Agenda and draft minutes
Lleoliad: Council Chamber, County Hall, Ruthin LL15 1YN
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nodwyd y cysylltiadau hyn ag
eitemau busnes i gael eu hystyried yn y cyfarfod. Eitem rhif 4 ar y Rhaglen:- Uno Gwirfoddol rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a
Chyngor Sir Ddinbych. Datganwyd cysylltiadau personol
gan yr holl Gynghorwyr yn bresennol. Y rheswm am y datganiadau oedd y goblygiadau priodol ar gyfer Cynghorwyr
Sir pe bai eu swyddi yn cael eu hymestyn o ganlyniad i uno. Datganodd y
Cynghorwyr S.A. Davies, H. Hilditch-Roberts a D.I. Smith gysylltiad personol
ychwanegol ag Eitem 4 ar y Rhaglen oherwydd bod eu partneriaid yn weithwyr yn y
Cyngor. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o
frys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Prif Weithredwr (copi ynghlwm) i ddarparu diweddariad
ynglŷn â’r gwaith a wnaed ar gyfer yr opsiwn uno gwirfoddol ers cyfarfod y
Cyngor ar 9 Medi 2014, ac i argymell bod y Cyngor yn cytuno i gyflwyno’r
Datganiad Diddordeb sydd ynghlwm i Lywodraeth Cymru erbyn diwedd Tachwedd 2014.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd copi o adroddiad gan y Prif Weithredwr (copi ynghlwm) wedi ei
ddosbarthu cyn y cyfarfod, a oedd yn darparu diweddariad ynglŷn â’r gwaith
a wnaed ar gyfer yr opsiwn uno gwirfoddol ers cyfarfod y Cyngor ar 9 Medi 2014,
ac a oedd yn argymell bod y Cyngor yn cytuno i gyflwyno’r Datganiad Diddordeb
sydd ynghlwm, Atodiad 2, i Lywodraeth Cymru (LlC) erbyn diwedd Tachwedd 2014. Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad, a rhoddodd grynodeb manwl o'r
meysydd allweddol canlynol o'r cyflwyniad PowerPoint a ddosbarthwyd gyda'r
adroddiad:- -
Sefyllfa Cyngor Sir Ddinbych -
Cynnydd ers 9 Medi, 2014. -
Manylion yn ymwneud â'r Datganiad
Diddordeb. -
Datganiad Diddordeb: Yr Achos
dros Uno (1) a (2). -
Opsiynau ar gyfer cysoni'r Dreth Gyngor. -
Cyflogau a Graddio Staff. -
Manteision Uno Gwirfoddol. -
Risgiau a Chasgliadau. -
Map Ffordd i Uno Gwirfoddol a'r
Camau Nesaf. -
Argymhellion. Roedd crynodeb o ddatblygiadau pwysig ers cyfarfod y Cyngor ym mis Medi
wedi ei ddarparu ac roedd yn cynnwys:- ·
Roedd Cyngor Conwy wedi pasio cynnig tebyg, gan gytuno i
ymchwilio i'r opsiwn o uno yn wirfoddol gyda Sir Ddinbych, ar 18 Medi 2014. ·
Roedd LlC wedi cyhoeddi ei 'Brosbectws' ar gyfer uno
gwirfoddol: “Gwahoddiad i Brif Awdurdodau Lleol yng Nghymru Gyflwyno Cynigion
ar gyfer Uno Gwirfoddol" ·
Cytunodd Sir Ddinbych a Chonwy i gomisiynu CIPFA i gynnal
ymarfer arbedion a chostau, Atodiad 1, ac i fynd ymlaen i ddrafftio Datganiad
Diddordeb ar y cyd ar gyfer Aelodau'r ddau gyngor i’w ystyried yn eu
cyfarfodydd cyngor ar 17 Tachwedd. ·
Roedd Arweinyddion Grŵp yn Sir Ddinbych a grŵp
trawsbleidiol yng Nghonwy wedi eu sefydlu i oruchwylio datblygiadau’r uno. ·
Bu trafodaethau gyda swyddogion LlC a chyfarfod lefel
uchel gyda'r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus ar 12 Tachwedd 2014. Darparodd y Prif Weithredwr grynodeb o'r
adroddiad gan CIPFA, Atodiad 1, ar Oblygiadau Strategol Uno Cynnar Gwirfoddol
rhwng Cynghorau Conwy a Sir Ddinbych. Roedd yr adroddiad yn cynghori ar y materion canlynol:- -
Costau tebygol uno gwirfoddol; -
Unrhyw gostau ychwanegol sy'n gysylltiedig â bod yn
fabwysiadwr neu arloeswr cynnar; -
Manteision ariannol parhaus tebygol a ddaw drwy uno; -
Manteision ac anfanteision uno gwirfoddol cynnar. Pwysleisiodd y Prif Weithredwr fod y Datganiad Diddordeb yn nodi'r Achos
dros uno gwirfoddol, ond nid hwn oedd yr Achos Busnes ar gyfer uno. Ymatebodd i
bryderon a fynegwyd gan rai Aelodau a chynghorodd i beidio ag ymrwymo i uno
gwirfoddol hyd nes y bydd Achos Busnes llawn wedi ei ddatblygu a’i ystyried yn
ofalus, ac yn dilyn hynny gallai Datganiad o Fwriad gael ei gyflwyno. Amlygodd y Prif
Weithredwr y pedwar rheswm pwysig dros gyflwyno Datganiad Diddordeb a mynd
ymlaen i ddatblygu Achos Busnes llawn. Roedd y rhain yn
cynnwys:- (i)
Tebygrwydd rhwng ardaloedd yr Awdurdodau Lleol ac
Awdurdodau Lleol (Datganiad Diddordeb yn manylu yn Atodiad 2). (ii)
Yr ymarfer costau ac arbedion gan CIPFA (manylion yn
Atodiad 1). (iii)
Annog cymorth cynnar gan LlC. (iv)
Manteision Uno Gwirfoddol dros Uno Gorfodol. Ar 18 Medi cyhoeddodd LlC ei "Brosbectws" ar gyfer uno
gwirfoddol: “Gwahoddiad i Brif Awdurdodau Lleol yng Nghymru i gyflwyno cynigion
ar gyfer uno gwirfoddol". Roedd y ddogfen braidd yn amwys am y cymorth
ariannol sydd ar gael ar gyfer uno gwirfoddol. Fodd bynnag, nododd yn galonogol:- “Rydym yn bwriadu
sicrhau bod adnoddau ar gael, a’r rheini’n adnoddau penodol sydd ar wahân i’r
Grant Cynnal Refeniw, i roi cymorth i uno’n wirfoddol.” T3. Yn llai calonogol roedd yn nodi " O ystyried y pwysau ariannol difrifol yr ydym yn eu hwynebu, mae'n afrealistig disgwyl i Lywodraeth Cymru roi chwistrelliadau mawr o arian i gynorthwyo proses ... view the full Cofnodion text for item 4. |