Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Y Cynghorydd
Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol dros Gyllid ac Asedau Ymddiheurodd y
Pennaeth Cyllid ac Asedau na fyddai’n gallu aros am y cyfarfod cyfan. |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiadau personol neu sy’n rhagfarnu yn unrhyw fusnes a
nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.
Cofnodion: Fe wnaeth y Cynghorydd Gwyneth Kensler ddatgan cysylltiad
personol gyda Twm o’r Nant, Dinbych y cyfeiriwyd ato yn Natganiad Cyfrifon
2012/13. |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
dan Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
faterion brys. |
|
CYMERADWYO DATGANIAD CYFRIFON 2012/13. PDF 74 KB Ystyried
adroddiad gan Bennaeth Cyllid ac Asedau (copi ynghlwm) yn cyflwyno Datganiad
Cyfrifon 2012/13 ar gyfer eu cymeradwyo'n ffurfiol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd yr adroddiad (a gylchredwyd
yn flaenorol) a oedd yn cyflwyno Datganiad Cyfrifon 2012/13 gan y Pennaeth
Cyllid ac Asedau (PCA) i’w gymeradwyo’n ffurfiol. Roedd Adroddiad Archwilio’r
Datganiad Ariannol a gynhyrchwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) hefyd wedi’i
roi ynghlwm wrth yr adroddiad. Amlygodd y PCA bwysigrwydd y ddogfen
a’r sicrhad a roddwyd gan SAC yn dilyn eu gwaith archwilio. Fe wnaeth hefyd
achub ar y cyfle i fynegi ei werthfawrogiad o’r gwaith ardderchog a wnaeth y
tîm cyllid. Rhoddodd y Prif Gyfrifydd (PG)
gyflwyniad ar y Datganiad Cyfrifon a ddarparai – ·
drosolwg ar y cyfrifon
a’r prif ddatganiadau ariannol ·
amlinelliad o’r
prosesau cysylltiedig gan gynnwys gofynion deddfwriaethol ac amserlenni ynghyd
â rôl yr aelodau yn y broses honno ·
dangosai sut yr
oedd ffigurau penodol yr adroddwyd arnynt yn y Cyfrif Refeniw wedi’u hadlewyrchu
yn y datganiadau ariannol, ac ·
amlygai’r meysydd
allweddol i roi sylw iddynt gan gynnwys Symudiad yn y Cronfeydd Wrth Gefn; y
Datganiad Incwm a Gwariant; y Fantolen a’r Datganiad Llif Arian. Wrth gloi
dywedodd y PG na ddaeth dim problemau sylweddol i’r amlwg o archwiliad SAC a
rhoddai hyn sicrhad ynglŷn â’r prosesau a chydymffurfio. Cyfeiriodd Mr
A. Veale, SAC at rôl SAC yn y broses gyffredinol yn ogystal ag at eu
cyfrifoldeb i adrodd ar y datganiadau ariannol. Cyflwynodd drosolwg ar
ganfyddiadau’r adroddiad gan gyfeirio’n benodol at y canlynol - ·
roedd yr
Archwilydd Penodedig yn bwriadu cyflwyno adroddiad archwilio diamod ar ôl i’r
Llythyr Sylwadau gael ei ddarparu ·
crynodeb o’r
cywiriadau a wnaed i’r datganiad ariannol drafft ·
nid oedd unrhyw
broblemau sylweddol eraill yn codi o’r archwiliad ·
paratowyd y
datganiadau ariannol drafft a’r adroddiad ariannol i safon dda iawn ac ni
welwyd unrhyw wendidau pwysig yn y rheolaethau mewnol ·
ni allai cloi’r archwiliad
gael ei ardystio nes bydd SAC yn ymateb yn ffurfiol i’r ohebiaeth a ddaeth i
law gan y cyhoedd am y cyfrifon drafft. Mewn ymateb i
gwestiynau ymhelaethodd Mr Veale ar y camddatganiadau yr oedd y rheolwyr wedi’u
cywiro. Nodwyd er y ceid rhai ffigurau mawr a oedd angen eu haddasu, ffigurau
cynrychioliadol yn unig oeddent ac ni chaent ddim effaith ariannol ar y
cyfrifon. Gan ymateb i’r pryderon am yr oedi cyn ardystio’r cyfrifon, esboniodd
Mr Veale sail unrhyw wrthwynebiad cyhoeddus a’r trefnau dilynol i ymchwilio ac
ymateb er mwyn sicrhau cloi’r archwiliad cyn gynted â phosibl. O safbwynt
adborth, ceid elfennau o gyfrinachedd ac roedd adrodd yn ôl yn ddibynnol ar
ganfyddiadau’r gwaith ymchwilio. Nododd yr aelodau fod oedi cyn ardystio yn
ddigon cyffredin a bod cynghorau eraill yng Nghymru mewn sefyllfa debyg. Ymatebodd y PG
i gwestiynau cyffredinol am faterion a oedd yn gysylltiedig â’r cyfrifon o
safbwynt y diffiniadau a ddefnyddiwyd a llinellau penodol yn y gyllideb gan
gynnwys cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd. O safbwynt llywodraethu, tynnwyd
sylw at ddiffyg cynrychiolaeth ar y Bwrdd o blith Cwmnïau Cysylltiedig a oedd
yn cael cymorthdaliadau gan y cyngor, ac awgrymwyd y byddai’n ddefnyddiol
ailedrych ar y Fframwaith Partneriaeth o bosibl. Cytunwyd y byddai’r mater yn
cael ei roi ar yr agenda ar gyfer cyfarfod nesaf y Grŵp Llywodraethu a
drefnwyd cyn cyfarfod nesaf y pwyllgor ym mis Tachwedd 2013. [IB i
weithredu] Roedd y pwyllgor yn fodlon bod sicrhad ar lefel uchel wedi’i roi o safbwynt y broses cyfrifo ariannol a chydymffurfiaeth. Ar ran y pwyllgor, diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion cyllid am eu gwaith caled a’u diwydrwydd ac i swyddogion SAC am eu mewnbwn a’u hadroddiad. Cytunodd y pwyllgor i barhau â’r arfer o gael y cyfrifon drafft yn eu cyfarfod ym mis Mehefin/Gorffennaf i’r dyfodol a chael adroddiad archwilio gan SAC ochr yn ... view the full Cofnodion text for item 4. |
|
LLYTHYR ASESIAD GWELLA SWYDDFA ARCHWILIO CYMRU PDF 70 KB Ystyried
adroddiad gan Reolwr Tîm Gwella Corfforaethol (copi ynghlwm) yn cyflwyno’r
Llythyr Asesiad Gwella diweddaraf ar gyfer Cyngor Sir Ddinbych gan Swyddfa
Archwilio Cymru dyddiedig 12 Medi 2013. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr
Gwella Corfforaethol (a gylchredwyd yn flaenorol) gan gyflwyno’r Llythyr
Asesiad Gwella diweddaraf ar gyfer Cyngor Sir Ddinbych a gyflwynwyd gan Swyddfa
Archwilio Cymru (SAC) ar 12 Medi 2013. Amlygodd Mr G.
Bury, SAC y casgliad cyffredinol fod y Cyngor wedi cyflawni ei ddyletswyddau
cynllunio gwella dan y Mesur ac wedi gweithredu’n unol ag arweiniad Llywodraeth
Cymru. Crynhodd gynnwys y Llythyr Gwella gan ddweud na chafwyd dim argymhellion
na chynigion newydd ar gyfer gwella. Tynnwyd sylw at y materion canlynol - ·
roedd y ‘trothwy
rhagoriaeth’ fel cysyniad yn gwbl ddealladwy ymysg uwch reolwyr ond yn llai
clir i rai staff mewn gwasanaethau unigol ·
roedd amrediad y
canlyniadau a gafodd eu datgan ar gyfer Amcanion Gwella yn amrywio ac mae’n
bosibl mai da o beth fyddai edrych ar amrywiaeth ehangach o ddulliau mesur
canlyniadau yn ogystal â rhoi ffocws ehangach ar fesur llwyddiant ar gyfer
amcanion penodol ·
roedd yr Amcanion
Gwella wedi’u cyplysu’n glir â’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig ond gallai’r
cyflenwi gael ei lesteirio yn ddibynnol ar y setliad terfynol gan Lywodraeth
Cymru. Byddai’r cynnydd yn parhau i gael ei
fonitro a pharheir i adrodd arno yn yr Adroddiad Gwella Blynyddol ar gyfer y
Cyngor; caiff ei gyhoeddi ddiwedd Mawrth 2014. Croesawodd y Pennaeth Cynllunio Busnes
a Pherfformiad (PCBPh) y Llythyr Asesiad Gwella gan amlygu’r berthynas agored a
thryloyw gyda SAC. Ymatebodd i faterion a godwyd ac amddiffynnodd ddefnyddio
gwahanol ystodau a mesuriadau yn ddibynnol ar gymhlethdod y dangosyddion
perthnasol. Trafododd yr aelodau’r Strategaeth Uchelgais Economaidd a Chymunedol ddrafft a’r set gymhleth o
ddangosyddion canlyniadau i fesur ei llwyddiant. Dywedodd y PCBPh fod llawer o
waith y Strategaeth honno’n ddibynnol ar bartneriaid a bod ynddi elfennau nad
oedd gan y Cyngor ddim rheolaeth na dylanwad drostynt a bod hynny’n cymhlethu
pethau ymhellach. Byddai’r Strategaeth ddrafft yn cael ei chyflwyno gerbron y
Cyngor Llawn ym mis Tachwedd a byddai’r aelodau’n cael cais i flaenoriaethu
gweithgareddau er mwyn symleiddio’r broses a gosod amcanion mesuradwy.
Tynnodd y Cynghorydd Gwyneth Kensler sylw at y sialensiau ariannol sy’n wynebu
awdurdodau lleol a theimlai y dylid gwario llai o arian ar fiwrocratiaeth a
mesur, gyda rhagor yn cael ei wario ar wasanaethau a chyflenwi. Amlygodd y
PCBPh yr angen am broses fesur syml i sicrhau bod gwasanaethau’n bod yn effeithiol. Mewn ymateb i
gwestiynau, dywedodd Mr Bury y byddai’n adrodd ymhellach ar berfformiad gwasanaethau yn y Llythyr Gwella Blynyddol. Roedd yn bleser gan y pwyllgor nodi’r
adroddiad cadarnhaol a – PHENDERFYNWYD derbyn a nodi’r Llythyr Asesiad Gwella diweddaraf a
gyflwynwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru. Daeth y cyfarfod i ben am 11.05 a.m. |