Agenda and draft minutes
Lleoliad: CONFERENCE ROOM 1b, COUNTY HALL, RUTHIN
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU |
|
DATGAN BUDDIANNAU Yr aelodau i ddatgan unrhyw fuddiannau personol neu
fuddiannau sy’n rhagfarnu unrhyw fusnes i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: PENDERFYNWYD
– na fu i unrhyw Aelod ddatgan unrhyw
fuddiannau personol na buddiannau sy’n rhagfarnu unrhyw fusnes i’w ystyried yn
y cyfarfod hwn. |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu
hystyried yn y cyfarfod fel materion brys dan Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth
Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw eitemau y dylid, ym
marn y Cadeirydd, eu trafod yn y
cyfarfod fel materion brys dan Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. |
|
Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol a gynhaliwyd ar 5ed Medi 2012. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 5ed Medi, 2012. Materion
yn codi:- 6.
Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol – Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd M
L Holland mewn perthynas â chyflwyno’r adroddiad archwilio terfynol i’r
Pwyllgor mewn perthynas â Gwasanaethau Cludiant Cartref i’r Ysgol, esboniodd y
Pennaeth Cyllid ac Asedau y byddai’r adroddiad, a oedd yn cael ei gwblhau ar
hyn o bryd, yn cael ei ddosbarthu i aelodau’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol
pan fyddai’n barod. 8.
Adroddiad Rheoli’r Trysorlys – Mewn ymateb i gwestiwn gan Mr P. Whitham mewn
perthynas â darpariaeth hyfforddiant ar reoli’r trysorlys, esboniodd y Pennaeth
Cyllid ac Asedau y byddai adroddiad, neu sesiwn hyfforddi, yn cael ei ddarparu
yn chwarterol, gyda’r sesiwn neu’r adroddiad nesaf ar y rhaglen ar gyfer
Rhagfyr 2012. PENDERFYNWYD – yn amodol ar yr
uchod, derbyn a chymeradwyo’r cofnodion fel cofnod gwir a chywir. |
|
DATGANIAD CYFRIFON 2011/2012 PDF 71 KB Ystyried adroddiad
gan y Pennaeth Cyllid ac Asedau (copi’n amgaeëdig) yn gofyn am gymeradwyo’r
Datganiad Cyfrifon yn ffurfiol. Cofnodion: Roedd
copi o adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Asedau, yn gofyn i’r Aelodau
gymeradwyo Datganiad Cyfrifon y Cyngor 2011/12, wedi ei ddosbarthu yn y
cyfarfod. Esboniodd
y Pennaeth Cyllid ac Asedau bod gan y Cyngor ddyletswydd statudol i gynhyrchu
datganiad cyfrifon a oedd yn cydymffurfio â safonau cyfrifeg cymeradwy.
Cymeradwywyd y Datganiadau Ariannol ar gyfer 2011/12, yn amodol ar archwiliad,
gan y Prif Swyddog Cyllid ym Mehefin 2012. Mae Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio
yn ei gwneud yn ofynnol bod y Cyngor yn cymeradwyo’n ffurfiol y cyfrifon wedi
eu harchwilio, sy’n cynnwys barn yr archwiliwr allanol, erbyn diwedd Medi 2012.
Roedd cymeradwyo’r cyfrifon archwiliedig yn ffurfiol, gan aelodau etholedig ar
ran y Cyngor, wedi ei ddirprwyo i’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol.
Cadarnhawyd bod y cyfrifon wedi bod ar gael i’w harchwilio ac yn agored i’r
cyhoedd eu harchwilio. Roedd Swyddfa Archwilio Cymru wedi cyflwyno Adroddiad
Archwilio’r Datganiadau Ariannol a oedd yn cynnwys trosolwg o’u darganfyddiadau
ac asesiad o’r broses. Roedd y Datganiad Cyfrifon, yn cynnwys 149 o
dudalennau, wedi ei gynhyrchu gan gydymffurfio â Chod Ymarfer ar Gyfrifeg
Awdurdod Lleol sy’n seiliedig ar y Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol (IFRS).
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd M.L. Holland, rhoddodd y Prif Gyfrifydd
fanylion yn ymwneud â’r IFRS ac esboniodd bod cydymffurfio â’r IFRS wedi bod yn
ofyniad ers 2010/11 gyda chyflwyniad parhaus safonau neu ofynion newydd. Y
newid mwyaf nodedig ar gyfer cyfrifon 2011/12 oedd cyflwyno dosbarth newydd o
asedau a elwid yn asedau treftadaeth, ac roedd yn Cyngor, yn unol â hynny, wedi
newid ei bolisïau a’i ddatgeliadau cyfrifeg yn y cyfrifon i gydymffurfio gyda’r
Cod Ymarfe. Mabwysiadwyd safonau cyfrifeg IFRS ledled y byd.
Fodd bynnag, gan fod rhai meysydd o driniaeth cyfrifeg sector cyhoeddus yn
gwyro oddi wrth yr IFRS, fel mewn gofynion deddfwriaethol, cyflwynwyd Safonau
Cyfrifeg Cyhoeddus Rhyngwladol i ddelio â’r darpariaethau hynny. Roedd Swyddfa Archwilio Cymru wedi gweithio’n agos
â’r tîm Cyllid i sicrhau cwblhau’r archwiliad yn amserol a llwyddiannus. Roedd
y broses archwilio wedi arwain at addasiadau technegol, cywiriadau eraill ac
roedd newidiadau a manylion wedi eu cynnwys yn Adroddiad yr Archwiliwr. Roedd y Datganiad Cyfrifon unwaith eto wedi derbyn
barn archwilio ddiamod, a oedd yn llwyddiant arwyddocaol o ystyried maint a
chymhlethdod y cyfrifo. Cafwyd ymarfer mawr yn 2010/11 i gynhyrchu’n
llwyddiannus gyfrifon a oedd yn cydymffurfio gyda’r safonau rhyngwladol newydd,
ac roedd y broses i weithredu IFRS wedi parhau wrth i ofynion ychwanegol gael
eu cyflwyno. Byddai trefniadau mewnol yn cael eu hadolygu bob blwyddyn i
sicrhau bod y Cyngor yn parhau i gyflwyno datganiadau ariannol o safon uchel. Amlygodd y Prif Gyfrifydd
Dros Dro natur gymhleth y cyfrifon, a chyda chymorth cyflwyniad PowerPOint,
rhoddodd drosolwg o’r prosesau a fabwysiadwyd. Roedd hyn yn cynnwys crynodeb
manwl mewn perthynas â’r meysydd allweddol canlynol a’r materion yn ymwneud â’r
Datganiad Cyfrifon:- ·
Trosolwg ·
Cyfrifon ·
Prif Ddatganiadau Ariannol ·
Proses a Fabwysiadwyd ·
Cysylltiad â Cyllidebau Refeniw ·
Rhifau a Nodiadau Allweddol ·
Proses Archwilio ·
Cwerstiynau Rhoddodd y cyflwyniad
drosolwg o’r prif newidiadau a oedd yn cynnwys cyflwyniad dosbarth newydd o
asedau treftadaeth. Cadarnhawyd bod y Cyngor yn unol â hynny wedi newid ei
bolisïau a’i ddatgeliadau cyfrifeg yn unol â’r Cod Ymarfer. Mewn ateb i gwestiynau gan Aelodau’r
Pwyllgor, ymatebodd y Pennaeth Cyllid ac Asedau fel a ganlyn:- -
Byddai
copïau o’r cyfrifon drafft yn y dyfodol yn cael eu cyflwyno i Aelodau’r
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol. -
Gellid
darparu copïau caled o’r adroddiadau ar gyfer 2011/12 a blynyddoedd yn y
dyfodol i’r Aelodau yn ychwanegol at y fersiynau electtronig. -
Rhoddwyd
amlinelliad o’r anawsterau a gafwyd wrth ddarparu pris mewn perthynas ag asedau
treftadaeth. - Manylion a ddarparwyd mewn ... view the full Cofnodion text for item 5. |