Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Ystafell Bwllgor 1A, Neuadd Y Sir, Ruthun

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 197 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.  

 

 

Cofnodion:

Datganodd yr aelodau canlynol gysylltiad personol –

 

Datganodd y Cynghorwyd Joe Welch a Mabon ap Gwynfor gysylltiad ag Eitem 10 ar y Rhaglen – gan fod ganddynt blant oedd yn mynychu ysgolion yn Sir Ddinbych.

 

Datganodd yr Aelod Lleyg Paul Whitham gysylltiad personol ag eitem 10 ar yr agenda – gan fod ganddo wyrion yn mynychu ysgolion yn Sir Ddinbych.

 

 

3.

MATERION BRYS

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 377 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 11 Medi 2019 (copi ynghlwm).

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ac Archwilio a gynhaliwyd ar 11 Medi.

 

Materion yn codi:

 

·         Tudalen 9 – Diweddariad Archwilio Mewnol – gofynnodd aelodau a oedd unrhyw wybodaeth ychwanegol ar gyfer hyfforddiant rheoli rhaglen  Dywedodd y Prif Archwilydd Mewnol wrth y pwyllgor bod trafodaethau yn dal i fynd rhagddynt rhwng Gwasanaethau Democrataidd a CLlLC er mwyn trefnu dyddiadau hyfforddi posib.

·         Tudalen 10 - Cymeradwyo Datganiad o Gyfrifon 2018/19 – trafodwyd y dull o fonitro taenlenni ac a oedd y dyddiad cau wedi ei gyrraedd, ac a weithredwyd unrhyw beth. Atebodd y Prif Gyfrifydd (SG) drwy ddweud bod y broses wedi cael ei hoedi ond ei bod yn mynd rhagddi gyda’r Pennaeth Gwella Busnes a Moderneiddio yn arwain ar y prosiect, ac roedd yn mynd drwy’r broses dendro ar hyn o bryd.

 

PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ac Archwilio a gynhaliwyd ar 11 Medi 2019 fel cofnod cywir.

 

 

5.

AROLYGIAETH GOFAL CYMRU - ADOLYGIAD PERFFORMIAD AWDURDOD LLEOL pdf eicon PDF 269 KB

Ystyried adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cymunedau, sy’n rhoi’r diweddaraf am Adolygiad Perfformiad Awurdod Lleol Arolygiaeth Gofal Cymru (copi wedi’i amgáu)

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cymunedau (CDC) Adolygiad Perfformiad Awdurdod Lleol – Arolygiaeth Gofal Cymru (a gylchredwyd eisoes) oedd yn rhoi gwybod i aelodau am y prif faterion oedd yn codi o adolygiad Arolygiaeth Gofal Cymru o berfformiad Cyngor Sir Ddinbych o ran cyflawni eu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol statudol.

 

Roedd llythyr blynyddol Arolygiaeth Gofal Cymru yn rhoi adborth ar weithgarwch archwilio a gwerthuso perfformiad a gwblhawyd yn ystod y flwyddyn; adroddiadau ar gynnydd y mae’r awdurdod lleol wedi ei wneud o ran gweithredu argymhellion o archwiliadau ac / neu adolygiadau arfer plant ac oedolion; ac yn amlinellu rhaglen gwaith i’r dyfodol Arolygiaeth Gofal Cymru. Roedd y llythyr yn rhoi crynodeb o gryfderau a meysydd i’w gwella. Roedd y meysydd a nodwyd fel rhai lle mae angen gwelliannau yn unol ag Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol ac fe fyddant yn cael eu hymgorffori yn y Cynlluniau Busnes Gwasanaeth ar gyfer 2019 - 2020.

 

Trafodwyd y materion canlynol mewn mwy o fanylion yn dilyn y cyflwyniad -

 

·         Roedd darpariaethau iaith Gymraeg yn eu lle, a gofynnwyd a oedd digon o ddarpariaeth i alluogi pobl fregus i sgwrsio yn eu hiaith gyntaf. Wrth ymateb roedd CDC yn deall pwysigrwydd yr iaith Gymraeg fodd bynnag roedd yn her, yn enwedig o safbwynt recriwtio. Roedd dulliau gweithredu wedi eu rhoi ar waith i annog staff i ddefnyddio mwy o’r iaith Gymraeg i wella eu sgiliau.

·         Dywedodd chwarter o’r ymatebwyr i’r arolygon eu bod wedi cael trafferthion derbyn yr wybodaeth a'r cyngor cywir pan oedd ei angen arnynt, ac roedd hynny yn achosi pryderon i’r pwyllgor. Holwyd pam bod y nifer mor uchel. Dywedodd y CDC wrth y pwyllgor ei fod yn fater cymhleth, roedd yr wybodaeth a roddwyd yn dda ac yn gywir, fodd bynnag roedd y porth at yr wybodaeth honno yn heriol. Roedd hyn oherwydd bod canfyddiadau pobl o’r wybodaeth maent yn ei gredu sydd ei angen a beth sydd wirioneddol ei angen yn wahanol, felly byddant yn chwilio am yr wybodaeth yn y maes anghywir, fodd bynnag pan fyddent yn cysylltu gyda’r Cyngor byddent yn derbyn yr wybodaeth gywir.

 

Bu Aelodau’n canmol y gwaith oedd wedi ei wneud, roedd pawb yn gytûn y byddai’n fanteisiol cael adroddiad arall Adolygiad Perfformiad Awdurdod Lleol – Arolygiaeth Gofal Cymru mewn blwyddyn.

 

PENDERFYNWYD - bod

      i.        y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ac Archwilio yn derbyn Adolygiad Perfformiad Awdurdod Lleol – Arolygiaeth Gofal Cymru a nodi ei gynnwys,

    ii.        yr adroddiad yn dychwelyd i'r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ac Archwilio fis Tachwedd 2020

 

 

6.

ADRODDIAD DIOGELU pdf eicon PDF 269 KB

Ystyried adroddiad ar adolygiad Swyddfa Archwilio Cymru ac ystyried a oes angen craffu ymhellach (copi wedi'i amgáu)

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cymunedau (CDC), Adolygiad Swyddfa Archwilio Cymru o Drefniadau Corfforaethol ar gyfer Diogelu (a gylchredwyd eisoes), sy’n nodi’r materion allweddol oedd yn codi o adolygiad Swyddfa Archwilio Cymru o Drefniadau Corfforaethol Cyngor Sir Ddinbych ar gyfer Diogelu. Roedd yr adroddiad er mwyn sicrhau fod y pwyllgor yn ymwybodol o’r adolygiad o’r trefniadau corfforaethol yn ymwneud â diogelu gan gynnwys meysydd o gynnydd, gwelliant a risg.

 

Cafodd Aelodau eu sicrhau gan CDC nad oedd unrhyw beth annisgwyl o fewn yr adroddiad. Atgoffwyd y pwyllgor o Adolygiad Swyddfa Archwilio Cymru o

Drefniadau Corfforaethol Diogelu yn adroddiad Cynghorau Cymru a gyflawnwyd ym mis Gorffennaf 2015, ac a oedd unrhyw un o’r argymhellion o adroddiad 2015 yn dal heb eu cyflawni.

 

Roedd yr holl argymhellion wedi eu cyflawni, ac un yn wedi ei gyflawni yn rhannol. Fe wnaeth CDC ganmol y llywodraethu cryf oedd yn ei le ar gyfer galluogi cyflawni’r argymhellion. Diolchodd y CDC i’r aelodau arweiniol am eu cefnogaeth.

 

Cododd yr Aelodau’r pwyntiau canlynol -

 

·         Aelodau nad ydynt yn mynychu hyfforddiant, a sut gellid gwella’r nifer, awgrymwyd hysbysu arweinwyr grwpiau gwleidyddol pa aelodau oedd ddim yn mynychu digwyddiadau hyfforddi, byddai hyn yn sicrhau bod aelodau o’u grwpiau yn mynychu digwyddiadau yn y dyfodol.

·         Amlygwyd contractwyr oedd yn gweithio i Gyngor Sir Ddinbych ac a oedd angen unrhyw hyfforddiant diogelu ychwanegol cyn gweithio i Gyngor Sir Ddinbych. Atebodd CDC gan ddweud mai dim ond os oedd angen y byddent yn holi, Eglurwyd hefyd mai dim ond ar gyfer Swyddogion yr oedd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn credu bod yn angenrheidiol eu gwirio, nid dewis Cyngor Sir Ddinbych oedd hynny. Roedd y cwestiynau hefyd wedi eu cynnwys o fewn y broses gaffael.

·         Rhoddwyd gwybodaeth i’r pwyllgor na fyddai modiwlau E-ddysgu i Gynghorwyr yn cael eu cwblhau gan fod problemau gyda’r iPads maent yn eu defnyddio.

·         Soniwyd hefyd am hyfforddiant i staff mewn ysgolion, roedd yr adroddiad yn nodi ei fod yn 76%, roedd hefyd yn holi a oedd unrhyw ddulliau gweithredu yn eu lle i gynyddu’r niferoedd. Dywedodd CDC bod y ffigwr hwn wedi ei gynyddu ers i’r adroddiad gael ei gynhyrchu fodd bynnag roeddynt yn ansicr o’r niferoedd. Sicrhawyd Aelodau bod dulliau gweithredu yn eu lle, y byddai negeseuon yn cael eu cylchredeg i’r staff nad oedd wedi cwblhau’r hyfforddiant, ac yna byddai cyfarfodydd yn cael eu trefnu os oedd yr hyfforddiant yn dal heb ei gwblhau wedi’r e-bost, yn holi pam nad oedd yr hyfforddiant wedi ei gwblhau.

 

PENDERFYNWYD – bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ac Archwilio yn adolygu Adolygiad Swyddfa Archwilio Cymru o Drefniadau Corfforaethol dros Ddiogelu ac yn nodi’r cynnwys.

 

 

7.

AROLYGIAETH GOFAL CYMRU - AROLYGU GWASANAETHAU OEDOLION HYN pdf eicon PDF 315 KB

Derbyn adroddiad ynghylch arolygiad Arolygiaeth Gofal Cymru o Wasanaethau Oedolion Hŷn Cyngor Sir Dinbych; canfyddiadau allweddol a chamau gweithredu cysylltiedig (copi wedi'i amgáu)

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cymorth Cymunedol adroddiad Arolygiaeth Gofal Cymru o Wasanaethau Oedolion Hŷn (a gylchredwyd eisoes), oedd yn crynhoi’r archwiliad gan Arolygiaeth Gofal Cymru i Wasanaethau Pobl Hŷn Cyngor Sir Ddinbych, yn ogystal â darganfyddiadau a chamau gweithredu cysylltiol, yn dilyn ar yr archwiliad.

 

Dywedwyd wrth Aelodau bod Arolygiaeth Gofal Cymru, ym mis Mai 2019, fel rhan o adolygiad cenedlaethol o ba mor dda oedd awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn hyrwyddo annibyniaeth ac yn atal gorfod uwchgyfeirio anghenion ac ar y cyd ag Arolygiaeth Iechyd Cymru, yn arwain archwiliad o wasanaethau oedolion hŷn Cyngor Sir Ddinbych.

 

Roedd y tîm archwilio wedi derbyn 60 o ffeiliau achos unigol, ac hefyd wedi cyfweld rheolwyr, staff, ac Aelodau Etholedig Cyngor Sir Ddinbych. Fe wnaethant hefyd gyfweld partneriaid allweddol a budd-ddeiliaid ar draws iechyd a gofal cymdeithasol, ac chwrdd â dinasyddion a gofalwyr oedd yn defnyddio’r gwasanaethau. Roedd yr archwiliad yn canolbwyntio ar brofiadau pobl a'u canlyniadau ar eu taith drwy wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Wedyn rhannwyd y canfyddiadau hyn gan Arolygiaeth Gofal Cymru i ‘gryfderau’ a ‘blaenoriaethau ar gyfer gwella’ ac fe'u rhestrwyd o dan 4 pennawd:

 

      i.        Lles

    ii.        Pobl – llais a dewis

   iii.        Partneriaeth ac ymyrraeth – cyd—gynhyrchu

   iv.        Atal ac ymyrraeth gynnar

 

Tynnwyd sylw aelodau at bwynt 4.9 ar dudalen 44 oedd yn amlygu diffyg argaeledd gwasanaethau gofal cartref, roedd y broblem hon yn un genedlaethol, ac nid yn broblem o fewn Cyngor Sir Ddinbych yn unig. Dywedodd HCSS wrth aelodau bod yr adroddiad cyffredinol yn gadarnhaol ac roedd yn falch ei fod yn cydnabod y gwaith caled a wnaed gan y staff.

 

Trafodwyd y pwyntiau canlynol mewn mwy o fanylder -

 

·         Amlygwyd cryfderau lles, fe’u canmolwyd am hyrwyddo annibyniaeth, fodd bynnag gyda'r cynnydd mewn Dementia, a oedd mesurau yn eu lle i sicrhau bod pobl yn gallu gwneud eu penderfyniadau eu hunain o safbwynt gofal. Gan ymateb, dywedodd HCSS wrth y pwyllgor bod Deddf yn ei lle sef Deddf Galluedd Meddyliol. Pwrpas y ddeddf oedd darparu fframwaith gyfreithiol ar gyfer gweithredu a gwneud penderfyniadau ar ran oedolion nad oedd â’r galluedd meddyliol i wneud penderfyniadau penodol drostynt eu hunain, fodd bynnag ni allai Cyngor Sir Ddinbych wneud unrhyw beth tan bydd y ffurflenni perthnasol o fewn y Ddeddf wedi eu cwblhau.

·         Byddai Archwiliad Diogelu Arolygiaeth Gofal Cymru yn cael ei gynnal fis Ionawr 2020. Holwyd ym mha bwyllgor y byddai’r adroddiad yn cael ei drafod, unwaith byddai’r archwiliad wedi ei gwblhau. Eglurwyd y byddai’r pwyllgor yn cael ei ddewis mewn cyfarfod Cadeiryddion ac Is Gadeiryddion Pwyllgorau Archwilio.

·         Soniwyd am drafferthion recriwtio, hysbyswyd y pwyllgor bod Gofal Cymdeithasol Cymru a Llywodraeth Cymru yn ceisio gwneud galwedigaeth gofal yn fwy apelgar, er mwyn ceisio atynnu mwy i’r sector. 

 

PENDERFYNWYD - bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ac Archwilio yn derbyn ac yn nodi cynnwys yr adroddiad.

 

Ar y pwynt hwn symudwyd eitem 11 ar y Rhaglen er mwyn ei drafod nesaf.

 

8.

ADRODDIAD UNIGOLION CYFRIFOL - GWASANAETHAU RHEOLEDIG pdf eicon PDF 222 KB

Derbyn y diweddaraf am adroddiad Unigolion Cyfrifol y Gwasanaethau Rheoledig (copi wedi'i amgáu)

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Cleientiaid (SMCS) Adroddiad Unigolion Cyfrifol ar Wasanaethau Rheoledig (a gylchredwyd eisoes). Roedd yr adroddiad yn amlygu cynnydd y gwasanaethau rheoledig o safbwynt bodloni gofynion a goblygiadau a nodwyd yn Rheoliadau Gwasanaethau Rheoledig (Darparwyr Gwasanaeth ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017. Roedd yr adroddiad yn ymwneud â’r cyfnod rhwng 1 Ebrill 2018 a 31 Mawrth 2019. At ddiben y rheoliadau hynny, y gwasanaethau rheoledig oedd Cartrefi Gofal Preswyl, Gofal Cartref, a Rhannu Bywydau (a elwir hefyd yn Leoliadau Oedolion).

 

Yr adroddiad oedd yr adroddiad blynyddol cyntaf a ddarparwyd gan yr unigolyn cyfrifol ar y gwasanaethau rheoledig. Yr unigolyn cyfrifol ar gyfer Gwasanaethau Oedolion Cyngor Sir Ddinbych oedd Katie Newe, Rheolwr Gwasanaeth Gwasanaethau Cleientiaid. Mae Rheoliadau Gwasanaethau Rheoledig (Darparwyr Gwasanaeth ac Unigolion Cyfrifol (Cymru) 2017 yn nodi dyletswyddau penodol o safbwynt y rôl hon. Roedd y rhain yn cynnwys sicrhau bod systemau a phrosesau yn eu lle ar gyfer monitro, adolygu a gwella safon y gwasanaeth a ddarperir. Dywedwyd wrth Aelodau yn na fyddai Awelon yn cael ei gynnwys mewn adroddiadau pellach ar ôl iddo gau.

 

Dywedwyd wrth y pwyllgor hefyd bod amrywiol arferion da yn eu lle, safon y bwyd, roedd dinasyddion hefyd â chyswllt gydag amrywiaeth o gyrff allanol gan gynnwys pobl trin gwallt, pobl trin traed, ymweliadau gan ysgolion, gwasanaethau crefyddol, a chŵn therapi. Roedd ymweliadau hefyd â chanolfannau garddio a’r theatr, yn ogystal â nosweithiau cwis ac ymweliadau gan ddiddanwyr.

 

Amlygwyd recriwtio fel problem yn y sector gofal, fodd bynnag roedd pecyn recriwtio oedd yn cynnwys fideos gan staff wedi ei gynhyrchu er mwyn annog pobl i ddod i'r sector gofal, roedd diwrnodau agored hefyd wedi eu cynnal.

 

Trafodwyd y pwyntiau canlynol mewn mwy o fanylder -

 

·         Canmolodd aelodau’r gwaith a wnaed gan yr Unigolyn Cyfrifol a’r cartrefi gofal. Canmolodd yr aelod lleol ar gyfer Cysgod-y-Gaer y gofal, a dywedodd bod y defnydd o’r iaith Gymraeg yn ardderchog.

·         Yr henoed sy’n byw yn y cartref ac a oedd unrhyw gefnogaeth yn cael ei roi iddynt i sicrhau nad oeddynt yn cael eu hynysu. Roedd gwaith da yn cael ei wneud mewn cymunedau, nodwyd fod pwyntiau siarad yn ffordd i bobl ddarganfod pa gymorth sydd ar gael i gefnogi eu hiechyd a’u lles yn eu hardal leol, roeddynt yn y lleoliadau gorau i’r henoed fynychu er mwyn darganfod beth oedd ar gael.

·         Gofynnwyd ynglŷn â chartref Gofal Dolganog yn Y Rhyl, eglurwyd nad Cyngor Sir Ddinbych oedd yn rhedeg y cartref gofal, fodd bynnag roedd CSDd yn archwilio'r cartrefi gofal hyn.

·         Gwahoddwyd Aelodau oedd ag unrhyw bryderon i ymweld â’r cartrefi gofal gyda’r Unigolyn Cyfrifol.

 

PENDERFYNWYD

·         Bod y Pwyllgor Llywodraeth Corfforaethol ac Archwilio yn ystyried cynnwys Adroddiad Blynyddol yr Unigolyn Cyfrifol ar Wasanaethau Rheoledig

·         Bod yr Adroddiad yn dod yn ôl yn flynyddol i’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ac Archwilio.

 

 

9.

DATGANIAD LLYWODRAETHU BLYNYDDOL - DIWEDDARIAD AR Y CYNLLUN GWELLA pdf eicon PDF 200 KB

Derbyn adroddiad gan y Prif Archwilydd Mewnol sy'n rhoi diweddariad ar y cynnydd wrth weithredu'r cynllun gwella llywodraethu sydd wedi'i gynnwys yn Natganiad Llywodraethu Blynyddol 2018/19 (copi wedi'i amgáu)

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Archwilydd Mewnol (CIA) y Datganiad Llywodraethu Blynyddol – Diweddariad ar y Cynllun Gwella (a gylchredwyd yn flaenorol). Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf i aelodau ar gynnydd wrth weithredu’r cynllun gwella sydd ynghlwm â Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2018/19.

 

Dywedwyd wrth y pwyllgor bod y gwelliannau a nodir yn Natganiad Llywodraethu Blynyddol 2018/19 yn gwneud cynnydd da. Roedd dau gam gweithredu gwella wedi eu cwblhau, a’r pump arall i’w cwblhau erbyn 31 Mawrth 2020.

 

Trafododd yr Aelodau'r materion canlynol -

 

·         Gwnaeth y pwyllgor sylwadau ar y camau gweithredu oedd yn cyfeirio'n fras at y Cyngor, ac a fyddai ysgolion yn cael eu cynnwys, amlygwyd hyn i sicrhau nad oedd ysgolion yn cael eu gadael allan o unrhyw un o’r camau hyn.

·         Amlinellwyd y modiwlau e-ddysgu, cyfeiriodd aelodau at y cyfarfod diwethaf, lle byddai rheolwyr yn derbyn adroddiad ar aelodau eu tîm nad oedd wedi cwblhau'r hyfforddiant.  Soniwyd am amserlenni hyfforddiant a beth fyddai’n digwydd pe bai rhywun yn methu gorffen yr hyfforddiant o fewn yr amserlen. Dywedwyd wrth Aelodau bod hyfforddiant wedi ei gynnwys yn y cyfnod prawf, pe na bai’n cael ei gwblhau ni fyddent yn parhau â’u cyflogaeth yn y Cyngor. Fodd bynnag roedd yr holl system yn cael ei harchwilio gyda’r archwiliad moesoldeb oedd yn cael ei gynnal ar hyn o bryd.

 

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ac Archwilio yn derbyn ac yn nodi Diweddariad Gwelliant y Datganiad Llywodraethu Blynyddol ac yn nodi ei gynnwys.

 

 

10.

DIWEDDARIAD AR Y GYLLIDEB pdf eicon PDF 229 KB

Derbyn adroddiad yn ymwneud â phroses y gyllideb gyfredol ar gyfer 2020/21 a’r rhagdybiaethau cynllunio ariannol tymor canolig allweddol (copi wedi’i amgáu)

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Gyfrifydd adroddiad Diweddariad ar y Gyllideb (a gylchredwyd eisoes) er mwyn darparu gwybodaeth ynghylch y broses gyllido gyfredol ar gyfer 2020/21 a’r tybiaethau ariannol tymor canolig allweddol er mwyn helpu i hysbysu rôl drosolwg y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol o safbwynt proses gyllido’r cyngor.

 

Dywedwyd wrth Aelodau bod yr adroddiad wedi newid yn sylweddol ers i’r adroddiad gael ei gyhoeddi. Eglurwyd bod blwyddyn 2019/20 wedi bod yn anodd cael sicrwydd oherwydd ansefydlogrwydd gwleidyddol Llywodraeth y DU, ac oherwydd hyn roedd amserlen y broses gyllido arfaethedig wedi ei newid er mwyn delio â’r ansicrwydd hwn. Cylchredwyd amserlen wedi ei haddasu at aelodau, allai newid eto.

 

Penderfynodd y cyngor weithredu arbedion o 5.5%, er yr ansicrwydd, roedd hyn er mwyn meintioli’r pwysau yn y Gwasanaethau Cymorth Cymunedol,

Gwasanaethau Addysg a Phlant, Cludiant Ysgol a Gwastraff.

 

Gofynnodd Aelodau a oedd y gweithdy cyllido a oedd wedi ei drefnu ar gyfer 3 Rhagfyr ac a oedd werth cynnal y gweithdy, yn enwedig o ystyried yr ansicrwydd gyda’r gyllideb. Sicrhawyd Aelodau y byddai’r gweithdy yn parhau a gallai aelodau drafod yr wybodaeth ddiweddaraf oedd ar gael ar y gyllideb.

 

PENDERFYNWYD – bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ac Archwilio yn derbyn ac yn nodi cynnwys yr adroddiad.

 

 

11.

IECHYD A DIOGELWCH MEWN YSGOLION - DIWEDDIAD ARCHWILIO pdf eicon PDF 202 KB

Derbyn adroddiad gan y Prif Archwilydd Mewnol ar sut mae’r cyngor ac ysgolion yn gweithredu gwelliant o ran ‘Iechyd a Diogelwch mewn Ysgolion’ (copi wedi’i amgáu)

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Archwilydd Mewnol a’r Uwch Archwilydd Ddiweddariad Archwilio Mewnol - Iechyd a Diogelwch mewn Ysgolion (a gylchredwyd eisoes). Roedd yr adroddiad yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yn y gwaith o weithredu’r cynllun gweithredu a ddaeth gyda'r adroddiad Archwilio Mewnol ar Iechyd a Diogelwch mewn Ysgolion ym mis Mehefin 2018 ac yn dilyn yr adroddiad cynnydd cyntaf oedd yn rhoi diweddariad o gynnydd i’r pwyllgor ym mis Mehefin 2019.

 

Roedd yr adroddiad dilynol yn amlygu bod rhywfaint o gynnydd wedi cael ei wneud i gyflwyno a hyrwyddo hyfforddiant iechyd a diogelwch i staff ysgolion. Mae'r gwaith o ddatblygu system lwybro camau gweithredu wedi cael ei oedi oherwydd diffyg cynhwysedd y tîm TGCh - mae swydd datblygwr yn cael ei hysbysebu ar hyn o bryd.

Gan fod y ddau gam gweithredu wedi'u cyflawni yn rhannol, mae ein graddfa sicrwydd yn aros yn ganolig. Bydd Archwilio Mewnol yn parhau i fonitro’r camau gweithredu sydd ar ôl i’w cymryd er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu cwblhau.

 

Trafododd Aelodau’r canlynol yn fanylach –

 

·         Roedd AD yn gweithio’n agos gydag ysgolion i sicrhau bod staff yn cwblhau cyrsiau hyfforddi.

·         Reoli heintiau mewn ysgolion Roedd hyn yn mynd yn dda mewn ysgolion, gyda’r ysgolion olaf wedi rhoi’r cynlluniau ar waith.

·         Holwyd am ystadegau presenoldeb gydag athrawon, ac a oedd unrhyw ddull o fonitro presenoldeb. Dywedwyd wrth y pwyllgor bod salwch wedi ei gynnwys ar system TRENT ac y gellir monitro hyn ar draws y sir.

·         Holwyd am y polisïau roedd ysgolion yn eu defnyddio, ac a oedd ganddynt eu polisïau eu hunain. Eglurwyd fod hawl gan ysgolion i gael eu polisïau eu  hunain, fodd bynnag gallant fabwysiadu polisïau corfforaethol hefyd.

·         Roedd y pwyllgor o’r farn y dylid ymestyn unrhyw hyfforddiant Iechyd a Diogelwch mewn ysgolion i gynnwys llywodraethwyr.

 

Dywedodd y swyddogion wrth y pwyllgor y byddai Iechyd a Diogelwch mewn ysgolion yn cael ei fonitro’n ofalus, ac yn dod yn ôl i’r pwyllgor pan fyddai swyddogion yn credu bod hynny’n briodol.

 

PENDERFYNWYD

      i.        bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ac Archwilio yn adolygu'r cynnydd yn yr adroddiad Iechyd a Diogelwch.

    ii.        Bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ac Archwilio yn cytuno bod adroddiad dilynol yn cael ei gynhyrchu os oedd swyddogion o’r farn bod hynny yn briodol.

 

 

12.

RHAGLEN WAITH Y PWYLLGOR LLYWODRAETHU CORFFORAETHOL pdf eicon PDF 228 KB

Ystyried rhaglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor (copi ynghlwm).

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ac Archwilio (a gylchredwyd ymlaen llaw) i’w hystyried.

 

Cytunodd Aelodau bod Adroddiad Blynyddol yr Unigolyn Cyfrifol ar Wasanaethau Rheoledig yn dod yn ôl mewn blwyddyn i fonitro’r cynnydd. Eglurwyd hefyd bod angen dod ag adroddiad Iechyd a Diogelwch Blynyddol a Diogelwch Tân i’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ac Archwilio ar wahân ym mis Medi 2020.

 

PENDERFYNWYD - yn amodol ar yr uchod, y byddai’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ac Archwilio yn cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.