Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun LL15 1YN
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem | |||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Gweithredodd y Cynghorydd Peter Scott (Is-Gadeirydd) fel
Cadeirydd y cyfarfod yn absenoldeb y Cadeirydd, y Cynghorydd Peter Prendergast. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd fel un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim cysylltiadau i’w datgan. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim materion brys. Yn y
fan hon, talodd Cynghorwyr deyrnged i gyn Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol
Sir Ddinbych, Meirion Hughes, a fu farw yn ei gartref ddydd Sul yn dilyn salwch
byr. Meirion, a oedd yn byw yn Rhuddlan, oedd Cyfarwyddwr Gwasanaethau
Cymdeithasol cyntaf Sir Ddinbych ym 1996. Yna daeth yn Gyfarwyddwr
Corfforaethol, y Dirprwy Brif Weithredwr, ac yna'n Brif Weithredwr Dros Dro cyn
ymddeol o'r Cyngor. Roedd wedi cynorthwyo'r Cyngor gyda'r ymgynghoriad
cyhoeddus ar ddyfodol gwasanaethau mewnol trwy gadeirio'r cyfarfodydd ymgynghori
a hefyd bu’n chwarae rhan amlwg fel Cadeirydd Cefndy Enterprises. Yn ystod y
teyrngedau dywedodd y Cynghorwyr y byddai colled ar ei ôl a byddai'n cael ei
gofio am ei broffesiynoldeb a'i gefnogaeth i'r Cyngor. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
DYDDIADUR Y CADEIRYDD PDF 222 KB Nodi ymrwymiadau
dinesig a ymgymerwyd gan Gadeirydd y Cyngor (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dosbarthwyd rhestr o ddigwyddiadau dinesig a fynychwyd gan y
Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd yn y cyfnod 6 Hydref 2017 – 25 Tachwedd 2017 cyn y
cyfarfod. Talodd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies deyrnged i
Gadeirydd Hosbis Sant Cyndeyrn, Trefor Jones CVO CBE, a oedd yn ymddeol. Roedd
Cadeirydd y Cyngor wedi mynychu cinio ymddeol ar gyfer Mr Jones yn Llanelwy. PENDERFYNWYD derbyn y
rhestr o ddigwyddiadau dinesig a fynychwyd gan y Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
I dderbyn
cofnodion: (i)
Cyfarfod
arbennig y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 26 Medi 2017 (copi ynghlwm); a (ii)
Chyfarfod
y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 17 Hydref 2017 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod o’r Cyngor Arbennig a gynhaliwyd
ar 26 Medi 2017 a’r Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar 17 Hydref 2017. Beirniadodd y Cynghorwyr Arwel Roberts a Meirick Lloyd
Davies safon cyfieithu’r cofnodion o’r Saesneg i’r Gymraeg. Eglurodd y Pennaeth
Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd mai’r Gwasanaeth
Cyfieithu yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy oedd yn cyfieithu’r dogfennau.
Cadarnhaodd bod yr holl staff cyfieithu yn gyfieithwyr cymwys ond byddai’r
mater yn cael ei godi gyda Chonwy gan y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd. Yn dilyn pleidlais unfrydol: PENDERFYNWYD cadarnhau
cofnodion y: (i)
Cyngor
Arbennig a gynhaliwyd ar 26 Medi 2017, a’r (ii)
Cyngor
Llawn a gynhaliwyd ar 17 Hydref 2017 fel cofnod cywir a’u
llofnodi felly gan y Cadeirydd. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
GWEITHREDU PREMIWM TRETH CYNGOR AR GARTREFI GWAG HIRDYMOR AC AIL GARTREFI PDF 230 KB I ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cyllid a’r Rheolwr Cymorth Busnes (copi ynghlwm) ar
gyfer Aelodau i benderfynu p’un ai i godi ffi Premiwm Treth Cyngor ar dai gwag
hirdymor ac ail gartrefi. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod
Arweiniol dros Gyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol yr adroddiad (a
ddosbarthwyd yn flaenorol) i hysbysu aelodau o'r pwerau newydd oedd gan
Awdurdodau Lleol yng Nghymru i gynyddu taliadau Treth y Cyngor ar gartrefi gwag
hirdymor ac ail gartrefi o ganlyniad i Ddeddf Tai ( Cymru) 2014. O 1 Ebrill 2017,
rhoddwyd pwerau i gynghorau yng Nghymru godi tâl ychwanegol ar berchnogion tai
hyd o at 100% o Dreth y Cyngor ar gartrefi gwag hirdymor ac ail gartrefi. Roedd
y pwerau hyn wedi'u dirprwyo trwy Ddeddf Tai (Cymru) 2014. Roedd yn ofynnol i
Awdurdodau Lleol gael y taliadau wedi’u dilysu gan y Cyngor Llawn un flwyddyn
cyn gweithredu hyn ar gyfer ail gartrefi. Fodd bynnag, ar gyfer cartrefi gwag
hirdymor, yr unig ofyniad fyddai bod yn rhaid i'r eiddo fod wedi bod yn wag am
o leiaf blwyddyn lawn cyn codi tâl. Bwriadwyd i’r nodau
a gafodd eu datgan yn y ddeddfwriaeth fod fel cyfarpar: ·
Ar
gyfer Awdurdodau Lleol i helpu dod â thai gwag yn ôl i ddefnydd ·
I
gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy ·
I wella
cynaladwyedd cymunedau lleol. Cynhaliwyd
ymgynghoriad cyhoeddus rhwng 16 Tachwedd 2016 a 14 Rhagfyr 2016, lle cafwyd
cyfanswm o 49 o ymatebion. Roedd yr adborth cyffredinol o'r ymgynghoriad wedi
bod yn gefnogol i godi tâl ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor. Er y byddai codi
tâl premiwm ar yr eiddo yn creu arian ychwanegol, y prif symbylydd i Lywodraeth
Cymru wrth gyflwyno'r ddeddfwriaeth oedd helpu Awdurdodau Lleol i: ·
Ddod â
chartrefi gwag hirdymor yn ôl i ddefnydd i ddarparu cartrefi diogel a
fforddiadwy, a ·
Chefnogi
Awdurdodau Lleol i gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy a gwella cynaladwyedd
cymunedau lleol. Roedd eithriadau
i'r Premiwm Treth Cyngor ar gartrefi gwag hirdymor ac ail gartrefi wedi’u
cynnwys yn yr adroddiad. Yn ystod y
drafodaeth, cynigiwyd gan y Cynghorydd Glen Swingler, Grŵp Plaid Cymru, ac
fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Mabon ap Gwynfor, bod y premiwm ar gartrefi gwag
hirdymor ac ail gartrefi'n 100% ac nid 50% fel yr argymhellwyd yn yr adroddiad. Eglurodd yr Aelod
Arweiniol dros Gyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol y byddai codi 50% yn
gyson ag Awdurdodau Lleol cyfagos ac y byddai adolygiad o weithredu’r premiwm
Treth y Cyngor hefyd yn digwydd ym mis Medi 2018. Cadarnhawyd y
byddai Awdurdodau Lleol yn cael eu hannog i ddefnyddio unrhyw refeniw
ychwanegol a gynhyrchwyd i helpu i ddiwallu anghenion tai lleol, yn unol â
bwriadau polisi'r premiymau. Ni ellid neilltuo incwm Treth y Cyngor ar gyfer
ardal benodol, ond byddai'n cael ei ychwanegu at elfen Tai y Cynllun
Corfforaethol. Mynegodd y Cynghorydd
Graham Timms ei bryder ynghylch canran y bobl a ymatebodd i'r ymgynghoriad.
Gofynnodd a oedd yn ofyniad statudol i ymgynghori ac a oedd yr ymatebion yn
ganlyniadol. Cadarnhawyd ei bod
yn ofyniad statudol i ymgynghori a theimlwyd y byddai'r lefel 50% yn rhoi
cymhelliad i ddod ag eiddo yn ôl i ddefnydd preswyl. Gofynnodd y
Cynghorydd Joan Butterfield am ohiriad byr o'r cyfarfod i'r Grŵp Llafur
ystyried y ddau opsiwn o godi premiwm o naill ai 50% neu 100%. Cytunwyd gan bawb
yn bresennol i ohirio er mwyn i’r Grwpiau gynnal trafodaeth fer cyn mynd ymlaen
â gweddill y cyfarfod. Ar y pwynt hwn (11.00 a.m.) bu gohiriad o 15
munud i'r cyfarfod. Ailddechreuodd y cyfarfod am 11.15 a.m. Rhoddodd yr Aelod
Arweiniol, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill grynodeb o’r drafodaeth ac
eglurodd ei bod wedi bod yn un hynod ddiddorol a chadarnhaol. Roedd yr argymhelliad o fewn yr adroddiad wedi bod am gyfradd premiwm o 50% ond cyflwynwyd gwelliant gan y Cynghorydd Glen Swingler ... view the full Cofnodion text for item 6. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
I ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Cynllunio Strategol a Thai (copi ynghlwm) i’r Cyngor i
gymeradwyo'r dogfennau ar gyfer eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Rheolwr Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol)
er mwyn rhoi amlinelliad i'r Aelodau o ganlyniadau'r ymgynghoriad cyhoeddus ar
yr Adroddiad Adolygu CDLl drafft, Cytundeb
Cyflawni CDLl Drafft Newydd ac Adroddiad Cwmpasu Arfarniad o Gynaliadwyedd. Amlygodd yr adroddiad hefyd y materion
allweddol a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad ac unrhyw ddiwygiadau dilynol i'r
dogfennau. Cafodd CDLl Sir
Ddinbych ei fabwysiadu ar 4 Mehefin 2013 ac roedd Llywodraeth Cymru wedi
cynghori dylai adolygiad gael ei gynnal o'r CDLl yn 2017 er mwyn bodloni'r
gofyniad deddfwriaethol. Bu ystod o ddeddfau
newydd a diwygiedig a ddaeth i rym ers mabwysiadu CDLl Sir Ddinbych yn 2013. Y
rhai mwyaf amlwg oedd Deddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf
Cynllunio (Cymru) 2015. Byddai angen adolygu’r CDLl gan ystyried
cydymffurfiaeth â deddfwriaeth sylfaenol a gallai fod angen newidiadau i
adlewyrchu'r ddeddfwriaeth a'r canllawiau cyfredol. Yn dilyn
cymeradwyaeth i ymgynghori trwy benderfyniad Dirprwyedig Aelod Arweiniol a
gyhoeddwyd ar 7 Awst 2017, cynhaliwyd ymgynghoriad o 9 wythnos rhwng 21 Awst
2017 a 20 Hydref 2017. Cafwyd cyfanswm o 23 o ymatebion, gan gynnwys sylwadau
gan Cyfoeth Naturiol Cymru, Anwyl Construction a thrigolion Sir Ddinbych. Roedd
yr holl sylwadau wedi'u cofnodi. Roedd y materion allweddol a godwyd yn yr
adroddiad a ddosbarthwyd yn flaenorol. Roedd y dogfennau
wedi'u hystyried yn y Pwyllgor Cynllunio ar 15 Tachwedd 2017 a oedd wedi tynnu
sylw at yr holl newidiadau, ac argymhellwyd i'w cymeradwyo gan y Cyngor Llawn
i'w cyflwyno i Lywodraeth Cymru. Yn dilyn
trafodaeth, eglurwyd bod yr adroddiad a gyflwynwyd i'r Cyngor Llawn er mwyn
cael cymeradwyaeth i gychwyn y broses. Nid oedd yr adroddiad a gyflwynwyd ar
gyfer diwygiadau i safleoedd na'r hyn y dylid ei gynnwys ai peidio o fewn y
CDLl. Roedd ar gyfer ddechrau'r broses, sefydlu'r Pwyllgor CDLl ym mis Ionawr
2018 ac i'w gyflwyno yn y Cyngor Llawn yn y Flwyddyn Newydd. Cynhaliwyd
pleidlais a dyma’r canlyniad: PENDERFYNWYD: 3.1
Bod
y Cyngor yn cymeradwyo'r dogfennau canlynol fel y'u diwygiwyd i'w cyflwyno i
Lywodraeth Cymru:
3.2 Bod y Pwyllgor yn cadarnhau ei
fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad Effaith ar Les fel rhan o'i
ystyriaethau. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ar y pwynt hwn (12.15
p.m.) roedd egwyl o 20 munud Ailddechreuodd y
cyfarfod am 12.35. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
RECRIWTIO PRIF WEITHREDWR PDF 200 KB I ystyried
adroddiad gan Bennaeth Gwasanaethau’r Gyfraith, AD a Democrataidd (copi
ynghlwm) i geisio cymeradwyaeth y Cyngor i recriwtio i rôl y Prif Weithredwr a
chytuno ar y dull i’w gymryd yn y broses recriwtio. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ar y pwynt hwn, gadawodd y Prif Weithredwr Siambr y Cyngor. Cyflwynodd yr
Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans, Adroddiad Recriwtio'r Prif Weithredwr (a
ddosbarthwyd yn flaenorol). Eglurodd y
Cynghorydd Evans mai rôl y Cyngor oedd penodi Pennaeth Gwasanaethau Taledig ar
gyfer Sir Ddinbych ac roedd cael y Prif Weithredwr cywir yn allweddol i
gyflwyno enw da Sir Ddinbych, y diwylliant cywir o wneud penderfyniadau,
cefnogi a datblygu staff i berfformio i'w potensial a diogelu swyddogion i
wneud y penderfyniadau cywir. Pwysleisiodd wrth yr Aelodau mai hwn oedd un o'r
penderfyniadau pwysicaf y byddent yn ei wneud i ddenu'r ymgeiswyr gorau i fod
yn Brif Weithredwr Sir Ddinbych. Cadarnhaodd y
Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill i'r Aelodau ei fod wedi
gwasanaethu fel Cadeirydd Panel Cydnabyddiaeth Sir Ddinbych a oedd yn grŵp
gwleidyddol gytbwys o Aelodau. Cyfarfu'r Panel Cydnabyddiaeth ar 7 Tachwedd
2017 i ystyried pecyn cydnabyddiaeth arfaethedig ar gyfer y Prif Weithredwr
newydd a oedd bellach wedi’i argymell i'r Cyngor i'w gymeradwyo. Darparodd y pecyn
cyflog arfaethedig radd gynyddol o dri phwynt gyda'r trefniadau Cyflog sy'n
gysylltiedig â Pherfformiad (PRP) presennol yn cael eu dileu. Byddai codiad
cyflog cynyddol yn cael ei ddyfarnu yn seiliedig ar gwblhau'r gwasanaeth
perthnasol. Ar y cyfan, byddai'r
pecyn yn darparu arbediad dros dair blynedd o £35,548 yn erbyn y cyfanswm
cyflog cyfredol (gan gynnwys PRP). Roedd rhan o'r broses yn mynnu bod y cynnig
yn cael ei ystyried gan Banel Cydnabyddiaeth Annibynnol Cymru (IRP). Roedd yr
IRP wedi cyfarfod ar 16 Tachwedd 2017 i ystyried y cynnig a gyflwynwyd ac
roeddent yn cytuno'n llawn â'r newidiadau arfaethedig. Eglurodd y Rheolwr
Gwasanaethau Adnoddau Dynol y broses recriwtio i'r Aelodau. Yn unol â
Rheoliadau Diwygiedig Rheolau Sefydlog (Cymru) 2014, roedd gofyn bod swyddi â
chyflogau o fwy na £100k, a oedd yn para 12 mis neu fwy, yn cael eu hysbysebu'n
allanol. Rhan o'r broses
fyddai sefydlu Panel Penodiadau Arbennig. Byddai'r Panel yn cynnwys 7 aelod
gwleidyddol gytbwys, dan gadeiryddiaeth yr Arweinydd ac yn cynnwys uchafswm o 2
Aelod Cabinet arall. Byddai ymgyrch
Recriwtio Prif Weithredwr yn cael ei reoli'n fewnol gan y Rheolwr Gwasanaethau
Adnoddau Dynol gydag arbenigwr allanol yn cael ei ddefnyddio i ymgymryd â
chwiliad gweithredol, a chefnogi'r broses llunio rhestr fer, asesu a phenodi. Y
costau disgwyliedig ar gyfer yr arbenigwr allanol fyddai oddeutu £14,000 -
£20,000. Byddai hyn yn cynnwys cost hysbysebion yn y cyfryngau, profion
arbenigol posibl a pharatoi a dadansoddi asesiadau. Byddai'r broses ar gyfer
dewis yr arbenigwr allanol yn cael ei wneud trwy dendr ffurfiol. Roedd yr
amserlenni ar gyfer y broses wedi'u cynnwys yn yr adroddiad. Yn ystod y
drafodaeth, codwyd y pwyntiau canlynol: ·
Mynegodd
Grŵp Plaid Cymru eu pryder ynghylch y cyflog a gynigiwyd yn yr adroddiad
oherwydd y ffaith byddai yna ddyfodol o galedi a thoriadau, cynnydd yn nhreth y
cyngor a 12% o weithwyr yn ennill llai na'r "cyflog byw go
iawn". ·
Mynegodd
Aelodau'r Grŵp Ceidwadol eu pryder nad oedd y cyflog a argymhellwyd yn yr
adroddiad yn ddigon i ddenu ymgeisydd o’r safon sydd ei angen i arwain y Cyngor
drwy'r blynyddoedd anodd sydd i ddod. ·
Nodwyd
mai'r ymgeisydd gorau ar gyfer y swydd gyda'r sgiliau i gadw Sir Ddinbych yn
Awdurdod Lleol sy'n perfformio'n uchel oedd y flaenoriaeth ac os oedd y
penodedig yn siarad Cymraeg byddai'n fonws, ond roedd y Cyngor wedi ffynnu yn
ystod y 10 mlynedd diwethaf gyda Phrif Weithredwr di-Gymraeg a oedd wedi
sicrhau bod buddsoddiad wedi bod yn yr iaith Gymraeg. Cynigiodd y Cynghorydd Mabon ap Gwynfor ddiwygiad i'r argymhelliad o gyflog cychwynnol o £117k gyda chynnydd i £119k a £121k, eiliwyd hyn ... view the full Cofnodion text for item 8. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CYNGOR SIR PDF 359 KB Ystyried Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd Raglen Gwaith
i’r Dyfodol y Cyngor i'r Cyngor (a ddosbarthwyd yn flaenorol). PENDERFYNWYD cymeradwyo a nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
y Cyngor. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Daeth y cyfarfod i
ben am 2.10 p.m. |