Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad oddi wrth y Cynghorydd Arwel Roberts
am ei fod yn absennol. Mynegodd y Cadeirydd ddymuniadau gorau’r
Pwyllgor i’r Cynghorydd Arwel Roberts gael adferiad buan. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n peri rhagfarn yn gysylltiedig ag
unrhyw fater sydd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cadeirydd, yr Aelod Lleyg David Stewart,
fuddiant personol ynghylch yr holl eitemau ar y rhaglen, gan ei fod yn derbyn
pensiwn o Gronfa Bensiynau Clwyd. Datganodd yr Aelod Lleyg, Paul Whitham, fuddiant personol
ynghylch yr holl eitemau ar y rhaglen, gan ei fod yn derbyn pensiwn o Gronfa
Bensiynau Clwyd. Datganodd y Cynghorydd Ellie Chard fuddiant personol
ynghylch yr holl eitemau ar y rhaglen, gan ei bod yn derbyn pensiwn o Gronfa
Bensiynau Clwyd. Datganodd yr Aelod Lleyg, Nigel Rudd fuddiant personol
gan ei fod yn aelod o Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Cyngor Bwrdeistref
Sirol Conwy. |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw eitemau brys gyda’r
Cadeirydd cyn dechrau’r cyfarfod. Hysbysodd y Cadeirydd y Pwyllgor y byddai
trefn y rhaglen yn newid, gydag eitem 7 yn dod cyn eitem 6. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a gynhaliwyd ar 22 Ionawr 2025
(copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu ac
Archwilio a gynhaliwyd ar 22 Ionawr 2025. Materion cywirdeb – Wedi i gyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar
22 Ionawr 2025 ddod i ben, cafwyd trafodaeth gyfrinachol fer (rhan 2)
ynglŷn â’r ymchwiliad oedd yn mynd rhagddo, a dylid fod wedi nodi hynny yn
y cofnodion. Tudalen 9 – dywedodd y Cadeirydd yr ysgrifennwyd rhannau
o’r testun yn y cofnodion yn y person cyntaf gydol yr ail bwynt bwled, ac y
dylid fod wedi’i ysgrifennu yn y trydydd person. Materion yn codi – Hysbysodd y Cadeirydd y
Pwyllgor na fedrai’r Swyddog Adran 151 fod yn bresennol yn y cyfarfod ond ei
fod wedi cwrdd â hi o flaen llaw ac y byddai’n rhannu rhai o’i sylwadau
ynghylch rhai o’r materion oedd yn codi. Tudalen 8 – (eitem 6) – Strategaeth Rheoli’r Trysorlys:
Wrth sôn am adrodd ynghylch y Cynllun Cyfalaf i’r Pwyllgor Llywodraethu ac
Archwilio, roedd y Swyddog Adran 151 wedi dweud ei bod yn ystyried sut y gellid
gwneud hynny heb ddyblygu gwaith yn y drefn graffu. Tudalen 10 (eitem 7) – y Wybodaeth Ddiweddaraf ynghylch
Gosod Cyllideb Refeniw 2025/26: Holodd y Cadeirydd ynghylch y cynnydd mewn
cyfraniadau Yswiriant Gwladol gweithwyr a phryd y deuai mwy o fanylion yn
hysbys. Nid oedd y Swyddog Adran 151 yn disgwyl cadarnhad nes Haf 2025 neu wedi
hynny. Holwyd ynghylch y Prawf Straen ar gadernid ariannol y Cyngor yr oedd y
Pwyllgor wedi’i awgrymu, a gofynnwyd pryd y câi ei gwblhau. Roedd y Swyddog
Adran 151 wedi dweud y cwblheid y prawf ym mis Ebrill 2025. Croesawodd Nigel Rudd y ffaith y cwblheid yr adroddiad
ynghylch y Prawf Straen ym mis Ebrill 2025, a gofynnodd am ystyried Adroddiad
Archwilio Cymru o Gynaladwyedd Ariannol Cenedlaethol, a gyhoeddwyd ym mis
Rhagfyr 2024, ar yr un pryd fel rhan o’r drafodaeth. Roedd yr adroddiad y
cynnwys dangosyddion y byddai’n ddefnyddiol eu hystyried ochr yn ochr â’r Prawf
Straen. Croesawodd y Cadeirydd hynny. Tudalen 13 (eitem 8) – Asesiad y Panel Cymheiriaid –
hysbysodd y Swyddog Monitro’r Pwyllgor y cymeradwywyd yr holl argymhellion a
gyflwynwyd i’r Cabinet ac eithrio argymhelliad 8, a gafodd ei gynnwys mewn
argymhellion eraill a gymeradwywyd eisoes. PENDERFYNWYD: yn amodol ar yr uchod, derbyn a
chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Ionawr 2025 a’u cymeradwyo
fel rhai cywir. |
|
ARCHWILIO CYMRU - GWASANAETHAU COMISIYNU SIR DDINBYCH Ystyried
adroddiad gan Archwilio Cymru (copi ynghlwm) gan Bennaeth y Gwasanaeth Cymorth
Corfforaethol: Perfformiad, Digidol ac
Asedau ar Wasanaethau Comisiynu Sir Ddinbych. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Polisi, Cydraddoldeb a
Strategaeth Gorfforaethol yr adroddiad (a ddosbarthwyd o flaen llaw) i’r
aelodau. Rhoes yr adroddiad grynodeb o Adroddiad Archwilio Cymru
ynghylch Trefniadau ar gyfer Comisiynu Gwasanaethau yng Nghyngor Sir Ddinbych
ac ymatebion Swyddogion i’r argymhellion ar gyfer gwelliant. Rhwng mis Gorffennaf a mis Awst 2024, bu Archwilio Cymru
yn adolygu trefniadau Cyngor Sir Ddinbych ar gyfer comisiynu gwasanaethau, ac
yn benodol i ba raddau y datblygwyd hynny’n unol â’r egwyddor datblygu
cynaliadwy; byddai hefyd yn helpu i sicrhau gwerth am arian wrth ddefnyddio
adnoddau’r Cyngor. Cyflwynwyd yr adroddiad llawn yn Atodiad 1 (a’i ddosbarthu o
flaen llaw). Roedd Archwilio Cymru’n gwneud y gwaith m mhob un o’r 22
o brif Gynghorau yng Nghymru ac yn ogystal ag adrodd yn lleol wrth bob Cyngor,
roeddent hefyd yn bwriadu cyhoeddi adroddiad cenedlaethol. Comisiynu oedd y broses a ddefnyddiai’r Cyngor wrth ddylunio gwasanaethau y bwriadai
eu darparu. Roedd hynny’n dechrau drwy ddiffinio’r gwasanaethau a’r canlyniadau
a ddymunwyd ac yn dod i ben pan fyddai’r Cyngor yn trefnu’r dull darparu. Er
enghraifft, trwy sefydlu tîm darparu yn fewnol neu gaffael cyflenwr
allanol. Nid oedd yr Archwiliad hwn yn
ymdrin â threfniadau caffael na threfniadau rheoli contractau’r Cyngor. Cyhoeddwyd adroddiad terfynol Cyngor Sir Ddinbych ym mis
Rhagfyr 2024 a deuai i’r casgliad cyffredinol fod y Cyngor wedi pennu
disgwyliadau eglur ar gyfer adrannau wrth gomisiynu gwasanaethau, ond nad oedd
gan y Cyngor drefniadau i sicrhau y cyflawnid y rheiny’n gyson. Roedd yr adroddiad yn cynnwys dau o argymhellion ar gyfer
gwella. Roedd Atodiad 2 (a ddosbarthwyd o flaen llaw) yn cynnwys ymateb
rheolwyr i argymhellion Archwilio Cymru ar gyfer gwella. Rhoes Pennaeth y Gwasanaethau Cymorth Corfforaethol: Pobl fwy o fanylion ynghylch yr adroddiad. Roedd yr adroddiad yn canolbwyntio ar un cwestiwn yn
benodol, sef a oedd y Cyngor yn sefydlu trefniadau priodol i sicrhau gwerth am
arian wrth ddefnyddio ei adnoddau. Dechreuai’r broses drwy ystyried y
gwasanaethau hynny roedd y Cyngor yn eu darparu a’r canlyniadau y dymunai eu
cyflawni, cyn gorffen drwy ystyried sut fyddai’r Cyngor yn darparu’r
gwasanaethau dan sylw. Roedd y broses yn bwysig iawn wrth sicrhau y darperid
gwasanaethau’n ddarbodus, yn effeithiol ac yn effeithlon. Hynny oedd y sylfaen
ar gyfer gweddill y broses, a oedd yn cynnwys caffael a threfniadau rheoli
contractau. Fel y nodwyd uchod, daeth adroddiad Archwilio Cymru i’r
casgliad cyffredinol fod y Cyngor wedi pennu disgwyliadau eglur ar gyfer
adrannau wrth gomisiynu gwasanaethau, ond nad oedd gan y Cyngor drefniadau i
sicrhau y cyflawnid y rheiny’n gyson. Roedd yr adroddiad yn ymhelaethu ar y
sail ar gyfer barn Archwilio Cymru ac roedd a wnelo hynny yn y bôn â’r ffaith y
gallai’r Cyngor ddangos sail resymegol bendant ar gyfer comisiynu gwasanaethau
a’i fod yn egluro hynny yn ei Strategaethau Caffael a Chomisiynu. Roedd y
prosesau a’r ffurflen Comisiynu’n annog adrannau i ystyried eu sail resymegol
hwythau ar gyfer comisiynu gwasanaethau i ateb eu gofynion a sut y byddent yn
gwneud hynny. Sefydlwyd trefniadau hefyd i arfarnu dewisiadau wrth
gomisiynu gwasanaethau. Serch hynny, nid oedd gan y Cyngor drefniadau
systematig i annog adrannau i ddechrau ystyried dewisiadau comisiynu ar yr adeg
briodol. Yr adrannau eu hunain oedd yn trefnu eu gweithgareddau comisiynu yn
hytrach na bod yno drefn gorfforaethol. Deuai’r adroddiad i’r casgliad nad oedd y Cyngor yn
ystyried ffactorau tymor byr, tymor canolig a thymor hir a allai ddylanwadu ar
amserlenni comisiynu, ac y dylid ymgorffori hynny yn y broses. Rhoes Pennaeth y
Gwasanaethau Cymorth Corfforaethol: Pobl eglurhad manwl o gasgliadau’r
adroddiad. Gwnaeth Archwilio Cymru ddau o argymhellion i’r Cyngor: · Cryfhau gorolwg strategol
ar waith comisiynu · Datblygu’r trefniadau ffurfiol ar gyfer ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Derbyn adroddiad
(copi ynghlwm) gan Archwilio Cymru gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd
a Gwasanaethau Cefn Gwlad ar Graciau yn y Sylfeini - Diogelwch Adeiladau yng
Nghymru. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y
Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad yr adroddiad (a ddosbarthwyd o flaen llaw)
i’r Pwyllgor. Rhoes yr adroddiad orolwg ar Adroddiad
Archwilio Cymru ynghylch ‘Craciau yn y Sylfeini’ – Diogelwch Adeiladau yng
Nghymru’ ac ymateb rheolwyr i’r argymhellion ar gyfer awdurdodau lleol. Wedi’r tân yn Nhŵr Grenfell yn 2017,
cynhaliwyd adolygiad annibynnol o Reoliadau Adeiladu a Diogelwch Tân a
chyhoeddwyd y canfyddiadau yn 2018. Amlygodd yr adolygiad bryderon difrifol
ynghylch y gyfundrefn bresennol ar gyfer diogelwch adeiladau ac yn sgil hynny,
argymhellwyd rhoi fframwaith newydd ar waith, sef Deddf Diogelwch Adeiladau
2022. Cyflwynodd y Ddeddf honno’r newid mwyaf
sylweddol mewn rheoliadau diogelwch adeiladau ers 1984 a neilltuwyd nifer o
gyfrifoldebau arwyddocaol i Awdurdodau Lleol a swyddogion. Nod Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 oedd
gwella diogelwch wrth godi adeiladau uchel ac ansafonol drwy bennu rheoliadau
ychwanegol ar gyfer dylunio adeiladau felly, eu hadeiladu, eu cynnal a chadw
a’u defnyddio. Roedd Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 hefyd wedi cyflwyno
gofynion newydd i sicrhau fod Swyddogion Rheoli Adeiladau’n profi eu cymhwysedd
mewn un o dair o lefelau (Domestig, Cyffredinol ac Arbenigol). Er mwyn deall sefyllfa bresennol Awdurdodau
Lleol a dangos i ba raddau y cydymffurfir â’r Ddeddf newydd, cyhoeddodd
Archwilio Cymru’r adroddiad ‘Craciau yn y Sylfeini – Diogelwch Adeiladau yng
Nghymru’ (a ddosbarthwyd o flaen llaw). Roedd yr adroddiad yn ystyried
trefniadau Rheoli Adeiladau Awdurdodau Lleol yng Nghymru a’u gallu i gyflawni
gofynion newydd Deddf Diogelwch Adeiladau 2022. Roedd y canfyddiadau allweddol
yn yr adroddiad yn amlygu pryderon ynghylch gallu swyddogion a phrinder
gweithwyr proffesiynol cymwys. Yn unol â hynny, soniai’r adroddiad na châi
cyfrifoldebau a gofynion y ddeddf o reidrwydd eu cyflawni fel y bwriadwyd.
Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys wyth o argymhellion; neilltuwyd pedwar
ohonynt i Lywodraeth Cymru a phedwar i Awdurdodau Lleol, ac fe’u cyflwynwyd yn
Atodiad 2 i’r adroddiad. Diolchodd y Cadeirydd i’r Pennaeth Cynllunio,
Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad am yr adroddiad a gwahoddodd
Aelodau i ofyn cwestiynau. Holodd aelodau pam nad oedd yr adroddiad yn
sôn am goncrit awyredig awtoclafiedig cydnerth (RAAC). Dywedodd y
Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad ei fod ar
ddeall bod RAAC ymysg cyfrifoldebau’r adrannau Eiddo ac Addysg ac y byddai’n
siarad â’r adran Eiddo ar ôl y cyfarfod i ofyn am nodyn i’w gynnwys yn ymateb y
Cyngor ynghylch RAAC (cam gweithredu i EJ). Holodd aelodau a oedd yr adroddiad yn golygu
ei bod bellach yn ddiogel i gaffael / defnyddio’r holl gladin a ddarperid yng
Nghymru. Dywedodd y Rheolwr Rheoli Adeiladu Dros Dro fod yno bellach fesurau
rheoli dan y gyfundrefn safonau cymhwysedd newydd. Rhennid y Safonau Cymhwysedd
yn feini prawf Domestig, Cyffredinol ac Arbenigol a chynorthwywyd swyddogion i
gyflawni’r safonau hynny er mwyn cynnal lefelau cymhwysedd a diogelwch. Holwyd pwy oedd yn gyfrifol am ddiogelwch
adeiladau uchel, ai’r Awdurdod Lleol ynteu’r contractwr. Eglurodd y Pennaeth
Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad bod y sefyllfa’n dra
chymhleth. Gwyddai Awdurdodau Lleol yn bendant beth oedd eu cyfrifoldebau
ynglŷn â chladin a diogelwch tân, a gweithiant mewn partneriaeth â
Llywodraeth Cymru yn hynny o beth. Ychwanegodd y Rheolwr Rheoli Adeiladu Dros
Dro na châi unrhyw adeiladau eu cymeradwyo na’u defnyddio heb fod yno
dystiolaeth o gydymffurfio’n briodol, a bod y drefn honno’n cychwyn yn y cam
dylunio ac yn parhau nes cwblheid y gwaith ar y safle. Soniodd aelodau am broblemau â thir halogedig, ond dywedodd y Cadeirydd nad oedd yr adroddiad yn ymdrin â hynny gan awgrymu y dylid trafod y mater yng nghyfarfod nesaf y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu, a chytunodd yr aelodau ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
SIARTER, STRATEGAETH A RHAGLEN SICRWYDD ANSAWDD A GWELLA ARCHWILIO MEWNOL 2025-2026 Ystyried
adroddiad (copi ynghlwm gan y Prif Archwilydd Mewnol ar y Siarter Archwilio
Mewnol, a Rhaglen Sicrwydd Ansawdd a Gwella Archwilio Mewnol 2025-2026. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Prif Archwilydd Mewnol adroddiad (a ddosbarthwyd o flaen llaw) ynghylch Rhaglen
Strategaeth, Sicrhau Ansawdd a Gwella’r gwasanaeth Archwilio Mewnol yn
2025-2026. Roedd y Strategaeth yn rhoi cefndir i’r gwasanaeth Archwilio Mewnol,
ond dilëwyd y cynllun blynyddol eleni ac fe’i cyflwynid i’r Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio ar wahân ar 11 Mehefin 2026. Yn ystod y deuddeg
mis diwethaf bu Sefydliad yr Archwilwyr Mewnol yn ymgynghori ag archwilwyr
proffesiynol ynghylch y Safonau Archwilio Mewnol Byd-eang newydd a ddaeth i rym
ym mis Ionawr 2025. Roedd y Safonau Byd-eang yn llywio arferion proffesiynol
archwilio mewnol yn rhyngwladol ac yn sail ar gyfer arfarnu ansawdd y gwaith
archwilio mewnol. Er mwyn sicrhau
bod yr holl Awdurdodau Lleol yn cydymffurfio â’r Safonau Byd-eang newydd, roedd
y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth, wedi adolygu’r
safonau a llunio Safonau Archwilio Mewnol Byd-eang yn Sector Cyhoeddus y
Deyrnas Unedig ym mis Chwefror 2025. Roedd gan Awdurdodau Lleol ddeuddeg mis i
adolygu eu holl ddogfennau a phrosesau archwilio mewnol a chydymffurfio â
Safonau Archwilio Mewnol Byd-eang yn Sector Cyhoeddus y Deyrnas Unedig. Gan na ddaeth y
ddeddfwriaeth i rym nes mis Chwefror 2025, roedd y tîm Archwilio Mewnol wedi
adolygu ei Raglen Sicrhau Ansawdd a Gwella yn ôl Safonau Archwilio Mewnol y
Sector Cyhoeddus, a byddai’n mynd ati yn y deuddeg mis nesaf i adolygu’r
Rhaglen yn ôl y Safonau Byd-eang yn Sector Cyhoeddus y Deyrnas Unedig gyda’r
nod o gydymffurfio’n llwyr erbyn mis Mawrth 2026. Yn unol â’r
Safonau Archwilio Mewnol Byd-eang yn Sector Cyhoeddus y Deyrnas Unedig,
cynhelir asesiad allanol o leiaf unwaith bob pum mlynedd i sicrhau y câi’r
safonau proffesiynol eu gweithredu’n gyson. Cynhaliodd Cyngor Sir Ceredigion
asesiad allanol yn 2023-24 dan hen Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus,
ar ffurf adolygiad gan gymheiriaid a drefnwyd trwy’r Grŵp Prif Archwilwyr
Cymru. Bu’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio’n trafod canlyniadau’r adolygiad
hwn ar 12 Mehefin 2024. Yn y deuddeg mis
diwethaf, bu’r Prif Archwilydd Mewnol yn gweithio i gyflawni’r cynllun
gweithredu a gytunwyd er mwyn sicrhau y cydymffurfid yn llwyr, a darperid
adroddiadau ynglŷn â’r cynnydd bob tri mis i’r Pwyllgor Llywodraethu ac
Archwilio. Diolchodd y
Cadeirydd i’r Prif Archwilydd Mewnol am yr adroddiad, gan ddweud ei bod yn
bwysig bod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio’n cydymffurfio â’r Safonau
Cenedlaethol. Mynegodd y
Cadeirydd bryderon ynglŷn â lleihau’r Tîm Archwilio Mewnol drwy beidio â
llenwi un o’r swyddi/ Holwyd ynghylch asesiad y Swyddog Adran 151 o’r adnoddau
archwilio mewnol a’r hyn a fyddai’n digwydd pe byddai’r Pwyllgor Llywodraethu
ac Archwilio’n anghytuno â’r asesiad. Derbyniwyd adroddiadau yn y gorffennol
ynglŷn ag ymchwiliadau a gynhaliwyd ond hefyd yn sôn na fu modd cyflawni’r
gwaith archwilio a gynlluniwyd. Awgrymodd y Cadeirydd gynnwys argymhelliad
ychwanegol yn gofyn am gyflwyno adroddiad i’r Pwyllgor Llywodraethu ac
Archwilio cyn gwneud unrhyw benderfyniad i argymell cwtogi ar yr adnoddau
Archwilio Mewnol. Bu’r aelodau hefyd
yn trafod y risgiau a nodwyd yn yr adroddiad o safbwynt adnoddau’r tîm
Archwilio Mewnol, gan gyfeirio at baragraff 10.1 yn yr adroddiad, a oedd yn
datgan: ‘Gall methu â
chyflwyno lefel ddigonol o archwilio mewnol olygu na all y Prif Archwilydd
Mewnol roi barn flynyddol ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd fframwaith y
Cyngor ar lywodraethu, risg a rheolaeth yn ystod y flwyddyn.’ Ychwanegodd
aelodau bod y tîm Archwilio Mewnol yn hollbwysig i drefn lywodraethu’r Cyngor.
Roedd yr aelodau’n rhannu pryderon y Cadeirydd ac yn cytuno â’r argymhelliad
ychwanegol. Eglurodd y Swyddog Monitro mai un o ddibenion y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio oedd goruchwylio trefniadau archwilio mewnol ac allanol yr Awdurdod, ac felly roedd gan y Pwyllgor hawl i awgrymu, os oedd unrhyw fwriad i newid ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
ER GWYBODAETH - ADRODDIAD CYSGOD Y GAER Derbyn adroddiad
(copi ynghlwm) gan y Rheolwr Gwasanaeth: Gwasanaethau Cleient ar Archwiliad
Arolygiaeth Gofal Cymru Cysgod Y Gaer. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cadeirydd yr adroddiad (a
ddosbarthwyd o flaen llaw) a hysbysodd y Pwyllgor mai adroddiad er gwybodaeth
yn unig ydoedd. Croesawodd y Cadeirydd y canfyddiadau
cadarnhaol yn yr adroddiad. PENDERFYNWYD: nodi’r
adroddiad ynghylch Cysgod y Gaer. |
|
RHAGLEN WAITH Y PWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO Ystyried rhaglen
waith y pwyllgor (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen Waith y Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio (a ddosbarthwyd o flaen llaw) i’w hystyried. Cytunwyd i gynnal cyfarfod rhwng y Cadeirydd,
y Pennaeth Archwilio Mewnol a’r Swyddog Monitro er mwyn pennu Rhaglen Waith y
Pwyllgor. Cytunwyd i
hysbysu’r aelodau lleyg o drafodaeth y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
ynghylch adroddiadau’r Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol (neu ba
bynnag gorff a fyddai’n ei olynu). PENDERFYNWYD: yn amodol ar
yr uchod, nodi Rhaglen Waith y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Daeth y cyfarfod i ben am 12.25pm |