Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Dim Datganiad o Fuddiant. |
|
Materion Brys Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Dim. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 28 Medi, 2015. Cofnodion: Cyflwynwyd
Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 28
Medi, 2015. Tudalen 11 –
Eitem 8 Eglurodd y Prif Swyddog Cyllid bod y cyfrifon drafft wedi eu cylchredeg
i aelodau’r pwyllgor er gwybodaeth ac nid fel eitem ar yr agenda. PENDERFYNWYD yn
amodol ar yr uchod, y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor
Llywodraethu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 28 Medi 2015 fel
cofnod cywir. |
|
RHAN II Cynigwyd gan Y Cynghorydd Stuart Davies, eiliwyd gan Aelod Lleyg Paul
Whitham y dylid symud yr eitemau canlynol i RAN II - Eitemau Cyfrinachol. GWAHARDD Y WASG A'R CYHOEDD Penderfynwyd o dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, i wahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau a ganlyn, ar y sail ei bod yn debygol y bydd gwybodaeth eithriedig yn cael ei datgelu, fel y'i diffinnir ym mharagraffau 14 a 18, Rhan 4, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972. |
|
YSGOL MAIR, Y RHYL – ADRODDIAD ARCHWILIO MEWNOL Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Archwilio Mewnol (copi'n
amgaeedig) ar adroddiad Archwilio Mewnol diweddar ar Ysgol Mair, Y Rhyl, a
gafodd sgôr sicrwydd 'Isel'. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth yr Adain Archwilio Mewnol adroddiad cyfrinachol (a gylchredwyd o flaen
llaw) ar yr adroddiad Archwilio Mewnol diweddar ar Ysgol Mair, Y Rhyl a oedd
wedi derbyn graddfa sicrwydd "Isel”. Hysbysodd
Pennaeth yr Adain Archwilio Mewnol y Pwyllgor bod adroddiad yr Archwiliad Mewnol
wedi ei gynnwys fel Atodiad 1. Nododd Atodiad 2 y cynnydd sydd wedi ei wneud
hyd yma wrth roi’r Cynllun Gweithredu o fewn adroddiad yr Archwiliad ar
waith. Nid oedd camau gweithredu wedi eu
cymryd ar bob mater yn ystod yr ymweliad gan iddo gael ei gynnal yn ystod
hanner tymor. Roedd cynnydd wedi ei
wneud ar nifer o faterion ac roedd angen diweddariad ar y cynllun adfer. Nid oedd y rhan
fwyaf o'r materion a godwyd gennym yn ein hadroddiad yn anarferol i archwiliad
ysgol, ac roedd cynnydd yn cael ei wneud i wneud y gwelliannau angenrheidiol,
fel y dangosir yn Atodiad 2. Fodd bynnag, y
prif bryder oedd sefyllfa ariannol yr Ysgol. Er bod cynllun adfer drafft yn ei le bellach,
nid oedd hwn wedi ei gytuno arno eto ac roedd llawer o waith angen ei wneud eto,
yn ogystal â thrafod ac ymgynghori
cyn cytuno ar gynllun a’i roi ar waith. O dan gynllun y
Cyngor ar gyfer ariannu ysgolion, mae unrhyw ysgol mewn diffyg yn cael caniatâd
i wneud cais am ddiffyg trwyddedig a dangos bod ganddynt gynllun i fod ag arian
dros ben o fewn tair blynedd. Ers cyhoeddi'r
adroddiad archwilio, rydym wedi cynnal cyfarfod cynnydd gyda'r Pennaeth,
Cadeirydd ac Is-gadeirydd Corff Llywodraethu’r Ysgol, Aelod Arweiniol y Cabinet
ac uwch reolwyr i drafod yr adroddiad archwilio, cynllun gweithredu a'r cynnydd
a wnaed wrth weithredu gwelliannau.
Byddai cyfarfod pellach yn cael ei gynnal ar 7 Rhagfyr 2015. Roedd y Pennaeth
yn bresennol ac eglurodd i’r Pwyllgor y camau oedd yn cael eu cymryd yn unol â chynllun adfer er mwyn gwella
materion. Roedd lles y plant yn
flaenoriaeth a byddai hyn yn cael ei fonitro’n ofalus. Yn y cyswllt hwn,
diolchodd y Pwyllgor i’r Pennaeth a Chadeirydd y Llywodraethwyr am fynychu’n
cyfarfod. Yn dilyn trafodaeth
fanwl: PENDERFYNWYD bod
y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol: (i)
Yn nodi'r sicrwydd bod y cynllun
gweithredu/adfer yn yr adroddiad yn
cael ei roi ar waith yn effeithiol ac o fewn y terfynau amser y cytunwyd
arnynt. (ii) Yn
cytuno y gellir dod â’r
eitem yn ôl i’r cyfarfod Pwyllgor
Llywodraethu Corfforaethol nesaf a gynhelir fis Ionawr er mwyn cael diweddariad
ar y cynllun gweithredu/adfer. |
|
Y DIWEDDARAF AR Y CYNLLUN ARIANNU PREIFAT Ystyried
adroddiad gan y Pen Swyddog Cyllid, sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ar drafod
y cynllun ariannu preifat (copi’n amgaeedig). Cofnodion: Cyflwynodd y Prif
Swyddog Ariannol adroddiad cyfrinachol (a gylchredwyd o flaen llaw) ar roi terfyn
ar y Cytundeb Prosiect ar gyfer Neuadd y Sir yn Rhuthun ac adeiladau
eraill. Hysbyswyd Aelodau
bod y Cyngor wedi dod â
Chytundeb Prosiect Menter Cyllid Preifat Neuadd y Sir i ben am resymau ariannol
a gweithredol ym mis Mai 2015. Roedd y Cyngor llawn
wedi cymeradwyo arbedion cyllideb yn 2015/2016 ar y sail y byddai’r cytundeb
Menter Cyllid Preifat yn cael ei ddirwyn i ben ac y byddai rheolaeth lawn o’r
asedau yn cael eu pasio ymlaen i’r Cyngor.
Roedd yr adroddiad yn crynhoi crynodeb o’r penderfyniad a’r cyd-destun a
amlinellodd y penderfyniad gwreiddiol i fynd i gytundeb Menter Cyllid Preifat. Cafwyd crynodeb
o’r adroddiad gan y Prif Swyddog Ariannol, oedd yn cynnwys:- ·
Amlinelliad o fodel ariannol y Fenter Cyllid
Preifat
Diolchodd y
Pwyllgor i’r Prif Swyddog Cyllid a’i dîm am eu gwaith ar y prosiect. Yn dilyn
trafodaeth fanwl: PENDERFYNWYD bod
y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol:
(i) yn derbyn ac yn nodi’r adroddiad
(ii) yn cytuno y dylid bwydo’r Terfyniad Cytundeb
Prosiect Menter Cyllid Preifat i Weithdai Cyllideb y dyfodol. |
|
Yn y cyswllt hwn,
dychwelodd y cyfarfod i RAN I |
|
PROSES Y GYLLIDEB 2015/16 PDF 266 KB Ystyried
adroddiad gan y Pen Swyddog Cyllid sy'n rhoi diweddariad ar y broses i
gyflawni'r gyllideb refeniw ar gyfer 2016/17 (copi’n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif
Swyddog Cyllid adroddiad (a gylchredwyd o flaen llaw) a oedd yn rhoi
diweddariad ar y broses i gyflawni'r gyllideb refeniw ar gyfer 2016/17. Cyflwynwyd y
cynnydd diwethaf gyda’r broses gosod cyllideb i Weithdy Cyllideb yr Aelodau ar
26 Hydref 2015, ac roedd manylion y cyflwyniad wedi ei gynnwys o fewn yr
adroddiad. Roedd y rhagdybiaethau cynllunio cyllideb diweddaraf wedi eu trafod
a’u crynhoi a’r bwlch yn y gyllideb yn rhagdybio setliad wedi ei osod ar -4%.
Roedd cynigion yn dod i gyfanswm o oddeutu £2 miliwn wedi eu hadnabod ar gyfer
eu cynnwys yng Ngham 5 oedd i’w gyflwyno i’r Cyngor i’w gymeradwyo ym mis
Rhagfyr. Fel arfer
cyhoeddir y Setliad Drafft ar gyfer Llywodraeth Leol yng Nghymru yn gynnar ym
mis Hydref, ond ni fyddai’n cael ei gyhoeddi tan 9 Rhagfyr gan na chyhoeddwyd
Adolygiad Gwariant Llywodraeth y Deyrnas Unedig tan 25 Tachwedd. Byddai’r Adolygiad Gwariant yn penderfynu ar
lefel y Grant Bloc i Gymru. Byddai
cyhoeddiad hwyr y Setliad Drafft yn golygu y byddai’n rhaid newid yr amserlen
gyllidebu, gan fod yn rhaid i’r Cyngor osod ei chyllideb mewn pryd i ganiatáu
cynhyrchu a dosbarthu biliau Treth Cyngor ym mis Mawrth. Llythyr oedd
Atodiad 2 oddi wrth Lywodraeth Cymru/Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn
amlinellu’r amserlen ac yn nodi rhai o'r materion. Mae'r amserlen yn peri rhai risgiau os yw
gwerthoedd y setliad yn newid yn sylweddol neu os oes problemau wrth gytuno ar
y gyllideb yn genedlaethol, ac roedd hyn yn cael ei adolygu’n gyson. PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn
derbyn ac yn nodi cynnwys yr adroddiad ar y datblygiadau diweddaraf. |
|
Cofrestr Risg Corfforaethol PDF 188 KB Ystyried
adroddiad gan Reolwr y Tîm Cynllunio Strategol (copi'n amgaeedig) ar reoli Risg
Gorfforaethol, ac adolygu'r Gofrestr Risg Gorfforaethol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr y Tîm Cynllunio Strategol adroddiad (a gylchredwyd o
flaen llaw) ar reolaeth y Risg Corfforaethol ac adolygiad Hydref 2016 i’r
Gofrestr Risg Corfforaethol. Eglurodd Rheolwr y Tîm Cynllunio Strategol sut y byddai'r Gofrestr Risg Corfforaethol
yn cael ei monitro a’i rheoli Mae’n cynrychioli adroddiad
blynyddol ar gyfer y Pwyllgor Llywodraeth Corfforaethol er mwyn ystyried sut y
mae’r Risg Corfforaethol yn cael ei reoli o fewn yr Awdurdod. Cytunwyd ar
fersiwn wedi ei ddiweddaru’n swyddogol o’r Cofrestr Risg Corfforaethol gan
Gyfarfod Briffio’r Cabinet yn Hydref, 2015, a byddai’n cael ei gyflwyno i’r
Pwyllgor Archwilio Perfformiad ar 10 Rhagfyr 2015. Hysbysodd yr adroddiad y
Pwyllgor am adolygiad o fethodoleg rheoli’r Risg Corfforaethol o safbwynt Deddf
Lles Cenedlaethau'r Dyfodol. Adolygwyd y Gofrestr yn swyddogol ddwywaith y flwyddyn gan y Cabinet a’r
Tîm Gweithredol Corfforaethol. Byddai’r Tîm Gweithredu
Corfforaethol yn cael gwybod am unrhyw
risgiau cynyddol neu newydd fel byddent yn cael eu hadnabod, a byddai'r Tîm
Gweithredu Corfforaethol yn penderfynu os dylid cynnwys risg yn y Gofrestr. Yn
dilyn adolygiad ffurfiol, byddai’r ddogfen sydd wedi’i hadolygu yn cael ei
chyflwyno i’r Pwyllgor Archwilio Perfformiad.
Byddai’r gweithredoedd a nodir er mwyn delio â Risgiau Corfforaethol yn
cael eu cynnwys mewn Cynlluniau Gwasanaethau, lle y bo’n briodol, a fyddai’n
galluogi i’r Pwyllgor Archwilio Perfformiad fonitro’r cynnydd. Dylid amlygu unrhyw faterion perfformiad mewn
perthynas â darparu’r digwyddiadau fel rhan o broses Herio Perfformiad
Gwasanaethau. Mae Deddf Lles
Cenedlaethau’r dyfodol yn ei gwneud yn ofynnol ein bod yn ystyried ein gwaith
gan ddefnyddio pum egwyddor datblygu cynaliadwy, a bydd angen adolygu'r modd y
byddwn yn ystyried a rheoli risg yn unol â’r ddeddfwriaeth newydd. Bydd yr adolygiad yn cael ei gynnal fel rhan
o weithrediad y Ddeddf newydd sy’n dod i rym ym mis Ebrill 2016, a bydd yr
aelodau’n cyfrannu’n llawn at hyn. Roedd adroddiad i
fod i gael ei gyflwyno i gyfarfod Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Archwilio ym
mis Rhagfyr i gyflwyno sut y gallai Archwilio ymgorffori gofynion Deddf Lles
Cenedlaethau’r Dyfodol i’w gwaith. Yn ystod trafodaethau, mynegodd Aelodau bryderon ynghylch Bwrdd Iechyd
Prifysgol Betsi Cadwaladr a chafwyd cadarnhad bod nifer o reolaethau yn eu lle
yn cynnwys nifer o gamau gweithredu. Roedd cydweithrediad rhwng y Bwrdd Iechyd a Chyngor Sir Ddinbych yn digwydd
yn gyson er mwyn lleihau’r effaith ar Sir Ddinbych. Sicrhaodd
Pennaeth y Gyfraith, Adnoddau Dynol a Gwasanaethau Democrataidd bod y tri mater
a godwyd gan Swyddog y Bwrdd Iechyd a fynychodd gyfarfod Cyngor diweddar
bellach oll o fewn Rhaglenni Gwaith i’r Dyfodol Archwilio. Mae’r rhain fel a ganlyn: (i) Gofal Sylfaenol – 17 Rhagfyr 2015
Pwyllgor Archwilio Cymunedau
(ii)
Datblygiadau’r Dyfodol – Ysbyty’r Royal Alexandra, Y Rhyl – 26 Tachwedd, 2015
Pwyllgor Archwilio Partneriaethau (iii) Adroddiad HASCASS – 25 Chwefror 2016
Pwyllgor Archwilio Partneriaethau. Yn dilyn
trafodaeth bellach:- PENDERFYNWYD bod
y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn nodi sut y rheolir Risg Gorfforaethol
o fewn yr Awdurdod |
|
YMGYNGHORIAD CENEDLAETHOL YNGHYLCH RHYDDID GWYBODAETH PDF 273 KB Ystyried adroddiad gan y Rheolwr
Gwybodaeth Gorfforaethol (copi'n amgaeedig) sy'n rhoi ymateb arfaethedig Sir
Ddinbych i ymgynghoriad ar Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Rheolwr Gwybodaeth Corfforaethol adroddiad (a gylchredwyd o flaen llaw) a oedd
yn nodi manylion ymateb tebygol Sir Ddinbych i ymgynghoriad ar y Ddeddf Rhyddid
Gwybodaeth 2000. Amlinellodd y
Rheolwr Gwybodaeth Corfforaethol fwriadau a darpariaethau’r Ddeddf. Roedd cylch gorchwyl y Comisiwn Annibynnol ar
Ryddid Gwybodaeth wedi ei osod gan Swyddfa’r Cabinet. Roedd manylion y rôl a chylch gwaith y
Comisiwn i adolygu Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 wedi ei ddarparu. Roedd manylion am
yr ymateb, a goladwyd gan Sir Ddinbych i Gwestiwn 6, a oedd wedi ei ystyried i
gynrychioli’r mater mwyaf perthnasol ar gyfer y Cyngor, wedi ei gynnwys gyda’r
adroddiad. Roedd y Cyngor
wedi darganfod bod sawl cais yn golygu oriau lawer o waith. Yn ogystal, gall mynd ati i olygu dogfennau
gymryd sawl awr a hyd yn oed rai dyddiau mewn sawl achos, ond ar hyn o bryd,
nid yw'r Ddeddf yn caniatáu inni gynnwys y gwaith hwn o fewn y terfyn
amser. Eglurwyd y byddai
Cyngor Sir Ddinbych yn annog diwygio'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth i gynnwys
darpariaeth fel y gall Awdurdodau Cyhoeddus godi ffi mewn enw o tua £20, am bob
cais. Cynghorir hefyd bod y terfyn addas
(adran 12) yn cael ei leihau o 18 awr i 10 awr, ac yn cynnwys yr amser a
dreulir ar olygu dogfennau. Credwyd y
byddai cyflwyno'r newidiadau hyn yn lleihau’r baich ar Awdurdodau Cyhoeddus i
lefel fwy ymarferol a chymesur tra bo hawliau statudol y cyhoedd i weld
gwybodaeth yn parhau. Yn dilyn
trafodaeth fanwl: PENDERFYNWYD yn
amodol ar y sylwadau uchod, bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn nodi
ymateb arfaethedig y Cyngor i'r ymgynghoriad. |
|
Ar y pwynt hwn (11.55 am) cafwyd egwyl o 10 munud. Ailddechreuodd y cyfarfod am 12.05pm |
|
CYFANSODDIAD Y CYNGOR PDF 79 KB Ystyried adroddiad
gan Bennaeth y Gyfraith, Adnoddau Dynol a Gwasanaethau Democrataidd (copi’n
amgaeedig) sy’n rhoi’r diweddaraf ar fabwysiadu cyfansoddiad model newydd i
Gymru yn y dyfodol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd adroddiad (a
gylchredwyd o flaen llaw) oedd yn rhoi diweddariad ar fabwysiadu cyfansoddiad
model newydd i Gymru yn y dyfodol. Mae cylch
gorchwyl y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn gofyn bod unrhyw newidiadau a
fwriedir i Gyfansoddiad y Cyngor yn cael eu hystyried yn gyntaf cyn ei
fabwysiadu'n ffurfiol gan y Cyngor Llawn. Cyfeiriodd
Pennaeth Y Gyfraith, Adnoddau Dynol a Gwasanaeth Democrataidd at adroddiad
blaenorol ym mis Gorffennaf 2015 a oedd yn ystyried newidiadau arfaethedig i
Erthyglau'r Cyfansoddiad, cynigion ynglŷn â dirprwyo penderfyniadau i
aelodau'r Cabinet a newidiadau i'r Rheolau Cyflogi Swyddogion. Roedd yr adroddiad hwn yn ceisio barn yr
aelodau ar newidiadau arfaethedig i'r Cynllun Dirprwyo Swyddogion. Mae'r Cynllun arfaethedig, Atodiad 1, yn
adlewyrchu newidiadau yn strwythur uwch reolwyr y Cyngor a’r trosglwyddiad mewn
cyfrifoldebau sydd wedi digwydd o ganlyniad.
Byddai cymeradwyaeth y Cyngor o’r Cynllun yn cael ei geisio ym mis Rhagfyr
er mwyn sicrhau bod dirprwyo swyddogaethau gweithredol wedi eu hawdurdodi’n
addas. Roedd Gweithgor y
Cyfansoddiad wedi ystyried y codau a’r protocolau a gynhwysir yn Rhan 5 y
Cyfansoddiad ym mis Hydref. Roedd y Gweithgor wedi ystyried yn fanwl y Protocol
ar berthnasau Swyddog/Aelodau, ac wedi cynnwys fersiwn ddiwygiedig o’r protocol
fel Atodiad 2 i’r adroddiad. Roedd y Pwyllgor
eisoes wedi ystyried newidiadau posib i’w gylch gorchwyl ei hun, megis y
meysydd gwaith y gellid eu trosglwyddo i’r Pwyllgor Safonau. Yn y pen draw,
barn y Pwyllgor oedd nad oedd am drosglwyddo meysydd gwaith i'r Pwyllgor
hwnnw. Fodd bynnag, trafodwyd
materion megis rheoli risg a lle'r oedd pryder y byddai modd dyblygu gwaith o
safbwynt rôl y Pwyllgor hwn a'r Pwyllgor Archwilio. Mae cylch
gorchwyl diwygiedig arfaethedig ar gyfer y Pwyllgor hwn ynghlwm fel Atodiad 3,
sy'n darparu fersiwn wedi'i diweddaru ac yn adlewyrchu’r trafodaethau hynny. Byddai Gweithdy
Aelodau yn briffio’r aelodaeth ehangach ar y newidiadau a ystyriwyd gan y
Pwyllgor ac yn ceisio eu barn, cyn adrodd i’r Cyngor yn Chwefror 2016 er mwyn
cael cymeradwyaeth i’r Cyfansoddiad diwygiedig. Yn dilyn
trafodaeth bellach:- PENDERFYNWYD bod
y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn nodi cynnwys yr adroddiad cyn
ymgynghori’n ehangach gydag Aelodau |
|
RHEOLI'R FFLYD GORFFORAETHOL - ADRODDIAD ARCHWILIO MEWNOL PDF 290 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Archwilio Mewnol (copi'n amgaeedig) sy’n rhoi manylion
yr adroddiad Archwilio Mewnol diweddar ar Reoli’r Fflyd Gorfforaethol a gafodd
sgôr sicrwydd 'Isel'. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth yr Adain Archwilio Mewnol adroddiad (a gylchredwyd o
flaen llaw) a hysbysodd y Pwyllgor am Archwiliad Mewnol diweddar ar Reoli Fflyd
Gorfforaethol a gafodd sgôr sicrwydd “Isel”. Cyflwynodd
Pennaeth yr Adain Archwilio Mewnol yr adroddiad oedd yn ceisio barn y Pwyllgor
ar adroddiad yr Archwiliad Mewnol, a chytundeb ar y sicrwydd bod y Cynllun Gweithredu
o fewn yr adroddiad yn cael ei weithredu yn effeithlon o fewn yr amserlen a
gytunwyd arni. Roedd adroddiad
llawn yr Archwiliad Mewnol wedi ei gynnwys fel Atodiad 1, ac roedd y materion
allweddol oedd yn codi o’r adroddiad yn cynnwys:-
Cadarnhawyd bod “cyfarfod cynnydd” wedi ei gynnal cyn cyhoeddi’r adroddiad
archwiliad terfynol gyda Phennaeth Gwasanaethau Phriffyrdd ac Amgylcheddol,
Cyfarwyddwr Corfforaethol: Uchelgais
Economaidd a Chymunedol, Aelod Arweiniol y Cabinet ac uwch reolwyr, i drafod yr
adroddiad archwilio a chytuno ar Gynllun Gweithredu. PENDERFYNWYD :-
|
|
HUNANASESIAD Y PWYLLGOR LLYWODRAETHU CORFFORAETHOL Cael cyflwyniad
gan y Pennaeth Archwilio Mewnol ar hunanasesiad y Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol. Cofnodion: Gohiriwyd yr
eitem hon tan y cyfarfod a gynhelir ar 27 Ionawr 2016. |
|
RHAGLEN WAITH Y PWYLLGOR LLYWODRAETHU CORFFORAETHOL PDF 161 KB Ystyried rhaglen
gwaith i’r dyfodol y pwyllgor (copi wedi’i amgáu). Cofnodion: Cyflwynwyd
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol (a gylchredwyd
o flaen llaw) i’w ystyried. 27 Ionawr 2016:-
(i) Pwyllgor
Llywodraethu Corfforaethol – Adroddiad Hunanasesiad
(ii) Adroddiad
Blynyddol AGGCC (i’w gadarnhau).
(iii) Rhan II -
Adroddiad Archwilio Mewnol - Ysgol Mair
(iv) Adroddiad
Archwilio Mewnol - Rheoli Fflyd Gorfforaethol (adroddiad llafar) 23 Mawrth 2016:-
(i) Adroddiad
Archwilio Mewnol - Rheoli Fflyd Gorfforaethol (adroddiad ysgrifenedig) PENDERFYNWYD yn
amodol ar yr uchod bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 1.15pm. |