Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: trwy gynhadledd fideo

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Hysbysodd Y Cynghorydd Barry Mellor aelodau ei fod wedi derbyn neges y byddai'r Cynghorydd Joe Welch a’r Cynghorydd Tony Flynn yn cyrraedd y cyfarfod ychydig yn hwyr.

 

2.

PENODI CADEIRYDD

Penodi Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio am y flwyddyn i ddod.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnwyd am enwebiadau ar gyfer Aelod i wasanaethu fel Cadeirydd y Pwyllgor am y flwyddyn i ddod. Cafodd Y Cynghorydd Barry Mellor ei enwebu gan Y Cynghorydd Ellie Chard, gyda’r Cynghorydd Martyn Holland yn eilio. Ni dderbyniwyd unrhyw enwebiadau eraill felly;

 

PENDERFYNWYD y dylai’r Cynghorydd Barry Mellor gael ei benodi fel Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu ar gyfer y flwyddyn i ddod.

 

3.

PENODI IS-GADEIRYDD

Penodi Is-Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio am y flwyddyn i ddod.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnwyd am enwebiadau ar gyfer Aelod i wasanaethu fel Is-Gadeirydd y Pwyllgor am y flwyddyn i ddod. Cafodd Y Cynghorydd Martyn Holland ei enwebu gan Aelod Lleyg Paul Whitman, gyda’r Cynghorydd Ellie Chard yn eilio. Ni dderbyniwyd unrhyw enwebiadau eraill felly;

 

PENDERFYNWYD y dylai’r Cynghorydd Martyn Holland gael ei benodi fel Is-Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu ar gyfer y flwyddyn i ddod.

 

Croesawodd y Cadeirydd Y Cynghorydd Ellie Chard a’r Cynghorydd Rhys Thomas fel aelodau newydd i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu.

 

 

4.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 197 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd fel un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw ddatganiadau o gysylltiad.

 

5.

MATERION BRYS

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

6.

COFNODION pdf eicon PDF 319 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a gynhaliwyd ar 28 Ebrill 2021 (copi’n amgaeedig).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod Y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu a gynhaliwyd ar 28 Ebrill 2021.

 

Materion cywirdeb - Dim

Materion sy'n codi - Dim

 

PENDERFYNWYD yn amodol â’r uchod, y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu fel cofnod cywir.

 

7.

AROLYGIAD RIPA 2021 pdf eicon PDF 209 KB

I dderbyn adroddiad (copi yn amgaeedig) ar yr archwiliad a gyflawnwyd gan Swyddfa'r Comisiynydd Pwerau Ymchwilio mewn perthynas â gweithgareddau’r Awdurdod a gyflawnwyd o dan y Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000.

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol (RhGC) adroddiad o archwiliad RIPA 2021 i’r aelodau (wedi’i ddosbarthu’n flaenorol).

Cadarnhawyd oddeutu bob tair blynedd bod Swyddfa’r Comisiynydd Pwerau Ymchwilio (IPCO) yn arolygu’r Cyngor o bell o ran ei weithgareddau dan Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio (RIPA) 2000.

Hysbyswyd yr Aelodau fod yr archwiliad wedi cael ei gynnal gan un o Arolygwyr y Comisiynydd, Graham Wright ym mis Chwefror a mis Mawrth 2021. Eglurwyd fod dull ymarferol a phragmatig wedi bod i’r archwiliad. Roedd y protocol yn ymddangos fel ei fod yn dilyn ymarfer bwrdd gwaith gydag archwiliad o bell a phe bai angen byddai archwiliad mewn person yn cael ei drefnu. Cadarnhaodd y darganfyddiadau nad oedd angen archwiliad mewn person.

Roedd yr archwiliad yn ymarfer defnyddiol i swyddogion, gan fod yr archwiliad yn craffu’r polisi cuddwylio, deunyddiau hyfforddiant a chofnodion canolog yr awdurdod ac yn arddangos cydymffurfiad gan yr awdurdod.

Clywodd yr aelodau bod y cynllun gweithredu o’r archwiliad blaenorol wedi cael ei gwblhau yn llawn.

Cadarnhawyd nad oedd na unrhyw geisiadau RIPA wedi eu derbyn dros y tair blynedd diwethaf. Dywedodd y RhGC nad oedd hynny’n anghyffredin gan fod dulliau eraill o gasglu tystiolaeth.  Roedd yr awdurdod wedi ufuddhau i ddefnyddio’r dulliau eraill o gasglu tystiolaeth cyn cyflwyno cais RIPA.

Roedd ymwybyddiaeth o’r ddogfen polisi a gweithdrefn yn hanfodol. Roedd hyfforddiant yn anhepgor i addysgu staff ac amlygwyd hynny fel rhan o’r archwiliad. Roedd yr arolygwr wedi gweld deunyddiau hyfforddiant ac yn falch gyda’i ddarganfyddiadau gan gynnig diwygiadau i wella’r deunyddiau hyfforddiant yn barod ar gyfer hyfforddiant wedi trefnu yn yr hydref. Cadarnhawyd bod digwyddiad wedi’i drefnu ar gyfer mis Medi ar gyfer swyddogion ymchwilio a swyddogion awdurdodi.

O fewn yr adroddiad cyfeiriodd yr aelodau at Wasanaethau Cymdeithasol gan dalu sylw penodol i wasanaethau plant. Pwysleisiwyd y pwysigrwydd o gynnal dealltwriaeth am y gweithdrefnau o fewn Sir Ddinbych. Roedd cyfeiriad at ddata wedi’i nodi yn yr adroddiad. Yn arbennig, cadw gafael ar ddata, tu hwnt i’w ddefnydd yn dilyn archwiliad. Sefydlwyd gweithgor RIPA oedd yn cynnwys rheolwyr canol, rheolwyr gweithredol, y swyddog monitro a’r RhGC i weithio gyda TGCh i sefydlu cofnod canolog o wybodaeth i gyflwyno’r amserlenni statudol. Cadarnhawyd fod  uno diweddar wedi bod rhwng yr adran Gynllunio a Gwasanaeth Cyhoeddus o ran TCC.

 

Dyma’r Cadeirydd yn diolch i’r RhGC am y wybodaeth fanwl ynghylch yr archwiliad. Cafwyd trafodaeth bellach a chodwyd y pwyntiau canlynol:

·         Bod y drosedd o feddiannu cartrefi pobl ddiamddiffyn i werthu cyffuriau (cuckooing) yn achos i’r heddlu. Byddai’r awdurdod yn cynorthwyo pe bai angen.

·         Yn y gorffennol mae gweithgaredd RIPA wedi cael ei ddefnyddio i archwilio deiliadaeth sengl. Nid yw’r gweithgaredd wedi cael ei ddefnyddio yn y blynyddoedd diwethaf. Protocolau Rhannu Gwybodaeth yn eu lle i archwilio unrhyw baru data. Dim ond fel y cam olaf y byddai’r broses RIPA yn cael ei ddefnyddio i archwilio unrhyw dwyll posib.

·         Cadarnhaodd y RhGC y byddai unrhyw bryderon am les plant yn cael ei archwilio yn unol â’r heddlu. Byddai’r awdurdod yn cynorthwyo gydag unrhyw archwiliad pe bai angen.

 

Dyma’r Cadeirydd yn diolch i’r RhGC am yr ymatebion i gwestiynau’r aelodau. Felly,

 

PENDERFYNWYD fod yr aelodau yn nodi cynnwys yr adroddiad a’r adroddiad archwiliad wedi’i atodi fel atodiad 1.

 

 

 

 

 

8.

ADOLYGIAD PERFFORMIAD BLYNYDDOL 2020-2021 pdf eicon PDF 267 KB

I dderbyn adroddiad (copi yn amgaeedig) i gyd-fynd â'r Adolygiad Perfformiad Blynyddol drafft ar gyfer 2020 i 2021 (wedi’i atodi yn atodiad 1), gan ddarparu ein dadansoddiad chwarterol a diwedd y flwyddyn, gan dynnu sylw at brosiectau penodol a chamau i'w cyflawni yn 2021 i 2022.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Arweiniodd y Rheolwr Tîm Cynllunio Strategol a’r Arweinydd Tîm Cynllunio Strategol a Pherfformiad yr aelodau trwy’r adolygiad perfformiad blynyddol (wedi’i ddosbarthu’n flaenorol). Atgoffwyd yr aelodau  mai diben yr adolygiad oedd darparu golwg cyffredinol o’r cynnydd ar swyddogaethau statudol allweddol.  Mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys y bwriad a’r blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn i ddod yn ôl gofyniad Mesur Llywodraeth Leol. Hysbyswyd aelodau fod y Mesur Llywodraeth Leol yn cael ei ddileu yn fuan oherwydd y Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau. Cadarnhawyd mai bwriad y broses arferol o adolygiadau Perfformiad Blynyddol oedd cyflwyno adroddiad i Graffu Perfformiad, Cabinet ac i gael ei gadarnhau gan y Cyngor Llawn. O fewn y Ddeddf newydd mae darpariaeth orfodol ar gyfer hunanasesiad o berfformiad wedi cael ei gynnwys. Cyfrifoldeb y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu yw monitro a goruchwylio hunanasesiad. Cadarnhaodd y RhTCS bod yr hunanasesiad ddim yn ofyniad tan y flwyddyn nesaf. Fel prawf fe gynigodd y swyddogion fersiwn drafft o hunanasesiad eleni. Bwriad yr asesiad drafft oedd trafod y cynnwys, ei ffocws, ei rwymedigaethau statudol a gofynnwyd am sylwadau a safbwyntiau aelodau.   

 

Atgoffwyd aelodau fod y ATCSPh wedi mynychu cyfarfod Archwilio a Llywodraethu i drafod gofynion yr Hunanasesiad o dan y Ddeddf. Mae’r hunanasesiad yn gofyn i swyddogion adolygu nifer o ddarnau o dystiolaeth yn cynnwys yr adolygiad perfformiad blynyddol, unrhyw adroddiadau rheoleiddio allanol a’r datganiad Llywodraethu blynyddol. Dywedodd y RhTCS wrth yr aelodau unwaith y bydd yr ardaloedd llywodraethu wedi cael eu hadolygu byddai cynllun gweithredu ar gyfer gwella corfforaethol yn cael ei ffurfio. Byddai hyn yn ffurfio sail yr hunanasesiad.

Cadarnhawyd fod monitro’r perfformiad yn parhau i gael ei gynnwys ym mhwyllgor Craffu Perfformiad a’r Cabinet. Rôl y Pwyllgor Craffu a Llywodraethu byddai derbyn yr adroddiad yn flynyddol i’w drafod a’i gadarnhau.

 

Darparodd yr ATCSPh gadarnhad i’r aelodau eu bod wedi derbyn cyngor annibynnol ar y ffordd orau i adrodd i aelodau. Cytunwyd i gynnwys saith adran llywodraethu o fewn yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol o dan y teitl Iechyd Corfforaethol i ffurfio un adroddiad.

 

Dyma’r aelodau yn diolch i’r RhTCS a’r ATCSPh am yr adroddiad manwl a’r eglurhad clir o’r hunanasesiad. Amlygwyd fod llawer o waith wedi cael ei wneud i greu’r hunanasesiad drafft. Yn dilyn y drafodaeth, ymhelaethodd y swyddogion ar y materion canlynol:

·         Roedd y sicrwydd wedi’i nodi yn yr adroddiad wedi cael ei ddarparu gan archwilydd annibynnol, wedi’i gomisiynu gan CLlLC.

·         Byddai ymrwymiad yn cael ei gynnwys yn y gwaith o ddatblygu Cynllun Corfforaethol newydd. Byddai dull cynhwysol gan aelodau ac Aelodau Lleyg yn cael ei fabwysiadu. Cadarnhaodd y RhTCS fod y cyfnod ymchwil wedi dechrau a’r cyfnod ymrwymo wedi’i lansio. Sesiynau wedi eu trefnu ar gyfer y cyhoedd gyda sesiynau ymrwymo yn cael eu trefnu i aelodau a staff Adroddwyd ar y broses i’r TAS a’r Cabinet i’w fonitro.

 

Diolchodd yr Aelodau i’r swyddogion am yr adroddiad a PHENDERFYNWYD bod yr aelodau yn adolygu a chymeradwyo’r adroddiad drafft, a’i fod wedi ystyried unrhyw newidiadau sydd eu hangen i ganlyniadau neu gamau gweithredu y mae’r cyngor yn bwriadu eu gwneud.

 

9.

DATGANIAD LLYWODRAETHU BLYNYDDOL 2020-21 pdf eicon PDF 210 KB

I ystyried adroddiad gan y Prif Archwilydd Mewnol (copi yn amgaeedig) ar y Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2020-21.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Arweiniodd y Prif Archwilydd Mewnol yr aelodau trwy’r adroddiad ac atodiad 1 (wedi’i ddosbarthu’n flaenorol). Atgoffwyd aelodau fod yr adroddiad yn casglu gwybodaeth ar weithgaredd archwilio mewnol, adroddiadau rheoleiddiwr allanol a hunanasesiad mewnol gan y gweithgor Llywodraethu Corfforaethol, oedd yn adolygu trefniadau llywodraethu’r cyngor.

Roedd gan y Cyngor ddyletswydd statudol i gyhoeddi Datganiad Llywodraethu Blynyddol (DLlB). Eglurwyd fod y DLlB wedi ffurfio rhan o’r Datganiad o Gyfrifon. Cafodd ei gyflwyno i’r aelodau ar wahân er mwyn i aelodau allu trafod ac adolygu’r DLlB yn unigol.

Roedd yr asesiad DLlB yn nodi effaith y pandemig. Un effaith allweddol a nodwyd oedd yr anallu i gynnal cyfarfodydd pwyllgor ar ddechrau’r flwyddyn oherwydd rheoliadau cadw pellter cymdeithasol. Roedd yr effaith o adael yr Undeb Ewropeaidd hefyd wedi’i gynnwys yn yr DLlB.

Dywedodd y PAM wrth yr aelodau fod gofyniad newydd ar gyfer cynnwys datganiad o gydymffurfiaeth gyda chod rheolaeth ariannol wedi cael ei gynnwys.

Pwysleisiwyd fod pandemig Covid 19 wedi cael effaith sylweddol ar y Cyngor a’r preswylwyr, a bod angen addasu’r ffordd yr oeddem yn darparu gwasanaethau i breswylwyr.

 

Atgoffwyd aelodau o achos llywodraethu sylweddol a gafodd ei godi yng nghyfarfodydd pwyllgor DLlB y llynedd a ddaeth i’r canlyniad na chaniatawyd cynnal cyfarfodydd pwyllgor. Mae diweddariad wedi cael ei gynnwys yn y DLlB hwn gan fod cyfarfodydd wedi cael dod yn ôl ar-lein. Bellach roedd pob cyfarfod y Cyngor a Chraffu a Llywodraethu yn cael eu gweddarlledu. Cadarnhaodd y Swyddog Monitro fod cyfarfodydd zoom yn defnyddio gwasanaeth cyfieithu o Hydref 2020.

Roedd adolygiad o effeithiolrwydd yn adran allweddol o'r DLlB. Roedd y DLlB hwn yn ymgorffori’r trefniadau llywodraethu ar gyfer Hamdden Sir Ddinbych Cyf. 

 

Pwysleisiodd y PAM bwysigrwydd y camau Gwelliant sy’n codi o DLlB 2020-21 gan ei fod yn dangos tryloywder ac yn arddangos lle i wella ac i fynd i’r afael â hynny eleni. 

 

Cadarnhaodd Matthew Edwards, Archwilio Cymru wrth yr aelodau y byddai Archwilio Cymru yn adolygu’r DLlB fel rhan o’r datganiadau ariannol. Bydd darganfyddiadau’r adolygiad yn ffurfio sail adroddiad Archwilio Cymru o’r cyfrifon. Bydd y darganfyddiadau yn cael eu hadrodd yn ôl i’r pwyllgor ym Medi 2021.

 

Felly,

PENDERFYNWYD fod aelodau yn adolygu a chymeradwyo’r DLlB drafft ar gyfer 2020-21 (atodiad 1) ac y mae’n monitro’r cynnydd a wnaed ar y cynllun gweithredu o DLlB 2019-20.

 

10.

ADRODDIAD ARCHWILIO MEWNOL 2020-21 pdf eicon PDF 213 KB

I ystyried adroddiad gan y Prif Archwilydd Mewnol (Copi yn amgaeedig) ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd fframwaith llywodraethu, risg a rheolaeth y Cyngor yn ystod y flwyddyn sy'n hysbysu'r ‘datganiad llywodraethu blynyddol’.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Cyflwynodd y Prif Archwilydd Mewnol (PAM) yr Adroddiad Blynyddol Archwilio Mewnol (wedi’i ddosbarthu’n flaenorol). Darparodd yr adroddiad safbwynt cyffredinol y PAM ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd fframwaith llywodraeth, risg a rheolaeth y Cyngor yn ystod y flwyddyn wnaeth hysbysu’r ‘Datganiad Llywodraethu Blynyddol’.

Roedd gwaith digonol wedi’i gwblhau yn ystod y flwyddyn yn cynnwys archwiliadau mewn camau drafft er mwyn sicrhau bod sicrwydd yn cael ei ddarparu. Nodwyd fod y pandemig coronafeirws wedi tarfu ar gyflenwi’r Cynllun Archwilio Mewnol ar gyfer 2020-21. Roedd wedi arwain ffocws arall i’r cynllun ar agweddau o brif flaenoriaeth i’r cyngor a allai gael ei gyflawni o fewn yr adnoddau sydd ar gael i Archwilio Mewnol.

Cadarnhawyd ar wahân i’r cyfyngiadau wedi’u gorfodi oherwydd y pandemig, ni chafodd unrhyw gyfyngiadau neu amhariad ar waith yr archwilio mewnol ei nodi. Newid i weithio gartref wedi digwydd yn esmwyth ac effeithlon.

 

Mewn ymateb i bryderon a chwestiynau a godwyd gan aelodau fe gadarnhaodd y PAM fod archwilio hyblyg yn cynnwys cynllun a gytunwyd arno o’r hyn i gael ei archwilio a’r cynnydd yn cael ei adolygu mewn cyfnodau. Y gobaith yw byddai’n lleihau’r cyfanswm o amser ar gyfer archwilio i alluogi blaenoriaeth ar feysydd allweddol ar gyfer archwilio.

Hysbyswyd aelodau fod archwiliadau wedi’u gohirio neu ganslo yn cael eu hymgorffori yn y daenlen dadansoddi anghenion yr archwiliad. Mewnbwn gan nifer o ffynonellau fel Blaenoriaethau Corfforaethol a Chofrestr Risgiau Corfforaethol a Chofrestrau Risgiau Gwasanaeth yr awdurdod. Cafodd ei ddiweddaru yn rheolaidd drwy gydol y flwyddyn i asesu blaenoriaeth o waith i gael ei gwblhau.

Meddai’r PAM wrth yr aelodau fod y Fenter Twyll Cenedlaethol (NFI) ar baru data yn seiliedig ar wybodaeth y mae’r Cyngor wedi’i lwytho i fyny. Casglwyd y wybodaeth hon o etholiadau a threth y cyngor. Cyn 2018/19 roedd Civico wedi cydlynu system wahanol ar gyfer casglu data. Nid oes gor-ddefnydd wedi cael ei wneud o’r NFI. Mae mwy o ymdrech wedi bod i ganolbwyntio ar baru data. Mae diwygiad i filiau Treth y Cyngor i’r eiddo hynny wedi’i wneud i adennill rhan o’r arian.

 

Cadarnhaodd PAM fod yr arwydd ar gyfer cofrestru prosiect ar gyfer cartrefi gwag yn dod i fyny fel gwyrdd. Cyfeirir at unrhyw bryderon pan fydd y gwaith asesu rheoli prosiectau wedi’i gwblhau.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r PAM am yr adroddiad a’r ymatebion manwl i bryderon yr aelodau.

 

Felly,

PENDERFYNWYD fod Adroddiad Blynyddol y Prif Archwilydd Mewnol a’r ‘safbwynt’ cyffredinol yn cael ei dderbyn a’r cynnwys yn cael ei nodi.

 

11.

TALIADAU UNIONGYRCHOL I BLANT – ADRODDIAD DILYNOL AR YR ARCHWILIAD MEWNOL pdf eicon PDF 206 KB

I dderbyn diweddariad (copi yn amgaeedig) ar gynnydd wrth weithredu’r cynllun gweithredu oedd yn cyd-fynd â’r adroddiad Archwilio Mewnol ar Daliadau Uniongyrchol i Blant dyddiedig Tachwedd 2020 a gyflwynwyd i’r pwyllgor hwn yn Nhachwedd 2020.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Archwilydd Mewnol (PAM) yr adroddiad ar y cyd â’r Uwch Archwilydd (wedi’i ddosbarthu’n flaenorol). Eglurwyd i’r pwyllgor fod adroddiad sicrwydd isel wedi cael ei gyflwyno i’r pwyllgor ym mis Tachwedd 2020, a gofynnodd yr aelodau i adroddiad cynnydd gael ei gyflwyno. Amlygwyd yn y cynllun gweithredu’r cadarnhad fod y raddfa sicrwydd wedi cael ei ail-asesu yn seiliedig ar y camau gweithredu wedi’u cwblhau  Mae’r raddfa sicrwydd wedi cael ei ailasesu gyda graddfa ganolig. Mae camau dilynol pellach wedi’u trefnu ar gyfer Medi 2021 i asesu unrhyw gamau gweithredu heb eu casglu.

Darparodd yr uwch-archwilydd yr aelodau gyda gwybodaeth gefndir ar y taliadau uniongyrchol sy’n egwyddor allweddol o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant i sicrhau fod unigolion yn cael mewnbwn ar y canlyniadau ac yn derbyn y cymorth sydd ei angen. Allan o’r 14 camau gweithredu gwreiddiol a godwyd bod pob un ar wahân i 4 wedi’u cwblhau.

 

Mewn ymateb i gwestiynau aelodau fe ymhelaethodd y swyddogion a'r Aelod Arweiniol ar y canlynol:

·         Cadarnhad fod galw am wybodaeth bellach gan Fforwm Taliadau Uniongyrchol Cymru Gyfan i ennill gwell dealltwriaeth o broses monitro Awdurdodau eraill yng Nghymru. Yn anffodus, ni chafwyd llawer o wybodaeth bellach ganddynt.

·         Gellir derbyn y cyllid ar gyfer ystod o anghenion yn cynnwys cymorth personol, seibiant a darpariaeth meithrinfa. Cafodd pob plentyn neu deulu eu hasesu i werthuso’r lefel o gyllid a chymorth sydd ei angen.

·         Roedd yr archwiliad a gynhaliwyd yn benodol ar gyfer taliadau uniongyrchol i blant. Mae taliadau uniongyrchol yn ei gyfanrwydd dan fygythiad twyll. Mae gan Awdurdod Lleol gyfrifoldeb i gefnogi unigolion sy’n derbyn taliadau uniongyrchol, i sicrhau eu bod nhw’n gallu ymrwymo’n ddigonol â CP a bod unigolion yn ymwybodol o gyfrifoldebau i reoli risgiau.  Roedd yr Archwiliad yn mynd i’r afael â’r angen i reoli’r risgiau.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r holl swyddogion a’r Aelod Arweiniol am yr adroddiad manwl. Cytunodd yr aelodau ar Archwilio Mewnol i reoli’r camau gweithredu heb eu casglu ac ni wnaeth ddiweddariad pellach i’r pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD y byddai’r aelodau yn nodi cynnwys yr adroddiad.  

 

12.

RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y PWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO pdf eicon PDF 372 KB

Ystyried rhaglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor (copi’n amgaeedig).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol (RhGD) Y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu i’w  ystyried (eisoes wedi ei rannu).

 

Cytunwyd i ddiwygio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol fel a ganlyn:

 

·         Dylid cynnwys adroddiad Archwilio Mewnol dilynol ar Adeiladau’r Frenhines ar raglen mis Gorffennaf.

 

Hysbysodd y Cadeirydd yr aelodau ei fod wedi derbyn gohebiaeth gan Archwilio Cymru i gynnwys adroddiad chwarterol gan Archwilio Cymru. Bwriad yr adroddiad oedd i ddarparu adroddiadau cenedlaethol i’r pwyllgor â’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau am y cynnydd wrth ddilyn y cynllun blynyddol.  Awgrymodd y Swyddog Monitro y byddai o fudd i’r pwyllgor dderbyn adroddiad chwarterol.

Cytunodd yr aelodau i gynnwys adroddiad chwarterol â’r wybodaeth ddiweddaraf gan Archwilio Cymru ar y RhGD. Penderfynwyd i gynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf yn y cyfarfod a gaiff ei gynnal ym mis Medi 2021.

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar gynnwys yr ychwanegiadau uchod, i nodi rhaglen gwaith i'r dyfodol y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu.

 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11:22am.