Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: trwy gynhadledd fideo

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Martyn Holland.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 197 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd fel un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

 

 

3.

MATERION BRYS

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 406 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a gynhaliwyd

ar 28 Gorffennaf 2021 (copi’n amgaeedig).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a gynhaliwyd ar 28 Gorffennaf 2021.

 

Materion cywirdeb - Dim

 

Materion yn codi - Tudalen 12 - Eitem 8 - Strategaeth ar gyfer atal a chanfod twyll, llwgr a llwgrwobrwyo, a’r cynllun ymateb i dwyll - Cadarnhaodd y Swyddog Monitro, dan y Cod Ymddygiad, mae gofyn i Aelodau gofrestru eu diddordebau a hysbysu’r awdurdod o unrhyw newid. Mae hyn yn gymwys i aelodau ac aelodau cyfetholedig.

 

Tudalen 13 - Eitem 9 - diweddariad Archwilio Mewnol - gofynnwyd i Aelodau  a fyddai hyfforddiant yn cael ei ddarparu cyn y broses etholiad nesaf.  Dywedodd y Prif Archwilydd Mewnol y byddai’n gwneud cais am wybodaeth gan Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth i weld a fyddai’n bosib cynnal sesiwn hyfforddi.

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar yr uchod, y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a gynhaliwyd ar 28 Gorffennaf fel cofnod cywir.

 

 

5.

ADRODDIAD BLYNYDDOL IECHYD A DIOGELWCH CORFFORAETHOL pdf eicon PDF 274 KB

Derbyn adroddiad gan y Rheolwr Iechyd a Diogelwch Corfforaethol ar reolaeth iechyd a diogelwch o fewn Cyngor Sir Ddinbych yn ystod 2020-2021 (copi’n amgaeedig).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol yr adroddiad Iechyd a Diogelwch Blynyddol (a ddosbarthwyd yn flaenorol). Cafodd Aelodau eu hysbysu bod yr adroddiad yn cynnwys geirfa, asesiad o 3 faes allweddol a sut mae’r gwasanaeth wedi parhau yn ystod Covid-19. Dywedodd yr Aelod Arweiniol bod yr asesiad cyffredinol ar gyfer y tîm iechyd a diogelwch wedi cael sicrwydd canolig, gyda hanes da o waith iechyd a diogelwch yn Sir Ddinbych. 

 

Arweiniodd y Rheolwr Iechyd a Diogelwch Corfforaethol (CHSM) aelodau drwy’r adroddiadau Iechyd a Diogelwch Blynyddol. Roedd rhan gyntaf yr adroddiad yn cynnwys asesiad o berfformiad iechyd a diogelwch yn nhermau sut mae’r diwylliant yn gweithio, a rhoddwyd sgôr sicrwydd. Ym marn y CHSM, roedd Sir Ddinbych wedi ymateb yn dda i’r cyfyngiadau a’r newidiadau a osodwyd ar y gwasanaeth.

 

Roedd diwylliant Diogelwch, Iechyd a Lles yng Nghyngor Sir Ddinbych wedi bod ar lwybr gwelliant parhaus er sawl blwyddyn. Y gwelliant mwyaf diweddar oedd cynnwys gweithwyr. Roedd gan hyn botensial am effaith gadarnhaol sylweddol ar ”ddiwylliant diogelwch”.

 

Roedd Aelodau wedi clywed bod y tîm Iechyd a Diogelwch wedi ymateb yn gyflym i reoliadau a chanllawiau’r llywodraeth.  Datblygwyd Asesiadau Risg a gweithdrefnau gweithio’n ddiogel cyn gynted ag y bo'n ymarferol, ac roedd yn adlewyrchu’r safle oedd yn newid yn gyflym. Roedd gwaith ar y cyd gyda’r canllawiau’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn sicrhau bod rheoliadau’n cael eu diwallu. Cafodd dull Cyngor Sir Ddinbych o reoli’r risg yn sgil Covid-19 ei asesu fel sicrwydd uchel.

 

Amlygwyd y ffaith na chafodd unrhyw ddigwyddiad RIDDOR yn ystod 2020/21 ei archwilio’n ffurfiol gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

 

Amlygodd CHSM bod gwelliant wedi cael ei nodi mewn sawl maes, gyda’r prif rai yn cael eu canfod mewn:

·         Ysgolion.

·         Gwasanaethau Cymorth Cymunedol.

·         Hamdden Sir Ddinbych Cyf.

·         Rheoli a chasglu gwastraff.

 

Llywiwyd Aelodau drwy’r pwyntiau i’w nodi yn ystod 2020/21, gyda pandemig Covid-19 y prif un. Roedd canolbwyntio ar un pwnc wedi caniatáu i’r sefydliad ymateb yn dda i’r newidiadau.  Roedd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn cytuno gyda’r farn hon.

Roedd ysgolion wedi bod yn nodwedd gyfrwng yn ystod y pandemig gyda’r canllawiau’n newid sawl gwaith yn ystod y flwyddyn. Cwblhaodd a rhannodd pob ysgol yn Sir Ddinbych asesiad risg covid-19.

Pwysleisiwyd bod y gwasanaethau Rheoli a Chasglu Gwastraff wedi perfformio’n dda hefyd yn ystod cyfnod anodd. 

 

Cafodd safle’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ei adlewyrchu ymhob dogfen ganllawiau a chyfathrebiadau yn ymwneud â’r risg o Covid-19 yn ein gweithleoedd.

Cynhaliodd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch nifer o hapwiriadau cydymffurfiaeth â Covid Cyngor Sir Ddinbych drwy gydol y flwyddyn.  Ni godwyd unrhyw bryderon yn ystod y gwiriadau.

 

Roedd pwysigrwydd monitro Dirgryniad Llaw Braich yn flaenoriaeth o hyd ar gyfer y tîm. Darparwyd rhestr fanwl i aelodau o’r holl feysydd gwaith mae Iechyd a Diogelwch Corfforaethol yn rhan ohonynt. Mae amserlen gwaith ar gyfer 2021/22 wedi cael ei gynnwys yn y pecyn er gwybodaeth aelodau.

 

Diolchodd y Cadeirydd y CHSM a’r tîm am yr holl waith caled a wnaed yn ystod y flwyddyn, a chanmolodd gwaith y tîm i gynnal safon dda o asesiad.

 

Trafodaeth Gyffredinol –

·         Mae cefnogaeth ac ymgysylltiad yr uwch dîm rheoli yn bwysig.

·         Nid oes tystiolaeth i awgrymu bod cynnydd mewn llithro, baglu a chwympo wedi digwydd oherwydd unigolion ddim yn defnyddio canllaw neu gymorth cynnal.

·         Roedd pwysigrwydd hyfforddiant corfforol yn hanfodol ar gyfer datblygiad unigolion.

·         Gydag unrhyw adroddiad RIDDOR, cynhaliwyd archwiliad, yn seiliedig ar y wybodaeth ar adroddiad y digwyddiad. Byddai pob achos yn y papurau yn cael eu harchwilio. Gellir darparu hyfforddiant pellach os oes angen.   Bydd y tîm yn gofyn yr holl gwestiynau angenrheidiol i  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

ADRODDIAD DIOGELWCH TÂN BLYNYDDOL pdf eicon PDF 202 KB

Derbyn adroddiad gan y Rheolwr Diogelwch Tân (copi'n amgaeedig) ar waith blynyddol y Tîm Iechyd a Diogelwch Eiddo ar raglen a pherfformiad Diogelwch Tân. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol yr adroddiad tân blynyddol (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i’r aelodau. Roedd yr adroddiad yn ffurfio elfen o’r gwaith diogelwch a gynhaliodd Sir Ddinbych.  Mae’r adroddiad yn manylu ar y gwahanol fathau o asesiad risgiau tân a gwybodaeth ar rhai o ddangosyddion perfformiad allweddol.

 

Estynnodd y Rheolwr Diogelwch Tân ei ddiolch i’r Aelod Arweiniol am y cyflwyniad.

Cadarnhawyd bod cynnydd yn yr asesiadau a gynhaliwyd dros y 12 mis diwethaf. Roedd cyflwyniad staff newydd i gynorthwyo gyda gwneud apwyntiadau gyda safleoedd i gynnal asesiadau wedi gwella’r gwasanaeth yn fawr. Cynhaliwyd cyfarfodydd rheolaidd i sicrhau bod asesiadau angenrheidiol yn cael eu cwblhau ar amser.

Atgoffwyd Aelodau bod 3 chategori o asesiadau Risigiau Tân. Cartrefi gofal yw’r risg fwyaf, yn ogystal ag ysgolion. Oherwydd pandemig Covid, nid oedd modd cynnal nifer o ymweliadau safle wyneb yn wyneb. Roedd archwiliadau wrth ddesg o’r gwaith papur wedi cael ei gynnal.

Mae gwaith yn cael ei gynnal gyda’r gwasanaeth tai i asesu risgiau ardaloedd cymunedol tai, ac mae asesiadau’n cael eu cynnal bob 2 flynedd ar hyn o bryd, ond efallai bydd angen newid hyn i fod yn flynyddol. Hysbyswyd Aelodau bod 28 safle ychwanegol a fyddai’n destun asesiad o fewn adeilad â sawl ymgeisydd, ac roedd pob un wedi’u trefnu i’w cwblhau.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Aelod Arweiniol a’r swyddog am yr adroddiad. Yn ystod y drafodaeth, ymhelaethodd y swyddogion ar feysydd allweddol i’w trafod:

·         Roedd blaenoriaethau allweddol ar gyfer 2021/22 wedi cael eu datblygu wrth i’r rhaglen waith ddatblygu a’r meysydd lle gallai datblygu’r gwasanaeth.

·         Roedd hyfforddiant ar gyfarpar diffoddyddion tân yn cael ei drafod ar hyn o bryd gyda chyfleusterau.

·         Cadarnhawyd nad oedd adeiladau Sir Ddinbych yn cael eu cynnwys yn y rhaglen asesu. Byddai’r landlord yn gyfrifol am gynnal asesiad risgiau tân mewn adeiladau domestig.

·         Roedd cyfarfodydd ar-lein wedi cael eu cynnal yn ystod y cyfnod clo yn unig; roedd ymweliadau wyneb yn wyneb wedi ailddechrau ers hynny.

·         Cyfrifoldeb deiliad eiddo manwerthu neu brydles yw darparu copïau o’r asesiadau risgiau tân i’r gwasanaeth.

·         Y bwriad mewn ysgolion oedd bod rheolwr enwebedig yr adeilad neu’r Pennaeth yn monitro’r asesiad risgiau tân yn rheolaidd ac yn darparu gwybodaeth o unrhyw newidiadau i’r gwasanaeth.

 

Aelodau,

PENDERFYNWYD – bod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn derbyn yr Adroddiad Blynyddol Diogelwch Tân ac yn nodi ei gynnwys.

 

 

7.

DATGANIAD CYFRIFON DRAFFT pdf eicon PDF 223 KB

Derbyn adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Eiddo (copi'n amgaeedig) sy'n darparu trosolwg o Ddatganiad drafft o Gyfrifon 2020/21 a'r broses sy'n sail iddo.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol y Datganiad Cyfrifon Drafft ar gyfer 2020/21 (a ddosbarthwyr yn flaenorol). Darparodd yr adroddiad drosolwg o’r Datganiad Cyfrifon drafft ar gyfer 2020/21 a’r broses sy’n sail iddo. Roedd cyflwyno’r cyfrifon drafft yn darparu dangosydd cynnar o sefyllfa ariannol y cyngor, ac yn amlygu unrhyw broblemau yn y cyfrifon, neu’r broses cyn archwilio’r cyfrifon.

Cadarnhawyd i aelodau, er mwyn diwallu amserlen Cyngor Sir Ddinbych ac Archwilio Cymru, roedd dyddiad cau estynedig wedi cael ei fabwysiadu ar gyfer cyfrifon eleni. Yr adroddiad ynghlwm oedd y Datganiad Cyfrifon drafft, a byddai’r Datganiad Cyfrifon terfynol yn cael ei gyflwyno yn ôl ym mis Tachwedd 2021, i’w lofnodi gan y pwyllgor. 

 

Atgoffodd y Pennaeth Cyllid a Gwasanaethau Eiddo aelodau bod adroddiad wedi cael ei gyflwyno ym mis Gorffennaf i esbonio’r amgylchiadau gyda’r oedi wrth gwblhau’r Datganiad Cyfrifon drafft. Nid oedd modd cwblhau cyfrifon y grŵp oherwydd oedi wrth dderbyn cyfrifon HSDdC.  Byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r pwyllgor yn y flwyddyn newydd i sicrhau aelodau y byddai amserlen waith ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf ar y trywydd iawn.

O fewn yr adroddiad, nodwyd dyddiadau cau o 31 Mai, a 31 Gorffennaf, 2022. Clywodd Aelodau bod Llywodraeth Cymru yn anfon cyfarwyddeb gyda chyfarwyddiadau o’r dull o weithredu pe na fyddai’r dyddiadau hynny’n cael eu bodloni.

 

Byddai’r Datganiad Cyfrifon terfynol yn cael i gyflwyno i’r pwyllgor yng nghyfarfod 24 Tachwedd, 2021. Nodwyd nad oedd pryderon wedi codi hyd yma o’r Archwiliad. 

 

Amlygodd y Pennaeth Cyllid a Gwasanaethau Eiddo y pwyntiau allweddol yn yr adroddiad, gan gynnwys yr adran newydd ar Gyfrifon Grŵp. Cadarnhawyd bod HSDdC yn cwblhau ei gyfrifon ar wahân i Gyngor Sir Ddinbych, a bod ei gyfrifon yn cael eu harchwilio ar wahân i rai’r awdurdod. Unwaith roeddent yn cael eu cwblhau, roedd y cyfrifon yn cael eu cynnwys yn yr adroddiad cyffredinol.

 

Darparwyd gwybodaeth bellach ar yr Adroddiad Naratif. Roedd yr adran hon yn darparu crynodeb o safle’r cyngor, gan ddarparu cyswllt i’r adroddiad Sefyllfa Derfynol, a oedd yn rhoi manylion o reolaeth a pherfformiad y cyfrifon.

Pwysleisiodd y Pennaeth Cyllid a’r Gwasanaethau Eiddo bod y flwyddyn hon wedi bod yn bryderus, a chadarnhaodd bod strategaeth lliniaru covid wedi cael ei chyflwyno i’r Cabinet ar y cyfle cyntaf. A oedd yn myfyrio ar y sefyllfa waethaf bosib pe na fyddai cyllid gan y llywodraeth yn cael ei gynnig.

Roedd y broses o osod y gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, a’r fantolen yn parhau i fod mewn sefyllfa gadarnhaol.

 

Cadarnhawyd bod y Datganiad Cyfrifon wedi bod ar gael i’r cyhoedd ar gyfer cwestiynau a sylwadau o 2 Medi, 2021 a byddai’n cau ar 29 Medi, 2021.

 

Roedd y Pennaeth Cyllid a Gwasanaethau Eiddo eisiau diolch i bawb am y gwaith a wnaed er mwyn cwblhau’r Datganiad Cyfrifon.  Cyflwynwyd aelodau i Rhian Evans, Prif Gyfrifydd, a oedd wedi arwain ar y manylion oedd wedi’u cynnwys yn y Datganiad Cyfrifon.  Cynigodd ei ddiolch i Rhian a’i thîm am y gwaith a wnaed i lunio’r adroddiad.

 

Roedd aelodau eisiau adleisio’r diolch i’r swyddogion cyllid a’r tîm archwilio am y gwaith manwl a wnaed wrth lunio’r Datganiad Cyfrifon drafft.

 

Yn ystod y drafodaeth, trafodwyd y canlynol yn fanylach:

·         Cyfanswm y tanwariant oedd £9.5 miliwn, gyda £7 miliwn mewn perthynas ag ysgolion. Mae balansau ysgolion yn cael eu trin yn wahanol i wasanaethau eraill yn Sir Ddinbych. Roedd y tanwariant yn y sector ysgolion yn ganlyniad i’r grantiau a dderbyniwyd yn ddiweddarach yn y flwyddyn ysgol, a thanwario gwirioneddol mewn ysgolion wrth i adeiladau barhau i fod ar gau. Byddai’r tanwariant a welwyd yn cael  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

CYLLIDEBAU CEFNOGI A THALIADAU UNIONGYRCHOL – ADRODDIAD DILYNOL pdf eicon PDF 207 KB

Derbyn adroddiad (copi’n amgaeedig) sy’n rhoi diweddariad ar gynnydd wrth weithredu’r cynllun gweithredu oedd yn cyd-fynd â’r adroddiad Archwilio Mewnol ar Gyllidebau Cefnogi a Thaliadau Uniongyrchol a gyflwynwyd i’r pwyllgor hwn ym Medi 2019.

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Arweiniodd y Prif Archwilydd Mewnol yr aelodau drwy’r adroddiad dilynol (a ddosbarthwyd yn flaenorol). Roedd yr adroddiad hwn yn rhoi diweddariad i aelodau ar gynnydd wrth weithredu’r cynllun gweithredu oedd yn cyd-fynd â’r adroddiad Archwilio Mewnol ar Gyllidebau Cefnogi a Thaliadau Uniongyrchol dyddiedig Awst 2019 a gyflwynwyd gyntaf i’r pwyllgor hwn ym Medi 2019.

 

Nododd yr adolygiad dilynol cyntaf, ym mis Ebrill 2021, oherwydd effaith Covid-19 a’r pwysau ar y gwasanaeth, roedd rhai o’r camau risg mawr heb eu cyflawni, felly cynyddodd y sicrwydd i sicrwydd canolig.

Cynhaliwyd ail adolygiad dilynol, wedi’i gyflawni ym mis Awst 2021, i nodi’r cynnydd a wnaed hyd yma. Roedd y safbwynt archwilio yn nodi er y bu oedi o ran cynnydd gyda rhai o’r camau oedd yn weddill oherwydd effaith barhaus Covid-19 a’r pwysau cysylltiol sydd wedi’i roi ar y gwasanaeth, roedd cynnydd wedi’i gyflawni gyda’r camau sy’n weddill. Mae dau gam gweithredu pellach wedi’u cwblhau ers ein hadolygiad dilynol cynaf, ac roedd pedwar cam sy'n weddill yn mynd rhagddynt ac roedd y gwasanaeth yn rhagweld y byddant oll wedi'u cwblhau erbyn diwedd Hydref 2021. Cafwyd cadarnhad bod un o’r pedwar cam gweithredu a oedd yn weddill wedi’u cwblhau ers cyhoeddi adroddiad y rhaglen.

Roedd adroddiad dilynol pellach wedi’i drefnu i’w gynnal ym mis Tachwedd 2021.

 

Ailadroddodd y Prif Reolwr bod gwaith ar y camau gweithredu oedd yn weddill yn parhau, ac i’w cwblhau o fewn y terfynu amser.

 

Cytunodd aelodau bod adroddiad i’w gynnwys yn yr adroddiad Archwilio Mewnol cyfredol, i’w gyflwyno i’r pwyllgor yn dilyn yr adroddiad dilynol nesaf.

 

Penderfynwyd bod aelodau’n nodi cynnwys adroddiad dilynol Cyllidebau Cefnogi a Thaliadau Uniongyrchol, a byddai diweddariad yn cael ei gynnwys yn adroddiad eitem sefydlog Archwiliad Mewnol yn dilyn yr adolygiad nesaf.

 

 

 

 

9.

INCWM PARCIO – ADRODDIAD DILYNOL pdf eicon PDF 206 KB

Derbyn adroddiad (copi’n amgaeedig) sy’n rhoi diweddariad ar gynnydd wrth weithredu’r cynllun gweithredu oedd yn cyd-fynd â’r adroddiad Archwilio Mewnol ar Incwm Parcio a gyflwynwyd i’r pwyllgor hwn ym mis Tachwedd 2020 fel rhan o’r Adroddiad Diweddaru Archwiliad Mewnol.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Arweiniodd y Prif Archwilydd Mewnol aelodau drwy’r adroddiad dilynol (a ddosbarthwyd yn flaenorol). Roedd yr adroddiad hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ar y cynnydd o ran rhoi’r cynllun gweithredu ar waith oedd yn cyd-fynd ag adroddiad Archwilio Mewnol ar Incwm Parcio dyddiedig Tachwedd 2020 a gyflwynwyd i’r pwyllgor hwn ym mis Tachwedd 2020. Roedd ganddo sgôr sicrwydd canolig, a gofynnodd yr aelodau am adolygiad dilynol.

 

Cafwyd cadarnhad bod 5 o’r 10 cam gweithredu a gytunwyd wedi’u cwblhau. Roedd y 5 sy’n weddill yn mynd rhagddynt, ac roedd manylion ar hyn wedi’u cynnwys yn yr adroddiad. Roedd swyddogion Archwiliad Mewnol yn falch gyda’r gwaith a wnaed a chafwyd cadarnhad bod adroddiad dilynol wedi’i drefnu ar gyfer mis Tachwedd 2021.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch ar y Ffyrdd bod 5 cam gweithredu wedi’u cwblhau. Bu oedi wrth gwblhau’r 5 cam gweithredu sy’n weddill oherwydd pwysau ar y system yn sgil pandemig covid-19. Clywodd Aelodau bod cyfarfodydd wedi’u trefnu i symud y camau gweithredu sy’n weddill ymlaen.

 

Diolchodd yr aelodau’r swyddogion am yr adroddiad manwl a’r diweddariad i’r Archwiliad Mewnol.

 

Cadarnhaodd y Prif Archwilydd Mewnol y byddai canlyniadau’r adroddiad dilynol nesaf yn cael eu cynnwys yn yr adroddiad Archwiliad Mewnol cyfredol.

 

Penderfynwyd bod y pwyllgor yn nodi’r adroddiad dilynol a bod diweddariad yn cael ei gynnwys adroddiad diweddaru’r eitem sefydlog Archwiliad Mewnol yn dilyn adolygiad dilynol ar Incwm Parcio.

 

 

10.

ADRODDIAD PERFFORMIO ARCHWILIO CYMRU pdf eicon PDF 203 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Jeremy Evans o Archwilio Cymru i’r cyfarfod i gyflwyno cynllun gwaith Ch1 Archwilio Cymru i’r aelodau.

 

Arweiniwyd yr aelodau drwy’r adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol). Esboniwyd wrth yr aelodau bod cynllun gwaith ac amserlen Archwilio yn fenter newydd a gyflwynwyd gan Archwilio Cymru i sicrhau fod gan bwyllgorau archwilio ledled Cymru gipolwg i waith Archwilio Cymru.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys rhaglen waith lawn, a gynhaliwyd gan Archwilio Cymru, gan gynnwys Archwiliad Ariannol a Pherfformiad. Cadarnhawyd y byddai’r adroddiad hwn yn cael ei ddosbarthu i’r pwyllgor fesul chwarter, i’w drafod.

 

Diolchodd y Cadeirydd gynrychiolydd  Archwilio Cymru am yr adroddiad clir. Roedd aelodau’n falch o nodi’r adroddiad a’i gynnwys ar y RhGD chwarterol. Gofynnodd Aelodau sut y byddant yn nodi unrhyw adroddiadau a fydd angen trafodaeth bellach gan y pwyllgor.

Cadarnhaodd y Swyddog Monitro y gallai aelodau wneud cais am fanylion pellach ar unrhyw adroddiad yr oeddent yn teimlo y byddant yn cynorthwyo wrth nodi meysydd o fewn yr awdurdod, ac roedd aelodau’n dymuno canolbwyntio arnynt. 

Nododd Jeremy Evans y gallai Archwilio Cymru gynorthwyo’r pwyllgor ar adroddiadau a oedd y cynnwys manylion yr oedd angen i’r pwyllgor fod yn ymwybodol ohonynt. Mae’r adroddiad yn amrywio o ran perthnasedd i Sir Ddinbych.

 

Diolchodd yr Aelodau’r swyddog am yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD y byddai’r aelodau yn nodi cynnwys yr adroddiad.

   

 

 

 

11.

RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y PWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO pdf eicon PDF 392 KB

Ystyried rhaglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor (copi’n amgaeedig).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio er ystyriaeth (a ddosbarthwyd yn flaenorol.

 

Cytunwyd i ddiwygio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol fel a ganlyn:

·         Newid i’r teitl ar gyfarfod mis Tachwedd i gynnwys diwygiadau arfaethedig i’r cylch gorchwyl ar gyfer y pwyllgor, yn unol â gofynion Deddf Etholiadau Llywodraeth Leol Cymru.

·         Cytunodd aelodau y gellir cynnwys diweddariadau sicrwydd canolig Archwilio Mewnol yn yr adroddiad diweddaru Archwilio Mewnol.

·         Roedd Cadernid Ariannol i’w gynnwys ar RhGD mis Tachwedd.

·         Cyfrifon ac archwilio Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru fel un adroddiad rhaglen er gwybodaeth ym mis Tachwedd 2021.

·         Byddai angen trefnu adroddiad ar newidiadau i’r cyfansoddiad ar gyfer cyfarfodydd mis Ionawr, Mawrth ac Ebrill 2022.

·         Cytunodd aelodau ar adroddiad ar gwynion i’w gynnwys ar y RhGD ar gyfer mis Ionawr 2022.

·         Cynnwys cynllun gweithredu Datganiad Llywodraethu Blynyddol ar rneaglen mis Ionawr.

 

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar gynnwys yr ychwanegiadau uchod, nodi cynnwys rhaglen gwaith i'r dyfodol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.

 

Daeth y cyfarfod i ben am hanner dydd.

Dogfennau ychwanegol: