Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Ystafell Bwllgor 1A, Neuadd Y Sir, Ruthun

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnodion:

 

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Martyn Holland a'r Cynghorydd Joe Welch.

 

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan yr Aelod Lleyg Paul Whitham

 

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan gynrychiolwyr Swyddfa Archwilio Cymru

Derwyn Owen a Gwilym Bury.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd fel un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan.

 

3.

MATERION BRYS

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Dim materion brys.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 384 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd 2018 (copi’n amgaeedig).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd 2018.

 

PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd 2018 fel cofnod cywir.

 

 

Ar y pryd hwn, cytunwyd amrywio trefn y Rhaglen.

5.

ADRODDIAD BLYNYDDOL AM Y CYFANSODDIAD GAN GYNNWYS Y CYLCH GORCHWYL pdf eicon PDF 283 KB

Ystyried adroddiad gan y Swyddog Monitro (copi’n amgaeedig) sy’n rhoi diweddariad i aelodau am Gyfansoddiad y Cyngor ac adolygiad o’i ddarpariaethau, yn benodol, gweithredu cydbwysedd gwleidyddol ar gyfansoddiad y Cabinet.

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro'r Adroddiad Blynyddol ar y Cyfansoddiad gan gynnwys y cylch gorchwyl (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn darparu adolygiad i aelodau o’i ddarpariaethau, yn arbennig, gweithredu cydbwysedd gwleidyddol i gyfansoddiad y Cabinet.

 

 Cadarnhaodd MO fod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn rhan o’i gylch gorchwyl sydd ei angen i fonitro ac adolygu Cyfansoddiad y Cyngor. Roedd yr adroddiad a ddarparwyd i aelodau'n cyfeirio at ddiweddariadau i’w gwneud i’r Cyfansoddiad i ystyried penderfyniadau’r Cyngor a’r Cabinet ac unrhyw newidiadau a oedd wedi digwydd ers yr adolygiad diwethaf.

Amlygwyd fod y Cyngor wedi cytuno ar gynnig ar 23 Hydref 2018 i ofyn i’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ystyried dewisiadau ar sut y gellid newid y Cyfansoddiad i ddileu'r gofyniad am gydbwysedd gwleidyddol yn y Cabinet ac adrodd ei gasgliadau i’r Cyngor Llawn ar 19 Chwefror 2019.

 

Tywysodd yr MO aelodau drwy Atodiad 4 yr adroddiad, a oedd yn amlygu’r newidiadau arfaethedig i’r cyfansoddiad.

Sylwodd aelodau bod adroddiad cwynion wedi ei gyflwyno’n rheolaidd i’r Pwyllgor Craffu Perfformiad a derbyniwyd trosolwg flynyddol o’r weithdrefn gwyno. 

Roedd aelodau’n cytuno y dylai’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol dderbyn adroddiad blynyddol yn monitro’r weithdrefn gwyno ac yn nodi unrhyw dueddiadau y gallai fod angen eu hystyried. Nodwyd y gellid cyfeirio unrhyw faterion yn codi o adroddiad o’r fath i Gadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu bennu a oedd angen unrhyw graffu pellach...

 

Cadarnhaodd Aelodau a’r Cadeirydd eu bod yn cytuno gyda’r diwygiadau arfaethedig.

 

Tywysodd yr MO aelodau drwy Atodiad 1 yr adroddiad, a oedd yn amlinellu ffurf a chyfansoddiad y Cabinet. Y model a fabwysiadwyd gan Sir Ddinbych ar hyn o bryd oedd y ‘model arweinydd cadarn’ lle mae gan yr arweinydd yr awdurdod i benodi aelodau’r Cabinet.

 

Cadarnhawyd mai Cyngor Sir Ddinbych oedd yr unig awdurdod yng Nghymru lle’r oedd gofyniad i gael Cabinet gyda chydbwysedd gwleidyddol. Nid oes unrhyw ofyniad cyfreithiol ar y Cabinet i gynnal cydbwysedd gwleidyddol.

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl, trafodwyd y pwyntiau canlynol mewn rhagor o fanylder:

·         Roedd aelodau’n cytuno mai’r Model Arweinydd Cryf oedd y model mwyaf priodol i ethol aelodau’r Cabinet.

·         Roedd pob plaid wleidyddol yn cyfrannu at y broses benderfynu.

Gwahoddwyd arsylwyr i sgwrsio a thrafod materion yn y Cabinet. Mynegodd Aelodau bryder mai Sir Ddinbych oedd yr unig awdurdod yng Nghymru i fod â’r gofyniad i gael cydbwysedd gwleidyddol.

·         Cytunwyd fod y newid wedi bod er gwell.

Os cytunwyd ar y newid, byddai’n rhaid i’r canlyniad gynnig gwell canlyniadau i drigolion Sir Ddinbych.

Teimlai mwyafrif yr aelodau y byddai diddymu’r gofyniad am gydbwysedd gwleidyddol yn y Cabinet yn caniatáu cwmpas ehangach i’r unigolion benodi ar y Cabinet a chynnig rhagor o wybodaeth ac arbenigedd.  Nododd aelodau fod rhan gan bawb mewn penderfyniadau.

Diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion am yr adroddiad manwl a'r gwaith a gyflwynwyd. Roedd aelodau’n gwerthfawrogi cymhlethdod y testun.

 

Cynigiodd Aelodau argymell i’r Cyngor y dylid diddymu’r gofyniad am gydbwysedd gwleidyddol a pharhau â’r model Arweinydd Cryf a fabwysiadwyd. Pleidleisiodd yr Aelodau chymeradwywyd y cynnig. Felly;

 

PENDERFYNWYD bod aelodau’n

i.              Argymell bod y Cyngor yn dileu Cydbwysedd Gwleidyddol yn y Cabinet ac yn mabwysiadu’r model “Arweinydd Cryf”;

ii.            cytuno i’r newidiadau arfaethedig i’r Cyfansoddiad fel y nodir yn Atodiad 3 a 4 i’r adroddiad.

 

 

6.

STRATEGAETH RHEOLI TRYSORLYS FLYNYDDOL pdf eicon PDF 216 KB

Ystyried adroddiad gan y Prif Swyddog Cyllid (copi’n amgaeedig) ar Reoli Trysorlys er mwyn caniatáu i’r pwyllgor adolygu’r Strategaeth Rheoli Trysorlys a Dangosyddion Darbodus cyn iddynt gael eu hystyried i’w cymeradwyo gan y Cyngor ar 19 Chwefror 2019.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyllid (CFO) Adroddiad y Datganiad Strategaeth Rheoli Trysorlys Flynyddol (TMSS) (Atodiad 1 – cylchredwyd yn flaenorol) a oedd yn dangos sut y byddai’r Cyngor yn rheoli ei fuddsoddiadau a’i fenthyca am y flwyddyn i ddod ac mae’n amlinellu’r Polisïau y mae’r swyddogaeth Rheoli Trysorlys yn gweithredu oddi mewn iddynt.

Mae’r Adroddiad Diweddaru ar Reoli Trysorlys (atodiad 2) yn rhoi manylion am weithgareddau Rheoli Trysorlys y Cyngor yn ystod 2018/19.

 

Mae Cod Ymarfer Rheoli Trysorlysoedd y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (“Cod TM CIPFA”) yn gorchymyn fod y Cyngor yn cymeradwyo’r TMSS a’r Dangosyddion Darbodus yn flynyddol. Mae gofyn i’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol adolygu’r adroddiad hwn cyn y caiff ei gymeradwyo gan y Cyngor ar 19 Chwefror 2019.

 

Codwyd y materion canlynol yn ystod trafodaethau -

·         Rhoddwyd cadarnhad y byddai’r adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor llawn yn dilyn argymhelliad yr aelodau.

·         Nododd y CFO bod y Cyngor yn defnyddio Ymgynghorwyr Trysorlys Arlingtonclose Ltd.

Roedd y contract gyda’r asiantaeth ymgynghori wedi ei adnewyddu ym mis Ionawr 2019 am dair blynedd.

·         Benthycodd Cyngor Sir Ddinbych arian at ddibenion cyfalaf yn unig. 

Mae’r Cyngor wedi benthyca mwy o gyllid yn sgil datblygiadau diweddar yn y Sir.

·         Roedd y gronfa Bensiynau yn gronfa ar wahân a oedd a’i threfniadau llywodraethu ei hun.

Diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion am yr adroddiad agored a chydnabod y gwaith caled roedd yr adran gyllid wedi ei wneud yng nghanfyddiadau’r adroddiad.

 

PENDERFYNWYD fod y Pwyllgor yn nodi Datganiad Strategaeth Rheoli Trysorlys ar gyfer 2018/19, a’r dangosyddion Darbodus o 2019/20 i 2020/21. Mae’r Pwyllgor yn nodi’r Adroddiad Diweddaru Rheoli Trysorlys ac yn cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les fel rhan o’i ystyriaethau.

 

 

7.

CAU’R DATGANIAD CYFRIFON pdf eicon PDF 383 KB

Ystyried adroddiad gan y Prif Gyfrifydd (copi’n amgaeedig) yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau ar y cynnydd o ran y broses statudol o gau'r cyfrifon yn gynnar.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Gyfrifydd yr adroddiad (a gylchredwyd yn flaenorol) a oedd yn rhoi crynodeb o’r gwaith oedd angen yn ystod y broses o gau cyfrifon ar ddiwedd y flwyddyn ariannol a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau ar y cynnydd a wnaed tuag at gau cyfrifon yn gynnar yn ôl statud. Amlygodd yr adroddiad newid a gytunwyd arno yn y ffordd y mae’r Cyngor yn delio â gwallau ansylweddol a nodir yn ystod yr archwiliad a fydd yn effeithio ar adroddiad terfynol Swyddfa Archwilio Cymru i’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol.

 

Tywysodd CA yr aelodau drwy’r adroddiad, gan amlygu cynnig Llywodraeth Cymru i ddod â dyddiadau cyhoeddi’r Datganiad Cyfrifon yn eu blaen. Cadarnhawyd y sylwyd ar gynnydd y llynedd i gau’r Datganiad Cyfrifon yn gynharach na’r flwyddyn flaenorol. Rhoddodd y CA sicrwydd i aelodau fod y Cyngor yn gwneud cynnydd cadarnhaol wrth weithio tuag at derfynau amser cynharach ar gyfer y flwyddyn i ddod.

 

Diolchodd y CA i gynrychiolwyr a swyddogion SAC am y gefnogaeth a gweithio i sicrhau fod cydymffurfiad â'r terfyn amser cynharach wedi ei gyflawni. Cadarnhawyd fod perthynas waith gryf wedi ei sefydlu rhwng Swyddogion Sir Ddinbych a SAC ar gyfer gwaith cydlynol,

 

Adleisiodd y cynrychiolydd SAC y diweddariad gan y CA, gan ychwanegu fod cyfathrebu gyda’r Tîm Cyllid yn parhau'n dryloyw. Byddai cwblhau set o gyfrifon glan yn parhau i fod yn flaenoriaeth i’r Cyngor a SAC.

 

Codwyd y materion canlynol yn ystod trafodaethau -

·         Rhoddwyd sicrwydd fod y terfynau amser hyd yma i gyd wedi eu cyflawni ac roedd gwaith i gwrdd â'r targed ar gyfer 18/19 ar y trywydd cywir.

·         Roedd gwaith i drosglwyddo'r Datganiad Cyfrifon craidd o Ddogfen Word i Daenlen Excel wedi dechrau.

Teimlwyd y byddai hyn yn cyflymu’r broses o grynhoi yn y mis terfynol a helpu i ddileu gwallau teipio.

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn yr adroddiad a nodi,

I. y cynnydd a wnaed tuag at gyflawni’r dyddiadau cau cynnar a fynnir gan Lywodraeth Cymru,

II. y newid dull o ran y ffordd mae’r Cyngor yn delio â nodi croniadau sydd wedi eu cytuno arnynt gyda SAC, sy’n cynnwys cyflwyno de-minimis o £1,000 ar gyfer croniadau gorfodol.

 

 

8.

LLYTHYR ARCHWILIO BLYNYDDOL pdf eicon PDF 272 KB

Derbyn er gwybodaeth Llythyr Archwilio Blynyddol Cyngor Sir Ddinbych 2018–2019, gan Swyddfa Archwilio Cymru (copi'n amgaeedig).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparodd Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) lythyr gwybodaeth i Aelodau

 (dosbarthwyd yn flaenorol) yn rhoi manylion y llythyr Archwilio Blynyddol i Gyngor Sir Ddinbych 2018-2019.

 

Cadarnhaodd y cynrychiolydd SAC y byddai adroddiad ar ardystio hawliadau grantiau a ffurflenni yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol unwaith y byddent yn cael eu cwblhau.

 

PENDERFYNWYD, fod y pwyllgor yn derbyn ac yn nodi cynnwys llythyr SAC.

 

 

Ar y pwynt hwn (11:10 a.m.) roedd 10 munud o egwyl.

 

Ailddechreuodd y cyfarfod am 11.20 a.m.

 

 

9.

DIWEDDARIAD ARCHWILIO MEWNOL pdf eicon PDF 361 KB

Ystyried adroddiad gan y Prif Swyddog Mewnol (copi'n amgaeedig) yn rhoi gwybod i aelodau am gynnydd Archwilio Mewnol.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Archwilydd Mewnol yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau ar gynnydd y Tîm Archwilio Mewnol o safbwynt darparu’r gwasanaeth, sicrwydd darparu, adolygiadau wedi eu cwblhau, perfformiad ac effeithiolrwydd wrth gyflawni gwelliant.

Roedd yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth ar y gwaith a wnaed gan Archwilio Mewnol ers y cyfarfod pwyllgor diwethaf. Roedd yn caniatáu’r pwyllgor i fonitro perfformiad a chynnydd Archwilio Mewnol yn ogystal â rhoi crynodebau o adroddiadau Archwilio Mewnol.

 

Tywysodd y CIA aelodau drwy'r adroddiadau a oedd yn cynnig y wybodaeth ddiweddaraf hyd nes diwedd mis Rhagfyr 2018 ar -

 

·         Adroddiadau archwilio mewnol a gyhoeddwyd yn ddiweddar h.y. Rheoli Risg, Caffael TG, Gwasanaeth Cofrestru ac Anghenion Dysgu Ychwanegol, Adennill a Lleoliadau Tu Allan i’r Sir;

·         Cynnydd ar y gwaith Archwilio Mewnol hyd yma yn 2018-19;

·         Cynnydd ar waith gwrth-dwyll gan gynnwys Tystysgrifau Cronfa’r Ysgol;

·         Y wybodaeth ddiweddaraf ar berfformiad Archwilio Mewnol yn erbyn safonau a osodwyd; a

·         Y wybodaeth ddiweddaraf ar gynnydd gyda Arfer Da CIPFA ar gyfer Pwyllgorau Archwilio.

Trafodwyd y materion canlynol yn fanylach –

 

·         Anghenion Dysgu Ychwanegol, Adennill a Lleoliadau Tu Allan i’r Sir – Cadarnhaodd y CIA fod y gyllideb oedd ei hangen yn fater cenedlaethol.

Roedd aelodau’r Cabinet wedi eu hysbysu am y sefyllfa bresennol ac roedd y risgiau wedi eu monitro’n dda hyd yma.

·         Rheoli Risg – Nododd yr Aelodau’r gwaith oedd wedi ei wneud i wella Rheoli Risg yn y Cyngor.

Amlygwyd fod rheoli risg wedi gweithio’n dda.

·         Caffael TG – Cyfeiriodd y CIA at y materion a amlygwyd yn yr adroddiad.

Cadarnhawyd fod gwaith wedi dechrau i fynd i’r afael â’r materion a godwyd yn yr archwiliad ac roedd gwaith ar y gweill i fynd i’r afael â materion oedd heb eu datrys.

·         Cynnydd gyda Gwaith Atal Twyll – Cadarnhaodd y CIA bod swyddogion o’r adran archwilio wedi mynd ar gwrs sgiliau ymchwilio twyll. 

Nododd aelodau fod ffigyrau twyll wedi cynyddu. Cadarnhaodd y CIA fod gwaith gyda AD wedi parhau i sefydlu unrhyw dueddiadau. Roedd yn bwysig amlygu pwysigrwydd rhoi gwybod am achosion twyll. Roedd aelodau’n falch i nodi’r gwaith gan swyddogion i fynd i’r afael â thwyll.

·         Tystysgrif Cronfa’r Ysgol – Roedd ceisiadau i Ysgolion am Dystysgrifau Cronfa’r Ysgol wedi symud yn eu blaen.

Roedd y gwaith i gael pob tystysgrif ysgol yn parhau.

Diolchodd Aelodau i’r CIA a’r tîm oedolion am y gwaith parhaus. Teimlai Aelodau ei bod yn bwysig amlygu pwysigrwydd gweithio gyda Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â phryderon cenedlaethol ynghylch anghenion dysgu ychwanegol.

 

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn yr adroddiad gyda diweddariad am yr adain archwilio mewnol, a nodi ei gynnwys.

 

 

10.

ADRODDIAD DIWEDDARU - YR UNED GAFFAEL AR Y CYD pdf eicon PDF 269 KB

Ystyried adroddiad gan y Prif Swyddog Mewnol (copi’n amgaeedig) sy’n darparu diweddariad i aelodau am gynnydd o ran gweithredu’r camau gweithredu a gytunwyd o ran adroddiad sicrwydd isel “Yr Uned Gaffael Gorfforaethol ar y Cyd” a gyflwynwyd i’r Pwyllgor hwn ym mis Mehefin 2018.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Archwilydd Mewnol yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol). Roedd yr adroddiad yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau ar gynnydd wrth gyflwyno’r cam a gytunwyd arno yn ymwneud â’r adroddiad sicrwydd isel “Uned Gaffael ar y Cyd” a gyflwynwyd i’r Pwyllgor ym mis Mehefin 2018.

 

Tywysodd y Rheolwr Gweithrediadau Cyfreithiol (LPOM) a Chaffael yr aelodau drwy’r adroddiad. Rhoddodd yr LPOM y wybodaeth ddiweddaraf i aelodau ar bob gweithred a godwyd fel rhan o’r archwiliad cychwynnol a phwysleisiodd y gwaith oedd wedi ei wneud i fynd i’r afael â’r pryderon a amlygwyd.

 

Cadarnhaodd y CIA fod Sir y Fflint wedi derbyn yr adroddiad. Roedd yr Archwiliad wedi bod yn adlewyrchiad ar berthynas waith ar y cyd ac roedd wedi bod yn hollbwysig i’r ddau awdurdod graffu ar y canfyddiadau.  Pwysleisiodd y Swyddog Monitro’r gwaith oedd wedi ei sefydlu gan yr LPOM i wella’r safonau a mynd i’r afael â phryderon yr uned gaffael ar y cyd. Amlygwyd fod angen gwneud gwaith pellach i sicrhau fod gweithdrefnau cadarn. Hysbyswyd aelodau pa mor bwysig oedd hi fod y swyddogion yn deall y polisïau a gweithdrefnau yn ymwneud â chaffael.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r LPOM am yr esboniad tryloyw ac agored am y gwaith oedd wedi ei sefydlu i fynd i’r afael â’r pryderon a godwyd yn y lle cyntaf.  Roedd aelodau’n falch i weld fod gwaith wedi dechrau i sefydlu ymagwedd gadarnhaol tuag at weithio ar y cyd â Sir y Fflint. Nodwyd fod yr adran archwilio mewnol wedi trefnu adolygiad dilynol a fyddai’n digwydd ym mis Mawrth. Cadarnhaodd y CIA y byddai canfyddiadau’r adolygiad a fyddai’n cael ei gynnal ym mis Mawrth yn cael eu cyflwyno i aelodau ar ôl y canfyddiadau.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad diweddaru gan y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a nodi’r cynnwys.

 

 

11.

ARCHWILIAD MEWNOL O’R GWASANAETH COFRESTRU pdf eicon PDF 185 KB

Ystyried adroddiad gan y Prif Swyddog Mewnol (copi'n amgaeedig) sy’n rhoi manylion am adroddiad Archwilio Mewnol diweddar ar y Gwasanaeth Cofrestru a gafodd raddfa Sicrwydd 'Isel'.

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Archwilydd Mewnol (CIA) yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol), yn rhoi manylion i aelodau ynghylch adroddiad yr Archwiliad Mewnol o’r Gwasanaeth Cofrestru a oedd wedi cael sgôr sicrwydd ‘Isel’.

Tywysodd yr Aelod Arweiniol Safonau Corfforaethol, gyda’r Rheolwr Cyfreithiol a Chymorth Busnes, yr aelodau drwy’r adroddiad Archwilio.

 

Croesawodd yr Aelod Arweiniol yr adroddiad a chydnabu'r materion a godwyd ganddo. Nodwyd fod y cais am archwiliad wedi ei wneud gan yr adran i gynorthwyo swyddogion i wella’r gwasanaeth cofrestru a ddarparwyd gan y Sir. Hysbyswyd aelodau fod nifer o newidiadau wedi eu gwneud yn y gwasanaeth.

 

Dywedodd y Swyddog Monitro fod y materion a godwyd yn yr adolygiad o’r archwiliad wedi eu nodi a’u hadnabod gan yr adran er mwyn eu gwella. Roedd gwaith i wella’r gwasanaeth wedi dechrau cyn y cyfarfod uwchgyfeirio a nodwyd a oedd yn ddull cadarnhaol o adrodd canfyddiadau.

 

Canmolodd Aelodau’r gwaith i ddatblygu’r gwasanaeth cofrestru ac roeddent yn falch gyda’r symud i Neuadd y Dref y Rhyl at ddibenion cofrestru. Llongyfarchodd yr aelodau’r adran am y gwaith roeddynt wedi ei wneud i hyrwyddo gwasanaethau cofrestru’r awdurdod.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Aelod Arweiniol a Swyddogion am yr adroddiad tryloyw. Rhoddwyd canmoliaeth i’r cais am archwiliad a rhoddwyd cefnogaeth gan aelodau i wella’r gwasanaeth cofrestru. Cytunodd yr aelodau i fonitro’r cynllun gweithredu archwilio a gofynnodd i adroddiad diweddaru gael ei roi i’r pwyllgor ym mis Medi 2019.

 

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol;

I. Yn derbyn yr adroddiad ac yn nodi ei gynnwys a

II. Cynnwys diweddariad ar yr Uned Gaffael ar y Cyd yn y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ar gyfer mis Medi 2019.

 

 

 

12.

RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y PWYLLGOR LLYWODRAETHU CORFFORAETHOL pdf eicon PDF 309 KB

Ystyried rhaglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor (copi’n amgaeedig).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol (a ddosbarthwyd eisoes) i’w hystyried.

 

Cadarnhaodd y Pwyllgor Raglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol, yn ddibynnol ar y diwygiadau canlynol:-

 

Mawrth 2019 -

·         Adroddiad RIPA blynyddol.

Yn cynnwys adroddiad yr arolygiad.

·         Adroddiad Strategaeth Flynyddol Archwilio Mewnol.

5 Mehefin 2019 -

·         Adroddiad Blynyddol Archwilio Mewnol

·         Adroddiad diweddaru ar yr Adroddiad Archwilio Mewnol Caffael

11 Medi 2018 –

·         Adroddiad diweddaru ar Adroddiad Archwilio Mewnol y Gwasanaeth Cofrestru

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12:35 p.m.