Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau |
|
Datgan cysylltiad Dylai Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiadau personol neu sy’n rhagfarnu gydag unrhyw fater a
nodwyd y dylid ei ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Nodwyd
y cysylltiadau canlynol o ran eitemau busnes i’w hystyried yn y cyfarfod. Eitem 5 ar y Rhaglen:
Y diweddaraf am y gyllideb – bu i’r Cynghorwyr G.M. Kensler a M.Ll.
Davies ddatgan cysylltiad personol. Y rheswm am hyn oedd bod y ddau Gynghorydd
yn derbyn Pensiynau Llywodraeth Leol. Eitem 6 ar y
Rhaglen: Protocol ar gyfer Aelodau sy’n
Gynrychiolwyr ar Gyrff Allanol - bu i’r
Cynghorydd M.Ll. Davies ddatgan cysylltiad personol. Y rheswm am hyn oedd bod y
Cynghorydd dan sylw’n aelod o Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru. |
|
Materion Brys Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
dan Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw eitemau y dylid eu
hystyried yn y cyfarfod, ym marn y Cadeirydd, fel materion brys yn unol ag
Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol, 1972. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a gynhaliwyd ar: (i)
4
Medi 2013. (ii) 27 Medi 2013 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a gynhaliwyd ar:- (i) 4 Medi, 2013. Materion yn codi:- 6. Y diweddaraf am y gyllideb - dywedwyd wrth
Aelodau y byddai Maes Parcio Quay Street, Rhyl yn ail-agor ac y byddai
gwybodaeth am yr incwm a’r ffigyrau gwariant ar gyfer y maes parcio’n cael eu
dosbarthu gan Bennaeth Cyllid ac Asedau. PENDERFYNWYD
– derbyn a chymeradwyo’r cofnodion fel rhai dilys
a chywir. (ii)
27
Medi, 2013. PENDERFYNWYD
– derbyn a chymeradwyo’r cofnodion fel rhai dilys
a chywir. |
|
Y DIWEDDARAF AM Y GYLLIDEB PDF 73 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Asedau (copi ynghlwm) sy’n rhoi’r wybodaeth
ddiweddaraf am y sefyllfa ddiweddaraf o ran proses pennu cyllideb y Cyngor ar
gyfer 2014/15, ac ystyried y swp nesaf o arbedion i'w cynnig i’r Cyngor Sir. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Mewn adroddiad a
ddosbarthwyd yn flaenorol gan Bennaeth Cyllid ac Asedau, cafwyd yr wybodaeth
ddiweddaraf am y broses o bennu cyllideb y Cyngor ar gyfer 2014/15, a gofynnwyd
i’r Aelodau ystyried y set nesaf o arbedion i’w cyflwyno i’r Cyngor Sir. Roedd gan y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol rôl o oruchwylio’r broses o bennu’r
gyllideb, ac mae Atodiad 1 yn cynnwys manylion ynghylch yr arbedion a gynigir. Roedd fersiwn
drafft o Setliad Llywodraeth Leol ar gyfer Cymru 2014/15 wedi ei gyhoeddi ar 16
Hydref , 2013. Y prif ffigyrau oedd:- ·
Gostyngiad
ariannol o 3.5% ar gyfartaledd drwy Gymru - ·
Gan
Sir Ddinbych oedd y setliad gwaethaf yng Nghymru sef - 4.6% ·
Roedd
mecanwaith lleddfu wedi ei ddefnyddio i leihau’r effaith yn 2014/15 ond byddai’n
cael effaith yn 2015/16 Cyfeiriwyd at
ansicrwydd ynglŷn â rhai manylion yn y Setliad, yn benodol yn ymwneud â
chyllid y Cynllun Lleihau Treth y Cyngor a’r ymdriniaeth o grant ychwanegol
Amddifadedd Disgyblion mewn perthynas â’r angen i ddiogelu cyllidebau ysgolion.
Y gobaith oedd y byddai manylion yn cael eu hegluro yn dilyn cyfarfod o
Gymdeithas Trysoryddion Cymru ar 25 Hydref. Yn ogystal â hyn disgwylid am
adolygiad actiwaraidd o Gynllun Pensiwn Clwyd a rhagwelid y byddai adolygiad yn
cynyddu costau cyflogwyr. Roedd y Setliad drafft a phwysau eraill wedi golygu
bod targed o tua £8.5 wedi ei osod ar gyfer arbedion, er y gallai hwn newid
wrth i fanylion ddod yn gliriach. Yn sgil y broses
gyllidebol roedd y Cyngor wedi cymeradwyo arbedion o £1.7m ar gyfer 2014/15 ym
Medi, ac ar 21 Hydref, cyflwynodd Gweithdy Aelodau gynigion ychwanegol yn dod i
£4.5m. Roedd Aelodau Arweiniol wedi
darparu manylion am yr arbedion, yr effaith ac asesiad risg a byddai’r rhain yn
cael eu cyflwyno i’r Cyngor yn Rhagfyr i’w cymeradwyo. Gallai arbedion pellach
i gydbwyso cyllideb 2014/15 gael eu hystyried ar wahân yng Ngweithdy nesaf yr
Aelodau yn Rhagfyr, a’u cyflwyno i’r Cyngor eu cymeradwyo yn Ionawr neu
Chwefror 2014. Byddai’n bwysig
sicrhau bod Aelodau’n cael cyfle i ofyn cwestiynau neu leisio pryderon
ynglŷn ag unrhyw un o’r arbedion a oedd yn cael eu cynnig ar gyfer eu
cymeradwyo yn Atodiad 1. Roedd yr Aelod Arweiniol a Phennaeth Cyllid ac Asedau
wedi cytuno i drafod unrhyw un o’r cynigion yn fanwl cyn eu cyflwyno i’r
Cyngor. Roedd y gyllideb yn sail i ddarparu holl flaenoriaethau a
gwasanaethau’r Cyngor, ac roedd yr Atodiad yn nodi arbedion o £4.5m ar gyfer
2014/15. Cytunwyd yn flaenorol ar
arbedion o £1.7m a’r targed o ran arbedion ar gyfer 2014/15 fyddai £8.5m. Cyflwynwyd copi o’r
wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor yn y cyfarfod gan Bennaeth Cyllid ac Asedau
a thynnwyd sylw at y materion a’r pwyntiau amlwg canlynol. Mewn ymateb i
gwestiwn gan y Cadeirydd, eglurodd y Pennaeth Cyllid ac Asedau, er gwaethaf y
datganiad yn Adran Gyllid Gwefan Llywodraeth Cymru, fod gan ALl lai o
ddisgresiwn ynglŷn â sut yr oedden nhw’n gwario eu harian, gan gyfeirio’n
benodol at y gwahaniaethau yn gysylltiedig â chlustnodi cyllid, diogelu
ysgolion a’r gyfarwyddeb gan LC i gynyddu cyllid i ysgolion o 0.9%. Crynhowyd
meysydd eraill sy’n dylanwadu ar y gyllideb gan Bennaeth Cyllid ac Asedau.
Roedd y rhain yn cynnwys:- -
effaith
Cynllun Lleihau Treth y Cyngor. -
nifer y
bobl yn y Sir a oedd yn derbyn budd-daliadau, y math o hawlwyr a lefel y cymorth
a ddarparwyd. -
ansicrwydd
ynglŷn â Chynllun Treth y Cyngor. -
peidio
â chlustnodi cyllid ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol yn y flwyddyn ariannol
sy’n dod. - cynnig Llywodraeth Leol i Lywodraeth Cymru i adolygu grantiau a dderbyniwyd er mwyn cael mwy o hyblygrwydd. ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
PROTOCOL AR GYFER AELODAU SY’N GYNRYCHIOLWYR AR GYRFF ALLANOL PDF 81 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd (copi'n
amgaeedig) am Aelodau sy’n cynrychioli’r cyngor ar gyrff allanol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dosbarthwyd
copi o adroddiad gan Bennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd gyda’r
papurau ar gyfer y cyfarfod. Eglurodd Pennaeth
Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd y gallai Aelodau fod ar nifer eang o
gyrff allanol a oedd yn cynnwys sefydliadau cymunedol, ymddiriedolaethau
elusennol, clybiau chwaraeon a hamdden, cwmnïau a chymdeithasau tai. Gallai
Aelod gael ei benodi i eistedd ar y cyrff hyn gan y Cyngor neu mewn achosion
eraill, gallent gael eu penodi’n annibynnol heb unrhyw ymwneud gan y Cyngor. Roedd Aelodau a
benodid i eistedd ar gyrff allanol gan y Cyngor yn cael eu trin yn wahanol o
dan y Cod Ymddygiad i’r rhai a benodid yn annibynnol heb unrhyw ymwneud gan y
Cyngor i’r graddau yr oedd datgan cysylltiad dan sylw, gan gyfeirio’n benodol
at y diffiniad o gysylltiadau sy’n rhagfarnu ac eithriadau. Gallai unrhyw Aelod
a benodid i gorff allanol gan y Cyngor elwa ar indemniti gan y Cyngor mewn rhai
amgylchiadau, ac ni fyddai hyn yn berthnasol i Aelod a benodid yn annibynnol
heb ymwneud gan y Cyngor. Gallai presenoldeb Aelodau mewn cyfarfod o gorff
allanol, pe bai wedi ei benodi gan y Cyngor, gael ei gydnabod fel presenoldeb
gan Aelod i bwrpas Deddf Llywodraeth Leol 1972, wrth benderfynu a fyddai Aelod
yn cael ei ddiarddel oherwydd diffyg presenoldeb. Teimlai Mr P. Whitham na
fyddai Aelod wedi ei benodi gan yr ALl, neu’n annibynnol, i gorff allan yn cael
ei ystyried gan y Cyngor yn lle hyn. Byddai rôl Aelod mewn perthynas â chorff allanol yn amrywio yn dibynnu
ar y corff. Byddai rhai Aelodau’n dod yn gyfarwyddwyr cwmnïau, yn
ymddiriedolwyr i ymddiriedolaethau elusennol, yn aelodau o bwyllgorau rheoli
gyda’r gallu i wneud penderfyniadau neu byddent yn gallu bod yn arsylwyr neu
gynrychiolwyr heb unrhyw allu i wneud penderfyniadau. Roedd gwahanol
rwymedigaethau cyfreithiol yn perthyn i’r gwahanol rolau a gallent fod â
gwahanol lefelau o indemniti. Roedd gan Aelodau rôl bwysig o ran cynrychioli’r Cyngor ar gyrff allanol
a gallai’r Cyngor elwa fel a ganlyn o ymwneud Aelodau:- ·
Darparu
gwybodaeth, sgiliau ac arbenigedd, na fyddai ar gael fel arall. ·
Sicrhau
atebolrwydd lleol neu gyfreithlondeb democrataidd wrth benodi cynrychiolydd
etholedig. ·
Sicrhau
y gellir cynnal perthynas dda â’r corff. ·
Darparu
prosiect partneriaeth sy’n galw am fewnbwn gan gyrff neu grwpiau cymunedol
eraill. ·
Diogelu
buddsoddiad neu ased y Cyngor, h.y. os yw’r Cyngor yn darparu grant neu arian i
ddarparu gwasanaeth. ·
Denu
cyllid allanol na fyddai ar gael i’r Cyngor ar ei ben ei hun. Er mwyn sicrhau bod cynrychiolaeth o’r Cyngor ar gyrff allanol yn dal yn
berthnasol ac yn sicrhau’r manteision a amlinellwyd, dylai’r rhai a benodir
ddarparu gwybodaeth ac adroddiadau’n achlysurol i’r Cyngor ar weithgareddau’r
sefydliad. Byddai hefyd yn bwysig sicrhau bod y Cyngor yn ymwybodol o’r defnydd
a gâi ei wneud o’r cyllid yr oeddent wedi ei ddarparu. Roedd nifer o ddulliau o adrodd yn ôl wedi eu hamlinellu. Roedd rhai
Aelodau’n adrodd yn ôl trwy nodiadau briffio rheolaidd a chylchlythyrau
Aelodau, roedd eraill yn adrodd yn ôl yn fwy ffurfiol naill ai trwy adroddiadau
i’r Cabinet, y Pwyllgor Archwilio, y Cyngor neu’r Cyngor Anffurfiol. Roedd yr
adroddiad yn awgrymu na fyddai’n addas mabwysiadu un dull i bawb, gan fod rhai
cyrff allanol yn cael effaith fwy sylweddol ar y Cyngor nag eraill. Mewn ymateb
i gwestiynau gan y Cynghorydd M.Ll. Davies, eglurodd Pennaeth Gwasanaethau
Cyfreithiol a Democrataidd mewn achosion lle’r oedd mwy nag un Aelod wedi ei
benodi i gorff allanol, y gellid dod i gytundeb bod un Aelod yn adrodd yn ôl
i’r Cyngor, ac y gellid anfon copïau o gofnodion cyfarfodydd y corff allanol
trwy e-bost. Roedd rhestr o Aelodau a benodwyd ar gyrff allanol ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
CYNLLUN GWEITHREDU FFRAMWAITH LLYWODRAETHU CORFFORAETHOL PDF 63 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Archwilio Mewnol (copi ynghlwm) sy’n darparu cynllun
gweithredu wedi’i ddiweddaru a ddaeth o ganlyniad i’r adolygiad o Fframwaith
Llywodraethu’r Cyngor a’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2012/13. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd adroddiad gan
Bennaeth Archwilio Mewnol, a oedd yn darparu cynllun gweithredu wedi ei
ddiweddaru yn sgil adolygiad o fframwaith llywodraethu’r Cyngor, a’r Datganiad
Llywodraethu Blynyddol 2012/13, wedi ei ddosbarthu’n flaenorol. Cyflwynwyd yr
adroddiad gan y Rheolwr Archwilio a
chadarnhaodd fod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn monitro Cynllun
Gweithredu’r Fframwaith Llywodraethu Corfforaethol yn rheolaidd fel rhan o
drefniadau llywodraethu cyffredinol y Cyngor i sicrhau bod y Cyngor yn
gweithredu’r gwelliannau angenrheidiol yn effeithiol. Roedd y Fframwaith
Llywodraethu Corfforaethol yn cynnwys asesiad blynyddol o drefniadau
llywodraethu’r Cyngor a Datganiad Llywodraethu Blynyddol a oedd yn tanlinellu unrhyw
wendidau llywodraethu o bwys. Roedd hefyd yn tynnu sylw at feysydd pellach, er
nad oedd ganddynt wendidau sylweddol, oedd yn dal angen eu gwella. Roedd y Grŵp
Llywodraethu’n rheoli proses y Fframwaith Llywodraethu Corfforaethol ac yn
datblygu’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol yn barhaus yn ystod y flwyddyn
ariannol. Roedd y Grŵp yn cynnwys:- ·
Cadeirydd
y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ·
Is-gadeirydd
y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ·
Pennaeth
Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd ·
Pennaeth
Cynllunio Busnes a Pherfformiad ·
Pennaeth
Cyllid ac Asedau ·
Pennaeth
Archwilio Mewnol Roedd y Grŵp
Llywodraethu wedi datblygu’r Cynllun Gweithredu yn Atodiad 1, ac wedi ei
ddiweddaru ers yr adroddiad blaenorol i nodi’r cynnydd hyd yma. Mewn ymateb i’r
siom a fynegwyd gan Mr P. Whitham ynglŷn â nifer y cyfeiriadau at
amserlenni yn Atodiad 1 a nodwyd fel rhai amherthnasol, pwysleisiodd y Rheolwr
Archwilio mor bwysig oedd canolbwyntio ar statws Coch/Ambr/Gwyrdd oherwydd mewn
rhai achosion efallai na fyddai angen gweithredu pellach. Ar ôl trafodaeth
fer ar yr adroddiad:- PENDERFYNWYD - bod y Pwyllgor
Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn ac yn nodi Cynllun Gweithredu’r Fframwaith
Llywodraethu Corfforaethol drafft. (IB a BS i weithredu) |
|
ADRODDIAD CYNNYDD ARCHWILIO MEWNOL PDF 81 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Archwilio Mewnol (copi ynghlwm) sy’n rhoi’r wybodaeth
ddiweddaraf am gynnydd diweddaraf y Gwasanaeth Archwilio Mewnol, o ran
darparu’r gwasanaeth, darpariaeth sicrwydd, adolygiadau sydd wedi eu cwblhau,
perfformiad ac effeithiolrwydd o ran gwelliannau. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd
copi o adroddiad gan Bennaeth Archwilio Mewnol wedi ei ddosbarthu’n flaenorol. Cyflwynodd
y Rheolwr Archwilio’r adroddiad ar gynnydd diweddaraf y Gwasanaeth Archwilio
Mewnol o ran darparu gwasanaeth, rhoi sicrwydd, cwblhau adolygiadau,
perfformiad ac effeithiolrwydd o ran hybu gwelliannau. Roedd yr adroddiad yn cyflwyno’r wybodaeth
ddiweddaraf ynglŷn â ·
darparu’r
Cynllun Sicrwydd ar gyfer 2013/14 ·
adroddiadau
Archwilio Mewnol diweddar a gyflwynwyd ·
ymateb rheolwyr
i’r materion a godwyd ·
perfformiad
Archwilio Mewnol Eglurodd y Rheolwr
Archwilio fod Atodiad 1 yn cynnwys dadansoddiad o waith a wnaed gan Archwilio
Mewnol yn ystod 2013/14, o’i gymharu â’r Strategaeth Archwilio Mewnol. Roedd yn
cynnwys sgorau sicrwydd a nifer y materion a godwyd ar gyfer yr adolygiadau a
gwblhawyd, y diffiniadau a ddefnyddiwyd i roi sicrwydd ar gyfer ein harchwiliad
a’r sgorau a ddefnyddiwyd i asesu’r lefelau risg ar gyfer y materion a godwyd. Roedd yr adroddiadau canlynol a gyflwynwyd ers Medi
2013 wedi eu dosbarthu:- -
Cytundebau
Setliad -
Dirprwy Cyllid
(Llys Gwarchod)) -
Ysgol Brynhyfryd,
Rhuthun Roedd Crynodebau Gweithredol a Chynlluniau
Gweithredu wedi eu hatodi i’r adroddiad er gwybodaeth bellach. Roedd ymateb
rheolwyr i faterion a godwyd gan Archwilio Mewnol wedi eu crynhoi ac roedd y
rhan fwyaf o adroddiadau Archwilio Mewnol yn nodi risgiau a gwendidau o ran
rheoli. Roedd y rhain wedi eu sgorio fel risgiau critigol, mawr neu gymedrol ac
roedd rheolwyr wedi cytuno ar gamau i fynd i’r afael â’r risgiau, yn cynnwys
cyfrifoldebau ac amserlenni. Adroddwyd ynghylch pob achos lle’r oedd rheolwyr
wedi methu ag ymateb i waith dilynol, neu os oeddent yn mynd dros y dyddiad
gweithredu y cytunwyd arno o fwy na thri mis. Byddai’r Pwyllgor yn penderfynu a
oedd angen gweithredu pellach. Roedd gwybodaeth
ynglŷn ag adroddiadau y rhoddwyd sylw dilynol iddynt wedi ei chynnwys yn
yr adroddiad. Cadarnhaodd y Rheolwr Archwilio fod dadansoddiad pellach o’r holl
faterion y rhoddwyd sylw dilynol iddynt wedi ei gynnwys yn yr adroddiad, yn
unol â’r cais mewn cyfarfod blaenorol. Ni ddaeth unrhyw ymateb i law i’r gwaith
dilynol ar dri Chynllun Gweithredu y gofynnwyd amdano ar 1 Hydref 2013.
Anfonwyd neges atgoffa ar 23 Hydref, ond ni chafwyd unrhyw ymatebion mewn pryd
ar gyfer yr adroddiad cynnydd. Fodd bynnag, dywedodd y Rheolwr Archwilio fod
cadarnhad o gynnydd hyd yma wedi ei dderbyn ym mhob achos yn dilyn terfyn amser
yr adroddiad. Roedd manylion am Berfformiad Archwilio Mewnol wedi ei gynnwys yn
yr adroddiad gyda manylion ychwanegol am ganran y gwaith sicrwydd hanfodol, fel
y gofynnwyd yn flaenorol. Rhoddodd y Rheolwr
Archwilio grynodeb o bob adroddiad a ddosbarthwyd:- (i)
Cytundeb
Setliad:- Wrth
ddadansoddi taliadau cyflog ar gyfer 2012/13, fel rhan o brofi’r sicrwydd
ariannol, dywedwyd wrth Aelodau fod chwe thaliad wedi eu nodi fel cytundebau
setliad. Roedd y gwaith a wnaed wedi cynnwys dadansoddi ffeiliau achos ac
ystyried y broses gyffredinol i sicrhau bod:- ·
gan y Cyngor bolisi / cod ymarfer a gweithdrefnau ffurfiol i
ddelio â ‘chytundebau setliad’; ·
bod cytundebau o’r fath yn cael eu hystyried a’u cymeradwyo’n
ffurfiol, yn seiliedig ar achos busnes cadarn; ·
gofyn am gyngor perthnasol ym mhob achos; a ·
bod pob setliad a wnaed yn ystod 2012/13 yn rhesymol a dilys. Cyfeiriodd Cyfarwyddwr Corfforaethol: Uchelgais Economaidd a Chymunedol (CD:ECA) at God ACAS a phwysleisiodd fod ‘cytundebau setliad’ yn ddull cydnabyddedig o ddelio â materion cyflogaeth, yn y sector preifat a chyhoeddus, ac nad oeddent yn cael eu hystyried fel rhywbeth i ddisodli arfer rheoli da. Eglurwyd bod y cytundebau wedi eu defnyddio’n briodol a’u defnyddio ar y cyfan fel y dewis olaf. Hefyd dywedwyd wrth Aelodau fod yr Adolygiad Archwilio Mewnol wedi bod o fudd mawr ac wedi nodi’r angen i ffurfioli’r trefniadau ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
ADBORTH CYFARFOD CYDRADDOLDEB CORFFORAETHOL Cael adroddiad
llafar am y cyfarfod Cydraddoldeb Corfforaethol. Cofnodion: Derbyniodd
y Pwyllgor adroddiad llafar gan y Cynghorydd M.L. Holland am y cyfarfod
Cydraddoldeb Corfforaethol a gynhaliwyd ar 18 Hydref, 2013. Pwysleisiodd
y Cynghorydd M.L. Holland y pwyntiau amlwg canlynol:- -
Roedd Asesiadau
Effaith Cydraddoldeb wedi parhau i wella. -
Roedd hysbysiadau
wedi eu dosbarthu i Gyfarwyddiaethau’n pwysleisio pwysigrwydd sicrhau defnyddio
templedi cywir. -
Byddai Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd yn sicrhau bod Asesiadau
Effaith Cydraddoldeb yn cael eu cynnwys ar gyfer adroddiadau a gyflwynid i’r
Cabinet ac i’r Cyngor. -
Byddai
Hyfforddiant Cydraddoldeb yn flaenoriaeth i bob aelod o staff, a byddai angen
iddynt ddarllen y llyfryn “Parch”. -
Mynegwyd pryder
mai dim ond 15 o Aelodau a oedd wedi mynychu sesiynau hyfforddi Cydraddoldeb. -
Awgrymodd y Cynghorydd Holland, mewn achosion lle nad oedd Asesiad
Effaith Cydraddoldeb i gyd-fynd ag adroddiad, y dylid rhoi rhesymau pam. Rhoddodd
Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd amlinelliad o rwymedigaethau
cyfreithiol y Cyngor o safbwynt Asesiadau Effaith Cydraddoldeb. PENDERFYNWYD
- bod y Pwyllgor yn derbyn ac yn nodi’r adroddiad |
|
RHAGLEN WAITH Y PWYLLGOR LLYWODRAETHU CORFFORAETHOL PDF 17 KB Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen Waith
i’r Dyfodol y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol (a ddosbarthwyd yn flaenorol)
i’w hystyried. Cadarnhaodd
y Pwyllgor Raglen Waith i’r Dyfodol y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn
amodol ar gynnwys yr adroddiadau canlynol:- 18
Rhagfyr, 2013:- -
Adroddiad gan Bennaeth Gwasanaethau
Cyfreithiol a Democrataidd ar Indemniti ar gyfer Aelodau Etholedig. 29
Ionawr, 2013:- -
Adroddiad diweddaru
gan Bennaeth Cyllid ac Asedau ar y Cytundeb Setliad. -
Adroddiad
diweddaru gan Bennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd ar y Protocol ar
gyfer Aelodau sy’n Gynrychiolwyr ar Gyrff Allanol. 26
Mawrth, 2014:- -
Adroddiad
diweddaru gan Bennaeth Archwilio Mewnol ar Gaffael Gwasanaethau Adeiladu. PENDERFYNWYD
- yn amodol ar yr uchod, fod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r Rhaglen Waith i’r
Dyfodol. Daeth
y cyfarfod i ben am 13.25 p.m. |