Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwllgor 1A, Neuadd Y Sir, Rhuthun LL15 1YN
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Dim |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 197 KB Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd fel un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Datganodd y
Cynghorwyr Tony Flynn, Martyn Holland, Barry Mellor, Mabon ap Gwynfor, Emrys
Wynne, Huw Hilditch-Roberts a Julian Thompson- Hill gysylltiad personol ag
eitemau 5 a 6 ar y rhaglen gan eu bod yn llywodraethwyr ysgol. Datganodd y
Cynghorydd Alan James gysylltiad personol yn eitem 5 ar y rhaglen gan fod ei
ferch yn Bennaeth ar ysgol a oedd mewn anhawster ariannol. Datganodd y Cynghorydd Joseph Welch gysylltiad
personol yn eitem 5 ar y rhaglen gan ei fod yn rhiant i blentyn sy’n mynychu
ysgol dan reolaeth Cyngor Sir Ddinbych. Datganodd yr
Aelod Lleyg, Paul Witham, gysylltiad personol yn eitem 5 ar y rhaglen gan fod
yn Daid i blentyn yn un o'r ysgolion a restrwyd yn yr adroddiad. |
|
MATERION BRYS Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
fater brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 27 Medi 2017
(copi’n amgaeedig). Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 27
Medi. 2017 Cywirdeb - Nodwyd fod yr Aelod Lleyg Mr Paul Whitham yn bresennol yn y cyfarfod. Materion yn codi - Eitem 10 Prosiect
Maes Parcio Loggerheads – Gwnaeth y Cynghorydd Martyn Holland gais ynghylch y
lefel uchel o arian at raid gyda’r datblygiad hwn ac i nodi’r fformiwla a
ddefnyddir i gyfrifo swm yr arian at raid.Gofynnodd yr Aelod Lleyg i Paul
Witham am eglurhad o’r diffiniad o Arian at Raid ac i hyn gael ei gylchredeg i
aelodau fel y nodwyd yn y cofnodion. Cadarnhaodd y
Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Gwasanaethau Democrataidd y
byddai'n gwirio hynny ac yn rhoi gwybod i Aelodau'r Pwyllgor. PENDERFYNWYD yn
amodol ar yr uchod, y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor
Llywodraethu Corfforaethol fel cofnod cywir. |
|
YSGOLION MEWN TRAFFERTH ARIANNOL PDF 280 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cyllid a’r Pennaeth Addysg (copi’n amgaeedig) i egluro
polisi ac ymagwedd y Cyngor at weithio gydag ysgolion mewn trafferth ariannol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd yr
adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol), gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill,
Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, i egluro polisi’r
Cyngor a’r dull i weithio gydag ysgolion mewn trafferth ariannol. Arweiniodd y
Cynghorydd Thompson-Hill yr Aelodau drwy'r adroddiad. Cyfeiriwyd at y siart
cynnydd (yn atodiad 1, wedi’i ddosbarthu’n flaenorol), a oedd yn dangos y
broses ar gyfer herio a chefnogi cyllid ysgolion. Rhoddwyd eglurhad o ran y
camau lle mae Awdurdod Lleol yn ymyrryd a’r camau dilynol. Clywyd pryderon
ynglŷn â nifer yr ysgolion mewn trafferth ariannol. Cadarnhawyd bod nifer
yr ysgolion mewn trafferth ariannol wedi gostwng dros y blynyddoedd diweddar.
Roedd Cyngor Sir Ddinbych wedi’i amlygu fel un o’r Awdurdodau Lleol yn y diffyg
mwyaf. Eglurodd y
Pennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant fod y penderfyniadau o ran rheoli
cyllidebau ysgol yn mynd drwy'r fforwm cyllidebau ysgolion. Roedd
penderfyniadau'n cael eu gwneud drwy gyfrwng sgwrs ac ystyriaeth lefel uchel.
Ailadroddodd y Pennaeth Cyllid y broses sydd yn ei lle i herio a chefnogi
ysgolion, i reoli cyllideb dreigl 3 blynedd.
Mae’r broses a chyllidebau ysgolion yn cael eu monitro’n barhaus. Yn ystod
trafodaethau, codwyd y materion canlynol: ·
Colli
swyddi – Cadarnhawyd bod y dull o dalu arian colli swydd wedi newid yn 2012.
Roedd ysgolion nawr yn gyfrifol am ariannu unrhyw swyddi a gollwyd. ·
Fforwm
Cyllidebau Ysgolion – cadarnhaodd y Pennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant fod y
fformiwla i bennu cyllidebau Ysgolion yn destun craffu gan y Fforwm Cyllidebau
Ysgolion. Mae Pennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant, Pennaeth Cyllid,
Penaethiaid cynrychioladol, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Phobl Ifanc, a
Swyddogion cynrychioladol yn dod i’r fforwm. Roedd gwaith da wedi’i wneud ar
gryfhau’r Fforwm, gan fynd ati i gydweithio i wella cyllid yr ysgol. ·
Roedd
ymgysylltiad rhwng swyddogion ac ysgolion yn hanfodol i geisio gwella cyllid,
cyn cymryd unrhyw gamau gweithredu. Gweithiodd Swyddogion yn agos gydag
ysgolion a sut mae ysgolion yn cael eu rhedeg. Mae GwE yn rhoi adborth ar gyfranogiad gydag ysgolion. Cafodd y ddyletswydd
i ddarparu’r lefel orau o addysg i bobl ifanc yn Sir Ddinbych ei hadlewyrchu yn
y canlyniadau arholiadau gwell. ·
Roedd
fforwm Llywodraethwyr cadarn wedi’i ddylunio i ymgysylltu a chyfathrebu gyda
llywodraethwyr wedi helpu i ddeall y broses sydd yn ei lle. Arsylwyd ar nifer o
swyddi gwag ar gyfer llywodraethwyr ysgol. Diolchodd y cadeirydd i’r swyddogion am y
gwaith a wnaed i ddatblygu a monitro ysgolion. Daeth i’r casgliad bod
cyrhaeddiad ysgolion ac addysg a lles pobl ifanc yn Sir Ddinbych yn hanfodol. PENDERFYNWYD bod
y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn ac yn nodi cynnwys yr adroddiad
blynyddol, wedi i bawb ddangos eu dwylo i gytuno â hynny’n unfrydol. |
|
RHEOLI GWYBODAETH A RHEOLI TG MEWN YSGOLION PDF 335 KB Ystyried adroddiad diweddaru gan y Pennaeth Addysg a’r Prif Reolwr Addysg
(copi’n amgaeedig) i ddarparu gwybodaeth am sut mae’r Cyngor yn gweithredu
gwelliannau yn y ffordd mae ysgolion yn rheoli gwybodaeth ers cyhoeddi
adroddiad Archwilio Mewnol a roddodd 'Sicrwydd Isel'.
Cofnodion: Cyflwynodd y Pen
Reolwr Cymorth Addysg yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i roi
diweddariad ar y gwaith a wneir mewn ymateb i’r adroddiad a rannwyd 28 Medi
2016, a rhagor o dystiolaeth a roddwyd 25 Ionawr 2017, a oedd yn rhoi manylion
ynghylch Rheoli Gwybodaeth a Rheoli TG mewn ysgolion a gafodd sgôr Sicrwydd
“Isel”. Darparwyd
gwybodaeth am sut mae'r Cyngor yn gweithredu gwelliannau yn y ffordd mae
ysgolion yn rheoli gwybodaeth ers cyhoeddi’r adroddiad Archwilio Mewnol a
roddodd 'Sicrwydd Isel'. Roedd y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol wedi gofyn am ail adroddiad cynnydd i
ddiweddaru aelodau, i sicrhau bod materion yn cael sylw. Roedd Swyddfa'r
Comisiynydd Gwybodaeth wedi cwblhau hyfforddiant i Benaethiaid a Rheolwyr
Busnes ar 9 Chwefror, 2017. Cafodd hyfforddiant hefyd ei gyflwyno i
Lywodraethwyr Ysgol. Roedd rhagor o hyfforddiant wedi’i gynnig ar Ddiogelwch
Data, a gynhaliwyd 15 Chwefror 2017. Bydd rhagor o
hyfforddiant yn cael ei drefnu pan fydd y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol
yn eu lle ym Mai 2018. Roedd y
datblygiad o becyn gwaith archwiliad ar-lein rhanbarthol a oedd yn galluogi
ysgolion a’r Awdurdod Lleol i fonitro, cefnogi a herio wedi digwydd.
Cadarnhaodd y Pen Reolwr Cymorth Addysg fod pob ysgol â mynediad at y pecyn
cymorth i gwblhau archwiliad a neilltuo tasgau i unigolion erbyn dyddiadau cau
penodol. Gall staff ysgol, Awdurdod Lleol a Llywodraethwyr Ysgol fonitro
cynnydd a gwelliannau, ac fe gynigir cefnogaeth lle bo angen. Mae ysgolion wedi
mabwysiadu’r pecyn gwaith yn dda, ac fe arsylwyd ar ganlyniad a gwaith
cadarnhaol. Roedd cysylltiadau at bolisïau a gweithdrefnau ar Wefan Sir Ddinbych wedi’u cynnwys yn y pecyn gwaith
i ganiatáu Ysgolion i gael cyswllt uniongyrchol at dudalennau perthnasol er
gwybodaeth. Roedd hyfforddiant i bob unigolyn a oedd yn gweithio gyda’r pecyn
gwaith yn cael ei roi. Byddai rheolaeth
gyffredinol o’r pecyn gwaith yn cael ei neilltuo i becyn gwaith yr ysgol, a
fyddai'n galluogi'r unigolyn hwnnw i neilltuo a monitro'r gwaith a gwblhawyd. Rhoddodd y
Pennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant wybod i’r pwyllgor bod y pecyn gwaith, a
ddatblygwyd gan swyddogion Sir Ddinbych, eisoes wedi’i fabwysiadu gan 6 sir
Gogledd Cymru, ac yn gweithio’n effeithiol. Codwyd pryderon
gan y Cynghorydd Emrys Wynne o ran casglu gwastraff cyfrinachol. Cadarnhaodd y
Swyddog Monitro fod contractwyr yn eu lle i gael gwared ar wastraff
cyfrinachol, a gellid trefnu casgliadau ychwanegol os oedd angen. PENDERFYNWYD bod
y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol
yn nodi’r adroddiad a bod adroddiad diweddaru’n cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor
Llywodraethu Corfforaethol mewn 6 mis. |
|
Ar y pwynt hwn
(11.45 a.m.) cafwyd toriad am 10 munud. Ailddechreuodd y
cyfarfod am 11.55 a.m. |
|
ADRODDIAD RIPA (DEDDF RHEOLEIDDIO PWERAU YMCHWILIO 2000) BLYNYDDOL PDF 198 KB Ystyried
adroddiad gwybodaeth gan y Dirprwy Swyddog Monitro (copi’n amgaeedig) am
ddefnydd y Cyngor o’i bwerau gwyliadwriaeth dan RIPA (Deddf Rheoleiddio Pwerau
Ymchwilio 2000). Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad
er gwybodaeth (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ar ddefnydd y Cyngor o’i bwerau
gwyliadwriaeth dan RIPA (Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000). Darparodd y
Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd drosolwg o
RIPA ac eglurodd sut y gallai pwerau o dan y Ddeddf honno gael eu defnyddio gan
y cyngor, ynghyd â'r prosesau ar waith.
Nid oedd unrhyw ddefnydd wedi ei wneud o’r pwerau hyn ers yr adroddiad
diwethaf i’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol Darparwyd sesiynau
hyfforddiant mewnol rheolaidd i swyddogion gan ddefnyddio’r pwerau hynny gyda’r
sesiwn nesaf wedi ei chynllunio ar gyfer 30 Mawrth 2017. Bydd digwyddiad
hyfforddiant atgoffa yn cael ei ddarparu i Swyddogion Awdurdodi’r Cyngor y
flwyddyn nesaf i’w galluogi i herio a chraffu ar unrhyw weithrediad yn
effeithiol. Eglurodd y
Pennaeth Gwasanaeth wrth aelodau mai gwyliadwriaeth yw’r dewis olaf. Mae’n
rhaid defnyddio pob ffordd a dull arall cyn y rhoddir awdurdod i ddefnyddio
gwyliadwriaeth. Diolchodd y
Cadeirydd i’r Pennaeth Gwasanaeth am roi’r wybodaeth ddiweddaraf. PENDERFYNWYD derbyn
a nodi’r adroddiad RIPA Blynyddol (Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000). |
|
ADRODDIAD RHANNU PRYDERON BLYNYDDOL PDF 196 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a
Democrataidd (copi’n amgaeedig) i roi gwybod i Aelodau am weithgareddau mewn
perthynas â’r Polisi Rhannu Pryderon. Cofnodion: Adroddiad gan y Swyddog Monitro,
a oedd yn darparu gwybodaeth ynghylch gweithrediad Polisi Rhannu Pryderon y Cyngor
ers i’r adroddiad diwethaf gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol ym mis Gorffennaf 2016. Roedd yr adroddiad
wedi ei gyflwyno yn unol â Pholisi Rhannu Pryderon y Cyngor, a oedd yn cynnwys
gofyniad bod y Swyddog Monitro yn cyflwyno adroddiad i'r Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol o leiaf unwaith y flwyddyn ar weithrediad y Polisi ac unrhyw
newidiadau mewn ymarfer a gyflwynwyd o ganlyniad i bryderon a godwyd o dan y
Polisi. Mae’r adroddiad yn edrych ar y cyfnod o 14 Gorffennaf hyd heddiw, yn ystod
y cyfnod hwn nid oes unrhyw bryderon wedi eu codi dan y polisi rhannu pryderon. Cadarnhaodd y Swyddog Monitro fod yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth wedi cytuno ym
mis Mawrth 2017 i 'fodiwl e-ddysgu rhannu pryderon’ fod yn orfodol i bob un o
weithwyr Cyngor Sir Ddinbych. Dylai’r modiwl e-ddysgu fod yn barod i’w lansio
ym mis Ionawr 2018. Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan yr aelod lleyg Paul Witham, cadarnhaodd
y Swyddog Monitro y byddai’n cadarnhau fod contractwyr yn ymwybodol o sut i
gael mynediad i’r polisi ar-lein. PENDERFYNWYD
bod y Pwyllgor
Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn ac yn nodi cynnwys yr adroddiad blynyddol. |
|
ADRODDIAD CYNNYDD ARCHWILIO MEWNOL PDF 264 KB Ystyried
adroddiad gan y Prif Archwilydd Mewnol (copi’n amgaeedig) yn rhoi gwybod i
aelodau am gynnydd Archwilio Mewnol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif
Archwilydd Mewnol adroddiad diweddaru Archwilio Mewnol (a ddosbarthwyd ymlaen
llaw) yn rhoi diweddariad i’r aelodau ar gynnydd Archwilio Mewnol o ran
cyflwyno gwasanaeth, darparu sicrwydd, adolygiadau a gwblhawyd, perfformiad ac
effeithiolrwydd wrth sbarduno gwelliant. Mae’r adroddiad
yn darparu gwybodaeth am waith yr Adain Archwilio Mewnol ers y cyfarfod
diwethaf y Pwyllgor. Aeth y Prif Archwilydd Mewnol drwy'r adroddiadau a oedd yn
rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf hyd fel ydoedd fis Tachwedd 2017 ar: ·
Adroddiadau archwilio mewnol a gyflwynwyd yn ddiweddar ·
Adroddiadau Archwilio Mewnol dilynol ·
Cynnydd gwaith Archwilio Mewnol hyd yma yn 2017/18. ·
Crynodeb o brosiectau nesaf yr Adain Archwilio Mewnol ·
Safonau perfformiad Archwilio Mewnol Codwyd y materion canlynol wrth drafod – ·
Arian
Mân – Tachwedd 2017 – Eglurodd y Prif Archwilydd Mewnol fod yr arian mân o
glybiau gweithgareddau'r ysgol fel y clwb brecwast, clybiau ar ôl ysgol, wedi
achosi dryswch. Eglurodd y Prif Archwilydd Mewnol fod cynllun gweithredu wedi
cael ei ddatblygu er mwyn galluogi’r cyngor i reoli’r risgiau sy’n gysylltiedig
â chyfrifon arian mân. Mae’r Cyngor yn gyfrifol am arian parod o wahanol
feysydd i fewn y cyngor megis meysydd parcio a chyfleusterau cyhoeddus, gyda
rheolaethau penodol i'w rheoli. Fodd bynnag, gofynnwyd am asesiad o arian mân
mewn perthynas ag arian ysgolion e.e. clybiau brecwast, a byddai adroddiad yn
cael ei gyflwyno yn ôl i’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ymhen 6 mis. ·
Rheoli’r
risg o dwyll a llygredigaeth – Tachwedd 2017 – Cadarnhaodd y Prif Archwilydd
Mewnol fod y cyngor wedi ymrwymo i ymagwedd dim goddefiaeth tuag at dwyll a
llygredigaeth. Roedd rhai meysydd i’w gwella wedi'u canfod y gellid eu goresgyn
yn hawdd. Bydd Twyll Tenantiaeth Tai Cyngor yn destun adolygiad fel rhan o gam
3 yr adolygiad. ·
Mynegwyd
pryderon ynghylch y nifer o adroddiadau dilynol - Eglurodd y Prif Archwilydd
Mewnol fod yr adroddiadau’n cael eu codi ar lefel y Penaethiaid Gwasanaeth lle
mae pryder ynghylch y cynnydd a wnaed. Diolchodd y
Cadeirydd i swyddogion am yr adroddiad manwl a’r ymatebion i bryderon a godwyd
gan aelodau. PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn yr adroddiad
diweddaru a nodi’r cynnwys. |
|
DATGANIAD LLYWODRAETHU BLYNYDDOL – DIWEDDARIAD AR Y CYNLLUN GWEITHREDU PDF 269 KB Ystyried
adroddiad gan y Prif Archwilydd Mewnol (copi’n amgaeedig) sy’n darparu
gwybodaeth am sut mae’r Cyngor yn gweithredu gwelliannau i drefniadau
llywodraethu ers cyhoeddi'r Datganiad
Llywodraethu Blynyddol ym mis Gorffennaf 2017. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif
Archwilydd Mewnol adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn diweddaru'r
Aelodau ar y cynnydd a wnaed o ran gweithredu'r cynllun gwella llywodraethu a
oedd yn dod gyda'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2016/17. Dywedodd y Prif Archwilydd Mewnol wrth yr
Aelodau fod yr holl gamau gweithredu yn symud ymlaen a hynny mewn modd amserol,
ac i gyd ar y trywydd iawn i gwrdd â’r terfynau amser. PENDERFYNWYD bod
y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn ac yn nodi cynnwys yr
adroddiad. |
|
SAFONAU HUNANASESIAD ARCHWILIO MEWNOL PDF 270 KB Ystyried
adroddiad gan y Prif Archwilydd Mewnol (copi’n amgaeedig) sy’n darparu
canlyniadau’r hunanasesiad
archwilio mewnol yn erbyn Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif
Archwilydd Mewnol adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn darparu
canlyniadau’r hunanasesiad archwilio mewnol yn erbyn Safonau Archwilio Mewnol y
Sector Cyhoeddus. Eglurodd y Prif
Archwilydd Mewnol fod datblygu rhaglen sicrwydd ansawdd a gwella i werthuso
cydymffurfiaeth gyda’r safonau wedi cael ei gwblhau. Roedd y rhaglen yn
cynorthwyo monitro effeithlonrwydd archwilio mewnol a nodi cyfleoedd ar gyfer
gwella. Cadarnhaodd y
Prif Archwilydd Mewnol wrth yr aelodau fod y canlyniadau cyffredinol o’r
hunanasesiad wedi bod yn bositif. Roedd Atodiad 1 yn dangos i’r Aelodau y
meysydd a amlygwyd yn y Cynllun Gweithredu Sicrwydd Ansawdd a Gwella. Bydd asesiad allanol gan Brif Swyddog Archwilio
Cyngor Gwynedd yn cael ei wneud yng ngwanwyn 2018, yn unol â’r safonau. PENDERFYNWYD bod
y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn ac yn nodi cynnwys yr
adroddiad. |
|
RHAGLEN WAITH Y PWYLLGOR LLYWODRAETHU CORFFORAETHOL PDF 303 KB Ystyried rhaglen
gwaith i’r dyfodol y pwyllgor (copi’n amgaeedig). Cofnodion: Rhoddodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd
wrth y Pwyllgor y gallai dyddiad y cyfarfod nesaf newid. Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol. (a gylchredwyd yn flaenorol) er gwybodaeth. Cymeradwywyd
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn amodol ar y
diwygiadau canlynol:- 24 Ionawr 2018- ·
Strategaeth
Flynyddol Rheoli'r Trysorlys ·
Cau’r
Datganiad Cyfrifon ·
Rheoli
Fflyd - Dilyniant ·
CIPFA
(Canllawiau Ymarferol y Pwyllgor Archwilio) 25 Ebrill 2018- ·
Strategaeth
Archwilio Mewnol ·
Datganiad
Llywodraethu Blynyddol Drafft ·
Adroddiad
Blynyddol Archwilio Mewnol 11 Gorffennaf
2018- ·
Datganiad
Cyfrifon Drafft 26 Medi 2018- ·
Cymeradwyo’r
Datganiad Cyfrifon 21 Tachwedd 2018- ·
Adroddiad
RIPA Blynyddol (Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000) ·
Adroddiad
Rhannu Pryderon Blynyddol PENDERFYNWYD
yn amodol ar yr uchod bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn cymeradwyo’r
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol. |
|
Daeth y Cyfarfod i ben am 13:05 p.m. |