Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
PWYNT HYSBYSU Oherwydd nifer y
busnes i’w drafod a chyfyngiadau amser aelodau pwyllgor, cytunwyd i ohirio
Eitem Rhaglen 5 ‘Hunanasesiad y Pwyllgor’ i’r cyfarfod nesaf ac i amrywio trefn
y rhaglen i ganiatáu’r newid hwnnw. |
|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Cynghorydd Stuart
Davies |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu gydag unrhyw
fater a nodwyd y dylid eu hystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw ddatganiad personol neu
gysylltiad sy’n rhagfarnu. |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
dan Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw fater brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 22 Mai 2013
(copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a gynhaliwyd 22 Mai 2013. Materion yn Codi – Tudalen 8 Eitem Rhif 7 Adroddiad Gwella
Blynyddol – Cynghorodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd bod
Grŵp Cadeiryddion ac Is Gadeiryddion Archwilio wedi cytuno cyflwyno’r
Gofrestr Risg Gorfforaethol i’r pwyllgor dwywaith y flwyddyn yn dilyn adolygiad
gan yr Uwch Dîm Gweithredol er mwyn darparu trosolwg strategol o’r trefniadau. Ymdrinnir â materion yn ymwneud â risgiau
unigol sydd angen mwy o fanylder gan y pwyllgor archwilio priodol. Gofynnodd y Cadeirydd bod cofnodion Grŵp
Cadeiryddion ac Is Gadeiryddion Archwilio yn cael eu dosbarthu i aelodau’r
pwyllgor er gwybodaeth. [KEJ
i weithredu] Sylwodd y Cynghorydd Martyn Holland efallai na
fyddai cyfeiriadau a wnaed yn y cofnodion yn cael eu deall yn rhwydd gan y rhai
hynny nad oedd wedi bod yn bresennol yn y cyfarfod. PENDERFYNWYD derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a
gynhaliwyd 22 Mai 2013 fel cofnod cywir. |
|
HUNANASESIAD Y PWYLLGOR Cymryd rhan mewn
sesiwn hunanasesiad wedi ei hwyluso gan Bennaeth Archwilio Mewnol i ganfod cryfderau
a gwendidau’r pwyllgor. 9.35 a.m. Cofnodion: Oherwydd nifer y busnes i’w drafod a’r cyfyngiadau
amser – PENDERFYNWYD gohirio sesiwn Hunanasesiad y Pwyllgor tan
gyfarfod nesaf y pwyllgor 4 Medi 2013. |
|
ADRODDIAD CYNNYDD ARCHWILIO MEWNOL PDF 125 KB Ystyried
adroddiad gan Bennaeth Archwilio Mewnol (copi ynghlwm) sy’n rhoi’r diweddaraf
ar gynnydd y Gwasanaeth Archwilio Mewnol, y telerau sy’n gysylltiedig â
darparu’r gwasanaeth, darpariaeth sicrwydd, adolygiadau sydd wedi eu cwblhau,
perfformiad ac effeithiolrwydd gwelliannau. 10.35 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Archwilio Mewnol
(HIAS) adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn diweddaru aelodau ar gynnydd
diweddaraf y Gwasanaeth Archwilio Mewnol.
Amlygodd yr HIAS feysydd penodol o’r adroddiad fel a ganlyn – ·
cynnydd
wrth ddarparu Cynllun Gweithredol Archwilio Mewnol 2013/14 ·
adroddiadau archwilio mewnol
diweddar a gyflwynwyd mewn perthynas â Menter Brecwast am Ddim Llywodraeth
Cymru; Cyllid Myfyrwyr Addysg Uwch Llywodraeth Cymru; Systemau Ariannol - Rhuthun
2012/13; Rheoli Risg, ac Ysgol Clawdd Offa, Prestatyn ·
nid oedd unrhyw bryder yn weddill ynglŷn ag ymateb
rheolwyr i’r materion a godwyd gydag eitem rhaglen ar wahân ar AD Strategol, ·
perfformiad
Archwilio Mewnol a mesurau allweddol. Trafododd aelodau eu gofynion adrodd ar gyfer adroddiadau
archwilio mewnol, a nodwyd bod adroddiadau’n cael eu cyflwyno yn dilyn dyddiad
cau'r rhaglen mewn rhai achosion, ac felly nid wedi’u cynnwys i’w trafod yn y
cyfarfod nesaf. Roedd yr adroddiad
archwilio a gyflwynwyd mewn perthynas ag Ysgol Clawdd Offa yn disgyn i’r
categori hwnnw ac roedd yn destun pryder yn sgil y sgôr sicrwydd isel a
roddwyd. Cytunwyd y dylid darparu adroddiad archwilio llawn i aelodau ar adeg y
cyhoeddi a bod y rhai hynny sy’n destun sgôr oren/coch yn cael eu hystyried yng
nghyfarfod nesaf y pwyllgor. [IB i weithredu] Byddai aelodau hefyd yn cael y cyfle i
godi materion ynglŷn ag adroddiadau archwilio eraill yn uniongyrchol
gyda’r HIAS neu yn y cyfarfod. Yn sgil
pryderon aelodau ynglŷn ag Ysgol Clawdd Offa, rhoddodd yr HIAS
ddiweddariad ar lafar a chytunodd y pwyllgor i dderbyn adroddiad manwl yn eu
cyfarfod nesaf. [IB i weithredu]
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Gwyneth Kensler, cadarnhaodd y
Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd y gellid gwahodd yr Aelod
Arweiniol i fod yn bresennol. Ystyriodd yr aelodau ddadansoddiad o’r gwaith
archwilio mewnol hefyd ar gyfer 2013/14 ac fe gadarnhaodd yr HIAS faterion mewn
ymateb i gwestiynau wedi hynny gan ddarparu diffiniadau ar gyfer nifer o
feysydd gwaith a’r cylch gwaith archwilio i’w gynnal o fewn y meysydd
hynny. Mewn perthynas ag Archwiliadau
Cronfa Ysgol, adroddodd yr HIAS ynghylch nifer o ymweliadau ysgol â thema ac fe
gynghorodd ei fod wedi datblygu canllaw Saesneg clir i ysgolion a fyddai ar
gael ym mis Medi. PENDERFYNWYD – (a) yn destun gweithredu’r gofynion adrodd i’r pwyllgor fel y
manylir uchod, derbyn a nodi’r adroddiad cynnydd ar y Gwasanaeth Archwilio
Mewnol, (b) cyflwyno adroddiad cynnydd ar Ysgol Clawdd Offa, Prestatyn yng
nghyfarfod nesaf y pwyllgor 4 Medi 2013, a gwahodd yr Aelod Cabinet Arweiniol
dros Addysg i fod yn bresennol. [IB i
weithredu] |
|
ADRODDIAD ARCHWILIO MEWNOL STRATEGOL AD PDF 78 KB Ystyried
adroddiad gan Reolwr Gwasanaethau AD (copi ynghlwm) sy’n rhoi’r diweddaraf ar y
camau gweithredu a adnabuwyd fel rhan o’r adroddiad Archwilio Mewnol. 10.50 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr Gwasanaethau AD (HRSM) adroddiad
(a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn diweddaru aelodau ynghylch camau gweithredu a
ganfuwyd fel rhan o’r adroddiad Archwilio Mewnol ar gyfer AD Strategol. Yn sgil y sgôr sicrwydd isel a roddwyd ar
gyfer darparu’r cynllun gweithredu archwilio a adroddwyd i’r pwyllgor yn
Chwefror 2013, roedd aelodau wedi cytuno i adolygu cynnydd a gofynnwyd am
ddiweddariad yn y cyfarfod hwn. Adroddodd yr HRSM ynghylch cynnydd y cynllun
gweithredu a wnaed ers Chwefror ac fe fanylodd hefyd ynghylch gwaith pellach
i’w gynnal gyda rhai terfynau amser diwygiedig.
Ymhelaethodd ynghylch nifer o feysydd gwaith sy’n weddill ac a grynhowyd
yn yr adroddiad. Cyfeiriwyd hefyd at
gynnydd y Cynllun Gwella AD a ystyriwyd fel gwaith sylweddol. Gofynnodd aelodau am eglurhad ynghylch nifer o
gamau i weithredu arnynt, cafwyd ymholiad ynghylch y rhesymau dros oedi wrth eu
gweithredu ac fe ofynnwyd am sicrwydd ynghylch cynnydd yn y dyfodol. Ymatebodd swyddogion fel a ganlyn – ·
adrodd ynghylch systemau TG a ddefnyddir ar hyn o bryd ar
gyfer AD a gwaith yn parhau i gydweddu data o’r adran Gyflogau a Trent, ynghyd
â chynlluniau i integreiddio’r systemau hynny i ganiatáu bod data’n cael ei
gofnodi ar unwaith ·
ymhelaethwyd
ynghylch adolygiadau gallu proffesiynol ar gyfer staff AD i fesur perfformiad a
chanfod unrhyw fylchau datblygu ·
roedd
fframwaith recriwtio newydd wedi’i gyflwyno i fynd i’r afael â’r problemau sy’n
ymwneud â defnyddio geirdaon a dilysu cymwysterau, a byddai gwiriadau diogelwch
yn cael eu cynnal i sicrhau cydymffurfiad ·
cytunwyd
bod penderfynu ar fylchau gallu a chynllunio olyniaeth yn hanfodol yn sgil
pwysau gweithlu, a chynghorwyd bod y broses hon wedi’i hymgorffori i’r arfer
cynllunio gweithlu a gynhaliwyd yn flynyddol gyda gwasanaethau ·
cadarnhawyd
oherwydd pwysau gwaith nid oedd yr adran Gyflogau wedi gallu mynd i gyfarfodydd
gydag AD ond mae’n debygol y byddai cyfarfodydd misol yn ail ddechrau yng
Ngorffennaf ·
cydnabuwyd
y risg i enw da’r cyngor yn codi o gyflogi cyn weithwyr a gynhwyswyd o fewn y
Polisi Tâl. Trafododd y pwyllgor gyda’r swyddogion hefyd yr
angen am ddata gweithwyr cywir a theimlwyd y dylid gwneud mwy i fynd i’r afael
â’r mater hwnnw. Teimlodd y Cynghorydd
Martyn Holland y dylai rheolwyr atebol gymryd mwy o gyfrifoldeb ac awgrymodd y
dylid cyflwyno proses i reolwyr wirio cywirdeb data staff. [LA/CR i weithredu] Adroddodd Pennaeth y Gwasanaethau Archwilio Mewnol
(HIAS) ar lafar ynghylch yr adolygiad dilynol a gynhaliwyd yn ystod yr wythnos
flaenorol, gan gynghori ei fod yn dal i gael pryderon difrifol ynghylch
darparu’r cynllun gweithredu archwilio a’r cynllun Gwella AD, a theimlodd nad
oedd digon o gynnydd wedi’i wneud.
Amlygodd mai 21 allan o’r 45 cam gweithredu gwreiddiol yn unig oedd
wedi’u cwblhau ac roedd rhai terfynau amser wedi’u hymestyn fwy nag unwaith. Teimlwyd bod y cynlluniau yn rhy uchelgeisiol
o ran terfyn amser ac efallai nad oedd modd eu cyflawni. Byddai’r adroddiad dilynol terfynol ar gael
yn fuan a byddai dilyniad pellach yn debygol o gael ei gynnal yn
Nhachwedd. Cyfeiriodd y Pennaeth AD
Strategol at bwysau ychwanegol ar y gwasanaeth o ganlyniad i’r hinsawdd
gyfredol a’r blaenoriaethau sy’n newid ond darparodd rhywfaint o sicrwydd
ynglŷn â darparu cynlluniau gweithredu o fewn terfynau amser, gan gynghori
bod adnoddau penodol ychwanegol wedi’u darparu’n benodol at y diben hwnnw. Cytunodd yr HRSM bod Cynllun Gwella AD yn
uchelgeisiol ond roedd yn hyderus y byddai modd cwrdd â’r dyddiad cau yn
Rhagfyr 2013 ar gyfer camau gweithredu penodol o fewn y cynllun gweithredu
archwilio. Nododd yr aelodau farn yr archwiliad a mynegwyd hyder gan swyddogion AD y gellid cwrdd â’r terfynau amser. Cytunodd y pwyllgor i barhau i fonitro cynnydd a derbyn diweddariad pellach yn ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
DATGANIAD CYFRIFON DRAFFT 2012/13 PDF 65 KB Ystyried
adroddiad gan Bennaeth Cyllid ac Asedau (copi ynghlwm) yn cyflwyno Datganiad
Cyfrifon drafft 2012/13 a’r broses gysylltiedig. Hanner dydd Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Pen Gyfrifydd (CA)
adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn darparu trosolwg o’r Datganiad
Cyfrifon Drafft 2012/13 a’r broses sy’n ei ategu. Roedd y cyfrifon drafft wedi’u hatodi i’r
adroddiad a byddent ar gael yn ffurfiol i’r cyhoedd eu harchwilio yn Awst. Darparwyd diweddariad a throsolwg o’r
cyfrifon drafft i aelodau a byddent yn derbyn y cyfrifol terfynol i’w
cymeradwyo ym Medi 2013. Wrth ddarparu
manylion sefyllfa ariannol y cyngor, tynnodd y Pen Gyfrifydd sylw’r aelodau at
y meysydd canlynol o fewn y cyfrifon –
·
arenillion Treth y
Cyngor yn uwch na’r hyn a amcangyfrifwyd o £265k
Yn sgil natur gynhwysol a thechnegol y
cyfrifon, cytunodd yr aelodau i graffu ar y ddogfen y tu allan i’r cyfarfod a
chodi unrhyw gwestiwn yn uniongyrchol gyda’r swyddogion cyllid neu yng
nghyfarfod 27 Medi pan gyflwynir y cyfrifon terfynol. Atgoffodd Mr Anthony Veale, Swyddfa Archwilio
Cymru (WAO) yr aelodau bod y cyfrifon yn destun archwiliad gan Swyddfa
Archwilio Cymru ond nad oedd unrhyw bryderon amlwg. Ymholodd y Cynghorydd Brian Blakeley
ynghylch sefyllfa Clwyd Leisure Ltd (CLL).
Ymatebodd y Pen Gyfrifydd nad oedd y cyfrifon a archwiliwyd ar gyfer
2012/13 ar gael eto ar gyfer unrhyw un o’r cwmnïau cysylltiedig, a chadarnhaodd
bod materion ehangach yn ymwneud â CLL yn cael eu trafod gyda nhw ar lefel
uwch. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Gwyneth Kenser, ymhelaethodd y
Pen Gyfrifydd ynghylch proses y cyngor i ddelio â buddiannau dod â swydd i ben,
ac â disgresiwn, a chadarnhaodd y byddai unrhyw gynnydd mewn pensiwn yn arwain
at greu cost barhaus. PENDERFYNWYD
nodi’r sefyllfa fel a gyflwynwyd yn y cyfrifon drafft. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol
1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes
canlynol ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu
fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 14 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf. |
|
CYLLIDEB / CYNLLUN ARIANNOL TYMOR CANOLIG – Y DIWEDDARAF Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cyllid ac Asedau (copi ynghlwm) gyda’r
diweddaraf i aelodau ar y setliadau cyllideb refeniw posib a’r effaith posib ar
gynllunio ariannol y Cyngor. 12.30 p.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian
Thompson-Hill, Arweinydd Arweiniol Cyllid ac Asedau, adroddiad cyfrinachol (a
ddosbarthwyd yn flaenorol) yn diweddaru aelodau ynghylch setliadau cyllideb refeniw posibl a’r effaith
bosibl ar gynllunio ariannol y Cyngor. Yn sgil ansicrwydd ynghylch
setliadau’r dyfodol, cytunwyd i ohirio diweddaru a chyhoeddi fersiwn 2013/16
o’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig hyd nes y ceir eglurhad gan Lywodraeth
Cymru. Byddai effaith ariannol sylweddol
ar draws y cyngor ac roedd amrywiaeth o oblygiadau posibl a sefyllfaoedd wedi’u
modelu ar gyfer y tair blynedd nesaf wedi’u manylu o fewn yr adroddiad. Roedd sesiwn briffio i’r cyngor a drefnwyd ar
gyfer 15 Gorffennaf wedi’i chadw ar gyfer gweithdy cyllideb i roi briff i
aelodau ar y sefyllfa ariannol wrth symud ymlaen a darparu cyfle i drafod. Byddai diweddariad pellach yn cael ei
gyflwyno i’r pwyllgor 4 Medi. Mewn
ymateb i gwestiynau fe wnaeth y Pen Gyfrifydd –
PENDERFYNWYD nodi’r sefyllfa fel a gyflwynir yn yr
adroddiad a’r atodiadau. |
|
SESIWN AGORED Ar ôl cwblhau’r
busnes uchod, parhaodd y cyfarfod mewn sesiwn agored. |
|
FFRAMWAITH RHEOLI RISG STRATEGOL PDF 101 KB Ystyried
adroddiad gan Reolwr y Tîm Gwelliannau Corfforaethol (copi ynghlwm) yn ymwneud
â’r Fframwaith Rheoli Risg Strategol a p’un ai oes angen camau gweithredu
pellach i ddarparu sicrwydd ynglŷn â’r fframwaith. 11.15 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr Tîm Gwella Corfforaethol (CITM)
adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â’r Fframwaith Rheoli Risg
Strategol A lywodraethodd sut roedd y Cyngor yn rheoli risg ar lefel
gorfforaethol a gwasanaeth. Roedd
manylion am y systemau ar waith er mwyn rheoli risg yn effeithiol wedi’u
cynnwys yn yr adroddiad. Gofynnwyd i’r
aelodau ystyried a oedd angen unrhyw gamau pellach i ddarparu sicrwydd am y
fframwaith rheoli risg. Gofynnodd yr Aelod Lleyg Paul Whitham am sicrwydd
bod prosesau ar waith i ganfod risgiau yn gynnar i’w cynnwys o fewn y Gofrestr
Risg Gorfforaethol (CRR). Esboniodd y
CITM y dulliau ar gyfer canfod risgiau blaenllaw i’w hystyried gan yr Uwch Dîm
Gweithredol (CET) ynghyd â gwaith y Swyddogion Gwella Corfforaethol a
gwasanaethau unigol yn y cyswllt hwnnw.
Cadarnhaodd bod swyddogion yn ystyried y risgiau a fanylir o fewn
adroddiadau pwyllgor safonol ond fe ganfuwyd y mwyafrif o risgiau yn ystod
sgyrsiau gyda gwasanaethau unigol.
Cyfeiriodd y CITM at gyfrifoldebau CET fel perchnogion y gofrestr risg a
rôl y Tîm Gwella Corfforaethol fel hwylusydd yn y broses honno. Cyfeiriodd y Cynghorydd Barbara Smith, Aelod Arweiniol
Moderneiddio a Pherfformiad, at gyfrifoldebau’r swyddogion a’r aelodau
etholedig i ganfod risg, gan gynnwys rôl y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol
yn y cyswllt hwnnw. Cyfeiriodd at yr
adroddiad Archwilio Mewnol diweddar ar y broses rheoli risg a’r argymhelliad i
ymgysylltu’n well ag aelodau etholedig yn y broses honno. Ymatebodd y CITM y byddai Aelodau Cabinet yn
chwarae rhan i adolygu’r CRR yn y dyfodol ochr yn ochr â CET. Mater arall a ddeilliodd o’r adroddiad
archwilio oedd yr angen i rai gwasanaethau gynnwys rheolaeth risg ymhellach ac
fe gynghorodd y CITM bod y Cyfarwyddwyr Corfforaethol yn chwarae rôl arweiniol
yn y cyswllt hwnnw a adlewyrchwyd hefyd o fewn y broses herio gwasanaeth. Ychwanegodd y Rheolwr Archwilio bod nifer o
awgrymiadau i hwyluso’r integreiddiad o reoli risg o fewn gwasanaethau wedi’i
drafod gyda’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth. Yn sgil cyfrifoldebau’r aelodau etholedig o fewn y
broses rheoli risg, amlygodd y Cadeirydd yr angen am hyfforddiant ac roedd yn
awyddus i bob aelod gyfranogi. Cytunwyd
y byddai’r CITM yn darparu sesiwn briffio risg i aelodau yng nghyfarfod Briffio
nesaf y Cyngor 16 Medi. PENDERFYNWYD – (a) derbyn a nodi’r adroddiad yn manylu ynghylch Fframwaith Rheoli
Risg Strategol, (b) bod y Rheolwr Tîm Gwella Corfforaethol yn darparu Sesiwn
Briffio Risg yn Sesiwn Briffio nesaf y Cyngor 16 Medi 2013. [TW i weithredu] Ar y pwynt hwn (11.40 a.m.) cymerodd y Cyngor egwyl am
luniaeth. |
|
SWYDDFA ARCHWILIO CYMRU: GWAITH ARCHWILIO PERFFORMIAD A FFIOEDD 2013-14 PDF 72 KB Ystyried
adroddiad gan Reolwr y Tîm Gwelliannau Corfforaethol (copi ynghlwm) yn cyflwyno
rhaglen perfformiad gwaith archwilio Cyngor Sir Ddinbych ar gyfer 2013-14 a’r
ffi sy’n gysylltiedig â hynny. 11.35 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan Reolwr Tîm Gwella
Corfforaethol (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn cyflwyno rhaglen gwaith
archwilio perfformiad i’w gynnal gan Swyddfa Archwilio Cymru (WAO) yng Nghyngor
Sir Ddinbych yn ystod 2013 – 14 a’r ffi gysylltiedig am y gwaith hwnnw. Ymhelaethodd Cynrychiolydd Swyddfa Archwilio
Cymru, Mr Gwilym Bury, ynghylch elfennau penodol y gwaith ar gyfer Sir Ddinbych
yn ymdrin â – ·
Diweddariad
Asesiad Corfforaethol ·
Archwiliad
Cynllun Gwella ·
Archwiliad
Asesu Perfformiad ·
Adolygiad
Ansawdd Data ·
Adolygiad
Lleol Yn ogystal â hyn, byddai rhaglen gwella ac
Astudiaethau Cenedlaethol Llywodraeth Leol yn cael ei chynnal mewn perthynas ag
– ·
Astudiaeth
gwella – Diogelu ·
Astudiaethau
Cenedlaethol Llywodraeth Leol – Diwygio Lles a Darparu gyda llai – yr effaith
ar wasanaethau a dinasyddion Cynghorwyd aelodau mai Sir Ddinbych oedd yr ail
isaf gyda ffioedd perfformiad ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru, a
adlewyrchodd yn rhannol risg is y cyngor o’i gymharu ag ychydig o flynyddoedd
yn ôl. Ychwanegodd y Cynghorydd Julian
Thompson-Hill bod hyn o ganlyniad i waith rhagweithiol a wnaed gan y cyngor
dros y blynyddoedd diwethaf. Mewn ymateb i gwestiynau, darparodd Mr Bury
rywfaint o derfynau amser dangosol ar gyfer pob darn o waith ar gyfer Sir
Ddinbych. O ran astudiaethau
cenedlaethol, nid oedd unrhyw benderfyniad wedi’i wneud hyd yn hyn ynglŷn
â pha awdurdodau fyddai’n cael eu dewis ar gyfer gwaith maes, ond byddai’r
astudiaethau’n cael eu cynnal yn y flwyddyn ariannol gyfredol. Byddai adroddiad cenedlaethol ar sefyllfa
Cymru gyfan yn cael ei gynhyrchu ac mae’n debygol y byddai’r cynghorau a
ddewiswyd ar gyfer yr astudiaeth hefyd yn derbyn adborth unigol. Roed y pwyllgor yn edrych ymlaen at dderbyn yr
adroddiadau yn y dyfodol a – PENDERFYNWYD derbyn a nodi adroddiad Swyddfa Archwilio
Cymru – Gwaith Archwilio Perfformiad a Ffioedd
2013 – 14. |
|
RHAGLEN WAITH Y PWYLLGOR LLYWODRAETHU CORFFORAETHOL PDF 73 KB Ystyried Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor (copi ynghlwm). 12.20 p.m. Cofnodion: Cyflwynwyd rhaglen waith y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol (a
ddosbarthwyd yn flaenorol) i’w hystyried. Yn ystod y drafodaeth, amlygodd y Cynghorydd Martyn Holland yr angen am
ddull i gynrychiolwyr aelodau etholedig ar gyrff allanol i adrodd yn ôl i’r
cyngor ar eu gweithgareddau. Cytunodd y
Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd (HLDS) ddarparu protocol
drafft ar gyfer y diben hwnnw er ystyriaeth y pwyllgor. Ar ôl trafodaeth bellach fe wnaeth y pwyllgor
– ·
ail gadarnhau bod yr eitemau ychwanegol canlynol yn cael
eu cynnwys er ystyriaeth yn y cyfarfod nesaf 4 Medi 2013 – - Hunanasesiad
Corfforaethol [IB i weithredu] - Diweddariad
Adroddiad Archwilio Mewnol AD Strategol [IB/LA/CR i weithredu] - Adroddiad
Archwilio Mewnol Ysgol Clawdd Offa [IB i weithredu] ·
cytuno yn sgil yr eitemau ychwanegol i’w hystyried uchod,
bod cyfarfod nesaf y pwyllgor yn cael ei gynnal yn gynharach am 9.00 a.m. [KEJ
i weithredu] ·
cytuno i dderbyn y Gofrestr Risg Gorfforaethol fel eitem
fusnes bob chwe mis [TW i weithredu], a ·
gofynnir bod yr HLDS yn darparu protocol drafft i
gynrychiolwyr ar gyrff allanol i adrodd yn ôl ynghylch eu gweithgareddau ar
gyfer cyfarfod Tachwedd. [GW i weithredu] PENDERFYNWYD, yn destun y diwygiadau a’r cytundebau y cyfeirir
atynt uchod, cymeradwyo’r rhaglen gwaith i’r dyfodol. Daeth y cyfarfod i ben am 12.10 p.m. |