Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwllgor 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Cafwyd
ymddiheuriadau am absenoldeb gan gynrychiolwyr Swyddfa Archwilio Cymru, Anthony
Veale a Michelle Phoenix. |
|
PENODI CADEIRYDD Penodi
Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol am y flwyddyn I ddod. Cofnodion: Gofynnwyd am enwebiadau i Aelod wasanaethu fel Cadeirydd y Pwyllgor ar
gyfer y flwyddyn i ddod. Enwebodd y Cynghorydd Alan James y Cynghorydd Barry
Mellor, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Martyn Holland. Ni chafwyd unrhyw
enwebiadau eraill ac felly; PENDERFYNWYD penodi'r Cynghorydd Barry Mellor yn Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ar
gyfer y flwyddyn i ddod. |
|
PENODI IS-GADEIRYDD Penodi
Is-Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol am y flwyddyn I ddod. Cofnodion: Gofynnwyd am enwebiadau i Aelod wasanaethu fel Is-gadeirydd y Pwyllgor ar
gyfer y flwyddyn i ddod. Enwebodd y Cynghorydd Barry Mellor y Cynghorydd Martyn
Holland ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Alan James. Ni chafwyd unrhyw
enwebiadau eraill ac felly; PENDERFYNWYD penodi'r Cynghorydd Martyn Holland yn Is-gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ar gyfer y flwyddyn
i ddod. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 197 KB Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n
rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd fel un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Datganodd y
Cynghorwyr Martyn Holland, Tony Flynn, Mabon ap Gwynfor, a Meirick Lloyd Davies
gysylltiad personol ag eitem 7 ar y Rhaglen – canlyniadau Arolwg Estyn 2018 Sir
Ddinbych, gan eu bod yn Llywodraethwyr ysgol. |
|
MATERION BRYS Rhybudd o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
fater brys. |
|
Derbyn
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 25
Ebrill 20178 (copi wedi ei amgáu). Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 25
Ebrill 2018. Eitem 9 - Adroddiad Blynyddol yr Adain
Archwilio Mewnol – nododd yr Aelod Lleyg, Paul Witham, wall clercio. Dylai'r
cofnodion ddarllen fel a ganlyn: ‘Gofynnod yr Aelodau am sicrwydd bod enillion
buddsoddiadau wedi cael eu harchwilio’. PENDERFYNWYD yn amodol ar yr uchod, y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion cyfarfod y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol fel cofnod cywir. |
|
DEILLIANNAU AROLWG ESTYN YN SIR DDINBYCH 2018 PDF 298 KB I ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Addysg (copi’n amgaeedig) am Arolwg diweddar Estyn yn
yr Awdurdod. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Pennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant, ganlyniadau Adroddiad Arolygu Estyn, Sir
Ddinbych 2018 (a gylchredwyd yn flaenorol). Arweiniodd y
Pennaeth yr aelodau drwy’r adroddiad. Cyfeiriwyd at y broses arolygu
gadarn a grymus, yn cynnwys y gwaith a gwblhaodd y swyddogion er mwyn cael
gwybodaeth ac adroddiadau mewn paratoad at yr arolygiad. Datganodd y Pennaeth ei bod yn
falch iawn gyda chanlyniad cyffredinol yr arolwg ac ategodd ei diolch a chanmoliaeth
i holl swyddogion ac adrannau a gyfrannodd a chefnogodd y tîm yn ystod yr
arolwg. Cafodd y
canlyniadau oedd wedi’u hasesu yn erbyn fframwaith arolwg newydd Estyn, eu
hamlygu i’r aelodau o fewn yr adroddiad. Pwysleisiwyd mai Sir Ddinbych
oedd un o’r unig ddau awdurdod i dderbyn ardderchog am arweinyddiaeth yn y
rowndiau diwethaf o arolygon. Eglurodd y Pennaeth bod Estyn wedi cydnabod y cwmpawd moesol cryf a
ddangoswyd yn Sir Ddinbych wrth ddarparu ar gyfer unigolion ifanc yn y sir. Yn
dilyn uniad llwyddiannus rhwng Addysg a Gwasanaethau Plant, gofynnodd Estyn i
swyddogion Sir Ddinbych gwblhau astudiaeth achos er mwyn dangos y broses a
ddilynwyd i awdurdodau eraill. Ar y cyfan, mynegodd y Pennaeth bod yr arolwg
wedi bod yn broses ddwys ond roedd y canlyniad yn gadarnhaol a gwerthfawr. Yn ystod
trafodaethau, codwyd y materion canlynol: ·
Llongyfarchodd yr aelodau'r
Pennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant a’r swyddogion am ganlyniad rhagorol yr
arolwg. Estynnwyd canmoliaeth
i’r holl adrannau ynghlwm. Roedd yr aelodau’n falch bod Estyn wedi amlygu’r
gwaith a wnaed a'r gwaith parhaus gan yr awdurdod i ymgysylltu ag ysgolion,
rhieni ac unigolion ifanc. ·
Monitro
tu hwnt i’r Sir – Cadarnhaodd y Pennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant y
cwblhawyd monitro plant mewn lleoliadau tu hwnt i'r Sir. Amlygodd yr arolwg y
monitro o’r gwasanaethau a gomisiynir sy’n darparu gwasanaethau. Clywodd yr
aelodau bod nifer cyfyngedig o ddarparwyr trydydd parti ar gael wrth ymchwilio
i leoliadau tu hwnt i’r Sir. Fel awdurdod, lles a datblygiad
y plentyn oedd y brif flaenoriaeth. ·
Cyfradd
gwaharddiadau cyfnod penodol – Cadarnhaodd y Pennaeth Addysg a Gwasanaethau
Plant bod cyfradd y gwaharddiadau cyfnod penodol a arsylwyd yn uchel, gyda
nifer o waharddiadau parhaol yn isel. Gweithiodd y swyddogion addysg gydag
ysgolion i fynd i'r afael â'r materion. Pwysleisiwyd bod perthynas gweithio da
gydag ysgolion a phenaethiaid wedi'i sefydlu, a oedd yn creu perthynas weithio
cadarnhaol er mwyn cael yr adnoddau a chanlyniadau gorau i blant Sir Ddinbych. ·
Byddai
trafodaethau’n cael eu cynnal gyda’r swyddog cyswllt i fynd i’r afael â
phryderon a godwyd yn yr adroddiad arolygu. Cadarnhaodd y Pennaeth Addysg a
Gwasanaethau Plant bod gwaith wedi cael ei wneud i fonitro plant ifanc yn y sir
neu y tu allan i'r sir ac roedd angen esboniadau pellach gan Estyn er mwyn
deall yn union beth oedd sail eu canfyddiadau. ·
Trefnwyd
gwaith ar argymhellion yr ymchwiliad. Bydd cynnydd yn cael ei fonitro a’i
ddadansoddi a’i ddatblygu trwy’r broses graffu i alluogi i dystiolaeth gael ei
gyflwyno am y gwaith presennol a gyflawnir. Disgwyliwyd i gynllun gweithredu
sy’n mynd i’r afael â’r argymhellion gael ei ddatblygu ym mis Medi yn dilyn
cyfarfod dilynol gydag aelod ymchwilio cysylltiol Estyn. ·
Addysgu
yn y Cartref – tynnwyd sylw at y cymhlethdod sy’n gysylltiedig â dewis addysgu
plant yn y cartref. Roedd perthnasoedd gwaith gyda gweithwyr proffesiynol
eraill wedi cael eu harsyllu. Canmolodd y Pennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant
waith y swyddogion ac amlygwyd yn glir yn yr adroddiad bod gwaith yn y maes hwn
yn gryfder penodol. Diolchodd y Cadeirydd i’r Pennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant a’r swyddogion am yr adroddiad. Llongyfarchodd yr adran am y cynnydd a wnaed i sicrhau bod plant Sir Ddinbych yn derbyn yr addysg ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
DIWEDDARIAD ARCHWILIO MEWNOL PDF 280 KB Ystyried
adroddiad gan y Prif Archwilydd Mewnol (copi wedi’i amgáu) yn rhoi gwybod i
aelodau am gynnydd Archwilio Mewnol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Prif Archwilydd Mewnol (PAM) adroddiad diweddaru’r Adain Archwilio Mewnol (a
ddosbarthwyd ymlaen llaw) gan roi’r newyddion diweddaraf i’r aelodau am gynnydd
yr Adain Archwilio Mewnol o ran cyflwyniad ei wasanaeth, darparu sicrwydd, yr adolygiadau
a gwblhawyd, perfformiad ac effeithiolrwydd wrth hybu gwelliannau. Darparodd yr adroddiad wybodaeth am waith yr Adain Archwilio Mewnol ers
cyfarfod diwethaf y Pwyllgor. Aeth y PAM drwy'r adroddiadau gyda’r aelodau, a
roddodd yr wybodaeth ddiweddaraf hyd at fis Mai 2018 am: ·
Cyflwynwyd
adroddiadau archwilio mewnol yn ddiweddar h.y.
Rheoli Prosiectau a Gwasanaeth Caffael ar y Cyd; · Cynnydd o ran gwaith Archwilio Mewnol hyd yma yn 2018-19; · Diweddariad bob chwarter ar Waith Gwrth-dwyll; a · Diweddariad ar Berfformiad yr Adain Archwilio Mewnol yn erbyn y safonau gosod. Trafodwyd y materion canlynol yn fanylach –
Diolchodd y
Cadeirydd i’r swyddogion a’r Adain Archwilio Mewnol am yr adroddiad. PENDERFYNWYD y byddai’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn yr
adroddiad diweddaru ac y bydd diweddariad ar Reoli Prosiect Ysgolion yr 21ain
Ganrif yn cael ei gynnwys yn Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor. |
|
Ar y pwynt hwn
(10.45am) cafwyd egwyl o 15 munud. Ailddechreuodd y cyfarfod am 11.00am. |
|
I ystyried
adroddiad gan y Prif Archwilydd Mewnol (copi’n amgaeedig) am y canllaw
diwygiedig a rhifyn diweddaraf o “Pwyllgorau Archwilio – Canllaw Ymarferol i
Awdurdodau Lleol a’r Heddlu”. Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Archwilydd Mewnol (PAM) Ganllawiau Ymarferol CIPFA ar
gyfer Pwyllgorau Archwilio 2018 (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) er mwyn galluogi’r
Aelodau i asesu eu hunain yn erbyn y fframwaith gwybodaeth a sgiliau craidd a
amlinellir yn yr adroddiad. Cynigiodd y PAM y dylid sefydlu grŵp tasg o dri aelod, gan gynnwys y
Cadeirydd a’r Is-gadeirydd, i ddadansoddi effeithiolrwydd y pwyllgor. Roedd y
canllawiau CIPFA yn cynnwys hunanasesiad y gofynnod y PAM i’r aelodau ei
gwblhau. Byddai canlyniad yr asesiad yn llunio sylfaen ar gyfer anghenion
hyfforddi ac anghenion datblygu pellach yr aelodau. Mynegodd y Cadeirydd ei fod yn cytuno gyda sefydlu grŵp tasg i
gadarnhau anghenion a gwybodaeth. Roedd angen i’r rôl hanfodol a ddarparodd y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol wrth graffu ar adroddiadau barhau i
gyrraedd safon uchel. Gofynnod y Cadeirydd i’r aelodau gwblhau’r hunanasesiad
er mwyn darparu sylfaen i’r grŵp tasg ehangu arno. Roedd yr aelodau’n
cytuno y dylid sefydlu grŵp tasg. Trafododd yr Aelodau nifer yr aelodau ar y Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol. Esboniodd y Swyddog Monitro nad oedd unrhyw gyfyngiadau na
chyfreithiau mewn lle i gyfyngu ar nifer aelodau etholedig ar y pwyllgor. Byddai angen i'r Cyngor Sir gymeradwyo newid i’r cyfansoddiad er mwyn i
caniatáu unrhyw newidiadau. Gellid ymchwilio hefyd i gynyddu'r nifer o Aelodau
Lleyg sydd ar y Pwyllgor. Roedd y cyfyngiadau a’r rheolau blaenorol ynghylch
pwy sy'n gymwys i fod ar y pwyllgor wedi cael eu dileu. Pwysleisiodd yr
Aelod Lleyg, Paul Witham, mai Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol Sir Ddinbych
oedd un o’r rhai â’r niferoedd lleiaf o aelodau. Awgrymodd Paul Witham bod y
pwyllgor yn ailedrych ar y cylch gorchwyl wrth gwblhau’r hunanasesiad. Tynnodd y Swyddog Monitro sylw’r aelodau at y ffaith y byddai’r grŵp
tasg a ffurfir yn asesu’r cylch gorchwyl yn ystod ei gyfarfod. Cytunodd yr
aelodau mai’r Cadeirydd (y Cynghorydd Barry Mellor), yr Is-gadeirydd (y
Cynghorydd Martyn Holland) a’r Cynghorydd Mabon ap Gwynfor fyddai’n ffurfio’r
grŵp tasg. Diolchodd y Cadeirydd i’r Swyddog Monitro a’r PAM am yr adroddiad a’r
canllawiau. Atgoffodd yr aelodau i gwblhau'r hunanasesiad. PENDERFYNWYD: ·
bod y Pwyllgor
Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn yr adroddiad ac yn nodi ei gynnwys; ·
bod yr
Aelodau’n cwblhau'r hunanasesiad ar sail templed CIPFA; a ·
bod y
Cynghorydd Barry Mellor, y Cynghorydd Martyn Holland a’r Cynghorydd Mabon ap
Gwynfor yn ffurfio grŵp tasg i ddadansoddi effeithiolrwydd y pwyllgor ac
unrhyw anghenion hyfforddi ychwanegol. |
|
ARCHWILIAD MEWNOL O UNED CAFFAEL CORFFORAETHOL AR Y CYD PDF 266 KB Ystyried
adroddiad gan y Prif Archwilydd Mewnol (copi'n amgaeedig) sy’n rhoi manylion yr
adroddiad Archwilio Mewnol diweddar ar Uned Caffael Corfforaethol ar y Cyd a
gafodd sgôr sicrwydd 'Isel'. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif
Archwilydd Mewnol (PAM) yr adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw), gan roi
manylion i’r aelodau am yr adroddiad Archwilio Mewnol ar yr Uned Gaffael
Gorfforaethol ar y Cyd, a oedd wedi cael sgôr sicrwydd ‘Isel’. Aeth yr Aelod Arweiniol Cyllid, Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad, ynghyd â’r Rheolwr Gweithrediadau Cyfreithiol a Chaffael a Rheolwr y Gwasanaeth Cyfreithiol, drwy’r adroddiad Archwilio gyda’r aelodau. Croesawodd yr Aelod Arweiniol yr adroddiad, gan gydnabod y materion yr oedd yn eu codi. Aethpwyd i’r afael â gwaith i ddelio â materion llywodraethu, gyda rhagor o waith ar y gweill. Hysbyswyd yr aelodau bod hyfforddiant wedi’i drefnu ar gyfer staff i godi proffil caffael a’r lefel uchel o ymrwymiad. Cynigodd y
Swyddog Monitro y dylid hysbysu'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth o’r adroddiad a’i
ganfyddiadau. Rhoddodd y Swyddog Monitro wybodaeth gefndirol i’r aelodau
ynglŷn â’r gwaith a oedd wedi’i wneud hyd yma, roedd hyn yn cynnwys
penodi’r Rheolwr Gweithrediadau Cyfreithiol a Chaffael. Canmolwyd yr holl waith a wnaed ers y penodiad i gael gweithdrefnau cadarn
o ran caffael. Sicrhaodd y SM y pwyllgor
y codwyd yr adroddiad archwilio a’i ganfyddiadau yn y cyfarfod Herio
Gwasanaeth, a bod adroddiad gydag argymhellion am gael ei uwchgyfeirio. Yn ystod y drafodaeth, bu i’r aelodau drafod y canlynol: ·
Roedd
raid i’r ddau awdurdod roi ar ddeall i wasanaethau bod angen prynu i mewn i
waith yr uned gydweithrediadol. Roedd gwybodaeth a dealltwriaeth yn hanfodol er
mwyn gwella buddiant. Cytunodd yr Aelodau nad oedd yr adroddiad yn dangos y
canlyniadau posibl i gydweithredu ac roedd angen gwneud gwaith i ddatrys y
problemau. ·
Nid
oedd y trefniant craffu pwnc a gweithio ar y cyd wedi bod yn ddigonol. ·
Cadarnhaodd
y Swyddog Monitro bod y Rheolwr Gweithrediadau Cyfreithiol a Chaffael wedi nodi’r
gwaith yr oedd swyddogion wedi’i wneud i gynyddu proffil caffaeliad. Yn ei dro
byddai hyn yn galluogi adrannau i gael gwybodaeth am yr uned a gweithio'n fwy
effeithiol. · Roedd trafodaethau’n mynd rhagddynt rhwng y ddau awdurdod i sefydlu perthynas barhaus. Bu cyfathrebu tryloyw yn hanfodol er mwyn gweithio’n gadarnhaol yn y dyfodol. · Cadarnhaodd Rheolwr y Gwasanaeth Cyfreithiol bod cyfarfod wedi’i drefnu â Sir y Fflint i drafod cydweithio yn y dyfodol. Roedd gofyn am ddull cryfach o graffu gwaith a chanfyddiadau ar gam cynnar y caffael. · Nododd cynrychiolydd Swyddfa Archwilio Cymru bod angen sefydlu trefniadau craffu a llywodraethu o’r cychwyn cyntaf. Roedd gan yr awdurdod weithdrefnau ar gyfer craffu y dylid bod wedi’u dilyn i atal archwiliadau gwasanaethau rhag cael sgôr sicrwydd isel. Roedd angen monitro cydweithio o hyn ymlaen. Gofynnodd Aelodau
a fyddai modd cael adroddiad wedi'i ddiweddaru yn y rhaglen gwaith i'r dyfodol
er mwyn diweddaru'r pwyllgor am waith a gwblhawyd. Byddai hwn yn cynnwys unrhyw ddiweddariad a
dderbyniwyd gan y Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu. Diolchodd y Cadeirydd
i’r swyddogion am yr adroddiad archwilio tryloyw ac am y gyd-berthynas waith
gyda Chyngor Sir y Fflint. Bu i’r Pwyllgor gydnabod y gwaith a wnaed, ond
teimlai bod yr angen i fonitro trefniadau llywodraethu yn amlwg. PENDERFYNWYD bod
y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol:
I.
yn derbyn yr adroddiad ac yn nodi ei
gynnwys ac
II.
yn cynnwys diweddariad ar yr Uned Gaffael
ar y Cyd yn Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y pwyllgor. |
|
RHAGLEN WAITH Y PWYLLGOR LLYWODRAETHU CORFFORAETHOL PDF 294 KB Ystyried rhaglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor
(copi wedi’i amgáu). Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol
(a ddosbarthwyd ymlaen llaw) i’w ystyried. Cadarnhaodd y
Pwyllgor Raglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn
amodol ar y diwygiadau canlynol:- 11 Gorffennaf 2018 -
21 Tachwedd
2018 –
Ionawr 2019-
PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn
cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 12:25 p.m. |