Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwllgor 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem | |
---|---|---|
YMDDIHEURIADAU |
||
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 197 KB Dylai’r
Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd fel un
i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Tony Flynn gysylltiad personol ag eitem rhif 5 ar y rhaglen – Diweddariad Archwilio Mewnol – gan ei fod yn landlord eiddo yn Sir Ddinbych. |
||
MATERION BRYS Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Dim. |
||
Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor
Llywodraethu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 26 Medi 2018 (copi’n
amgaeedig). Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a
gynhaliwyd ar 26 Medi 2018. Eitem 5 ar y rhaglen – Adroddiad Iechyd a Diogelwch Blynyddol – Cadarnhad
bod llythyr wedi’i anfon at ysgolion yn tynnu sylw at y pwysigrwydd o roi
gwybod am ddigwyddiadau. Hyd yn hyn, rhoddwyd gwybod nad oedd unrhyw ymateb
wedi dod i law. Cadarnhaodd y Swyddog Monitro ei fod wedi’i argymell fel eitem
ar raglen y ‘cyfarfod Ffederasiwn Penaethiaid’ nesaf. Anogodd y Cadeirydd yr
aelodau a oedd yn llywodraethwyr ysgol i fonitro a phwysleisio ei bwysigrwydd. Eitem 8 ar y rhaglen – Diweddariad Proses y Gyllideb – Roedd Sesiwn
Briffio’r Gyllideb wedi’i chynnal yn Nhachwedd 2018. Eitem 9 ar y rhaglen – Adroddiad Gwella Blynyddol Swyddfa Archwilio Cymru –
Ceisiodd Aelodau’r canlyniad yn dilyn yr adroddiad ‘Adolygiad Safbwynt
Defnyddwyr Gwasanaeth' a gyflwynwyd i'r grŵp Pwyllgor Cadeiryddion ac
Is-gadeiryddion. Cadarnhaodd y Swyddog Monitro fod yr adroddiad wedi’i gyflwyno
yn y grŵp Pwyllgor Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion. Penderfynwyd bod
adroddiad yn cael ei gyflwyno i Graffu Perfformiad ym Mawrth 2019, er mwyn cael
trafodaeth. Eitem 10 ar y rhaglen – Diweddariad Archwilio Mewnol – Cadarnhawyd yr
ymwelwyd â phob ysgol gyda thystysgrifau cronfa ysgol wirfoddol a oedd yn
weddill. Dywedodd y Prif Archwilydd Mewnol y byddai diweddariad ar gael yng
nghyfarfod nesaf y Pwyllgor. PENDERFYNWYD
yn amodol ar yr uchod,
y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol a gynhaliwyd ar 26 Medi 2018
fel cofnod cywir. |
||
Ar y pwynt hwn, cytunwyd i amrywio trefn y Rhaglen. |
||
ASESIAD ALLANOL O’R ADAIN ARCHWILIO MEWNOL PDF 364 KB Ystyried
adroddiad gan y Prif Archwilydd Mewnol (copi’n amgaeedig) sy’n darparu
gwybodaeth i’r Pwyllgor er mwyn ei alluogi i gyfrannu at asesiad ansawdd
allanol archwilio mewnol sydd yn digwydd o leiaf unwaith bob pum mlynedd er
mwyn bodloni ei Gylch Gorchwyl a derbyn sicrwydd fod yr adain archwilio mewnol
yn cydymffurfio â Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol yr Adroddiad Asesiad
Allanol o’r Adain Archwilio Mewnol (a ddosbarthwyd yn flaenorol). Tywyswyd yr aelodau drwy’r adroddiad gan yr
Aelod Arweiniol. Eglurwyd bod Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus (PSIAS)
wedi cyflwyno gofyniad am asesiad allanol o wasanaethau archwilio mewnol o
leiaf unwaith bob pum mlynedd gan adolygydd annibynnol cymwys. Roedd yr asesiad
wedi’i gynnal gan Reolwr Archwilio Cyngor Gwynedd ac roedd yn amgaeedig i’r
adroddiad (roedd Atodiad 1 wedi’i ddosbarthu eisoes). Roedd yr Aelod
Arweiniol yn fodlon bod gwasanaeth Archwilio Mewnol Sir Ddinbych wedi dangos
gwaith i safon uchel, a byddai’r canfyddiadau yn yr adroddiad yn cael eu
hunioni. Dywedodd y Prif
Archwilydd Mewnol ei bod yn hapus gyda chanlyniad yr adroddiad ac roedd gwaith
ar y pwyntiau gweithredu wedi dechrau. Yn ystod y
ddadl, trafodwyd y pwyntiau canlynol mewn mwy o fanylder - ·
Mae cynllun archwilio hyblyg yn sicrhau bod archwiliadau
gyda’r flaenoriaeth uchaf yn cael eu hadolygu. Er nad yw hyn yn cydymffurfio â PSIAS, roedd y dull
wedi’i fabwysiadu gan awdurdodau a sefydliadau eraill, ac yn ddull archwilio
cydnabyddedig i sicrhau bod adnoddau archwilio’n cael eu targedu lle mae’r
angen mwyaf. ·
Byddai monitro’r cynllun gweithredu a gynigiwyd yn cael
ei gyflwyno i’r pwyllgor fel rhan o’r Adroddiad Archwilio Mewnol Blynyddol yn
2019. Llongyfarchwyd
y tîm Archwilio gan Aelodau, am eu gwaith o safon uchel. PENDERFYNWYD ·
bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn yr
adroddiad, yn nodi ei gynnwys ac yn monitro’r gweithrediad o’r camau gweithredu
i roi sylw i’r argymhellion yn ystod adroddiadau’r dyfodol, a ·
bod ‘Adroddiad Blynyddol Archwilio Mewnol' yn cael ei ychwanegu
at y rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ar gyfer Mehefin 2019. |
||
DIWEDDARIAD ARCHWILIO MEWNOL PDF 282 KB Ystyried
adroddiad gan y Prif Archwilydd Mewnol (copi wedi’i amgáu) yn rhoi gwybod i
aelodau am gynnydd Archwilio Mewnol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Prif Archwilydd Mewnol adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn rhoi
diweddariad i’r aelodau ar gynnydd y Tîm Archwilio Mewnol o ran cyflwyno
gwasanaeth, darparu sicrwydd, adolygiadau a gwblhawyd, perfformiad ac
effeithiolrwydd wrth sbarduno gwelliant. Roedd yr
adroddiad yn darparu gwybodaeth am waith yr Adain Archwilio Mewnol ers y
cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor. Roedd yn galluogi’r Pwyllgor i fonitro
perfformiad a chynnydd yr Adain Archwilio Mewnol yn ogystal â darparu
crynodebau o’i adroddiadau. Tywysodd y Prif
Archwilydd Mewnol yr aelodau drwy'r adroddiadau a oedd yn rhoi'r wybodaeth
ddiweddaraf hyd at fis Hydref 2018 am - ·
Adroddiadau
archwilio mewnol a gyhoeddwyd yn ddiweddar h.y. Rhenti Tai a Grantiau Cludiant
Cymru; ·
Cynnydd
gwaith Archwilio Mewnol hyd yma yn 2018-19; ·
Cynnydd ar
weithredu camau gweithredu y cytunwyd arnynt o brosiectau sicrwydd; ·
Diweddariad
ar berfformiad Archwilio Mewnol yn erbyn safonau wedi’u gosod; a ·
Diweddariad
ar gynnydd gydag Arfer Da CIPFA ar gyfer Pwyllgorau Archwilio. Trafodwyd y materion canlynol
yn fanylach – ·
Rhenti Tai – Medi 2018 – Fe wnaeth y Prif Archwilydd Mewnol gadarnhau
bod amseriad yr archwiliad wedi bod yn addas yn dilyn gweithredu Credyd
Cynhwysol. Cadarnhad y gellid unioni’r
pedair risg/mater cymedrol yn y gwasanaeth. ·
Dywedodd y Cadeirydd y byddai’n ddiddorol monitro ffigurau’r
ôl-ddyledion a ddiddymwyd yn dilyn gweithredu Credyd Cynhwysol. ·
Rhoddwyd cadarnhad bod gwaith wedi parhau i adennill ôl-ddyledion.
Roedd yr adran Dai’n parhau i fonitro data ôl-ddyledion rhent tai. ·
Canmolwyd swyddogion am eu gwaith a gwblhawyd cyn gweithredu Credyd
Cynhwysol, er mwyn ei gyflwyno’n llyfn i’r Sir. ·
Tynnwyd sylw at y ffaith bod 3 risg / mater cymedrol o fewn archwiliad
Grantiau Cludiant Cymru – Tachwedd 2018, wedi’u codi hefyd. Clywyd pryderon am
ddiffyg cydymffurfio ag amodau’r grant.
Dywedodd Gareth Evans (cynrychiolydd Swyddfa Archwilio Cymru) nad oedd
Llywodraeth Cymru wedi gofyn am wybodaeth am y cynllun monitro ar ôl darparu,
roedd y potensial i ofyn am wybodaeth yn gallu cael ei gyflwyno ar unrhyw adeg.
Tynnodd y Cadeirydd sylw hefyd at y pwysigrwydd o amodau monitro’n cael eu bodloni
mewn perthynas â chyllid grant. Cadarnhawyd bod Swyddfa Archwilio Cymru wedi
bod yn gyfrifol am fonitro’r grantiau a gafwyd. Roedd Gareth Evans wedi datgan
ei fod wedi gobeithio cyflwyno adroddiad i’r Pwyllgor ar gyllid grant yn y
dyfodol. ·
Roedd diweddariadau i’r Cylch Gorchwyl wedi’u trefnu i gael eu cyflwyno
yng nghyfarfod Ionawr o gyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol. Roedd yr
aelodau’n falch o dderbyn y diweddariad a’r wybodaeth hyd yma. Byddai
gwybodaeth a diweddariadau pellach yn cael eu cyflwyno i aelodau yn ôl y galw. Diolchodd y
Cadeirydd i’r Prif Archwilydd Mewnol am roi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau o
ran y cynnydd hyd yma. Diolchwyd i gynrychiolydd Swyddfa Archwilio Cymru am ei
gyfraniad i’r drafodaeth. PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn yr adroddiad gyda
diweddariad am yr adain archwilio mewnol, a nodi ei gynnwys. |
||
DATGANIAD LLYWODRAETHU BLYNYDDOL PDF 265 KB Ystyried
adroddiad gan y Prif Archwilydd Mewnol (copi’n amgaeedig) sy’n darparu
gwybodaeth am sut mae’r Cyngor yn gweithredu gwelliannau i drefniadau
llywodraethu ers cyhoeddi'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol ym mis Gorffennaf
2018. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Prif Archwilydd Mewnol adroddiad (a gylchredwyd yn flaenorol), yn diweddaru
aelodau ar gynnydd wrth weithredu’r cynllun gwella llywodraethu sy’n dod gyda
Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2017/18. Rhoddodd y Prif
Archwilydd Mewnol wybod i aelodau bod pob cam yn mynd rhagddynt ac mewn modd
amserol. Holodd y
Cadeirydd a oedd modd cylchredeg siart wedi’i diweddaru o’r Penaethiaid
Gwasanaeth ac aelodau o’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth i aelodau. Cadarnhaodd y
Swyddog Monitro, unwaith y byddai’n cael ei diweddaru i gynnwys pob diwygiad,
byddai copi ar gael i aelodau. Roedd y gwaith
o fonitro’r gofrestr contractau’n parhau. Roedd meini prawf wedi aros yn eu lle
ar gyfer contractau newydd, ac roeddynt wedi cael cydymffurfiaeth. Pwysleisiodd yr Aelodau’r pwysigrwydd o
reolaeth gref o gleientiaid i fonitro contractau. Tynnodd yr
Aelodau sylw at y pwysigrwydd o fonitro prosiectau ar ôl eu cwblhau. PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn ac yn nodi cynnwys yr
adroddiad. |
||
ADRODDIAD DIWEDDARU - RHEOLI PROSIECTAU YSGOLION YR 21AIN GANRIF PDF 271 KB Ystyried
adroddiad gan y Prif Archwilydd Mewnol (copi’n amgaeedig) sy’n darparu'r
wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd mewn gweithredu'r camau gweithredu risgiau
pennaf sy’n ymwneud â Rheoli Prosiectau Ysgolion yr 21ain ganrif a chafodd ei gynnwys o fewn
yr adroddiad Diweddaru Archwilio Mewnol a gyflwynwyd i’r Pwyllgor hwn ym
mis Mehefin 2018. Cofnodion: Cyflwynodd y
Prif Archwilydd Mewnol yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol). Roedd yr
adroddiad hwn yn rhoi gwybodaeth am gynnydd mewn gweithredu’r cam gweithredu
risg fawr yn ymwneud â Rheoli Prosiect Ysgolion yr 21ain Ganrif a ddaeth gydag
adroddiad Diweddaru’r Adain Archwilio Mewnol, a gyflwynwyd i’r Pwyllgor ym
Mehefin 2018. Fe wnaeth yr adroddiad archwilio gwreiddiol
godi mater risg fawr mewn perthynas â llywodraethu Rhaglen Ysgolion yr 21ain
Ganrif, cadarnhaodd y Prif Archwilydd Mewnol nad oedd yn cael ei ystyried yn
risg fawr mwyach. Roedd adroddiad wedi’i gyflwyno i’r Bwrdd Pobl Ifanc a Thai,
roedd yr adroddiad wedi rhoi manylion ynghylch ailsefydlu’r Bwrdd Rhaglen
Moderneiddio. Cadarnhaodd y Prif Archwilydd Mewnol, yn dilyn y bwrdd newydd,
teimlwyd bod yr elfennau llywodraethu a’r rheolaethau yn eu lle wedi’u cryfhau.
Clywodd yr Aelodau fod gwaith wedi mynd
rhagddo ar adroddiad canllaw rheoli prosiect. Roedd y canllaw drafft am gael ei
gyflwyno i’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth i gael cymeradwyaeth cyn ei gylchredeg i
swyddogion gyda dyletswydd rheoli prosiect. Trafodwyd y pryderon canlynol ymhellach- ·
Holodd Aelodau ble’r
oedd y cyfrifoldeb am dalu dyled o ddwy ysgol a oedd wedi cyfuno i ffurfio’r
ysgol Ffydd newydd yn y Rhyl. Dywedodd y Prif Archwilydd Mewnol y gellid ei
gynnwys yn yr archwiliad o’r ysgol newydd gan adrodd yn ôl gerbron y Pwyllgor
ar ddyddiad hwyrach. ·
Byddai’r cyflwyniad ar y
Bwrdd Rhaglen Moderneiddio'n caniatáu swyddogion o wahanol wasanaethau i
gefnogi’r prosiectau mawr. Roedd y prosiect yn dal â rheolwr prosiect i
oruchwylio’r gwaith a oedd yn mynd rhagddo. Roedd deialog cyson yn parhau i
ddigwydd gyda swyddogion a chontractwyr. ·
Eglurodd Gareth Evans
(cynrychiolydd Swyddfa Archwilio Cymru), fod prosiectau ysgolion yr 21ain
ganrif wedi'u hariannu'n sylweddol gan Lywodraeth Cymru, a byddent yn cael eu
harchwilio gan Gyngor Sir Ddinbych a Swyddfa Archwilio Cymru. Roedd yr aelodau'n falch o’r cynnydd a wnaed.
Diolchodd y Cadeirydd i swyddogion am yr adroddiad â diweddariad. PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad diweddaru gan y Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol a nodi’r cynnwys. |
||
RHAGLEN WAITH PWYLLGOR LLYWODRAETHU CORFFORAETHOL PDF 313 KB Ystyried rhaglen
gwaith i’r dyfodol y pwyllgor (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol
(a ddosbarthwyd eisoes) i’w hystyried. Cadarnhaodd y
Pwyllgor Raglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol, yn
ddibynnol ar y diwygiadau canlynol:- 23 Ionawr 2019 -
·
Adroddiad RIPA blynyddol. Yn cynnwys adroddiad yr
arolygiad. 16 Mawrth 2019 - ·
Adolygiad ychwanegol o’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol. 05 Mehefin 2019 - ·
Adroddiad Blynyddol Adain Archwilio Mewnol PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn
cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol. |
||
ADRODDIAD BLYNYDDOL AR RANNU PRYDERON PDF 194 KB Ystyried adroddiad gan y Pennaeth
Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd (copi’n amgaeedig) i
roi gwybod i Aelodau am weithgareddau mewn
perthynas â’r Polisi Rhannu Pryderon. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Adroddiad gan y
Swyddog Monitro, a oedd yn rhoi gwybodaeth yn ymwneud â gweithredu polisi
Rhannu Pryderon y Cyngor, ers cyflwyno’r adroddiad diwethaf gerbron y Pwyllgor
Llywodraethu Corfforaethol yn Nhachwedd 2017.
Roedd yr adroddiad
wedi’i gyflwyno’n unol â Pholisi Rhannu Pryderon y Cyngor, a oedd yn cynnwys
gofyniad i’r Swyddog Monitro gyflwyno adroddiad i’r Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol o leiaf unwaith y flwyddyn ar weithrediad y Polisi, ac unrhyw
newidiadau mewn ymarfer a gyflwynwyd o ganlyniad i bryderon a godwyd o dan y
Polisi. Mae’r adroddiad yn ymdrin â’r cyfnod o 30 Tachwedd 2017 i 31 Hydref 2018,
yn ystod y cyfnod, codwyd dau bryder o dan y Polisi. Cadarnhaodd y
Swyddog Monitro y disgwyliwyd i waith ddechrau yn y flwyddyn i ddod, i gynnwys
datblygu microsafle ar gyfer arweinyddiaeth a phroses gynefino newydd y Cyngor,
a fydd yn galluogi tynnu sylw at bolisïau a newidiadau allweddol sydd wedi’u
gwneud. Bydd hwn yn offeryn arall a
fydd yn helpu i gynnal ymwybyddiaeth o’r polisi. Fe wnaeth y Cadeirydd dynnu sylw at y pwysigrwydd o ddealltwriaeth staff
a’r diwylliant ar gyfer rhoi gwybod am bryderon yn y Cyngor. Cadarnhaodd y Swyddog Monitro fod polisïau a
gweithdrefnau i Lywodraethwyr ysgol godi unrhyw bryderon. GWAHARDD Y WASG A'R CYHOEDD Er mwyn rhoi sylw i’r pryderon a godwyd o dan y Polisi
Codi Pryderon a thrafod yr atodiad cyfrinachol - PENDERFYNWYD, dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y
Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn
debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraff 13 Rhan 4 Atodlen 12A
y Ddeddf. Rhoddodd y Swyddog Monitro gefndir cryno i aelodau am y ddau bryder a
godwyd. Cadarnhawyd y byddai pob corff,
yn cynnwys partïon allanol, yn ymchwilio i’r pryderon a godwyd yn y ddau achos.
Cadarnhaodd y Swyddog Monitro fod y dyddiadau yn yr atodiadau yn
ddyddiadau y derbyniwyd y pryderon gan y Swyddog Monitro. Roedd y ddau bryder
yn gymhleth ac roedd ymchwiliadau trylwyr yn digwydd. PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn ac yn nodi cynnwys yr
adroddiad blynyddol. |
||
Daeth y cyfarfod i ben am 11:25 a.m. |