Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwllgor 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Tony Flynn. |
|
Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu yn y busnes a nodwyd
i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Datganodd yr
Aelod Lleyg Paul Witham gysylltiad personol yn Eitem Rhif 5 ar y Rhaglen –
Adroddiad Iechyd a Diogelwch Blynyddol - gan fod ei wyres yn ddisgybl mewn ysgol
sy'n cael ei chrybwyll yn yr adroddiad. |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys yn unol ag Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
fater brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 11 Gorffennaf
2018 (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 11
Gorffennaf 2018. Eitem Rhif 9 ar y
Rhaglen - Archwiliad Mewnol o Iechyd a Diogelwch mewn Ysgolion - Dywedodd yr
Aelodau y dylid cywiro brawddeg yn y cofnodion i ‘cyfrifoldeb llywodraethwyr yr
ysgol yw llywodraethu iechyd a diogelwch mewn ysgolion’ yn hytrach na’r hyn
sydd wedi’i nodi yn yr adroddiad. PENDERFYNWYD yn
amodol ar yr uchod, y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor
Llywodraethu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 11 Gorffennaf 2018 fel cofnod cywir. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL IECHYD A DIOGELWCH PDF 362 KB Ystyried
adroddiad gan Reolwr Iechyd a Diogelwch Corfforaethol (copi ynghlwm) yn
hysbysu'r aelodau ynglŷn â rhaglen waith a pherfformiad blynyddol Iechyd a
Diogelwch Corfforaethol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd
Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad, ac Asedau Strategol yr Adroddiad Blynyddol
Iechyd a Diogelwch (a ddosbarthwyd yn flaenorol). Dywedodd yr Aelod Arweiniol
mai ‘melyn’ oedd yr asesiad cyffredinol ar gyfer y tîm iechyd a diogelwch, gyda
hanes da o waith iechyd a diogelwch yn Sir Ddinbych. Tywysodd y
Rheolwr Iechyd a Diogelwch Corfforaethol yr aelodau drwy Adroddiad Blynyddol
Iechyd a Diogelwch gan roi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau ar reolaeth Iechyd
a Diogelwch yn y Cyngor o safbwynt y tîm Iechyd a Diogelwch Corfforaethol. Dywedodd y Rheolwr Iechyd a Diogelwch Corfforaethol fod yr adroddiad yn darparu crynodeb
blynyddol o’r materion a nodwyd ac a drafodwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Wrth ystyried yr adroddiad, trafodwyd y mater canlynol yn fanylach:- Ystadegau
Damweiniau - Cadarnhaodd y
Rheolwr Iechyd a Diogelwch Corfforaethol bod cyfathrebu gyda swyddogion a
gweithwyr Sir Ddinbych i roi gwybod am ddamweiniau wedi parhau. Mae nifer y
damweiniau sy’n cael eu hadrodd wedi cynyddu gan fod mwy o unigolion a thimau
yn rhoi gwybod i’r tîm iechyd a diogelwch am ddamweiniau. Rhoddwyd cyngor a chyfarwyddyd i ysgolion ar
sut i roi gwybod am ddamweiniau. Yr ysgol oedd yn parhau i fod yn gyfrifol am
roi gwybod am ddamweiniau. Gwelwyd nifer
uchel o ddamweiniau yng Nghanolfan Nova ym Mhrestatyn gan fod staff wedi rhoi
gwybod am yr holl ddamweiniau a ddigwyddodd.
Roedd y mwyafrif o’r damweiniau a nodwyd wedi digwydd yn y ganolfan
chwarae i blant. Cadarnhaodd y Rheolwr Iechyd a Diogelwch Corfforaethol ei fod
yn falch o weld bod damweiniau yn cael eu hadrodd gan fod hyn dangos bod staff
wedi derbyn hyfforddiant ar y broses. Roedd gwaith wedi parhâi i sicrhau'r maes
parcio aml-lawr yn Ninbych. Diweddarwyd
y systemau Teledu Cylch Caeedig ac roedd y lefelau isaf y maes parcio yn cael
eu cloi gyda’r nos i atal unigolion rhag cael mynediad i'r safle. Roedd gwaith
â’r tîm maes parcio wedi parhau. Roedd gwaith
hefyd wedi parhau i wella diogelwch Llyfrgell Y Rhyl. Gwelwyd cynnydd yn nifer
y damweiniau ar y safle yn dilyn cyflwyniad siop yn alwad a swyddfa refeniw a
budd-daliadau. Roedd gwaith gyda’r heddlu a phreswylwyr lleol wedi dechrau. Roedd llawer o
waith yn ymwneud ag iechyd a diogelwch mewn ysgolion wedi parhau. Roedd
ymweliadau safle wedi parhau mewn ysgolion ac fe gyflwynwyd canllawiau ar gyfer
prif athrawon. Cynigodd yr aelodau y dylid anfon llythyr i’r holl ysgolion i
dynnu sylw at bwysigrwydd rhoi gwybod am ddamweiniau ac i gynnal perthynas
waith gadarnhaol gyda’r tîm iechyd a diogelwch yn Sir Ddinbych. Hefyd mewn
ymateb i adroddiad yr Adain Archwilio Mewnol ar Iechyd a Diogelwch
mewn Ysgolion. Diolchodd y
Cadeirydd i’r Rheolwr Iechyd a Diogelwch Corfforaethol am yr adroddiad ac am yr
ymatebion clir i gwestiynau’r aelodau. PENDERFYNWYD, ·
bod
y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn yr adroddiad, yn nodi’r cynnwys
ac yn cefnogi cynllun gwaith y tîm Iechyd a Diogelwch Corfforaethol ar gyfer
2017/18, a ·
bod
llythyr yn cael ei anfon at ysgolion i dynnu sylw at yr angen i roi gwybod am
ddamweiniau. |
|
SWYDDFA ARCHWILIO CYMRU – YMHOLIADAU ARCHWILIO BLYNYDDOL 17/18 PDF 207 KB Ystyried
adroddiad gan y Prif Gyfrifydd (copi ynghlwm) i gyflwyno Llythyr Ymholiadau
Archwilio ac ymateb y Cyngor i’r ymholiadau hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Pennaeth Cyllid yr adroddiad Ymholiadau Archwilio 2017/18 (a ddosbarthwyd yn
flaenorol) i roi gwybod i’r Aelodau am ymateb y Cyngor. Roedd gan Swyddfa
Archwilio Cymru, fel archwilwyr allanol
penodedig Cyngor Sir Ddinbych, ddyletswydd i gasglu tystiolaeth am sut mae
rheolwyr a’r unigolion hynny sydd â chyfrifoldeb dros lywodraethu (Pwyllgor
Llywodraethu Corfforaethol) yn cyflawni eu dyletswyddau i atal a chanfod twyll.
Mae manylion o
ymatebion y rheolwyr (Pennaeth Cyllid) a'r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol
(Cadeirydd y Pwyllgor) wedi eu nodi fel
atodiad i'r adroddiad. Yn gryno, roedd
yr ymatebion yn nodi ymagwedd y Cyngor tuag at y meysydd canlynol o
lywodraethu: ·
Prosesau rheoli sydd ar waith i adnabod a lliniaru yn
erbyn y risg o dwyll.
·
Ymwybyddiaeth o unrhyw achosion gwirioneddol neu honedig
o dwyll. ·
Prosesau i gael sicrwydd y cydymffurfiwyd â'r holl
gyfreithiau a rheoliadau perthnasol. ·
A oes unrhyw ymgyfreithiad posibl neu hawliadau a fyddai'n
effeithio ar y datganiadau ariannol. ·
Prosesau i adnabod, awdurdodi, cymeradwyo, cyfrif am a
datgelu trafodion partïon cysylltiedig a pherthnasoedd. Eglurodd Anthony Veale, cynrychiolydd Swyddfa Archwilio
Cymru, gyfrifoldeb y Swyddfa i ofyn cwestiynau ac adrodd i’r Pwyllgor
Llywodraethu Corfforaethol. Cadarnhawyd ni chodwyd unrhyw fater gyda’r
ymatebion. Diolchodd y Cadeirydd i’r Adran Gyllid ac i Swyddfa
Archwilio Cymru am eu gwaith. PENDERFYNWYD y dylai Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol
gadarnhau yn ffurfiol yr ymatebion sydd wedi'u cynnwys yn Atodiad 1 i'r
adroddiad. |
|
CYMERADWYO DATGANIAD CYFRIFON PDF 368 KB Ystyried adroddiad
gan y Prif Gyfrifydd (copi ynghlwm) ar Ddatganiad Cyfrifon 2017/18. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
Arweiniol Cyllid, Perfformiad a Chynllunio Strategol adroddiad Cymeradwyo
Datganiad Cyfrifon 2017/18 (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i’w gymeradwyo’n
ffurfiol gan aelodau etholedig ar ran y cyngor. Roedd gan y
Cyngor ddyletswydd statudol i baratoi datganiad cyfrifon sy’n cydymffurfio â
safonau cyfrifo cymeradwy. Cymeradwywyd y
datganiadau ariannol ar gyfer 2017/18, yn amodol ar archwiliad, gan y Pennaeth
Cyllid ar 15 Mehefin 2018. Cyflwynwyd y cyfrifon drafft i'r Pwyllgor
Llywodraethu Corfforaethol ar 11 Gorffennaf 2018 ac roeddent yn agored i’w
arolygu’n gyhoeddus o 9 Gorffennaf - 3 Awst 2018. Tywysodd y
Pennaeth Cyllid yr aelodau drwy’r adroddiad a diolchodd i’r swyddogion a’r
timau am y gwaith a wnaed i gwblhau’r cyfrifon yn unol â’r terfynau amser newydd. Roedd gwaith wedi parhau
i wella’r Gofrestr Asedau i wella a sicrhau gweithdrefn gadarn yn y dyfodol. Adleisiodd
cynrychiolydd Swyddfa Archwilio Cymru y ganmoliaeth a llongyfarchodd swyddogion
am y gwaith a oedd wedi’i gwblhau. Cyflwynodd Anthony Veale, cynrychiolydd
Swyddfa Archwilio Cymru, Adroddiadau Archwilio Datganiadau Ariannol – Swyddfa Archwilio
Cymru. Rhoddodd wybod i’r aelodau am y broses a’r amserlen wrth lunio’r
adroddiadau. Nodwyd bod yr holl argymhellion wedi cael eu cynnwys o fewn yr
adroddiad, yn cynnwys y gwaith ar y Gofrestr Asedau a nodwyd y cynnydd hyd yma.
Nodwyd y materion yn ymwneud â’r Gofrestr Asedau a sefydlwyd cynllun gwaith i fynd i’r afael â’r materion hyn. Cafwyd trafodaeth
gyffredinol ac yn ystod trafodaethau nododd yr aelodau bwysigrwydd y terfynau
amser newydd a’r anawsterau a wynebir wrth geisio sicrhau bod y terfynau amser
hyn yn cael eu dilyn yn y dyfodol. Tynnwyd sylw at y ffaith nad oedd sylwadau
gan y cyhoedd wedi’u derbyn eleni. Roedd ymrwymiadau cyllideb i’r Cynllun
Corfforaethol blaenorol wedi’u storio yng nghronfeydd wrth gefn y Cynllun
Corfforaethol a byddent yn aros yno nes bod eu hangen o un flwyddyn i’r llall.
Gofynnwyd cwestiynau ynglŷn â safle’r ‘Travelodge’ yn y Rhyl. Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid bod rhaid
cynnal cyllid i gwblhau gwaith ar y safle i’w ddatblygu er mwyn sicrhau bod
lefelau llifogydd yn ddigonol ar gyfer gwaith. Roedd y obeithiol y byddai modd
adennill arian am y tir drwy rent. Mynegodd y
Cadeirydd werthfawrogiad ar ran y Pwyllgor am y gwaith a wnaed gan y Swyddogion
Cyllid a Swyddfa Archwilio Cymru. Mynegodd y
Pennaeth Cyllid ei ddiolch i Anthony Veale, Swyddfa Archwilio Cymru. Rhoddwyd
wybod i aelodau na fyddai Anthony yn cynrychioli Swyddfa Archwilio Cymru yn Sir
Ddinbych mwyach. Rhoddwyd canmoliaeth iddo am ei gyfraniadau i’r Pwyllgor a
dymunwyd y gorau iddo yn ei swydd newydd. Diolchodd Anthony
Veale i’r pwyllgor am y gefnogaeth yr oedd wedi’i derbyn yn ystod y cyfnod a
fu’n gweithio ochr yn ochr ag aelodau a swyddogion. PENDERFYNWYD:
|
|
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AR BROSES Y GYLLIDEB PDF 304 KB Ystyried
adroddiad gan Bennaeth Cyllid (copi ynghlwm) yn darparu trosolwg o’r broses i
osod y gyllideb ar gyfer 2019/20. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
Arweiniol Cyllid, Perfformiad, a Chynllunio Strategol yr adroddiad Proses y
Gyllideb (a ddosbarthwyd yn flaenorol). Cadarnhaodd, dros y 12 mis diwethaf,
fod 4 sesiwn i friffio’r aelodau ar y gyllideb wedi’u cynnal. Tywysodd yr Aelod
Arweiniol yr aelodau drwy’r adroddiad, nodwyd y dylid sefydlu Bwrdd i, ·
Ddiffinio a darparu Strategaeth Ariannol Tymor Canolig hyd at ddiwedd
2022/23. ·
Sicrhau y gellir gosod cyllideb gytbwys ar gyfer bob blwyddyn ariannol o
fewn y rhaglen. ·
Cefnogi darpariaeth Blaenoriaethau Corfforaethol. ·
Darparu dull a reolir i ddatblygu cyngor llai wedi’i redeg yn dda Penderfynwyd cyfeirio ar y bwrdd fel Bwrdd
Ail-lunio’r Cyngor. Cynhwyswyd cylch gorchwyl y bwrdd fel atodiad 1 i’r
adroddiad. Mae’r bwrdd nad yw’n gwneud penderfyniadau yn cynnwys uwch
swyddogion ac aelodau arweiniol. Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid fod y Bwrdd wedi’i
greu i sicrhau bod Sir Ddinbych yn cyflwyno cyllideb gytbwys. Mae’r adroddiad
yn darparu aelodau â
throsolwg o’r broses. Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid y byddai'r wybodaeth
ddiweddaraf o ran y bwrdd neu’r broses yn cael ei chyflwyno i’r pwyllgor o bryd
i’w gilydd. Gofynnodd yr
Aelodau i gael trefnu dyddiad ar gyfer y
sesiwn friffio arfaethedig nesaf a rhannu’r dyddiad hwnnw cyn gynted ag y
cytunwyd arno. Croesawodd y Cadeirydd a’r aelodau'r adroddiad a diolch i’r swyddogion am
eu gwaith hyd yma. PENDERFYNWYD
bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn ac yn nodi cynnwys yr
adroddiad. |
|
Ar yr adeg hon (11.05am) cafwyd egwyl o 10 munud. Ailddechreuodd y
cyfarfod am 11.15 a.m. |
|
ADRODDIAD GWELLA BLYNYDDOL SWYDDFA ARCHWILIO CYMRU PDF 292 KB Ystyried
adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru (copi ynghlwm) ar Adroddiad Gwella
Blynyddol 2017/18. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
cynrychiolydd Swyddfa Archwilio Cymru (GB) yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn
flaenorol) ac eglurodd ei gynnwys. Eglurodd bod yr adroddiad wedi'i greu i
grynhoi’r gwaith archwilio a wnaed gan Swyddfa Archwilio Cymru, yn cynnwys
astudiaethau ar Lywodraethu, Rheoli Gwybodaeth a defnydd adnoddau. Mae’r
adroddiad ar y cyfan yn gadarnhaol ynghylch y Cyngor ac nid yw’n cynnwys unrhyw
argymhelliad sylweddol ar gyfer newid. Ymhelaethodd cynrychiolydd Swyddfa
Archwilio Cymru ar y cynigion ar gyfer gwella a oedd wedi’u cynnwys yn yr
adroddiad. Cytunodd yr
aelodau y dylid monitro’r cynigion ar gyfer gwella. Wrth ystyried yr adroddiad,
trafodwyd y materion canlynol yn fanylach - ·
Tamprwydd a chyddwysiad mewn eiddo – tynnwyd sylw at
waith pellach i’r maes cymhleth o damprwydd a chyddwysiad mewn eiddo. Awgrymodd
aelodau y dylid cyflwyno adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ‘Adolygiad Safbwynt
Defnyddiwr Gwasanaeth’ yng nghyfarfod nesaf y Cadeiryddion a’r Is-Gadeiryddion
i’w drafod ymhellach. Croesawodd y Swyddog Tai'r adroddiad gan Swyddfa
Archwilio Cymru ac fe gadarnhaodd bod gwaith wedi dechrau i fynd i’r afael â’r
amodau yr oedd y gymuned wedi rhoi gwybod amdanynt. ·
Gwaith aelodau’r Cabinet – Tynnodd aelodau sylw at waith
aelodau’r Cabinet a gyflwynwyd yng nghyfarfod y Cabinet. Trafodwyd sylwadau o
ran y gwahaniaeth yn nifer yr adroddiadau a gyflwynwyd gan wahanol aelodau o’r
Cabinet. Cadarnhaodd y Swyddog Monitro bod yr adroddiad
wedi’i drafod gan yr Arweinydd yng nghyfarfod diwethaf Cadeiryddion ac
Is-Gadeiryddion y Pwyllgor Craffu gan ei fod yn ymwneud â chraffu. Rhoddwyd
gwybod i'r aelodau bod yr Arweinydd wedi trafod yr adroddiad gydag aelodau’r
Cabinet. Diolchodd y Cadeirydd i
Swyddfa Archwilio Cymru ac i swyddogion am gyflwyno’r adroddiad Gwaith
Blynyddol. PENDERFYNWYD,
I.
bod y Pwyllgor
Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn ac yn nodi cynnwys yr adroddiad, a
II.
bod ‘Adroddiad Swyddfa
Archwilio Cymru - Adolygiad Safbwynt Defnyddiwr Gwasanaeth’ yn cael ei gyflwyno
yng nghyfarfod nesaf y Cadeiryddion a’r Is-Gadeiryddion i’w drafod ymhellach. |
|
DIWEDDARIAD ARCHWILIO MEWNOL PDF 205 KB Ystyried
adroddiad gan Bennaeth Archwilio Mewnol (copi ynghlwm) yn diweddaru'r aelodau
am gynnydd Archwilio Mewnol. Derbyn y
wybodaeth ddiweddaraf ar lafar ynglŷn â chanllaw ymarferol CIPFA. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Prif Archwilydd Mewnol adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn rhoi diweddariad
i’r aelodau ar gynnydd y Tîm Archwilio Mewnol o ran cyflwyno gwasanaeth,
darparu sicrwydd, adolygiadau a gwblhawyd, perfformiad ac effeithiolrwydd wrth
sbarduno gwelliant. Mae’r adroddiad
yn darparu gwybodaeth am waith yr Adain Archwilio Mewnol ers y cyfarfod
diwethaf y Pwyllgor. Roedd yn galluogi’r Pwyllgor i fonitro perfformiad a
chynnydd yr Adain Archwilio Mewnol yn ogystal â darparu crynodebau o’i
adroddiadau. Tywysodd y Prif
Archwilydd Mewnol yr aelodau drwy'r adroddiadau a oedd yn rhoi'r wybodaeth
ddiweddaraf hyd at fis Medi 2018 ar - ·
Adroddiadau’r Adain Archwilio Mewnol a gyflwynwyd yn
ddiweddar h.y. Gwasanaethau Arlwyo; ·
Cynnydd gwaith Archwilio Mewnol hyd yma yn 2018-19; ·
Cynnydd gyda gwaith gwrth-dwyll; ·
Canlyniadau ymarfer y Fenter Twyll Genedlaethol 2016-17;
a ·
Diweddariad ar berfformiad yr Adain Archwilio Mewnol yn
erbyn safonau gosod.
Trafodwyd y materion canlynol yn fanylach – ·
Y lefel o wiriadau sampl ar y system VERTO –cadarnhaodd y
Prif Archwilydd Mewnol nad oedd cyfyngiad wedi’i osod ar nifer y samplau a
wiriwyd. ·
Ysgolion gyda thystysgrifau cronfa ysgol gwirfoddol –
roedd paratoadau o ran ymweliadau ysgolion wedi dechrau. Eglurodd y Prif
Archwilydd Mewnol, oherwydd newidiadau staffio roedd gan ysgolion dystysgrifau
a oedd yn ddyledus ers tro, rhai ers 2011. Byddai adroddiad cryno yn cael ei
gyflwyno yn ôl i’r pwyllgor yn dilyn cwblhad yr ymweliadau. ·
Roedd croesgyfeirio a monitro’r cynllun gostyngiad person
sengl ar gyfer treth y cyngor wedi parhau. Cytunodd yr aelodau ei fod yn parhau
i fod yn faes anodd ei reoli. ·
Twyll tenantiaeth tai – cadarnhaodd y Prif Archwilydd
Mewnol bod gwaith ar dwyll twyll tenantiaeth wedi’i drefnu ar gyfer eleni. ·
Prydau ysgol am ddim mewn ysgolion – roedd tîm wedi'i
sefydlu i drafod a gweithio gydag ysgolion a rhieni gydag ôl-ddyledion yn
ymwneud â phrydau ysgol. Cadarnhaodd y Prif Archwilydd Mewnol bod gwaith i
leihau’r lefel o ôl-ddyledion yn parhau. Byddai plant yn yr ysgolion yn parhau
i gael prydau bwyd. Roedd yr aelodau’n falch o weld bod gwaith gydag ysgolion a
rhieni wedi'i fabwysiadu i leihau ôl-ddyledion.
Cyflwynodd y Prif Archwilydd Mewnol y wybodaeth
ddiweddaraf ar ganllawiau’r Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a
Chyfrifyddiaeth (CIPFA) ar gyfer Pwyllgorau Archwilio. Tywyswyd aelodau drwy
gyflwyniad PowerPoint o’r cynnydd a wnaed hyd yma. Cadarnhawyd bod: ·
Gweithgor Canllawiau CIPFA wedi cwrdd ym mis Mehefin 2018 ·
Hunanasesiad wedi’i ddosbarthu ymhlith aelodau’r pwyllgor
a bod yr ymatebion wedi’u derbyn. ·
Adolygiad o’r cylch gorchwyl – cymharu’r telerau
presennol â’r telerau a argymhellwyd gan CIPFA. Roedd yr aelodau’n falch o dderbyn y diweddariad a’r
wybodaeth hyd yma. Byddai gwybodaeth a diweddariadau pellach yn cael eu
cyflwyno i aelodau yn ôl y galw. Diolchodd y Cadeirydd i’r Prif Archwilydd Mewnol am roi’r
wybodaeth ddiweddaraf i aelodau o ran y cynnydd hyd yma. PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn adroddiad diweddaru’r
Adain Archwilio Mewnol ac yn nodi’r
cynnwys, ac yn nodi cynnwys y diweddariad CIPFA. |
|
ADRODDIAD DIWEDDARU – CYFLEUSTERAU CYHOEDDUS PDF 188 KB Ystyried
adroddiad gan y Prif Archwilydd Mewnol (copi ynghlwm) yn diweddaru’r aelodau am
y cynnydd a wnaed o ran gweithredu cynllun gweithredu a oedd yn cyd-fynd ag
adroddiad Archwilio Mewnol ar Gyfleusterau Cyhoeddus ym mis Ebrill 2018. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif
Archwilydd Mewnol yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol). Roedd yr
adroddiad yn rhoi gwybodaeth i aelodau ynglŷn â gweithredu'r cynllun gweithredu a oedd yn cyd-fynd
â’r adroddiad Archwilio Mewnol ar Gyfleusterau Cyhoeddus ym mis Ebrill 2018. Cyflwynodd y Prif Archwilydd Mewnol adroddiad a oedd yn darparu gwybodaeth
ynglŷn â sut yr oedd y Cyngor yn gweithredu gwelliannau i Gyfleusterau
Cyhoeddus. Mae'r cynllun
gweithredu dilynol i’r Archwiliad Mewnol (a geir yn Atodiad 1) yn dangos bod
cynnydd da wedi ei wneud wrth weithredu ar y materion a’r risgiau a nodwyd yn
yr Archwiliad Mewnol. Mae’r pedwar mater a godwyd yn yr Archwiliad
gwreiddiol bellach wedi’u datrys yn llwyddiannus. Mae’r gwelliannau a wnaed i
drefniadau casglu incwm, cysoni a diogelwch hefyd yn golygu bod y risg o dwyll
yn digwydd neu’n digwydd heb i neb sylwi wedi’i lleihau, a rhoddwyd canllawiau
ar waith i gyfeirio arferion cywir. Cadarnhaodd y
Prif Archwilydd Mewnol bod gwelliannau wedi’u gwneud a bod hynny wedi arwain at
gynnydd yn sgôr sicrwydd Archwilio Mewnol o isel’ i 'uchel'. Roedd yr
aelodau'n falch o’r cynnydd a wnaed. Rhoddwyd canmoliaeth am y gwaith caled a
wnaed i wella cyfleusterau cyhoeddus yn dilyn yr adroddiad. Cadarnhawyd bod
polisïau a gweithdrefnau newydd wedi’u cynhyrchu a’u rhannu â swyddogion. PENDERFYNWYD
derbyn yr adroddiad diweddaru a
nodi’r cynnwys. |
|
RHAGLEN WAITH Y PWYLLGOR LLYWODRAETHU CORFFORAETHOL PDF 318 KB Ystyried rhaglen
gwaith i’r dyfodol y pwyllgor (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen
Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol (a ddosbarthwyd
eisoes) i’w hystyried. Dywedodd y
Swyddog Monitro wrth yr Aelodau o bosib y byddai’n rhaid gohirio’r Adroddiad
RIPA Blynyddol a oedd i’w gyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol. Roedd dull newydd o asesu wedi’i gyflwyno, a olygai o bosib na
fyddai’r wybodaeth berthnasol ar gyfer yr adroddiad ar gael erbyn y cyfarfod
nesaf. Dywedodd y Swyddog Monitro y byddai cadarnhad yn cael ei roi yn nes at
ddyddiad y cyfarfod nesaf. Cadarnhaodd
Swyddfa Archwilio Cymru bod y dyddiadau ar gyfer cyfarfodydd 2019 yn unol â’r dyddiadau terfynol ar gyfer cymeradwyo
datganiad cyfrifon ond byddai’n rhaid eu monitro a’u diwygio yn y blynyddoedd
nesaf. PENDERFYNWYD yn
amodol ar yr uchod bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn cymeradwyo’r
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol. |
|
Daeth y cyfarfod
i ben am 12:35 p.m. |