Rhaglen

Rhaglen

Lleoliad: Ystafell Bwllgor 1a, Neuadd Y Sir, Rhuthun

Eitemau
Rhif Eitem

RHAN 1 - GWAHODDIR Y WASG A'R CYHOEDD I'R RHAN HON O'R CYFARFOD

1.

YMDDIHEURIADAU

2.

DATGAN BUDDIANNAU

Aelodau i ddatgan unrhyw fuddiannau personol neu niweidiol mewn unrhyw fusnes sydd wedi ei nodi i’w ystyried yn y cyfarfod yma.

 

 

3.

MATERION BRYS

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 112 KB

I dderbyn cofnodion y Cyfarfod Llywodraethu Corfforaethol a gynhaliwyd ar Fedi 26ain, 2012 (copi’n amgaeedig).

9.35am – 9.40am

 

 

5.

LLYTHYR ASESIAD GWELLA SWYDDFA ARCHWILIO CYMRU pdf eicon PDF 70 KB

I ystyried adroddiad gan y Rheolwr Gwelliant Corfforaethol (copi’n amgaeedig) i ddarparu gwybodaeth ynglŷn ag un o’r adroddiadau rheoleiddiol allanol allweddol a dderbynnir gan y Cyngor bob blwyddyn.

9.40am – 10.00am

 

 

Dogfennau ychwanegol:

6.

ADRODDIAD AR HYNT ARCHWILIO MEWNOL pdf eicon PDF 107 KB

I ystyried adroddiad gan y Pennaeth Archwilio Mewnol (copi’n amgaeedig) sy’n darparu diweddariad ar gynnydd diweddaraf y Gwasanaeth Archwilio Mewnol o ran cyflenwi ei wasanaeth, darparu sicrwydd, adolygiadau a gwblhawyd, perfformiad ac effeithiolrwydd gyda gyrru gwelliant.

10.00am – 10.15am

 

 

Dogfennau ychwanegol:

7.

ADRODDIAD "EICH LLAIS " BLYNYDDOL pdf eicon PDF 122 KB

I ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cwsmeriaid a Chymorth Addysg (copi’n amgaeedig) yn darparu’r Pwyllgor â throsolwg o gwynion a chlod a dderbyniwyd gan Gyngor Sir Ddinbych yn ystod 2011/2012 a sut y perfformiodd y Cyngor o ran delio ag adborth.

10.15am – 10.40am

 

 

10.40am – 10.55am   Toriad

 

 

Dogfennau ychwanegol:

8.

DIWEDDARIAD AR REOLI’R TRYSORLYS pdf eicon PDF 77 KB

I ystyried adroddiad gan yr Aelod Arweiniol dros Gyllid ac Asedau (copi’n amgaeedig) yn darparu manylion o weithgareddau Rheoli Trysorlys y Cyngor yn ystod 2012/2013 a darparu cefndir ar fuddsoddiadau a Datganiad blynyddol Strategaeth Rheoli’r Trysorlys.

10.55am – 11.30am

 

 

Dogfennau ychwanegol:

9.

BLAEN-RAGLEN WAITH Y PWYLLGOR LLYWODRAETHU CORFFORAETHOL pdf eicon PDF 36 KB

I ystyried Blaenraglen Waith y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol (copi’n amgaeedig).

11.30am – 11.40am

 

 

RHAN 2 - EITEMAU CYFRINACHOL

GWAHARDD Y WASG A’R CYHOEDD

 

Cymeradwyir, yn unol ag Adran 100A(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, bod y Wasg a’r Cyhoedd yn cael eu heithrio o’r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o’r eitemau busnes canlynol gan ei bod yn debygol y byddai gwybodaeth eithriedig (fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 12 a 18 Rhan 4 o Atodlen 12A y Ddeddf) yn cael ei datgelu.

 

 

10.

DEDDF RHEOLI PWERAU YMCHWILIO 2000 (RIPA)

I ystyried adroddiad gan y Swyddog Monitro/Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd (copi’n amgaeedig)  i ddarparu’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol â dau Adroddiad Ymchwilio allanol gan Swyddfa’r Comisiynwyr Arwylio a hefyd Swyddfa Comisiynwyr Ymyrryd â Chyfathrebu.  Hefyd i ddarparu’r Pwyllgor â gwybodaeth am ddefnydd y Cyngor o’i bwerau dan Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 (RIPA).

11.40am – 12.00 canol dydd