Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: YSTAFELL BWLLGOR 1A, NEUADD Y SIR, RHUTHUN

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnodion:

Y Cynghorydd Gwyneth Kensler

 

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw fuddiannau personol neu ragfarnus mewn unrhyw fusnes sydd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol na niweidiol.

 

 

3.

MATERION BRYS

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys dan Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw faterion brys.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 158 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 14 Tachwedd 2012 (copi’n amgaeëdig)

9.35 a.m. – 9.40 a.m.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a gynhaliwyd ar Dachwedd 14, 2012.

 

PENDERFYNWYD derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar Dachwedd 14, 2012 yn gofnod cywir.

 

 

5.

ARCHWILIAD GWASANAETHAU CYMDEITHASOL AWDURDOD LLEOL, GWERTHUSIAD AC ADOLYGIAD 2011-12 pdf eicon PDF 73 KB

Ystyried adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Moderneiddio a Lles (copi’n amgaeëdig) ar arfarniad AGGCC o Wasanaethau Cymdeithasol Sir Ddinbych a’u persbectif ar berfformiad ac effeithiolrwydd Gwasanaethau Cymdeithasol.

9.40 a.m. – 10.10 a.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Moderneiddio a Lles adroddiad (a gylchredwyd yn flaenorol) yn mynegi’r prif faterion a oedd yn codi o werthusiad Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) o berfformiad Gwasanaethau Cymdeithasol Sir Ddinbych ar gyfer 2011 - 12.  Roedd copi o’r gwerthusiad llawn wedi ei atodi i’r adroddiad (Atodiad 1) ynghyd â throsolwg o ymateb y Cyngor i’r meysydd cynnydd a nodwyd a’r meysydd i’w gwella (Atodiad 2).

 

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Moderneiddio a Lles, Angela Mortimer a Sue Millington, Rheolwyr Ardal AGGCC ynghyd â Rheolwr Gwasanaeth: Datblygu Ansawdd a Systemau'r Cyngor, Craig McLeod, a’u croesawu i’r cyfarfod.  Rhoddodd beth gwybodaeth gefndir i’r adroddiad a chyd-destun y gwerthusiad blynyddol fel rhan o system reoli perfformiad cyffredinol y Cyngor.  Roedd yn werthusiad positif i Sir Ddinbych yn nodi cynnydd arwyddocaol mewn llawer o feysydd gyda meysydd i’w gwella wedi eu nodi a oedd yn adlewyrchu’r rheiny yn hunanasesiad y Gyfarwyddiaeth.  Tynnwyd sylw Aelodau’n arbennig at y meysydd canlynol -

 

·         Roedd rhaglenni uchelgeisiol o newid gwasanaeth gydag arweinyddiaeth glir a threfniadau rheoli perfformiad wedi eu hamlygu

·         Roedd meysydd a nodwyd i’w gwella wedi eu mewnblannu o fewn Cynlluniau Busnes Gwasanaethau a oedd yn cael eu monitro’n chwarterol

·         Roedd risg wedi ei nodi o ran cynllunio strategol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) [a oedd hefyd wedi ei nodi ar draws awdurdodau Gogledd Cymru i gyd].   Roedd ymateb cynhwysfawr i ymgynghoriad BIPBC ar gynlluniau i ad-drefnu darpariaeth gofal iechyd wedi ei gyflwyno ac roedd yr angen am Grŵp Strategol wedi ei amlygu.

 

Rhoddodd y Rheolwr Ardal  sylw ar yr adroddiad positif a oedd yn edrych yn ôl dros y deuddeng mis blaenorol gan ddweud fod pethau wedi symud ymlaen ac roedd camau’n cael eu cymryd i symud ymlaen â’r meysydd a oedd wedi eu nodi i’w gwella.  Rhoddodd sylwadau hefyd ar ansawdd yr ymgysylltiad â’r awdurdod ac uwch swyddogion a oedd wedi bod yn gynorthwyol yn cynhyrchu gwybodaeth er mwyn arwain y broses werthuso.

 

Roedd aelodau’n falch o nodi agweddau positif yr adroddiad a’r cynnydd arwyddocaol sy’n cael ei wneud ond roedd eu cwestiynau’n canolbwyntio ar y meysydd hynny a nodwyd i’w gwella a lle’r oedd cynnydd wedi bod yn fwy cyfyngedig a cheisiwyd sicrwydd ynglŷn â chadernid y camau i ddelio â nhw.  Fe ganolbwyntiodd y drafodaeth ar y meysydd canlynol -

 

·         Roedd AGGCC wedi nodi gallu parhaus i ddylanwadu ar gynllunio strategol sy’n canolbwyntio ar ardal gyda BIPBC fel risg potensial - esboniodd y Rheolwr Ardal bod cydgysylltu ag iechyd yn hanfodol i gynllunio a darpariaeth gwasanaeth ar gyfer gwaith Oedolion a Phlant a bod ailstrwythuro BIPBC wedi tarfu ar lawer o gysylltiadau a hynny wedi effeithio ar gyflymdra symud cynlluniau ymlaen i’w terfyn.  Mynegodd aelodau bryderon difrifol ynglŷn â’r risgiau canfyddadwy, yn enwedig o ystyried ad-drefnu’r ddarpariaeth gofal iechyd ac effaith ddilynol ar wasanaethau a chyllidebau’r Cyngor, ac fe geisiwyd sicrwydd ynglŷn â sut y byddai’r risg yn cael ei reoli’n effeithiol.  Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Moderneiddio a Lles at fentrau fel y prosiect ardaloedd, a oedd wedi bod yn arafach i symud ymlaen oherwydd yr anhawster o ymgysylltu staff yn lleol yn dilyn ailstrwythuro a gweithrediad BIPBC yn rhanbarthol ynghyd â blaenoriaethau eraill sy’n gwrthdaro.  Roedd yn obeithiol y byddai Grwpiau Strategol yn cael eu sefydlu’n sirol i alluogi datrys problemau lleol a’u bwrw ymlaen.  Ychwanegodd fod cysylltiadau ar lefel weithredol yn dal i fod yn dda efo BIPBC mewn meysydd eraill ac roedden nhw wedi bod yn weithredol ymglymedig â BIPBC yn datrys problemau penodedig.  Roedd fforwm strategol o chwe Chyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Chyfarwyddwyr BIPBC yn cyfarfod yn chwarterol hefyd gyda’r  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

DATGANIAD STRATEGAETH RHEOLI’R TRYSORLYS 2013/2014 A DANGOSYDDION DARBODUS 2013/14 I 2015/16 pdf eicon PDF 78 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Asedau (copi’n amgaeëdig) yn gofyn i’r aelodau adolygu Datganiad Strategeth Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2013/14 a’r Dangosyddion Darbodus ar gyfer 2013/14, 2014/15 a 2015/16.

10.10 a.m. – 10.40 a.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid ac Asedau adroddiad (a gylchredwyd yn flaenorol) yn ceisio  adolygiad aelodau o Ddatganiad Strategaeth Reoli’r Trysorlys ar gyfer 2013/14 a’r Dangosyddion Darbodus ar gyfer 2014/14, 2014/15 a 2015/16 cyn eu cymeradwyo gan y Cyngor.  Roedd Datganiad Strategaeth Reoli’r Trysorlys wedi ei atodi i’r adroddiad ynghyd â’r Dangosyddion Darbodus unigol a gymeradwywyd i’w cymeradwyo.

 

Adroddodd y Pennaeth Cyllid ac Asedau ar elfennau allweddol Datganiad Strategaeth Reoli’r Trysorlys gan nodi sut y byddai’r Cyngor yn rheoli ei fuddsoddiadau a’i fenthyciadau ar gyfer y flwyddyn i ddod a pholisïau yr oedd swyddogaeth Rheolaeth y Trysorlys yn gweithredu o’u mewn.  Wrth arwain yr aelodau drwy’r adroddiad, esboniodd y Pennaeth Cyllid ac Asedau bob un o’r materion yn fanwl i gynorthwyo dealltwriaeth y pwyllgor o’r cymhlethdodau sy’n ymglymedig o fewn gweithgareddau rheoli’r trysorlys ac i roi gwybodaeth weithio o’r swyddogaethau arbennig hynny.  Roedd Datganiad Strategaeth Reoli’r Trysorlys yn cynnwys yr adrannau canlynol -

 

·         Cefndir a Safle’r Trysorlys

·         Strategaeth Fuddsoddi

·         Strategaeth Fenthyca

·         Aildrefnu Dyled

·         Datganiad Darpariaeth Isafswm Refeniw

·         Adrodd Gweithgaredd Rheoli’r Trysorlys

·         Ychwanegiad A - E: Dangosyddion Darbodus; Buddsoddiadau Penodol ac Amhenodol; Rhestr Sofran a Pharti i Gontract Cymeradwy; Rhagolwg o’r Gyfradd Llog ac Effaith y Cynllun Corfforaethol.

 

Yn ystod ei gyflwyniad o’r adroddiad, fe ddiweddarodd y Pennaeth Cyllid ac Asedau’r aelodau ar ddatblygiadau diweddar ac eglurodd faterion mewn ymateb i gwestiynau aelodau arnyn nhw.  Roedd pwyntiau trafod allweddol yn cynnwys –

 

Cyfrif Refeniw Tai - Dywedodd y Pennaeth Cyllid ac Asedau fod y Cyfrif Refeniw Tai â chymhorthdal negyddol yn talu oddeutu 25% o incwm i Lywodraeth Cymru am ddyled.  Esboniodd y newidiadau i ddod i’r system gyfredol, a gyflwynwyd eisoes yn Lloegr, a fyddai’n ailddosbarthu’r ddyled honno’n uniongyrchol i awdurdodau lleol.  Roedd y ddyled yn debygol o gael ei throsglwyddo yn 2014/15 ac yna byddai’n ymddangos yn Natganiad Strategaeth Rheoli’r Trysorlys a dangos cynnydd sylweddol yn ffigwr dyled y Cyngor.  Fodd bynnag byddai’r Cyngor yn ennill yn ariannol gan y byddai swm y ddyled a drosglwyddir yn cael ei leihau.  Roedd Aelodau’n siomedig o nodi bod Llywodraeth Cymru wedi eithrio Cynghorau rhag trafodaethau â’r Trysorlys ynglŷn â’r ddyled ac wedi gwrthod darparu unrhyw wybodaeth ynglŷn â hynny.  Dywedodd y Pennaeth Cyllid ac Asedau fod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi amlygu’r pryderon hynny’n uniongyrchol i Lywodraeth Cymru.  Trafododd Aelodau ganlyniad tebygol y trafodaethau efo’r Pennaeth Cyllid ac Asedau ynghyd  â’r posibilrwydd y gallai’r awdurdodau lleol hynny sy’n ymdrechu i gyfarfod â Safon Ansawdd Tai Cymru ar gyfer eu Stoc Tai Cyngor, elwa o’r broses ar draul y rheiny sy’n agos at gyfarfod â’r Safon.  Crybwyllwyd hefyd y posibilrwydd o argaeledd benthyca ychwanegol ar gyfer ailwampio tai ar yr un gyfradd llog ffafriol.  Er yr ansicrwydd ynglŷn â’r system newydd roedd aelodau’n falch o nodi y byddai’r Cyngor yn elwa’n ariannol o drosglwyddo dyled ond gobeithiai y byddai pob awdurdod lleol yn elwa cymaint o ganlyniad i’r newid.

 

Cymhareb Costau Ariannu i Ffrwd Refeniw Net - Roedd cymhareb y gyllideb refeniw a ddefnyddir i dalu dyled am y flwyddyn ariannol nesaf oddeutu 6.77%.  Dywedwyd wrth aelodau am fân symudiadau mewn cyllid ac am grantiau a drosglwyddwyd i’r setliad cyffredinol gyda’r canlyniad o ffigwr refeniw uwch.  Gan ymateb i gwestiynau, dywedodd  y Pennaeth Cyllid ac Asedau y byddai oddeutu 56% o gyllideb refeniw 2013/14 yn cael ei neilltuo a’i ddiogelu ar gyfer cyllidebau ysgolion a gofal cymdeithasol gyda mwy o gyfarwyddebau gan Lywodraeth Cymru ar sut i wario cyllid a hynny’n gadael y Cyngor ag ychydig iawn o reolaeth dros y prif elfennau.  Prin oedd y gefnogaeth a gafwyd gan awdurdodau lleol eraill i ddadlau yn erbyn cyfarwyddebau Llywodraeth Cymru.  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

ADRODDIAD CYNNYDD ARCHWILIO MEWNOL pdf eicon PDF 123 KB

Ystyried adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Archwilio Mewnol (copi’n amgaeëdig) yn diweddaru’r aelodau ar gynnydd diweddaraf y Gwasanaeth Archwilio Mewnol o ran cyflwyno gwasanaeth, darparu sicrhad, adolygiadau a gwblhawyd, perfformiad ac effeithiolrwydd wrth yrru gwelliannau.

10.55 a.m. – 11.15 a.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Archwilio Mewnol adroddiad (a gylchredwyd yn flaenorol) yn diweddaru aelodau ar gynnydd diweddaraf y Gwasanaeth Archwilio Mewnol o ran cyflenwi gwasanaeth, darparu sicrwydd, adolygiadau a gwblhawyd, perfformiad ac effeithiolrwydd o ran gyrru gwelliant.  Tynnwyd sylw Aelodau at yr adroddiadau archwilio mewnol diweddar a roddwyd ar y canlynol –

 

Ysgol Uwchradd y Rhyl – Cyfeiriodd y Pennaeth Gwasanaethau Archwilio Mewnol at ddyfarniad statws sicrwydd canolig a oedd yn welliant arwyddocaol ar yr archwiliad blaenorol a oedd wedi golygu dwyn cynrychiolwyr ysgol gerbron y pwyllgor yma.  Roedd adborth gan y Prifathro a’r Llywodraethwyr yn bositif ac roedd y Pennaeth Gwasanaethau Archwilio Mewnol yn hyderus y byddai’r ysgol yn delio â’r problemau a oedd wedi ei hatal rhag derbyn statws sicrwydd uchel.  Roedd Aelodau’n falch o nodi’r adroddiad archwilio positif ac, yn dilyn cynnig gan y Cynghorydd David Simmons, cytunwyd bod llythyr gan y pwyllgor yma i’w anfon at Ysgol Uwchradd y Rhyl yn eu llongyfarch ar eu cyflawniad.

 

Ystyriai Aelodau fod cyllid ysgolion yn gyffredinol yn faes o risg arbennig y gellid ei ecsbloetio a gofynnwyd am y mecanwaith i ddiogelu rhag y risg honno.  Dywedodd y Pennaeth Cyllid ac Asedau fod ysgolion â chyfrifoldeb i reoli’r cyllid hwnnw ac fe allent ofyn am archwiliad gan y Cyngor a byddid yn codi tâl am hynny.  Roedd elfennau penodedig fel cynnal cofnodion yn ffurfio rhan o archwiliad cyffredinol ysgol.  Gofynnodd y Cynghorydd Martyn Holland a ellid sefydlu system ar gyfer ysgolion er mwyn helpu i reoli cronfeydd a rhannu arferion gorau.  Awgrymwyd y byddai Rheolwyr Cyllid Ysgolion â swyddogaeth yn hynny.  Cytunai’r pwyllgor ag awgrym y Pennaeth Cyllid ac Asedau i roi eitem ar yr agenda i Rwydwaith Rheolwyr Cyllid Ysgolion fel dull o symud ymlaen â’r mater hwnnw.  Mewn ymateb i gwestiwn gan yr Aelod Lleyg Paul Whitham cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Archwilio Mewnol fod cyfarwyddyd ar gael i’r rheiny sy’n rheoli cyllid ysgolion ac roedd gwaith yn cael ei wneud i gynhyrchu rhestr wirio syml.

 

Risg gynhenid uchel y Gofrestr Risg Gorfforaethol (CSDd006) - Hysbyswyd Aelodau nad oedd yr archwiliad yma’n gofyn am adroddiad archwilio llawn ond roedd wedi ei gynnal i sicrhau rheolaeth effeithiol a rhoddwyd crynodeb byr.

 

Tir y Cyhoedd - Fe gynhaliwyd archwiliad cyffredinol ac roedd gwaith yn gyfredol i ddelio â phroblemau penodedig a nodwyd.  Cyfeiriodd y Cynghorydd Martyn Holland at y problemau ynglŷn â chyflwyno’r gwasanaeth ailgylchu a chasglu sbwriel yn ne’r sir a holodd am gostau’r rhaglen ailgylchu ac a ddysgwyd gwersi.  Holodd hefyd a gyflawnwyd gwerth am arian gyda’r rhaglen ailgylchu dros y sir gyfan a’r broses bresennol o fonitro perfformiad.  Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd fod y Cyngor Sir wedi trafod y mater yn eu cyfarfod ar Ragfyr 4 ac fe’i cyfeiriwyd at y Pwyllgor Craffu Cymunedau i’w ystyried.  Roedd y Prif Weithredwr hefyd wedi dweud y byddid yn cynnal ymchwiliad a gellid cyflwyno adroddiad pellach i’r Cyngor Sir i’w ystyried os byddai aelodau’n gofyn am hynny.  Ychwanegodd y Pennaeth Gwasanaethau Archwilio Mewnol fod adolygiad o gasglu sbwriel wedi ei gynnwys yn y cynllun archwilio ar gyfer 2013/14.  Cyfeiriodd Aelodau’n fyr hefyd at faterion ynglŷn â Gwastraff Masnach a dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Archwilio Mewnol y byddid yn ystyried adroddiad archwilio ar Wastraff Masnach yng nghyfarfod nesaf y pwyllgor.

 

Diogelu Data a Rhyddid Gwybodaeth – Oherwydd y sgôr sicrwydd isel fe gynhaliwyd cyfarfod gwaethygiad efo’r Prif Weithredwr a’r Aelod Arweiniol i drafod y cynllun gweithredu.  Gan fod yr eitem yma’n fater corfforaethol roedd camau’n rhychwantu nifer o adrannau a byddid yn delio â hyn yn y misoedd i ddod.  Roedd gwaith yn gyfredol ar hyn  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

CYNLLUN GWEITHREDU’R FFRAMWAITH LLYWODRAETHU CORFFORAETHOL pdf eicon PDF 64 KB

Ystyried adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Archwilio Mewnol (copi’n amgaeëdig) yn diweddaru’r aelodau ar y cynllun gweithredu diweddaraf a’r cynnydd hyd yma yn deillio o’r adolygiad o fframwaith llywodraethu’r Cyngor a’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2011/12.

11.15 a.m. – 11.35 a.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Archwilio Mewnol adroddiad (a gylchredwyd yn flaenorol) yn diweddaru aelodau ar y cynllun gweithredu diweddaraf a’r cynnydd hyd yma o ganlyniad i adolygiad fframwaith llywodraethu’r Cyngor a’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2011/12.  Roedd y fframwaith yn cynnwys asesiad blynyddol o drefniadau llywodraethu’r Cyngor a Datganiad Llywodraethu Blynyddol yn amlygu gwendidau llywodraethu a oedd angen eu gwella.  Roedd Grŵp Llywodraethu wedi ei sefydlu i reoli’r broses a chynllun gweithredu wedi ei ddatblygu (yn atodol i’r adroddiad) o ganlyniad i’r adolygiad diwethaf o drefniadau llywodraethu.

 

Amlygodd Mr Anthony Veale, Cynrychiolydd Swyddfa Archwilio Cymru, fonitro parhaus y cynllun gweithredu’n arfer da er mwyn rhoi sicrwydd ar effeithiolrwydd y broses yn rhan o drefniadau llywodraethu cyffredinol y Cyngor.  Nododd y pwyllgor yr hyblygrwydd yn y cynllun ac y byddai materion yn cael eu hychwanegu pan fyddan nhw’n codi yn ystod y flwyddyn a chytunwyd fod angen iddyn nhw fod yn rhagweithiol yn craffu’r camau hynny.  Cytunodd Aelodau i ystyried y cynllun gweithredu yn y ddau gyfarfod nesaf (ym mis Chwefror ac Ebrill) cyn penderfynu ar ba mor aml yr oedden nhw’n dymuno monitro’r cynllun gweithredu yn y dyfodol.

 

Roedd y cynllun gweithredu’n cynnwys cyfeiriad at berfformiad a datblygiad aelodau ac fe amlygodd y Cynghorydd Martyn Holland bwysigrwydd hyfforddiant aelodau er mwyn  rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth sy’n ofynnol i gynghorwyr berfformio eu dyletswyddau’n effeithiol.  Teimlai bod angen mwy o ymrwymiad gan gynghorwyr er mwyn datblygu eu gallu.  Cyfeiriodd y Cynghorydd Raymond Bartley at bresenoldeb gwael yn nigwyddiadau hyfforddi aelodau ac ymholodd am y rhesymau am hynny a’r camau i gynyddu’r niferoedd.  Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd fod holiadur manwl wedi ei anfon at aelodau er mwyn hysbysu’r cynllun hyfforddi nesaf ar gyfer cynghorwyr a’r gobaith oedd y byddai presenoldeb yn gwella o ganlyniad.  Roedd swyddogion hefyd yn edrych ar ddulliau eraill o ddarparu hyfforddiant yn cynnwys creu Canolbwynt Dysgu i alluogi hyfforddiant electronig a gwylio hyfforddiant blaenorol a recordiwyd.  Cyfeiriwyd hefyd at yr adolygiad o anghenion hyfforddi aelodau a oedd yn ofynnol gan y Mesur Llywodraeth Leol a oedd i’w symud ymlaen gan yr Aelod Arweiniol, y Cynghorydd Barbara Smith.  Awgrymodd y Cadeirydd y gellid creu pecyn dysgu gartref yn cynnwys hyfforddiant wedi ei recordio ymlaen llaw ar DVD a defnyddiau ac asesiadau i aelodau eu cwblhau.  O ran hyfforddiant penodedig ar gyfer y pwyllgor yma, cyfeiriodd y Pennaeth y Gwasanaethau Archwilio Mewnol at arfer y pwyllgor blaenorol o nodi bylchau mewn gwybodaeth neu sgiliau er mwyn gallu delio â nhw yn y dyfodol.  Gofynnodd yr Aelod Lleyg, Paul Whitham, beth oedd yr hyfforddiant ar gyfer aelodau lleyg a dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Archwilio Mewnol y byddai hyfforddiant cyffredinol fel ar y Cod Ymddygiad yn briodol i bawb ynghyd â hyfforddiant penodedig ar feysydd a oedd yn ofynnol gan yr aelodau lleyg/cyfetholedig er mwyn ymgymryd â’r gwahanol swyddogaethau.

 

PENDERFYNWYD

 

(a)       yn amodol ar sylwadau’r aelodau uchod, nodi’r cynnydd gyda rheoli’r camau yng Nghynllun Gweithredu’r Fframwaith Llywodraethu Corfforaethol

 

(b)       cyflwyno Cynllun Gweithredu Llywodraethu Corfforaethol i’r ddau gyfarfod nesaf ym mis Chwefror a mis Ebrill i’w ystyried ymhellach a’i fonitro cyn gwneud penderfyniad ar amlder adrodd ar y Cynllun Gweithredu yn y dyfodol.

 

 

9.

RHAGLEN WAITH PWYLLGOR LLYWODRAETHU CORFFORAETHOL pdf eicon PDF 37 KB

Ystyried blaenraglen waith y pwyllgor (copi’n amgaeëdig).

11.35 a.m.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd (a gylchredwyd yn flaenorol) yn amlinellu blaenraglen waith y pwyllgor.  Cyfeiriodd Pennaeth y Gwasanaethau Archwilio Mewnol at ddiwygiadau i’r rhaglen waith i gynnwys yr adroddiadau canlynol –

 

·         Strategaeth Archwilio Mewnol 2013/14 - Ebrill

·         Adroddiad Blynyddol 2012/13 - Mai

·         Cynllun Gweithredu’r Fframwaith Llywodraethu Corfforaethol – Chwefror ac Ebrill.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar y diwygiadau uchod, cymeradwyo’r flaenraglen waith.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.30 p.m.