Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwllgor 1B, Neuadd Y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Cafwyd
ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Martyn Holland Cafwyd
ymddiheuriadau am absenoldeb gan y cynrychiolwyr o Swyddfa Archwilio Cymru,
Anthony Veale. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 197 KB Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd fel un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Fe wnaeth y
Cynghorwyr Tony Flynn, Mabon ap Gwynfor a Joe Welch ddatgan cysylltiad personol
yn eitem 9 ar y Rhaglen – Archwiliad Mewnol o Iechyd a Diogelwch mewn Ysgolion,
gan eu bod yn Llywodraethwyr ysgol. Fe wnaeth y
Cynghorydd Barry Mellor a'r Aelod Lleyg Paul Witham ddatgan cysylltiad personol
yn eitem 9 ar y Rhaglen – Archwiliad Mewnol o Iechyd a Diogelwch mewn Ysgolion,
gan eu bod ag wyrion ac wyresau mewn ysgolion yn Sir Ddinbych.
|
|
MATERION BRYS Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
fater brys. |
|
Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 06 Mehefin 2018 (copi wedi ei amgáu). Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a
gynhaliwyd ar 6 Mehefin 2018. Eitem 9 ar y Rhaglen – Canllawiau Ymarferol CIPFA ar gyfer Pwyllgorau
Archwilio – datganodd yr Aelod Lleyg Paul Witham nad oedd wedi gwneud y sylw
bod 'y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn Sir Ddinbych ag un o’r niferoedd
isaf’. Dywedodd y Prif Archwilydd Mewnol mai hi oedd wedi datgan y sylw uchod. Eitem 10 ar y Rhaglen - Archwilio Mewnol yr Uned Gaffael Gorfforaethol ar y
Cyd – cododd yr Aelodau’r pwysigrwydd o fonitro’r berthynas waith ar y cyd. PENDERFYNWYD yn amodol ar yr uchod, y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion cyfarfod y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol fel cofnod cywir. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL UWCH-BERCHENNOG RISG GWYBODAETH PDF 384 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Gwella Busnes a Moderneiddio (copi'n amgaeedig) sy'n
manylu ar achosion o dorri'r Ddeddf Diogelu Data a chwynion yn ymwneud â
deddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd adroddiad gan
y Pennaeth Gwella Busnes a Moderneiddio (HBIM) eisoes wedi'i ddosbarthu. Cyflwynodd y Pennaeth Gwella Busnes a Moderneiddio'r adroddiad yn cwmpasu'r
cyfnod o Ebrill 2017 i Fawrth 2018 ac yn rhoi manylion achosion o dorri'r
Ddeddf Diogelu Data gan y Cyngor a oedd wedi bod yn destun ymchwiliad gan yr
Uwch Swyddog Risg Gwybodaeth (SIRO). Mae hefyd yn ymdrin â chwynion am y Cyngor
yn ymwneud â deddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth sydd wedi cael eu cyfeirio at
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ac yn rhoi rhywfaint o wybodaeth am geisiadau
Mynediad i Wybodaeth/ Rhyddid Gwybodaeth a wneir i'r Cyngor. Mae Polisi Diogelu Data'r Cyngor yn gofyn am
adroddiad blynyddol ar gynnydd i'r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol. Nid oedd unrhyw doriadau sylweddol o’r Ddeddf Diogelu Data wedi bod yn y
Cyngor ers 2017/18. Bu dau doriad mân o ddiogelu Data, roedd y rhain wedi’u
hymchwilio gan yr Uwch Swyddog Risg Gwybodaeth. Nid oedd yr un yn cael ei
ystyried yn ddigon difrifol i warantu adrodd i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
a darparwyd manylion yr achosion. Daeth y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) i rym 25 Mai 2018.
Eglurodd yr Uwch Swyddog Risg Gwybodaeth am y rheoliadau newydd a'r fframwaith
gyda chosbau llymach wrth fethu â chydymffurfio â'r rheolau newydd. Roedd
Grŵp Llywodraethu Gwybodaeth wedi’i sefydlu yn 2017, yn cynnwys
cynrychiolwyr o bob gwasanaeth. Roedd y grŵp wedi darparu fforwm er mwyn
trafod y gofynion newydd a goruchwylio’r gwaith sy’n cael ei wneud. Roedd gwaith wedi parhau ar draws
gwasanaethau i sicrhau bod yr holl ofynion yn cael eu bodloni. Fe wnaeth y
Pennaeth Gwella Busnes a Moderneiddio roi sicrwydd i aelodau, unwaith y
byddai’r gwaith yn cael ei gwblhau, byddai Archwilio Mewnol yn cynnal adolygiad
a byddai ei ganfyddiadau’n cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol. Mae crynodeb o geisiadau Rhyddid Gwybodaeth a Rheoliadau Gwybodaeth
Amgylcheddol wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Darparodd Tabl 1 fanylion nifer y ceisiadau a gwblhawyd ar gyfer 2014/15
i 2017/18. Roedd y ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth a Rheoliadau Gwybodaeth
Amgylcheddol wedi'u canoli ar feysydd penodol ac roeddent gan mwyaf yn
gysylltiedig â busnes neu oddi wrth unigolion. Roedd manylion yn ymwneud â'r
ymgeiswyr mwyaf aml dros y 12 mis diwethaf wedi’u cynnwys mewn tabl yn yr
adroddiad. Yn 2017/18, ni ymchwiliwyd unrhyw gwynion am y Cyngor o dan y Ddeddf
Rhyddid Gwybodaeth gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth. Mewn ymateb i gwestiynau gan aelodau, cadarnhaodd y Pennaeth Gwella Busnes
a Moderneiddio fod y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol yn gymwys i bawb.
Roedd yn orfodol cydymffurfio â’r fframwaith.
Rhwymedigaeth y Cyngor oedd monitro cwmnïau yr oedd â chytundeb â nhw. Gan gyfeirio at nifer y ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth a ddaeth i law,
cadarnhaodd swyddogion fod ceisiadau am wybodaeth a ddaeth i law yn flaenorol
wedi’u cofnodi a bod gwybodaeth wedi’i rhoi. Yn dilyn un toriad mân o ddata,
roedd ymchwiliadau wedi digwydd i leihau'r lefel o risg a rheolyddion yn eu
lle. PENDERFYNWYD
- bod y Pwyllgor
Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn ac yn nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
DATGANIAD CYFRIFON DRAFFT PDF 195 KB Ystyried
adroddiad gan y Prif Gyfrifydd (copi ynghlwm) ar y Datganiad o Gyfrifon
2017/2018 drafft. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd adroddiad y Prif Gyfrifydd, a oedd yn rhoi trosolwg o’r Datganiad
Cyfrifon drafft ar gyfer 2017/18 a'r broses sy'n sail iddo, wedi ei gylchredeg
ymlaen llaw. Roedd gan y Cyngor ddyletswydd statudol i baratoi Datganiad Cyfrifon sy’n
cydymffurfio â safonau cyfrifo cymeradwy. Roedd yn rhaid i aelodau gymeradwyo'r
cyfrifon a archwiliwyd yn ffurfiol ar ran y Cyngor ac roedd y rôl hon wedi ei
dirprwyo i’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol. Roedd y cyfrifon drafft
wedi’u cwblhau a’u llofnodi gan y Pennaeth Cyllid 15 Mehefin 2018. Roedd y
cyfrifon drafft wedi bod ar gael i’w harchwilio yn ôl y gofyn ac yn agored ar
gyfer archwiliad cyhoeddus o 9 Gorffennaf tan 3 Awst 2018. Rhoddodd y Prif Gyfrifydd grynodeb manwl o Atodiad 1, Datganiad Cyfrifon
2017/18, a chafwyd trafodaeth ynghylch y meysydd canlynol. Ysgolion – fe wnaeth y Prif Gyfrifydd egluro ei fod yn dal yn gyfnod
ariannol anodd i ysgolion. Roedd buddsoddi mewn cyllidebau ysgol 2017/18 wedi
arwain at well sefyllfa ariannol i ysgolion, gan adrodd tanwariant yn ystod y
flwyddyn o £0.713m. Adroddiadau – cadarnhawyd bod adroddiadau cyllideb yn cael eu cyflwyno i'r
Cabinet bob mis, ac roedd crynodeb o'r gyllideb flynyddol wedi'i chyflwyno ym
mis Mehefin. Tanwariant – os oes gan y gwasanaeth danwariant ar ddiwedd y flwyddyn yn ôl
y Prif Gyfrifydd a’r Pennaeth Cyllid, roedd dyrannu'r arian dros ben yn
benderfyniad i’r Cabinet. Byddai argymhellion yn cael eu cyflwyno i’r Cabinet
ar gyfer dyrannu arian. Ôl-ddyledion – rhoddwyd sicrwydd bod ôl-ddyledion yn cael eu monitro’n
rheolaidd. Roedd gwaith monitro agos gyda thrydydd partïon yn cynnwys y Sefydliad
Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth yn parhau. Roedd yr adran gyllid
yn ymwybodol o gyflwyniad y Credyd Cynhwysol newydd ac yn monitro’r effaith y
gallai ei gael. Yn dilyn trafodaeth fanwl roedd ar y pwyllgor eisiau llongyfarch a diolch
i’r Pennaeth Cyllid, y Prif Gyfrifydd a’r tîm am y gwaith maent wedi ei wneud o
fewn y terfynau amser, a diolchwyd hefyd am yr ymatebion manwl a ddarparwyd i’r
cwestiynau a ofynnwyd. Dywedodd y Prif
Gyfrifydd fod modd i’r aelodau gysylltu ag o’n uniongyrchol os oedd ganddynt
unrhyw gwestiwn neu ymholiad pellach ynghylch y Datganiad Cyfrifon drafft. Bydd
y Datganiad o Gyfrifon terfynol yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol 26 Medi i'w cymeradwyo. PENDERFYNWYD
bod y Pwyllgor
Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn yr adroddiad ac yn nodi'r sefyllfa fel y'i
cyflwynir yn y Datganiad Cyfrifon drafft a geir yn Atodiad 1 i'r adroddiad.
|
|
Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cyllid (copi ynghlwm) ar Adroddiad Blynyddol Rheoli’r
Trysorlys. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd adroddiad gan y Pennaeth Cyllid wedi’i gylchredeg yn flaenorol.
Rhoddodd y Pennaeth Cyllid a’r Prif Gyfrifydd grynodeb manwl o’r adroddiad ac
atodiadau 1 a 2. Fe wnaeth yr Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol dywys
yr aelodau drwy’r adroddiad. Mae’r term ‘rheoli trysorlys’ yn cynnwys rheoli benthyciadau, buddsoddiadau
a llif arian y Cyngor. Roedd tua £0.5bn yn mynd drwy gyfrifon banc y Cyngor bob
blwyddyn. Cafodd Aelodau wybod bod benthyciadau’r Cyngor a oedd yn weddill 31
Mawrth 2018 yn £206.19m ar gyfradd gyfartalog o 4.41% ac roedd gan y cyngor
£12.5m mewn buddsoddiadau ar gyfradd gyfartalog o 0.28%. Eglurodd y Pennaeth Cyllid y risgiau ynghlwm wrth Reoli Trysorlys i
aelodau, ond rhoddodd sicrwydd i aelodau bod y Cyngor yn monitro ac yn rheoli'r
risgiau hynny. Caiff strategaeth a gweithdrefnau rheoli trysorlys y Cyngor eu
harchwilio’n flynyddol ac roedd adolygiad yr archwiliad mewnol diweddaraf yn
gadarnhaol ac ni chodwyd unrhyw faterion sylweddol. Darparwyd yr ymatebion canlynol i’r materion a godwyd gan y Pennaeth Cyllid
a’r Prif Gyfrifydd gan aelodau o'r pwyllgor - ·
Mae cyfraddau’r benthyciadau newydd a gymerwyd wedi’u
cloi. Ni allai unrhyw newidiadau i’r gyfradd sylfaen neu gyllid Llywodraeth
newid y cyfraddau wedi’u cloi. Diolchodd y Cadeirydd i’r Adran Gyllid am yr adroddiad a’r amser a dreulir
yn monitro’r swyddogaeth rheoli trysorlys. PENDERFYNWYD
bod y Pwyllgor
Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn yr adroddiad ac yn nodi,
i.
Perfformiad
swyddogaeth Rheoli Trysorlys y Cyngor yn ystod 2017/18 a’i chydymffurfiaeth â’r
dangosyddion darbodus gofynnol, fel yr adroddwyd yn adroddiad Rheoli Trysorlys
Blynyddol 2017/18, a oedd yn atodiad 1 yr adroddiad;
ii.
Yr adroddiad
diweddaru Rheoli Trysorlys ar gyfer perfformiad hyd yma yn 2018/19;
iii.
Bod y Pwyllgor
wedi cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad Effaith ar
Les, a oedd yn atodiad 3 yr adroddiad. |
|
DIWEDDARIAD ARCHWILIO MEWNOL PDF 361 KB Ystyried adroddiad gan y Prif Archwilydd Mewnol (copi wedi’i amgáu) yn rhoi gwybod i aelodau am gynnydd Archwilio Mewnol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Archwilydd Mewnol adroddiad diweddaru Archwilio Mewnol (a
ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn rhoi diweddariad i’r aelodau ar gynnydd Archwilio
Mewnol o ran cyflwyno gwasanaeth, darparu sicrwydd, adolygiadau a gwblhawyd,
perfformiad ac effeithiolrwydd wrth sbarduno gwelliant. Mae’r adroddiad
yn darparu gwybodaeth am waith yr Adain Archwilio Mewnol ers cyfarfod diwethaf
y Pwyllgor. Fe wnaeth y Prif Archwilydd Mewnol dywys yr aelodau drwy'r
adroddiadau a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf hyd at fis Gorffennaf 2018
am: •
Adroddiadau archwilio mewnol a gyflwynwyd yn ddiweddar •
Cynnydd gwaith Archwilio Mewnol hyd yma yn 2018/19. •
Safonau perfformiad Archwilio Mewnol. Trafodwyd y materion canlynol yn fanylach – ·
Cludiant i Ddysgwyr – Mehefin 2018 – Fe wnaeth y Prif
Archwilydd Mewnol dywys yr aelodau drwy adolygiad o Gludiant Dysgwyr, eglurwyd bod
y timau Cefnogaeth Ysgol a Chludiant Addysg wedi gweithio’n dda i ddatblygu’r
Polisi Cludiant Dysgwyr diweddaraf. Fe wnaeth yr adolygiad dynnu sylw at
brosesau da a oedd yn eu lle ar gyfer asesu ceisiadau cludiant i ddisgyblion a
oedd yn bodloni’r meini prawf cludiant am ddim i ddysgwyr. Roedd contractau gyda darparwyr yn risg
dreigl a oedd yn cael ei monitro’n agos. Cadarnhaodd y Prif Archwilydd Mewnol
bod pum maes o welliant wedi’i godi, teimlwyd bod rheolaeth gyffredinol
cludiant dysgwyr yn gweithredu’n dda. ·
Iechyd a Diogelwch mewn Ysgolion – Eglurodd y Prif
Swyddog Archwilio bod adroddiad manwl wedi'i gynnwys fel eitem ar y rhaglen yn
hwyrach yn y cyfarfod, ac y byddai manylion yn cael eu trafod bryd hynny. ·
Safonau Perfformiad Archwilio Mewnol – Roedd crynodeb o
waith Archwilio Mewnol hyd yma wedi’i gyflwyno i’r pwyllgor. Fe wnaeth y Prif
Swyddog Archwilio dywys yr aelodau drwy’r tabl. Fe wnaeth y Cadeirydd ganmol y
system VERTO newydd ar gyfer dal gwybodaeth, gan ddweud ei bod yn hawdd i'w
darllen ac yn eglur. Cadarnhaodd y Prif Swyddog Archwilio fod nodiadau atgoffa
i Benaethiaid Gwasanaeth ddiweddaru'r system yn parhau. Diolchodd y Cadeirydd i swyddogion ac Archwilio Mewnol am
yr adroddiad. PENDERFYNWYD bod y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn yr adroddiad ac yn nodi’r
cynnwys. |
|
Ar y pwynt hwn (11.10am) cafwyd
egwyl o 5 munud. Ailddechreuodd y cyfarfod am 11.15am.
|
|
ARCHWILIAD MEWNOL O IECHYD A DIOGELWCH MEWN YSGOLION PDF 186 KB Ystyried adroddiad
gan y Prif Swyddog Mewnol (copi'n amgaeedig) sy’n rhoi manylion adroddiad
Archwilio Mewnol diweddar ar Iechyd a Diogelwch mewn Ysgolion a gafodd sgôr
sicrwydd 'Isel'. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Prif Archwilydd Mewnol yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol), yn rhoi
manylion i aelodau ynghylch yr adroddiad Archwilio Mewnol ar Iechyd a Diogelwch
mewn Ysgolion a oedd wedi cael sgôr sicrwydd ‘Isel’. Eglurodd y Prif
Archwilydd Mewnol i aelodau bod 5 ysgol wedi’u dewis ar hap i gael eu
harchwilio, yn cynnwys cofnodion a gadwyd gan Iechyd a Diogelwch Corfforaethol
a system AD y Cyngor. Cadarnhawyd bod
llywodraethu iechyd a diogelwch mewn ysgolion yn gorwedd gyda'r ysgol a
Llywodraethwyr yr ysgol. Rhoddodd y tîm
Iechyd a Diogelwch Corfforaethol gefnogaeth i’r ysgolion. Tynnwyd sylw at nifer
o wendidau ac roedd angen tynhau polisïau.
Roedd system cofnodi corfforaethol o ddamweiniau a digwyddiadau wedi’i
hyrwyddo i ysgolion gan y tîm Iechyd a Diogelwch, ac arsylwyd nad oedd pob
ysgol wedi ymgorffori’r system. Tywyswyd
yr aelodau gan y Prif Archwilydd Mewnol drwy’r cynllun gweithredu o’r risgiau a
nodwyd. Yn dilyn y
drafodaeth, fe drafodwyd y pryderon canlynol mewn mwy o fanylder - ·
Gweithdrefnau Gwahardd Pob Symudiad mewn ysgolion –
Eglurodd y Rheolwr Iechyd a Diogelwch Corfforaethol i’r aelodau bod y Prosiect
Argus wedi rhoi cyngor a hyfforddiant i ysgolion a'r tîm iechyd a diogelwch.
Roedd gweithdrefnau wedi’u cyflwyno yn yr ysgol a gofynnwyd i bob ysgol greu
polisi. ·
Llywodraethwyr Ysgol – Rhoddwyd sicrwydd i Aelodau bod yr
adroddiad archwilio wedi bod ar gael i ysgolion, yn cynnwys llywodraethwyr
ysgol. Roedd yr adroddiad am gael ei gyflwyno yng nghynhadledd nesaf y
llywodraethwyr ysgol, i dynnu sylw at y pwysigrwydd o fonitro iechyd a
diogelwch mewn ysgolion. Cadarnhaodd y Rheolwr Iechyd a Diogelwch Corfforaethol
fod hyfforddiant wedi digwydd ac wedi cynnwys rolau a chyfrifoldebau
llywodraethwyr ysgol. Cyfrifoldeb yr ysgol oedd cynnal presenoldeb mewn
hyfforddiant. Roedd yr adran Iechyd a Diogelwch wedi cynnig cyrsiau
hyfforddiant ac wedi cadw cofnod o bresenoldeb. ·
Bît yr Ysgol – Tynnodd yr Aelodau sylw at y ffaith fod
heddlu sy’n mynd i ysgolion wedi lleihau. Cadarnhaodd y Rheolwr Iechyd a
Diogelwch Corfforaethol y byddai’n ymchwilio hyn mewn rhagor o fanylder. ·
Diogelwch Tân – Roedd asesiadau Risg Tân wedi’u cwblhau
gan y tîm Iechyd a Diogelwch ac yn cael eu monitro a’u hadolygu. Cadarnhaodd y Rheolwr Iechyd a Diogelwch
Corfforaethol fod rhaglen o adolygiadau wedi digwydd a oedd wedi’u harchwilio’n
rheolaidd gan y gwasanaeth tân, a oedd yn hapus gyda phroses Sir Ddinbych. ·
Rheoli heintiau – Cadarnhawyd bod ysgolion wedi cael
templedi i gynnal polisïau a gweithdrefnau.
Roedd wedi'i gynnwys yn y pecyn adnoddau ar-lein i ysgolion, er mwyn
helpu i weithredu cynllun. Tynnwyd sylw at bwysigrwydd ysgolion yn cael cynllun
rheoli heintiau. Un cam gweithredu y
cytunwyd arno, a gododd o’r adroddiad archwilio, oedd monitro ac asesu ysgolion
ymhellach. PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol; I.
Yn derbyn yr
adroddiad ac yn nodi ei gynnwys a II.
Chynnwys
diweddariad ar Iechyd a Diogelwch mewn Ysgolion yn Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y
pwyllgor. |
|
ARWEINIAD YMARFEROL CIPFA - DIWEDDARIAD O GYNNYDD Ystyried
adroddiad diweddaru ar lafar gan y Cadeirydd, y Cynghorydd Barry Mellor ar arweiniad
ymarferol CIPFA. Cofnodion: Rhoddodd y Prif
Archwilydd Mewnol ddiweddariad ar lafar i aelodau ar y canllaw Sefydliad
Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth, yn ôl cais a wnaed yn y cyfarfod
diwethaf. Cadarnhaodd y Prif Archwilydd Mewnol fod 3 hunanasesiad wedi dod i law gan
aelodau yn dilyn y cyfarfod diwethaf. Roedd nifer o gydrannau wedi’u trafod
gyda chynllun gweithredu i fwrw ymlaen er mwyn rhoi sylw i bryderon. Roedd y
rhain yn cynnwys - ·
Cyfathrebu – Cyfathrebu rhwng aelodau a swyddogion.
Tynnwyd sylw at bwysigrwydd cyfathrebu da i alluogi swyddogion i gynhyrchu
adroddiadau y gofynnir amdanynt gan y pwyllgor. ·
Cyfryngau Cymdeithasol - i hyrwyddo gwaith y Pwyllgor
Llywodraethu Corfforaethol a beth mae’r pwyllgor yn gyfrifol amdano. Trafodwyd
y pwysigrwydd o addysgu’r cyhoedd am waith y pwyllgor. Arferion gorau –
Canllawiau Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth i sicrhau
bod gwaith y pwyllgor o safon uchel. ·
Hyfforddiant - Cyfleoedd hyfforddi parhaus i aelodau,
gyda chyrsiau gloywi i alluogi gwybodaeth gref am gyfrifoldebau aelodau
pwyllgor. ·
Rhaglen Gwaith I'r Dyfodol – I gynnwys manylion yr
adroddiadau a ofynnir gan swyddogion neu’r pwyllgor i ddangos pwrpas yr
adroddiad. Cadarnhaodd y Prif Archwilydd Mewnol fod y gweithgor a enwebwyd yn y
cyfarfod diwethaf wedi cyfarfod i drafod y pwyntiau uchod. Byddai rhagor o
drafodaethau’n digwydd i wella gwaith y pwyllgor. Roedd diweddariad am gael ei gynnwys fel rhan o’r eitem archwilio mewnol
sefydlog ar raglen o gyfarfodydd sydd ar y gweill. PENDERFYNWYD
bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn cael y
diweddariad ar lafar, a rhagor o
ddiweddariadau ar ganllaw ymarferol Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a
Chyfrifyddiaeth yn cael ei gynnwys yn eitem sefydlog ar raglen diweddariad
Archwiliad Mewnol. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR LLYWODRAETHU CORFFORAETHOL PDF 266 KB Ystyried adroddiad gan Bennaeth y Gyfraith, Adnoddau
Dynol a’r Gwasanaethau Democrataidd (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth
Aelodau i adroddiad drafft i’w gyflwyno i’r Cyngor ynglŷn â gwaith y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ar gyfer blwyddyn 2017/18 y Cyngor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Darparodd y Pennaeth
Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd adroddiad ar Adroddiad Blynyddol y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol.
Eglurodd fod y Cyfansoddiad angen i’r Pwyllgor baratoi a chyflwyno
adroddiad bob blwyddyn i’r Cyngor ar berfformiad ac effeithiolrwydd y Pwyllgor. Fe wnaeth y Pennaeth dywys aelodau drwy’r
adroddiad drafft a oedd yn amgaeedig (atodiad 1) a gofynnodd i aelodau gymryd
amser i ddarllen a rhoi sylw ar y cynnwys. Eglurwyd i aelodau mai
pwrpas yr adroddiad oedd dangos beth mae’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol
yn ei wneud a’r rôl bwysig a oedd gan Aelodau yn y Pwyllgor. Cytunodd Aelodau i
ddadansoddi’r atodiad a chodi unrhyw ddiwygiadau gyda Phennaeth Gwasanaethau’r
Gyfraith, AD a Democrataidd yn uniongyrchol. Cadarnhad y
byddai Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ysgrifenedig
diwygiedig yn cael ei gyflwyno i Gyngor Sir mewn cyfarfod o’r dyfodol. PENDERFYNWYD - (a) Bod y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn a nodi Adroddiad Blynyddol y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol gydag unrhyw ddiwygiadau’n cael eu hanfon
ymlaen at Bennaeth Gwasanaethau'r Gyfraith, AD a Democrataidd, a (b) bod
adroddiad diwygiedig yn manylu’r gwaith a wneir gan y Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor Sir. |
|
SAC- TROSOLWG A CHRAFFU - ADDAS I'R DYFODOL? PDF 268 KB Derbyn adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru (copi wedi’i amgáu) ar y trosolwg a chraffu – addas i'r dyfodol? Ar gyfer Cyngor Sir Ddinbych.
Cofnodion: Cyflwynodd cynrychiolydd Swyddfa Archwilio Cymru, Gwilym Bury (GB) yr
adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol). Tywyswyd yr Aelodau drwy’r adroddiad. Dywedodd cynrychiolydd Swyddfa
Archwilio Cymru fod y cyngor wedi ymateb yn dda i newidiadau a heriau, fodd
bynnag, gall capasiti cyfyngedig i gefnogi craffu rwystro cynnydd yn y dyfodol.
Tynnwyd sylw hefyd at y potensial i aelodau Cabinet gyfrannu'n fwy gweithredol
at waith craffu. At ei gilydd, dywedodd y cynrychiolydd o Swyddfa Archwilio Cymru fod
dulliau gweithio craffu ar hyn o bryd yn gweithio’n dda, ond teimlodd efallai y
bydd angen mwy o adnoddau yn y dyfodol i gynnal y safon uchel o waith a
monitro'r llwyth gwaith. Cadarnhaodd y Swyddog Monitro y byddai angen parhau i fonitro gwaith
rhanbarthol. Oes oedd angen gwaith ychwanegol, byddai adnoddau pellach yn
hanfodol i gadw’r safon o graffu ar lefel uchel. Diolchodd y Cadeirydd i gynrychiolydd Swyddfa Archwilio Cymru am yr
eglurhad dealladwy i’r adroddiad. PENDERFYNWYD
bod y Pwyllgor
Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn ac yn nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
RHAGLEN WAITH Y PWYLLGOR LLYWODRAETHU CORFFORAETHOL PDF 326 KB Ystyried rhaglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor (copi wedi’i amgáu). Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) i’w ystyried. Cadarnhaodd y Pwyllgor Raglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor
Llywodraethu Corfforaethol yn amodol ar y diwygiadau canlynol:- PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, bod y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 12:20 p.m. |