Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.
Cofnodion: Ni
wnaeth unrhyw aelod ddatgan cysylltiad personol neu sy’n rhagfarnu. |
|
MATERION BRYS Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
faterion y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel mater
brys yn unol ag Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol, 1972. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 18 Tachwedd
2015. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 18 Tachwedd,
2015. Materion yn
codi:- 5.
Ysgol Mair, Rhyl - Adroddiad Archwiliad Mewnol:- Mewn ymateb i faterion a
godwyd gan y Cynghorydd P.C. Duffy a’r Cadeirydd nad oedd y cofnodion wedi
adlewyrchu’r drafodaeth yn y cyfarfod, rhoddodd Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol,
Adnoddau Dynol a Democrataidd (HLHRDS) fanylion y protocol o
safbwynt darparu cofnodion nad yn gofnod llafar o’r drafodaeth. Eglurodd mai
pwrpas y cofnodion oedd adlewyrchu teimlad y cyfarfod a chadarnhaodd y byddai
pryderon Aelodau’n cael eu cofnodi.
(GW i weithredu) 8.
Cofrestr Risg Gorfforaethol: - Gofynnodd Mr P. Whitham pryd y byddai’r Pwyllgor
Llywodraethu Corfforaethol yn cael cyfle i ddylanwadu ar effaith Deddf Llesiant
Cenedlaethau’r Dyfodol o safbwynt rheoli risg. Cadarnhaodd y Cadeirydd fod y
mater wedi ei drafod gan Gadeiryddion Archwilio a’r Grŵp Is-gadeiryddion
yn Rhagfyr. Cadarnhaodd Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a
Democrataidd (HLHRDS) y byddai Pwyllgor Archwilio Cymunedau’n
cynnal gweithdy ar 4 Chwefror i ystyried y mater hwn a bod gwahoddiad i bob
Aelod ei fynychu. O ran rheoli risg roedd Bwrdd Gweithredu ar gyfer y Ddeddf a
byddai gwahanol ffrydiau gwaith yn cael eu nodi ac yn cael eu hystyried gan
swyddogion yn Chwefror. Byddai’r materion hyn yn cynnwys sut byddai’r Pwyllgor
Craffu’n ystyried sut i weithredu a monitro’r Ddeddf ac yn ystyried newidiadau
posibl i dempledi adrodd er mwyn cynnwys gofynion y Ddeddf. Eglurodd
Pennaeth
Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd (HLHRDS)
ei fod yn rhagweld y byddai adroddiad yn cael ei baratoi ar yr elfen risg. Mewn
ymateb i gais gan Mr Whitham, cytunwyd y byddai Pennaeth Cynllunio Busnes a
Pherfformiad yn darparu adroddiad diweddaru yng nghyfarfod y Pwyllgor fis
Mawrth o safbwynt rheoli risg, a chynnwys diddordebau ehangach y Pwyllgor o
safbwynt y Ddeddf.
(GW, AS i weithredu) PENDERFYNWYD - yn
amodol ar yr uchod, fod y cofnodion yn cael eu derbyn a’u cymeradwyo fel cofnod
cywir. RHAN II Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD – gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod dan
ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, tra bod yr eitemau canlynol
yn cael eu trafod oherwydd ei bod yn debygol y bydd gwybodaeth eithriedig yn
cael ei datgelu fel y diffinnir hi ym Mharagraffau 14 ac 18 Rhan 4, Atodlen 12A
o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. |
|
YSGOL MAIR RHYL- CYNLLUN ADFER ARIANNOL Ystyried adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth yr Adain Archwilio Mewnol (copi
ynghlwm) sy’n darparu manylion am Gynllun Adfer Ariannol Ysgol Mair. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Archwilio
Mewnol a oedd yn darparu manylion am
Gynllun Adfer Ariannol
(CAA) Ysgol Mair, wedi ei gylchredeg ymlaen llaw. Dywedwyd wrth Aelodau gan fod Estyn ar fin cynnal Arolwg yn Ysgol Mair, nad
oedd y Pennaeth yn gallu mynychu’r cyfarfod. Cynrychiolid yr ysgol gan Ms Gill
Greenland, Cadeirydd y Corff Llywodraethwyr, a diolchodd Cadeirydd y Pwyllgor i
Ms Greenland am fynychu’r cyfarfod. Cyflwynodd Pennaeth Archwilio Mewnol yr adroddiad ac eglurodd fod yr
adroddiad Archwilio Mewnol yn Awst wedi tynnu sylw at ddiffyg ariannol yn Ysgol
Mair, a bod angen i’r ysgol ddatblygu CAA cadarn. Cadarnhaodd y Pennaeth
Archwilio Mewnol, yn amodol ar weithredu CAA, fod Atodiad A, y Cynllun
Gweithredu o fewn yr Arddodiad Archwilio wedi ei ddatblygu. Eglurwyd gan fod y CCA arfaethedig yn golygu
lefel o newid sylweddol bod cyfarfodydd wedi eu cynnal gydag Adnoddau Dynol
Strategol i drafod prosesau a gyda’r Adran Addysg i’w hysbysu o’r camau
arfaethedig. Rhoddodd Ms G. Greenland fanylion cefndirol a oedd yn berthnasol i’r ysgol,
sef:- -
Nad oedd yr ysgol ar unrhyw
adeg yn y gorffennol wedi bod mewn diffyg. -
Yn 2015 roedd gan yr ysgol
gredyd o £11k. -
Roedd yn syndod bod diffyg o
£42k wedi ei nodi. -
Roedd problemau wedi codi yn sgil ymddiswyddiad yr
Ymgynghorydd Ariannol. -
Roedd y Dirprwy Bennaeth wedi
cael ei symud i helpu ysgol yn Sir y Fflint. -
Roedd yr Esgobaeth wedi cytuno
i hysbysebu swydd Pennaeth. -
Ni fyddai Dirprwy Bennaeth. -
Roedd yr ysgol mewn ardal ddifreintiedig, ac roedd gan
rai disgyblion ymddygiad heriol. -
Roedd yr Undeb wedi ei galw i
mewn a chymorth wedi ei roi gan Adnoddau Dynol. -
Derbyniwyd gwahoddiad i ymweld ag ysgol ym Mochdre a oedd
yn gweithredu heb Ddirprwy Bennaeth. -
Derbyniwyd cymorth a chyngor
gan Reolwr Cyllid yr Ysgol. Estynnodd y Cadeirydd ei longyfarchiadau i’r
ysgol am fynd i’r afael a meysydd pryder eraill a nodwyd ond pwysleisiodd yr
angen i fynd ati i weithredu’r CCA. Holodd y Cynghorydd P.C. Duffy pam
nad oedd y problemau ariannol hyn wedi eu nodi’n gynt, yn arbennig gan Gorff
Llywodraethu’r Ysgol. Eglurodd y Cynghorydd Duffy ei fod ar ddeall bod y
polisïau a’r gweithdrefnau priodol eisoes wedi eu gweithredu i atal anomaleddau
fel hyn. Teimlai Ms Greenland fod y prif broblemau yn deillio o’r ffaith bod
Ymgynghorydd Ariannol yr Ysgol wedi gadael ei swydd. Mynegodd y Cadeirydd fod
ysgol arall a oedd wedi wynebu anawsterau tebyg heb Ymgynghorydd Ariannol.
Teimlai fod hwn yn fater y dylid edrych arno drwy’r Sir a phwysleisiodd yr
angen i ddarparu cyngor a chanllawiau ariannol cadarn. Amlinellodd Pennaeth
Archwilio Mewnol y newidiadau a oedd bellach wedi eu gweithredu i’r broses a
phwysleisiodd bwysigrwydd rôl Rheolwyr Ariannol. Eglurodd y Cynghorydd S.A. Davies nad oedd y gyd-ddarpariaeth feithrin yn
yr ysgol yn ofyniad statudol, ac awgrymodd y gellid arbed arian sylweddol drwy
beidio â darparu’r cyfleuster yma. Teimlai fod angen gwell a rhagor o wybodaeth
am reolaeth ariannol yr ysgol ac y byddai’n fuddiol. Cyfeiriodd Mr P. Whitham at broblemau blaenorol a oedd wedi deillio o ddiffyg rheolaeth ariannol briodol, a phwysleisiodd yr angen i edrych ar themâu a thueddiadau posibl a oedd yn dod i’r amlwg dro ar ôl tro. Pwysleisiodd yr angen am sicrwydd fod trefniadau ariannol a mecanweithiau priodol yn eu lle rhag i hyn ddigwydd eto yn y dyfodol. Amlinellodd y Cynghorydd J. Thompson-Hill rôl Rheolwyr Clwstwr Ariannol a oedd yn gyfrifol am dynnu sylw at broblemau posibl i’r Cyrff Llywodraethu dan sylw. Eglurodd Ms Greenland nad oedd Ysgol Mair yn rhan o Glwstwr Ariannol yn Rhyl ac awgrymwyd efallai ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
PROSES Y GYLLIDEB 2015/16 PDF 296 KB Ystyried
adroddiad gan y Prif Swyddog Cyllid sy'n rhoi diweddariad ar y broses i
gyflawni'r gyllideb refeniw ar gyfer 2016/17 (copi’n amgaeedig). Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyllid adroddiad (a
gylchredwyd o flaen llaw) a oedd yn rhoi diweddariad ar y broses i gyflawni'r
gyllideb refeniw ar gyfer 2016/17. Rhoddodd y Cynghorydd J. Thompson-Hill, gyda chymorth y Prif Gyfrifydd,
grynodeb manwl o’r adroddiad. Roedd yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:- ·
Cyflwynwyd y cynnydd diweddaraf o ran y broses o osod y
gyllideb i Weithdy Cyllideb yr Aelodau ar 14 Rhagfyr 2105. Amlinellwyd y
gwahanol gynigion a ystyriwyd i sicrhau arbedion. ·
Cyhoeddwyd cyllideb drafft a Setliad
Dros Dro ar gyfer Llywodraeth Leol yng Nghymru yn ddiweddarach eleni o
ganlyniad i amseru Adolygiad Gwariant Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Roedd hyn
wedi ei gynnwys yn y broses cynllunio’r gyllideb ac wedi arwain at gyflwyno
pecyn o gynigion i’w cymeradwyo yn Rhagfyr. Roedd y pecyn yn dod i gyfanswm o
£1.2m ac yn cynnwys arbedion effeithlonrwydd ac addasiadau technegol, ond nid
oedd yn cynnwys cynigion i dorri ar wasanaethau na chynyddu taliadau. ·
Roedd goblygiadau Setliad Llywodraeth Leol ar gyfer
2015/16 wedi ei grynhoi yn yr adroddiad, gyda’r Setliad yn llawer gwell na’r
disgwyl. ·
Roedd adroddiad i’r Cyngor yn Rhagfyr wedi manylu ar y sefyllfa
ariannol ddiweddaraf ac roedd tybiaethau’n dangos bod bwlch o £2m, yn y
gyllideb o hyd. Darparwyd manylion yng ngweithdy’r gyllideb ac roedd crynodeb
wedi ei gynnwys yn yr adroddiad. ·
Hefyd roedd manylion am y newidiadau i werth y Setliad, a
oedd yn caniatáu cynnig i ostwng lefel y cynnydd arfaethedig yn Nhreth y Cyngor
o 2.75% i gyfartaledd o 1.5%, wedi ei gynnwys yn yr adroddiad. ·
Roedd y tybiaethau hyn wedi arwain at sefyllfa ariannol
gadarnhaol o £480k, gyda’r Setliad ar gyfer 2016/17 yn well na’r disgwyl am un
flwyddyn. Darparwyd tabl yn crynhoi sefyllfa cynllunio’r gyllideb ar gyfer y
dyfodol. Amlinellwyd manylion y risgiau, ynghyd â’r camau i’w gweithredu er
mwyn eu lliniaru. ·
Ni fyddai Setliad Terfynol Llywodraeth Leol yn cael ei
gyhoeddi tan fis Mawrth. Fodd bynnag, roedd sicrwydd wedi ei roi na ddylid
gweld unrhyw symudiad negyddol rhwng gwerthoedd y Setliad Drafft Dros Dro a’r
un Terfynol Byddai cyllideb derfynol
Llywodraeth Cymru’n cael ei chyflwyno i’r Senedd ar 8 Mawrth. ·
Roedd y broses Rhyddid a Hyblygrwydd wedi dod i ben drwy
osod cyllideb 2016/17. Byddai’r gwaith o fonitro perfformiad y gyllideb yn
parhau i gael ei adrodd i’r Cabinet, gyda’r Grŵp Tasg a Gorffen Torri’r
Brethyn yn monitro effaith penderfyniadau’r gyllideb. ·
Cadarnhawyd y byddai proses gyllidebol newydd yn cael ei
datblygu ar gyfer 2017/18. ·
Cyflwynwyd cam terfynol y broses gyllidebol ddwy flynedd
Rhyddid a Hyblygrwydd. Mwyafrif helaeth yr arbedion, dros 80%, oedd
effeithlonrwydd neu arbedion moderneiddio gan arwain at effaith lai sylweddol
ar wasanaethau i’r cyhoedd. ·
Eglurwyd mai nod y broses gyllidebol oedd sicrhau bod y
Cyngor yn darparu cyllideb gytbwys. Roedd yn debygol y byddai gostyngiad i
gyllid ALl yng Nghymru’n parhau yn y tymor canolig, gyda phenderfyniadau
cyllidebol yn dod yn anos ac yn galw am amser paratoi hirach. Amlinellodd y Cynghorydd Thompson-Hill yr amserlenni ar gyfer y broses adrodd ar y gyllideb a gofynnodd am arweiniad ynglŷn â phryd i gyflwyno adroddiadau ar gyfer y dyfodol. Teimlai’r Cadeirydd y byddai o fudd pe bai’r broses bresennol o gynnwys eitem fusnes safonol ar gyfer proses y gyllideb ar bob rhaglen y Pwyllgor, yn parhau, ynghyd â darparu Gweithdai Cyllideb i Aelodau. Teimlai hefyd fod angen ymgynghori mwy â’r cyhoedd a chydnabu fod gwahanol safbwyntiau ynglŷn â mabwysiadu proses ymgynghori newydd. Awgrymwyd a chytunwyd i gysylltu â’r Grwpiau Gwleidyddol dan sylw er mwyn annog Aelodau i gyflwyno eu barn a’u hawgrymiadau ynglŷn â’r broses gyllidebol. Mynegodd y Cynghorydd S.A. Davies ei gefnogaeth i barhau â’r ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
ADRODDIAD RHEOLI’R TRYSORLYS PDF 88 KB Ystyried adroddiad gan y Prif Swyddog Cyllid (copi ynghlwm) ar
swyddogaethau a gweithgareddau Rheoli Trysorlys y Cyngor, ac amlinellu effaith
debygol y Cynllun Corfforaethol ar y strategaeth ac ar y Dangosyddion Darbodus.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd adroddiad gan y Prif Swyddog Cyllid wedi ei
gylchredeg ymlaen llaw. Eglurodd y Prif Gyfrifydd fod Datganiad Strategaeth Rheoli’r Trysorlys,
Atodiad 1, yn dangos sut fyddai’r Cyngor yn rheoli ei fuddsoddiadau a’i
fenthyciadau yn y flwyddyn i ddod, ac yn gosod y polisïau y mae’r swyddogaeth
Rheoli’r Trysorlys yn seiliedig arnynt. Roedd yr adroddiad hefyd yn amlinellu
effaith debygol y Cynllun Corfforaethol ar y strategaeth hon ac ar y
Dangosyddion Darbodus. Roedd Adroddiad Diweddaru Rheoli’r Trysorlys, Atodiad 2,
yn rhoi manylion am weithgareddau Rheoli Trysorlys y Cyngor yn ystod 2015/16. Eglurwyd
bod y ffigyrau yn Natganiad Strategaeth Rheoli’r Trysorlys yn ffigyrau drafft
ac y bydden nhw’n cael eu diweddaru cyn cael eu cymeradwyo gan y Cyngor, yn
seiliedig ar y Cynllun Cyfalaf diweddaraf a Chynllun Busnes Stoc Tai yn
Chwefror, 2016. Yn ôl Cod Rheoli’r Trysorlys CIPFA, roedd yn rhaid i’r Cyngor
gymeradwyo Datganiad Strategaeth Rheoli’r Trysorlys a’r Dangosyddion Darbodus bob
blwyddyn. Roedd yn rhaid i’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol adolygu’r
adroddiad cyn iddo gael ei gymeradwyo gan y Cyngor ar 23 Chwefror 2016. Byddai’r Pwyllgor yn derbyn
diweddariad ar weithgareddau Rheoli’r Trysorlys ddwywaith y flwyddyn a byddai
Rheoli’r Trysorlys yn edrych ar ôl arian y Cyngor, a oedd yn rhan hollbwysig o
waith y Cyngor, gan fod tua £0.5bn yn mynd drwy gyfrif banc y Cyngor bob
blwyddyn. Ar unrhyw adeg roedd gan y Cyngor o leiaf £10m o arian felly roedd
angen sicrwydd bod yr adenillion gorau posibl yn cael eu sicrhau heb risg
ariannol, sef y rheswm pam fod arian yn cael ei fuddsoddi gyda nifer o gyrff
ariannol. Wrth fuddsoddi, blaenoriaethau’r Cyngor oedd:- ·
cadw arian yn ddiogel (diogelwch); ·
sicrhau bod modd cael yr arian yn ôl pan oedd ei angen
(hylifedd); ·
sicrhau eu bod yn cael adenillion boddhaol (arenillion). Roedd Datganiad Strategaeth Rheoli’r Trysorlys
2016/17 wedi ei gynnwys yn Atodiad 1. Roedd yr adroddiad yn cynnwys
Dangosyddion Darbodus sy’n gosod terfynau ar weithgaredd Rheoli Trysorlys y
Cyngor ac yn dangos bod benthyciadau’r Cyngor yn fforddiadwy. O ran y Dangosyddion Darbodus, roedd dangosyddion
Cronfa’r Cyngor yn seiliedig ar y ceisiadau cyfalaf arfaethedig diweddaraf a’r
dyraniadau bloc, a byddai’r rhain yn cael eu diweddaru cyn cyflwyno’r adroddiad
i’r Cyngor ei gymeradwyo ar 23 Chwefror 2016. Roedd dangosyddion Cyfrif Refeniw Tai
wedi eu cyfrifo ar sail yr amcangyfrifon diweddaraf o Gynllun Busnes y Stoc Tai, ond byddent yn
cael eu diwygio cyn eu cyflwyno i’r Cyngor unwaith y byddai wedi cytuno ar
Gynllun Busnes terfynol y Stoc Tai. Roedd y Dangosyddion Darbodus unigol a
argymhellwyd i’w cymeradwyo wedi eu cynnwys yn Atodiad 1 Atodlen A. Tynnodd y Prif Gyfrifydd sylw
Aelodau at y meysydd canlynol yn Atodiad 1:- ·
Datganiad
Darpariaeth Refeniw Gofynnol ·
Cymhareb
Cronfa’r Cyngor ·
Gofyniad
Cyllid Cyfalaf a chyfanswm dyledion ·
Goblygiadau’r
elfen PFI a lleihad arian a ddelir ·
Parti i
Gontract Buddsoddiad a Gymeradwyir a Therfynau ·
Gofynion
Hyfforddiant Mewn ymateb i gwestiwn gan y
Cynghorydd S.A. Davies, rhoddodd y Cynghorydd Thompson-Hill a’r Prif Gyfrifydd
fanylion trefniadau benthyca presennol a hanesyddol, cyfraddau a chostau’r
Cyngor. Tynnwyd sylw gan Mr P. Whitham at y mater o ddarparu Hyfforddiant i Aelodau fel y cyfeirir ato ar Dudalen 38, 8.1.1 o Atodiad 1. Cyfeiriodd Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd (HLHRDS)at y gwahanol ddulliau a fabwysiadwyd ar gyfer darparu hyfforddiant, ac eglurodd bwysigrwydd sicrhau bod gwybodaeth ddigonol ar gael i’r Aelodau dan sylw er mwyn sicrhau eu bod yn deall y prosesau perthnasol. Cytunodd Aelodau fod sesiwn hyfforddiant ar Reoli’r Trysorlys yn cael ei chynnal 30 munud cyn cyfarfod nesaf y Pwyllgor, a oedd yn cynnwys eitem fusnes yn ymwneud â Rheoli’r Trysorlys, a bod pob Aelod ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
ADRODDIAD HUNAN WERTHUSO’R PWYLLGOR LLYWODRAETHU CORFFORAETHOL PDF 218 KB Cael cyflwyniad gan Bennaeth yr Adain Archwilio Mewnol. Cofnodion: Cytunodd Aelodau gan fod rhai o Aelodau’r
Pwyllgor yn absennol, a nes bod Aelod wedi ei benodi i’r lle gwag ar y
Pwyllgor, y byddai’r eitem hon yn cael ei gohirio nes byddai’r Pwyllgor yn
cyfarfod ym Mawrth, 2016. Cytunodd Pennaeth Archwilio
Mewnol i anfon e-bost at Aelodau’r Pwyllgor yn tynnu sylw at bwysigrwydd a
diddordeb yr eitem hon i Aelodau newydd y Pwyllgor. Cytunodd Aelodau fod cyfarfod y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a oedd i’w gynnal ar 16 Mawrth, 2016 yn dod
ynghyd 30 munud yn gynt na’r hyn a drefnwyd, am 9.00 a.m. er mwyn ystyried yr
eitem fusnes hon. PENDERFYNWYD – (a)
Gohirio’r eitem
a’i hystyried cyn cyfarfod y Pwyllgor ar 16 Mawrth, 2016. (b)
bod y cyfarfod
a oedd i’w gynnal ar 16 Mawrth, 2016 yn dod ynghyd 30 munud yn gynt na’r hyn a
drefnwyd, am 9.00 a.m. er mwyn ystyried yr eitem fusnes hon, a (c)
bod Pennaeth Archwilio Mewnol i anfon e-bost at
Aelodau’r Pwyllgor yn tynnu sylw at bwysigrwydd a diddordeb yr eitem hon i
Aelodau newydd y Pwyllgor. (IB
a GW i weithredu) |
|
RHEOLI FFLYD GORFFORAETHOL – ADRODDIAD ARCHWILIO MEWNOL Ystyried
adroddiad llafar gan Bennaeth yr Adain Archwilio Mewnol. Cofnodion: Roedd adroddiad gan Bennaeth Archwilio Mewnol,
ar adroddiad Archwilio Mewnol diweddar i Reoli Fflyd Gorfforaethol wedi cael
sgôr sicrwydd ‘Isel’, wedi ei gylchredeg ymlaen llaw. Cyflwynodd Pennaeth Archwilio Mewnol yr adroddiad a oedd yn gofyn am farn y
Pwyllgor ar yr adroddiad Archwilio Mewnol, a bod yn gytûn ynglŷn â’r
sicrwydd fod y Cynllun Gweithredu o fewn yr adroddiad yn cael ei weithredu’n
effeithiol o fewn yr amserlenni y cytunwyd arnynt. Cadarnhaodd fod y rhan fwyaf
o’r gwaith a nodwyd wedi ei gwblhau a rhoddodd amlinelliad byr o’r adroddiad
Archwilio Mewnol Llawn a oedd wedi ei gynnwys yn Atodiad 1. Roedd y prif
faterion a oedd yn codi wedi eu crynhoi yn yr adroddiad. Cadarnhaodd Pennaeth
Archwilio Mewnol fod ‘cyfarfod uwchgyfeirio’ wedi ei gynnal cyn cyflwyno’r
adroddiad archwilio terfynol gyda Phennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau
Amgylcheddol, Cyfarwyddwr Corfforaethol: Uchelgais Economaidd a Chymunedol,
Arweinydd Arweiniol y Cabinet ac uwch reolwyr i drafod yr adroddiad archwilio a
chytuno ar Gynllun Gweithredu. Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan y Cynghorydd P.C. Duffy ynglŷn â
phwysigrwydd cyflwyno adroddiad ysgrifenedig i’r Pwyllgor, cadarnhaodd Pennaeth Archwilio Mewnol ei fod wedi
egluro yn y cyfarfod blaenorol na fyddai’n bosibl oherwydd amserlenni i gyflwyno
adroddiad ysgrifenedig i’r cyfarfod hwn, a chytunwyd i’w ddiweddaru ar lafar. Cadarnhaodd Rheolwr Prosiect (Hwb Gogledd Ddwyrain) (PMNEH) fod cynnydd
wedi ei gymysgu â rhai problemau yr oedd angen rhoi sylw iddynt o hyd er nad
oeddent yn risg sylweddol i’r Awdurdod, gan gyfeirio’n benodol at lefel y
gwaith yn ymwneud â thargedau’r gwasanaeth gwastraff. Eglurodd Pennaeth Archwilio Mewnol fod yr adroddiad dilynol cyntaf wedi ei
baratoi’n ddiwedda iawn a’u bod yn disgwyl am ymateb. Cadarnhaodd y swyddogion
y byddai adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ar ôl i’r gwaith
gael ei gwblhau. Cadarnhaodd Pennaeth Archwilio Mewnol fod y Polisi Cludiant yn
cael ei adolygu ac y byddai’n cael ei gyflwyno i’r Uwch Dîm Arwain. Ar gais
Aelodau cytunwyd y byddai copi o’r Polisi Cludiant yn cael ei gylchredeg a’r
adroddiad yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod y Pwyllgor fis Mawrth, 2016. Yn sgil trafodaeth bellach: PENDERFYNWYD – (a)
bod y Pwyllgor
Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn a nodi’r wybodaeth ddiweddaraf. (b)
Bod adroddiad diweddaru’n
cael ei gyflwyno yng nghyfarfod y Pwyllgor fis Mawrth, a (c)
bod copi o’r Polisi Cludiant yn cael ei
gylchredeg yng nghyfarfod y Pwyllgor fis Mawrth. (IB, JE i weithredu) |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y PWYLLGOR LLYWODRAETHU PDF 183 KB Ystyried rhaglen
gwaith i’r dyfodol y pwyllgor (copi wedi’i amgáu). Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor
Llywodraethu Corfforaethol (wedi ei chylchredeg ymlaen llaw) i’w hystyried. Cadarnhaodd y Pwyllgor Raglen Gwaith i’r Dyfodol y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn amodol ar gynnwys yr
adroddiadau canlynol:- 23 Mawrth, 2016:- -
Bod cyfarfod y Pwyllgor fis Mawrth yn dod ynghyd 30 munud
yn gynt nag a drefnwyd, am 9.00a.m. er mwyn ystyried Adroddiad Hunan Werthuso’r
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol. -
Adroddiad gan Bennaeth Cynllunio Busnes a Pherfformiad
i’w gynnwys yn y rhaglen gwaith i’r dyfodol ar gyfer Mawrth, er mwyn rhoi
diweddariad ar reoli risg a diddordebau ehangach y Pwyllgor o ran gweithredu’r
Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. 27 Ebrill, 2016:-. -
Eglurodd Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau
Dynol a Democrataidd (HLHRDS) y byddai’r gweithdy a drefnwyd i ystyried y
Cyfansoddiad bellach yn cael ei aildrefnu. Cytunodd Aelodau i gynnwys yr eitem
fusnes am y Cyfansoddiad yn y rhaglen gwaith i’r dyfodol ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor
yn Ebrill 2016. Cytunodd Aelodau fod Pennaeth Archwilio Mewnol yn cylchredeg adroddiad
gwybodaeth i Aelodau’r Pwyllgor o safbwynt rheolaeth ariannol Ysgol Mair,
Rhyl. Cytunwyd i anfon unrhyw bryderon
gan Aelodau’r Pwyllgor at y Cadeirydd neu Bennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd (HLHRDS). Cadarnhaodd Pennaeth Archwilio Mewnol y
byddai adroddiad pellach am Ysgol Mair, Rhyl yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor
ym Medi, 2016. PENDERFYNWYD – yn
amodol ar yr uchod, fod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol. (GW, AS, IB, CW i weithredu) Daeth y cyfarfod i ben am 11.55 a.m. |