Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1A, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Croesawodd y
Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democratiaeth bawb i'r
cyfarfod a chyflwyno’r eitem o Benodi Cadeirydd. Enwebodd y
Cynghorydd Barry Mellor y Cynghorydd Jason McLellan, ac eiliwyd gan y
Cynghorydd Peter Duffy. Pawb yn codi
dwylo yn unfrydol yn cytuno i hynny. PENDERFYNWYD
penodi’r Cynghorydd Jason McLellan yn Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. |
|
Penodi Is-Gadeirydd Enwebodd y
Cynghorydd Jason McLellan y Cynghorydd Barry Mellor, a eiliwyd gan y Cynghorydd
Ann Davies. Pawb yn codi
dwylo yn unfrydol yn cytuno i hynny. PENDERFYNWYD y dylid penodi'r Cynghorydd
Barry Mellor fel Is-Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu am y flwyddyn nesaf. |
|
YMDDIHEURIADAU |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Dim |
|
MATERION BRYS Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Dim |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 25 Mawrth 2015. Cofnodion: Cyflwynwyd
Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 25
Mawrth 2015. Ymddiheurodd
y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democratiaeth i'r
Pwyllgor, o ganlyniad i broblem technegol nid oedd y fersiwn Saesneg o Eitem 11
- Taliadau Ariannol i Ymadawyr Gofal - Diweddariad wedi llwytho’n gywir gan y
system Mod.Gov. Roedd y papurau Cymraeg yn gywir.
Dosbarthwyd copi o eitem 11 wedi’i argraffu yn ystod y
cyfarfod. PENDERFYNWYD - y dylid derbyn a chymeradwyo
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 25
Mawrth 2015 fel cofnod cywir. |
|
PROSES Y GYLLIDEB 2016/17 PDF 94 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Asedau (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyried
adroddiad gan y Prif Gyfrifydd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i Aelodau ystyried
y wybodaeth ddiweddaraf ar Broses y Gyllideb ac i wneud sylwadau fel y bo'n
briodol. Eglurodd y Cynghorydd
Julian Thompson-Hill nad oedd unrhyw Weithdai Cyllideb wedi’u cynnal ers
cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol diwethaf ar 25 Mawrth 2015. Roedd
y Gweithdy Cyllideb nesaf wedi’i drefnu ar gyfer 5 Mehefin, 2015. Roedd
cyfarfodydd Gwasanaeth unigol wedi dechrau gyda 50% wedi'u cwblhau. Roedd y bwlch a
ragwelwyd yn y gyllideb ar gyfer 2015/16 tua £8m. Roedd arbedion o £2.7miliwn
wedi eu cymeradwyo fel rhan o'r broses bresennol a oedd yn golygu bod y bwlch
sy'n weddill tua £6.2miliwn. Roedd disgwyl
arbedion arfaethedig o oddeutu £1.5m ar ôl cwblhau'r cyfarfodydd Gwasanaeth
Unigol. Byddai hynny'n golygu dod o hyd i arbedion
ychwanegol o £4.5m. Byddai cynigion
ar gyfer arbedion yn codi o'r Gweithdy Cyllideb ar 5 Mehefin yn mynd i'r Cyngor
llawn i'w cadarnhau a’u cymeradwyo ym mis Gorffennaf 2015. Byddai rheoli
risg y broses yn ystyriaeth allweddol i’r Pwyllgor ac roedd y risgiau posib i
weithredu pob cynnig i arbed wedi digwydd ac yn parhau i gael eu cyflwyno mewn
gweithdai wrth iddynt ddatblygu. Cryfhaodd y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yr alwad i Aelodau gymryd rhan ac i
fynychu'r Gweithdai Gyllideb. Cadarnhaodd y
Swyddog Adran 151 (S151O) bod Ardal y Gyllideb wedi'i sefydlu ar system Mod.Gov
yn Llyfrgell yr Aelodau. Roedd y wybodaeth yn cael ei boblogi ar
hyn o bryd ac y byddai'r (S151O) yn hysbysu'r holl Aelodau pan fydd hyn wedi'i
gwblhau. Yn y fan hon,
mynegodd y Cynghorydd Martyn Holland a’r Cadeirydd eu gwerthfawrogiad i Paul
McGrady, Pennaeth Cyllid ac Asedau, am ei holl waith a'r cefnogaeth a roddodd
yn ystod ei yrfa yn Sir Ddinbych. Byddai'n gadael Sir Ddinbych ar ddydd Gwener
i ymgymryd â swydd newydd. PENDERFYNWYD - bod
y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn ac yn nodi cynnwys yr adroddiad
ar y datblygiadau diweddaraf.
|
|
CAFFAEL GWASANAETHAU ADEILADU Derbyn
diweddariad llafar gan y Pennaeth Cyfathrebu, Marchnata a Hamdden. Cofnodion: Cyflwynodd y
Pennaeth Cyllid ac Asedau Dros Dro adroddiad ar lafar ar gaffael gwasanaethau
adeiladu. Dywedodd y
Pennaeth Cyllid ac Asedau Dros Dro bod angen gwneud newidiadau sylfaenol o ran
caffael gwasanaethau adeiladu. Roedd gan wasanaethau gwahanol drefniadau
gwahanol felly byddai angen dyfeisio proses well ar gyfer caffael. Er mwyn
galluogi'r system i fod yn llwyddiannus, byddai angen gwario amser gyda
chyflenwyr, contractwyr a chwmnïau llai i gynorthwyo yn eu hyfforddiant fel eu
bod yn hyderus yn defnyddio'r system.
Byddai'r system e-Gaffael yn
helpu ond byddai angen gwneud rhai newidiadau. Gofynnodd y
Pennaeth Cyllid ac Asedau Dros Dro am amser ychwanegol iddo allu cwrdd ag
archwilio i gynhyrchu cynllun gweithredu clir a chryno i ddod yn ôl i'r
Pwyllgor yn y cyfarfod a oedd i'w gynnal ar 28 Medi. Roedd dau ddarn
penodol o waith o fewn y Cynllun Corfforaethol y byddai eu hangen mewn un
cynllun cyfannol: ·
sut
mae'r cyngor yn gweithio gyda chyflenwyr, a ·
Manteision
Cymunedol Byddai
dadansoddiad hefyd yn cael ei gyflwyno ar yr enillion o fod yn gysylltiedig â'r
Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a defnyddio'r fframwaith cenedlaethol. Byddai'r Pennaeth
Cyllid ac Asedau Dros Dro yn gweithio ar brosiect hyd at ddiwedd y flwyddyn i
adeiladu ar wybodaeth arbenigol am y swyddogion caffael. Byddai
ymgynghoriad hefyd yn cael ei gynnal gyda Phenaethiaid Gwasanaeth er mwyn
canfod eu hanghenion ar gyfer caffael. Byddai adroddiad
yn cael ei lunio i ddiweddaru aelodau y Pwyllgor llywodraethu corfforaethol yn
y cyfarfod ar 28 Medi 2015. PENDERFYNWYD nodi’r
adroddiad ar lafar ac i dderbyn yr Adroddiad Caffael Gwasanaethau Adeiladu yn y
cyfarfod Llywodraethu Corfforaethol i'w gynnal ar 28 Medi 2015. |
|
TALIAD ARIANNOL I’R RHEINY SY'N GADAEL GOFAL PDF 79 KB Derbyn
diweddariad llafar gan y Pennaeth Cyfathrebu, Marchnata a Hamdden. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd adroddiad (wedi’i ddosbarthu eisoes) a
oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd gyda'r cynllun gweithredu
wedi’i gynnwys yn yr adroddiad Archwilio Mewnol ar Daliadau Ariannol i’r Rheiny
sy’n Gadael Gofal a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2014. Trafododd y
Pwyllgor yr adroddiad dilynol ar 5 Tachwedd 2014 a 25 Mawrth 2015. Nodwyd
rhywfaint o gynnydd yn erbyn y cynllun gweithredu ond roedd yna rai camau yn
dal heb eu gweithredu, yn bennaf yn gysylltiedig â chyngor y gofynnwyd amdano
gan y Gwasanaeth Caffael Cydweithredol. Mae’r wybodaeth
ddiweddaraf yn dangos bod yr holl gamau gweithredu wedi'u cwblhau ar ôl derbyn
cyngor gan y Gwasanaeth Caffael Cydweithredol. Mae’r defnydd o docynnau bws
wedi bod yn arbennig o ddefnyddiol ac am gael eu defnyddio gan adrannau eraill
ar draws Gwasanaethau Plant a Theuluoedd. Ar gyfer pobl
ifanc a oedd yn gyfrifol am ofalu dros arian eu hunain fe sefydlwyd cyfrifon
banc, ond byddai proses yn cael ei sefydlu ar gyfer y rhai nad oedd yn gyfrifol
am eu harian. Edrychwyd ar wahanol opsiynau a’r dewis Undeb
Credyd oedd yn ymddangos i fod y dewis mwyaf hyblyg. Cadarnhaodd y
Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ei fod wedi cymryd hirach nag a
ragwelwyd yn wreiddiol, ond roedd yr holl gamau gweithredu erbyn hyn bellach
wedi’u cwblhau. PENDERFYNWYD bod
y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn nodi'r adroddiad a chytunwyd i nodi
bod y Cynllun Gweithredu wedi’i gwblhau.
Ni fyddai angen adroddiad dilynol. |
|
ADRODDIAD UWCH SWYDDOGION RISG GWYBODAETH PDF 289 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Busnes, Gwella a Moderneiddio (copi ynghlwm) sy'n rhoi
manylion achosion o dorri'r Ddeddf Diogelu Data sydd wedi bod yn destun
ymchwiliad gan y SIRO, a chwynion yn ymwneud â deddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth
a gyfeiriwyd at y Comisiynydd Gwybodaeth. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Pennaeth Gwella Busnes a Moderneiddio adroddiad (wedi’i ddosbarthu eisoes) yn
cwmpasu'r cyfnod o Ebrill 2014 i Fawrth 2015. Nododd yr adroddiad achosion o
dorri'r Ddeddf Diogelu Data gan y Cyngor sydd wedi bod yn destun ymchwiliad gan
yr Uwch Swyddog Risg Gwybodaeth (SIRO – yn CSDd dyma’r Pennaeth Gwella Busnes a
Moderneiddio). Roedd yr
adroddiad hefyd yn ymdrin â chwynion am y Cyngor yn ymwneud â deddfwriaeth
Rhyddid Gwybodaeth ac yn cyfeirio at y Comisiynydd Gwybodaeth, ac yn rhoi
rhywfaint o wybodaeth am geisiadau Mynediad i Wybodaeth a wneir i'r Cyngor. Mae Polisi
Diogelu Data y Cyngor yn gofyn am adroddiad blynyddol ar gynnydd i'r Pwyllgor
Llywodraethu Corfforaethol i ganiatáu’r Aelodau i oruchwylio'r broses. Ni fu unrhyw
dor-amodau mawr o’r Ddeddf Diogelu Data gan y Cyngor yn y cyfnod hwn, a dim ond
dau sydd wedi’u hystyried fel bod yn ddigon difrifol i roi gwybod i Swyddfa'r
Comisiynydd Gwybodaeth, yn hytrach na 4 y llynedd. Hefyd
bu gostyngiad cyffredinol yn nifer yr achosion sydd angen i’r Uwch Swyddog Risg
Gwybodaeth weithredu arnynt, o 8 y llynedd i 5 y flwyddyn hon. Nododd yr aelodau
bod cyfanswm uchel a pharhaus o geisiadau am fynediad at wybodaeth wedi’u
derbyn. Roedd hyn yn parhau er gwaethaf y ffaith bod mwy o
wybodaeth yn cael ei gyhoeddi ar wefan Cyngor Sir Ddinbych nag o'r blaen. Yn ystod 2014/15,
cafodd 3 cwyn o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth eu gwneud i'r ICO ynglŷn
â'r Cyngor. Canfuwyd dwy o blaid y Cyngor. Yn
y drydedd, canfuwyd bod y ddeddfwriaeth wedi’i thorri drwy gymryd gormod o
amser i ymateb i Gais Testun Gwybodaeth.
Cydnabu’r ICO bod y darn hwn
o waith wedi bod yn arbennig o gymhleth a bod ffactorau wedi cyfrannu at yr
oedi ar yr ymateb. Nid oedd angen unrhyw gamau gweithredu pellach ar
ran y Cyngor gan y Comisiynydd. Ers yr achos hwnnw, mae gweithdrefnau
wedi’u gwella er mwyn sicrhau bod achosion cymhleth yn cael eu cydnabod yn
gynnar yn y broses fel bod modd ymateb mewn modd amserol. PENDERFYNWYD bod
y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn nodi’r adroddiad. |
|
Ar y pwynt hwn (11.20 am) cafwyd egwyl o 15 munud. Ailddechreuodd y cyfarfod am 11.35am. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL ARCHWILIO MEWNOL PDF 80 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Archwilio Mewnol (copi ynghlwm) sy’n darparu barn
gyffredinol y Pennaeth Archwilio Mewnol ar ba mor ddigonol ac effeithiol yw
fframwaith y Cyngor ar gyfer llywodraethu, risg a rheolaeth yn ystod y flwyddyn
sy’n ffurfio’r ‘Datganiad Llywodraethu Blynyddol’. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Pennaeth Archwilio Mewnol adroddiad (wedi’i ddosbarthu eisoes) yn darparu’r Pwyllgor
Llywodraethu Corfforaethol gydag Adroddiad Mewnol Blynyddol ar gyfer 2014-15.
Mae’r adroddiad yn nodi barn gyffredinol y Pennaeth Archwilio Mewnol ar
ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd fframwaith llywodraethu, risg a rheolaeth y
Cyngor yn ystod y flwyddyn sy'n llywio'r 'datganiad llywodraethu blynyddol'. Mae Safonau
Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus (PSIAS) yn ei gwneud yn ofynnol i’r 'prif
weithredwr archwilio' i ddarparu barn archwilio mewnol blynyddol ac adroddiad
lle mae’r Cyngor yn gallu ei ddefnyddio i lywio ei ddatganiad llywodraethu. Mae Adroddiad
Archwilio Mewnol 2014/15 yn nodi: Ø
Bod y
Pennaeth Archwilio Mewnol wedi rhoi ‘sicrwydd canolig’ ar ddigonolrwydd ac
effeithiolrwydd cyffredinol amgylchedd rheolaeth fewnol y Cyngor, gan gynnwys
ei drefniadau ar gyfer llywodraethu a rheoli risg Ø
Nid
oedd unrhyw gymwysterau ynghlwm â “safbwynt” y Pennaeth Archwilio Mewnol Ø
Lefel
y gwaith a wnaeth yr Archwilwyr Mewnol i gyrraedd y 'farn' gyffredinol Ø
Sut y
mae Archwilio Mewnol yn cydymffurfio â'r PSIAS, a Ø
Chrynodeb
o berfformiad Archwilio Mewnol yn ystod y flwyddyn. Cafwyd
trafodaeth, a: PENDERFYNWYD
bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn ac yn nodi cynnwys yr
adroddiad. |
|
STRATEGAETH ARCHWILIO MEWNOL 2015/16 PDF 78 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Archwilio Mewnol (copi ynghlwm) sy’n cyflwyno manylion
Strategaeth Archwilio Mewnol 2014/15. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Pennaeth Archwilio Mewnol adroddiad (wedi’i ddosbarthu eisoes) yn darparu’r
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol â Strategaeth Archwilio Mewnol 2015-16.
Mae'r Strategaeth yn darparu manylion y prosiectau Archwilio Mewnol arfaethedig
ar gyfer y flwyddyn a fydd yn caniatáu i'r Pennaeth Archwilio Mewnol ddarparu
'safbwynt' ar ba mor ddigonol ac effeithiol yw fframwaith lywodraethu, risg a
rheolaeth y Cyngor yn ystod y flwyddyn. Mae Safonau Archwilio Mewnol y Sector
Cyhoeddus (PSIAS) yn ei gwneud yn ofynnol i’r 'Prif Swyddog Archwilio' i
ddatblygu cynllun archwilio mewnol yn seiliedig ar risg sy'n cymryd i
ystyriaeth y gofyniad i ddarparu barn ac adroddiad archwilio mewnol blynyddol y
gall y sefydliad ei ddefnyddio i lywio ei ddatganiad llywodraethu. Mae
cylch gorchwyl y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol hwn angen iddo ystyried
Strategaeth Cynllunio Archwilio Mewnol. Cafwyd yr
ymatebion canlynol i gwestiynau gan Aelodau: Ø
Ni
chynhaliwyd archwiliadau o ysgolion gan yr Archwiliad Mewnol. Cynhaliwyd
ymweliadau â themâu iddynt ynghyd â gwaith mewn cronfeydd ysgolion yn y maes
addysg. Ø
Mae
angen diweddaru’r Cyfansoddiad ac y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno yn y
cyfarfod sydd ar y gweill ym mis Gorffennaf. Ø
Byddai
Grŵp yn gweithio ar y 10 prif faes o waith a gytunwyd arnynt. Cytunwyd
cyflwyno gwybodaeth am y meysydd hynny i'r Gweithdy Cyllideb. PENDERFYNWYD
bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn ac yn nodi cynnwys yr
adroddiad. |
|
CYNLLUN GWELLA LLYWODRAETHU A'R DATGANIAD LLYWODRAETHU BLYNYDDOL DRAFFT 2014/15 PDF 105 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Archwilio Mewnol (copi’n amgaeedig) sy’n rhoi'r
wybodaeth ddiweddaraf am Gynllun Gwella Llywodraethu’r Cyngor sy’n deillio o
‘ddatganiad llywodraethu blynyddol’ y Cyngor 2013/14 – ‘Darparu llywodraethu da
a gwelliant parhaus’, a chyflwyno ymgynghoriad cyntaf ar yr adroddiad
hunanasesu ar drefniadau llywodraethu a gwella Conwy ar gyfer 2014/15. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Pennaeth Archwilio Mewnol adroddiad (wedi’i ddosbarthu eisoes) i roi diweddariad
ynglŷn â Chynllun Gwella Trefn Lywodraethu’r Cyngor a oedd yn codi o
“ddatganiad llywodraethu blynyddol' y Cyngor yn 2013/14 – “Darparu llywodraethu
da a gwelliant parhaus”. Roedd hefyd yn cyflwyno ymgynghoriad
cyntaf gyda'r Pwyllgor ar yr adroddiad hunanasesu ar drefniadau llywodraethu a
gwella'r Cyngor ar gyfer 2014/15. Mae’r adroddiad
yn rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol am y cynnydd sydd
wedi digwydd o ran gweithredu’r gwahanol gamau gweithredu sydd wedi’u cynnwys
yng Nghynllun Gwella Llywodraethu y llynedd, er mwyn sicrhau bod gan y Cyngor
drefn lywodraethu gadarn ac effeithiol ar waith. Roedd hefyd yn
gyfle i’r Pwyllgor roi sylwadau ar y drafft cyntaf o 'ddatganiad llywodraethu
blynyddol' eleni. Roedd y meysydd
gwella wedi eu cynnwys mewn Cynllun Gwella Llywodraethu, sydd hefyd yn cynnig
camau gweithredu i fynd i'r afael â gwendidau, y swyddogion sy'n gyfrifol am y
camau gweithredu, ac amserlenni. Yn 2013/14,
cafodd y 'datganiad llywodraethu blynyddol’ traddodiadol ei ddisodli gyda
dogfen o’r enw “Darparu llywodraethu da a gwelliant parhaus”. Dylai'r
Pwyllgor nodi fod hwn yn ddrafft cynnar iawn a bod gwaith dal i’w wneud arno, a
bod angen ei drafod ymhellach, yn enwedig gyda'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth. Bydd
y fersiwn derfynol y cytunwyd arni yn cael ei llofnodi gan y Prif Swyddog
Gweithredol a’r Arweinydd erbyn 30 Mehefin 2015, ac yn cael ei chyflwyno i'r
Pwyllgor hwn gyda'r Datganiad o Gyfrifon. PENDERFYNWYD bod
y Pwyllgor: ·
Wedi adolygu a nodi’r cynnydd ar Gynllun
Gwella Llywodraethu y llynedd, ac ·
Adolygu a nodi’r drafft "datganiad
llywodraethu blynyddol" ar gyfer 2014/15 |
|
MONITRO DARPARWYR GWASANAETH A ARIENNIR GAN Y CYNGOR PDF 92 KB Ystyried
adroddiad ar y cyd gan Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd ac
Adnoddau Dynol a Phennaeth Archwilio Mewnol (copi ynghlwm) sy’n rhoi manylion y
cwmpas a’r cynllun prosiect ar gyfer adolygu monitro Darparwyr Gwasanaeth a
ariennir gan y Cyngor, a fyddai’n arwain at fframwaith newydd ar gyfer rhoi
trefniadau o'r fath ar waith. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Pennaeth Archwilio Mewnol adroddiad (wedi’i ddosbarthu eisoes) yn rhoi manylion
i'r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol am gwmpas a chynllun y prosiect ar
gyfer adolygu’r broses o fonitro Darparwyr Gwasanaeth a ariennir gan y Cyngor
(CFSPs), a fydd yn arwain at fframwaith newydd ar gyfer rhoi trefniadau o'r
fath ar waith. Mynegwyd pryderon
ynglŷn â monitro CFSPs, ac felly roedd yn rhaid i’r Cyngor sicrhau fod
trefniadau cadarn ar waith i fonitro llywodraethu, perfformiad ariannol,
perfformiad gweithredol a'r defnydd o arian y Cyngor. Yn y cyfarfod o'r
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 25 Mawrth 2015, cafwyd
trafodaeth ynglŷn â rolau a chyfrifoldebau aelodau etholedig wrth
gynrychioli'r Cyngor ar gyrff allanol.
Gofynnodd yr Aelodau am ragor
o wybodaeth am sut y byddai hyn yn cael ei ddarparu fel rhan o'r adolygiad cyffredinol
o CFSPs. Bydd y prosiect
yn arwain at fframwaith newydd ar gyfer dechrau trefniadau gyda sefydliadau y
mae'r Cyngor yn darparu cyllid iddynt i ddarparu gwasanaethau ar ei ran. Bydd
hyn yn cynnwys cyrff hyd braich, partneriaethau, sefydliadau a ariennir gan
grantiau, a chyflenwyr mawr trydydd parti o wasanaethau allweddol. Bydd y fframwaith
newydd yn sicrhau bod Cyngor Sir Ddinbych yn mynd i'r afael â'r risgiau
allweddol canlynol: ·
Mae
cael cyfarwyddyd a threfniadau cyson ar gyfer sefydlu a chofnodi CFSPs yn
golygu y bydd yn gwbl ymwybodol o'r holl CFSPs y bydd yn ymdrin â nhw. ·
Mae
cael trefniadau monitro rheolaidd a chadarn yn golygu na fydd y Cyngor yn
ariannu CFSPs sydd ddim yn llwyddo darparu’r canlyniadau a fwriadwyd ac y byddai’n
ymwybodol o'r CFSPs sy'n perfformio'n wael, yn weithredol a/ neu’n ariannol. ·
Mae
cael trefniadau llywodraethu cadarn dros CFSPs yn lleihau'r tebygolrwydd o
fethiant yn ei stiwardiaeth o gyllid cyhoeddus. ·
Mae cael
mecanweithiau rhybuddio cynnar trwy wybodaeth monitro rheolaidd yn lleihau'r
tebygolrwydd y bydd yn dioddef colled ariannol o ganlyniad i CFSP yn peidio â
bodoli ac ni ddylai orfod camu i mewn gyda threfniadau at raid i ddarparu
gwasanaethau. ·
Mae
cael achosion busnes cadarn ar gyfer cymeradwyo trefniadau CFSP yn golygu y
gall sicrhau bod CFSPs yn rhannu gwerthoedd Cyngor Sir Ddinbych ac ni ddylai
ddwyn anfri ar y Cyngor drwy ei ymddygiad. ·
Mae
cael cytundebau cyfreithiol cadarn a chytundebau lefel gwasanaeth yn sicrhau
bod y ddau sefydliad yn deall eu rolau a'u cyfrifoldebau ac yn cryfhau sefyllfa
Cyngor Sir Ddinbych mewn achos o anghydfod. ·
Mae
darparu arweiniad a chefnogaeth gadarn i'w aelodau etholedig sy'n eistedd ar
gyrff allanol yn diogelu eu buddiannau, yn gwella’r tebygolrwydd o archwilio
cadarn ac yn egluro'r sefyllfa gyfreithiol a’r gwrthdaro o ran buddiannau sy'n
ymwneud â swyddi cyfarwyddwyr ac ymddiriedolwyr. At ei gilydd,
mae'r fframwaith yn golygu na ddylai Cyngor Sir Ddinbych ddioddef niwed
sylweddol i'w enw da oherwydd methiant CFSP. Yn dilyn cais gan
gynrychiolydd y Swyddfa Archwilio Cymru, cadarnhaodd y Pennaeth Archwilio
Mewnol y byddai'n gofyn i CET enwebu
Swyddog i gymryd perchnogaeth o'r prosiect. Cafwyd
trafodaeth, a: PENDERFYNWYD bod
y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol: (i)
Yn ystyried a thrafod cwmpas arfaethedig a
chynllun y prosiect (ii)
Cytunwyd i ddod â'r adroddiad yn ôl i'r
Pwyllgor yn y cyfarfod nesaf ar 27 Gorffennaf, 2015 (iii)
Cytunwyd gofyn i CET enwebu Swyddog i
gymryd perchnogaeth o'r prosiect |
|
ADBORTH O'R CYFARFOD CYDRADDOLDEB CORFFORAETHOL Derbyn adroddiad
ar lafar gan y Cynghorydd M.L. Holland. Cofnodion: Dim |
|
RHAGLEN WAITH Y PWYLLGOR LLYWODRAETHU CORFFORAETHOL PDF 180 KB Ystyried Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democratiaeth Raglen
Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor (wedi’i ddosbarthu eisoes). Cadarnhaodd y
Pwyllgor Raglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor Llywodraethu yn amodol ar gynnwys
yr eitemau busnes canlynol: 27 Gorffennaf,
2015: ·
Diweddaru
Monitro Darparwyr Gwasanaeth a Ariennir gan y Cyngor ·
Adroddiad
Comisiynwyr Gwyliadwriaeth Arolygu ac Adroddiad RIPA (Deddf Rheoleiddio Pwerau
Ymchwilio) 28 Medi, 2015: ·
Caffael
Gwasanaethau Adeiladu PENDERFYNWYD yn
amodol ar yr uchod bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn cymeradwyo’r
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol. |
|
Daeth y cyfarfod
i ben am 12.45pm. |