blwyddyn
ariannol 2019/20. ·
Bod yr aelodau’n cymeradwyo’r 3 elfen
ddewisol o’r cynllun, a ddangosir yn adran 4.2, ar gyfer 2019/20. |
|
PAPUR GWYN LYWODRAETH CYMRU - DIWYGIO AWDURDODAU TÂN AC ACHUB YNG NGHYMRU PDF 272 KB Ystyried adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd (copi ynghlwm) sydd yn
ceisio sylwadau’r Aelodau ar y Papur
Gwyn – Diwygio Awdurdodau Tân ac Achub yng Nghymru. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y
Cynghorwyr Brian Blakeley, Ann Davies a Peter Evans gysylltiad personol
oherwydd eu bod yn aelodau o’r Awdurdod Tân ac Achub. Datganodd y
Cynghorydd Meirick Lloyd Davies gysylltiad personol am mai ef yw Cadeirydd
Bwrdd yr Awdurdod Tân Cyflwynodd yr
Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans, Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru – Diwygio
Awdurdodau Tân ac Achub yng Nghymru (a ddosbarthwyd yn flaenorol). Roedd Llywodraeth
Cymru wedi cyhoeddi Papur Gwyn o’r enw Diwygio Gwasanaethau Tân ac Achub yng
Nghymru (y Papur Gwyn) gyda’r ymgynghoriad i ddod i ben ar 5 Chwefror 2019. Er
eu bod yn cydnabod bod y tri Awdurdod Tân ac Achub yng Nghymru wedi
perfformio'n dda yn eu gweithredoedd, cynigodd y Papur Gwyn newidiadau i
lywodraethu ac aelodaeth Awdurdodau Tân ac Achub, ac i'w perthynas â'u
hawdurdodau lleol cyfansoddol wrth osod cyllideb. Eglurodd Pennaeth
y Gyfraith, AD a Gwasanaethau Democrataidd ei fod wedi cynhyrchu cyflwyniad
cryno o’r Papur Gwyn i alluogi aelodau i roi eu barn er mwyn paratoi i ddrafftio
ymateb erbyn 5 Chwefror. Cafwyd trafodaeth
bellach a chodwyd y pwyntiau canlynol: ·
Roedd
nifer o aelodau yn cytuno â lleihau aelodaeth Bwrdd yr Awdurdod Tân ac Achub,
ond roeddent hefyd yn cytuno y dylid cynnwys aelodau meinciau cefn sydd â chyfoeth
o wybodaeth a phrofiad ar y Bwrdd, ac nid aelodau Cabinet yn unig. ·
Y
farn gyffredin oedd bod Llywodraeth Cymru yn teimlo nad oedd Awdurdodau Tân ac
Achub yn atebol i’r bobl. Cadarnhaodd yr aelodau bod yr Awdurdodau wedi cael eu
harchwilio ac yn cael eu cynnal yn effeithiol tu hwnt. ·
teimlodd
aelodau y dylid disodli’r system ardoll bresennol â phraesept y Dreth Gyngor
ynghyd â chyllid uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru PENDERFYNWYD bod y Cyngor wedi
ystyried y Papur Gwyn - Diwygio Awdurdodau Tân ac Achub yng Nghymru ac yn
caniatáu i’r Arweinydd gymeradwyo, mewn ymgynghoriad ag Arweinwyr y Grwpiau,
ymateb ar ran y Cyngor. |
|
RHYBUDD O GYNNIG Rhybudd o Gynnig a gyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth
Kensler i'w ystyried gan y Cyngor Llawn: “Mae’r
Cyngor hwn yn nodi â phryder y cofnod ar Gofrestr Risg Gorfforaethol Cyngor Sir
Ddinbych ar gyfer ymadael â’r
Undeb Ewropeaidd. Mae'r Cyngor hefyd yn nodi’r canlynol: ·
Mae Fforwm Gofal Cymru yn pryderu fod y maes gofal ‘ar
drothwy argyfwng’, ac yn rhybuddio y gallai effeithiau hirdymor ymadael a’r
Undeb Ewropeaidd greu prinder staff aruthrol; ·
Cyfanswm gwerth yr allforion o Sir Ddinbych
a Chonwy yn 2016 oedd £188 miliwn, ac aeth £102
miliwn o hynny - 55% - i'r Undeb Ewropeaidd.
Cyfanswm gwerth
yr allforion o Sir y Fflint a Wrecsam oedd £5,051, ac aeth £4,382 o hynny – 87%
– i’r Undeb Ewropeaidd; ·
Mae Cymru’n fuddiolwr net yn yr Undeb Ewropeaidd, gan
dderbyn oddeutu £245 miliwn yn fwy gan yr Undeb Ewropeaidd na’r hyn a dalwn i
mewn; ·
Yn gynharach y mis hwn dywedodd Ysgrifennydd Llywodraeth
y Deyrnas Undedig dros yr Amgylchedd, Michael Gove AS, y byddai ymadael â’r
Undeb Ewropeaidd heb fargen yn peri “anhrefn”. ·
Bod pob rhagolwg economaidd credadwy’n dangos y bydd
ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, boed hynny drwy fargen Theresa May neu ddim bargen o gwbl, yn niweidio economi’r
Deyrnas Unedig; Mae’r Cyngor yn
cydnabod fod 13.5% o’r holl unedau busnes lleol yn Sir Ddinbych,
yn ôl yr wybodaeth ar 10 Mawrth 2018, yn perthyn i’r diwydiant ‘Amaeth,
Coedwigaeth a Physgod’. Hwn oedd y
dosbarth mwyaf ei faint o ran busnes a diwydiant. Mae’r Cyngor yn pryderu
ynghylch: ·
effaith bosib ymadael â’r Undeb
Ewropeaidd ar y sectorau Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn Sir Ddinbych; ·
effaith bosib ymadael â’r Undeb
Ewropeaidd ar economi leol Sir Ddinbych. Gan ystyried yr
wybodaeth sydd newydd ddod i’r amlwg a manylion hysbys y fargen a gynigir, mae’r Cyngor yn galw ar Senedd y Deyrnas Unedig i
roi’r dewisiadau sydd bellach ar gael, gan gynnwys y dewis i aros yn aelod o’r
Undeb Ewropeaidd, gerbron y cyhoedd mewn Pleidlais i’r Bobl.” Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ar y pwynt hwn,
nododd y Cadeirydd, y Cynghorydd Peter Scott, bod cyfyngiad o 30 munud ar amser
i drafod Rhybudd o Gynnig. Datganodd y
Cynghorydd Gwyneth Kensler gysylltiad personol am ei bod hi’n Gadeirydd
Amgueddfa Dinbych, Ysgrifennydd Theatr Twm o’r Nant a Chadeirydd Grŵp
Gweithredu Lleol Cadwyn Clwyd, ac mae bob un ohonynt yn derbyn Cyllid Ewropeaidd. Cyflwynodd y
Cynghorydd Gwyneth Kensler y Rhybudd o Gynnig canlynol i'w ystyried gan y
Cyngor Llawn: “Mae’r Cyngor hwn yn nodi â phryder y cofnod
ar Gofrestr Risg Gorfforaethol Cyngor Sir Ddinbych mewn perthynas ag ymadael
â’r Undeb Ewropeaidd. Mae'r Cyngor
hefyd yn nodi’r canlynol: ·
Mae
Fforwm Gofal Cymru yn pryderu bod y maes Gofal ‘ar drothwy argyfwng’, ac yn
rhybuddio y gallai effeithiau hirdymor ymadael â’r Undeb Ewropeaidd greu
prinder staff aruthrol; ·
Cyfanswm
gwerth yr allforion o Sir Ddinbych a Chonwy yn 2016 oedd £188 miliwn. Aeth £102
miliwn o hynny – 55% – i’r Undeb Ewropeaidd.
Cyfanswm gwerth yr allforion o Sir y Fflint a Wrecsam oedd £5,051, ac
aeth £4,382 o hynny – 87% – i’r Undeb Ewropeaidd; ·
Mae
Cymru’n fuddiolwr net yn yr Undeb Ewropeaidd, gan dderbyn oddeutu £245 miliwn
yn fwy gan yr Undeb Ewropeaidd na’r hyn a dalwn i mewn; ·
Yn
gynharach y mis hwn dywedodd Ysgrifennydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig dros yr
Amgylchedd, Michael Gove AS, y byddai ymadael â’r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb
yn peri “anhrefn”. Byddai’n ergyd i’r
ffermwyr a’r busnesau bwyd yn ein sir sy’n gweithredu ar raddfa fechan. Y gwir amdani, sy’n ofnadwy ond yn amhosibl
ei osgoi, yw pe byddem yn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb, byddai’r
tariffau ar gig eidion a chig oen yn fwy na 40% y cant – ac mewn rhai achosion
yn uwch na hynny.” ·
Bod
pob rhagolwg economaidd credadwy’n dangos y bydd ymadael â’r Undeb Ewropeaidd,
boed hynny drwy gytundeb Theresa May neu ddim cytundeb o gwbl, yn niweidio
economi’r Deyrnas Unedig; ·
Mae’r
trafodaethau dros y ddwy flynedd diwethaf wedi dangos mor gymhleth yw’r amryw
ddewisiadau ar gyfer gadael. Mae’r Cyngor yn
cydnabod fod 13.5% o’r holl unedau busnes lleol yn Sir Ddinbych, yn ôl yr
wybodaeth ar 10 Mawrth 2018, yn perthyn i’r diwydiant ‘Amaethyddiaeth, Coedwigaeth
a Physgodfeydd’. Hwn oedd y dosbarth
mwyaf ei faint o ran busnes a diwydiant. Mae’r Cyngor yn
pryderu ynghylch: ·
effaith
bosibl ymadael â’r Undeb Ewropeaidd ar y sectorau Iechyd a Gofal Cymdeithasol
yn Sir Ddinbych; ·
effaith
bosibl ymadael â’r Undeb Ewropeaidd ar economi leol Sir Ddinbych. Gan ystyried yr
wybodaeth sydd newydd ddod i’r amlwg a manylion hysbys y cytundeb a gynigir,
mae’r Cyngor yn galw ar Senedd y Deyrnas Unedig i roi’r dewisiadau sydd bellach
ar gael, gan gynnwys y dewis i aros yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd, gerbron y
cyhoedd mewn Pleidlais i’r Bobl.” Ar y pwynt hwn,
cynigodd y Cynghorydd Graham Timms ddiwygiad i’r Rhybudd o Gynnig i nodi’r frawddeg gyntaf fel a
ganlyn: “Mae’r Cyngor hwn yn nodi, â phryder, y cofnod
ar Gofrestr Risg Gorfforaethol Cyngor Sir Ddinbych mewn perthynas ag ymadael
â’r Undeb Ewropeaidd”. Eiliwyd y
diwygiad gan y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts. Pleidleisiwyd ar
y diwygiad fel a ganlyn: (i)
Cytuno
i’r diwygiad i’r Rhybudd o Gynnig - 17 (ii)
Ymatal
- 2 (iii)
Anghytuno
i’r diwygiad - 16 Felly,
cymeradwywyd y Rhybudd o Gynnig. Oherwydd bod y
diwygiad wedi’i gymeradwyo, daeth y diwygiad yn gynnig o sylwedd a fyddai angen
pleidlais fel a ganlyn: (i)
Cytuno
i'r cynnig o sylwedd- 22 (ii)
Ymatal
- 4 (iii)
Yn erbyn
y cynnig o sylwedd - 9 Felly, yn dilyn y
bleidlais PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn cytuno i'r Rhybudd o ... view the full Cofnodion text for item 9. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CYNGOR SIR PDF 353 KB Ystyried Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth y Gyfraith, AD a Gwasanaethau Democrataidd Raglen Gwaith i'r Dyfodol y
Cyngor (dosbarthwyd eisoes). Cadarnhawyd ers
i’r pecyn Agenda gael ei gyhoeddi, bod y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol wedi cael
ei diweddaru a bod copi wedi’i e-bostio at y Cynghorwyr i gyd er gwybodaeth. PENDERFYNWYD yn
amodol ar yr uchod, y dylid cymeradwyo a nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y
Cyngor. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 1.24pm. |