Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: SIAMBR Y CYNGOR, NEUADD Y SIR, RHUTHUN LL15 1YN

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

2.

DATGAN CYSYLLTIAD

{0>Members to declare any personal or prejudicial interests in any business identified to be considered at this meeting.<}100{>Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd yn un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.<0} 

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorwyr Martyn Holland a Jason McLellan gysylltiadau personol gan fod y ddau ohonynt yn llywodraethwyr ysgol.

 

 

3.

Materion Brys

{0>Notice of items, which in the opinion of the Chair should be considered at the meeting as a matter of urgency pursuant to Section 100B(4) of the Local Government Act 1972.<}100{>Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran

100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.<0}

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

 

 

4.

Cofnodion pdf eicon PDF 217 KB

{0>To receive the minutes of the Corporate Governance Committee meeting held on 23 November 2016 (copy attached).<}92{>Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 23 Tachwedd 2016 (copi’n amgaeedig).<0}

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 23 Tachwedd 2016.

 

Cywirdeb -

 

Tudalen 5: Datganiadau o Gysylltiad - cyfeiriodd y Cadeirydd at ei ddatganiad o gysylltiad gan ei fod "yn" un o weithwyr Llywodraeth Cymru ac nid "yn arfer" gweithio i Lywodraeth Cymru.

 

Canmolodd y Cadeirydd y cofnodion am ei fod wedi bod yn gyfarfod hir. Roedd y cofnodion yn manylu ar yr holl drafodaethau a gafwyd.

 

PENDERFYNWYD – yn amodol ar yr uchod, derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Tachwedd 2016 fel cofnod cywir.

 

 

5.

RHEOLI GWYBODAETH A RHEOLI TG MEWN YSGOLION pdf eicon PDF 227 KB

{0>To consider a report by the Head of Education and Children’s Services / Principal Education Manager (copy attached) to provide an update on the work undertaken in response to the report shared on 28 September 2016 which provided details on Information Management and IT Management in schools that received a “Low” assurance rating.<}79{>Ystyried adroddiad gan Bennaeth Gwasanaethau Addysg a Phlant/ Prif Reolwr Addysg (copi’n amgaeedig) i roi diweddariad ar y gwaith a wnaed mewn perthynas â’r adroddiad a rannwyd 28 Medi 2016, a oedd yn rhoi manylion ynghylch Rheoli Gwybodaeth a Rheoli TG mewn ysgolion a gafodd sgôr Sicrwydd “Isel”.<0}

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Reolwr Cymorth Addysg yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i roi diweddariad ar y gwaith a wneir mewn perthynas â’r adroddiad a rannwyd 28 Medi 2016, a oedd yn rhoi manylion ynghylch Rheoli Gwybodaeth a Rheoli TG mewn ysgolion a gafodd sgôr Sicrwydd “Isel”.

 

Darparwyd gwybodaeth am sut mae'r Cyngor yn gweithredu gwelliannau yn y ffordd mae ysgolion yn rheoli gwybodaeth ers cyhoeddi adroddiad Archwilio Mewnol a roddodd 'Sicrwydd Isel'.  Roedd y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol wedi gofyn am adroddiad cynnydd i sicrhau bod materion yn cael eu datrys.

 

Cafodd gwelliannau eu gwneud drwy weithredu Offeryn Archwilio Statudol y bu i bob ysgol ei gwblhau.  Rhoddodd yr offeryn wybodaeth i’r ysgol a’r Awdurdod Lleol am y lefelau o sicrwydd mewn meysydd gwahanol.   Roedd y broses archwilio wedi bod yn glir wrth amlygu cefnogaeth a dargedwyd mewn ardaloedd penodol a gydag ysgolion penodol.

 

Bydd cynnwys yr Archwiliad Rheoli Gwybodaeth yn cael ei adolygu ym mis Gorffennaf 2017, a’i anfon i ysgolion eto ym mis Medi 2017. Bydd y ddwy gyfres o ganlyniadau'n cael eu cymharu gyda disgwyliad y bydd y gwelliannau a amlygwyd wedi'u gwneud.

 

Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth wedi eu hamserlennu i gyflwyno hyfforddiant i Benaethiaid a Rheolwyr Busnes ar 9 Chwefror, 2017. Cafodd hyfforddiant hefyd ei gyflwyno yn flynyddol i'r Llywodraethwyr. 

 

Roedd Polisi Cyfryngau Cymdeithasol newydd wedi bod mewn ymgynghoriad ag undebau llafur a bydd yn cael ei ddosbarthu yn dilyn cytundeb.

 

Mae ymweliadau pellach i’w cynnal mewn ysgolion ac roedd disgwyliad, yn dilyn archwiliad y dyfodol, y byddai pob ysgol yn dangos yn wyrdd (Ansawdd Da / Ardderchog).  Os na, byddai ysgolion yn cael eu cwestiynu gan eu bod wedi cael yr holl wybodaeth a hyfforddiant.  Roedd gan ysgolion gyfrifoldeb i sicrhau bod prosesau ar waith i gyd-fynd â gofynion deddfwriaethol.

 

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor yn nodi'r adroddiad a bod adroddiad cynnydd pellach yn cael ei gyflwyno yn y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ar 27 Medi 2017.

 

 

6.

ADOLYGIAD YMARFER PLANT pdf eicon PDF 80 KB

{0>To consider a report by the Head of Education and Children’s Services (copy attached) to provide an update on the work undertaken in response to the report shared in July 2015, which provided Members with details from the Child Practice Review regarding the tragic death of a Denbighshire child.<}0{>Ystyried adroddiad gan Bennaeth Gwasanaethau Addysg a Phlant (copi’n amgaeedig) i roi diweddariad ar y gwaith a wnaed mewn perthynas â’r adroddiad a rannwyd ym mis Gorffennaf 2015, a oedd yn rhoi manylion i’r Aelodau am yr Adolygiad Ymarfer Plant, mewn perthynas â marwolaeth drasig plentyn yn Sir Ddinbych.<0}

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg a Phlant yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i roi diweddariad ar y gwaith a wnaed mewn perthynas â’r adroddiad a rannwyd ym mis Gorffennaf 2015, a oedd yn rhoi manylion i’r Aelodau am yr Adolygiad Ymarfer Plant, mewn perthynas â marwolaeth drasig plentyn yn Sir Ddinbych.

 

Yn y cyfarfod fis Gorffennaf 2015, nodwyd pwysigrwydd y Pwyllgor yn cael sicrwydd bod Cynllun Gweithredu ar gyfer yr Adolygiad Ymarfer Plant wedi cael ei weithredu’n llawn.  Diben yr Adolygiad oedd darganfod a oedd gwersi i'w dysgu am y ffordd y mae gweithwyr proffesiynol yn cydweithio i ddiogelu plant, amlygu’r gwersi hynny a gwella ymarfer.

 

Yn ystod y drafodaeth, nodwyd ei bod yn bwysig pwysleisio bod yr Awdurdod Lleol yn ymwybodol ac yn sensitif i deulu ar yr adeg hon.  Roedd gwersi i'w dysgu y byddai angen mynd â hwy ymhellach.  Cadarnhawyd y byddai’r swyddogaethau hynny yn cael eu cefnogi fel ymyrraeth gynnar, gan mai atal sy'n allweddol.

 

Roedd yr aelodau'n cytuno mai damwain anffodus a arweiniodd at golled erchyll plentyn oedd hyn.

 

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor wedi nodi’r adroddiad a'r Cynllun Gweithredu ac na fyddai angen i’r Pwyllgor gymryd unrhyw gamau pellach.

 

 

7.

Y DIWEDDARAF AR UNO GWASANAETHAU ADDYSG A GWASANAETHAU PLANT pdf eicon PDF 154 KB

{0>To consider a report by the Corporate Director:<}100{>Ystyried adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol:<0} {0>Communities (copy attached) to provide an update on the progress made in the joining of Education and Children’s Services.<}0{>Cymunedau (copi’n amgaeedig) i roi diweddariad ar y cynnydd a wnaed ar uno Gwasanaethau Addysg a Gwasanaethau Plant.<0}

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i ddarparu gwybodaeth am y cynnydd a wnaed wrth uno Addysg a Gwasanaethau Plant.  Roedd y ddau wasanaeth wedi bod yn gweithredu yn flaenorol fel gwasanaethau unigol, ond daethant at ei gilydd ym mis Ionawr 2016.

 

Ym mis Medi 2014, bu newidiadau arfaethedig i strwythur y sefydliad y Cyngor a oedd yn cynnwys uno’r Gwasanaeth Addysg a'r Gwasanaeth Plant a Theuluoedd i greu gwasanaeth newydd - Addysg a Gwasanaethau Plant.

 

Prif ganlyniad y newid oedd gwelliant ar unwaith mewn gwaith rhwng y gwahanol grwpiau.  Roedd gallu'r gwasanaeth newydd i symud yn gyflym yn ei ymateb i anghenion plant a phobl ifanc yn y sir, er mwyn sicrhau eu diogelwch a'u cefnogi i gyrraedd eu potensial trwy addysg a chyfleoedd cymdeithasol wedi bod yn hynod o effeithiol.

 

Roedd Tîm Rheoli ar y cyd gyda chynllun busnes un gwasanaeth.  Cydnabuwyd amcanion ac roedd wedi dod â manteision cadarnhaol i blant a phobl ifanc yn Sir Ddinbych.

 

Mynegodd yr Aelodau eu cymeradwyaeth mewn perthynas ag uno’r ddau wasanaeth, ynghyd â'u gwerthfawrogiad i'r Pennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant a'i staff am eu holl waith caled.

 

PENDERFYNWYD bod yr Aelodau'n ystyried ac yn nodi'r diweddariad ynghylch Ymuno Addysg a Gwasanaethau Plant.

 

 

8.

ADRODDIAD RHEOLIADAU ARIANNOL YSGOLION (DIWEDDARIAD) pdf eicon PDF 162 KB

{0>To consider a report by the Head of Finance / Education Resources and Support Manager (copy attached) to provide an update regarding financial regulations in place across Denbighshire Schools.<}0{>Ystyried adroddiad gan Bennaeth Cyllid/ Rheolwr Adnoddau a Chymorth Addysg (copi’n amgaeedig) i roi diweddariad ynglŷn â rheoliadau ariannol sydd ar draws Ysgolion Sir Ddinbych.<0}

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i ddarparu diweddariad ynglŷn â rheoliadau ariannol sydd ar waith ar draws ysgolion Sir Ddinbych. 

 

Yn dilyn cyfarfod Llywodraethu Corfforaethol ar 15 Mehefin 2016, cyflwynwyd adroddiad ar ddiweddariadau arfaethedig i Reoliadau Ariannol yr Awdurdod ei hun.  Yn ystod y trafodaethau yn y cyfarfod, gofynnwyd cwestiwn ynglŷn â Rheoliadau Ariannol mewn ysgolion, a pha un a ydynt yn gweithio i Reoliadau Ariannol yr Awdurdod ei hun.

 

Cynhaliwyd arolwg o holl ysgolion Sir Ddinbych, y mae eu canlyniadau'n cael eu dangos yn Atodiad 1 yr adroddiad.  Daeth ymatebion i law a ddatgelodd  bod holl ysgolion Sir Ddinbych yn gweithio o fewn Cynllun Sir Ddinbych ar gyfer Ariannu Ysgolion.  Roedd y Cynllun yn cynnwys gofynion sy’n ymwneud â rheolaeth ariannol a materion cysylltiol ac roedd yn orfodol ar yr Awdurdod ac ysgolion.

 

Yn ystod y drafodaeth, cododd y mater ynglŷn â llywodraethwyr ysgol, a p’un a gawsant ganllawiau ar y Rheoliadau Ariannol.  Cadarnhawyd y byddai'r wybodaeth yn cael ei chynhyrchu drwy Reolwr Cyllid neu Fusnes yr ysgol, ond byddai'n ofynnol i'r Llywodraethwyr gymeradwyo'r rheoliadau.

 

Yn y fan hon, esboniodd y Pennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant bod yr Awdurdod Lleol, ynghyd â'r Rheolwyr Busnes a Chyllid, yn cyfarfod yn rheolaidd ac y byddai'r eitem hon yn cael ei hychwanegu at y Rhaglen nesaf ar gyfer trafodaeth.  Cynhaliwyd cyfarfodydd rhwng Penaethiaid a'r Awdurdod Lleol bob tymor.  Dylai ysgolion sicrhau bod eu rheoliadau yn cael eu hadolygu yn rheolaidd a bod staff a llywodraethwyr yn ymwybodol ohonynt. 

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Archwilio Mewnol bod ei staff wedi gwneud adroddiad ar wahân yn 2016 ac wedi datblygu set newydd o ganllawiau, y byddai drafft ohonynt ar gael mewn tuag wythnos.  Byddai’r canllawiau drafft yn mynd allan i’r clwstwr er mwyn ceisio eu barn, gan ei bod yn ofynnol iddynt fod ar waith erbyn mis Ebrill 2017.

 

Ni archwiliodd yr Adran Archwilio Mewnol ysgolion Sir Ddinbych ond awgrymodd y Pennaeth Archwilio Mewnol y gellid cynnal ymarfer rheoli ansawdd.

 

Gofynnodd y Cadeirydd, y Cynghorydd Jason McLellan bod y canllawiau cronfeydd ysgol yn cael eu cyflwyno i'r Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Archwilio i'w trafod mewn Pwyllgor Archwilio.

 

Cytunwyd y byddai Rheoliadau Cyllid Ysgolion yn cael eu hychwanegu at raglen waith 29 Tachwedd 2017 ar gyfer adroddiad diweddaru.

 

PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi a bod diweddariad yn cael ei ychwanegu at y Rhaglen Waith i'r Dyfodol ym mis Tachwedd 2017 ar gyfer trafodaeth bellach.

 

 

9.

HYSBYSIAD O ARDYSTIAD CYFRIFON 2015/16 pdf eicon PDF 155 KB

{0>To consider a report by the Chief Accountant (copy attached) to provide the Committee with formal notification that the audit certification process for 2015/16 Statement of Accounts has been completed.<}81{>Ystyried adroddiad gan y Prif Gyfrifydd (copi’n amgaeedig) i ddarparu'r Pwyllgor gyda hysbysiad ffurfiol fod y broses ardystio archwilio ar gyfer Datganiad Cyfrifon 2015/16 wedi ei chwblhau.<0}

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Cyllid, Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad, y Cynghorydd Julian Thompson Hill yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i roi hysbysiad ffurfiol i’r Pwyllgor bod y broses ardystio archwiliad ar gyfer Datganiad Cyfrifon 2015/16 wedi ei chwblhau.

 

Yn dilyn archwiliad cyhoeddus o'r cyfrifon, codwyd gwrthwynebiad gan aelod o'r cyhoedd i Swyddfa Archwilio Cymru ar 27 Medi 2016.

 

Gellir cadarnhau bellach bod pob gohebiaeth wedi dod i ben a’r materion wedi’u datrys.  Ni arweiniodd unrhyw un o’r gwrthwynebiadau a godwyd yn rhan o’r broses arolygu gyhoeddus at newid y ffigurau na’r nodiadau ategol a ddatgelwyd yng nghyfrifon 2015/16.

 

PENDERFYNWYD bod Aelodau yn nodi bod y broses ardystio archwiliad wedi dod i ben yn ffurfiol o ran Datganiad Cyfrifon 2015/2016.

 

 

10.

ADRODDIAD RHEOLI TRYSORLYS pdf eicon PDF 90 KB

{0>To consider a report by the Chief Finance Officer (copy attached) on Treasury Management.<}83{>Ystyried adroddiad gan y Prif Swyddog Cyllid (copi'n amgaeedig) ar Reoli Trysorlys.<0}

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) a oedd yn dangos sut y byddai'r Cyngor yn rheoli ei fuddsoddiadau a'i fenthyciadau ar gyfer y flwyddyn i ddod ac yn nodi'r polisïau ymhle mae'r swyddogaeth Rheoli Trysorlys yn gweithredu.   Roedd yr adroddiad hefyd yn amlinellu effaith debygol y Cynllun Corfforaethol ar y strategaeth ac ar y Dangosyddion Darbodus.  Roedd yr Adroddiad Diweddaru ar Reoli Trysorlys yn darparu manylion ar weithgareddau Rheoli Trysorlys y Cyngor yn ystod 2016/17.

 

Mae Cod Ymarfer y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth ar Reoli Trysorlys (y "Cod RhT SSCCCh") yn gofyn i'r Cyngor gymeradwyo'r DSRhT a'r Dangosyddion Darbodus yn flynyddol.  Roedd yn ofynnol i'r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol adolygu'r adroddiad cyn ei gymeradwyo yn y Cyngor ym mis Chwefror 2017. 

 

Sicrhaodd cynllunio ariannol a gwneud penderfyniadau bod sylw priodol yn cael ei roi i ofynion Deddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol.

 

Yn ystod y drafodaeth codwyd y pwyntiau canlynol:

·       The Council set aside money each year to repay debt – Minimum Revenue Payment (MRP).Rhoddodd y Cyngor arian o'r neilltu bob blwyddyn i ad-dalu dyled – Isafswm Darpariaeth Refeniw (MRP). The MRP Policy received an annual review.Derbyniodd y Polisi MRP adolygiad blynyddol.

·       The Corporate Governance Committee had responsibility for scrutiny of the treasury management function.Roedd y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn gyfrifol am graffu ar swyddogaeth rheoli’r trysorlys.  Annual training requirements would be agreed with the Committee.Byddai gofynion hyfforddi blynyddol yn cael eu cytuno gyda'r Pwyllgor.

·       The Department of Communities and Local Government (CLG) had confirmed that HM Treasury (HMT) would be taking the necessary legislative steps to abolish the Public Works Loan Board.Roedd yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol (CLG) wedi cadarnhau y byddai Trysorlys EM (HMT) yn cymryd y camau deddfwriaethol angenrheidiol i ddiddymu Bwrdd Benthyca Gwaith Cyhoeddus. The CLG stated that it would have no impact on existing loans held by Local Authorities or the Government’s Policy on Local Authority borrowing.Dywedodd y CLG na fyddai'n cael unrhyw effaith ar fenthyciadau sy'n bodoli eisoes a ddelir gan Awdurdodau Lleol neu Bolisi’r Llywodraeth ar fenthyca yr Awdurdod Lleol.

·       It was confirmed that the Treasury Management Report would be presented at full Council in February 2017.Cadarnhawyd y byddai Adroddiad Rheoli'r Trysorlys yn cael ei gyflwyno yn y Cyngor llawn ym mis Chwefror 2017.

 

RESOLVED that the Committee note the Treasury Management Strategy Statement for 2017/18, the Prudential Indicators 2017/18 to 2019/20 and the Treasury Management Update Report 2016/17PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor yn nodi Datganiad Strategaeth Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2017/18, y Dangosyddion Darbodus 2017/18 i 2019/20 ac Adroddiad Diweddaru Rheoli'r Trysorlys 2016/17

 

 

Ar y pwynt hwn (11.25 am) cafwyd egwyl o 20 munud.

 

Ailddechreuodd y cyfarfod am 11.45 a.m.

 

 

Cytunwyd gan bawb oedd yn bresennol i amrywio trefn gweddill yr eitemau ar y Rhaglen.

 

 

Gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD dan ddarpariaethau Adran 100A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 14 o Ran 4 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

 

11.

ARCHWILIAD GWASANAETHAU PARCIO – AIL ADRODDIAD DIWEDDARU

{0>To consider a confidential report by the Traffic, Parking and Road Safety Manager (copy attached) providing an update on the remedial actions taken since the publication of the Parking Services Audit in August 2016.<}89{>Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch Ffyrdd (copi’n amgaeedig) yn rhoi diweddariad ar y camau adferol a gymerwyd ers cyhoeddi'r Archwiliad Gwasanaethau Parcio ym mis Awst 2016.<0}

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch ar y Ffyrdd yr adroddiad cyfrinachol (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau adferol a gymerwyd ers cyhoeddi'r Archwiliad Gwasanaethau Parcio ym mis Awst 2016, a'r adroddiad diweddaru cychwynnol a gyflwynwyd i'r Pwyllgor hwn ym mis Tachwedd 2016.

 

Cadarnhawyd y camau gweithredu adferol i aelodau'r Pwyllgor.

 

Diolchodd y Cadeirydd, y Cynghorydd Jason McLellan, i'r Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch ar y Ffyrdd gan fod yr holl gamau gweithredu wedi cael eu gwneud ac ni fyddai angen diweddariadau pellach ar y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol.

 

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor yn nodi cynnwys yr adroddiad a chadarnhau na fyddai angen unrhyw ddiweddariadau pellach ar y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol.

 

 

Yn y pwynt hwn, dychwelodd y cyfarfod i RAN 1

Gwahoddir y wasg a'r cyhoedd i fynychu rhan hon y cyfarfod.

 

 

 

12.

ADOLYGIAD O’R GOFRESTR RISG GORFFORAETHOL, RHAGFYR 2016 pdf eicon PDF 172 KB

Ystyried adroddiad gan Reolwr Tîm Cynllunio Strategol / Swyddog Cynllunio Strategol (copi'n amgaeedig) ar reoli Risg Gorfforaethol ac adolygu'r Gofrestr Risg Gorfforaethol.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Tîm Cynllunio Strategol yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i grynhoi sut cafodd y Gofrestr Risg Gorfforaethol ei monitro a'i rheoli ac, felly, yn cynrychioli adroddiad blynyddol ar gyfer y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol i ystyried sut mae'r Gofrestr Risg Gorfforaethol yn cael ei rheoli yn yr Awdurdod.

 

Cytunwyd ar y fersiwn ddiweddaraf ffurfiol o'r Gofrestr Risg Gorfforaethol yng nghyfarfod Briffio’r Cabinet ar 9 Ionawr 2017, a bydd yn cael ei chyflwyno i’w hystyried gan y Pwyllgor Archwilio Perfformiad ar 26 Ionawr 2017.

 

Bu’r Tîm Gweithredu Corfforaethol a’r Cabinet yn adolygu’r Gofrestr Risg Gorfforaethol yn ffurfiol ddwywaith y flwyddyn.  Ond cafodd unrhyw risgiau newydd arwyddocaol neu risgiau sy’n cynyddu yn cael dwyn i sylw’r Tîm Gweithredu Corfforaethol (drwy’r Tîm Cynllunio Strategol) pan gawsant eu canfod.  Yna bu i’r Tîm Gweithredu Corfforaethol benderfynu a ddylid cynnwys y risg yn y Gofrestr Risg Gorfforaethol.

 

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor yn nodi sut y rheolir Risg Gorfforaethol o fewn yr Awdurdod.

 

 

13.

DIWEDDARIAD AR GYNLLUN AMDDIFFYN ARFORDIR GORLLEWIN Y RHYL pdf eicon PDF 147 KB

{0>To consider a report by the Head of Audit (copy attached) to provide an update for the Committee on progress with implementing the action plan that formed part of Internal Audit’s report arising from its review of West Rhyl Coastal Defence Scheme Phase 3.<}84{>Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Archwilio (copi’n amgaeedig) yn rhoi diweddariad i’r Pwyllgor ar gynnydd gweithredu’r cynllun gweithredu a oedd yn rhan o adroddiad yr Adain Archwilio Mewnol a ddaeth yn sgil yr adolygiad o Gynllun Amddiffyn Arfordir Gorllewin y Rhyl Cam 3.<0}

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Archwilio Mewnol yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) gyda diweddariad i’r Pwyllgor ar gynnydd y cynllun gweithredu a oedd yn rhan o adroddiad yr Adain Archwilio Mewnol a ddaeth yn sgil yr adolygiad o Gynllun Amddiffyn Arfordir Gorllewin y Rhyl Cam 3.

 

Trafodwyd yr adroddiad Archwilio Mewnol gwreiddiol ar Gynllun Amddiffyn Arfordir Gorllewin y Rhyl Cam 3 yn y cyfarfod Pwyllgor ar 27 Ebrill 2016, a gofynnodd y Pwyllgor am ddiweddariad ar weithredu gwelliannau ym mis Ionawr 2017.

 

Yn y dyfodol, os byddai canlyniad melyn yn cael ei gynhyrchu gan Archwilio Mewnol, cadarnhawyd mai cyfrifoldeb y gwasanaeth fyddai cyflwyno adroddiad i'r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ynghyd ag esboniadau.

 

Roedd y broses wedi gweithio'n arbennig o dda o ran Cynllun Amddiffyn Arfordir Gorllewin y Rhyl.

 

Ymatebodd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Phriffyrdd i ymholiad yr Aelod Annibynnol, Paul Whitham, ynghylch Risg 4 - Hyfforddiant Caffael a sicrwydd na fyddai hyn yn cael ei anwybyddu.  Mae cynnwys yr hyfforddiant i’w adolygu a byddai'r hyfforddiant yn cael ei gynllunio ac ar gael o fis Chwefror.

 

Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Phriffyrdd bod llawer iawn o waith wedi cael ei wneud i roi sylw i'r materion, a bod gweithdrefnau cadarn bellach yn eu lle.  Cadarnhaodd fod ganddo bellach lawer mwy o ffydd ym mhrosesau’r gwasanaeth.

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd, y Cynghorydd Jason McLellan fod y Pwyllgor yn fodlon bod y risgiau wedi eu nodi, eu rhoi ar waith a’u cwblhau, ac na fyddai angen unrhyw ddiweddariad pellach gan y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor yn nodi'r adroddiad a'r cynnydd a wnaed hyd yma ac yn fodlon na fyddai angen diweddariad pellach.

 

 

14.

DIWEDDARIAD ARCHWILIO MEWNOL pdf eicon PDF 147 KB

{0>To consider a report by the Head of Internal Audit (copy enclosed) updating members on Internal Audit progress.<}86{>Ystyried adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Archwilio Mewnol (copi’n amgaeedig) yn diweddaru aelodau ar y cynnydd o ran Archwilio Mewnol.<0}

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Archwilio Mewnol yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i roi diweddariad ar y cynnydd Archwilio Mewnol diweddaraf o ran cyflwyno gwasanaeth, darpariaeth sicrwydd, adolygiadau a gwblhawyd, perfformiad ac effeithiolrwydd wrth sicrhau gwelliant.

 

Darparodd yr adroddiad wybodaeth ar y gwaith a gynhaliwyd gan Archwilio Mewnol ers y cyfarfod Pwyllgor diwethaf.  Galluogodd i’r Pwyllgor fonitro perfformiad a chynnydd yr Adain Archwilio Mewnol yn ogystal â darparu crynodebau o adroddiadau'r Adain Archwilio Mewnol er mwyn i’r Pwyllgor dderbyn sicrwydd ar wasanaethau eraill y Cyngor a meysydd corfforaethol.

 

Roedd angen monitro a mesur camau dilynol adroddiadau blaenorol yr Adain Archwilio Mewnol er mwyn gwella amser y camau dilynol.

 

Yn y pwynt hwn, hysbysodd y Pennaeth Archwilio Mewnol y Pwyllgor y byddai’n gadael yr Awdurdod ym mis Mai a bod Lisa Lovegrove wedi ei phenodi yn ei le.  Roedd Lisa ar gyfnod mamolaeth ar hyn o bryd a bydd yn dychwelyd ym mis Mehefin 2017.

 

Dymunodd y Cynghorydd Alice Jones a’r Pwyllgor yn dda iddo ar gyfer y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chofnodi’r adroddiad.

 

 

15.

RHAGLEN WAITH Y PWYLLGOR LLYWODRAETHU CORFFORAETHOL pdf eicon PDF 150 KB

{0>To consider the committee’s forward work programme (copy enclosed).<}100{>Ystyried rhaglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor (copi’n amgaeedig).<0}

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol i'w ystyried a chytunodd yr aelodau ar yr ychwanegiadau canlynol:-

 

·       27 Medi 2017 - Rheoli Gwybodaeth a Rheoli TG mewn Ysgolion

·       29 Tachwedd 2017 - Rheoliadau Cyllid Ysgolion

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar yr uchod bod rhaglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn cael ei gymeradwyo.

 

 

 

The meeting concluded at 12.30 p.m.Daeth y cyfarfod i ben am 12.30pm.