Agenda and draft minutes
Lleoliad: YSTAFELL PWYLLGOR 1b, NEUADD Y SIR, RHUTHUN
Rhif | Eitem |
---|---|
PENODI CADEIRYDD Penodi Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ar
gyfer y flwyddyn i ddod. Cofnodion: PENDERFYNWYD - penodi’r
Cynghorydd P.M. McLellan yn Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol am
y flwyddyn i ddod. |
|
PENODI IS-GADEIRYDD Penodi Is-gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ar
gyfer y flwyddyn i ddod. Cofnodion: PENDERFYNWYD - penodi’r
Cynghorydd G.M. Kensler yn Is-gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol
am y flwyddyn i ddod. |
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn ymddiheuriadau. |
|
DATGANIAD O FUDDIANNAU Yr Aelodau i ddatgan unrhyw fuddiannau personol neu
fuddiannau sy’n rhagfarnu unrhyw fusnes i’w drafod yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: PENDERFYNWYD - nad
oedd unrhyw Aelodau wedi datgan unrhyw fuddiannau personol neu fuddiannau a
allai ragfarnu mewn unrhyw fusnes a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod yma. |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu
hystyried yn y cyfarfod fel materion brys dan Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth
Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw eitemau y dylid, ym marn y
Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol ag Adran 100B(4)
Deddf Llywodraeth Leol, 1972. |
|
Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol a gynhaliwyd ar 28ain Mawrth 2012. Cofnodion: Cyflwynwyd Cofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor
Llywodraethu Corfforaethol a gynhaliwyd ar ddydd Mercher, Mawrth 28ain,
2012. Esboniwyd fod aelodaeth y Pwyllgor
wedi newid yn awr ac nad oedd unrhyw un o Aelodau’r Pwyllgor a oedd yn
bresennol ar Fawrth 28ain 2012 yn bresennol yn y cyfarfod yma. PENDERFYNWYD – derbyn y Cofnodion. |
|
RHAGLEN RHEOLEIDDIO SWYDDFA ARCHWILIO CYMRU AR GYFER ARCHWILIO PERFFORMIAD 2012-13 PDF 71 KB Ystyried adroddiad
gan Reolwr y Tîm Gwelliannau Corfforaethol (copi’n amgaeëdig) ar Raglen
Reoleiddio Archwilio Perfformiad 2012/13 ar gyfer Swyddfa Archwilio Cymru.
9.35 a.m. – 10.00 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd adroddiad gan Reolwr y Tîm Gwella Corfforaethol,
ar Raglen Rheoleiddio ar gyfer Archwiliad Perfformiad 2012/13 far gyfer Swyddfa
Archwilio Cymru (SAC) wedi ei gylchredeg gyda phapurau’r cyfarfod. Roedd yr adroddiad yn
darparu manylion y gwaith archwilio perfformiad a wnaethpwyd yn Sir Ddinbych
gan SAC yn ystod 2012-13. Fe
amlinellai’r rhaglen rheoleiddio’r gwaith i’w gyflenwi gan ac ar ran yr
Archwilydd Cyffredinol dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (y Mesur), Deddf
Llywodraeth Leol 1999 a rhannau 2 a 3A Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru)
2004. Roedd yn crynhoi’r gweithgaredd a
gynlluniwyd ar gyfer 2012-13, swyddogaethau a chyfrifoldebau staff perthnasol
SAC a ffioedd am waith archwilio perfformiad yr Archwilydd Cyffredinol. Roedd y Rhaglen Rheoleiddio
Drafft wedi ei drafod gyda swyddogion perthnasol, yn cynnwys y Pennaeth
Cynllunio Busnes a Pherfformiad a Rheolwr y Tîm Gwella Corfforaethol, cyn
cymeradwyaeth gan y Prif Weithredwr.
Roedd yr allbynnau o’r gwaith archwilio perfformiad yn cynnwys
adroddiadau gan gyrff rheoleiddiol, fel SAC, ac roedd “y risg o adroddiadau
negyddol arwyddocaol gan reolyddion allanol” wedi eu nodi fel risg ar Gofrestr
Risgiau’r Cyngor. Gyda Fframwaith Rheoli
Perfformiad Corfforaethol yn brif reolaeth wedi ei sefydlu i reoli’r risg, fe
nodwyd fod y camau canlynol yn ofynnol i leihau’r risg gweddillol ymhellach:- ·
Datblygu fframwaith mwy ffurfiol ar gyfer cydlynu hunanasesiadau i
gynnal gweithgareddau rheoleiddiol. ·
Gweithredu dull gweithredu newydd i osod targedau, yn ôl cytundeb yr
Uwch Dîm Arweinyddiaeth, ar gyfer Cynlluniau Gwasanaeth 2012-13. ·
Cyflenwi hyfforddiant rheoli perfformiad ar gyfer Aelodau newydd, yn
cynnwys gosod targedau. Cyflwynodd Cynrychiolydd SAC (GB) yr adroddiad a
rhoddodd wybodaeth gefndir ar yr Archwiliad Perfformiad ac agweddau ariannol ar
y gwaith a ymgymerwyd gan SAC o ran Sir Ddinbych. Fe amlinellodd y meysydd allweddol i’w nodi a
oedd yn cynnwys:- -
Darparu Sicrwydd -
Awgrymiadau ar
gyfer Meysydd i’w Gwella -
Nodi Arferion Da -
Gofynion dan
Fesurau Llywodraeth Cymru Darparwyd
crynodeb manwl o’r Rhaglen Reoleiddiol ar gyfer Archwiliad Perfformiad 2112-13
ac roedd yn cynnwys y prif feysydd canlynol:- -
Gwaith archwilio perfformiad yn Sir Ddinbych,
dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009. -
Yr Asesiad Gwella, yn archwilio’r Cynllun
Corfforaethol. -
Gwaith arall y bydd yr Archwilydd
Cyffredinol yn ei ddefnyddio i hysbysu ei waith o archwilio perfformiad yn y
Cyngor. -
Gwaith archwilio ariannol yr Archwilydd
Penodedig. -
Gwaith rheolyddion perthnasol. -
Rhaglen yr Archwilydd Cyffredinol o waith
archwilio perfformiad lleol cyrff GIG unigol. -
Rhaglen yr Archwilydd Cyffredinol o
astudiaethau gwerth am arian. Roedd
cynigion ar gyfer gwaith lleol eleni wedi eu gosod allan yn Arddangosyn 1 yr
adroddiad ac roedd sylw arbennig wedi ei wahodd i faterion sy’n ymwneud á
Chydweithredu, Digartrefedd ac Adolygiad trefniadau gan y Cyngor i gyflenwi
gwasanaethau a oedd yn effeithlon ac yn cael eu rheoli’n dda. Darparwyd
crynodeb o’r Atodiadau canlynol gan Gynrychiolydd SAC (GB) Atodiad 1 -
Gwaith perfformiad Swyddfa Archwilio Cymru a gynlluniwyd ar gyfer
2012/13. Atodiad
2 -
Swyddogaethau a Chyfrifoldebau. Atodiad
3 -
Tîm archwilio perfformiad yr Archwilydd Cyffredinol Atodiad
4 -
Ffioedd. Atodiad
5 -
Rhaglen yr Archwilydd Cyffredinol o astudiaethau gwerth-am-arian. Codwyd
y materion canlynol gan Aelodau’r pwyllgor a darparwyd ymateb:- O ran Atodiad 1, esboniwyd y
dylai cyflenwad y rhaglen waith flynyddol fod wedi ei gwblhau, yn ddelfrydol,
erbyn Mawrth 31ain. Ond, roedd agweddau
arbennig yn cael eu rheoli gan ddylanwadau allanol lle’r oedd meysydd eraill yn
cael eu rheoli’n statudol. Nid oedd SAC yn ymwybodol yn
gyfredol o unrhyw Archwiliadau Estyn cynlluniedig. -
Cyfeiriwyd at gyfrifoldeb SAC i archwilio’r Datganiad Cyfrifon Statudol. Esboniwyd ei bod yn bwysig fod y Pwyllgor
Llywodraethu Corfforaethol yn gwbl ymwybodol o’r ddogfen pecyn gwaith cyflawn a
gyflwynwyd gan SAC. - Gellid cyflwyno adroddiad o ran y ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
ADBORTH ADOLYGIAD TECHNOLEG SAC PDF 70 KB Ystyried adroddiad
gan Reolwr y Tîm Gwelliannau Corfforaethol (copi’n amgaeëdig) a oedd yn rhoi
adborth gan Swyddfa Archwilio Cymru ar ôl adolygiad technoleg yng Nghyngor Sir
Ddinbych.
10.00 a.m. – 10.25 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd adroddiad gan Reolwr y Tîm Gwella Corfforaethol,
a oedd yn cyflwyno adborth gan SAC yn dilyn adolygiad technoleg yng Nghyngor
Sir Ddinbych, wedi ei gylchredeg efo’r papurau ar gyfer y cyfarfod. Cyflwynodd
Rheolwr y Tîm Gwella Corfforaethol yr adroddiad a oedd yn darparu gwybodaeth
ynglŷn ag Adborth i’r Adolygiad Technoleg.
Roedd SAC wedi casglu “Roedd
trefniadau’r Cyngor ar gyfer datblygu, defnyddio a chynnal technoleg yn debygol
o gynnal gwelliant parhaus unwaith y byddai’r Cyngor yn cryfhau ei drefniadau
rheoli TGCh ymhellach ac yn cwblhau’n llwyddiannus Gyfnod 1 ei Strategaeth
TGCh”. Roedd manylion canfyddiadau,
casgliadau a chynigion SAC ar gyfer gwella wedi eu hamlinellu yn yr Atodiad i’r
adroddiad. Roedd y Gofrestr Risgiau Corfforaethol yn cynnwys “y risg nad
yw TGCh strategol yn galluogi gwelliant ac yn cynnal newid”. Y camau lliniarol a nodwyd i leihau’r lefel
weddillol o risg, yn y pwynt adolygu diwethaf, oedd cyflenwi Cyfnod 1 y
Strategaeth TGCh, yn awr wedi ei gwblhau, ac i gadarnhau a chyflenwi Cyfnod II
y Strategaeth TGCh. Esboniodd Cynrychiolydd
Swyddfa Archwilio Cymru (GB) mai dyma arddull yr adroddiad adborth a fyddai’n
cael ei defnyddio yn y dyfodol a’r nod oedd gosod allan Adolygiad Adborth SAC
mor gryno ag sydd bosib. Cyfeiriodd at
lefel uchel y Cwestiynau a’r Canfyddiadau a oedd yn amlinellu’r cynigion ar
gyfer gwella. Fodd bynnag, cadarnhawyd
fod SAC yn fodlon yn gyffredinol â’r canfyddiadau a bod yna lawer o elfennau
positif. Mewn ymateb i gwestiwn gan
Mr P. Whitham, ynglŷn â nodi Cyflenwad Cyfnod 1 y Strategaeth TGCh fel cam
lliniarol i leihau lefel risg weddillol ac i gadarnhau Cyfnod 2 y Strategaeth
TGCh, esboniodd Rheolwr Trawsnewid Busnes a TGCh fod llawer o’r camau sy’n
ymwneud â Chyfnod 1 yn awr yn eu lle ac yn gweithredu. Byddai Cyfnod 2 yn ymwneud â thrawsnewid
busnes, a oedd yn alinio â Blaenoriaethau Corfforaethol o gwmpas moderneiddio,
a rhagwelwyd y byddai’r blaenoriaethau’n glir erbyn mis Medi a byddai hyn yn
rhoi cyfarwyddyd ar gyfer cyfeiriad TG yn y dyfodol. Pwysleisiodd y Cynghorydd M.L. Holland
bwysigrwydd caffael y pecynnau priodol i sicrhau gwerth am arian ac i
gyflawni’r gwerth mwyaf am arian yn gyffredinol ar gyfer yr Awdurdod. PENDERFYNWYD – bod y Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol yn derbyn yr adroddiad ac yn nodi canfyddiadau’r adolygiad. |
|
ADOLYGIAD O REOLAETH RISG STRATEGOL: ADRODDIAD TERFYNU PDF 76 KB Ystyried adroddiad
gan Reolwr y Tîm Gwelliannau Corfforaethol (copi’n amgaeëdig) ar adroddiad
terfynu prosiect ar gyfer Prosiect Adolygu Rheoli Risg Strategol.
10.25 a.m. – 10.50 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd adroddiad gan Reolwr y
Tîm Gwella Corfforaethol ar yr adroddiad terfynu prosiect ar gyfer y Prosiect
Adolygu Rheolaeth Risg Strategol, wedi ei gylchredeg yn y cyfarfod. Cyflwynodd Rheolwr y Tîm
Gwella Corfforaethol yr adroddiad a oedd yn rhoi sicrwydd i’r Pwyllgor fod yna
broses gadarn ar gyfer rheolaeth risg strategol. Roedd y Pwyllgor Craffu Perfformiad wedi nodi
ei fod yn fodlon fod y broses yn gweithredu’n dda a’i bod yn hawdd ei dilyn. Roedd yr adroddiad yn
darparu gwybodaeth ynglŷn â’r adolygiad o reolaeth risg strategol a
gweithrediad dilynol proses newydd i gydlynu rheolaeth risg strategol. Roedd y Cyngor wedi cynnal adolygiad o
reolaeth risg strategol oherwydd pryderon ynglŷn â pha mor gadarn oedd y
gweithgaredd o fewn y sefydliad. Roedd
yr adolygiad yn cynnig nifer o newidiadau i’r broses bresennol yn cynnwys
polisi a gweithdrefn newydd i reoli risg strategol, a symud cyfrifoldeb am
gydlynu rheolaeth risg strategol oddi wrth y Gwasanaethau Archwilio Mewnol i’r
Tîm Gwella Corfforaethol. Yn dilyn
gweithrediad y newidiadau, roedd y manteision canlynol wedi eu gwireddu, fel
y’u nodir ar dudalen 5 Adroddiad
Terfynu’r Adolygiad Risg:- ·
System fodern o Reoli Risg, sy’n fwy integredig ac yn fwy effeithiol ac
a fyddai’n ffit i’r pwrpas ac yn syml i’w deall. ·
Roedd templed clir wedi cyfrannu tuag at leihau maint y cofrestrau
risg, fel y’i nodir yn yr Atodiad gan wneud y cofrestrau’n haws eu dilyn a chan
ganiatáu arbedion argraffu ar draws yr awdurdod. ·
Lleihad sylweddol yn nifer y trapiau gwrthrychol a phroblemau o 172 i
30, Atodiad III. Roedd pob un o’r 35 o
achosion o ddyblygu wedi eu dileu oddi ar y cofrestrau. Darparwyd diffiniad o ‘drap gwrthrychol’ i’r
Pwyllgor. ·
Diwylliant o ymwybyddiaeth o risg rhagweithiol a pharhaus ym mhob rhan
o’r Cyngor, a oedd yn lleihau’r posibilrwydd o weithgaredd heb ei gynllunio neu
gostau ariannol a’u heffaith ar enw da’r Cyngor a hyder cwsmeriaid ac yn cynnal
a gwella hyder y cwsmer yng ngallu’r Cyngor i gyflenwi ei ymrwymiadau. ·
Gweithdrefnau atebolrwydd ac adrodd clir wedi eu sefydlu. ·
Gwasanaethau’n cael eu hannog i gymryd agwedd ‘gwasanaeth cyfan’ tuag
at eu cofrestrau gan ganiatáu mwy o ffocws, llai o ddyblygu a llai o
broblemau’n cael eu hadrodd. ·
Tîm pwrpasol yn y Swyddogion Gwella Corfforaethol sy’n cydlynu risg yn
gyson yn y Cyngor drwyddo draw.
Darparwyd manylion staffio yn y cyfarfod. ·
Gellid defnyddio adnoddau, yn cynnwys amser aelodau a swyddogion, yn
fwy effeithiol. ·
Roedd y berthynas rhwng y Gofrestr Risgiau Corfforaethol a chofrestrau
risgiau’r gwasanaeth wedi eu diffinio’n well gan alinio’n gliriach y
cyfrifoldeb am y risgiau hynny â phortffolios y Cyfarwyddwr a’r Cabinet. System a oedd yn adlewyrchu
honno a ddefnyddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a oedd yn gwneud
cynllunio’n haws lle’r oedd gwasanaethau ar y cyd yn y cwestiwn. Darparwyd manylion
hyfforddiant Aelodau gan Reolwr y Tîm Gwella Corfforaethol. Cynhelid sesiwn Hyfforddi Rheoli Perfformiad
ar Orffennaf 23ain, 2012 a fyddai’n cwmpasu Rheolaeth Risg a’r Fframwaith
Rheoli Perfformiad. Mewn ymateb i gwestiwn gan
Mr Whitham ynglŷn â’r Gofrestr Risgiau Corfforaethol, esboniwyd y gellid
nodi risgiau ar lefel gwasanaeth ledled y sefydliad neu risg lefel gwasanaeth
un gwasanaeth. Gallasai’r Tîm
Gweithredol Corfforaethol nodi rhai risgiau lefel uwch a’u hystyried yn brif
risgiau i’r Awdurdod. Mewn ymateb i awgrym gan y
Cynghorydd M.L. Holland y dylai dogfennaeth fod yn haws i ddefnyddwyr eu deall
o ran defnyddio Saesneg clir, cytunai’r Rheolwr Tîm Gwella Corfforaethol â’r
teimladau’r farn a fynegwyd ac esboniodd fod Atodiadau i’r adroddiad wedi eu
cynhyrchu i’w cyflwyno i’r Bwrdd Trawsnewid Busnes. Yn dilyn trafodaeth
bellach:- PENDERFYNWYD – bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn yr adroddiad ac yn nodi’r ... view the full Cofnodion text for item 9. |
|
DATGANIAD LLYWODRAETHU BLYNYDDOL 2011/12 PDF 58 KB Ystyried adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Archwilio
Mewnol (copi’n amgaeëdig) sy’n cyflwyno Adroddiad Blynyddol y Pennaeth
Archwilio Mewnol ar gyfer 2011/12. 11.05 a.m. – 11.30 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Archwilio
Mewnol, a oedd yn cyflwyno’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol (DLlB) ar gyfer 2011/12, wedi ei
gylchredeg â’r papurau ar gyfer y cyfarfod. Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau
Archwilio Mewnol yr adroddiad a oedd wedi ei ddatblygu gan dîm o uwch
swyddogion. Esboniodd y byddai Cadeirydd
ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn cael eu gwahodd i
ymuno â’r tîm. Darparwyd crynodeb byr o’r Datganiad
Llywodraethu Blynyddol 2011/12, a oedd yn ddatganiad o Lywodraethu
Corfforaethol yn awr, gan Bennaeth y Gwasanaethau Archwilio Mewnol ac roedd y
meysydd allweddol yn cynnwys:- -
Cwmpas y
Cyfrifoldeb -
Pwrpas y
Fframwaith Llywodraethu -
Elfennau
Allweddol o’n Fframwaith Llywodraethu -
Chwe Egwyddor
Allweddol y Cod Llywodraethu Corfforaethol -
Adolygiad o
Effeithiolrwydd -
Materion
Llywodraethu Arwyddocaol Darparodd Pennaeth y Gwasanaethau
Archwilio’r ymatebion canlynol i faterion a chwestiynau gan Aelodau:- O ran graddfeydd amser a disgwyliad ar
gyfer delio â materion a nodwyd i fod wedi eu darllen, esboniwyd mai’r
disgwyliad, mewn achosion o faterion brys lle’r oedd yna risg sylweddol, fyddai
delio â’r mater fel mater o frys. Ond,
yn achos Llywodraethu Gwybodaeth doedd yna’r un datrysiad sydyn ac fe fyddai
yna raddfeydd amser amrywiol yn ddibynnol ar y mater dan sylw. O ran prosiectau i’w sgopio fe fyddai yna
gynllun prosiect a fyddai â graddfeydd amser perthnasol. Fe amlygwyd pwysigrwydd nodi camau lliniarol
yn erbyn risgiau gan ystyried materion fel oblygiadau ariannol, ffactorau
mewnol ac allanol, ac er bod cod lliw yn ddefnyddiol byddai’n bwysig edrych ar
gyd-destun y risg. Esboniwyd fod y DLlB
yn ffurfio rhan o Ddatganiad Cyfrifon Blynyddol y Cyngor. Mewn ymateb
i gwestiwn gan y Cynghorydd G.M. Kensler, fe amlinellodd Bennaeth y
Gwasanaethau Democrataidd waith a wnaethpwyd yn archwilio’r polisïau a’r gweithdrefnau i reoli gwybodaeth o ran y
Deddfau Diogelu Data a Rhyddid Gwybodaeth.
Cyfeiriodd at y gwaith a wnaethpwyd i sicrhau fod Aelodau wedi eu
cofrestru efo’r Comisiynydd Gwybodaeth, ac fe gadarnhaodd y Pennaeth
Gwasanaethau Archwilio Mewnol fod ei wasanaeth ar hyn o bryd yn ymgymryd ag
adolygiad o ddiogelwch data a rhyddid gwybodaeth a oedd yn cynnwys asesiad o
ymwybyddiaeth staff yn y meysydd hyn. PENDERFYNWYD
– bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn
yr adroddiad ac yn cymeradwyo mabwysiadu’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol yn
rhan o Ddatganiad Cyfrifon y Cyngor. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL ARCHWILIO MEWNOL DRAFFT 2011/12 PDF 502 KB Ystyried adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Archwilio
Mewnol (copi’n amgaeëdig) sy’n cyflwyno Adroddiad Blynyddol y Pennaeth
Archwilio Mewnol ar gyfer 2011/12. 11.30 a.m. – 11.45 a.m. Cofnodion: Roedd adroddiad gan Bennaeth y
Gwasanaethau Archwilio Mewnol, yn cyflwyno Adroddiad Blynyddol y Pennaeth
Archwilio Mewnol ar gyfer 2011/12, wedi ei gylchredeg â’r papurau ar gyfer y
cyfarfod. Roedd yr adroddiad yn cyflwyno Adroddiad
Blynyddol y Pennaeth Archwilio Mewnol ar gyfer 2011/12 (Atodiad 1). Roedd y Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol blaenorol wedi cymeradwyo fersiwn ddrafft cyn diwedd 2011/12,
gyda’r fersiwn derfynol yn gofyn am gymeradwyaeth y Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol. Esboniwyd
y dylai’r adroddiad blynyddol, yn unol â’r ‘Cod Ymarfer ar gyfer Archwilio
Mewnol mewn Llywodraeth Leol yn y Deyrnas Unedig’ (2006), a gyhoeddwyd gan
Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA):- ·
ddarparu barn ar ddigonolrwydd ac
effeithiolrwydd amgylchedd rheolaeth fewnol y sefydliad; ·
datgelu unrhyw amodau i’r farn honno, ynghyd
â’r rhesymau am yr amod; ·
cyflwyno crynodeb o’r gwaith archwilio a
ymgymerwyd i ffurfioli’r farn, yn cynnwys dibyniaeth a roddir ar waith gan
gyrff sicrwydd eraill; ·
tynnu sylw at unrhyw faterion sy’n arbennig
o berthnasol i baratoad y datganiad llywodraethu blynyddol yn ein barn ni; ·
rhoi sylwadau ar gydymffurfio â’r safonau a
gynhwysir yn y Cod Ymarfer a chyfathrebu canlyniadau’r rhaglen sicrwydd ansawdd
archwilio mewnol. Hysbyswyd
y Pwyllgor fod y Cod yn gofyn am Adroddiad Blynyddol i’r Pwyllgor Archwilio neu
gorff cyfwerth. Atodiad 1 – Roedd yr
Adroddiad Archwilio Mewnol Blynyddol 2011/12 yn cynnwys Barn yr Archwiliad Roedd digonolrwydd ac
effeithiolrwydd cyffredinol amgylchedd rheoli mewnol y sefydliad wedi ei
ddiffinio fel y polisïau, gweithdrefnau a’r gweithrediadau ac roedd y
rheiny wedi eu nodi yn yr adroddiad. Roedd Pennaeth y
Gwasanaethau Archwilio mewnol wedi seilio barn ei archwiliad ar y gwaith
Archwilio Mewnol a wnaethpwyd yn ystod 2011/12, y farn a ffurfiwyd ym mhob maes
adolygu a’r materion a godwyd yn ystod ein gwaith, fel y’i dangosir yn Atodiad
1. Gan ddefnyddio’r cyfraddiadau
sicrwydd newydd o Adroddiadau Archwilio mewnol, fel y’u dangosir yn y tabl a
gynhwysir yn yr adroddiad, barn y Pennaeth Archwilio Mewnol oedd y gallai Sir
Ddinbych gael sicrwydd ‘canolig’ yn nigonolrwydd cyffredinol ac effeithiolrwydd
ei amgylchedd rheoli mewnol yn cynnwys ei drefniadau ar gyfer llywodraethu a
rheoli risg. Ni chafwyd unrhyw faterion a oedd yn
berthnasol i’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol ac roedd ymateb Rheolaeth i
faterion a godwyd gan Archwilio Mewnol wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ynghyd â
manylion Mesurau Perfformiad Archwilio Mewnol.
O ran cydymffurfio â Safonau’r Cod Ymarfer, byddai Swyddfa Archwilio
Cymru’n adolygu’r gwasanaeth yn flynyddol, ond ni fyddai’n cynhyrchu adroddiad
ffurfiol. Fodd bynnag, nid oedd SAC wedi
codi unrhyw faterion o bryder efo’r gwasanaeth. Darparodd
Bennaeth y Gwasanaethau Archwilio Mewnol ddiweddariad byr o ran yr un adroddiad
archwilio a gyhoeddwyd ac a oedd â statws coch, a oedd yn ymwneud Roedd dadansoddiad o gyflenwad Strategaeth Archwilio Mewnol 2011/12 wedi ei
gynnwys yn yr adroddiad, ynghyd â sgorau sicrwydd a nifer y materion a godwyd
ar gyfer yr adolygiadau a gwblhawyd, y diffiniadau a ddefnyddiwyd i ffurfio ein
sicrwydd archwilio a’r cyfraddiadau a ddefnyddiwyd i asesu’r lefelau risg o ran
y materion a godwyd. Mewn
ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd, cadarnhaodd Bennaeth y Gwasanaethau
Archwilio Mewnol y byddai nifer y dyddiau cynlluniedig gwreiddiol yn wahanol
i’r dyddiau gwirioneddol, gan fod y strategaeth yn hyblyg a’i bod yn cael ei hadolygu
wrth i risgiau a blaenoriaethau newid. Cafwyd ymateb gan Bennaeth y Gwasanaethau Archwilio Mewnol i gwestiwn gan y Cynghorydd M.L. Holland ynglŷn â chyllidebau ysgolion ac adolygiad ... view the full Cofnodion text for item 11. |
|
ADRODDIAD CYNNYDD ARCHWILIO MEWNOL PDF 278 KB Ystyried adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Archwilio
Mewnol (copi’n amgaeëdig) sy’n rhoi diweddariad ar gynnydd diweddaraf y
Gwasanaeth Archwilio Mewnol o ran cyflwyno gwasanaeth, rhoi sicrhad,
adolygiadau a gwblhawyd, perfformiad ac effeithiolrwydd o ran gyrru
gwelliannau.
11.45 a.m. – 12.05 p.m. Cofnodion: Roedd adroddiad gan Bennaeth y
Gwasanaethau Archwilio Mewnol, a oedd yn rhoi diweddariad o’r Gwasanaeth
Archwilio Mewnol o ran darpariaeth ei wasanaeth, darpariaeth sicrwydd,
adolygiadau a gwblhawyd, perfformiad ac effeithiolrwydd gyda gyrru gwelliant, wedi
ei gylchredeg efo’r papurau ar gyfer y cyfarfod. Roedd diweddariad ar gyflenwad y Cynllun
Gweithredol ar gyfer 2012/13, adroddiad Archwilio Mewnol diweddar a gyhoeddwyd,
ymateb rheolaeth i faterion a godwyd a pherfformiad Archwilio Mewnol, wedi eu
darparu yn yr adroddiad. Darparodd
Bennaeth y Gwasanaethau Archwilio mewnol grynodeb o’r adroddiad a oedd yn
cynnwys manylion ynglŷn â:- ·
Chyflenwad y Strategaeth Archwilio
Mewnol 2012/13 ·
Crynodeb o Adroddiadau Archwilio Mewnol
Diweddar ·
Perfformiad Archwilio Mewnol Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau
Archwilio Mewnol wrth Aelodau’r Pwyllgor y bydden nhw’n derbyn copïau o bob
adroddiad terfynol Archwilio Mewnol yn y dyfodol. Roedd Atodiad 1 yn darparu dadansoddiad o’r
gwaith a wnaethpwyd yn ystod 2012/13 mewn cymhariaeth â’r Strategaeth Archwilio
Mewnol a gytunwyd. Roedd yn cynnwys
sgorau sicrwydd a nifer o faterion a godwyd ar gyfer yr adolygiadau a
gwblhawyd, diffiniadau a ddefnyddiwyd i ffurfio’r sicrwydd archwilio a’r
cyfraddiadau a ddefnyddiwyd i asesu lefelau risg ar gyfer materion a
godwyd. Roedd crynodeb o Adroddiadau
Archwilio Mewnol Diweddar, sy’n defnyddio lliwiau ar gyfer cyfraddiadau
sicrwydd, wedi ei gynnwys mewn tabl yn yr adroddiad. Roedd y rhestr ganlynol o adroddiadau archwilio a roddwyd ers
Mawrth, 2012, a oedd yn cynnwys barn archwilio, materion a godwyd a sylwadau,
wedi eu hymgorffori yn yr adroddiad:- - Rheolaeth Rhaglenni a
Phrosiectau - (N/A) - Rheolaeth Adeiladu
Cymunedol, Neuadd Tref y Rhyl - (Melyn) - Portffolio Risg Corfforaethol,
Asedau -
(N/A) - Priffyrdd a Seilwaith,
Prosiectau Mawr - (Melyn) - Profi Sicrwydd Systemau
Ariannol (IDEA) 2011-12 - (Gwyrdd) - Grant Menter Brecwast
Llywodraeth Cymru - (Gwyrdd) - Gwasanaethau Ariannol,
Cyfnod 2 (Gwasanaethau Rhuthun) - (Gwyrdd) Mewn
ymateb i awgrymiadau gan Aelodau cytunwyd bod y Pennaeth Gwasanaethau
Archwilio’n cylchredeg yr Adroddiadau Archwilio a nodwyd yn felyn, Rheolaeth
Adeiladu Cymunedol - Neuadd Tref y Rhyl a Phriffyrdd a Seilwaith - Prosiectau
Mawr, ynghyd â Gwasanaethau Ariannol, cyfnod 2 (Gwasanaethau Rhuthun)
(Gwyrdd). Cadarnhaodd hefyd y gellid
cylchredeg yr Adroddiadau Archwilio eraill a oedd wedi eu cyhoeddi hefyd ar
gais Aelodau. Darparwyd
amlinelliad o Berfformiad Archwilio mewnol – Mesurau Allweddol ar gyfer y
Pwyllgor fel y’u hamlinellir yn yr adroddiad.
Esboniwyd
fod y rhan fwyaf o adroddiadau Archwilio Mewnol yn nodi risgiau a gwendidau
rheoli ac fe raddiwyd y rhain yn risgiau critigol, mawr neu gymedrol. Roedd Rheolaeth wedi cytuno ar gamau i ddelio
â’r risgiau, yn cynnwys cyfrifoldebau a graddfeydd amser. Byddai pob achos yn cael ei adrodd lle byddai rheolaeth wedi
methu ag ymateb i waith ategol neu le’r oedd dyddiadau gweithredu wedi mynd
dros eu hamser o fwy na thri mis.
Byddai’r Pwyllgor yn penderfynu, er enghraifft, drwy alw’r bobl
berthnasol i’r cyfarfod nesaf i esbonio’r diffyg cynnydd. Cadarnhawyd nad oedd yna unrhyw waith yn dal
ar ôl neu a oedd dros y terfyn amser o dri mis. Yn dilyn trafodaeth fer:- PENDERFYNWYD
– bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn:- (a)
derbyn yr adroddiad ac yn nodi cynnydd a
pherfformiad Archwilio Mewnol hyd yma yn
2012/13 (b) nodi’r
adroddiadau Archwilio Mewnol diweddar a roddwyd a’r ymateb i’r gwaith ategol (c) cytuno i’r tri Adroddiad Archwilio a nodwyd gael eu
cylchredeg i Aelodau’r Pwyllgor. |
|
BLAENRAGLEN WAITH Y PWYLLGOR PDF 44 KB Ystyried rhaglen waith y Pwyllgor ar gyfer 2012/13 (copi’n amgaeëdig).
12.05 a.m. – 12.15 p.m. Cofnodion: Roedd copi o flaenrageln waith y Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol wedi ei gylchredeg efo’r papurau ar gyfer y cyfarfod. Cytunodd y Pwyllgor :- -
i alw cyfarfod
arbennig o’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ar Fedi 26ain 2012
i dderbyn y Datganiad Cyfrifon. -
i gynnwys
Adroddiad ar Ddigartrefedd ym Mlaenraglen Waith y Pwyllgor ar gyfer Hydref 14eg 2012. -
i Ddatganiadau
Ariannol, Monitro’r Cyllidebau gael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol yn chwarterol ar ôl Medi, 2012. -
i restru’r eitem
sy’n ymwneud â’r Cynllun Gweithredu Llywodraethu yn Rhaglen Waith y Pwyllgor ar
gyfer Tachwedd, 2012. Cyfeiriodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a
Democrataidd at yr adroddiad ar y Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000
(RIPA) a oedd wedi ei restru ar gyfer cyfarfod y pwyllgor ym mis Tachwedd
2012. Roedd Swyddfa’r Comisiynwyr
Arwylio wedi cynnal archwiliad o’r Awdurdod ym Mehefin 2012 a byddid yn
cyflwyno adroddiad i CET yng Ngorffennaf 2012.
Cytunodd yr Aelodau i’r adroddiad RIPA gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor
Llywodraethu Corfforaethol ym Medi, 2012 ac nid Tachwedd, 2012 fel a drefnwyd. Mewn ymateb i gais gan y Cynghorydd M.L.
Holland, cytunodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd i gysylltu
â Rheolwr Cymorth a Datblygiad Aelodau gyda’r bwriad o drefnu hyfforddiant i
Aelodau ar fantolenni ariannol, cyn cyfarfod arbennig y Pwyllgor ar Fedi 26ain 2012.
Byddai hefyd yn archwilio dichonolrwydd trefnu gweithdai hanner diwrnod
ar gyfer Aelodau ym Medi, 2012. Ar gais yr Aelodau, darparodd y
Cynghorydd J. Thompson-Hill amlinelliad o broses gosod cyllideb y Cyngor a’r
graddfeydd amser a oedd yn ymglymedig â hynny.
Cyfeiriodd at y cyfarfodydd Herio Gwasanaeth, tair sesiwn a oedd wedi eu
trefnu ar gyfer yr holl Aelodau, i’w cynnal yng nghyfnod yr hydref a’r gaeaf
gan ddechrau ym mis Hydref, 2012, a hynny’n arwain hyd at y broses gyllideb
ffurfiol i’w hystyried gan y Cabinet yn Ionawr a Chwefror, 2013. Cytunodd Pennaeth y Gwasanaethau
Cyfreithiol a Democrataidd i archwilio’r rheswm fod Adroddiad Blynyddol ‘Eich
Llais’ wedi ei restru ar gyfer cyfarfodydd mis Medi a mis Tachwedd, 2012. Cadarnhaodd fod Cylch Gwaith y Pwyllgor wedi
ei ddiweddaru ar adeg adolygiad Cyfansoddiad y Cyngor ym Mawrth, 2012. Cytunwyd y dylid darparu copi o Delerau
Gorchwyl y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol i Mr G. Bury, Swyddfa Archwilio
Cymru. Cytunwyd y gellid cylchredeg y
newidiadau i’r Rhaglen Hyfforddi Aelodau i’r Aelodau. Awgrymodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol
a Democrataidd na ddylid canslo’r sesiwn hyfforddi loywi o ran y Cod Ymddygiad
ac y gellid ei rhoi ar gael i gynulleidfa ehangach. Yn dilyn trafodaeth bellach:- PENDERFYNWYD
- yn amodol ar y diwygiadau
uchod, cymeradwyo Blaenraglen Waith y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol. Daeth y cyfarfod i ben am 12.05 p.m. |