Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Ty Russell, Y Rhyl
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a
nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.
Cofnodion: Ni
wnaeth unrhyw Aelod ddatgan cysylltiad personol na chysylltiad sy’n rhagfarnu
mewn perthynas ag unrhyw fater sydd i’w ystyried yn y cyfarfod. |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
dan Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni
chodwyd unrhyw eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod
fel materion brys dan Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 29 Ionawr 2014. Cofnodion: Cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 29 Ionawr 2014. Cywirdeb:-
Roedd Mr P. Whitham (Aelod Lleyg), y Cynghorydd
M.Ll. Davies a Chynrychiolwyr o Swyddfa Archwilio Cymru (AV) yn bresennol yng
nghyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ar 29 Ionawr 2014. 14. Dyfodol Hamdden Clwyd Cyf:- Newid yr enw
"Hugh Jones" i "Huw Jones". Materion
yn Codi:- 6. Datganiad a Diweddariad am Strategaeth
Reoli’r Trysorlys 2014/15:- Cafwyd cadarnhad gan y Prif Gyfrifydd fod
gwybodaeth ynglŷn â’r benthyciadau hirdymor a gafwyd yn y gorffennol wedi
eu hanfon at y Cynghorydd P.C. Duffy fel y gofynnwyd.
7. Strategaeth Pobl 2011/12– Adroddiad Terfynu:-
Cytunodd Pennaeth y Gwasanaeth Cyfreithiol a Democrataidd i ddarparu trosolwg
i'r Pwyllgor o'r ymatebion a gafwyd i arolwg staff 2011-13. Mewn
ymateb i gais gan y Cynghorydd Kensler, mewn perthynas â'r Bwrdd Moderneiddio,
cytunodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd y dylid darparu rhestr
o bob Bwrdd. 13. Rhaglen Waith y Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol:- Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd G.M. Kensler, eglurodd
y Pennaeth Archwilio Mewnol bod gwaith ar y gweill ar hyn o bryd yn ymwneud â
threfniadau llywodraethu Cwmnïau Hyd Braich, a byddai adroddiad yn cael ei
gyflwyno i'r Pwyllgor ym mis Gorffennaf 2014. PENDERFYNWYD – y dylid
derbyn a chymeradwyo’r cofnodion fel rhai cywir. |
|
PROSES Y GYLLIDEB 2015/16 PDF 229 KB I dderbyn adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Asedau (copi yn amgaeëdig) ar y broses arfaethedig ar gyfer pennu cyllideb refeniw 2015/16. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd copi o adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac
Asedau, yn rhoi diweddariad ynglŷn â’r broses arfaethedig o bennu cyllideb
refeniw ar gyfer 20125/16, wedi ei ddosbarthu ymlaen llaw. Dull gweithredu arferol y Cyngor wrth bennu
cyllideb refeniw oedd mynd ati’n gynyddrannol i leihau costau’n seiliedig ar
gynigion i ganfod arbedion yng nghyllidebau gwasanaethau a chyllidebau
corfforaethol. Byddai’r rhan fwyaf o'r
cynigion hynny’n cael eu derbyn a chyflawnodd y broses honno gyllidebau
llwyddiannus. Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd J. Thompson-Hill a esboniodd bod setliadau yn y Cynllun Corfforaethol i’r dyfodol wedi dynodi y gallai fod angen
canfod arbedion o tua £12m dros y ddwy flynedd nesaf ac efallai y byddai angen
dull gweithredu newydd mewn perthynas ag arbedion. Roedd Atodiad 1 yn manylu ar sut y gallai'r
broses weithio ac roedd manylion pellach wedi'u hymgorffori yn yr
adroddiad. Byddai targedau arbedion y
Gyllideb yn cael eu rhannu yn dri edefyn ar gyfer 2015/16 a 2016/17 ac roedd
tabl a oedd yn dangos y tri edefyn, ynghyd â rhoi bras werthoedd ar eu cyfer,
wedi ei gynnwys yn yr adroddiad. Gellid
amcangyfrif gwerth y ddau edefyn cyntaf
gyda rhywfaint o sicrwydd. Byddai'r
trydydd edefyn yn anos i’w amcangyfrif ac ar hyn o bryd caiff ei ddangos fel
eitem mantoli er mwyn cyflawni targed arbedion o £12m dros y ddwy flynedd
nesaf. Roedd dau wasanaeth wedi cynnal
ymarferion peilot a fu’n ddefnyddiol iawn er mwyn deall sut y byddai'r broses
newydd yn gweithio. Amlinellwyd crynodeb
o’r broses Rhyddid a Hyblygrwydd yn yr adroddiad. Bydd allbwn y cyfarfodydd Rhyddid a Hyblygrwydd a’r cyfarfodydd cyllideb
gwasanaethau’n cael eu coladu a'u cyflwyno yn y lle cyntaf i’r Uwch Dîm
Arweinyddiaeth ac yna i dri gweithdy cyllideb i Aelodau ym mis Gorffennaf, ac
roedd crynodeb o'r broses wedi ei gynnwys yn yr adroddiad. Byddai’r gweithdai cyllideb yn rhoi cyfle i
gael mewnbwn ehangach gan yr Aelodau ynglŷn â’r argymhellion. Cyfeiriwyd at Atodiad 1 lle dangosir y
dewisiadau a ddeilliodd o'r gweithdai i Aelodau. Byddai cynigion a gefnogir gan yr Aelodau’n
cael eu cyflwyno i'r Cyngor ym mis Medi i'w cymeradwyo. Cynigiwyd y dylai pob
un o’r gweithdai cyllideb fod yn ddigwyddiadau diwrnod cyfan ac roedd
amlinelliad drafft o'r meysydd gwasanaeth y byddid yn canolbwyntio arnynt ym
mhob un o'r gweithdai ym mis Gorffennaf wedi ei gynnwys. Byddai hyn yn cwblhau Cam 1 o broses y
gyllideb ac yn arwain at Gam 2. Byddai'r
un broses o gymeradwyo ac ymgynghori yn dilyn, a rhagor o gynigion yn cael eu
cyflwyno i'r Cyngor ym mis Rhagfyr. Cam 3 fydd y cam anoddaf i’w gyflawni o ran y gyllideb gan ei bod yn debygol mai yn ystod y cam
hwnnw y bydd y cynigion mwyaf cynhennus yn cael eu cynnwys. Byddai canlyniad y ddau gam cyntaf o gymorth
wrth gynllunio’r dull gweithredu ar gyfer y trydydd ac efallai y bydd yn rhaid
ailedrych ar hyn eto yn yr hydref. Cafwyd crynodeb manwl o'r dyddiadau allweddol dros dro gan y Cynghorydd
Thompson-Hill sydd hefyd wedi eu nodi mewn tabl a gafodd ei gynnwys yn yr
adroddiad, a chafwyd cadarnhad ganddo y gallai rhai o'r cynigion a gâi eu
cyflwyno fod yn destun ymgynghoriad cyhoeddus. Awgrymodd Mr P. Whitham y dylid ystyried rheolaeth rhaglenni a phrosiectau
mewn perthynas â’r broses lliniaru risgiau, a allai fod o gymorth i’r
mecanweithiau adrodd mewn perthynas â chrynhoi materion allweddol. Amlinellodd y Prif Gyfrifydd y broses a fabwysiadwyd
er mwyn sicrhau bod pawb yn ymwybodol o’r holl gynigion a’r manylion gogyfer
â’u trafod, a chafwyd ganddo fanylion y templed newydd a ddatblygwyd i
gynorthwyo'r broses Rhyddid a Hyblygrwydd. Pwysleisiodd y Cynghorydd S.A. ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Y SIARTER ARCHWILIO MEWNOL PDF 70 KB Ystyried
adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaeth Archwilio Mewnol (copi wedi ei amgáu) sy’n
cyflwyno’r Adroddiad Archwilio Mewnol diwygiedig. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd adroddiad gan y Pennaeth Archwilio Mewnol yn
cyflwyno'r Siarter Archwilio Mewnol ddiwygiedig wedi’i gylchredeg ymlaen llaw. Eglurodd y Pennaeth Archwilio Mewnol bod angen i’r Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol gymeradwyo'r Siarter Archwilio Mewnol ddiwygiedig er mwyn roi
cyfrif dros lwybrau atebolrwydd diwygiedig yn dilyn symud y tîm i'r Gwasanaeth
Gwella Busnes a Moderneiddio. Ym mis
Ionawr 2014, newidiwyd llwybrau atebolrwydd y Gwasanaeth Archwilio Mewnol o’r
Gwasanaeth Cyllid ac Asedau i’r Gwasanaeth Gwella Busnes a Moderneiddio. Roedd Safonau Archwilio Mewnol y Sector
Cyhoeddus yn ei gwneud yn ofynnol i'r gwasanaeth ddiweddaru eu Siarter i ddangos
diben, cwmpas, awdurdod, llwybrau atebolrwydd,
adnoddau a’r trefniadau gogyfer ag osgoi gwrthdaro buddiannau. Mae’r manylion llawn wedi eu cynnwys yn y
Siarter yn Atodiad 1. Roedd y Gwasanaeth Archwilio Mewnol yn rhoi sicrwydd a chyngor i reolwyr ar
bob lefel ac i aelodau etholedig ynglŷn ag ansawdd gweithrediadau o fewn y
Cyngor. Roedd ei waith yn canolbwyntio
ar lywodraethu, rheoli risg, perfformiad, effeithlonrwydd a rheolaeth
weithredol ac ariannol, pethau sydd, bob un ohonynt, yn hanfodol er mwyn
cyflawni blaenoriaethau corfforaethol.
Roedd hefyd yn cynnal prosiectau i sicrhau bod y Cyngor ar y trywydd
iawn i gyflawni ei Flaenoriaethau Corfforaethol a phrosiectau penodol i wella
moderneiddio ac effeithlonrwydd gwasanaethau. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd M.L. Holland, eglurodd y Pennaeth
Archwilio Mewnol y byddai, yn ystod cyfnod yr haf, yn archwilio sut y bydd y
Gwasanaeth Gwlla Busnes a Moderneiddio a'r Gwasanaeth Archwilio Mewnol yn
rhyngweithio â’i gilydd i’r dyfodol gyda'r bwriad o sicrhau bod yr arferion
gorau ar waith ac i osgoi unrhyw
ddyblygu. PENDERFYNWYD - bod y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn ac yn cymeradwyo'r Siarter
Archwilio Mewnol ddiwygiedig. |
|
FERSIWN DDRAFFT ADRODDIAD Y STRATEGAETH ARCHWILIO MEWNOL PDF 70 KB Ystyried
adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaeth Archwilio Mewnol (copi wedi ei amgáu) sy’n
cyflwyno drafft o'r strategaeth Gwasanaeth Archwilio Mewnol 2014/15. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd adroddiad gan y Pennaeth Archwilio Mewnol,
a oedd yn cyflwyno fersiwn ddrafft o strategaeth y Gwasanaeth Archwilio Mewnol
ar gyfer 2014/2015, ei gylchredeg ymlaen llaw. Roedd Cylch Gorchwyl y Pwyllgor yn ei gwneud yn ofynnol i’r Pwyllgor roi
ystyriaeth i Strategaeth Cynllunio Archwilio, Gwasanaeth Archwilio Mewnol y
Cyngor, ac mae fersiwn ddrafft y Strategaeth Archwilio Mewnol ar gyfer 2014-15
wedi ei chynnwys yn Atodiad 1. Mae
disgwyl adolygiad, sydd ar y gweill ar hyn o bryd, o sut y gallai’r Cyngor
wella a chydlynu ei ddull o ddarparu sicrwydd a gwella gwasanaethau. Yn y
cyfamser, cynigiai’r Strategaeth drosolwg o’r meysydd y byddai’r gwasanaeth yn
debygol o dreulio amser arnynt yn ystod 2014-15. Roedd y Pennaeth Archwilio Mewnol ar y pryd yn ymgynghori gyda'r Uwch Dîm
Arweinyddiaeth ac yn gweithio gyda rheolwyr eraill o fewn y Gwasanaeth Gwella
Busnes a Moderneiddio i ddatblygu dull gweithredu mewn perthynas â chynnig
sicrwydd a gwelliannau. Penllanw’r gwaith hwnnw fydd Strategaeth Archwilio
Mewnol newydd gogyfer â mis Medi 2014. Roedd y Gwasanaeth Archwilio Mewnol yn darparu sicrwydd a chyngor i reolwyr
ar bob lefel ynglŷn ag ansawdd gweithrediadau o fewn y Cyngor. Roedd y gwaith yn canolbwyntio ar
lywodraethu, rheoli risg, perfformiad, effeithlonrwydd ac ar reolaeth
weithredol ac ariannol, pethau sydd, bob un ohonynt, yn hanfodol er mwyn
cyflawni’r blaenoriaethau corfforaethol.
Roedd hefyd yn cynnal prosiectau i sicrhau bod y Cyngor ar y trywydd
iawn i gyflawni ei Flaenoriaethau Corfforaethol a phrosiectau penodol i wella
moderneiddio ac effeithlonrwydd gwasanaethau. Cyfeiriodd Mr P. Whitham at Strategaeth Sicrwydd y Gwasanaeth Archwilio
Mewnol ar gyfer 2014/15, Gwaith Hanfodol Arall 15%, ac unrhyw symudiad yn y
cydbwysedd rhwng Gwaith Dilynol Prosiectau 50 diwrnod a Gwaith Ymgynghoriaethol
a Chorfforaethol 50 diwrnod. Cadarnhaodd
y Pennaeth Archwilio Mewnol na fu fawr o
newid i’r ffigurau na’r canrannau ers symud y Gwasanaeth Archwilio Mewnol i'r
Gwasanaeth Gwella Busnes a Moderneiddio.
Pwysleisiodd y Cynghorydd ML Holland pa mor bwysig yw sicrhau nad oes
unrhyw waith yn cael ei ddyblygu. Eglurodd Cynrychiolydd Swyddfa Archwilio Cymru ei fod yn falch o nodi bod
darpariaeth o 100 diwrnod wedi ei gynnwys ar gyfer gwaith Sicrwydd
Ariannol. Eglurodd y Pennaeth Archwilio
Mewnol fod y Prif Weithredwr wedi cydnabod pwysigrwydd dal gafael ar reolaeth
wrth fynd ati i leihau gwasanaethau a dygymod â phwysau cyllidebol. Eglurodd y Pennaeth Archwilio Mewnol bod prosiectau newydd wedi cael eu
cyflwyno a oedd yn ymwneud â rheoli incwm ac atal twyll. Roedd Mr P. Whitham yn teimlo ei bod yn
bwysig sicrhau bod mesurau rheoli yn gost effeithiol ac yn mynd i'r afael ag
unrhyw risgiau a oedd wedi eu dynodi. PENDERFYNWYD - bod y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn ac yn cymeradwyo fersiwn ddrafft
y Siarter Archwilio Mewnol arfaethedig ar gyfer 2014-15. |
|
ADRODDIAD CYNNYDD ARCHWILIO MEWNOL PDF 86 KB Ystyried
adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaeth Archwilio Mewnol (copi wedi ei amgáu) sy’n
rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yr Archwiliad Mewnol o ran cyflenwi
gwasanaeth, darparu sicrwydd, adolygiadau a gwblhawyd, perfformiad ac
effeithiolrwydd o ran gwelliannau. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd adroddiad gan y Pennaeth Archwilio Mewnol
wedi ei gylchredeg ymlaen llaw a oedd yn cynnig diweddariad ynglŷn â’r
cynnydd diweddaraf a wnaed gan y Gwasanaeth Archwilio Mewnol o ran darparu
gwasanaeth, darparu sicrwydd, cwblhau adolygiadau ynghyd â’u perfformiad a’u
heffeithiolrwydd wrth ysgogi gwelliannau. Roedd yr adroddiad yn cynnig diweddariad ynglŷn â’r canlynol:- · cyflawni ein Cynllun Sicrwydd ar gyfer
2013/14 (Atodiad 1) · adroddiadau Archwilio Mewnol a gyhoeddwyd yn
ddiweddar (Atodiad 2) · ymateb rheolwyr i faterion a godwyd gennym
(Atodiad 3) · Perfformiad Archwiliad Mewnol (Atodiad 4) Roedd manylion yn ymwneud â chyflawni Cynllun Sicrwydd y Gwasanaeth
Archwilio Mewnol ar gyfer 2013/14 wedi ei gynnwys yn yr adroddiad ac roedd
Atodiad 1 yn darparu dadansoddiad o'r gwaith a wnaed yn ystod 2013/14, o'i
gymharu â’r Strategaeth Archwilio Mewnol. Roedd yn cynnwys sgoriau sicrwydd
ynghyd â nifer o faterion a godwyd ar gyfer yr adolygiadau a gwblhawyd,
diffiniadau a ddefnyddiwyd i ffurfio ein sicrwydd archwilio a'r graddfeydd a
ddefnyddiwyd wrth asesu'r lefelau risg ar gyfer y materion a godwyd. Yn dilyn symud y gwasanaeth, er mwyn tendro am gontractau allanol, oherwydd
problemau TG, ac er mwyn gweithredu System Rheoli Dogfennau a Chofnodion
Electronig a gweithio ar ymchwiliadau arbennig, roedd y Gwasanaeth Archwilio
Mewnol wedi blaenoriaethu prosiectau a ystyrid yn 'Sicrwydd Hanfodol' er mwyn
sicrhau cyrraedd o leiaf gyfnod fersiwn ddrafft yr adroddiad erbyn 31 Mawrth 2014. Bydd rhai prosiectau’n cael eu gohirio tan ar
ôl 1 Ebrill 2014 a byddant yn rhan o waith sicrwydd y flwyddyn nesaf. Cafodd
adroddiadau terfynol y Gwasanaeth Archwilio Mewnol a gyhoeddwyd ers mis Ionawr
2014 eu cynnwys yn Atodiad 2. Roedd
adroddiadau yn rhoi crynodeb gweithredol a chynlluniau gweithredu wedi'u
darparu, ynghyd â manylion ynglŷn â lliwiau’r graddau sicrwydd. Roedd ymateb rheolwyr i faterion a godwyd gan
y Gwasanaeth Archwilio Mewnol wedi eu crynhoi, ac roedd Atodiad 3 yn manylu ar
yr adolygiadau dilynol a gwblhawyd ers yr adroddiad blaenorol, gan gynnwys
manylion llawn am yr ymateb i’r gwaith dilynol a wnaed ynglŷn â Chaffael Gwasanaethau Adeiladu. Eglurodd y Pennaeth Archwilio Mewnol bod y Gwasanaeth Archwilio Mewnol yn
mesur ei berfformiad mewn dau faes allweddol:- · Darparu
'Sicrwydd Hanfodol' · 'Safonau
Cwsmeriaid' Roedd Atodiad 4 yn manylu ar berfformiad y
Gwasanaeth Archwilio Mewnol hyd yma yn 2013/14.
Roedd y Gwasanaeth Archwilio Mewnol ar y trywydd iawn i gyflawni 100% o
brosiectau 'Sicrwydd Hanfodol' erbyn 31 Mawrth, 2014, ac roedd disgwyl y
byddent yn cyflawni 100% mewn perthynas â phob un o’r 'Safonau Cwsmeriaid' gyda
dau eithriad:- ·
roedd un prosiect wedi cael rhybudd cychwyn prosiect o 8
diwrnod gwaith yn hytrach nag o 10 diwrnod gwaith fel sy’n ofynnol. ·
oherwydd pwysau gwaith, cyhoeddwyd adroddiad drafft ar
gyfer un prosiect wedi 14 diwrnod yn hytrach nag wedi 10 diwrnod fel y
cytunwyd. Cymeradwywyd yr oedi yn
hytrach na chyfaddawdu ansawdd yr adroddiad drafft. Eglurodd y Pennaeth Archwilio Mewnol y byddai cynllun pellach, mwy manwl, a
fyddai’n seiliedig ar Strwythur Rhyddid a Hyblygrwydd, yn cael ei gyflwyno ger
bron cyfarfod y Pwyllgor ym mis Mai, 2014. Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan y Cynghorydd P.C. Duffy, eglurodd y
Pennaeth Archwilio Mewnol fod ymweliadau thematig ag ysgolion mewn perthynas â
diogelwch corfforol / iechyd a diogelwch, caffael, diogelu a rheoli Cronfa
Ysgol wedi eu gohirio oherwydd gormod o lwyth gwaith. Fodd bynnag, mae bwriad i’w cynnal fel mater
o frys. Rhoddodd yr Aelodau ystyriaeth i’r adroddiadau terfynol canlynol yn ymwneud
â’r Gwasanaeth Archwilio Mewnol, fel y nodir yn Atodiad 2, ac ymateb y rheolwyr
i faterion a godwyd gan y Gwasanaeth Archwilio Mewnol yn Atodiad 3:- Caffael Gwasanaethau Adeiladu:- Eglurodd y Pennaeth Archwilio Mewnol mai adroddiad dilynol ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
AMLINELLIAD O ARCHWILIO ARIANNOL BLYNYDDOL 2013/14 - HYSBYSIAD O ARDYSTIO CYFRIFON 2012/13 PDF 68 KB Ystyried
adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaeth Archwilio Mewnol (copi wedi ei amgáu) a oedd yn darparu
hysbysiad ffurfiol fod y broses ardystio archwiliad ar gyfer Datganiad Cyfrifon
2012/13cv wedi’i gwblhau. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Asedau a
oedd yn darparu hysbysiad ffurfiol fod proses ardystio archwiliad Datganiad
Cyfrifon 2012/13 wedi’i gwblhau, wedi cael ei gylchredeg ymlaen llaw. Cyflwynodd y Prif
Gyfrifydd yr adroddiad gan egluro fod adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru,
Atodiad 1, yn amlinellu materion megis rolau a chyfrifoldebau, y dull
archwilio, adrodd, elfennau allweddol o'r gwaith archwilio a'r tîm archwilio
ariannol, a’i fod yn hysbysiad ffurfiol bod y broses o ardystio archwilio ar
gyfer Datganiad Cyfrifon 2012/13 wedi
dod i ben yn ffurfiol. Roedd yn ofynnol i'r archwilwyr allanol gyflwyno’r adroddiad hwn er mwyn
cyflawni'r hyn sy’n ofynnol ohonynt o dan safonau archwilio ac arferion
archwilio priodol. Roedd amlinelliad o'r
gwaith archwilio ariannol yr oedd ei angen ar gyfer datganiadau ariannol
2013-14 wedi ei gynnwys yn adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru. Cafwyd gwybod gan gynrychiolydd Swyddfa
Archwilio Cymru am y dull archwilio, gan gynnwys y risgiau archwilio allweddol
a oedd wedi’u dynodi yn ystod y broses gynllunio gychwynnol a'r camau a
gynigiwyd er mwyn mynd i'r afael â nhw.
Bydd y gwaith archwilio ariannol yn y meysydd risg yn cael eu defnyddio
i lywio barn wrth archwilio’r datganiadau ariannol. Roedd rhan o'r broses
archwilio statudol yn caniatáu i'r cyhoedd archwilio'r cyfrifon ac yn gwahodd
partïon â diddordeb i godi cwestiynau a gwrthwynebiadau ynglŷn â
thrafodion o fewn y flwyddyn ariannol.
Codwyd cwestiynau ynghylch nifer o bynciau yn uniongyrchol gyda'r Cyngor
a chafodd gwybodaeth a chopïau o amrywiol ddogfennau eu darparu gan y
Cyngor. Codwyd rhai o'r un materion yn
ffurfiol fel gwrthwynebiadau o dan yr un broses gyda Swyddfa Archwilio Cymru. Pan gymeradwywyd y cyfrifon gan y Cyngor ym
mis Medi 2013, roedd Swyddfa Archwilio Cymru yn gohebu â dau aelod o'r cyhoedd
a oedd wedi codi gwrthwynebiadau. Cafwyd
cadarnhad bod unrhyw ohebu wedi’i orffen a bod y materion wedi’u datrys. Ni arweiniodd unrhyw un o’r gwrthwynebiad a
godwyd yn rhan o’r broses arolygu gyhoeddus at newid y ffigurau na’r nodiadau
ategol a ddatgelwyd yng nghyfrifon 2012/13. Cafwyd manylion gan
gynrychiolydd Swyddfa Archwilio Cymru am y broses o bennu ffioedd a
chadarnhaodd y byddai gwybodaeth yn ymwneud â'r ffioedd ar gyfer y flwyddyn
gyfredol yn cael eu cadarnhau a'u hadrodd ger bron y Pwyllgor. Amlinellodd arwyddocâd cynnwys risg diystyru
rheolyddion o fewn yr holl endidau o ran gwiriadau a'r gweithdrefnau archwilio. Darparodd cynrychiolydd
Swyddfa Archwilio Cymru hefyd grynodeb o’r meysydd o fewn yr Amlinelliad o
Archwilio Ariannol Blynyddol a oedd yn cynnwys manylion am y tîm archwilio a'i
annibyniaeth, yr amserlen, swyddogaethau a chyfrifoldebau ac am Raglen
Reoleiddio'r Archwilydd Cyffredinol. Mewn ymateb i gwestiwn
gan Mr P. Whitham, cyflwynodd cynrychiolydd Swyddfa Archwilio Cymru fanylion am
y broses o adrodd wrth y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol am y gwaith sy’n
ymwneud â chyfrifon ariannol sydd wedi ei gynnwys o fewn yr amserlen, sef
arddangosyn 7 ar Dudalen 13 Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru. Yn dilyn trafodaeth
bellach:-- PENDERFYNWYD -
bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol:- (a)
yn derbyn ac yn nodi cynnwys adroddiad Swyddfa Archwilio
Cymru, ac. (b)
yn nodi bod y broses ardystio wedi dod i ben yn ffurfiol mewn
perthynas â Datganiad Cyfrifon 2012/13. |
|
CYFLWYNO LLYWODRAETHU DA A GWELLIANT PARHAUS PDF 74 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Busnes, Cynllunio a Pherfformiad (copi wedi ei amgáu)
ar hunanasesu trefniadau llywodraethu a gwelliant y Cyngor ar gyfer 2013/14. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd adroddiad gan y Pennaeth Archwilio Mewnol
ynglŷn â’r adroddiad hunanasesu ar drefniadau llywodraethu a gwella'r
Cyngor ar gyfer 2013/14 wedi ei ddosbarthu ymlaen llaw. Roedd y Pwyllgor wedi
cymeradwyo Datganiad Llywodraethu Blynyddol y Cyngor yn flaenorol. Fodd bynnag, roedd yr adroddiad hwn yn
disodli’r broses honno drwy gyfuno’r hunanasesiad llywodraethu a’r hunanasesiad
corfforaethol a wnaed yn flaenorol. Eglurodd y Pennaeth
Archwilio Mewnol ei bod yn arfer da i ymgynghori'n eang ar yr hunanasesiad
gydag aelodau etholedig ac uwch reolwyr ac mai hyn yw cychwyn y broses
honno. Ystyrid bod datblygu 'datganiad
llywodraethu blynyddol' a oedd yn rhan o Ddatganiad Cyfrifon y Cyngor yn arfer
da. Fodd bynnag, roedd rhywfaint o
ddyblygu rhwng yr hunanasesiad yr oedd ei angen ar gyfer y datganiad
llywodraethu blynyddol a'r hunanasesiad corfforaethol a oedd yn canolbwyntio’n
fwy ar welliant parhaus. Mae’r dogfennau
bellach wedi cael eu cyfuno i ddarparu dull arloesol er mwyn arbed adnoddau a
darparu dull cydgysylltiedig o hunanasesu. Roedd ymgynghori’n
digwydd gydag aelodau etholedig ac uwch reolwyr ynglŷn â fersiwn ddrafft,
a elwir yn 'Darparu llywodraethu da a gwelliant parhaus'. Fersiwn ddrafft gynnar oedd hon ac roedd
gwaith yn mynd rhagddo arni ac roedd angen trafodaeth bellach yn ei chylch, yn
enwedig gyda’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth.
Bydd y fersiwn derfynol yn cael ei llofnodi gan y Prif Swyddog
Gweithredol a’r Arweinydd erbyn 30 Mehefin 2014, a bydd yn cael ei chyflwyno
ger bron y Pwyllgor hwn ynghyd â'r Datganiad Cyfrifon. Roedd manylion am gyfraniad yr hunanasesu at
y Blaenoriaethau Corfforaethol, a'r broses ymgynghori, wedi cael eu hymgorffori
yn yr adroddiad. Eglurodd y Pennaeth
Archwilio mewnol fod gwaith yn cael ei wneud ar hyn o bryd mewn perthynas â
chynhyrchu Polisi Gwrth-dwyll a Llygredd a sut y byddai’n cael ei weithredu yn
y dyfodol, a fyddai'n ymgorffori newidiadau yn ymwneud â'r Ddeddf Llwgrwobrwyo. Rhoddodd Pennaeth y
Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd wybod i’r Pwyllgor nad oedd y Polisi
Rhannu Pryderon wedi ei fabwysiadu’n ffurfiol eto. Eglurodd fod Model Cyfansoddiad Cymru
Gyfan bellach wedi ei baratoi, a oedd yn
cynnwys Polisi Rhannu Pryderon, a byddai'n cael ei archwilio a’i gymharu yn
erbyn fersiwn ddrafft y Cyngor o Bolisi Rhannu Pryderon a fyddai'n cael ei
gyflwyno i'r Cyngor eleni fel rhan o'r adolygiad cyffredinol. Yn ystod y drafodaeth a
ddilynodd, codwyd y materion canlynol gan Mr P. Whitham a chafwyd ymateb
iddynt:- -
Cyfeiriwyd
at Dudalen 97 yr adroddiad a gofynnwyd am eglurhad ynghylch a oedd datblygu
prosiectau allweddol yn cynnwys Gwasanaethau Caffael ac Adeiladu neu beidio. -
Mewn
ymateb i gwestiwn gan Mr Whitham ynghylch darparu manylion ar ganllawiau’r
Cyngor ar gyfer adolygu Polisïau, eglurodd y Pennaeth Archwilio Mewnol iddynt
fod wedi bwriadu cynnal adolygiad cyffredinol o Fframwaith Polisi’r Cyngor. -
Cyfeiriwyd
at "adolygu'r Gofrestr Risgiau Corfforaethol ddwywaith y flwyddyn",
Tudalen 103 yr adroddiad, ac awgrymwyd y dylai hyn ddangos bod y Pwyllgor
Llywodraethu Corfforaethol wedi eu cynnwys. -
Mynegwyd
pryder na wnaed cyfeiriad at Reoli Gwybodaeth fel maes o wendid llywodraethu
arwyddocaol, ac awgrymwyd y dylid cynnwys cyfeiriad at Hawl i Wybodaeth,
Rhyddid Gwybodaeth a Diogelu Data ar dudalen 103 yr adroddiad. Amlygwyd hefyd yr angen am ddarparu
hyfforddiant mewn perthynas â Rheoli Gwybodaeth, a'r risgiau sy'n
gysylltiedig. Cytunodd y Pwyllgor y
dylid gofyn i Grŵp y Cadeiryddion
a’r Is-gadeiryddion edrych ar y posibilrwydd o archwilio arfer gorau wrth
ddelio â cheisiadau rhyddid gwybodaeth. Cadarnhaodd Pennaeth y
Gwasanaeth Cyfreithiol a Democrataidd bod y Rheolwr Gwybodaeth Gorfforaethol
wedi ysgrifennu at bob Pennaeth Gwasanaeth yn gofyn am wybodaeth ynglŷn â derbyn
ceisiadau ailadroddus. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd G.M. Kensler, eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd y ... view the full Cofnodion text for item 10. |
|
CYNRYCHIOLAETH AELODAU AR GYRFF ALLANOL - DIWEDDARIAD PDF 116 KB Ystyried
adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd (copi wedi ei
amgáu) ar gynrychiolaeth Aelodau ar gyrff allanol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd copi o adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau
Cyfreithiol a Democrataidd wedi’i gylchredeg ymlaen llaw. Roedd yr Aelodau wedi rhoi ystyriaeth flaenorol i adroddiad ynglŷn â
Phrotocol i Aelodau ar Gyrff Allanol, a gwnaed cais am wybodaeth bellach
ynglŷn â llunio mecanwaith y gallai Aelodau ei ddefnyddio i adrodd yn ôl
i’r Cyngor am eu gwaith ac am weithgareddau Cyrff Allanol. Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol
a Democrataidd y gallai'r swyddogaethau y penodir Aelodau iddynt ar Gyrff Allanol amrywio’n
fawr. Caiff rhai Aelodau eu penodi’n
Gyfarwyddwyr neu’n Ymddiriedolwyr, ac mae i’r ddwy swyddogaeth hynny
ddyletswyddau a goblygiadau cyfreithiol i'r corff y penodwyd hwy iddynt, a
chyfeiriodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd at yr ystod eang
o risgiau ariannol sydd ynghyd â risg i enw da’r Awdurdod. Roedd disgrifiad o’r swyddogaethau amrywiol
hyn wedi’i gynnwys mewn Protocol a Chanllawiau ar gyfer Aelodau Etholedig a
benodwyd i Gyrff Allanol, Atodiad 1. Mewn cyfarfod ym mis
Tachwedd, 2013, gofynnodd yr Aelodau am restr o Gyrff Allanol y mae Aelodau
wedi eu penodi iddynt, a hynny yn dilyn y categorïau canlynol:- ·
Cyrff sy’n gosod archebiant y mae’r Cyngor yn ei gasglu. ·
Cyrff y mae'r Cyngor yn tanysgrifio i fod yn aelod ohonynt. ·
Cyrff sy’n derbyn grant neu gymorth ariannol arall gan y Cyngor. ·
Pob Cyrff Allanol arall. Roedd yr adroddiad wedi’i gynnwys yn Atodiad 2. Byddai angen i’r Pwyllgor ystyried y materion
canlynol wrth ystyried sut y dylai’r Aelodau adrodd yn ôl i’r Cyngor: - ·
A oes angen adrodd mor aml ac i’r un manylder gogyfer â phob Corff Allanol.
·
A ddylai amlder a manylder yr adrodd ddibynnu ar lefel y risg i'r Cyngor
e.e. risg ariannol, risg i enw da’r Cyngor. ·
Bydd gan gyfarwyddwyr ac ymddiriedolwyr ddyletswyddau cyfreithiol i'r corff
y maent wedi eu penodi iddo a gall fod ganddynt rwymedigaeth cyfrinachedd i'r
corff hwnnw sy'n cyfyngu ar lefel y manylder y gellid ei gynnwys yn unrhyw
adroddiad. ·
Y fforwm y cyflwynir yr adroddiadau iddynt ·
Mae posibilrwydd o orgyffwrdd a dyblygu gyda system Adroddiadau Blynyddol
yr Aelodau ynglŷn â’u gweithgareddau fel Cynghorwyr. Mewn ymateb i gwestiwn
gan Mr P. Whitham, cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a
Democrataidd bod y rhestr o Gyrff Allanol, yn Atodiad 2, yn ddogfen weithredol
ac y gellid dylanwadu arni gan y broses Rhyddid a Hyblygrwydd. O ran bod yr Awdurdod yn ffurfio cwmnïau,
byddai'n bwysig sicrhau cydbwysedd o ran sut y byddai hynny’n cael ei reoli a'i
fonitro. Mae adroddiad templed drafft wedi’i gynnwys er mwyn i Aelodau roi
ystyriaeth iddo, Atodiad 3. Roedd y Pwyllgor wedi
cael cais i ystyried materion a nodir yn yr adroddiad, a oedd yn cynnwys sut,
pryd ac wrth bwy y dylai Aelodau adrodd, ac i nodi'r hyn y maent yn ei ffafrio
er mwyn sicrhau bod ymgynghori llawnach yn digwydd gyda phob Aelod. Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd y gall gwaith
cyrff allanol gyfrannu at gyflawni blaenoriaethau'r Cyngor a gallai derbyn
gwybodaeth reolaidd am eu gweithgarwch gynorthwyo'r Cyngor wrth gynllunio
gweithgarwch i’r dyfodol. Mae’n bosib y
gallai staff dreulio amser ychwanegol yn gweinyddu'r broses adrodd, ond dylid gallu
cynnwys hyn o fewn y gyllideb bresennol.
Yr adroddiad hwn yw dechrau’r broses o ymgynghori ag Aelodau. Wrth ystyried yr adroddiad, mynegwyd y canlynol gan yr Aelodau a chafwyd yr
ymatebion canlynol i gwestiynau a godwyd:- -
Dylid
cyflwyno adroddiadau rheolaidd gan Aelodau sy’n gynrychiolwyr ar Gyrff Allanol
sy'n derbyn cyfraniadau ariannol gan yr Awdurdod. -
Dylai
Aelodau sy’n gynrychiolwyr ar Gyrff Allanol adrodd wrth y Cabinet, sef y corff
penodi. - Mae angen llunio Polisi Corfforaethol i ddiffinio swyddogaeth Aelodau sy’n gynrychiolwyr ar Gyrff Allanol. ... view the full Cofnodion text for item 11. |
|
RHAGLEN WAITH Y PWYLLGOR LLYWODRAETHU CORFFORAETHOL PDF 151 KB Ystyried Rhaglen
Waith i’r Dyfodol y Pwyllgor (copi wedi ei amgáu). Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor
Llywodraethu Corfforaethol (a gylchredwyd ymlaen llaw) i’w ystyried. Cadarnhaodd y Pwyllgor Raglen Gwaith i'r Dyfodol y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol, yn amodol ar gynnwys yr Eitemau Busnes
hynny y cytunwyd arnynt yn ystod y cyfarfod. Cytunodd y Pwyllgor y dylid adolygu'r holl
benderfyniadau a wnaed gan y Pwyllgor, dros y 18 mis diwethaf, i sicrhau bod y
camau y cytunwyd arnynt wedi eu cynnwys yn Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y
Pwyllgor. PENDERFYNWYD:- (a)
yn amodol ar yr
uchod, fod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol, a (b)
bod adolygiad o’r holl benderfyniadau a wnaed gan y Pwyllgor dros y 18
mis diwethaf yn cael ei gynnal. Daeth y Cyfarfod i ben am 13.15pm. |