Agenda and draft minutes
Lleoliad: Conference Room 1a, County Hall, Ruthin
Rhif | Eitem | |
---|---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Tony Flynn Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y cynrychiolwyr o Swyddfa Archwilio
Cymru, Anthony Veale a Gwilym Bury. |
||
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 197 KB Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd fel un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Datganodd y Cynghorwyr
Martyn Holland, Barry Mellor, Mabon ap Gwynfor a Julian Thompson-Hill
gysylltiad personol ag eitem 6 ar y rhaglen gan eu bod yn Llywodraethwyr ysgol.
|
||
MATERION BRYS Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
fater brys. |
||
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 29 Tachwedd 2017
(copi’n amgaeedig). Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 29
Tachwedd 2017. Materion yn
codi - Cofnodion Eitem 4 - Gofynnodd
yr Aelod Lleyg, Paul Witham, am eglurhad o’r diffiniad o Arian at Raid ac i hyn
gael ei gylchredeg i aelodau. Ymddiheurodd Bennaeth Gwasanaethau’r Gyfraith, AD
a Democrataidd am yr oedi a chadarnhaodd y byddai’n ymchwilio i’r diffiniad ac
yn ei gylchredeg i aelodau o’r pwyllgor.
PENDERFYNWYD yn amodol ar yr uchod, y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion cyfarfod y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol fel cofnod cywir. |
||
DIWEDDARIAD AR REOLI'R FFLYD GORFFORAETHOL PDF 269 KB Ystyried adroddiad gan y Prif Archwilydd Mewnol (copi ynghlwm) sy'n rhoi diweddariad i’r aelodau ar gynnydd gweithredu'r cynllun gweithredu a oedd yn cyd-fynd â’r adroddiad Rheoli Fflyd Corfforaethol ym mis Hydref 2015. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif
Archwilydd Mewnol adroddiad Diweddaru Rheoli’r Fflyd Gorfforaethol (a
ddosbarthwyd yn flaenorol), i roi gwybodaeth am gynnydd y cynllun gweithredu a
oedd yn dod gyda’r adroddiad Archwilio Mewnol ar Reoli’r Fflyd Gorfforaethol yn
Hydref 2015. Mae'r cynllun gweithredu dilynol i’r
Archwiliad Mewnol, a geir yn Atodiad 1, yn dangos bod cynnydd da wedi ei wneud
wrth weithredu ar y materion a’r risgiau a nodwyd yn yr Archwiliad Mewnol. O’r
13 mater a godwyd yn ystod yr archwiliad gwreiddiol yn 2015, mae 12 bellach
wedi eu datrys yn llwyddiannus, gan gynnwys datblygu polisi cludiant newydd,
monitro cyflenwadau tanwydd a gwelliannau i wiriadau Iechyd a Diogelwch gyrwyr. Mae gwaith yn
parhau o ran yr un mater sy’n weddill. Roedd y Prif Archwilydd Mewnol yn
hyderus y byddai’r mater yn cael ei ddatrys. Fe wnaeth Pennaeth y Gwasanaethau
Priffyrdd ac Amgylcheddol adleisio barn y Prif Archwilydd Mewnol a chadarnhaodd
bod gwaith ar y trywydd cywir i ddatrys y mater terfynol a godwyd. Codwyd y materion canlynol wrth drafod – ·
Gyrwyr gyda thrwyddedau gyrru
glân - Cadarnhaodd y Rheolwr Fflyd fod defnyddwyr cerbydau fflyd yn cael
gwiriad ar eu trwyddedau. Mae gweithwyr yn llenwi datganiad i roi
gwybod i reolwyr o unrhyw newidiadau i drwyddedau gyrru'n syth. Rhoddodd
y Rheolwr Fflyd wybod i aelodau o’r ddyletswydd gofal ac roedd rheoli risg yn
flaenoriaeth. ·
Holodd
Aelodau pryd y cynigiwyd datrys y mater terfynol - Dywedodd y Rheolwr
Fflyd ei fod yn disgwyl y
byddai'r mater terfynol yn cael ei ddatrys erbyn Hydref 2018. ·
Cadarnhaodd
y Rheolwr Fflyd fod pob
Cerbyd Fflyd Sir Ddinbych wedi’u gosod gyda blychau duon. Mae gwybodaeth yn
cael ei chasglu a’i defnyddio i weithredu unrhyw newidiadau gofynnol. ·
Holodd
Aelodau ynghylch effeithlonrwydd tanwydd – Rhoddodd y Rheolwr
Fflyd wybod i aelodau nad
oedd unrhyw gynigion wedi’u cyflwyno ar hyn o bryd i newid tanwydd mewn
cerbydau fflyd. Mae tîm gwasanaethau
fflyd yn asesu ffynonellau o danwydd amgen fel cerbydau trydan. Ar hyn o bryd,
nododd y Rheolwr Fflyd nad yw’r isadeiledd yn cefnogi’r defnydd o
gerbydau trydan. Dywedodd Pennaeth y
Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol fod y cyngor ar hyn o bryd yn cyfranogi
mewn prosiect wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, a fydd yn ein helpu i
ddatblygu map ffyrdd i symud at y broses o gael tanwydd cynaliadwy yn ein
fflyd. Diolchodd y Cadeirydd a chanmolodd y
Gwasanaethau Fflyd ac Archwilio Mewnol am y gwaith caled a oedd ynghlwm wrth y gwaith
o fynd i'r afael â'r 12 mater a godwyd. PENDERFYNWYD bod
y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn ac yn nodi cynnwys y
diweddariad Rheoli Fflyd. |
||
ADRODDIAD CYNNYDD ARCHWILIO MEWNOL PDF 265 KB Ystyried
adroddiad gan y Prif Archwilydd Mewnol (copi’n amgaeedig) yn rhoi gwybod i
aelodau am gynnydd Archwilio Mewnol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Prif Archwilydd Mewnol adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn rhoi
diweddariad i’r aelodau ar gynnydd Archwilio Mewnol o ran cyflwyno gwasanaeth,
darparu sicrwydd, adolygiadau a gwblhawyd, perfformiad ac effeithiolrwydd wrth
sbarduno gwelliant. Roedd yr
adroddiad yn darparu gwybodaeth am waith yr Adain Archwilio Mewnol ers cyfarfod
diwethaf y Pwyllgor. Aeth y Prif Archwilydd Mewnol drwy'r adroddiadau a oedd yn
rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf hyd at fis Ionawr 2018 ar: ·
Adroddiadau
archwilio mewnol a gyflwynwyd yn ddiweddar ·
Adroddiadau
Archwilio Mewnol dilynol ·
Cynnydd
gwaith Archwilio Mewnol hyd yma yn 2017 - 18 ·
Crynodeb
o brosiectau nesaf yr Adain Archwilio Mewnol ·
Cynnydd
gyda gwaith Gwrth-Dwyll ·
Safonau
perfformiad Archwilio Mewnol Codwyd y materion canlynol wrth drafod – ·
Cadw
dogfennau – Cadarnhaodd y Prif Archwilydd Mewnol fod cadw dogfennau wedi’u
trafod yn flaenorol. Rhoddwyd cadarnhad fod trefniadau wedi’u rhoi yn eu lle i
wella'r drefn o gadw dogfennau. ·
Cytundebau
Setlo - Ionawr 2018 – Gofynnodd aelodau a oedd tueddiadau wedi’u canfod wrth
edrych ar nifer o adrannau. Cadarnhaodd SAC bod sampl o geisiadau setlo wedi’u
harchwilio. Edrychwyd ar bob cytundeb yn unigol gan eu bod yn aml yn achosion
cymhleth. Roedd mwy o achosion yn yr adrannau lle'r oedd
mwy o staff. ·
Cynnydd
gyda Gwaith Gwrth Dwyll - Dywedodd yr Archwilydd Mewnol fod y canlyniad o’r
atgyfeiriadau twyll a ymchwiliwyd yn gadarnhaol. Cafodd nifer fach o
atgyfeiriadau eu hymchwilio’n drylwyr. Roedd rheolaethau llym yn eu lle i
leihau nifer yr achosion twyll gyda’r holl gofnodion yn cael eu cofnodi a’u
monitro’r rheolaidd. Ailadroddodd y Swyddog Monitro dryloywder cadarnhaol yr
adroddiad Archwilio a nodwyd nad oedd unrhyw ddatganiadau o bryder wedi’u
gwneud drwy’r polisi rhannu pryderon. Roedd y Cadeirydd hefyd yn hapus i weld
bod Iechyd a Diogelwch mewn Ysgolion wedi’u cynnwys yn y prosiectau ar y gweill
ac fe wnaethant groesawu’r Adroddiad Archwilio Mewnol. Eglurodd y Prif Archwilydd Mewnol fod
ymchwiliad wedi digwydd i ddefnyddio system newydd o’r enw VERTO i olrhain a
chofnodi adroddiadau Archwilio. Rhagwelwyd y byddai’r system newydd yn helpu i
leihau nifer y diwrnodau archwilio a dreuliwyd yn olrhain camau gweithredu y
cytunwyd arnynt, a thynnu sylw at unrhyw faterion sy’n weddill gydag uwch
reolwyr. Bydd adroddiadau diweddaru’n cael eu cynhyrchu a’u cyflwyno i’r
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol. Diolchodd y Cadeirydd i swyddogion ac
Archwilio Mewnol am yr adroddiad. PENDERFYNWYD fod
y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn yr adroddiad a nodi’r cynnwys. |
||
Ar y pwynt hwn
(14.05 p.m.) cafwyd egwyl o 10 munud. Ailddechreuodd y cyfarfod am 14.15 p.m. |
||
RHEOLIAD DIOGELU DATA CYFFREDINOL Derbyn diweddariad ar lafar, gan Reolwr y Gwasanaeth
Cyfreithiol a Rheolwr y Tîm Gwybodaeth Busnes ar y Rheoliad Diogelu Data
Cyffredinol. Cofnodion: Cafodd cyflwyniad ar Reoliadau Diogelu
Data Cyffredinol ei roi gan y Rheolwr Tîm Gwybodaeth Busnes. Drwy’r cyflwyniad PowerPoint, rhoddodd y
Rheolwr Tîm Gwybodaeth Busnes amlinelliad o’r gwaith a oedd wedi’i wneud cyn
cyflwyno’r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol ym Mai 2018. Cafodd Aelodau wybod am y newidiadau
sylfaenol a oedd yn cynnwys- ·
Diffiniad
ehangach o ddata personol ·
Dirwyon
mwy ·
Hysbysiad
gorfodol o doriadau amod difrifol o fewn 72 awr ·
Swyddog
Diogelu Data Gorfodol ·
Asesiad
Effaith Diogelu Data Gorfodol ar gyfer gweithgareddau risg uchel ·
Mwy o
ffocws ar ddangos cydymffurfiad ·
Contractau sy’n gyfreithiol
rwymol gyda diogelu data. Rhoddodd
y Rheolwr Tîm Gwybodaeth Busnes wybod i’r pwyllgor fod Grŵp
Llywodraethu Gwybodaeth Cyngor Sir Ddinbych wedi’i sefydlu i gefnogi a monitro
cydymffurfiad a sicrhau bod yr holl newidiadau wedi'u rheoli'n effeithiol. Byddai sawl polisi’n cael eu hadolygu a’u
diweddaru i adlewyrchu’r newidiadau a byddai staff yn cael hyfforddiant. Yn ystod y drafodaeth codwyd y pwyntiau
canlynol - ·
Ceisiadau
Unigolion am Wybodaeth – cadarnhaodd y Rheolwr Tîm Gwybodaeth Busnes petai cais
am wybodaeth yn mynd y tu hwnt i’r dyddiad cau, byddai’r Swyddog Comisiwn
Gwybodaeth yn ymgynghori am y rheswm dros yr oedi a gallai roi dirwy. ·
IPAD
Aelodau – dal data – Eglurodd y Swyddog Monitro fod Cynghorwyr yn rheolwyr
data, roedd hyfforddiant yn cael ei roi i reolwyr data os oedd angen i
ddiweddaru gwybodaeth am storio data. ·
Mae
templedi’n cael eu ceisio i’w mabwysiadu yn Sir Ddinbych i roi sicrwydd a
hyder. PENDERFYNWYD
bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn yr adroddiad diweddaru ar Reoliadau
Diogelu Data Cyffredinol. |
||
STRATEGAETH FLYNYDDOL RHEOLI'R TRYSORLYS PDF 219 KB Ystyried
adroddiad gan y Prif Swyddog Cyllid (copi'n amgaeedig) ar Reoli Trysorlys. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Pennaeth Cyllid yr Adroddiad Datganiad Strategaeth Rheoli Trysorlys (DSRhT)
(atodiad 1 - a rannwyd eisoes) a oedd yn dangos sut fyddai'r Cyngor yn rheoli
ei fuddsoddiadau a'i fenthyciadau ar gyfer y flwyddyn nesaf, ac yn gosod y
polisïau y mae gweithgarwch Rheoli Trysorlys yn gweithredu o’u mewn. Roedd yr
adroddiad hefyd yn amlinellu effaith debygol y Cynllun Cyfalaf ar y strategaeth
hon ac ar y Dangosyddion Darbodus. Roedd yr Adroddiad Diweddaru Rheoli
Trysorlys (atodiad 2) yn rhoi manylion am weithgarwch Rheoli Trysorlys y Cyngor
yn ystod 2017/18. Roedd Cod Ymarfer y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth
ar Reoli Trysorlys yn gofyn bod y Cyngor yn cymeradwyo'r DSRhT a'r Dangosyddion
Darbodus yn flynyddol. Roedd rhaid i'r
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol adolygu'r adroddiad cyn ei gymeradwyo yn y
Cyngor ym mis Chwefror 2018. Yn ystod y drafodaeth, nodwyd y pwyntiau
canlynol:- ·
Roedd
2 gategori o gleientiaid gan Reolyddion – Cleientiaid Manwerthu a Chleientiaid
Proffesiynol. Roedd hanfod yr adborth a roddwyd yn ddarostyngedig i'r lefel o
gydbwysedd buddsoddi. ·
Bod y
Cyngor yn rhoi arian o’r neilltu bob blwyddyn i dalu dyledion yn ôl –
Darpariaeth Refeniw Isafswm (DRI). Bod y Polisi DRI yn cael ei adolygu’n
flynyddol. ·
Bod y gymhareb cronfa cyfalaf wedi’i leihau oherwydd y cyfraddau benthyg
isel. Rhoddodd y Pennaeth
Cyllid wybod i’r aelodau y byddai hyn yn newid yn unol â chynnydd mewn
cyfraddau. ·
Arhoswyd
am adolygiad archwilio terfynol. Roedd disgwyl i’w gyhoeddi yn hwyrach yn y flwyddyn. ·
Cadarnhawyd
byddai'r Adroddiad Rheoli Trysorlys yn cael ei gyflwyno yn y Cyngor llawn ym
mis Chwefror 2018. PENDERFYNWYD
bod y Pwyllgor yn nodi'r Datganiad Strategaeth Rheoli Trysorlys ar gyfer
2018/19 a’r Dangosyddion Darbodus 2019/20 i 2020/21. Mae’r Pwyllgor yn nodi
Adroddiad Diweddaru Rheoli Trysorlys 2016/17, a chadarnhau ei fod wedi cael ei
ddarllen, ei ddeall, ac wedi meddwl am Asesiad o Effaith ar Les yn rhan o'i
ystyriaeth.
|
||
CAU'R DATGANIAD CYFRIFON PDF 427 KB Ystyried
adroddiad gan y Prif Gyfrifydd (copi wedi'i amgáu) yn diweddaru aelodau ar y cynnydd
o ran y broses statudol o gau'r cyfrifon yn gynnar. Cofnodion: Cyflwynodd y Prif
Gyfrifydd adroddiad (a rannwyd eisoes) a oedd yn darparu crynodeb o'r gwaith
sy'n rhan o'r proses cau ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, ac i roi’r wybodaeth
ddiweddaraf i’r aelodau am y cynnydd a wnaed tuag at y proses statudol o gau’r
cyfrifon yn gynnar. Roedd yr adroddiad yn amlygu newid a gytunwyd arno yn y
modd mae'r Cyngor yn ymdrin â chamgymeriadau ansylweddol sy'n cael eu nodi yn
ystod yr archwiliad a fydd yn effeithio ar adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru
(SAC) i’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol.
Byddai cyhoeddi’r
adroddiad yn gynt yn cynyddu atebolrwydd awdurdodau a defnyddioldeb y cyfrifon
i breswylwyr lleol oherwydd y byddai’r adroddiad datganiad cyfrifon ar gael yn
fwy amserol. Roedd Cyngor Sir
Ddinbych a SAC wedi cytuno na fydd y Datganiad Cyfrifon drafft yn cael ei newid
i gywiro camddatganiadau ansylweddol. Amlygodd y Prif Gyfrifydd y pwyntiau
canlynol:- ·
Nad
oedd barn gyffredinol yr archwiliad wedi cael ei heffeithio ·
Byddai
SAC yn dal i adrodd camddatganiadau heb eu cywiro i'r Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol. Byddai cwblhau
set newydd o gyfrifon yn parhau i fod yn flaenoriaeth gan y Cyngor a SAC. Yn ystod y
drafodaeth, nodwyd y pwyntiau canlynol:- ·
Roedd
y geiriad a ddefnyddiwyd yn yr adroddiad cyfrifon yn hynod bwysig. ·
Byddai
cofrestr asedau yn dal i gael ei gynnwys yn yr adroddiad. PENDERFYNWYD bod
y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn yr adroddiad ac yn nodi,
I.
y cynnydd a wnaed at gyflawni'r dyddiadau
cau cynnar fel y gofynnodd Llywodraeth Cymru,
II.
y newid yn y modd mae'r Cyngor yn ymdrin â chamgymeriadau ansylweddol a nodwyd yn ystod yr
archwiliad a'u heffaith ar yr adroddiad SAC terfynol. |
||
LLYTHYR ARCHWILIO BLYNYDDOL PDF 235 KB Derbyn gwybodaeth ar gyfer Llythyr Archwilio Blynyddol
Cyngor Sir Ddinbych 2016 – 17, gan Swyddfa Archwilio Cymru (copi wedi’i amgáu).
Cofnodion: Rhoddodd SAC
lythyr gwybodaeth i’r Aelodau (a rannwyd eisoes) yn rhoi manylion y llythyr
Archwiliad Blynyddol 2016-2017 ar gyfer Cyngor Sir Ddinbych. PENDERFYNWYD bod y pwyllgor yn derbyn ac yn nodi cynnwys llythyr SAC. |
||
RHAGLEN WAITH SWYDDFA ARCHWILIO CYMRU PDF 132 KB Adroddiad
gwybodaeth gan Swyddfa Archwilio Cymru (copi ynghlwm) sy’n dangos rhaglen waith
arfaethedig i archwiliad Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer archwilio ariannol ac
archwilio perfformiad. Cofnodion: Rhoddodd SAC
adroddiad gwybodaeth i Aelodau (a rannwyd eisoes) yn rhoi manylion am y rhaglen
waith awgrymedig. Roedd yr adroddiad yn tynnu sylw at adroddiadau awgrymedig
SAC am waith archwilio sy’n gysylltiedig â chyllid a pherfformiad. PENDERFYNWYD bod y pwyllgor yn derbyn ac yn nodi cynnwys adroddiad SAC. |
||
RHAGLEN WAITH Y PWYLLGOR LLYWODRAETHU CORFFORAETHOL PDF 302 KB Ystyried rhaglen
gwaith i’r dyfodol y pwyllgor (copi’n amgaeedig). Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol
(a rannwyd eisoes) i’w ystyried. Cadarnhaodd y
Pwyllgor y Rhaglen Waith i'r Dyfodol Llywodraethu Corfforaethol yn
ddarostyngedig i'r newidiadau canlynol:- 07 Mawrth 2018
- ·
25 Ebrill 2018
- ·
Cydymffurfiad â pholisi Rheoli Risgiau Cyngor Sir
Ddinbych 11 Gorffennaf
2018 - ·
Rheoli Trysorlys ·
Diweddaru'r adroddiad Cyfansoddiad PENDERFYNWYD, yn amodol ar y sylwadau uchod, bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn cymeradwyo'r
Rhaglen Waith i’r Dyfodol.
|
||
Daeth y cyfarfod i ben am 15:40pm. |