Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu gydag unrhyw
fater a nodwyd y dylid ei ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni ddatganodd
unrhyw Aelod gysylltiad personol neu sy’n rhagfarnu ar unrhyw fater sy'n cael
ei ystyried yn y cyfarfod. |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys dan Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys dan Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 3 Gorffennaf
2013. Cofnodion: Cyflwynwyd
Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 3
Gorffennaf, 2013. PENDERFYNWYD – y dylid derbyn a chymeradwyo’r Cofnodion fel cofnod
cywir. |
|
HUNANASESIAD Y PWYLLGOR LLYWODRAETHU CORFFORAETHOL PDF 60 KB Derbyn cyflwyniad
gan y Pennaeth Archwilio Mewnol (copi ynghlwm) ar hunanasesiad o wybodaeth,
sgiliau a phrofiad y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol i gyflawni’i rôl yn
effeithiol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd yr adroddiad yn cyd-fynd â chyflwyniad y
Pennaeth Archwilio Mewnol o hunanasesiad o wybodaeth, sgiliau a phrofiad y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol i gyflawni ei rôl yn effeithiol, a
gynhaliwyd fel rhan o gynllun hyfforddiant Aelodau’r Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol. Fel rhan o Fframwaith Llywodraethu Corfforaethol y
Cyngor, i sicrhau effeithiolrwydd y Pwyllgor Archwilio, cynhaliwyd hunanasesiad
blynyddol gan Bwyllgorau Archwilio Awdurdodau Lleol i ganfod unrhyw wendidau,
anghenion hyfforddi a datblygu.
Bu’r ymdrech i gynnal yr hunanasesiad drwy holiadur
yn aflwyddiannus a chadarnhawyd y byddai’r cyflwyniad yn cynnwys gofynion
allweddol Pwyllgor Archwilio effeithiol a nodi unrhyw feysydd lle’r oedd angen
Cynllun Gweithredu gwelliant. Teimlai’r PAM y dylid ymateb i gwestiynau ynglŷn â lefel y sicrwydd y
teimlai Aelodau fyddai ei angen fel Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
Corfforaethol, ac a fyddai sicrwydd yn cael ei roi ac o ble a gan bwy. Teimlai aelodau fod sicrwydd yn cael ei roi gan uwch swyddogion drwy ymateb
i gwestiynau a gyflwynwyd yng nghyfarfodydd
y Pwyllgor. Rhoddwyd tystiolaeth o gydymffurfiad a her gan Archwilio Mewnol ac Allanol
ac asiantaethau eraill, ac eglurodd y PAM y byddai sicrwydd hefyd yn cael ei
roi drwy’r Fframwaith Llywodraethu. Awgrymodd y Cadeirydd y dylid ailadrodd y rhaglen hyfforddiant a roddwyd i
Aelodau Etholedig yn dilyn etholiadau’r Cyngor Sir. Cytunodd y Pwyllgor y dylid
cynnig sesiwn hyfforddiant gyffredinol i bob Aelod Etholedig ac y dylid cynnal
sesiwn hyfforddiant uwch, ac y dylid ail gylchredeg canllaw hawdd y pecyn
cyflwyno Aelodau. Awgrymodd Aelodau’r Pwyllgor hefyd y dylid darparu
hyfforddiant i Aelodau newydd a benodwyd i’r Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd B. Blakeley, cyfeiriodd y Pennaeth
Gwasanaethau Cyfreithiol a Democratiaeth (PGCD) at Gylch Gorchwyl y Pwyllgor a
rhoddodd fanylion i’r Is-Gadeirydd am aelodaeth y Cyngor o’r Pwyllgor, a
chadarnhaodd y gellid adolygu’r rhain. Gyda chymorth cyflwyniad PowerPoint, cyfeiriodd y
Pennaeth Archwilio Mewnol (PAM) at ofynion allweddol Pwyllgor Archwilio a
nododd feysydd i'w gwella yn y cynllun gweithredu lle bod angen hynny. Amlygodd y cyflwyniad feysydd yn ymwneud â:- ·
Darparu sicrwydd. ·
Fframwaith Llywodraethu. ·
Partneriaethau. ·
Archwilio Mewnol. ·
Herio. ·
Rheoli Risg. ·
Twyll. ·
Rheolaeth Ariannol. ·
Archwilio Allanol. ·
Gwybodaeth, cefnogaeth ac effeithiolrwydd y Pwyllgor. Rhoddodd y swyddogion yr ymatebion a ganlyn i
faterion a chwestiynau a godwyd gan Aelodau o’r Pwyllgor yn ystod y
cyflwyniad:- -
Mynegodd y PAM ei bryderon ynglŷn â threfniadau
Llywodraethu Partneriaethau a chadarnhaodd fod angen gwella rhai meysydd. Amlinellodd y gwaith sy’n
cael ei wneud ar hyn o bryd i ymateb i’r mater hwn a chyfeiriodd at ddechrau'r
hyfforddiant Tystysgrif Llywodraethu Corfforaethol, y byddai’n cymryd rhan
ynddo. Cyfeiriodd y Cynghorydd M. L. Holland at y risgiau posibl oedd yn
gysylltiedig â gwaith partneriaeth, gan gyfeirio’n benodol at grwpiau a chyrff
allanol sy’n derbyn arian gan y Cyngor. -
Mewn ymateb i gwestiwn gan Mr P. Whitham, cadarnhaodd y
PAM y byddai’n archwilio darpariaeth hyfforddiant i swyddogion mewn perthynas
â’r Fframwaith Bartneriaethau newydd. -
Cytunodd Aelodau y dylid cyflwyno adroddiad blynyddol,
tebyg i’r un a gynhyrchwyd gan y Pwyllgorau Archwilio, yn manylu ar y gwaith a
wnaed gan y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol. -
Amlygodd Mr P. Whitham yr angen am ragor o fanylion mewn
perthynas ag adroddiadau dilynol, cynnig eglurder mewn perthynas â chanrannau
sicrwydd hanfodol a chyflwyniad amgen y Cynllun Gweithredu Llywodraethu
Blynyddol a’r Datganiad Monitro Llywodraethu Blynyddol i gyfarfodydd y
Pwyllgor. -
Cyfeiriodd y PAM at ddatblygiad Cynllun Sicrwydd Twyll a fyddai’n cael ei
gyflwyno i’r Pwyllgor. Cytunodd Aelodau y byddai swyddogion o adrannau allweddol
a nodwyd yn cael eu gwahodd i gyfarfodydd y Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth bellach:- PENDERFYNWYD – bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol:- (a) yn derbyn ac yn nodi cynnwys Cynllun Gweithredu’r ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
DIWEDDARIAD CYLLIDEB PDF 72 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Asedau (copi ynghlwm) sy’n rhoi’r wybodaeth
ddiweddaraf am y sefyllfa ddiweddaraf o ran proses pennu cyllideb y Cyngor ar
gyfer 2014/15. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Asedau, a
oedd yn rhoi diweddariad ar y sefyllfa ddiweddaraf o ran y broses o bennu
cyllideb y Cyngor ar gyfer 2014/15, wedi’i gylchredeg yn barod. Roedd y mwyafrif o gyllid y cyngor, oddeutu 78%, yn dod gan Lywodraeth
Cymru trwy’r Grant Cynnal Refeniw ac ailddosbarthu’r Trethi Annomestig
Cenedlaethol. Yn 2013/14, y setliad terfynol ar gyfer Sir Ddinbych oedd
£150.821 miliwn. Roedd gweddill y cyllid yn cael ei ddarparu drwy
Dreth y Cyngor, £40.7 miliwn yn y gyllideb yn 2013/14. Roedd effaith y symudiad
ar y setliad yn cael effaith llawer mwy arwyddocaol na symudiad ar lefelau
Treth y Cyngor. Rhoddodd y Prif
Gyfrifydd (PG) gyflwyniad yn canolbwyntio ar yr adroddiad, a gylchredwyd gyda
phapurau'r cyfarfod, a fyddai’n cael ei gyflwyno i’r Cyngor ar 10 Medi, 2013.
Roedd adroddiad wedi’i gyflwyno ym mis Mehefin, 2013 yn amlinellu
rhagdybiaethau mewn perthynas â setliad cyllideb refeniw bosibl y Cyngor a’r
goblygiadau ariannol posibl. Nes y cyhoeddwyd y Setliad
Llywodraeth Leol Drafft ym mis Hydref, byddai’r sefyllfa yn aneglur er bod
popeth yn awgrymu y byddai’r setliad yn un gwael, gyda’r CLlLC wedi argymell y
dylai Cynghorau ragdybio gostyngiad o -4% yn 2014/15. Eglurodd y PG fod gormod
o ansicrwydd yn parhau i roi union ffigwr ond pe bai gostyngiad i setliad
refeniw’r Cyngor ar lefel o -4% a phe bai effaith y newid yn sgil y cyfrifiad
yn cael ei weithredu ym mlwyddyn un, yna ni fyddai rhagdybiaeth cynllunio o
ostyngiad o rwng £8-9m yn bosibilrwydd afresymol. Bydd y cyngor hefyd yn wynebu pwysau chwyddiant mewn meysydd fel tâl,
pensiynau, ynni a phwysau o ran y galw am wasanaethau. Mewn ymateb i’r setliad gwael tebygol, mae pob gwasanaeth yn gwneud cynnydd
wrth ddynodi cynigion ar gyfer arbedion ar gyfer y tair blynedd nesaf. Byddai cynigion
newydd i arbed, gyda thri gwasanaeth yn dal i’w hadolygu, yn cael eu hystyried ym
mis Medi gyda’r Aelodau Arweiniol perthnasol cyn eu cyflwyno i aelodau
etholedig mewn gweithdy ym mis Hydref. Mae’r broses Herio Gwasanaethau ar gyfer 2012/13 a 2013/14 wedi dynodi
arbedion posibl o £1.716m ar gyfer 2014/15. Roedd y cynigion wedi’u hystyried
yn fanwl yn y cyfarfodydd Herio Gwasanaethau ac wedi’u cadarnhau mewn
cyfarfodydd diweddar gyda Phenaethiaid Gwasanaeth. Roedd y
cynigion arbed wedi’u cynnwys yn Atodiad 1 ac wedi’u disgrifio fel Cam 1 y
broses o gyflawni targed a allai fod yn arwyddocaol ar gyfer 2014/15. Mae’r adroddiad i’r Cyngor wedi dynodi arbediad o £1.7m gyda £782k ohono
wedi’i gynnig gan wasanaethau a £963k ohono yn arbedion wedi’u harwain yn gorfforaethol, gyda £663k ohono’n cael ei
gyflawni gan wasanaethau. Roedd y cynigion ar gyfer
arbedion 2014/15 eisoes wedi eu hystyried mewn cyfarfodydd herio gwasanaeth yn
2011 ac yn 2012 ac wedi’u cynnwys fel rhan o’r targedau tair blynedd a
ddynodwyd yn y Cynllun Ariannol Tymor Canolig. Bydd cytundeb
ffurfiol o’r arbedion sydd eisoes wedi eu dynodi’n caniatáu i ymdrechion
gwleidyddol a chorfforaethol ganolbwyntio at y dasg heriol o osod gweddill y
gyllideb ar gyfer 2014/15. Mae’r arbedion corfforaethol a amlygwyd fel Moderneiddio’r Cyngor yn rhan o
darged i gyflawni gwerth £3.0 miliwn o arbedion yn y 3 blynedd nesaf wrth
ddatblygu prosiectau i gyflawni arbedion effeithlonrwydd a meithrin cymhwysedd
mewn gwasanaethau. Mae sawl prosiect
effeithlonrwydd yn cael eu datblygu, gan gynnwys buddsoddi mewn Rheoli
Dogfennau a Chofnodion Electronig a Chofrestr Anfonebau Ganolog a phrosiectau eraill sy’n cynyddu’r defnydd o
dechnoleg er mwyn cyflawni arbedion trwy leihau’r angen i deithio, cynyddu
hyblygrwydd a gweithredu systemau gweinyddol mwy effeithlon. Yn y pen draw bydd
targedau arbedion moderneiddio yn cael eu cyflawni gan y gwasanaethau. Mae’r grynodeb o Asesiad o ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
ADOLYGIAD/DIWEDDARIAD RHEOLI TRYSORLYS 2012/13 PDF 82 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Asedau (copi ynghlwm) am weithgareddau
buddsoddi a benthyca’r Cyngor yn ystod 2012/13 a darparu manylion am weithgareddau
Rheoli Trysorlys y Cyngor yn ystod 2013/14. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd copi o adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac
Asedau wedi’i gylchredeg o'r blaen. Roedd Atodiad 1 Adroddiad Rheoli Trysorlys (RhT) Blynyddol 2012/13, yn
amlinellu gweithgarwch buddsoddi a benthyg y Cyngor yn ystod 2012/13. Roedd yn
rhoi manylion am yr hinsawdd economaidd ar y pryd hwnnw ac yn nodi sut y
cydymffurfiodd y Cyngor â'i Ddangosyddion Darbodus. Roedd Atodiad 2,
Diweddariad RhT, yn manylu ar weithgarwch RhT y Cyngor yn ystod 2013/14. Eglurodd y Prif Gyfrifydd fod RhT yn cynnwys rheoli benthyca, buddsoddiadau
a llif arian y Cyngor, gydag oddeutu £0.5bn yn llifo drwy gyfrifon banc y
Cyngor yn flynyddol. Swm y benthyciadau cyfredol oedd £133.26m, gyda
thâl cyfradd llog blynyddol cyfartalog o 5.77%.
Ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn byddai gan y
Cyngor rwng £20-£35m i’w fuddsoddi a oedd ar hyn o bryd yn ennill 0.80% ar
gyfartaledd. Craffwyd ar lywodraethiant y RhT gan y Pwyllgor
Llywodraethu Corfforaethol (PLlC) a oedd yn derbyn dau ddiweddariad y flwyddyn
ar weithgarwch RhT ac wedi adolygu’r Adroddiad RhT blynyddol ar gyfer 2012/13.
Roedd y tîm RhT yn darparu adroddiadau a hyfforddiant i’r PLlC yn unol â’r
amserlen oedd wedi’i chynnwys yn yr adroddiad. Roedd rhaid i’r PLlC
feddu ar lefel penodol o ddealltwriaeth o’r broses RhT a gyflawnwyd drwy gael
diweddariadau a sesiynau hyfforddi rheolaidd. Roedd swyddogaeth y
PLlC yn cynnwys deall y Dangosyddion Darbodus, effaith benthyca ar y sefyllfa
refeniw, sbardunau ehangach yn effeithio ar weithgarwch RhT y Cyngor a sicrhau
bod y Cyngor yn gweithredu mewn modd darbodus o safbwynt ei weithgareddau RhT. Pwrpas yr Adroddiad RhT Blynyddol, Atodiad 1, oedd: ·
cyflwyno manylion cyllid cyfalaf, benthyca, ad-drefnu
dyledion a thrafodion buddsoddi yn 2012/13. ·
adrodd ar oblygiadau risg penderfyniadau a thrafodion
trysorlys. ·
cadarnhau cydymffurfiad â therfynau trysorlys a
Dangosyddion Darbodus. Roedd y Diweddariad RhT, Atodiad 2, yn rhoi manylion y canlynol:- ·
Amgylchedd economaidd allanol. ·
Risgiau. ·
Gweithgarwch. ·
Rheolaeth. ·
Gweithgarwch yn y dyfodol. Cyfeiriodd y Prif Gyfrifydd at y pedwar prif ysgogwr twf ac eglurodd fod
hyder defnyddwyr wedi arwain at rywfaint o dwf yn ddiweddar. Dywedodd wrth
Aelodau y byddai penderfyniadau buddsoddi a benthyca da yn caniatáu cyfeirio
adnoddau ychwanegol at wasanaethau eraill y Cyngor, a chadarnhaodd fod y Cyngor
wedi ymgynghori â’u hymgynghorwyr trysorlys, Arlingclose Ltd. Amlinellwyd
trefniadau monitro a rheoli risgiau i’r Cyngor yn yr adroddiad. Fodd bynnag,
mae’n amhosib dileu’r risgiau hyn yn llwyr. Caiff strategaeth a
threfnau RhT y Cyngor eu harchwilio’n flynyddol a bu’r adolygiad diweddaraf o’r
archwiliad mewnol yn gadarnhaol ac nid oedd unrhyw faterion sylweddol yn codi. Gwnaed cyfeiriad at ddiddymu’r System Cymhorthdal Tai yng
Nghymru. Roedd Llywodraeth Cymru wedi trafod fod y Trysorlys yn rhoi swm iddynt am
adael y System Gymhorthdal, ac effaith
hyn ar Sir Ddinbych fyddai swm cyfalaf o £40m a fyddai’n cael ei fenthyca ar
ddyddiad penodol. Eglurodd y Prif Gyfrifydd y byddai’r swm am adael y
system yn well cytundeb na’r System Gymhorthdal. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd G.M. Kensler,
crynhodd y Prif Gyfrifydd fod effaith rhent yn ymddangos ar y Cyfrifon Refeniw
Tai ac amlinellodd y camau sy’n cael eu cyflwyno i fynd i'r afael â’r mater. PENDERFYNWYD – bod y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn nodi:- (a) perfformiad swyddogaeth Rheoli
Trysorlys y Cyngor yn ystod 2012/13 a’i gydymffurfiaeth â’r Dangosyddion
Darbodus, fel yr adroddwyd yn Adroddiad Rheoli Trysorlys Blynyddol 2012/13, a’r
(b) diweddariad Rheoli Trysorlys. |
|
ADRODDIAD CWYNION BLYNYDDOL PDF 87 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cwsmeriaid ac Addysg (copi ynghlwm) a oedd yn darparu
trosolwg o gŵynion, canmoliaethau ac adborth a gafwyd yn ystod y cyfnod
rhwng 01.04.12 a 31.03.13. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd copi o adroddiad gan y Pennaeth Cwsmeriaid
ac Addysg (PCA), sy’n rhoi trosolwg o gwynion, canmoliaethau ac adborth a
dderbyniwyd gan Sir Ddinbych yn ystod y cyfnod o 01.04.12 tan 31.03.13, wedi’i
gylchredeg gyda phapurau’r cyfarfod. Cyflwynodd y PCA yr adroddiad a chadarnhaodd y byddai aelodau’r cyhoedd yn
cael eu hannog i anfon cwynion. Eglurodd na ddylid ystyried y nifer o gwynion a
dderbyniwyd yn beth negyddol gan fod hwn yn fodd o dderbyn gwybodaeth
ddefnyddiol y gellid ei defnyddio i wella safon y gwasanaethau a ddarparwyd. Mynegodd y
Cynghorydd M.L. Holland ei gefnogaeth i’r polisi ac amlygodd y rhinweddau o ran
rhoi cyfle a dull o ddadansoddi cwynion a dderbyniwyd. Roedd yr adroddiad yn rhoi trosolwg o’r nifer a’r math o adborth a
dderbyniwyd yn ystod 2012/13, gwybodaeth ynglŷn ag adroddiad blynyddol a
llythyr ategol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, a manylion datblygiad
polisi yn y dyfodol a fyddai’n effeithio ar ‘Eich Llais’. Clywodd Aelodau fod y polisi wedi’i hyrwyddo a’i
gyhoeddi fel ‘Eich Llais’. Roedd y penawdau ar gyfer 2012/13 wedi’u rhestru yn Atodiad 1 yr
adroddiad:- ·
Roedd nifer yr adborth a gofnodwyd wedi cynyddu o’i gymharu â 2011/12: §
cwynion o 12%, o 587 i 660 §
canmoliaethau o 88%, o 436 i 820 §
nid oedd newid o ran awgrymiadau ar 16 o awgrymiadau ·
Cynyddodd y nifer o gwynion a ddeliwyd yn llwyddiannus â nhw ar gam 1 i
94.2%, cynnydd o 2.6% ers y llynedd. ·
Roedd nifer y cwynion y deliwyd â nhw o fewn y terfynau
amser yn parhau i wella, gan gyflawni 91%, er na chyflawnwyd y targed
corfforaethol o 95%. ·
Roedd 51% o'r holl gwynion wedi’u cadarnhau neu eu
cadarnhau’n rhannol, cynnydd o 13% ers y llynedd. Nododd Aelodau fod 38 o gwynion wedi’u gwneud i Ombwdsmon Gwasanaethau
Cyhoeddus Cymru. Roedd y nifer hwn yn uwch na’r cyfartaledd o 25 ar
gyfer Awdurdodau Lleol Cymru, ac roedd y manylion wedi’u cynnwys yn Atodiad 2. Roedd tri adroddiad Adran 21 wedi’u rhoi.
Rhoddwyd yr adroddiadau hyn pan fod corff cyhoeddus yn
cytuno i weithredu unrhyw argymhellion a wnaed gan yr Ombwdsmon.
Cafwyd cadarnhad ei fod yn fodlon nad oedd lles y cyhoedd
wedi’i gynnwys. Roedd crynodebau o’r adroddiadau wedi’u
cynnwys fel Atodiad 3. Cafwyd
llai o gwynion ynglŷn ag Aelodau yn mynd yn groes i’r cod ymddygiad.
Derbyniwyd 4 yn 2012/13 o’i gymharu â 9 a dderbyniwyd yn
2011/12. Roedd amlinelliad o’r newidiadau bwriedig i ‘Eich Llais’ wedi’i gynnwys yn
Atodiad 4. Cyfeiriwyd at y diwygiad i ‘Eich Llais' a oedd yn ymgorffori’r
polisi cwynion, canmoliaethau ac adborth. Roedd manylion y broses ymgynghori wedi’u hymgorffori yn yr adroddiad ac yn
cynnwys:- ·
Rhoi gwybod yn fisol i’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth. ·
Adroddiadau Chwarterol i’r Pwyllgor Archwilio
Perfformiad. ·
Rhoi gwybod yn flynyddol i’r Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol. ·
Ymgynghori gyda’r Gwasanaethau Cyfreithiol a swyddogion
cwynion y gwasanaethau ynglŷn â newidiadau i ‘Eich Llais’. Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cadeirydd a’r Cynghorydd S.A. Davies,
rhoddodd y PCA fanylion ymgysylltiad a rhan Aelodau yn y broses gwynion, ac
amlinellodd y dull wedi’i gydlynu a fabwysiadwyd ar gyfer delio â chwynwyr
blinderus posibl, a oedd yn cynnwys enwebu swyddog penodol i ddelio â mater
penodol. Mewn ymateb i gwestiynau gan Mr P. Whitham, eglurwyd fod adroddiadau yn cael eu cyflwyno yn fisol i’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth, y Pwyllgorau Archwilio a gellid eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor. Roedd cwynion yn ymwneud ag ysgolion, gan gyfeirio’n benodol at dderbyniadau ysgol, yn cael eu monitro gan yr ysgolion a chytunwyd y gellid darparu gwybodaeth ar dueddiadau’n ymwneud â blynyddoedd blaenorol ar gyfer Aelodau’r Pwyllgor a’u cynnwys mewn adroddiadau yn ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
POLISI A PHANEL DIOGELU CORFFORAETHOL BWRIEDIG PDF 92 KB Ystyried adroddiad gan Gyfarwyddwr Corfforaethol: Moderneiddio a Lles (copi ynghlwm). Mae’r adroddiad yn cynnig mabwysiadu Polisi Diogelu Corfforaethol a sefydlu Panel Diogelu Corfforaethol aelodau/swyddogion ar y cyd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd copi o adroddiad gan y Cyfarwyddwr
Corfforaethol: Moderneiddio a Lles (CCMLl) (cylchredwyd yn flaenorol) ar y
cynnig i fabwysiadu Polisi Diogelu Corfforaethol a sefydlu Panel Diogelu Corfforaethol (PDC) Aelodau/Swyddogion ar y cyd. Eglurodd y CCMLl
nad oedd y prif gyfrifoldeb i’w gyflawni, ar draws sefydliad amlswyddogaeth
cymhleth erioed wedi derbyn adnoddau ar wahân.
Mae sawl adroddiad awdurdodol olynol dros y 10 mlynedd
diwethaf gan gynnwys Waterhouse, Laming,
Sir Benfro wedi ei gwneud yn hollol glir bod heriau i gadernid trefniadau
diogelu yn codi mewn amryw o wahanol lefydd, a bod rhaid i ddiogelu fod yn
"Fater i Bawb”. Amlinellwyd
ymagwedd ragweithiol Sir Ddinbych i sicrhau cydymffurfiad â’i gyfrifoldebau
diogelu yn yr adroddiad. Eglurwyd, er iddynt ymdrin â hyn mewn amryw o
wahanol ffyrdd, ni all Sir Ddinbych fod yn hyderus bod arfer diogelu cadarn
wedi’i chynnwys yn holl swyddogaethau’r Cyngor. Roedd manylion
ynglŷn â datblygiad yr ymagweddau a fabwysiadwyd i gynnal proffil
corfforaethol a throsolwg ar gyfer materion diogelu wedi’u rhoi mewn manylder. Roedd Polisi a
Chanllawiau Diogelu Corfforaethol drafft wedi’u seilio i raddau helaeth ar yr
hyn a fabwysiadwyd yn ddiweddar yng Ngwynedd yn dilyn Arolwg Estyn ac yn sgil
gofynion a amlinellwyd gan yr Arolygiaeth, oedd wedi’u cylchredeg gyda’r
adroddiad. Byddai’r cynnig a gyflwynwyd yn cynnig datblygiad
rhesymegol i’r gwaith rydym wedi’i wneud eisoes gyda’r Fframwaith Atebolrwydd Corfforaethol
ac ar y Cynllun Gweithredu Diogelu Corfforaethol. Nod y polisi a’r
canllawiau fyddai sefydlu dull strwythuredig ar gyfer sicrhau bod diogelu yn
fater sy’n cael ei ystyried gan bob gwasanaeth yn y Cyngor, yn ogystal â gan
bob aelod etholedig. Agweddau allweddol y polisi a’r
canllawiau yw bod:- - plant ac oedolion yn cael eu cynnwys. - roedd yn seiliedig ar ddiogelu, ac nid
amddiffyn yn unig. - mae’n cynnwys y syniad bod Rheolwyr Dynodedig
ym mhob gwasanaeth yn ymdrin â materion diogelu (ar ôl cael yr hyfforddiant
priodol). - daw rheolwyr dynodedig ynghyd gydag uwch
swyddogion ac Aelodau Arweiniol i ffurfio Panel Diogelu Corfforaethol (PDC)
sy’n atebol i’r Cabinet. Disgwylir i’r PDC lunio Adroddiad Blynyddol
ar gyfer rhoi gwybod yn fewnol a rhoi gwybod i’r BLlDP. - byddai disgwyl i bob gwasanaeth sefydlu
polisïau a threfnau diogelu sy’n ymdrin â’u maes busnes nhw. - byddai cyfrifoldebau Aelodau Etholedig yn
cael eu cynnwys. - byddai’n cynnwys data craidd er mwyn rhoi
gwybod. Byddai hyn yn cynnwys rhai o’r Dangosyddion Perfformiad
arferol a data AD allweddol (gwiriadau CRB, cydymffurfio â geirdaon a chanran y
cynghorwyr sydd wedi derbyn hyfforddiant diogelu). Byddai rhywfaint o orgyffwrdd
yma gyda rhoi gwybod am y Cynllun Corfforaethol a bydd angen i’r data esblygu i
sicrhau ei fod yn ychwanegu gwerth at drefnau rhoi gwybod presennol. Mae’r atodiadau’n
rhoi manylion pellach yn ymwneud â:- - gwybodaeth sylfaenol am arwyddion o gamdriniaeth
a llwybrau atgyfeirio – sy’n cysylltu â threfnau diogelu plant ac oedolion. - adran ddefnyddiol ar y Cod Ymddygiad a
threfnau Gweithio Diogel. - adran yn amlinellu’r gefnogaeth o ran
hyfforddiant a fyddai’n cael ei gynnig i ddechrau, y byddai angen eu datblygu
dros amser. - croesgyfeirio gyda’n Polisïau Recriwtio
Diogel (Adnoddau Dynol). - canllawiau i gynghorwyr ar gyswllt diogel. - ymdrin â honiadau o gamdriniaeth broffesiynol
gan gynnwys cysylltiadau â threfnau diogelu plant ac oedolion. Teimlwyd y byddai’r pecyn yn cynnig dull credadwy o wneud diogelu’n realiti fel pryder corfforaethol, a byddai’n meithrin agwedd gyson ac atebolrwydd ac yn cael ei deilwra i’r materion sy'n wynebu gwasanaethau penodol. Roedd y prif oblygiadau o ran cost, a fyddai’n driphlyg, wedi'u hamlinellu yn yr adroddiad. Rhoddwyd cadarnhad y gallai mabwysiadu trefniadau’r Polisi a’r Panel gynnig goblygiadau positif yn enwedig ar gyfer pobl hŷn a ... view the full Cofnodion text for item 9. |
|
CYNLLUN GWEITHREDU’R FFRAMWAITH LLYWODRAETHU CORFFORAETHOL PDF 63 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Archwilio Mewnol (copi ynghlwm) ar y cynllun gweithredu
a ddaeth o ganlyniad i’r adolygiad o Fframwaith Llywodraethu’r Cyngor a’r Datganiad
Llywodraethu Blynyddol 2012/13. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd copi o adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Archwilio Mewnol (PGAM)
ar Fframwaith Llywodraethu Corfforaethol (FfLlC) y Cyngor, a oedd yn rhoi
manylion y cynllun gweithredu newydd oedd yn deillio o’r adolygiad o Fframwaith
Lywodraethu’r Cyngor a Datganiad Llywodraethu Blynyddol (DLlB) 2012/13, wedi’i
gylchredeg gyda’r papurau ar gyfer y cyfarfod. Monitrodd y PLlC gynllun Gweithredu’r Fframwaith
Llywodraethu Corfforaethol (FfLlC) yn rheolaidd fel rhan o drefniadau
llywodraethu cyffredinol y Cyngor i sicrhau fod y Cyngor yn cyflwyno’r
gwelliannau sydd angen yn effeithiol. Roedd FfLlC y Cyngor yn cynnwys asesiad blynyddol o
drefniadau llywodraethu’r Cyngor a Datganiad Llywodraethu Blynyddol yn amlygu
unrhyw wendidau llywodraethu arwyddocaol. Roedd y Fframwaith yn amlygu meysydd pellach oedd angen
eu gwella, er nad oeddynt yn wendidau sylweddol. Grŵp Llywodraethu’r Cyngor oedd yn rheoli
proses y FfLlC a datblygiad y Datganiad Llywodraethu Blynyddol yn barhaus yn
ystod y flwyddyn ariannol. Roedd aelodaeth y Grŵp yn cynnwys:- ·
Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ·
Is-Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ·
Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd ·
Pennaeth Cynllunio Busnes a Pherfformiad ·
Pennaeth Cyllid ac Asedau ·
Pennaeth Archwilio Mewnol Roedd y Grŵp wedi datblygu’r Cynllun Gweithredu drafft oedd wedi’i
gynnwys fel Atodiad 1. Ar hyn o bryd, roedd gan y Cynllun Gweithredu amlinellol
sawl cyfrifoldeb, terfyn amser a diweddariadau cynnydd nad oedd wedi’u cwblhau
a byddai’r rhain yn cael eu hychwanegu cyn y diweddariad nesaf a’u cynnal yn
rheolaidd. Rhoddodd y PAM grynodeb fanwl o Atodiad 1 a
chyfeiriodd at y Materion Llywodraethu Sylweddol yn Natganiad Llywodraethu
Blynyddol 2012/13. Cyfeiriwyd yn benodol at yr angen i AD Strategol gyflwyno
gwelliannau yn dilyn adroddiad Archwilio Mewnol negyddol, yr angen i wella ein
trefniadau llywodraethu gwybodaeth, rheoli asedau gwybodaeth a’r modd yr
hyfforddwyd gweithwyr ac aelodau etholedig mewn gofynion Diogelu Data a Rhyddid
Gwybodaeth. Mewn ymateb i faterion a godwyd gan Mr P. Whitham,
cytunodd y PAM fod (sentence
has not been completed – English “the HIA agreed that” but doesn’t go on to say
what he/she agreed) Yn dilyn trafodaeth bellach:- PENDERFYNWYD – fod:- (a)
y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol
yn derbyn ac yn nodi cynnwys Cynllun Gweithredu drafft y Fframwaith Lywodraethu
Corfforaethol. (b)
yn cytuno i gynnwys
colofn ychwanegol yn nodi terfynau amser yn ymwneud â blynyddoedd cynt, ac (c)
yn gofyn i Aelodau’r
Pwyllgor dderbyn gwybodaeth am ddyddiadau cyflwyno’r canlynol: -
-
ail-lansiad y Fframwaith Bartneriaeth. -
dyddiad y Polisi Atal Twyll a Llygredd. -
diweddaru’r Rheoliadau
Ariannol. -
diweddaru’r Polisi Rhannu
Pryderon. (IB
i Weithredu) |
|
ADRODDIAD ARCHWILIAD MEWNOL ADNODDAU DYNOL STRATEGOL PDF 70 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Archwilio Mewnol (copi ynghlwm) sy’n rhoi'r wybodaeth
ddiweddaraf am gynnydd yn Adnoddau Dynol Strategol ar y cynllun gweithredu yn
yr adroddiad Archwilio Mewnol o fis Hydref 2012. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd copi o adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau
Archwilio Mewnol (a gylchredwyd eisoes) yn amlinellu’r cynnydd o fewn Adnoddau
Dynol Strategol ar y Cynllun Gweithredu oedd wedi’i gynnwys yn yr adroddiad
Archwilio Mewnol ym fis Hydref, 2012. Roedd y PLlC wedi monitro cynnydd ar weithredu’r camau gwella a nodwyd gan
AD Strategol o ganlyniad i adolygiad Archwilio Mewnol. Roedd Archwilio Mewnol wedi
adolygu sawl maes o fewn AD Strategol yn ystod 2012/13, gan ryddhau eu
hadroddiad ym mis Hydref, 2012. Cododd y cynllun gweithredu o fewn yr adroddiad
11 o faterion, ac roedd AD Strategol wedi dynodi 45 o weithredoedd mewn ymateb
iddynt a fyddai’n cael eu cyflwyno o fewn gwahanol derfynau amser. Cynhaliodd Archwilio Mewnol
adolygiad dilynol ar y cynllun gweithredu ym mis Chwefror, 2013 a’u canfyddiad
oedd, er bod rhywfaint o gynnydd wedi bod, roedd lefel y cynnydd yn “siomedig o
araf” a gwnaed cais am adroddiad cynnydd pellach. Nododd AD Strategol gynnydd arwyddocaol. Fodd bynnag, er bod
camau penodol a nodwyd yn y cynllun gweithredu wedi’u cwblhau, roedd y PAM wedi
awgrymu na ellid gwybod eto pa mor effeithiol y bu’r camau hyn wrth fynd i’r
afael â’r materion yn yr adroddiad Archwilio Mewnol. Roedd y ddau
wasanaeth wedi cyfarfod i drafod y materion oedd yn weddill ac wedi cytuno
gweithio’n agosach at ei gilydd i gynnig sicrwydd i’r PAM fod gwelliannau’n
cael eu gwneud a'u bod yn mynd i'r afael â materion yn effeithiol. Eglurwyd fod AD Strategol yn mynd drwy gyfnod o newid a gwelliant
arwyddocaol ac y byddai’r camau oedd wedi’u tafod yn yr adroddiad yn rhan o
gynllun gweithredu mwy ar gyfer gwella, ac roedd y prosiect yn cael ei reoli
drwy broses methodoleg rheoli prosiect y Cyngor ar Verto. Roedd
tabl yn nodi’r sefyllfa ddiweddaraf ar gyfer pob un o’r 45 o weithredoedd a
nodwyd gan AD Strategol i fynd i’r afael â chynllun gweithredu'r adroddiad
Archwilio Mewnol wedi’i gynnwys yn Atodiad 1. Roedd y tabl yn manylu ar:- ·
y materion oedd angen mynd i’r afael â nhw ·
y camau a nodwyd i fynd i’r afael â’r materion ·
diweddariad AD Strategol ar y cynnydd diweddaraf ·
sylwadau – gan gynnwys barn ar i ba raddau mae’r camau yn
mynd i’r afael â’r mater Cadarnhaodd y PAM fod AD Strategol wedi cyflawni
cynnydd sylweddol ar y cyfan wrth fynd i’r afael â’r materion a godwyd gan
Archwilio Mewnol. Er bod bron pob un o’r camau wedi’u gweithredu bellach, mewn rhai achosion
byddai’n cymryd amser i asesu a fu’r rhain yn hollol effeithiol ac roedd
rhywfaint o’r llwyddiant yn dibynnu ar gydymffurfiad o fewn gwasanaethau
eraill. Er mwyn cynnig sicrwydd atodol, byddai Archwilio
Mewnol yn cynnal adolygiad pellach o brosiect gwella AD Strategol yn ystod mis
Ebrill, 2014, a fyddai'n cynnwys asesiad o effeithiolrwydd rhai o’r
gweithredoedd tymor hirach a nodwyd yn Atodiad 1. Yn enwedig, byddai’r
adolygiad yn archwilio’r meysydd canlynol:- ·
a yw cywirdeb data am weithwyr wedi gwella; ·
gweithredu prosesau a gweithdrefnau newydd yn
llwyddiannus fel rhan o adolygiadau’r broses Meddylfryd Systemau; ·
cydymffurfiad gyda pholisïau a gweithdrefnau AD o fewn
gwasanaethau; ·
cywirdeb data a anfonir at yr adran Gyflogau gan AD; ·
effeithiolrwydd Desg Gymorth Civica i wella gwasanaeth
cwsmeriaid; ·
gweithredu fframwaith recriwtio newydd yn llwyddiannus; ·
datblygu cynlluniau olyniaeth ar gyfer swyddi allweddol
mewn gwasanaethau. Amlygodd y Cynghorydd M.L. Holland bwysigrwydd sicrhau fod data a ddychwelwyd yn gywir ac yn cael ei dderbyn o fewn y terfynau amser a nodwyd, a theimlai y gallai cyflwyno awtomatiaeth gynorthwyo i ddileu gwallau a gwella lefel y gwasanaeth a ddarparwyd. Rhoddodd y swyddogion fanylion y gwiriadau a’r gweithdrefnau a fabwysiadwyd, gan ddefnyddio TRENT a chynnwys adroddiadau rheolwyr, ... view the full Cofnodion text for item 11. |
|
ADRODDIAD CYNNYDD ARCHWILIO MEWNOL PDF 113 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Archwilio Mewnol (copi ynghlwm) sy’n rhoi’r wybodaeth
ddiweddaraf am gynnydd diweddaraf y Gwasanaeth Archwilio Mewnol, o ran
darparu’r gwasanaeth, darpariaeth sicrwydd, adolygiadau sydd wedi eu cwblhau,
perfformiad ac effeithiolrwydd o ran gwelliannau. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd copi o adroddiad gan y Pennaeth Archwilio
Mewnol eisoes wedi’i gylchredeg. Cyflwynodd y PAM yr adroddiad ar gynnydd diweddaraf
y gwasanaeth Archwilio Mewnol o ran ei ddarpariaeth gwasanaeth, darparu
sicrwydd, adolygiadau a gwblhawyd, perfformiad ac effeithlonrwydd wrth ysgogi
gwellant. Roedd yr wybodaeth a ddarparwyd wedi’i chyflwyno i'r cyfarfod ar 17 Mawrth,
2013 a byddai’r PDC yn derbyn y sefyllfa canlyniad terfynol yn yr Adroddiad
Blynyddol Archwilio Mewnol nesaf. Roedd yr adroddiad yn rhoi diweddariad mewn
perthynas â:- ·
cyflawni’r Cynllun Sicrwydd ar gyfer 2013/14 ·
adroddiadau Archwilio Mewnol diweddar a roddwyd ·
ymateb y rheolwyr i faterion a godwyd ·
perfformiad Archwilio Mewnol Roedd manylion y gwaith a waned yn ystod 2013/14, o'i gymharu â’r
Strategaeth Archwilio Mewnol, wedi’i gynnwys yn Atodiad 1. Roedd yn manylu ar
sgoriau sicrwydd a’r nifer o faterion a godwyd ar gyfer yr adolygiadau a
gwblhawyd, diffiniadau a ddefnyddiwyd i ffurfio’r sicrwydd archwilio a’r
sgoriau a ddefnyddiwyd i asesu’r lefelau risg ar gyfer y materion a godwyd. Roedd manylion y
lliwiau a ddefnyddiwyd ar gyfer y sgoriau sicrwydd wedi’u rhoi, ynghyd â rhestr
o adroddiadau a roddwyd ers mis Gorffennaf, 2013. Roedd adroddiadau Crynodeb
Gweithredol a chynlluniau gweithredu wedi’u hatodi i’r adroddiad er gwybodaeth
ychwanegol ac yn cynnwys:- -
Ymrwymiad Lleihau Carbon. -
Profi Sicrwydd Systemau Ariannol 2012/13. -
Strategaeth Gwblhau Taith i Waith. -
Gwasanaeth Maethu. -
Gwasanaeth Tai (Rhenti a Diwygio'r Gyfundrefn
Les). -
Gweithrediadau Cefn Gwlad. -
Gosod terfynau rhwng rolau a
chyfrifoldebau Gwasanaethau Cynllunio Addysg ac Adnoddau a Chyfrifeg. ROEDD YMATEB Y RHEOLWYR I
FATERION A GODWYD GAN ARCHWILIO MEWNOL YN CYNNWYS:-
Roedd y
rhan fwyaf o adroddiadau Archwilio Mewnol yn nodi risgiau a gwendidau rheoli ac
roedd y rhain wedi’u graddio fel risgiau critigol, arwyddocaol na
chymedrol. Roedd y rheolwyr wedi cytuno ar weithredoedd i fynd i’r
afael â’r risgiau hyn gan gynnwys cyfrifoldebau ac amserlenni.
Byddai pob achos lle
nad oedd rheolwyr yn gallu ymateb i waith dilynol, neu os oeddent wedi mynd
heibio i’r dyddiad cyflwyno o fwy na thri mis, yn cael eu hadrodd a byddai’r
Pwyllgor yn penderfynu a oedd angen gweithredu ymhellach.
Nid oedd unrhyw faterion i’w codi gyda’r Pwyllgor ar hyn o bryd ac roedd
manylion yn ymwneud â Pherfformiad Archwilio Mewnol wedi’u cynnwys yn yr
adroddiad er gwybodaeth. Cyfeiriodd
y PAM at Atodiad 2, a oedd yn cynnwys adroddiadau, crynodeb o adroddiadau, Barn
yr Archwilwyr a Chynlluniau Gweithredu, y gwnaed cais amdano’n flaenorol fel
newid i’r dull adrodd presennol. Mewn ymateb i gwestiwn gan Mr P. Whitham, cytunodd y PAM i roi manylion ar
daenlen yn ymwneud â Pherfformiad Archwilio Mewnol, Sicrwydd Hanfodol – pob
targed canran. PENDERFYNWYD –fod y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn:- (a)
nodi cynnydd Archwilio
Mewnol a'u perfformiad hyd yma yn 2012/13. derbyn yr adroddiadau Archwilio Mewnol diweddaraf a
roddwyd, a (b) darparu manylion yn ymwneud â Pherfformiad Archwilio
Mewnol, Sicrwydd Hanfodol – pob targed canran. (IB
i Weithredu) |
|
ADRODDIAD ARCHWILIO MEWNOL YSGOL CLAWDD OFFA PDF 59 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Archwilio Mewnol (copi ynghlwm) a oedd yn cyflwyno’r
adroddiad Archwilio Mewnol diweddar ar Ysgol Clawdd Offa, Prestatyn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd copi o adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau
Archwilio Mewnol (oedd eisoes wedi’i gylchredeg) yn rhoi manylion adroddiad
Archwilio Mewnol ar Ysgol Clawdd Offa, Prestatyn. Roedd y PDC wedi gofyn
i adroddiad Archwilio Mewnol llawn gael ei gyflwyno i'w cyfarfod ym mis Medi
gan fod y Farn Archwilio Mewnol yn nodi Sicrwydd Isel ac roedd y Cynllun
Gweithredu’n cynnwys 21 o faterion y gellid eu rheoli yn yr ysgol. Eglurodd y PAM fod cyfarfod dwysau wedi’i gynnal
yn yr ysgol a gwnaed cais am adolygiad dilynol i gynorthwyo i fonitro cynnydd. Mynegodd y PAM ac Aelodau’r Pwyllgor bryder
ynglŷn â diffyg rhyngweithiad ac ymgysylltiad gan aelodau’r Grŵp yn y
cyfarfod.
Cadarnhaodd
y byddai copi o’r adroddiad dilynol yn cael ei gylchredeg i Aelodau’r Pwyllgor
ar ôl ei gwblhau, a byddai adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor
Llywodraethu Corfforaethol ym mis Rhagfyr, 2013. PENDERFYNWYD –fod:- (a) y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn ac yn
nodi cynnwys yr adroddiad a’r Cynllun Gweithredu, ac (b) adroddiad dilynol yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor
Llywodraethu Corfforaethol ym mis Rhagfyr, 2013. (IB i Weithredu) |
|
ADBORTH O’R CYFARFOD CYDRADDOLDEB CORFFORAETHOL Derbyn adroddiad
llafar am y cyfarfod Cydraddoldeb Corfforaethol. Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad llafar gan y
Cynghorydd M.L. Holland mewn perthynas â’r cyfarfod Cydraddoldeb Corfforaethol. Eglurodd y Cynghorydd M.L. Holland bwysigrwydd
sicrhau cydraddoldeb ledled y Cyngor mewn perthynas â phob agwedd o’r
swyddogaethau a gynhaliwyd, a byddai gofyn i bob Adran gwblhau Asesiadau o
Effaith ar Gydraddoldeb (AEG) lle bod hynny’n berthnasol. Ymatebodd y PGCD i
bryderon a fynegwyd gan y Cynghorydd S.A. Davies ac amlygodd berthnasedd a
phwrpas AEG. Eglurodd fod y templedi ar gyfer adroddiadau i’r Cyngor a’r Cabinet wedi’u
diwygio i gynnwys AEG, neu esboniad dros beidio â chael un, mewn achosion lle'r
oedd angen penderfyniad. Cyfeiriodd y Cynghorydd Holland at faterion a
ystyriwyd yn y cyfarfod Cydraddoldeb Corfforaethol a oedd yn cynnwys
hyfforddiant o bell i Aelodau Etholedig a staff, a oedd yn cynnwys iPads a
Skype, a darparu safleoedd teithwyr a sipsiwn yn y Sir. PENDERFYNWYD
–fod y Pwyllgor yn derbyn ac yn nodi’r adroddiad. |
|
RHAGLEN WAITH Y PWYLLGOR LLYWODRAETHU CORFFORAETHOL PDF 62 KB Ystyried Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i'r
Dyfodol (RhGD) y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol (a gylchredwyd eisoes) i’w
ystyried. Eglurodd y PGCD fod y mater o’i gwneud yn
ofynnol i Aelodau Arweiniol fod yn
bresennol mewn cyfarfodydd Pwyllgor wedi’i godi yn y Grŵp Cadeiryddion ac
Is-Gadeiryddion Archwilio. Cytunodd y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol y gallai’r
RhGD nodi’r angen am bresenoldeb Aelod Arweiniol yn y cyfarfod gan ddibynnu ar
natur yr adroddiad oedd yn cael ei gyflwyno. Rhoddodd Aelodau ystyriaeth i’r
RhGD ar gyfer mis Tachwedd, 2013 a chytunwyd y byddai’r Cynghorydd J.
Thompson-Hill yn cael ei wahodd i’r cyfarfod ar gyfer yr eitem Diweddariad
Cyllideb. Cadarnhaodd y Pwyllgor y Rhaglen
Gwaith i'r Dyfodol yn amodol ar y canlynol:- -
Cyflwyno diweddariad ar yr Adroddiad Archwilio Mewnol ar
Ysgol Clawdd Offa, Prestatyn a’r Adroddiad ar y Gofrestr Risg Gorfforaethol i
gyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ym mis Rhagfyr, 2013. PENDERFYNWYD – fod y
Pwyllgor yn cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol yn amodol ar yr uchod. (IB a GW i Weithredu) Daeth y Cyfarfod
i ben am 13.10 p.m. |