Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU |
|
DATGANIADAU CYSYLLTIAD Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.
Cofnodion: Roedd y
cysylltiad canlynol wedi ei nodi mewn eitem busnes i gael ei ystyried yn y
cyfarfod. Eitem 6
ar y Rhaglen "Datganiad Cyfrifon Drafft" – Datganwyd cysylltiad
personol gan y Cynghorydd M L Holland. Y rheswm am y
datganiad oedd bod yr Aelod perthnasol o'r Pwyllgor yn Aelod o Fwrdd Clwydfro
Cyfyngedig. |
|
MATERION BRYS Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o
frys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 15 Mehefin,
2016. Cofnodion: 9. Diweddaru
Rheoliadau Ariannol y Cyngor:- Gofynnodd Mr P. Whitham am sicrwydd bod ysgolion
yn gweithio i reolau a rheoliadau a oedd yn cyfateb i'r Rheoliadau Ariannol
Ysgolion Cyffredinol. Eglurodd y Prif Swyddog Cyllid, fel y cytunwyd yn y
cyfarfod blaenorol, y byddai adolygiad yn cael ei gynnal o'r rheoliadau oedd
gan bob ysgol yn Sir Ddinbych yn eu lle i gydymffurfio â'r gofynion, a
chadarnhaodd y byddai adroddiad pellach o ran y canlyniad yn cael ei gyflwyno
i'r Pwyllgor. 12. Rheoli Cronfeydd
Ysgol Wirfoddol, Adroddiad Archwilio:- Roedd Mr P. Whitham yn holi am y camau
i’w cymryd, cyn diwedd y tymor ysgol, i hysbysu holl Gyrff Llywodraethu
Ysgolion am y pryderon a’r gwendidau a nodwyd gan y Pwyllgor ynghylch agweddau
ar lywodraethu ysgolion, ac yn arbennig rheoli a gweinyddu cronfeydd yr ysgol.
Cadarnhaodd y Pennaeth Archwilio Mewnol ei fod wedi
cysylltu â'r Rheolwr Cynllunio ac Adnoddau Addysg ynghylch y mater hwn, ac fe
ystyriwyd mai’r amser mwyaf priodol ac effeithiol i ddosbarthu gwybodaeth ac
arweiniad o'r fath i Benaethiaid a Chyrff Llywodraethu ysgolion, o ran gwella
rheoli cronfeydd yn effeithiol gan ysgolion, fyddai mis Medi yn dilyn gwyliau'r
haf. Mewn
ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd M.L Holland, rhoddodd y Pennaeth Archwilio
Mewnol fanylion y broses ar gyfer monitro cwblhau a chyflwyno Tystysgrifau
Archwilio gan ysgolion. Cytunodd yr Aelodau bod unrhyw
anghysondebau ynghylch cyflwyno Tystysgrifau Archwilio yn cael eu cyflwyno i'r
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol. Esboniodd y
Cadeirydd fod y tueddiadau a nodwyd gan y Pwyllgor wedi eu trafod gan y
Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Archwilio.
Cadarnhaodd yr HLHRDS bod y Cabinet wedi gofyn i
Grŵp o Aelodau'n edrych yn fanwl, gan fabwysiadu ymagwedd anfeirniadol,
themâu ac unrhyw dueddiadau sy'n ymwneud â balansau ysgolion.
Cadarnhawyd y byddai unrhyw faterion a nodwyd yn cael eu
hadrodd i'r Cabinet a rhoddir ystyriaeth i weithrediad y camau priodol.
Cadarnhaodd y Pennaeth
Archwilio Mewnol y byddai manylion y trosiant blynyddol agreg a’r balansau
diwedd blwyddyn o'r ysgolion a adolygwyd yn cael eu hanfon at Mr Whitham fel y
penderfynwyd gan y Pwyllgor. PENDERFYNWYD – yn amodol ar
yr uchod, derbyn a chymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir. |
|
CYNLLUN ARCHWILIO MEWNOL DIWYGIEDIG 2016/17 PDF 152 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Archwilio Mewnol (copi wedi ei amgáu) sy’n cyflwyno’r
cynllun Archwilio Mewnol diwygiedig ar gyfer 2016/17. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd adroddiad gan y Pennaeth Archwilio Mewnol, a
oedd yn cynnwys manylion Cynllun Sicrwydd Archwilio Mewnol Blynyddol diwygiedig
ar gyfer Gorffennaf 2016 i Mawrth 2017, wedi cael ei ddosbarthu ymlaen llaw. Darparodd y Pennaeth Archwilio Mewnol grynodeb o'r adroddiad a oedd yn
manylu ar y prosiectau Archwilio Mewnol arfaethedig ar gyfer gweddill y
flwyddyn. Byddai hyn yn caniatáu i'r Pennaeth Archwilio Mewnol ddarparu 'barn' ar
ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd fframwaith lywodraethu, risg a rheolaeth y
Cyngor yn ystod y flwyddyn. Roedd y Cynllun Sicrwydd Archwilio gwreiddiol wedi’i gymeradwyo yn
Ebrill 2016 ond o ganlyniad i absenoldeb mamolaeth ar y gweill o fewn y
gwasanaeth, roedd angen adolygu’r Cynllun Sicrwydd Archwilio, Atodiad 1. Byddai'r cynllun arfaethedig o waith yn caniatáu
i'r Pennaeth Archwilio Mewnol ddarparu 'barn' gyffredinol yn ei adroddiad
blynyddol ar gyfer 2016-17, a byddai'r Pwyllgor yn derbyn adroddiadau cynnydd
rheolaidd ar gyflawni'r Cynllun Sicrwydd Archwilio. Roedd y Pennaeth Archwilio Mewnol wedi cyfarfod â Thimau Rheoli'r holl
wasanaethau i drafod gwaith arfaethedig Archwilio Mewnol ar gyfer y Cynllun
Sicrwydd Archwilio gwreiddiol. Fe eglurwyd y gall methu â chyflwyno lefel ddigonol
o archwilio mewnol olygu na allai’r Pennaeth Archwilio Mewnol roi 'barn'
flynyddol ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd fframwaith y Cyngor ar
lywodraethu, risg a rheolaeth yn ystod y flwyddyn. Gallai hyn
arwain at broblem llywodraethu sylweddol yn cael ei chodi yn 'Natganiad
Llywodraethu Blynyddol’ y Cyngor ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Mewn ymateb i gwestiwn oddi wrth y Cynghorydd M.L. Holland, eglurodd y
Pennaeth Archwilio Mewnol nad oedd yr adolygiad o brosiectau mawr yn ardaloedd
Y Rhyl a Phrestatyn wedi ei gynnwys ar hyn o bryd. Fodd bynnag,
gallai prosiectau gael eu hepgor a’u cynnwys yn y Gofrestr Prosiectau Verto a
gafodd ei fonitro'n rheolaidd. Cyfeiriodd y Cadeirydd at y gwaith a wnaed gan y
Byrddau Prosiect perthnasol. Cyfeiriodd Mr P. Whitham at Gynllun Amddiffyn
Arfordir Gorllewin y Rhyl Cam 3, a oedd y prosiect cyntaf i gael ei adolygu gan
ddefnyddio'r rhestr wirio, a'r cadarnhad a dderbyniwyd y byddai'r broses hon yn
cael ei mabwysiadu ar gyfer prosiectau eraill. Ymatebodd y Pennaeth Archwilio Mewnol i gwestiwn gan Mr P. Whitham, ac
eglurodd na allai'r 225 diwrnod a ddyrannwyd i feysydd gwaith a ariennir yn
allanol gael ei leihau gan fod hyn yn destun gwaith a gontractiwyd. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd mewn perthynas â chynhyrchu incwm,
eglurodd y Pennaeth Archwilio Mewnol y byddai caffael gwaith ychwanegol yn
arwain at yr angen i gyflogi staff ychwanegol a fyddai'n cynyddu costau
staffio. PENDERFYNWYD - Bod y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn cymeradwyo Cynllun Sicrwydd Blynyddol
diwygiedig Archwilio Mewnol 2016-17 (Atodiad 1). (IB i
Weithredu) |
|
DATGANIAD CYFRIFON DRAFFT PDF 80 KB Ystyried
adroddiad gan y Prif Swyddog Cyllid (copi wedi’i amgáu) ar y Datganiad Cyfrifon
Drafft. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd adroddiad gan y Prif Gyfrifydd, a oedd yn
rhoi trosolwg o’r Datganiad Cyfrifon drafft 2015/16 a'r broses sy'n sail iddo,
eisoes wedi'i ddosbarthu. Cyflwynodd y Cynghorydd J. Thompson-Hill yr adroddiad. Mae gan y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol gyfrifoldeb wedi’i ddirprwyo iddo i
gymeradwyo'r cyfrifon archwiliedig a fydd yn cael eu cyflwyno ar 28 Medi
2016. Roedd cyflwyno'r cyfrifon drafft
yn rhoi arwydd cynnar o sefyllfa ariannol y Cyngor a gall dynnu sylw at unrhyw
broblemau yn y cyfrifon neu'r broses cyn i'r cyfrifon gael eu harchwilio. Roedd gan y Cyngor ddyletswydd statudol i baratoi Datganiad Cyfrifon sy’n
cydymffurfio â safonau cyfrifo cymeradwy. Roedd yn rhaid i
Aelodau gymeradwyo'r Cyfrifon a archwiliwyd yn ffurfiol ar ran y Cyngor ac
roedd y rôl hon wedi ei dirprwyo i’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol. Roedd y
cyfrifon drafft wedi eu cwblhau a’u llofnodi gan y Pennaeth Cyllid ar 21
Mehefin. Roedd y
cyfrifon drafft ar gael i’w harchwilio yn ôl y gofyn a byddan nhw hefyd ar gael
i’r cyhoedd eu harchwilio rhwng 11 Gorffennaf a 5 Awst. O ystyried rôl y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol o ran cymeradwyo'r
cyfrifon terfynol, roedd yn fanteisiol rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf a throsolwg
ar y cam drafft i'w ystyried cyn cyflwyno'r cyfrifon terfynol ym mis Medi. Roedd
cyhoeddi’r Datganiad Cyfrifon yn sail i stiwardiaeth a llywodraethu ariannol y
Cyngor ac felly roedd yn cefnogi holl wasanaethau a blaenoriaethau’r Cyngor. Roedd gweithdrefnau a phrosesau’r Cyngor sy’n sail
i gynhyrchu'r cyfrifon wedi eu hadolygu'n rheolaidd gan Swyddfa Archwilio
Cymru. Cafwyd barn broffesiynol oddi wrth nifer o
ddisgyblaethau eraill tu hwnt i gyllid, megis yr adain gyfreithiol, prisio
eiddo, adnoddau dynol a phensiynau. Roedd y Datganiad
Cyfrifon yn elfen allweddol o fframwaith llywodraethu'r Cyngor ac roedd yn
bwysig darparu sicrwydd bod y Cyfrifon wedi cael eu llunio yn unol â'r safonau
perthnasol, a bod y broses sy'n sail ar gyfer eu cynhyrchu yn gadarn. Byddai’r Cyngor
yn torri ei ddyletswydd statudol pe na byddai'n gallu cymeradwyo'r cyfrifon
erbyn 30 Medi 2016. Rhoddodd y Prif Gyfrifydd grynodeb manwl o Atodiad 1, Datganiad o gyfrifon
2015/16 ac amlygwyd y meysydd canlynol:- ·
Darparwyd manylion ar yr Alldro Refeniw Terfynol, gan
gyfeirio'n benodol at y tanwariant o £1.1miliwn, Balansau a Glustnodwyd -
Gwasanaethau, Trosglwyddiadau i Gronfa Wrth Gefn Lliniaru Cyllideb a Balansau
Ysgolion. Adolygiad o'r flwyddyn - Gwariant Cyfalaf. Cynllun Busnes Stoc Tai. ·Cytundeb Prosiect
Menter Cyllid Preifat. ·
Datganiad ynglŷn â’r Symudiadau yn y Cronfeydd wrth
Gefn. ·
Partïon cysylltiedig. Fel cyn aelod o'r Bwrdd, rhoddodd y Cynghorydd M L Holland fanylion am y
cefndir yn ymwneud â Clwydfro Cyfyngedig. Amlygodd y Cynghorydd E.A. Jones yr effaith bosibl a goblygiadau sy'n codi
o ganlyniad i Brexit mewn perthynas â ffrydiau ariannu grant. Cyfeiriodd y
Prif Swyddog Cyllid at yr ansicrwydd ar hyn o bryd, ond cadarnhaodd bod y
ffrydiau cyllid grant yn cael eu harchwilio a'u monitro. Cytunodd y
Pwyllgor fod y Prif Swyddog Cyllid yn dosbarthu dogfennau sydd ar gael yn
ymwneud ag effaith sy'n deillio o Brexit i bob Aelod Etholedig. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd M.L Holland, rhoddwyd cadarnhad bod
cyfeiriad at y diffyg pensiwn wedi’i gynnwys yn y Cyfrifon. Gwahoddodd Mr P. Whitham sylw i’r Cynllun Gweithredu Gwella Llywodraethu a'r cyfeiriad a wnaed at yr ymateb gwael i'r Arolwg Trigolion, a gostyngiad sylweddol mewn presenoldeb Aelodau yng nghyfarfodydd y Pwyllgor Archwilio. Awgrymodd Mr Whitham y gallai'r materion hyn gael eu cynnwys ar y Gofrestr Risg. Esboniwyd er gwaethaf y lefel ymateb credir bod yr Arolwg Trigolion wedi cael ei ystyried yn ddilys. Cadarnhawyd nad oedd yr Arolwg yn ofyniad statudol. Fodd bynnag, roedd wedi cael ei weld fel rhan o'r strwythur ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
ADOLYGIAD RHEOLI TRYSORLYS PDF 100 KB Ystyried
adroddiad gan y Prif Swyddog Cyllid (copi wedi’i amgáu) ar y Adolygiad Rheoli
Trysorlys. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd adroddiad gan y Prif Swyddog Cyllid wedi
cael ei ddosbarthu yn flaenorol. Rhoddodd y Cynghorydd J. Thompson-Hill grynodeb
manwl o'r adroddiad ac Atodiadau 1 a 2. Roedd yr Adroddiad Blynyddol ar Reoli Trysorlys
2015/16, Atodiad 1 yn sôn am weithgarwch buddsoddi a benthyca'r Cyngor yn ystod
2015/16. Roedd yn rhoi manylion am yr hinsawdd economaidd ar yr adeg honno ac
yn dangos sut y cydymffurfiodd y Cyngor â'i Ddangosyddion Darbodus. Roedd yr
Adroddiad Diweddaru ar Reoli Trysorlys, Atodiad 2, yn rhoi manylion am
weithgarwch Rheoli Trysorlys y Cyngor yn ystod 2016/17. Roedd y term ‘rheoli trysorlys’ yn cynnwys rheoli
benthyca, buddsoddiadau a llif arian y Cyngor. Roedd oddeutu £0.5bn yn
mynd trwy gyfrifon banc y Cyngor bob blwyddyn, ac roedd swm benthyca’r cyngor
heb ei dalu ar 31 Mawrth 2016 yn £190.17m ar gyfradd gyfartalog o 4.95% ac
roedd gan y Cyngor fuddsoddiadau o £12miliwn ar gyfradd gyfartalog o 0.61%.
Cytunwyd gan y
Cyngor ym mis Hydref 2009 y dylai’r gwaith o lywodraethu Rheoli Trysorlys fod
yn destun archwilio gan y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol. Rhan o’r rôl
hon oedd cael diweddariad ar weithgareddau rheoli trysorlys ddwywaith y
flwyddyn ac i adolygu’r Adroddiad Rheoli Trysorlys Blynyddol ar gyfer
2015/16. Byddai’r tîm Rheoli Trysorlys
yn darparu adroddiadau a hyfforddiant i'r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol
yn unol â'r amserlen yn yr adroddiad. Roedd Rheoli Trysorlys yn faes cymhleth ac
ystyriwyd bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn fwy priodol na’r Cyngor
i gael y diweddariadau hyn fel y gellid neilltuo cyfanswm yr amser a’r
ymrwymiad i’r maes hwn. Roedd yn ofynnol i’r Pwyllgor gael lefel benodol o
ddealltwriaeth yn y maes hwn a chaiff hyn ei gyflawni drwy ddiweddariadau a
sesiynau hyfforddi rheolaidd. Roedd rôl y
Pwyllgor yn cynnwys:- ·
deall y Dangosyddion Darbodus ·
deall effaith benthyca ar y sefyllfa refeniw ·
deall y cymhellion ehangach sy’n cael effaith ar
weithgarwch Rheolwyr Trysorlys y Cyngor ·
sicrhau bod y Cyngor bob amser yn gweithredu mewn modd darbodus
mewn perthynas â'i weithgareddau Rheoli Trysorlys Diben Adroddiad Rheoli Trysorlys Blynyddol (Atodiad
1) oedd: ·
cyflwyno manylion am gyllid cyfalaf, benthyca, ad-drefnu
dyledion a thrafodion buddsoddi yn 2015/16;
·
adrodd am
oblygiadau risg penderfyniadau a thrafodion y trysorlys; ·
cadarnhau cydymffurfiaeth â therfynau’r trysorlys a
Dangosyddion Darbodus. Roedd adroddiad diweddaru Rheoli Trysorlys, Atodiad
2, yn rhoi manylion am y canlynol:- ·
Amgylchedd economaidd allanol ·
Risgiau ·
Gweithgaredd ·
Rheolaethau ·
Gweithgarwch yn y Dyfodol Roedd penderfyniadau buddsoddi a benthyca da yn
caniatáu i adnoddau ychwanegol gael eu cyfeirio at wasanaethau eraill y Cyngor,
ac roedd y Cyngor wedi ymgynghori â'i gynghorwyr trysorlys, Arlingclose
Ltd. Roedd Rheoli Trysorlys yn ymwneud â
gofalu am symiau sylweddol o arian parod felly roedd yn rhan hanfodol o waith y
Cyngor. Roedd angen strategaeth gadarn a rheolaethau
priodol i ddiogelu arian y Cyngor er mwyn sicrhau enillion rhesymol ar
fuddsoddiadau a bod dyled yn cael ei reoli’n effeithiol ac yn ddoeth. Mabwysiadodd y Cyngor y Cod Ymarfer diwygiedig SSCCCh ar Reoli Trysorlys yn
Chwefror 2012. Roedd yn ofyniad gan y Cod hwnnw i’r Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol gael y wybodaeth ddiweddaraf ar weithgareddau Rheoli Trysorlys
ddwywaith y flwyddyn ac adolygu Adroddiad Rheoli Trysorlys Blynyddol. Roedd y Cyngor
wedi cymeradwyo Cynllun Corfforaethol uchelgeisiol sy’n cynnwys buddsoddi tua
£92m i ddarparu ei flaenoriaethau dros y bedair blynedd nesaf. Roedd yn hanfodol
bod gan y Cyngor swyddogaeth Rheoli Trysorlys gadarn ac effeithiol sy’n ategu’r
buddsoddiad hwn a’r holl weithgareddau eraill. Roedd Rheoli Trysorlys ynddo’i hun yn risg, ond roedd y Cyngor yn monitro ac yn rheoli’r risgiau hyn fel yr amlinellir yn y prif adroddiad. Fodd bynnag, roedd yn amhosibl i gael gwared ar risgiau yn gyfan gwbl. Cafodd strategaeth a gweithdrefnau rheoli trysorlys y cyngor ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL AR RANNU PRYDERON PDF 79 KB Ystyried
adroddiad gan Bennaeth y Gyfraith, Adnoddau Dynol a Gwasanaethau Democrataidd
(copi’n amgaeedig) ar y Adroddiad Blynyddol ar Rannu Pryderon. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd adroddiad gan y Swyddog Monitro, a oedd yn
darparu gwybodaeth sy’n ymwneud â gweithredu’r polisi yn ystod y flwyddyn
ddiwethaf cyn ac ar ôl mabwysiadu’r Polisi a adolygwyd yn ddiweddar wedi’i
ddosbarthu o’r blaen. Roedd yr adroddiad
wedi ei gyflwyno yn unol â Pholisi Rhannu Pryderon y Cyngor, a oedd yn cynnwys
gofyniad bod y Swyddog Monitro yn cyflwyno adroddiad i'r Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol o leiaf unwaith y flwyddyn ar weithrediad y Polisi ac unrhyw
newidiadau mewn ymarfer a gyflwynwyd o ganlyniad i bryderon a godwyd o dan y
Polisi. Roedd y Cyngor wedi cymeradwyo Polisi Rhannu Pryderon wedi'i ddiwygio a'i
ddiweddaru yn ddiweddar a oedd yn cynnwys gofyniad, o leiaf bob blwyddyn, y
dylai’r Swyddog Monitro, mewn fformat dienw adrodd ar weithrediad y Polisi ac
unrhyw newidiadau i ymarfer a gyflwynwyd o ganlyniad i bryder a godwyd o dan y
Polisi hwn. Roedd yr adroddiad yn mynd i'r afael â phryderon a godwyd o dan y polisi
ers 1 Ebrill 2015 hyd yma. Roedd Atodiad 1 yn nodi natur y pryderon hynny a
sut yr oeddent wedi derbyn sylw. Bu dau o bryderon a godwyd o dan y Polisi yn ystod y cyfnod dan sylw. Roedd y cyntaf
yn ymwneud â datgeliad anawdurdodedig o wybodaeth gyfrinachol oherwydd nad oedd
y wybodaeth wedi ei chadw'n ddiogel. Gwnaed newidiadau i'r
arfer o fewn yr Adran dan sylw i sicrhau bod y risg o ddigwyddiad o'r fath yn
cael ei leihau yn y dyfodol. Roedd yr ail bryder yn ymwneud â honiadau a wnaed
gan gyn-weithiwr mewn perthynas ag arferion sy'n ymwneud â rheoli llety gofal
ychwanegol. Roedd ymchwiliad wedi cael ei gynnal ond ni wnaed
penderfyniad ynglŷn â’r canlyniad eto. Nid oedd unrhyw batrwm
na thema wedi deillio o'r pryderon a godwyd. Roedd
y Polisi diwygiedig, ynghyd â Pholisïau eraill cysylltiedig â gweithiwr a
gytunwyd arnynt, wedi cael eu fformatio ac wedi eu cyfieithu’n ddiweddar. Byddai'r tudalennau mewnrwyd
AD newydd yn cael eu lansio erbyn diwedd mis Gorffennaf, ac fel rhan o'r
lansiad y bwriad oedd i ganolbwyntio ar hyrwyddo polisïau newydd gan gynnwys y
Polisi Rhannu Pryderon newydd. Byddai Partneriaid Busnes Adnoddau Dynol yn hyrwyddo'r Polisi o fewn eu
gwasanaethau cleient mewn cyfarfodydd rheoli a byddai rheolwyr yn derbyn
gwybodaeth yn uniongyrchol. Roedd
AD yn edrych ar y posibilrwydd o gael cyflwyniad y Polisi mewn fformat e-ddysgu
i godi ymwybyddiaeth. Byddai ymwybyddiaeth o'r
Polisi ymhlith staff ac eraill yn allweddol i'w lwyddiant, a'r gobaith oedd y
byddai lansiad cydgysylltiedig yn cyflawni hyn. Byddai’r Polisi Rhannu Pryderon yn cynorthwyo’r Blaenoriaethau
Corfforaethol drwy helpu i foderneiddio'r Cyngor drwy sicrhau bod rheolwyr a gweithwyr
yn ymwybodol o'u rhwymedigaethau yn unol â deddfwriaeth ac arfer da. Eglurwyd y byddai
trefniadau rhannu pryderon cadarn yn helpu i gefnogi llywodraethu da ar draws y
Cyngor. Yn absenoldeb Polisi Rhannu Pryderon cadarn ac effeithiol a Gweithdrefn yr
oedd gweithwyr a thrydydd partïon sy’n ymgysylltu â'r Cyngor yn gyfarwydd â
hwy, byddai perygl na fyddai pryderon ynghylch camarfer yn dod i sylw'r Cyngor. Roedd yn
hanfodol bod gweithwyr yn deall y byddent yn cael eu diogelu pe baent yn codi
pryder gyda’r gred resymol bod eu hadroddiad wedi ei wneud er budd y cyhoedd. Eglurodd yr HLHRDS y
byddai'r partneriaid busnes AD yn hyrwyddo'r Polisi o fewn eu gwasanaethau eu
hunain, a byddai cynnwys y Polisi Rhannu Pryderon yn cael ei drosi i fformat
e-ddysgu er mwyn galluogi mynediad ar gyfer ei ddefnyddio fel ymarfer
ymwybyddiaeth. Mewn ymateb i gwestiwn gan Mr P. Whitham, rhoddodd yr HLHRDS gadarnhad y byddai'r Polisi Rhannu Pryderon yn berthnasol i drydydd partïon, cyrff allanol, ymgynghorwyr a byddai ar gael i ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
RHAGLEN WAITH Y PWYLLGOR LLYWODRAETHU CORFFORAETHOL PDF 128 KB Ystyried rhaglen
gwaith i’r dyfodol y pwyllgor (copi wedi’i amgáu). Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor
Llywodraethu Corfforaethol (a ddosbarthwyd eisoes) i’w ystyried. Cadarnhaodd y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor yn amodol ar gynnwys yr adroddiadau
canlynol:- 28 Medi 2016:- -
Bod Llythyr Ymholiadau Archwilio
Corfforaethol Sir Ddinbych yn cael ei gynnwys yn y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
ar gyfer Medi 2016. -
Cynnwys Adroddiad Consortiwm Rhanbarthol GwE yn y Rhaglen
Gwaith i'r Dyfodol ar gyfer Medi 2016. -
Adroddiad Datganiad Ariannol Swyddfa
Archwilio Cymru (i gynnwys Llythyr Sicrwydd Swyddfa Archwilio Cymru). 23 Tachwedd 2016:- -
Adroddiad Rheoliad Ariannol –
Diweddariad i gael ei gynnwys yn y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ar gyfer Tachwedd
2016 Ionawr,
2017:- Diweddariad Rheoliadau Ariannol Ysgolion - Nododd yr Aelodau gais a dderbyniwyd gan y Cynghorydd P.C. Duffy fod yr eitem hon yn cael ei hystyried yng nghyfarfod Tachwedd 2016. Ar ôl ystyried yr amserlenni roedd yr Aelodau yn teimlo y dylai'r adroddiad gael ei gynnwys yn y rhaglen gwaith i'r dyfodol ar gyfer Ionawr 2017. Mewn
ymateb i gwestiwn gan Mr P. Whitham mewn perthynas â'r Gofrestr Risg
Gorfforaethol, cadarnhawyd bod Adroddiad Blynyddol yn cael ei gyflwyno i'r
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol. Eglurodd yr HLHRDS fod Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol
yn cynnwys y trefniadau monitro ar gyfer rheoli risgiau. Dywedodd wrth y Pwyllgor fod
yr elfen perfformiad o sicrhau bod risgiau yn cael eu lliniaru a'u rheoli'n
briodol yn swyddogaeth archwilio. PENDERFYNWYD - yn amodol
ar yr uchod bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol. (CIW i Weithredu) Daeth y cyfarfod i ben am 11.15am. |