Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwllgor 1A, Neuadd Y Sir, Rhuthun LL15 1YN
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU |
|
PENODI CADEIRYDD Penodi Cadeirydd
y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol am y flwyddyn i ddod. Cofnodion: Gofynnwyd am
enwebiadau i aelod wasanaethu fel Cadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn i
ddod. Enwebodd y Cynghorydd Alan James y Cynghorydd Barry Mellor, ac eiliwyd
hynny gan y Cynghorydd Martyn Holland. Ni dderbyniwyd enwebiadau eraill ac
felly; PENDERFYNWYD
penodi'r Cynghorydd Barry Mellor yn Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol ar gyfer y flwyddyn i ddod. |
|
PENODI IS-GADEIRYDD Penodi
Is-Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol am y flwyddyn i ddod. Cofnodion: Gofynnwyd am
enwebiadau i aelod wasanaethu fel Is-Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn i
ddod. Enwebodd y Cynghorydd Alan James y Cynghorydd Martyn Holland ac eiliwyd
hynny gan y Cynghorydd Mabon ap Gwynfor. Ni dderbyniwyd enwebiadau eraill ac
felly; PENDERFYNWYD
penodi'r Cynghorydd Martyn Holland yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol ar gyfer y flwyddyn i ddod. |
|
Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd fel un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Datganodd y
Cynghorwyr Mabon ap Gwynfor, Martyn Holland a Barry Mellor gysylltiad personol
ag eitem 8 ar y rhaglen gan eu bod yn llywodraethwyr ysgol. |
|
MATERION BRYS Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Dim. |
|
Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 22 Mawrth 2017 (copi wedi ei amgáu). Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 22 Mawrth
2017. PENDERFYNWYD
derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Mawrth 2017 fel
cofnod cywir. |
|
ADRODDIAD GWELLA BLYNYDDOL SWYDDFA ARCHWILIO CYMRU PDF 416 KB Derbyn adroddiad
a chyflwyniad gan Swyddfa Archwilio Cymru (copi ynghlwm) ar yr Adroddiad Gwella
Blynyddol 2016/2017. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd cynrychiolydd Swyddfa Archwilio Cymru (GB) yr adroddiad (a
ddosbarthwyd ymlaen llaw) ac eglurodd ei gynnwys. Eglurodd fod yr adroddiad
wedi ei greu i grynhoi gwaith archwilio Swyddfa Archwilio Cymru, gan gynnwys
astudiaethau ar lywodraethu, rheoli gwybodaeth a defnyddio adnoddau. Mae’r
adroddiad ar y cyfan yn gadarnhaol ynghylch y Cyngor ac nid yw’n cynnwys unrhyw
argymhelliad sylweddol ar gyfer newid. Mae chwe chynnig ar gyfer gwella wedi ei
nodi yn yr adroddiad a bu i gynrychiolydd Swyddfa Archwilio Cymru ymhelaethu
arnynt. Derbyniwyd yr adroddiad, a gyflwynwyd i’r Cyngor llawn, gan yr aelodau a
chytunwyd y dylid monitro’r cynigion ar gyfer gwella. Diolchodd y Cadeirydd i
Swyddfa Archwilio Cymru am eu gwaith caled. PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor
Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn ac yn nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL IECHYD A DIOGELWCH CORFFORAETHOL PDF 193 KB Derbyn adroddiad
gan y Rheolwr Iechyd a Diogelwch Corfforaethol (copi ynghlwm) sy’n hysbysu’r
aelodau am raglen waith flynyddol a pherfformiad Iechyd a Diogelwch
Corfforaethol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Iechyd a Diogelwch Corfforaethol yr Adroddiad Iechyd a
Diogelwch Blynyddol (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) gan ddiweddaru’r aelodau am
reolaeth iechyd a diogelwch yn y Cyngor o safbwynt y tîm Iechyd a Diogelwch
Corfforaethol. Aeth y Rheolwr drwy’r adroddiad gan ddweud ei fod yn darparu crynodeb
blynyddol o’r materion a nodwyd ac a drafodwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Wrth ystyried yr adroddiad, trafodwyd y mater canlynol yn fanylach - Ystadegau Damweiniau Mae ystadegau’r flwyddyn ddiwethaf yn dangos yr un nifer o ddigwyddiadau
RIDDOR adroddadwy â’r flwyddyn flaenorol. Eglurodd y Rheolwr bod hwn yn
ystadegyn boddhaol. Nid oes tueddiadau wedi eu canfod mewn perthynas â’r
digwyddiadau a roddwyd gwybod amdanynt. Soniodd y Rheolwr am y gofyniad cyfreithiol i roi gwybod am ddigwyddiadau,
ond mae modd rhoi gwybod am fân ddigwyddiadau ar lefel leol, na fyddai’r tîm
Iechyd a Diogelwch yn ymchwilio iddynt. Mae monitro o fewn ysgolion wedi newid gyda rhai pynciau fel dylunio a
thechnoleg yn cael eu monitro’n ofalus. Mae hyfforddiant mewnol wedi ei ddarparu
i staff ac mae’r Rheolwr yn fodlon ar yr hyfforddiant a ddarperir i staff
ysgol. Diolchodd aelodau’r Pwyllgor i’r Rheolwr am yr adroddiad a’r manylion sy’n
gwneud yr adroddiad yn un cynhwysfawr. Diolchodd y Cadeirydd i’r tîm Iechyd a
Diogelwch am eu gwaith caled. PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor
Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn, yn nodi’r cynnwys ac yn cymeradwyo
cynllun gwaith 2017/18 y tîm Iechyd a Diogelwch. |
|
DATGANIAD CYFRIFON DRAFFT 2016/17 PDF 194 KB Ystyried
adroddiad gan y Prif Gyfrifydd (copi ynghlwm) ar y Datganiad o Gyfrifon
2016/2017 drafft. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd adroddiad y
Prif Gyfrifydd, a oedd yn rhoi trosolwg o’r Datganiad Cyfrifon drafft ar gyfer
2016/17 a'r broses sy'n sail iddo, wedi ei gylchredeg ymlaen llaw. Mae gan y Cyngor
ddyletswydd statudol i baratoi Datganiad Cyfrifon sy’n cyrraedd y safonau
cyfrifo cymeradwy. Mae’n rhaid i aelodau gymeradwyo'r cyfrifon a archwiliwyd yn
ffurfiol ar ran y Cyngor ac mae’r rôl hon wedi ei dirprwyo i’r Pwyllgor
Llywodraethu Corfforaethol. Mae’r cyfrifon drafft wedi eu cwblhau a’u llofnodi
gan y Pennaeth Cyllid ar 13 Mehefin. Mae’r cyfrifon drafft ar gael i’w
harchwilio yn ôl y gofyn ac mae modd i’r cyhoedd eu harchwilio rhwng 10
Gorffennaf a 7 Awst 2017. Rhoddodd y Prif
Gyfrifydd grynodeb manwl o Atodiad 1, Datganiad Cyfrifon 2016/17, a chafwyd
trafodaeth ar y canlynol: Ysgolion –
Eglurodd y Prif Gyfrifydd fod 2016/17 wedi bod yn flwyddyn anodd iawn i
ysgolion. Mae newidiadau i bensiynau wedi achosi rhai problemau. Cafodd
ysgolion eu monitro’n ofalus, a darparwyd cymorth i ysgolion gyda chronfeydd
negyddol er mwyn cael arian dros ben. Gofal
Cymdeithasol – Mae cronfeydd wrth gefn wedi eu defnyddio yn ystod 2016/17 felly
mae cryn dipyn o bwysau ar y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol i ail-lenwi’r
cronfeydd. Treth y Cyngor –
Mae Asesiad Treth y Cyngor i ragfynegi incwm yn ystod y flwyddyn nesaf wedi ei
sefydlu. Dywedodd y Pennaeth Cyllid bod gennym ni fel sir ganran uchel o Dreth
y Cyngor yn cael ei gasglu. Yn dilyn
trafodaeth fanwl roedd ar y Pwyllgor eisiau diolch i’r Pennaeth Cyllid, y Prif
Gyfrifydd a’r tîm am y gwaith maent wedi ei wneud o fewn y terfynau amser, a
diolchwyd hefyd am yr ymatebion manwl a ddarparwyd i’r cwestiynau a ofynnwyd. Dywedodd y Prif
Gyfrifydd fod modd i’r aelodau gysylltu ag o’n uniongyrchol os oedd ganddynt
unrhyw gwestiwn neu ymholiad pellach. Dywedodd fod y Datganiad Cyfrifon yn
elfen allweddol o fframwaith llywodraethu'r Cyngor a’i bod yn bwysig darparu
sicrwydd bod y cyfrifon wedi eu llunio yn unol â'r safonau perthnasol. Bydd y
cyfrifon terfynol a archwiliwyd yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol ar 27 Medi i'w cymeradwyo. PENDERFYNWYD bod
y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn yr adroddiad ac yn nodi'r
sefyllfa fel y'i cyflwynir yn y cyfrifon drafft a geir yn Atodiad 1 i'r
adroddiad. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL RHEOLI'R TRYSORLYS PDF 224 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cyllid (copi ynghlwm) ar Adroddiad Blynyddol Rheoli’r
Trysorlys. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cylchredwyd adroddiad y Pennaeth Cyllid ymlaen llaw. Rhoddodd y Pennaeth
Cyllid a’r Prif Gyfrifydd grynodeb manwl o’r adroddiad ac atodiadau 1 a 2. Mae’r term ‘rheoli trysorlys’ yn cynnwys rheoli
benthyciadau, buddsoddiadau a llif arian y Cyngor. Mae oddeutu £0.5 biliwn yn
mynd trwy gyfrifon banc y Cyngor pob blwyddyn. Roedd swm benthyca’r Cyngor heb
ei dalu ar 31 Mawrth 2016 yn £184.73 miliwn ar gyfradd gyfartalog o 4.94% ac
roedd gan y Cyngor fuddsoddiadau o £12 miliwn ar gyfradd gyfartalog o 0.14%. Eglurodd y
Pennaeth Cyllid y risgiau ynghlwm wrth reoli trysorlys a bod y Cyngor yn
monitro ac yn rheoli'r risgiau hynny. Roedd yr adolygiad archwiliad mewnol
diweddaraf yn gadarnhaol ac ni chodwyd unrhyw fater arwyddocaol. Darparwyd yr
ymatebion canlynol i’r materion a godwyd gan aelodau'r Pwyllgor- ·
Mae
cyfanswm y benthyca yn cynnwys dyled dros 10 oed. Caiff y portffolio
benthyciadau ei fonitro a lle y bo’n ymarferol telir dyledion a benthycir arian
pan fo’n briodol ·
Bydd
y gwaith o fonitro’r swyddogaeth rheoli trysorlys yn parhau a bydd adroddiadau
yn cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol Diolchodd y
Cadeirydd i’r Adran Gyllid am yr adroddiad a’r amser a dreulir yn monitro’r
swyddogaeth rheoli trysorlys. PENDERFYNWYD
bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn yr adroddiad ac yn nodi’r
canlynol:
i.
Perfformiad swyddogaeth rheoli trysorlys y
Cyngor yn ystod 2016/17 a’i gydymffurfiaeth â’r dangosyddion darbodus, fel yr
adroddwyd yn Adroddiad Rheoli Trysorlys Blynyddol 2016/17 (Atodiad 1)
ii.
Bod y Pwyllgor wedi darllen, deall ac
ystyried yr asesiad lles. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL UWCH-BERCHENNOG RISG GWYBODAETH PDF 314 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Gwella Busnes a Moderneiddio (copi ynghlwm) sy'n
manylu ar achosion o dorri'r Ddeddf Diogelu Data a chwynion yn ymwneud â
deddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd yr
adroddiad gan y Pennaeth Gwella Busnes a Moderneiddio wedi ei gylchredeg ymlaen
llaw. Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Reolwr Tîm Gwybodaeth Busnes ar ran y
Pennaeth Gwella Busnes a Moderneiddio a chyflwynodd yr adroddiad i’r Pwyllgor. Roedd yr
adroddiad yn cwmpasu'r cyfnod o fis Ebrill 2016 i fis Mawrth 2017 ac yn rhoi
manylion achosion o dorri'r Ddeddf Diogelu Data gan y Cyngor a oedd wedi bod yn
destun ymchwiliadau gan yr Uwch Swyddog Risg Gwybodaeth. Mae hefyd yn ymdrin â
chwynion am y Cyngor o ran deddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth sydd wedi eu
cyfeirio at Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ac yn rhoi gwybodaeth am
geisiadau Mynediad i Wybodaeth/ Rhyddid Gwybodaeth a wneir i'r Cyngor. Ni fu unrhyw
achos difrifol o dorri’r Ddeddf Diogelu Data yn y Cyngor yn ystod 2016/17. Ceir
pum achos o ddigwyddiadau llai difrifol, ac eglurwyd y rheiny gan y Rheolwr Tim
Gwybodaeth Busnes. O'r pum achos dim ond un cafodd ei adrodd wrth Swyddfa’r
Comisiynydd Gwybodaeth ac ni chymerwyd unrhyw gam gweithredu. O ganlyniad i
ymchwiliad Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, argymhellwyd y dylid datblygu
polisi ffurfiol mewn perthynas â staff yn mynd â gwybodaeth/data am gleientiaid
allan o'r swyddfa. Dywedwyd wrth y Pwyllgor bod camau wedi eu cymryd i greu a
gweithredu’r polisi hwn. Mae crynodeb o
geisiadau Rhyddid Gwybodaeth a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol wedi eu
cynnwys yn yr adroddiad. Mae tabl 1 yn darparu manylion nifer y ceisiadau a
gwblhawyd ar gyfer 2014/15 a 2016/17. Mae’r ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth a
Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol yn canolbwyntio ar feysydd penodol ac maent
gan amlaf yn gysylltiedig â busnes neu gan unigolion. Mae’r ceisiadau mwyaf
cyffredin yn ystod y 12 mis diwethaf wedi eu nodi yn y tabl yn Atodiad 1.
Cadarnhaodd Rheolwr Tîm Gwybodaeth Busnes fod rheoli ceisiadau Rhyddid
Gwybodaeth / Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol yn parhau i gyflwyno cost o ran
adnoddau i'r Cyngor. Mewn ymateb i
gwestiynau gan yr aelodau ynglŷn â nifer y ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth a
Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol, cadarnhaodd Rheolwr Tîm Gwybodaeth Busnes
bod unigolion sy’n cyflwyno ceisiadau am wybodaeth sydd ar gael ar y rhyngrwyd
yn cael eu cyfeirio at yr wybodaeth berthnasol. Os derbynnir nifer o geisiadau
am ddarn penodol o wybodaeth, pan fo’n bosibl bydd yr wybodaeth honno yn cael
ei chyhoeddi i’r cyhoedd. PENDERFYNWYD
bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn ac yn nodi cynnwys yr
adroddiad. |
|
ADRODDIAD CYNNYDD ARCHWILIO MEWNOL PDF 187 KB Derbyn adroddiad
gan y Prif Archwilydd Mewnol Dros Dro (copi ynghlwm) yn rhoi’r wybodaeth
ddiweddaraf i aelodau am gynnydd o ran Archwilio Mewnol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif
Archwilydd Mewnol adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn rhoi diweddariad
i’r aelodau ar gynnydd Archwilio Mewnol o ran cyflwyno gwasanaeth, darparu
sicrwydd, adolygiadau a gwblhawyd, perfformiad ac effeithiolrwydd wrth sbarduno
gwelliant. Mae’r adroddiad
yn darparu gwybodaeth am waith yr Adain Archwilio Mewnol ers cyfarfod diwethaf
y Pwyllgor. Roedd yn galluogi’r Pwyllgor i fonitro perfformiad a chynnydd yr
Adain Archwilio Mewnol yn ogystal â darparu crynodebau o’i adroddiadau. Aeth y Prif
Archwilydd Mewnol drwy'r adroddiadau a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf hyd
at ddiwedd mis Mehefin 2017 ar - ·
Adroddiadau
archwilio mewnol a gyflwynwyd yn ddiweddar ·
Adroddiadau
Archwilio Mewnol dilynol ·
Cynnydd
gwaith Archwilio Mewnol hyd yma yn 2017/18 ·
Crynodeb
o brosiectau nesaf yr Adain Archwilio Mewnol ·
Safonau
perfformiad Archwilio Mewnol Codwyd y materion
canlynol wrth drafod – ·
Pryderon
ynghylch nifer y materion heb eu datrys – eglurodd y Prif Archwilydd Mewnol bod
y rhain yn cael eu monitro a bod gwaith ar y gweill i’w datrys ·
Derbyniodd
a chanmolodd y Pwyllgor y prosiectau nesaf y bydd yr Adain Archwilio Mewnol yn
eu cynnal Ychwanegodd y
Prif Archwilydd Mewnol fod adroddiad cynnydd yr Adain Archwilio Mewnol yn eitem
sefydlog ar raglen y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol, er mwyn monitro a
thrafod gwaith ac adroddiadau’r Adain Archwilio Mewnol. Roedd y Prif Archwilydd
Mewnol yn hapus iawn â pherfformiad yr Adain Archwilio Mewnol hyd yma. PENDERFYNWYD
derbyn yr adroddiad a nodi’r cynnwys. |
|
Derbyn adroddiad
gan y Prif Archwilydd Mewnol Dros Dro (copi ynghlwm) sy'n rhoi diweddariad i’r
aelodau ar gynnydd gweithredu'r cynllun gweithredu a oedd yn cyd-fynd â’r
adroddiad Rheoli Fflyd Corfforaethol ym mis Hydref 2015. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Archwilydd Mewnol yr adroddiad (a gylchredwyd ymlaen
llaw) sy’n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd wrth weithredu'r cynllun
gweithredu sy'n cyd-fynd â’r adroddiad Archwilio Mewnol ar Reoli’r Fflyd
Gorfforaethol ym mis Hydref 2015. Mae’r
adroddiad yn darparu gwybodaeth ynglŷn â sut mae’r Cyngor yn gwella
trefniadau rheoli fflyd. Mae'r cynllun gweithredu dilynol i’r Archwiliad Mewnol
(a geir yn Atodiad 1) yn dangos bod cynnydd da wedi ei wneud wrth weithredu ar
y materion a’r risgiau a nodwyd yn yr Archwiliad Mewnol. O’r 13 mater a godwyd yn ystod yr archwiliad gwreiddiol yn 2015, mae 11
bellach wedi eu datrys yn llwyddiannus, gan gynnwys datblygu Polisi Cludiant
newydd a gwelliannau i wiriadau iechyd a diogelwch gyrwyr. Mae gwaith yn parhau
o ran y ddau fater sy’n weddill. Mae’r Prif Archwilydd Mewnol yn hyderus y bydd
y rhain yn cael eu datrys ac mae’n fodlon ar y cynnydd hyd yma. Mewn ymateb i’r pryderon a godwyd mewn perthynas â rheoli cyflenwadau
tanwydd a chardiau tanwydd, eglurodd y Prif Archwilydd Mewnol fod gwaith ar y
gweill i fonitro cardiau tanwydd ac mae datganiadau yn cael eu gwneud gan yrwyr
i ddefnyddio’r cardiau at ddibenion busnes yn unig. Dywedodd y Prif Archwilydd
Mewnol bod y system fflyd bellach yn cynnwys mwy o wybodaeth werthfawr sy’n
haws ei chanfod a'i monitro. PENDERFYNWYD derbyn yr
adroddiad a nodi’r cynnwys. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL ARCHWILIO MEWNOL PDF 203 KB Ystyried
adroddiad gan y Prif Archwilydd Mewnol Dros Dro (copi ynghlwm) ar ddigonolrwydd
ac effeithiolrwydd fframwaith llywodraethu, risg a rheolaeth y Cyngor yn ystod
y flwyddyn sy'n llywio'r 'Datganiad Llywodraethu Blynyddol'. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Archwilydd Mewnol yr adroddiad (a gylchredwyd ymlaen
llaw) a oedd yn cynnwys manylion Adroddiad Blynyddol Archwilio Mewnol 2016/17.
Mae’n cynnwys y farn gyffredinol ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd fframwaith
llywodraethu, risg a rheolaeth y Cyngor yn ystod y flwyddyn ac sy’n cyfrannu at
y ‘Datganiad Llywodraethu Blynyddol'. Cyfeiriodd y Prif Archwilydd Mewnol at y 27 adroddiad archwilio a gwblhawyd
yn ystod y flwyddyn a chadarnhaodd mai dim ond un arolwg archwilio sydd wedi ei
roi yn y categori sicrwydd isel. Sicrhaodd fod yr adroddiad ‘Gwasanaethau
Parcio’, sydd wedi derbyn sgôr sicrwydd isel, yn cael ei fonitro gan yr Adain
Archwilio Mewnol. Gofynnodd y Cynghorydd Mabon ap Gwynfor am gael cylchredeg yr
wybodaeth ynglŷn â’r mater pwysig a godwyd yn adroddiad 'Sicrwydd
Blaenoriaeth Corfforaethol: Datblygu’r Economi Lleol’ i’r aelodau, yn ogystal â
diweddariad ar unrhyw arolwg archwilio a gwblhawyd mewn perthynas â’r adroddiad
hwn. PENDERFYNWYD, (i) derbyn a nodi
Adroddiad Blynyddol a ‘barn’ gyffredinol y Prif Archwilydd Mewnol, a (ii) cylchredeg unrhyw
waith dilynol mewn perthynas â’r adroddiad sicrwydd isel i’r aelodau. |
|
ADRODDIAD DATGANIAD LLYWODRAETHU BLYNYDDOL PDF 189 KB Ystyried
adroddiad gan y Prif Archwilydd Mewnol Dros Dro (copi ynghlwm) sy’n darparu’r
adroddiad hunanasesu ar drefniadau llywodraethu a gwella'r Cyngor ar gyfer
2016/2017. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd adroddiad y Prif Archwilydd Mewnol, a oedd yn cynnwys adroddiad
hunanasesu ar drefniadau llywodraethu a gwella'r Cyngor ar gyfer 2017/17, ei
ddosbarthu ymlaen llaw. Mae Datganiad Llywodraethu a Gwella Blynyddol 2016/17 yn cynnwys
hunanasesiad o drefniadau llywodraethu'r Cyngor ac yn dangos meysydd gwella yn
ystod y flwyddyn ariannol flaenorol. Roedd yn tynnu sylw at wendidau mewn
cynllun gweithredu, y byddai’r Pwyllgor hwn yn eu monitro i sicrhau y gwneir y
gwelliannau angenrheidiol. Dywedodd y Prif Archwilydd Mewnol nad oes unrhyw
fater arwyddocaol wedi ei godi eleni, ac y bydd y gwaith monitro a’r
diweddariadau yn parhau yn ystod y flwyddyn i ddod. PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor
Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn ac yn nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y PWYLLGOR LLYWODRAETHU CORFFORAETHOL PDF 284 KB Ystyried rhaglen
gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen
Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol (a ddosbarthwyd ymlaen
llaw) i’w hystyried. Cymeradwywyd
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor yn amodol ar gynnwys yr adroddiad
canlynol:- 29 Tachwedd
2017:- Rheoli Gwybodaeth
a Rheoli TG mewn Ysgolion (yn lle cyfarfod 27 Medi 2017). PENDERFYNWYD,
yn amodol ar yr uchod, bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn
cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 11.40 a.m. |