Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.
Cofnodion: Eitem 5 ar y Rhaglen:
Proses y Gyllideb 2016/16 – Datganodd y Cynghorydd S. A. Davies gysylltiad
personol oherwydd bod ei wraig yn aelod o staff Cyngor Sir
Ddinbych. Eitem 11 ar y
Rhaglen: Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol – Datganodd y Cynghorydd G. M. Kensler a Mr
P. Whitam (Aelod Lleyg) gysylltiad personol oherwydd eu bod bod yn derbyn
Pensiwn Llywodraeth Leol. |
|
MATERION BRYS Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni
chodwyd unrhyw eitem y dylid, ym marn y Cadeirydd, ei hystyried yn y cyfarfod
fel mater o frys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 5 Tachwedd 2014. Cofnodion: Cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 5 Tachwedd 2014. PENDERFYNWYD – y dylid derbyn
a chymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir. |
|
PROSES Y GYLLIDEB 2015/16 PDF 288 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Asedau sy'n rhoi diweddariad ar y broses i
gyflawni'r gyllideb refeniw ar gyfer 2015/16. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd adroddiad, ac atodiad cyfrinachol, gan y
Pennaeth Cyllid ac Asedau, a oedd yn rhoi diweddariad ar y broses i gyflawni'r
gyllideb refeniw ar gyfer 2015/16, wedi ei ddosbarthu eisoes. Eglurodd y Cynghorydd J. Thompson-Hill bod proses y gyllideb wedi symud at
ddiwedd yr ail gam. Roedd Atodiad 1 yn dangos y darlun o broses y gyllideb, er
gwybodaeth, ac roedd tabl o ddigwyddiadau allweddol yn y broses wedi ei gynnwys
yn yr adroddiad. Roedd strategaeth gyllidebol y cyngor wedi nodi
bwlch cyllidebol o hyd at £18 miliwn dros ddwy flynedd yn flaenorol. Cafodd hyn
ei lywio’n bennaf gan arwyddion y byddai setliad cyllido’r Cyngor yn cael ei
dorri o 4.5%. Mae’r Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro yn dangos y byddai'r
gostyngiad arian parod yn 3.7%, sy’n cyfateb i £5.3 miliwn. Gyda’r costau y
mae’n rhaid i’r cyngor eu hariannu, fel cynnydd mewn cyflog, pensiynau ac ynni,
mae bwlch y gyllideb ar gyfer 2015/16 bellach yn oddeutu £8.3 miliwn a
disgwylir y bydd yn oddeutu £8.8 miliwn yn 2016/17 – cyfanswm o £17.1 miliwn. Mae dadansoddiad o'r symudiadau mewn rhagdybiaethau
rhwng mis Medi a diwedd mis Tachwedd wedi ei gynnwys yn Atodiad 2. Mae'n
amlinellu effaith y newidiadau yn sgil y Setliad Dros Dro, gan gynnwys effaith
trosglwyddo grantiau i mewn ac allan o'r Setliad, ac yn dangos y symudiad mewn
rhagdybiaethau pwysau cost yn ystod y cyfnod. Bydd y rhagdybiaethau yn newid yn
rheolaidd ac fe ddangosir hyn yn y symudiad dros y tri mis diwethaf sy’n
cynnwys rhagdybiaethau ar gyfer costau straen pensiwn, ardoll y gwasanaeth tân
a chodiad cyflog. Mae Atodiad 3 yn dangos tablau o'r Setliad Dros Dro i dynnu
sylw at y canlynol:- ·
Mae Tabl 1 yn dangos y sylfaen a addaswyd gyda gostyngiad
o 3.7%. ·
Mae Tabl 2 yn dangos sut yr addaswyd y sylfaen gan
drosglwyddiadau i mewn ac allan o'r Setliad. ·
Mae Tabl 3 yn dangos trosglwyddiadau pellach wedi eu
cynnwys yn y Setliad ond heb eu hariannu'n benodol. ·
Mae Tabl 4 yn dangos rhestr o'r grantiau rhwng 2014/15 a
2015/16. Mae Tabl 4 yn tynnu sylw at y mater ynghylch y
Gronfa Gofal Canolraddol a'r Gronfa Cydweithredu Rhanbarthol. Sefydlwyd y
Gronfa Cydweithredu Rhanbarthol yn 2013/14 fel grant 3 blynedd i ariannu
prosiectau cydweithio rhanbarthol ac roedd cyfanswm o £10 miliwn ar gael ar
draws Cymru. Yn 2014/15, dargyfeiriwyd hanner y gronfa i gronfa gwerth £50
miliwn (y Gronfa Gofal Canolraddol) i hybu gwell integreiddio rhwng iechyd a
gofal cymdeithasol. Roedd setliad dros dro yn dangos diwedd y Gronfa Gofal
Canolraddol ond roedd yn cynnwys oddeutu £5 miliwn o arian y Gronfa
Cydweithredu Rhanbarthol a oedd yn ariannu nifer o brosiectau sydd â blwyddyn
arall ar ôl. Mae’r setliad terfynol ar gyfer 2015/16 wedi ei
gyhoeddi ddechrau mis Rhagfyr. Bydd ail gam proses y gyllideb yn dod i ben gyda
chyflwyno cynigion i'r Cyngor ym mis Rhagfyr. Cyfanswm y cynigion yw £3.6
miliwn yn 2015/16 ac £1.8 miliwn yn 2016/17, a gyda'r cynigion a gymeradwywyd
gan y Cyngor ym mis Medi, bydd cyfanswm yr holl gynigion yn dod i £7.3 miliwn
yn 2015/16 a £2.7 miliwn yn 2016/17. Byddai Cam 3 proses y gyllideb yn ystyried y cynigion terfynol i gydbwyso cyllideb 2015/16, gan gynnwys opsiynau ar gyfer Treth y Cyngor a defnyddio unrhyw gronfa wrth gefn. Mae’r materion hyn wedi eu trafod yng ngweithdy’r aelodau ar 12 Rhagfyr cyn i’r gyllideb gael ei chymeradwyo’n derfynol ym mis Chwefror. Byddai Cam 3 o’r broses hefyd yn parhau i ddatblygu opsiynau arbedion ar gyfer 2016/17. Roedd yr adroddiad i’r Cyngor ar 9 Rhagfyr wedi amlygu proses ymgynghori sylweddol ac mae’r manylion llawn wedi ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
ADOLYGIAD SWYDDFA ARCHWILIO CYMRU O GYNLLUNIO ARIANNOL PDF 78 KB Derbyn adroddiad
gan y Pennaeth Cyllid ac Asedau (copi'n ynghlwm) ar adroddiad terfynol Swyddfa
Archwilio Cymru ar gynllunio a rheolaeth ariannol Sir Ddinbych. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyn adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru ar
Asesiad Cynllunio Ariannol Sir Ddinbych (copi ynghlwm). Cyflwynodd cynrychiolydd Swyddfa Archwilio Cymru
adroddiad terfynol Swyddfa Archwilio Cymru ar gynllunio ariannol Sir Ddinbych
(copi ynghlwm) a darparwyd crynodeb o'r canfyddiadau allweddol canlynol:- ·
Mae gan y Cyngor drefniadau rheoli ariannol da heb unrhyw
ddiffyg uniongyrchol. ·
Mae gan y Cyngor hanes da o ran cyflawni arbedion a
nodwyd o fewn blwyddyn yn erbyn y camau gweithredu a gymeradwywyd. ·
Mae cynlluniau a threfniadau’r Cyngor yn y dyfodol i
sicrhau arbedion yn addas i'r diben ac yn cael eu rheoli’n effeithiol. ·
Nid oes cynigion nac argymhellion yn sgil yr adolygiad
hwn. Hysbyswyd y Pwyllgor bod yr adroddiad wedi ei roi ar wefan y Cyngor, a
chytunwyd gyda’r awgrym y dylai’r ddogfen fod yn destun datganiad i'r wasg ac y
dylid rhoi gwybod i'r Tîm Cyfathrebu a Rheoli Ymgyrchoedd. Eglurodd
cynrychiolydd Swyddfa Archwilio Cymru y byddai'r broses ymgysylltu a
fabwysiadwyd o ran y wasg yn fater i’r cynghorau perthnasol ei ystyried, a
chadarnhaodd bod Sir Ddinbych, o ran cydymffurfio, wedi bodloni'r gofynion
disgwyliedig. Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan y Cynghorydd S. A. Davies, eglurodd
Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd fod Sir
Ddinbych wedi fframio ei ymarfer gyda'r cyhoedd yn ofalus drwy gynnal proses
ymgysylltu, lle gofynnwyd am eu barn ynghylch effaith y cynigion, yn hytrach na
chynnal proses ymgynghori. Cadarnhaodd y byddai’n rhaid i Aelodau Etholedig
wneud dewisiadau. Yn dilyn trafodaeth bellach:- PENDERFYNWYD - bod y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol:- (a)
yn derbyn ac yn nodi
cynnwys adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, (b)
yn sicrhau y rhoddir
gwybod i’r Tîm Cyfathrebu a Rheoli Ymgyrchoedd y dylai’r ddogfen yn eu barn hwy
fod yn destun datganiad i'r wasg. (GW i Weithredu) |
|
CAFFAEL GWASANAETHAU ADEILADU - DIWEDDARIAD PDF 79 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Archwilio Mewnol (copi ynghlwm) ar waith dilynol
Archwilio Mewnol mewn perthynas â Chaffael Gwasanaethau Adeiladu. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd adroddiad y Pennaeth Archwilio Mewnol, a oedd yn rhoi manylion gwaith
dilynol diweddaraf Archwilio Mewnol mewn perthynas â Chaffael Gwasanaethau
Adeiladu yn dilyn ei adroddiad cychwynnol ym mis Hydref, 2013 ac adroddiad
Swyddfa Archwilio Cymru ym mis Mawrth, 2014, wedi ei gylchredeg yn flaenorol. Cyhoeddodd Archwilio Mewnol adroddiad
ar Gaffael Gwasanaethau Adeiladu ym mis Hydref 2013 a oedd yn rhoi sgôr
sicrwydd 'isel', gyda chynllun gweithredu ar gyfer gwella. Daeth yr adolygiad
i'r casgliad “bod cryn le i wella. Trwy ddatblygu ymagwedd strategol, mae potensial i wneud caffael gwaith
adeiladu yn llawer mwy effeithlon drwy symleiddio prosesau a'u gwneud yn fwy
cyson, gyda'r fantais o ddileu dyblygu." Soniodd adroddiad mis Mawrth, 2014 Swyddfa Archwilio Cymru am waith cynnal
a chadw adeiladau ysgolion, gan ddod i'r casgliad "bod angen gwneud
gwelliannau i'r trefniadau caffael presennol i sicrhau bod y Cyngor yn gallu
dangos ei fod yn sicrhau gwerth am arian. Yn ogystal, nid yw'r Cyngor yn
cydymffurfio'n llawn â'i reolau gweithdrefn contract presennol." Mae'r cynllun gweithredu dilynol, Atodiad 1, yn
cynnwys 21 cam gweithredu’r gwasanaeth Archwilio Mewnol a chynlluniau
gweithredu Swyddfa Archwilio Cymru. Er bod rhywfaint o gynnydd wedi ei wneud
ers yr adroddiad dilynol cyntaf ym mis Medi, 2014, dim ond wyth cam gweithredu
sydd wedi eu gweithredu'n llawn, er bod pob un o'r camau gweithredu sy'n
weddill ar y gweill. Bu cynnydd o ran datblygu strategaeth gaffael ddrafft a
rheolau’r weithdrefn gontractau, y mae’r ddau ohonynt yn effeithio ar weithredu
nifer o gamau gwella eraill. Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol,
Adnoddau Dynol a Democrataidd fod Rheolau’r Weithdrefn Gontractau bellach wedi
eu cymeradwyo gan y Cyngor ac y byddant yn cael eu hymgorffori yng Nghyfansoddiad
y Cyngor. Mynegodd Mr P. Whitham bryder ynghylch goblygiadau ariannol posibl i'r
Cyngor drwy beidio â chael Strategaeth Gaffael o ran Adeiladu a Chaffael.
Cyfeiriodd hefyd at arwyddocâd cyflwyno prosiectau o fewn y Cynllun
Corfforaethol yn briodol. Eglurodd y Prif Gyfrifydd fod trafodaethau wedi eu cynnal rhwng y Swyddog
Caffael Strategol Dros Dro ac Adnoddau Dynol o ran sicrhau bod aelodau
perthnasol o staff, gydag unrhyw gyfrifoldeb caffael, yn mynychu sesiynau
hyfforddi Rheolau’r Weithdrefn Gontractau fesul gwasanaeth. Cadarnhaodd y
Pennaeth Archwilio Mewnol fod gwaith yn cael ei wneud ar hyn o bryd mewn
ysgolion gyda rheolwyr cyllid, penaethiaid a chyrff llywodraethu a fyddai'n
ymgorffori rheolau’r weithdrefn gontractau ac agweddau cyfathrebu perthnasol. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd S. A. Davies, cytunodd y swyddogion
i ddarparu manylion am yr oedi a gafwyd oherwydd materion yn ymwneud â'r
rheolwr prosiect, o ran Risg Rhif 3. Ymatebodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a
Democrataidd i gwestiwn gan Mr P. Whitham mewn perthynas â Risg Rhif 11 ac
esboniodd fod y system Verto, a ddefnyddir i reoli prosiectau, wedi ei
diweddaru i gynnwys cwestiynau ychwanegol y mae'n rhaid eu hateb cyn cael
caniatâd i symud ymlaen i gam nesaf y broses. Yn ystod y drafodaeth a ddilynodd mynegodd y Pwyllgor beth pryder ynghylch
lefel y cynnydd a gyflawnwyd gan ofyn am adroddiad pellach ym mis Ionawr, 2015.
Cytunodd yr Aelodau y dylid gofyn i'r Swyddog Caffael Strategol Dros Dro
fynychu'r cyfarfod er mwyn darparu manylion pellach. PENDERFYNWYD - bod y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol:- (a)
yn derbyn ac yn
nodi cynnwys adroddiad dilynol Swyddfa Archwilio Cymru; ac yn (b)
gofyn am gael
adroddiad pellach ym mis Ionawr, 2015, a gwahodd y Swyddog Caffael Strategol
Dros Dro i fynychu'r cyfarfod. (GW ac IB i Weithredu) |
|
CYNLLUN GWELLA’R DREFN LYWODRAETHOL PDF 81 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Archwilio Mewnol (copi ynghlwm) sy’n rhoi'r wybodaeth
ddiweddaraf am Gynllun Gwella Llywodraethu’r Cyngor sy’n deillio o ‘ddatganiad
llywodraethu blynyddol’ y Cyngor 2013/14 – ‘Sicrhau llywodraethu da a gwelliant
parhaus’. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd adroddiad gan y Pennaeth Archwilio Mewnol sy’n rhoi'r wybodaeth
ddiweddaraf am Gynllun Gwella Trefn Lywodraethol y Cyngor sy’n deillio o
‘ddatganiad llywodraethu blynyddol’ y Cyngor 2013/14 – ‘Sicrhau llywodraethu da
a gwelliant parhaus’, wedi ei gylchredeg yn flaenorol. Mae’r adroddiad yn darparu gwybodaeth am y cynnydd sy'n digwydd o ran
rhoi’r gwahanol gamau gweithredu sydd wedi eu cynnwys yng Nghynllun Gwella
Trefn Lywodraethol y Cyngor ar waith, er mwyn sicrhau bod gan y Cyngor drefn
lywodraethol gadarn ac effeithiol ar waith. Roedd Datganiad Llywodraethu
Blynyddol, 'Darparu llywodraethu da a gwelliant parhaus', yn darparu hunanasesiad
tryloyw a chytbwys o drefn lywodraethol y Cyngor, ac yn amlygu unrhyw wendid
llywodraethu arwyddocaol ac unrhyw faes arall y mae angen ei wella. Mae’r meysydd gwella wedi eu cynnwys yng Nghynllun Gwella’r Drefn
Lywodraethol, a oedd yn cynnig camau gweithredu i fynd i'r afael â gwendidau, y
swyddogion sy'n gyfrifol am y camau gweithredu hynny ac amserlenni. Mae
diweddariad ar gynnydd Cynllun Gwella’r Drefn Lywodraethol wedi ei gynnwys yn
Atodiad 1. Nid yw hunanasesiad o’r 'Datganiad Llywodraethu Blynyddol' wedi cyfrannu’n
uniongyrchol at y Blaenoriaethau Corfforaethol. Er nad yw'r hunanasesiad ei hun
yn cyfrannu'n uniongyrchol at Flaenoriaethau Corfforaethol, mae'n darparu
asesiad a sicrwydd ar y gwaith o gyflawni'r Cynllun Corfforaethol, perfformiad
gweithredol ac ariannol y Cyngor, trefniadau llywodraethu, ymgysylltu â'r
gymuned ac ati, gyda phob un ohonynt yn cael eu cyfeirio tuag at gyflawni'r
Blaenoriaethau Corfforaethol. Cadarnhaodd y Pennaeth Archwilio Mewnol fod swyddogion sy'n gyfrifol am
weithredu'r camau a nodwyd yn y cynllun wedi eu hymgynghori â nhw. Eglurodd, pe
na bai Cynllun Gwella’r Drefn Lywodraethol yn cael ei weithredu, byddai
gwendidau yn aros yn nhrefn lywodraethol y Cyngor, a allai arwain at:- ·
adroddiadau rheoleiddiol niweidiol; ·
defnydd gwael o arian cyhoeddus; ·
methiant i wella meysydd corfforaethol a meysydd
gwasanaeth allweddol; ·
colli hyder budd-ddeiliaid; ac ·
effaith andwyol ar enw da'r Cyngor. Cafwyd yr ymatebion canlynol i gwestiynau gan Mr P. Whitham:- -
Cadarnhaodd y Pennaeth Archwilio Mewnol y byddai Cam 2 y
datblygiad ar drosglwyddo swyddogaethau yn cynnwys y fframwaith rheoli'r
berthynas â phartïon eraill. Byddai hyn yn cynnwys swyddogaeth gomisiynu gref a
fyddai yn ei lle cyn i unrhyw swyddogaeth gael ei gaffael yn fewnol neu’n
allanol. -
Eglurodd y Cadeirydd y bydd Adroddiad Blynyddol y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor ym mis
Chwefror, 2015. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd G. M. Kensler, eglurodd Pennaeth y
Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd y byddai'r Gweithgor
Cyfansoddiad yn cyfarfod ym mis Ionawr, 2015 cyn cyflwyno adroddiad i'r
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol. Mynegodd y Cynghorydd S. A. Davies
bryderon ynghylch cywirdeb cynnwys llyfryn y Grŵp Cydraddoldeb
Corfforaethol. PENDERFYNWYD - bod y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn ac yn nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
TALIAD ARIANNOL I RAI SY'N GADAEL GOFAL - DIWEDDARIAD PDF 76 KB Derbyn
diweddariad ar lafar ar gynnydd y Cynllun Gweithredu a gynhwysir yn yr adroddiad
Archwilio Mewnol ar Daliadau Ariannol i’r Rheiny sy’n Gadael Gofal. (Mae copi o'r adroddiad a gyflwynwyd i'r
Pwyllgor ar 5 Tachwedd 2014 ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor ddiweddariad ar lafar gan Bennaeth y Gwasanaethau
Plant a Theuluoedd ar gynnydd y Cynllun Gweithredu a gynhwysir yn yr adroddiad
Archwilio Mewnol ar Daliadau Ariannol i’r Rheiny sy’n Gadael Gofal. Cylchredwyd
yr adroddiad a gyflwynwyd i'r Pwyllgor ym mis Tachwedd, 2014 gyda'r papurau ar
gyfer y cyfarfod. Cyfeiriodd y Cadeirydd at y farn a fynegwyd yn y cyfarfod blaenorol bod y
pennawd gweithredu, nad oedd cyfarfod wedi ei gynnal rhwng y Pennaeth Refeniw a
Budd-daliadau a'r Rheolwr Gwasanaeth - Plant sy'n Derbyn Gofal, wedi cael
effaith andwyol ar rai o'r camau gweithredu eraill a nodwyd. Cytunodd y
Pwyllgor y dylid gwahodd Pennaeth Refeniw a Budd-daliadau a Rheolwr Gwasanaeth
Plant sy'n Derbyn Gofal i fynychu cyfarfod mis Rhagfyr, 2014 i esbonio'r diffyg
cynnydd a rhoi sicrwydd bod y Cynllun Gweithredu yn cael ei ddatblygu. Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, ar ôl cysylltu
ymhellach gydag Archwilio Mewnol, mai’r cyswllt priodol yw’r Gwasanaethau
Caffael yn hytrach na Refeniw a Budd-daliadau. Roedd y prif feysydd o bryder yn
ymwneud â:- ·
Pwysigrwydd sicrhau bod system gadarn i fynd i'r afael
â'r gwaith o reoli'r symiau mawr o arian parod a drinnir yn Ffordd Brighton, y
Rhyl. ·
Mae'r Gwasanaeth, o ganlyniad i benderfyniadau’r
Llywodraeth a'r Llys, yn gweithredu fel asiantaeth fudd-daliadau ac mae angen
archwilio sut i gyflawni'r swyddogaeth hon yn effeithiol, a rhoi sylw i
faterion a dimensiynau cysylltiedig eraill. ·
Rôl y Cyngor fel rhiant corfforaethol i ddefnyddwyr
gwasanaeth, a'r angen i edrych ar weithredu systemau addas ar gyfer y Cyngor a
defnyddwyr gwasanaeth. Eglurwyd bod y broses archwilio mewnol wedi ei sefydlu i roi cyfeiriad ac
arweiniad wrth ddatblygu Cynllun Gweithredu. Cadarnhawyd bod cynnydd wedi ei
gyflawni ac amlygwyd y materion canlynol:- -
Anawsterau sy'n codi pan nad yw defnyddwyr gwasanaeth yn
gallu rheoli eu harian eu hunain. -
Yr angen i sicrhau cydbwysedd
rhwng rheoli'r broses fel asiantaeth fudd-daliadau a rhiant corfforaethol, i
sicrhau bod defnyddwyr gwasanaeth yn defnyddio eu cyllid dros gyfnod penodol o
amser. -
Na fu fawr ddim effaith andwyol ar ddefnyddwyr
gwasanaeth. Mae'r prosesau a ddefnyddiwyd wedi sicrhau bod gofynion ac
anghenion defnyddwyr gwasanaethau wedi cael sylw. -
Yr angen i sicrhau nad yw materion sy'n ymwneud â rheoli
arian parod yn cael effaith andwyol ar ddefnyddwyr gwasanaeth. Crynhowyd y
manylion yn ymwneud â rheoli llif arian ac archwilio modelau talu newydd. Darparodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a
Democrataidd yr wybodaeth ganlynol mewn perthynas â Refeniw a Budd-daliadau:- -
Cynnydd yn lefel y galw am arian parod a'r mesurau
diogelu a ddefnyddir. -
Cydnabuwyd bod
Tîm Gwasanaethau Plant yn sicrhau bod anghenion defnyddwyr gwasanaeth yn cael
eu diwallu. -
Awgrym i leihau taliadau
arian parod lle bo'n bosibl, er mwyn lleihau'r posibilrwydd o dwyll a
cham-drin. -
Yr angen i
archwilio gweithgarwch caffael, cynnwys darparu tocynnau bws, sefydliadau
elusennol ac ymgysylltiad trydydd sector arall. -
Pwysigrwydd sicrhau set gadarn o weithdrefnau a phrosesau
wedi eu sefydlu ar gyfer dosbarthu arian parod. -
Cadarnhawyd nad yw arian parod yn cael ei ddarparu ar
gyfer caffael nwyddau gwyn. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd ynglŷn â darparu hyfforddiant
rheolaeth ariannol, cyfeiriodd Rheolwr Gwasanaeth Plant sy’n Derbyn Gofal at y
rhaglen reoli arian a ddarperir gan Elusen Plant Barnardos. Amlinellodd hefyd y
broses i fynd i'r afael â'r camau gweithredu a amlygwyd a oedd yn cynnwys
trafodaethau gyda'r Uwch Swyddog Caffael mewn perthynas â nwyddau gwyn, cardiau
talu ymlaen llaw a thocynnau teithio. Darparodd Rheolwr Gwasanaeth Plant sy’n Derbyn Gofal grynodeb manwl o'r cynnydd a wnaed o ran Materion Risg 1, 2 a 3 yn y Cynllun Gweithredu. Eglurodd y Prif Gyfrifydd nad ... view the full Cofnodion text for item 9. |
|
ADBORTH O'R CYFARFOD CYDRADDOLDEB CORFFORAETHOL Derbyn adroddiad
ar lafar gan y Cynghorydd M.L. Holland ynglŷn â Chyfarfod Cydraddoldeb
Corfforaethol. Cofnodion: Roedd y Cynghorydd M. L. Holland wedi ymddiheuro oherwydd salwch ac ni
chyflwynwyd adroddiad. |
|
RHAGLEN WAITH Y PWYLLGOR LLYWODRAETHU CORFFORAETHOL PDF 174 KB Ystyried Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor
Llywodraethu Corfforaethol (a gylchredwyd eisoes) i’w ystyried. Cadarnhaodd y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor yn amodol ar gynnwys yr adroddiadau
canlynol:- 28 Ionawr, 2015:- -
Oherwydd prinder amser gofynnodd yr Aelodau am adroddiad
trosolwg ynglŷn â Diweddariad Adolygiad Hamdden Clwyd. -
Cynnwys adroddiad diweddaru gan y Swyddog Caffael
Strategol Dros Dro ar Gaffael Gwasanaethau Adeiladu yn y Rhaglen Gwaith i'r
Dyfodol. 26 Mawrth,
2014:- -
Adroddiad ar Adolygiad Hamdden Clwyd. -
Adroddiad ar weithgarwch
Swyddfa Archwilio Cymru. Mewn ymateb i bryderon
a godwyd gan y Cynghorydd S. A. Davies, cytunwyd y byddai’r Cynghorydd Davies
yn anfon gwybodaeth yn ymwneud â'r Cynllun Pensiwn at Gadeirydd ac Is-gadeirydd
y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol erbyn 8 Ionawr, 2015. Yna
byddai'r wybodaeth yn cael ei chyflwyno er ystyriaeth Grŵp Cadeiryddion ac
Is-Grŵp Cadeiryddion Archwilio a’i chyflwyno wedyn, o bosibl, i'r Pwyllgor
Archwilio priodol. Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau
Dynol a Democrataidd fod y Cynllun Pensiwn yn gynllun statudol. Fodd
bynnag, gellir comisiynu adroddiad gwybodaeth sy'n cynnwys y manylion
perthnasol i'w hystyried gan yr Aelodau. Eglurodd cynrychiolydd Swyddfa
Archwilio Cymru mai Sir y Fflint yw Awdurdod Gweinyddol Cronfa Bensiwn Clwyd ac
y byddai'n bwysig nodi'r strwythurau llywodraethu sydd yn eu lle. Cadarnhawyd y
byddai unrhyw oblygiadau ar gyfer y Cynllun Pensiwn yn sgil Diwygio Llywodraeth
Leol yn cael eu hystyried a'u cynnwys yn yr Achos Busnes. PENDERFYNWYD - yn amodol
ar yr uchod bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol. Daeth y cyfarfod i ben am 12.30 p.m. |