Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1A, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.
Cofnodion: Ni
fu i unrhyw Aelod ddatgan cysylltiad personol na chysylltiad sy'n rhagfarnu ag
unrhyw fusnes a oedd i’w ystyried yn y cyfarfod. |
|
MATERION BRYS Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o
frys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 28 Ionawr 2015. Cofnodion: Cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 28 Ionawr 2015. PENDERFYNWYD – y dylid derbyn a
chymeradwyo’r Cofnodion fel cofnod cywir. |
|
PROSES GYLLIDEB 2016/17 PDF 171 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Asedau (copi’n amgaeedig) sy'n rhoi
diweddariad ar y broses i gyflawni'r gyllideb refeniw ar gyfer 2015/16. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Asedau, a
oedd yn rhoi diweddariad ar y broses i gyflawni'r gyllideb refeniw ar gyfer
2015/16 a 2016/17, wedi ei ddosbarthu eisoes. Eglurodd y Cynghorydd J. Thompson-Hill fod y Gyllideb ar gyfer 2015/16 wedi
cael ei chymeradwyo gan y Cyngor a bod y Gweithdai Cyllideb yn canolbwyntio ar
gynigion cynilo ar gyfer 2016/17 wedi cychwyn, a bod manylion am yr amserlenni
arfaethedig wedi'u cynnwys yn yr adroddiad. Roedd y bwlch a
ragwelwyd yn y gyllideb ar gyfer 2016/17 tua £8.8m. Roedd arbedion
o £2.7miliwn wedi eu cymeradwyo fel rhan o'r broses bresennol a oedd yn golygu
bod y bwlch sy'n weddill tua £6.1miliwn. Roedd siart yn dangos y broses gyllideb arfaethedig wedi ei gynnwys fel
Atodiad 1. Roedd yn amlinellu'r broses i sicrhau arbedion 2016/17 a symud
ymlaen â'r broses a oedd wedi cychwyn ym mis Mawrth 2014. Y 'camau' arbed oedd
y pwyntiau penderfyniad a gymerwyd i'r Cyngor i'w cymeradwyo. Gan fod Camau 1
i 3 wedi eu cymeradwyo roedd y siart yn cychwyn ar Gam 4. Darparwyd manylion y broses ymgynghori sylweddol a wnaed i sicrhau
cyllidebau 2015/16 a 2016/17. Roedd y broses gyllideb wedi bod yn hynod o heriol
ac roedd ymgysylltiad a chefnogaeth yr Aelodau yn y broses o wneud
penderfyniadau ac archwilio’r broses wedi bod yn allweddol. Roedd y fframwaith rheoli risg a gynigwyd i
reoli gweithredu arbedion cyllideb 2015/16 wedi’i chynnwys yn yr adroddiad. Pwysleisiwyd
mai hwn oedd y cyfnod ariannol mwyaf heriol y mae'r Cyngor wedi ei wynebu a
byddai methu a chyflawni strategaeth gyllideb effeithiol yn rhoi mwy o bwysau
ar wasanaethau yn y dyfodol. Byddai rheoli risg o'r broses yn
ystyriaeth allweddol i’r Pwyllgor ac roedd y risgiau posibl o amgylch
gweithredu pob cynnig arbed wedi'i gyflwyno mewn gweithdai wrth iddynt ddatblygu. Roedd yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth
wedi canolbwyntio ar reoli risg y broses a chynigiwyd y dylid cael pedair elfen
i'r fframwaith rheoli risg sy'n sail i arbedion cyllideb 2015/16, ac roedd y
rhain wedi'u nodi yn yr adroddiad. Mewn ymateb i gwestiwn
gan y Cynghorydd S.A. Davies ynghylch y
manteision o ddarparu manylion llinellau gwariant ar gyfer gwasanaethau unigol,
cadarnhaodd y Prif Gyfrifydd y gellid darparu crynodeb o gyllideb y gwasanaeth,
a’r ffigurau diweddaraf a gyflwynwyd ar gyfer 2015/16. Ymatebodd y
Prif Gyfrifydd i gais gan y Cadeirydd a chytunodd ddarparu copïau caled o'r
wybodaeth, gan gynnwys taenlenni. Cyfeiriodd y Cadeirydd
at y materion a godwyd gan Mr P. Whitham yn y cyfarfod blaenorol o ran yr agenda
risg mewn perthynas â risgiau ariannol, enw da a pherfformiad. Cadarnhaodd fod
yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth wedi ystyried y materion a godwyd, ond roedd yn
teimlo fod diffyg cyfeiriad yn yr adroddiad at ganlyniad y trafodaethau. Mewn ymateb i
gais gan y Cadeirydd, cytunwyd y byddai adroddiad manwl pellach yn cael ei
gyflwyno i'r Gweithdy Cyllideb ym mis Mehefin, 2015 i'w ystyried gan yr
Aelodau. Esboniodd Mr P. Whitham fod y pryderon yr oedd
wedi eu mynegi yn ymwneud â'r risgiau cysylltiedig ar gyfer y broses gyllideb
ar gyfer 2016/17, a theimlai bod yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn ymddangos i fod
yn canolbwyntio ar y gwaith o fonitro'r broses ar gyfer 2015/16. Roedd yn falch
fod yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth wedi ystyried yr agwedd agenda risg ond mynegodd
siom nad oedd materion yn ymwneud â'r methiant i wneud penderfyniadau yn
gynnar, ac arbedion staff yn cael eu hymhlygu gan gostau pensiwn, wedi cael eu
hystyried. Amlinellodd y Prif Gyfrifydd y broses a oedd yn
cynnwys monitro effaith cynigion 2015/16, ac amlinellodd y broses ar gyfer
ystyried cynigion 2016/17. Mewn ymateb i’r pryderon a fynegwyd ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
DIWEDDARIAD STRATEGAETH RHEOLI GWYBODAETH PDF 105 KB Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Gwybodaeth Corfforaethol (copi'n amgaeedig), sy'n
rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed ar weithredu Strategaeth
Rheoli Gwybodaeth y Cyngor. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Gwybodaeth Corfforaethol, yn rhoi'r
wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed ar weithredu Strategaeth Rheoli
Gwybodaeth y Cyngor, a gafodd ei ddosbarthu eisoes. Eglurodd y Rheolwr Gwybodaeth Corfforaethol bod Tîm Gwybodaeth
Corfforaethol wedi cael ei ffurfio er mwyn darparu ymagwedd fwy cydlynol at y
maes hwn ac i fynd i'r afael â'r gwendidau anodwyd yn y Datganiadau
Llywodraethu Blynyddol. Roedd Strategaeth Rheoli Gwybodaeth wedi cael ei
datblygu i ddarparu dull corfforaethol y cytunwyd arno ar gyfer y swyddogaeth
hon, ac o ganlyniad roedd gwelliannau sylweddol wedi cael eu gwneud. Yn ddiweddar,
roedd y gwelliannau wedi arwain at leihau’r risgiau cysylltiedig o oren,
sylweddol, i felyn, cymedrol, ac adlewyrchwyd hyn yn y Gofrestr Risg
Gorfforaethol. Roedd rhai o'r camau gweithredu allweddol a wnaed
dros y 12 mis diwethaf a oedd wedi helpu i leihau'r gyfradd risg wedi cael eu
nodi yn yr adroddiad, cyfeiriwyd yn benodol at:- - moderneiddio'r ffordd y mae llawer o dimau o bob
rhan o'r Cyngor yn gweithio gyda dogfennau trwy gyflwyno EDRMS, a oedd yn cael
ei ddefnyddio gan 20% o'r gweithlu. - pwysigrwydd
darparu hyfforddiant ar gyfer staff mewn perthynas â materion diogelu data. - manylion ynglŷn â diwygio ac ail-lansio
ein Atodlen Gadw Gorfforaethol. - dwysedd llafur
y broses sganio. Eglurwyd, dros y 12 mis nesaf mae nifer o weithgareddau wedi’u cynllunio
gan ganolbwyntio’n benodol ar ddatblygu swyddogaethau Rheoli Cofnodion ac
Archifau’r Cyngor: Darparodd y swyddogion yr ymatebion canlynol i faterion a godwyd gan yr
Aelodau:- ·
Roedd y gwasanaeth Archifau yn wasanaeth rhad
ac am ddim i unrhyw un sy'n dymuno cael mynediad i gofnodion hanesyddol.
Codir ffioedd bach am bethau fel llungopïo, sganio ac
ymchwil. ·
Cadarnhaodd y Rheolwr Gwybodaeth Corfforaethol fod
rhaglen gwaith i'r dyfodol wedi ei sefydlu a bod y gweithgareddau a gynlluniwyd
yn cael eu hystyried yn gyraeddadwy. ·
Roedd yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth wedi cytuno i ddarparu
biniau gwastraff cyfrinachol â chlo. ·
Roedd dull cydweithredol wedi cael ei fabwysiadu gydag Awdurdodau
Lleol cyfagos, o ran gosod a datblygu systemau a chyfarpar TG newydd cydnaws,
yng ngoleuni uno posibl yn y dyfodol. Cytunodd y Rheolwr
Gwybodaeth Corfforaethol byddai adroddiad yn y dyfodol yn cynnwys manylion am y
cynnydd a gyflawnwyd yn y maes hwn. ·
Darparwyd manylion ynglŷn â'r Atodlen Gadw
Gorfforaethol, mewn perthynas â dinistrio cofnodion. Yn dilyn trafodaeth bellach:- PENDERFYNWYD - bod y Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol yn nodi'r cynnydd a wnaed ar reoli gwybodaeth ac yn parhau i
gefnogi ei weithrediad. (CB i Weithredu) |
|
PAPUR GWYN – DIWYGIO LLYWODRAETH LEOL, PŴER I BOBL LEOL PDF 130 KB Ystyried adroddiad
gan Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd (copi’n amgaeedig),
ar Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru - 'Datganoli, Democratiaeth a Chyflawni -
Diwygio Llywodraeth Leol: Grym i Bobl
Leol’. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau
Dynol a Democrataidd, ar Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru o’r enw Diwygio
Llywodraeth Leol: Pŵer i Bobl Leol, ('y Papur'), a oedd wedi
ei ddosbarthu gyda'r papurau ar gyfer y cyfarfod. Roedd y Papur yn destun ymgynghoriad tan 28 mis Ebrill ac roedd yr
adroddiad yn ceisio canfod barn y Pwyllgor ar y cynigion sydd yn y papur, yn
enwedig yr elfennau hynny sy'n ymwneud yn uniongyrchol â materion llywodraethu
corfforaethol. Roedd crynodeb o’r Cynllun Corfforaethol wedi’i
gynnwys fel Atodiad 1. Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol,
Adnoddau Dynol a Democrataidd yr adroddiad ac
eglurodd bod y Papur helaeth yn cynnwys nifer o gynigion polisi clir, gan
ailadrodd ymrwymiadau polisi blaenorol, megis uno, cysylltiadau â Bil
Cenedlaethau'r Dyfodol ac ati, a nifer o gwestiynau penagored sy’n ceisio barn
am opsiynau polisi. Roedd rhai o'r cynigion ac opsiynau polisi yn gymhleth
ond yn cynnig manylion cyfyngedig o amgylch sut y byddai cynigion yn cael eu
rhoi ar waith. Roedd naw prif bennod yn y Papur a oedd yn cynnwys arolwg ymgynghori,
Atodiad 2. Gofynnwyd i'r Pwyllgor ystyried yn arbennig y Bennod o’r enw 'Llywodraethu
a Gwella Corfforaethol' ynghyd â meysydd eraill yn y Papur a oedd yn effeithio
ar faterion llywodraethu corfforaethol a oedd wedi eu nodi yn yr adroddiad. Cafodd yr anawsterau a wynebwyd wrth ddarparu ymateb eu hamlinellu gan y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol
a Democrataidd. Esboniodd y bwriadwyd drafftio dogfen i ymateb i
bob mater a godwyd yn yr arolwg tri deg tudalen ac i gynhyrchu dogfen glawr
sy'n rhoi barn, os cytuna’r Aelodau, ar y themâu cadarnhaol yn y Papur Gwyn. Fodd bynnag, i
fynegi'r farn bod y Papur Gwyn yn canolbwyntio ar faterion allweddol ac amlygu
barn Sir Ddinbych ar y materion hyn. Darparodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol,
Adnoddau Dynol a Democrataidd grynodeb manwl o'r
adroddiad a oedd wedi canolbwyntio ar feysydd canlynol y Papur:- Paragraff 2.12 Paragraff 2.10 Pennod 3, f, g Paragraff 3.5 Pennod 4 Pennod 6 Paragraff 6.4 Pennod 7 Pennod 8 Pennod 9 Amlinellodd y Pennaeth
Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd y prif faterion i'w hystyried gan y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol. Cyfeiriodd at
ddyheadau Llywodraeth Cymru i wella a chynyddu safonau Arweinyddiaeth o
safbwynt llywodraethu corfforaethol ar lefel swyddogion a gwleidyddol, gyda'r
newidiadau arfaethedig i broses benodi uwch swyddogion mewn Awdurdodau Lleol. Amlinellwyd y
tri opsiwn a ystyriwyd i gyflawni’r amcanion gan y Pennaeth
Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd, a chyfeiriwyd yn arbennig at y posibilrwydd o gyflwyno Comisiwn Penodiadau
Sector Cyhoeddus a sefydlu Comisiwn Staff Gwasanaethau Cyhoeddus Cyfeiriodd y Pennaeth
Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd at y manteision sydd i'w cyflawni drwy groesawu'r ffocws ar lywodraethu
corfforaethol, arweinyddiaeth, perfformiad a gwella a thynnu sylw at feysydd
sy’n cael eu hystyried fel arfer da.
Cyfeiriodd y Cadeirydd at yr angen i'r
Pwyllgor ganolbwyntio a rhoi ffocws ar faterion llywodraethu wrth ystyried
cynnwys yr ymateb. Yn ystod y drafodaeth a ddilynodd
mynegodd yr Aelodau eu barn mewn perthynas â'r materion canlynol: - -
y manteision
i'w cyflawni o rannu prosesau arfer gorau, fel sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd
yn Sir Ddinbych. -
pwysigrwydd
cyfansoddiad y Byrddau Ardal Lleol perthnasol sy'n cyfrannu at y broses. -
arwyddocâd
cyfranogiad cymunedau lleol wrth wneud penderfyniadau ar lefel leol. -
rôl, cylch
gwaith a dynodiad Cynghorau Cymuned yn y dyfodol. Eglurodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd ei fod wedi dechrau drafftio ymateb naratif o Sir Ddinbych a oedd yn cynnwys ymatebion i bob un o'r blychau ticio, gan dynnu sylw at unrhyw faterion o bryder ac amlinellu meysydd ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
CYNLLUN ARCHWILIO 2015 CYNGOR SIR DDINBYCH PDF 77 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Asedau (copi'n amgaeedig), ar adroddiad
Swyddfa Archwilio Cymru 'Cynllun Archwilio 2015 - Cyngor Sir Ddinbych'. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd copi o adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Asedau wedi ei ddosbarthu
gyda'r papurau ar gyfer y cyfarfod. Cyflwynodd Cynrychiolydd Swyddfa Archwilio Cymru adroddiad 'Cynllun
Archwilio 2015- Cyngor Sir Ddinbych', Atodiad 1, a gynhyrchwyd gan Swyddfa
Archwilio Cymru (SAC). Roedd yr adroddiad yn amlinellu rhaglen waith wedi’i threfnu ar gyfer rhaglen
archwilio perfformiad ac archwilio ariannol Swyddfa Archwilio Cymru a oedd yn
cynnwys materion megis y ffi ar gyfer y gwaith, manylion o ran y tîm archwilio
a'r amserlen ar gyfer y gwaith. Roedd yn ofynnol i'r archwilwyr allanol baratoi a
chyflwyno’r adroddiad er mwyn cyflawni eu gofynion o dan safonau archwilio ac
arferion archwilio priodol. Roedd y meysydd o fewn yr adroddiad, Atodiad 1, a amlygwyd gan
Gynrychiolwyr Swyddfa Archwilio Cymru yn cynnwys: - -
Crynodeb o'r Adroddiad. -
Archwilio ariannol. -
Risgiau archwilio ariannol. -
Ardystio hawliadau a ffurflenni grant. -
Materion cyffredinol a nodwyd. -
Gwaith arall a wnaed. -
Archwilio perfformiad. -
Tîm Archwilio Ffioedd ac amserlen. -
Tîm Archwilio. -
Amserlen. Darparodd adroddiad
Swyddfa Archwilio Cymru’r Cyngor gydag amlinelliad o'r rhaglen waith archwilio
ariannol ac archwilio perfformiad.Roedd y rhaglen archwilio ariannol yn
cwmpasu'r gwaith o ran datganiadau ariannol 2014-15, ac yn darparu gwybodaeth
am y dull archwilio, gan gynnwys y risgiau archwilio allweddol sydd wedi’u nodi
yn ystod y broses gynllunio cychwynnol a'r camau bwriedig i fynd i'r afael â
nhw. Bydd y gwaith archwilio ariannol ar y meysydd risg hyn yn cael eu
defnyddio i lywio barn archwilio ar y datganiadau ariannol. Roedd y rhaglen waith archwilio perfformiad yn cynnwys eu
gwaith o ran y Mesur Llywodraeth Leol. Roedd y gwaith archwilio ariannol a
pherfformiad hefyd yn adolygu'r trefniadau a roddwyd ar waith gan y Cyngor i
sicrhau darbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd yn ei ddefnydd o
adnoddau. Eglurodd y Cynghorydd S.A. Davies ei
fod yn croesawu'r archwiliad o’r Cydbwyllgor mewn perthynas â'r AHNE. Eglurodd
Cynrychiolydd Swyddfa Archwilio Cymru oherwydd ei faint byddai’r AHNE yn destun
archwiliad sicrwydd cyfyngedig, fodd bynnag, cadarnhawyd y byddai'r adroddiad
mewn perthynas â'r AHNE yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol. Ymatebodd Cynrychiolwyr Swyddfa Archwilio Cymru i gwestiwn gan Mr P.
Whitham a manylwyd ar waith perfformiad yn archwiliad amlinellol y llynedd sy'n
dal ar y gweill, Atodiad 2. Cytunodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a
Democrataidd y gellid dosbarthu llythyr a dderbyniwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru
ynghylch y mater hwn i Aelodau'r Pwyllgor. Cyfeiriwyd at Atodiad 3
a oedd yn cyfeirio at astudiaethau gwerth am arian Cenedlaethol. PENDERFYNWYD - bod y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn ac yn nodi cynnwys yr adroddiad. (GW i Weithredu) |
|
CYNLLUN GWELLA LLYWODRAETHU A DATGANIAD LLYWODRAETHU BLYNYDDOL DRAFFT 2014/15 PDF 104 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Archwilio Mewnol (copi’n amgaeedig) sy’n rhoi'r
wybodaeth ddiweddaraf am Gynllun Gwella Llywodraethu’r Cyngor sy’n deillio o
‘ddatganiad llywodraethu blynyddol’ y Cyngor 2013/14 – ‘Darparu llywodraethu da a gwelliant parhaus’, a chyflwyno
ymgynghoriad cyntaf ar yr adroddiad hunanasesu ar drefniadau llywodraethu a
gwella Conwy ar gyfer 2014/15. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Oherwydd cyfyngiadau amser, cafodd yr eitem hon ei
gohirio tan y cyfarfod nesaf. |
|
STRATEGAETH ARCHWILIO MEWNOL 2015/16 PDF 78 KB Ystyried
adroddiad gan Bennaeth Archwilio Mewnol (copi’n amgaeedig) sy’n cyflwyno
manylion ynghylch Strategaeth Archwilio Mewnol 2015-16. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Oherwydd cyfyngiadau amser, cafodd yr
eitem hon ei gohirio tan y cyfarfod nesaf. |
|
TALIAD ARIANNOL I’R RHAI SY’N GADAEL GOFAL - DIWEDDARIAD PDF 79 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Archwilio Mewnol (copi’n amgaeedig) sy’n rhoi'r
wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd gyda'r Cynllun Gweithredu a gynhwyswyd yn yr
adroddiad Archwilio Mewnol ar Daliadau Ariannol i’r Rhai sy’n Gadael Gofal a
gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2014. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd adroddiad gan y Pennaeth Archwilio Mewnol a oedd yn rhoi'r wybodaeth
ddiweddaraf am y cynnydd gyda'r Cynllun Gweithredu a gynhwyswyd yn yr adroddiad
Archwilio Mewnol ar Daliadau Ariannol i’r Rheiny sy’n Gadael Gofal a gyhoeddwyd
ym mis Mawrth 2014, wedi cael ei ddosbarthu eisoes. Eglurodd y Pennaeth Archwilio Mewnol bod y Pwyllgor wedi gofyn am adroddiad
cynnydd ar ôl ystyried adroddiad dilynol ar 5 Tachwedd, 2014, a oedd yn dangos
mai dim ond pum cam gweithredu oedd wedi cael ei gwblhau gyda thri arall yn
mynd rhagddynt. Nid oedd chwech o’r camau gweithredu wedi cael
sylw, gan gynnwys y prif fater a godwyd, Mater 1, a oedd yn gofyn am adolygiad
llawn o'r broses ar gyfer gwneud taliadau i bobl sy'n gadael gofal. Roedd y diweddariad mwyaf cyfredol wedi cael ei gynnwys fel Atodiad 1 i’r
adroddiad. Cadarnhaodd y Pennaeth Archwilio Mewnol y bu
ychydig iawn o gynnydd ers y cyfarfod a gynhaliwyd ym mis Rhagfyr, 2014, pan oedd
y Pennaeth Refeniw a Budd-daliadau a’r Rheolwr Gwasanaeth: Plant sy'n Derbyn
Gofal wedi annerch y Pwyllgor. Eglurodd bod y sefyllfa bellach wedi newid ac mae'r
mater wedi dod yn fater Caffael Strategol Mynegodd y Pwyllgor bryder
eithafol ynghylch y diffyg cynnydd dros gyfnod hir o amser, ynghylch y mater
pwysig iawn sy'n ymwneud â pholisïau sy'n effeithio ar oedolion ifanc
diamddiffyn. Cytunodd yr Aelodau dylid gofyn
i’r Rheolwr Gwasanaeth: Plant sy’n Derbyn Gofal i gyflwyno adroddiad i
gyfarfod nesaf y Pwyllgor, yn manylu ar y rhesymau dros y diffyg cynnydd, a bod
y Swyddog Caffael Strategol Dros Dro yn cael gwahoddiad i fynychu'r cyfarfod
hefyd. Yn ystod y drafodaeth a ddilynodd
gofynnodd y Pwyllgor am i’w rhwystredigaeth, o ran y diffyg cynnydd, gael ei
gyfleu i'r swyddogion perthnasol. PENDERFYNWYD - bod y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn gofyn (a)
i’r Rheolwr Gwasanaeth:
Plant sy'n Derbyn Gofal gyflwyno adroddiad i gyfarfod nesaf y Pwyllgor, a (b)
gwahodd y Swyddog Caffael
Strategol Dros Dro i fynychu'r cyfarfod. (IB, RM a SA i Weithredu) |
|
HAMDDEN CLWYD CYF – ADOLYGU’R GWERSI A DDYSGWYD PDF 90 KB Ystyried
adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Uchelgais Economaidd a Chymunedol
(copi’n amgaeedig), sy'n adolygu'r amgylchiadau yn ymwneud â Gwasanaethau
Hamdden Clwyd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd copi o adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol Uchelgais Economaidd
a Chymunedol wedi ei ddosbarthu eisoes. Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol
Uchelgais Economaidd a Chymunedol yr adroddiad a oedd yn adolygu'r amgylchiadau
a arweiniodd at Hamdden Clwyd Cyf yn rhoi'r gorau i fasnachu yn 2014, a nodi'r
gwersi a ddysgwyd er mwyn lleihau'r risg o amgylchiadau tebyg rhag digwydd yn y
dyfodol. Roedd y Pennaeth Archwilio Mewnol wedi adolygu'r
trefniadau ar gyfer llywodraethu a monitro perfformiad sefydliadau hyd braich. Roedd yr
adroddiad yn nodi'r canfyddiadau, casgliadau ac argymhellion o'r adolygiad a
gomisiynwyd gan y Cabinet, a osodwyd o fewn yr argymhellion a wnaed gan y
Pennaeth Archwilio Mewnol er mwyn gwella llywodraethu cyffredinol o sefydliadau
hyd braich. Roedd llinell amser o hanes Hamdden Clwyd Cyf wedi
cael ei amlinellu yn yr adroddiad adolygu. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol
Uchelgais Economaidd a Chymunedol ar y dechrau nid oedd y gwaith papur
cyfreithiol yn sefydlu Hamdden Clwyd Cyf wedi trin sut i ddelio â sefyllfaoedd
problemus, a bu absenoldeb clir o ddisgwyliadau perfformiad ac eglurder. Roedd y penderfyniad gwreiddiol i sefydlu Hamdden Clwyd Cyf wedi cael ei
seilio ar arfarniad o opsiynau yn seiliedig ar nifer o ragdybiaethau allweddol. Fodd bynnag,
daeth yr adolygiad i'r casgliad na chafodd hyn ei ddilyn drwodd i'r
ddogfennaeth ffurfiol yn sefydlu'r cwmni neu ei berthynas â'r Cyngor, ac roedd
hyn wedi cyfrannu at wendidau yn y trefniadau monitro ac archwilio a’i gwneud
yn anodd i'r Cyngor i reoli ei berthynas â'r Cwmni. Teimlwyd bod
trefniadau archwilio a monitro wedi cael eu drysu a bod llwybrau adrodd lluosog
yn debygol o fod wedi cyfrannu at ddiffyg dilyniant. Amlinellodd y Pennaeth Cyfathrebu, Marchnata a Hamdden y
rheswm pam fod y Cwmni wedi bod yn destun cymaint o archwilio sy'n gwrthdaro.
Esboniodd fod y trefniadau hyd braich ac yn wir y
gwasanaeth Hamdden yn ei gyfanrwydd wedi cael ei basio o gwmpas yr Awdurdod ar
sawl achlysur yn ystod cyfnod amser y cwmni, a oedd wedi golygu sawl Pennaeth
Gwasanaeth gwahanol â chyfrifoldeb drosto ac o ganlyniad yn gorfod adrodd i'r
gwahanol Bwyllgorau Archwilio. Mynegodd y
Pennaeth Cyfathrebu, Marchnata a Hamdden y farn fod y problemau wedi deillio
o'r testun a’r cyfrifoldeb yn dilyn Penaethiaid a Chyfarwyddwyr yn adrodd i
wahanol Bwyllgorau Archwilio. Teimlai y byddai'r
trefniadau archwilio newydd yn sicrhau nad oedd hyn yn digwydd yn y dyfodol gan
nad oeddent yn seiliedig ar gyfarwyddiaeth, a byddai rhaglenni yn cael eu
monitro a'u trafod gan Gadeiryddion ac Is-gadeiryddion. Yn fwy diweddar o fewn y Cyngor mae dulliau mwy cadarn o
ddatblygu achosion busnes a rheoli prosiectau a risg yn golygu ei bod yn
annhebygol y byddai amgylchiadau tebyg yn codi rŵan. Mae rheoli risg
wedi’i ymgorffori yn fwy cadarn o fewn y Cyngor ac mae canolbwyntio cliriach ar
reoli perfformiad yn arferol bellach. Nododd yr adolygiad fod y berthynas gyda
Hamdden Clwyd Cyf wedi’i rheoli’n fwy cadarn yn y camau diweddarach hyn, gyda
monitro rheolaidd ar waith a chamau gwella wedi’u nodi a’u dilyn ymlaen. Roedd
y penderfyniadau a wnaed gan y Cabinet ym mis Ionawr a Mawrth 2014 wedi’u
hysbysu i raddau helaeth o ganlyniad i’r dull mwy cadarn hwn. Pwysleisiwyd bod
y system Archwilio gyfredol yn lleihau risgiau posibl a bod y Grŵp
cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion yn darparu modd o reoli unrhyw ddyblygu, nad
oedd ar gael yn y gorffennol, a bod hyn yn darparu rheolaeth ychwanegol yn y
system. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Uchelgais Economaidd a Chymunedol bod argymhellion ar gyfer gwelliannau pellach wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad adolygu a oedd yn gysylltiedig ag adolygiad cyffredinol y Pennaeth Archwilio Mewnol o drefniadau cyffredinol ar ... view the full Cofnodion text for item 12. |
|
ADBORTH AR GYFARFOD CYDRADDOLDEB CORFFORAETHOL Derbyn adroddiad
ar lafar gan y Cynghorydd M.L. Holland
ynglŷn â Chyfarfod Cydraddoldeb Corfforaethol. Cofnodion: Ni chyflwynwyd adroddiad. |
|
RHAGLEN GWAITH PWYLLGOR LLYWODRAETHU CORFFORAETHOL PDF 183 KB Ystyried Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor (copi’n amgaeedig). Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor
Llywodraethu Corfforaethol (a gylchredwyd eisoes) i’w ystyried. Cadarnhaodd y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor yn amodol ar gynnwys yr eitemau busnes
canlynol yn Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor:- 20 Mai 2015:–
-
Strategaeth Archwilio Mewnol 2015/16 -
Cynllun Gwella Llywodraethu a'r Datganiad
Llywodraethu Blynyddol Drafft 2014/15. -
Taliad Ariannol i Rai sy'n Gadael Gofal - Diweddariad -
Adroddiad ar Gyrff Allanol a Diweddariad Hamdden
Clwyd - (Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd ac i
gysylltu gyda'r Pennaeth Archwilio Mewnol). Eglurodd y Prif Gyfrifydd bod cyflwyno’r
Cyfrifon Drafft yn cael ei gynnwys yn y Rhaglen Waith i'r Dyfodol ar gyfer mis
Gorffennaf, 2015 a'r Cyfrifon Terfynol ar gyfer mis Medi, 2015. Cyfeiriodd y Cadeirydd at ymadawiad y Pennaeth
Cyllid ac Asedau yn fuan. Mynegodd ef ac Aelodau'r Pwyllgor eu
gwerthfawrogiad am yr holl gymorth a chyfarwyddyd a ddarparwyd ganddo a’r
gwaith caled a wnaed. PENDERFYNWYD yn amodol
ar yr uchod bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol. Daeth y Cyfarfod
i ben am 1.45pm. |