Agenda and draft minutes
Lleoliad: trwy gynhadledd fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd
Martyn Holland. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 197 KB Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd fel un i'w ystyried
yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad. |
|
MATERION BRYS Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y
Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran
100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw faterion brys. |
|
Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio a gynhaliwyd ar
28 Gorffennaf 2021 (copi’n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu ac
Archwilio a gynhaliwyd ar 28 Gorffennaf 2021. Materion cywirdeb - Dim Materion yn codi - Tudalen 12 - Eitem 8 - Strategaeth ar
gyfer atal a chanfod twyll, llwgr a llwgrwobrwyo, a’r cynllun ymateb i dwyll -
Cadarnhaodd y Swyddog Monitro, dan y Cod Ymddygiad, mae gofyn i Aelodau
gofrestru eu diddordebau a hysbysu’r awdurdod o unrhyw newid. Mae hyn yn gymwys
i aelodau ac aelodau cyfetholedig. Tudalen 13 - Eitem 9 -
diweddariad Archwilio Mewnol - gofynnwyd i Aelodau a fyddai hyfforddiant yn cael ei ddarparu cyn
y broses etholiad nesaf. Dywedodd y Prif
Archwilydd Mewnol y byddai’n gwneud cais am wybodaeth gan Sefydliad Siartredig
Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth i weld a fyddai’n bosib cynnal sesiwn
hyfforddi. PENDERFYNWYD yn amodol ar yr
uchod, y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu
ac Archwilio a gynhaliwyd ar 28 Gorffennaf fel cofnod cywir.
|
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL IECHYD A DIOGELWCH CORFFORAETHOL PDF 274 KB Derbyn adroddiad gan y Rheolwr Iechyd a
Diogelwch Corfforaethol ar reolaeth iechyd a diogelwch o fewn Cyngor Sir
Ddinbych yn ystod 2020-2021 (copi’n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau
Strategol yr adroddiad Iechyd a Diogelwch Blynyddol (a ddosbarthwyd yn
flaenorol). Cafodd Aelodau eu hysbysu bod yr adroddiad yn cynnwys geirfa,
asesiad o 3 faes allweddol a sut mae’r gwasanaeth wedi parhau yn ystod
Covid-19. Dywedodd yr Aelod Arweiniol bod yr asesiad cyffredinol ar gyfer y tîm
iechyd a diogelwch wedi cael sicrwydd canolig, gyda hanes da o waith iechyd a
diogelwch yn Sir Ddinbych. Arweiniodd y
Rheolwr Iechyd a Diogelwch Corfforaethol (CHSM) aelodau drwy’r adroddiadau
Iechyd a Diogelwch Blynyddol. Roedd rhan gyntaf yr adroddiad yn cynnwys asesiad
o berfformiad iechyd a diogelwch yn nhermau sut mae’r diwylliant yn gweithio, a
rhoddwyd sgôr sicrwydd. Ym marn y CHSM, roedd Sir Ddinbych wedi ymateb yn dda
i’r cyfyngiadau a’r newidiadau a osodwyd ar y gwasanaeth. Roedd diwylliant Diogelwch, Iechyd a Lles yng Nghyngor
Sir Ddinbych wedi bod ar lwybr gwelliant parhaus er sawl blwyddyn. Y gwelliant
mwyaf diweddar oedd cynnwys gweithwyr. Roedd gan hyn botensial am effaith
gadarnhaol sylweddol ar ”ddiwylliant diogelwch”. Roedd Aelodau wedi clywed bod y tîm Iechyd a Diogelwch wedi
ymateb yn gyflym i reoliadau a chanllawiau’r llywodraeth. Datblygwyd Asesiadau Risg a gweithdrefnau
gweithio’n ddiogel cyn gynted ag y bo'n ymarferol, ac roedd yn adlewyrchu’r
safle oedd yn newid yn gyflym. Roedd gwaith ar y cyd gyda’r canllawiau’r Awdurdod
Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn sicrhau bod rheoliadau’n cael eu diwallu.
Cafodd dull Cyngor Sir Ddinbych o reoli’r risg yn sgil Covid-19 ei asesu fel
sicrwydd uchel. Amlygwyd y ffaith na chafodd unrhyw ddigwyddiad RIDDOR yn
ystod 2020/21 ei archwilio’n ffurfiol gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a
Diogelwch. Amlygodd CHSM bod gwelliant wedi cael ei nodi mewn sawl
maes, gyda’r prif rai yn cael eu canfod mewn: ·
Ysgolion. ·
Gwasanaethau Cymorth
Cymunedol. ·
Hamdden Sir Ddinbych
Cyf. ·
Rheoli a chasglu
gwastraff. Llywiwyd
Aelodau drwy’r pwyntiau i’w nodi yn ystod 2020/21, gyda pandemig Covid-19 y
prif un. Roedd canolbwyntio ar un pwnc wedi caniatáu i’r sefydliad ymateb yn
dda i’r newidiadau. Roedd yr Awdurdod
Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn cytuno gyda’r farn hon. Roedd
ysgolion wedi bod yn nodwedd gyfrwng yn ystod y pandemig gyda’r canllawiau’n
newid sawl gwaith yn ystod y flwyddyn. Cwblhaodd a rhannodd pob ysgol yn Sir
Ddinbych asesiad risg covid-19. Pwysleisiwyd
bod y gwasanaethau Rheoli a Chasglu Gwastraff wedi perfformio’n dda hefyd yn
ystod cyfnod anodd. Cafodd safle’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ei
adlewyrchu ymhob dogfen ganllawiau a chyfathrebiadau yn ymwneud â’r risg o
Covid-19 yn ein gweithleoedd. Cynhaliodd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
nifer o hapwiriadau cydymffurfiaeth â Covid Cyngor Sir Ddinbych drwy gydol y
flwyddyn. Ni godwyd unrhyw bryderon yn
ystod y gwiriadau. Roedd pwysigrwydd monitro Dirgryniad Llaw Braich yn
flaenoriaeth o hyd ar gyfer y tîm. Darparwyd rhestr fanwl i aelodau o’r holl
feysydd gwaith mae Iechyd a Diogelwch Corfforaethol yn rhan ohonynt. Mae
amserlen gwaith ar gyfer 2021/22 wedi cael ei gynnwys yn y pecyn er gwybodaeth
aelodau. Diolchodd y Cadeirydd y CHSM a’r tîm am yr holl waith
caled a wnaed yn ystod y flwyddyn, a chanmolodd gwaith y tîm i gynnal safon dda
o asesiad. Trafodaeth Gyffredinol – ·
Mae cefnogaeth ac
ymgysylltiad yr uwch dîm rheoli yn bwysig. ·
Nid oes tystiolaeth i awgrymu
bod cynnydd mewn llithro, baglu a chwympo wedi digwydd oherwydd unigolion ddim
yn defnyddio canllaw neu gymorth cynnal. ·
Roedd pwysigrwydd
hyfforddiant corfforol yn hanfodol ar gyfer datblygiad unigolion. · Gydag unrhyw adroddiad RIDDOR, cynhaliwyd archwiliad, yn seiliedig ar y wybodaeth ar adroddiad y digwyddiad. Byddai pob achos yn y papurau yn cael eu harchwilio. Gellir darparu hyfforddiant pellach os oes angen. Bydd y tîm yn gofyn yr holl gwestiynau angenrheidiol i ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
ADRODDIAD DIOGELWCH TÂN BLYNYDDOL PDF 202 KB Derbyn adroddiad
gan y Rheolwr Diogelwch Tân (copi'n amgaeedig) ar waith blynyddol y Tîm Iechyd a Diogelwch Eiddo ar raglen a
pherfformiad Diogelwch Tân. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol yr adroddiad tân
blynyddol (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i’r aelodau. Roedd yr adroddiad yn
ffurfio elfen o’r gwaith diogelwch a gynhaliodd Sir Ddinbych. Mae’r adroddiad yn manylu ar y gwahanol
fathau o asesiad risgiau tân a gwybodaeth ar rhai o ddangosyddion perfformiad
allweddol. Estynnodd y Rheolwr Diogelwch Tân ei ddiolch i’r Aelod
Arweiniol am y cyflwyniad. Cadarnhawyd bod cynnydd yn yr asesiadau a gynhaliwyd dros
y 12 mis diwethaf. Roedd cyflwyniad staff newydd i gynorthwyo gyda gwneud
apwyntiadau gyda safleoedd i gynnal asesiadau wedi gwella’r gwasanaeth yn fawr.
Cynhaliwyd cyfarfodydd rheolaidd i sicrhau bod asesiadau angenrheidiol yn cael
eu cwblhau ar amser. Atgoffwyd Aelodau bod 3 chategori o asesiadau Risigiau
Tân. Cartrefi gofal yw’r risg fwyaf, yn ogystal ag ysgolion. Oherwydd pandemig
Covid, nid oedd modd cynnal nifer o ymweliadau safle wyneb yn wyneb. Roedd
archwiliadau wrth ddesg o’r gwaith papur wedi cael ei gynnal. Mae gwaith yn cael ei gynnal gyda’r gwasanaeth tai i
asesu risgiau ardaloedd cymunedol tai, ac mae asesiadau’n cael eu cynnal bob 2
flynedd ar hyn o bryd, ond efallai bydd angen newid hyn i fod yn flynyddol.
Hysbyswyd Aelodau bod 28 safle ychwanegol a fyddai’n destun asesiad o fewn
adeilad â sawl ymgeisydd, ac roedd pob un wedi’u trefnu i’w cwblhau. Diolchodd y Cadeirydd i’r Aelod Arweiniol a’r swyddog am
yr adroddiad. Yn ystod y drafodaeth, ymhelaethodd y swyddogion ar feysydd
allweddol i’w trafod: ·
Roedd blaenoriaethau allweddol ar gyfer 2021/22
wedi cael eu datblygu wrth i’r rhaglen waith ddatblygu a’r meysydd lle gallai
datblygu’r gwasanaeth. ·
Roedd hyfforddiant ar gyfarpar diffoddyddion tân yn
cael ei drafod ar hyn o bryd gyda chyfleusterau. ·
Cadarnhawyd nad oedd adeiladau Sir Ddinbych yn cael
eu cynnwys yn y rhaglen asesu. Byddai’r landlord yn gyfrifol am gynnal asesiad
risgiau tân mewn adeiladau domestig. ·
Roedd cyfarfodydd ar-lein wedi cael eu cynnal yn
ystod y cyfnod clo yn unig; roedd ymweliadau wyneb yn wyneb wedi ailddechrau
ers hynny. ·
Cyfrifoldeb deiliad eiddo manwerthu neu brydles yw
darparu copïau o’r asesiadau risgiau tân i’r gwasanaeth. ·
Y bwriad mewn ysgolion oedd bod rheolwr enwebedig
yr adeilad neu’r Pennaeth yn monitro’r asesiad risgiau tân yn rheolaidd ac yn
darparu gwybodaeth o unrhyw newidiadau i’r gwasanaeth. Aelodau, PENDERFYNWYD – bod y
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn derbyn yr Adroddiad Blynyddol Diogelwch
Tân ac yn nodi ei gynnwys. |
|
DATGANIAD CYFRIFON DRAFFT PDF 223 KB Derbyn adroddiad
gan y Pennaeth Cyllid ac Eiddo (copi'n amgaeedig) sy'n darparu trosolwg o
Ddatganiad drafft o Gyfrifon 2020/21 a'r broses sy'n sail iddo. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac
Asedau Strategol y Datganiad Cyfrifon Drafft ar gyfer 2020/21 (a ddosbarthwyr
yn flaenorol). Darparodd yr adroddiad drosolwg o’r Datganiad Cyfrifon drafft ar
gyfer 2020/21 a’r broses sy’n sail iddo. Roedd cyflwyno’r cyfrifon drafft yn
darparu dangosydd cynnar o sefyllfa ariannol y cyngor, ac yn amlygu unrhyw
broblemau yn y cyfrifon, neu’r broses cyn archwilio’r cyfrifon. Cadarnhawyd i aelodau, er mwyn diwallu amserlen Cyngor
Sir Ddinbych ac Archwilio Cymru, roedd dyddiad cau estynedig wedi cael ei
fabwysiadu ar gyfer cyfrifon eleni. Yr adroddiad ynghlwm oedd y Datganiad
Cyfrifon drafft, a byddai’r Datganiad Cyfrifon terfynol yn cael ei gyflwyno yn
ôl ym mis Tachwedd 2021, i’w lofnodi gan y pwyllgor. Atgoffodd y Pennaeth Cyllid a Gwasanaethau Eiddo aelodau
bod adroddiad wedi cael ei gyflwyno ym mis Gorffennaf i esbonio’r amgylchiadau
gyda’r oedi wrth gwblhau’r Datganiad Cyfrifon drafft. Nid oedd modd cwblhau
cyfrifon y grŵp oherwydd oedi wrth dderbyn cyfrifon HSDdC. Byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r
pwyllgor yn y flwyddyn newydd i sicrhau aelodau y byddai amserlen waith ar
gyfer y flwyddyn ariannol nesaf ar y trywydd iawn. O fewn yr adroddiad, nodwyd dyddiadau cau o 31 Mai, a 31
Gorffennaf, 2022. Clywodd Aelodau bod Llywodraeth Cymru yn anfon cyfarwyddeb
gyda chyfarwyddiadau o’r dull o weithredu pe na fyddai’r dyddiadau hynny’n cael
eu bodloni. Byddai’r Datganiad Cyfrifon terfynol yn cael i gyflwyno
i’r pwyllgor yng nghyfarfod 24 Tachwedd, 2021. Nodwyd nad oedd pryderon wedi
codi hyd yma o’r Archwiliad. Amlygodd y Pennaeth Cyllid a Gwasanaethau Eiddo y
pwyntiau allweddol yn yr adroddiad, gan gynnwys yr adran newydd ar Gyfrifon
Grŵp. Cadarnhawyd bod HSDdC yn cwblhau ei gyfrifon ar wahân i Gyngor Sir
Ddinbych, a bod ei gyfrifon yn cael eu harchwilio ar wahân i rai’r awdurdod. Unwaith
roeddent yn cael eu cwblhau, roedd y cyfrifon yn cael eu cynnwys yn yr
adroddiad cyffredinol. Darparwyd gwybodaeth bellach ar yr Adroddiad Naratif.
Roedd yr adran hon yn darparu crynodeb o safle’r cyngor, gan ddarparu cyswllt
i’r adroddiad Sefyllfa Derfynol, a oedd yn rhoi manylion o reolaeth a
pherfformiad y cyfrifon. Pwysleisiodd y Pennaeth Cyllid a’r Gwasanaethau Eiddo bod
y flwyddyn hon wedi bod yn bryderus, a chadarnhaodd bod strategaeth lliniaru
covid wedi cael ei chyflwyno i’r Cabinet ar y cyfle cyntaf. A oedd yn myfyrio
ar y sefyllfa waethaf bosib pe na fyddai cyllid gan y llywodraeth yn cael ei
gynnig. Roedd y broses o osod y gyllideb ar gyfer y flwyddyn
ariannol nesaf, a’r fantolen yn parhau i fod mewn sefyllfa gadarnhaol. Cadarnhawyd bod y Datganiad Cyfrifon wedi bod ar gael i’r
cyhoedd ar gyfer cwestiynau a sylwadau o 2 Medi, 2021 a byddai’n cau ar 29
Medi, 2021. Roedd y Pennaeth Cyllid a Gwasanaethau Eiddo eisiau
diolch i bawb am y gwaith a wnaed er mwyn cwblhau’r Datganiad Cyfrifon. Cyflwynwyd aelodau i Rhian Evans, Prif
Gyfrifydd, a oedd wedi arwain ar y manylion oedd wedi’u cynnwys yn y Datganiad
Cyfrifon. Cynigodd ei ddiolch i Rhian
a’i thîm am y gwaith a wnaed i lunio’r adroddiad. Roedd aelodau eisiau adleisio’r diolch i’r swyddogion
cyllid a’r tîm archwilio am y gwaith manwl a wnaed wrth lunio’r Datganiad
Cyfrifon drafft. Yn ystod y drafodaeth, trafodwyd y canlynol yn fanylach: · Cyfanswm y tanwariant oedd £9.5 miliwn, gyda £7 miliwn mewn perthynas ag ysgolion. Mae balansau ysgolion yn cael eu trin yn wahanol i wasanaethau eraill yn Sir Ddinbych. Roedd y tanwariant yn y sector ysgolion yn ganlyniad i’r grantiau a dderbyniwyd yn ddiweddarach yn y flwyddyn ysgol, a thanwario gwirioneddol mewn ysgolion wrth i adeiladau barhau i fod ar gau. Byddai’r tanwariant a welwyd yn cael ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
CYLLIDEBAU CEFNOGI A THALIADAU UNIONGYRCHOL – ADRODDIAD DILYNOL PDF 207 KB Derbyn
adroddiad (copi’n amgaeedig) sy’n rhoi diweddariad ar gynnydd wrth weithredu’r
cynllun gweithredu oedd yn cyd-fynd â’r adroddiad Archwilio Mewnol ar
Gyllidebau Cefnogi a Thaliadau Uniongyrchol a gyflwynwyd i’r pwyllgor hwn ym
Medi 2019. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Arweiniodd y Prif Archwilydd Mewnol yr aelodau drwy’r
adroddiad dilynol (a ddosbarthwyd yn flaenorol). Roedd yr adroddiad hwn yn rhoi
diweddariad i aelodau ar gynnydd wrth weithredu’r cynllun gweithredu oedd yn
cyd-fynd â’r adroddiad Archwilio Mewnol ar Gyllidebau Cefnogi a Thaliadau
Uniongyrchol dyddiedig Awst 2019 a gyflwynwyd gyntaf i’r pwyllgor hwn ym Medi
2019. Nododd yr adolygiad dilynol cyntaf, ym mis Ebrill 2021,
oherwydd effaith Covid-19 a’r pwysau ar y gwasanaeth, roedd rhai o’r camau risg
mawr heb eu cyflawni, felly cynyddodd y sicrwydd i sicrwydd canolig. Cynhaliwyd ail adolygiad dilynol, wedi’i gyflawni
ym mis Awst 2021, i nodi’r cynnydd a wnaed hyd yma. Roedd y safbwynt archwilio
yn nodi er y bu oedi o ran cynnydd gyda rhai o’r camau oedd yn weddill oherwydd
effaith barhaus Covid-19 a’r pwysau cysylltiol sydd wedi’i roi ar y gwasanaeth,
roedd cynnydd wedi’i gyflawni gyda’r camau sy’n weddill. Mae dau gam gweithredu
pellach wedi’u cwblhau ers ein hadolygiad dilynol cynaf, ac roedd pedwar cam
sy'n weddill yn mynd rhagddynt ac roedd y gwasanaeth yn rhagweld y byddant oll
wedi'u cwblhau erbyn diwedd Hydref 2021. Cafwyd cadarnhad bod un o’r pedwar cam
gweithredu a oedd yn weddill wedi’u cwblhau ers cyhoeddi adroddiad y rhaglen. Roedd adroddiad dilynol pellach wedi’i drefnu i’w
gynnal ym mis Tachwedd 2021. Ailadroddodd y Prif Reolwr bod gwaith ar y camau
gweithredu oedd yn weddill yn parhau, ac i’w cwblhau o fewn y terfynu amser. Cytunodd aelodau bod adroddiad i’w gynnwys yn yr
adroddiad Archwilio Mewnol cyfredol, i’w gyflwyno i’r pwyllgor yn dilyn yr
adroddiad dilynol nesaf. Penderfynwyd bod
aelodau’n nodi cynnwys adroddiad dilynol Cyllidebau Cefnogi a Thaliadau
Uniongyrchol, a byddai diweddariad yn cael ei gynnwys yn adroddiad eitem sefydlog
Archwiliad Mewnol yn dilyn yr adolygiad nesaf. |
|
INCWM PARCIO – ADRODDIAD DILYNOL PDF 206 KB Derbyn
adroddiad (copi’n amgaeedig) sy’n rhoi diweddariad ar gynnydd wrth weithredu’r
cynllun gweithredu oedd yn cyd-fynd â’r adroddiad Archwilio Mewnol ar Incwm
Parcio a gyflwynwyd i’r pwyllgor hwn ym mis Tachwedd 2020 fel rhan o’r
Adroddiad Diweddaru Archwiliad Mewnol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Arweiniodd y Prif Archwilydd Mewnol aelodau drwy’r adroddiad dilynol (a
ddosbarthwyd yn flaenorol). Roedd yr adroddiad hwn yn rhoi'r wybodaeth
ddiweddaraf ar y cynnydd o ran rhoi’r cynllun gweithredu ar waith oedd yn
cyd-fynd ag adroddiad Archwilio Mewnol ar Incwm Parcio dyddiedig Tachwedd 2020
a gyflwynwyd i’r pwyllgor hwn ym mis Tachwedd 2020. Roedd ganddo sgôr sicrwydd
canolig, a gofynnodd yr aelodau am adolygiad dilynol. Cafwyd cadarnhad bod 5 o’r 10 cam gweithredu a gytunwyd wedi’u cwblhau.
Roedd y 5 sy’n weddill yn mynd rhagddynt, ac roedd manylion ar hyn wedi’u
cynnwys yn yr adroddiad. Roedd swyddogion Archwiliad Mewnol yn falch gyda’r
gwaith a wnaed a chafwyd cadarnhad bod adroddiad dilynol wedi’i drefnu ar gyfer
mis Tachwedd 2021. Cadarnhaodd y Rheolwr Traffig, Parcio a
Diogelwch ar y Ffyrdd bod 5 cam gweithredu wedi’u cwblhau. Bu oedi wrth
gwblhau’r 5 cam gweithredu sy’n weddill oherwydd pwysau ar y system yn sgil
pandemig covid-19. Clywodd Aelodau bod cyfarfodydd wedi’u trefnu i symud y
camau gweithredu sy’n weddill ymlaen. Diolchodd yr aelodau’r swyddogion am yr adroddiad manwl a’r diweddariad i’r
Archwiliad Mewnol. Cadarnhaodd y Prif Archwilydd Mewnol y byddai canlyniadau’r adroddiad
dilynol nesaf yn cael eu cynnwys yn yr adroddiad Archwiliad Mewnol cyfredol. Penderfynwyd bod y pwyllgor
yn nodi’r adroddiad dilynol a bod diweddariad yn cael ei gynnwys adroddiad diweddaru’r
eitem sefydlog Archwiliad Mewnol yn dilyn adolygiad dilynol ar Incwm Parcio. |
|
ADRODDIAD PERFFORMIO ARCHWILIO CYMRU PDF 203 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd Jeremy Evans o Archwilio Cymru i’r
cyfarfod i gyflwyno cynllun gwaith Ch1 Archwilio Cymru i’r aelodau. Arweiniwyd yr aelodau drwy’r adroddiad (a ddosbarthwyd yn
flaenorol). Esboniwyd wrth yr aelodau bod cynllun gwaith ac amserlen Archwilio
yn fenter newydd a gyflwynwyd gan Archwilio Cymru i sicrhau fod gan bwyllgorau
archwilio ledled Cymru gipolwg i waith Archwilio Cymru. Roedd yr adroddiad yn cynnwys rhaglen waith lawn, a
gynhaliwyd gan Archwilio Cymru, gan gynnwys Archwiliad Ariannol a Pherfformiad.
Cadarnhawyd y byddai’r adroddiad hwn yn cael ei ddosbarthu i’r pwyllgor fesul
chwarter, i’w drafod. Diolchodd y Cadeirydd gynrychiolydd Archwilio Cymru am yr adroddiad clir. Roedd
aelodau’n falch o nodi’r adroddiad a’i gynnwys ar y RhGD chwarterol. Gofynnodd
Aelodau sut y byddant yn nodi unrhyw adroddiadau a fydd angen trafodaeth
bellach gan y pwyllgor. Cadarnhaodd y Swyddog Monitro y gallai aelodau wneud cais
am fanylion pellach ar unrhyw adroddiad yr oeddent yn teimlo y byddant yn
cynorthwyo wrth nodi meysydd o fewn yr awdurdod, ac roedd aelodau’n dymuno
canolbwyntio arnynt. Nododd Jeremy Evans y gallai Archwilio Cymru gynorthwyo’r
pwyllgor ar adroddiadau a oedd y cynnwys manylion yr oedd angen i’r pwyllgor
fod yn ymwybodol ohonynt. Mae’r adroddiad yn amrywio o ran perthnasedd i Sir
Ddinbych. Diolchodd yr Aelodau’r swyddog am yr adroddiad. PENDERFYNWYD y byddai’r aelodau yn nodi cynnwys yr
adroddiad. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y PWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO PDF 392 KB Ystyried rhaglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor
(copi’n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio er ystyriaeth (a ddosbarthwyd yn flaenorol. Cytunwyd i ddiwygio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol fel a
ganlyn: ·
Newid i’r teitl ar
gyfarfod mis Tachwedd i gynnwys diwygiadau arfaethedig i’r cylch gorchwyl ar
gyfer y pwyllgor, yn unol â gofynion Deddf Etholiadau Llywodraeth Leol Cymru. ·
Cytunodd aelodau y
gellir cynnwys diweddariadau sicrwydd canolig Archwilio Mewnol yn yr adroddiad diweddaru
Archwilio Mewnol. ·
Roedd Cadernid Ariannol
i’w gynnwys ar RhGD mis Tachwedd. ·
Cyfrifon ac archwilio
Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru fel un adroddiad rhaglen er gwybodaeth
ym mis Tachwedd 2021. ·
Byddai angen trefnu
adroddiad ar newidiadau i’r cyfansoddiad ar gyfer cyfarfodydd mis Ionawr,
Mawrth ac Ebrill 2022. ·
Cytunodd aelodau ar
adroddiad ar gwynion i’w gynnwys ar y RhGD ar gyfer mis Ionawr 2022. ·
Cynnwys cynllun
gweithredu Datganiad Llywodraethu Blynyddol ar rneaglen mis Ionawr. PENDERFYNWYD, yn amodol ar gynnwys yr ychwanegiadau uchod, nodi cynnwys rhaglen
gwaith i'r dyfodol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am hanner dydd. Dogfennau ychwanegol: |