Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Ystafell Bwllgor 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnodion:

Dim.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 197 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd fel un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. 

 

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Tony Flynn gysylltiad personol yn eitem 5 ar y rhaglen – Adroddiad Atal Digartrefedd, gan ei fod yn landlord eiddo rhent.

 

Datganodd y Cynghorydd Barry Mellor a'r Cynghorydd Alan James gysylltiad personol yn eitem 7 ar y rhaglen – Diweddariad Archwilio Mewnol, gan fod y ddau ar y bwrdd Partneriaeth TCC.

 

 

 

3.

MATERION BRYS

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 312 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 07 Chwefror 2018 (copi’n amgaeedig).

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 07 Chwefror 2018.

 

Dim materion yn codi.

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar yr uchod, y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol fel cofnod cywir.

 

 

5.

ADRODDIAD ATAL DIGARTREFEDD pdf eicon PDF 216 KB

Derbyn er gwybodaeth (copi wedi'i amgáu) diweddariad am gynnydd y Cynllun Gweithredu Atal Digartrefedd i’w gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu Partneriaethau ar 03 Mai 2018.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Tony Flynn gysylltiad personol â’r eitem hon ar y rhaglen.

 

Darparwyd adroddiad gwybodaeth gan y Rheolwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Cymunedol a Busnes (a gylchredwyd yn flaenorol).

Roedd y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth yn bresennol ar gyfer yr eitem.

 

Eglurodd Rheolwr y Gwasanaeth (SM) fod yr adroddiad gwasanaeth wedi’i gyflwyno i'r Pwyllgor Craffu Partneriaethau 3 Mai 2018 er mwyn cael trafodaeth. Cyflwynwyd yr adroddiad i’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol er gwybodaeth, ac i roi sicrwydd i aelodau bod y gwasanaeth wedi ymateb i’r argymhellion a gafwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru.

Yn dilyn trafodaethau, cadarnhaodd yr SM -

·         Roedd cyllideb y flwyddyn ar y gweill wedi’i phennu

·         Roedd Aelodau wedi cael gwybod am y gwahaniaeth rhwng llety mewn argyfwng a dros dro

·         Cynhyrchwyd yr adroddiad i fynd ati i atal digartrefedd yn Sir Ddinbych. Roedd gwaith i atal digartrefedd yn Sir Ddinbych wedi dechrau, a byddai’n parhau ochr yn ochr â’r cynllun gweithredu (cynllun gweithredu’n amgaeedig)

·         Roedd gwaith gyda gwasanaethau eraill wedi parhau, roedd perthnasau gyda thrydydd parti wedi parhau ochr yn ochr â’r cynllun gweithredu

 

Diolchodd y Cadeirydd y Swyddog a’r Aelod Arweiniol am yr adroddiad a'r gwaith a oedd wedi’i ddechrau ar y cynllun gweithredu.  Atgoffodd y Cadeirydd yr aelodau bod yr adroddiad i’r Pwyllgor Craffu Partneriaethau’n cael ei drafod mewn manylder.

 

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn ac yn nodi cynnwys yr adroddiad.

 

 

6.

CYDYMFFURFIO Â PHOLISI RHEOLI RISGIAU SIR DDINBYCH pdf eicon PDF 307 KB

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Tîm Cynllunio Strategol (copi wedi'i amgáu) ar y Fframwaith Rheoli Risgiau Strategol a ddefnyddir yng Nghyngor Sir Ddinbych.

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Tîm Cynllunio Strategol (SPTM) yr adroddiad (a gylchredwyd yn flaenorol), i grynhoi sut cafodd y gofrestr Risg Gorfforaethol ei monitro yn yr awdurdod.

 

Cytunwyd ar fersiwn ddiweddaraf ffurfiol o'r Gofrestr Risg Gorfforaethol yn Sesiwn Briffio’r Cabinet 9 Ebrill 2018, ac fe’i cyflwynwyd gerbron y Pwyllgor Craffu Perfformiad er mwyn ei ystyried 26 Ebrill 2018. Roedd y Gofrestr Risg Gorfforaethol yn cael ei hadolygu’n ffurfiol ddwywaith y flwyddyn gan y Cabinet a’r Tîm Gweithredu Corfforaethol (CET), gydag unrhyw risgiau sylweddol newydd neu sy’n dwysáu, wedi’u nodi gan CET. 

 

Fe wnaeth yr SPTM arwain aelodau drwy’r adroddiad a'r atodiadau a oedd yn amgaeedig. Yn dilyn trafodaethau, trafodwyd y pynciau canlynol -

·         Credyd Cynhwysol – Cadarnhaodd yr SPTM fod briff wedi’i dderbyn gan bob cyfarfod Grŵp Ardal Aelodau ynghylch gweithredu’r system Credyd Cynhwysol newydd.

·         Ymosodiadau seiber – Roedd y risg o ymosodiad seiber wedi'i hymchwilio ac roedd diweddariad i Risg iii i gynnwys ymosodiad seiber wedi’i gynnwys.

·         Diogelu Data – Gyda gweithrediad y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol newydd, roedd diweddariad i Risg iv wedi’i ddiwygio i gynnwys y ddeddfwriaeth newydd. Roedd gwaith wedi dechrau i leihau’r maes hwn o risg, a byddai monitro'n parhau yn dilyn gweithrediad.

·         Byrddau Corfforaethol – Roedd dau Fwrdd Corfforaethol wedi’u sefydlu i reoli’r Cynllun Corfforaethol.

·         Gweithio gydag awdurdodau cyfagos – Cadarnhaodd yr SPTM fod gwaith wedi’i wneud ar sefydlu perthnasau gwaith gydag awdurdodau cyfagos. Roedd arsylwadau wedi digwydd i sefydlu rhyngweithiadau cadarnhaol.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Rheolwr Tîm Cynllunio Strategol am yr adroddiad tryloyw.

 

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn ac yn nodi cynnwys yr adroddiad.

 

 

7.

DIWEDDARIAD ARCHWILIO MEWNOL pdf eicon PDF 265 KB

Ystyried adroddiad gan y Prif Archwilydd Mewnol (copi wedi’i amgáu) yn rhoi gwybod i aelodau am gynnydd Archwilio Mewnol.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Barry Mellor gysylltiad personol â’r eitem hon ar y rhaglen (Adroddiad TCC).

 

Cyflwynodd y Prif Archwilydd Mewnol (CIA) adroddiad diweddaru Archwilio Mewnol (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn rhoi diweddariad i’r aelodau ar gynnydd Archwilio Mewnol o ran darparu gwasanaeth, darparu sicrwydd, adolygiadau a gwblhawyd, perfformiad ac effeithiolrwydd wrth sbarduno gwelliant.

 

Roedd yr adroddiad yn darparu gwybodaeth am waith yr Adain Archwilio Mewnol ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor. Aeth y CIA drwy'r adroddiadau a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf hyd at fis Mawrth 2018 ar:

·         Adroddiadau archwilio mewnol a gyflwynwyd yn ddiweddar

·         Camau dilynol Adroddiadau Archwilio Mewnol

·         Cynnydd gwaith Archwilio Mewnol hyd yma yn 2017 - 18.

·         Crynodeb o brosiectau nesaf yr Adain Archwilio Mewnol

·         Safonau Perfformiad Archwilio Mewnol

 

Codwyd y materion canlynol wrth drafod –

·         Gwasanaethau Ariannol – Eglurodd y CIA i aelodau fod sawl adroddiad archwilio wedi’u cwblhau mewn perthynas â'r Gwasanaethau Ariannol i gyd yn rhoi sicrwydd uchel. Roedd gwaith yn parhau ar y pwyntiau gweithredu a godwyd gan archwilio mewnol. Roedd gwaith wedi’i wneud i leihau’r ganran uchel o anfonebau a anfonwyd heb archeb brynu. Eglurodd y CIA fod unrhyw dueddiadau neu glystyrau problematig yn cael eu harwain a’u cefnogi i leihau achosion o anfonebau heb archeb brynu lle bo’n bosibl.

·         Rheoli’r Risg o Dwyll – Mesurau Ataliol - Eglurodd y CIA fod cynllun Gwrth-dwyll a Llygru wedi’i ddatblygu gan Archwilio Mewnol, a rhoddodd eglurhad ynghylch rhai o'r gweithdrefnau a oedd yn eu lle i atal twyll. Eglurodd y Swyddog Monitro fod polisïau yn eu lle i uwch swyddogion ddatgan cysylltiadau personol. Roedd angen codi lefel ymwybyddiaeth staff o’r polisïau a’r gweithdrefnau.     

·         Teithio a Chynhaliaeth – Rhoddwyd cadarnhad gan y CIA i’r pwyllgor ar weithrediad llwyddiannus y modiwl electronig newydd ar gyfer prosesu costau teithio. Eglurodd y CIA fod y polisi’n datgan bod yn rhaid i bob gweithiwr gwblhau Ffurflen Ganiatâd Hawl i Yrru, o fewn yr archwiliad, cafodd Staff Sir Ddinbych a ddefnyddiodd y system newydd eu harchwilio, ond nid oedd hyn yn cynnwys aelodau. 

·         Llywodraethu Partneriaeth TCC – Cododd Aelodau’r diffyg gwybodaeth a gyflwynwyd gan Heddlu Gogledd Cymru. Cadarnhaodd y Cadeirydd fod peth gwybodaeth wedi’i chyflwyno i fwrdd y Bartneriaeth yn ystod ei chyfarfodydd. Roedd y berthynas rhwng Heddlu Gogledd Cymru a Bwrdd Partneriaeth TCC yn gwella.

Cododd trafodaethau ynghylch adroddiad i Lywodraethu Corfforaethol yn diweddaru aelodau ar y berthynas a oedd gan y Sir gyda darparwyr trydydd parti. Cadarnhaodd y CIA fod gwaith wedi dechrau ar adroddiad yn ymchwilio i waith a roddwyd gan drydydd parti.

 

PENDERFYNWYD fod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn yr adroddiad wedi’i ddiweddaru ac yn nodi ei gynnwys, a bod adroddiad Sicrwydd Partneriaeth blynyddol yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ar ddyddiad diweddarach.

 

 

Ar y pwynt hwn (11.10 a.m.) cafwyd egwyl o 10 munud.

 

Ailddechreuodd y cyfarfod am 11.20 a.m.

 

 

8.

STRATEGAETH ARCHWILIO MEWNOL pdf eicon PDF 192 KB

Ystyried adroddiad gan Y Prif Archwilydd Mewnol (copi wedi ei amgáu) am Strategaeth Archwilio Mewnol 2018-19.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Archwilio Mewnol (CIA) adroddiad (a gylchredwyd yn flaenorol) i roi’r Strategaeth Archwilio Mewnol ar gyfer 2018-19 i’r Pwyllgor.

 

Aeth y CIA â’r aelodau drwy’r adroddiad a roddodd wybodaeth, ymhelaethodd y CIA ar -

·         Roedd gan y cynllun archwilio mewnol elfen fawr o hyblygrwydd a oedd yn caniatáu i waith gael ei gwblhau a'i flaenoriaethu yn unol â hynny

·         Mae gwaith gwrth-dwyll a llygredd yn parhau i fod yn flaenoriaeth uchel i’r Cyngor. Bydd gwaith yn parhau yn y maes hwn, gydag adroddiadau’n cael eu cyflwyno i Lywodraethu Corfforaethol mewn cyfarfodydd o’r dyfodol.

·         Cadarnhaodd y CIA fod Cyngor Gwynedd wedi cwblhau'r asesiad allanol ym Mawrth 2018. Byddai'r canlyniad a'r cynllun gwella'n cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol pan fyddent yn dod i law.

·         Roedd cyflwyno VERTO i gofnodi cynnydd yn erbyn camau y cytunwyd arnynt wedi lleihau nifer y diwrnodau gofynnol ar gyfer gwaith dilynol, o bosibl.

·         Archwilio Mewnol yn ymchwilio i elfennau allweddol o wasanaethau ac adrodd yn ôl i’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol gydag unrhyw ganlyniadau a ganfyddir.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Swyddog Archwilio Mewnol am yr adroddiad a’r wybodaeth. Canmolodd bawb yn ystod yr holl newidiadau o fewn y gwasanaeth dros y 12 mis blaenorol.

 

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn ac yn nodi cynnwys yr adroddiad.

 

 

9.

ADRODDIAD BLYNYDDOL ARCHWILIO MEWNOL pdf eicon PDF 280 KB

Ystyried adroddiad gan y Prif Archwilydd Mewnol (copi wedi’i amgáu) ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd fframwaith llywodraethu, risg a rheolaeth y Cyngor yn ystod y flwyddyn sy'n llywio'r 'datganiad llywodraethu blynyddol'.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Archwilydd Mewnol (CIA) Adroddiad Blynyddol Archwilio Mewnol (a gylchredwyd yn flaenorol). R Rhoddwyd cyflwyniad sioe sleidiau i Aelodau a ddangosodd y gwaith a gwblhawyd gan Archwilio Mewnol yn ystod cyfnod 2017-2018. Rhoddodd yr adroddiad farn gyffredinol y CIA ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd fframwaith llywodraethu, risg a rheolaeth y Cyngor yn ystod y flwyddyn ac sy’n cyfrannu at y ‘Datganiad Llywodraethu Blynyddol'.

 

Roedd y CIA wedi rhoi ‘sicrwydd canolig’ ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd cyffredinol amgylchedd rheolaeth fewnol y Cyngor, gan gynnwys ei drefniadau ar gyfer llywodraethu a rheoli risg. Cyfeiriodd y CIA at 31 barn archwilio a gyhoeddwyd yn ystod y flwyddyn, a chadarnhaodd y byddai'r 4 a nodwyd yn y categori sicrwydd isel yn cael eu monitro. Byddai’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn cael adroddiadau cynnydd gan y gwasanaeth i oruchwylio gweithrediad y gwelliannau y cytunwyd arnynt.

 

Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan aelodau ynghylch gwaith a wnaed mewn ysgolion, cadarnhaodd y CIA fod gwaith wedi’i wneud a fyddai’n cynnwys cynllun gweithredu i ysgolion. Roedd gwaith wedi’i wneud i atal twyll. Roedd gwaith wedi’i gwblhau ar bolisïau a gweithdrefnau gan y tîm archwilio, i roi sicrwydd ac arweiniad, ac atal twyll rhag digwydd lle bo’n bosibl.  Roedd ymrwymiad gan bob awdurdod i leihau’r lefel o weithgareddau twyllodrus wedi cael cytundeb.

Gofynnodd yr aelodau am sicrwydd bod elw o fuddsoddiad wedi bod yn destun ymchwiliad ac archwiliad. Cadarnhaodd y CIA fod gwiriadau sampl wedi’u cwblhau mewn ardaloedd i fonitro canfyddiadau ac enillion.

 

Yn dilyn trafodaeth:

 

PENDERFYNWYD y dylid derbyn Adroddiad Blynyddol y Pennaeth Archwilio Mewnol a derbyn a nodi’r 'farn' gyffredinol.

 

 

10.

DATGANIAD LLYWODRAETHU BLYNYDDOL DRAFFT pdf eicon PDF 270 KB

Ystyried adroddiad gan y Prif Archwilydd Mewnol (copi wedi’i amgáu) sy’n darparu’r adroddiad hunanasesu drafft ar drefniadau llywodraethu a gwella'r Cyngor ar gyfer 2017/18.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Aeth y Prif Archwilydd Mewnol (CIA) â’r aelodau drwy ddrafft o’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol (a gylchredwyd yn flaenorol).

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys yr adroddiad hunanasesu drafft ar drefniadau llywodraethu a gwella'r Cyngor ar gyfer 2017-18, ac yn rhoi cyfle i’r Pwyllgor roi sylw ar ddrafft cyntaf y ‘Datganiad Llywodraethu Blynyddol'.

Eglurodd y CIA i aelodau am bwysigrwydd yr adroddiad, gan nodi bod yr adroddiad drafft wedi'i gyflwyno i'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth, Cyfarwyddwyr Corfforaethol a Swyddfa Archwilio Cymru am sylwadau.

 

Amlygodd y CIA y saith egwyddor allweddol i’r Fframwaith Llywodraethu Corfforaethol. Eglurwyd y swyddogaeth sylfaenol o lywodraethu da yn y Cyngor i sicrhau y cyflawnir canlyniadau. Nododd y CIA na fu unrhyw faterion sylweddol i roi gwybod amdanynt gyda’r holl ddiwygiadau a gynhwysir yn atodiad A (copi'n amgaeedig). Holodd y CIA yr aelodau bod unrhyw sylwadau a diwygiadau’n cael eu cyfeirio ati hi i’w hadolygu a’u haddasu lle bo angen. 

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r tîm Archwilio am yr adroddiad tryloyw ac anogodd aelodau i ddarllen yr adroddiad yn drylwyr a chysylltu â'r CIA gydag unrhyw gwestiynau neu ddiwygiadau.

 

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol:

      I.        Yn derbyn yr adroddiad ac yn nodi ei gynnwys a

Chyfeirio unrhyw ddiwygiadau neu gwestiynau at y CIA o fewn pythefnos.

 

11.

CYNLLUN ARCHWILIO BLYNYDDOL SWYDDFA ARCHWILIO CYMRU pdf eicon PDF 279 KB

Derbyn adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru (copi wedi’i amgáu) ar Gynllun Archwilio Blynyddol 2018 ar gyfer Cyngor Sir Ddinbych.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd cynrychiolydd (AV) o Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) yr adroddiad a ymgorfforodd Gynllun Archwilio 2018 – Cyngor Sir Ddinbych. Roedd yr adroddiad yn egluro’r rhaglen waith sydd wedi ei chynllunio ar gyfer rhaglen gwaith perfformiad archwilio ariannol a rhaglen waith archwilio perfformiad SAC.   Roedd yr adroddiad hefyd yn nodi manylion ffioedd ar gyfer y gwaith, y tîm archwilio a’r amserlen ar gyfer y gwaith.  

 

Darparwyd crynodeb o gynnwys cynllun archwilio 2018 – Cyngor Sir Ddinbych, a oedd yn cynnwys -

·         Archwiliad o Gyfrifon

·         Archwiliad perfformiad

·         Ardystio hawliadau a ffurflenni grant

·         Ffi, tîm archwilio ac amserlen

·         Datblygiadau i’r gwaith archwilio yn y dyfodol

 

Darparodd cynrychiolydd SAC drosolwg i’r Pwyllgor o gynnwys yr adroddiad. Yn ystod trafodaethau codwyd y materion canlynol -

·         Roedd rhywfaint o’r drafodaeth yn canolbwyntio ar symleiddio trefniadau sicrwydd, drwy gyflwyno ‘Atodlen Gryno o Grantiau Ardystiedig Llywodraeth Cymru’ i bob elfen unedol. Dywedodd y cynrychiolydd SAC hwn y byddai rhagor o wybodaeth yn cael ei rhoi i’r pwyllgor yn hwyrach ymlaen.

·         Eglurodd y swyddog SAC bod agweddau ar risg yn cael eu hymchwilio ac asesiadau risg cyflawn o feysydd cymhleth.

·         Rhoddwyd esboniadau i’r dulliau a ddefnyddiwyd wrth gylchredeg gwahoddiadau i seminarau a gweithdai. Rhoddodd cynrychiolydd SAC (GB) wybod i aelodau am y dull i danysgrifio ar gyfer newyddlen SAC, i gael gwybodaeth am hyfforddiant a chyhoeddi adroddiadau.  

 

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn ac yn nodi cynnwys yr adroddiad.

 

 

12.

RHAGLEN WAITH Y PWYLLGOR LLYWODRAETHU CORFFORAETHOL pdf eicon PDF 290 KB

Ystyried rhaglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor (copi wedi’i amgáu).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol (a gylchredwyd eisoes) i’w hystyried.

 

Cymeradwywyd Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn amodol ar y diwygiadau canlynol:-

           

            6 Mehefin 2018 - 

·         Asesiad allanol – Adroddiad Prif Swyddog Gweithredol Archwilio Cyngor Sir Gwynedd – Adroddiad a chynllun Gwella

 

11 Gorffennaf 2018 - 

·         Adroddiad Blynyddol Uwch-berchennog Risg Gwybodaeth

 

26 Medi 2018 -

·         Ymholiadau Archwiliad Blynyddol SAC

·         Diweddariad ar adroddiad Archwiliad Cyfleustodau Cyhoeddus

 

21 Tach 2018 -

·         Adroddiad sicrwydd trydydd parti blynyddol

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar y sylwadau uchod, bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol

yn cymeradwyo'r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.

 

 

 

Gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD dan ddarpariaethau Adran 100A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 14, Rhan 4, o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

 

13.

ADRODDIAD ARCHWILIO MEWNOL – CYFLEUSTERAU CYHOEDDUS

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Prif Archwilydd Mewnol (copi wedi’i amgáu) ar adroddiad Archwilio Mewnol diweddar ar Gyfleusterau Cyhoeddus, a gafodd sgôr sicrwydd 'Isel'.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Archwilydd Mewnol (CIA) yr adroddiad cyfrinachol (a gylchreddwyd yn flaenorol), yn rhoi manylion i aelodau ynghylch yr adroddiad Archwilio Mewnol ar Gyfleustodau Cyhoeddus a oedd wedi cael sgôr sicrwydd ‘Isel’. Aeth yr Aelod Arweiniol Cyllid, Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad, gyda'r Swyddog Arweiniol – Contractau a Chyfleusterau (LO), â’r aelodau drwy’r adroddiad Archwilio. Rhoddodd yr LO ychydig o wybodaeth gefndirol i aelodau, a rhoi sicrwydd i'r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol bod gwaith wedi dechrau ar yr argymhellion o'r archwiliad.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion am roi’r adroddiad ac am egluro pryderon aelodau.

 

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn nodi cynnwys yr adroddiad, a bod adroddiad diweddaru’n cael ei roi yng nghyfarfod Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol Medi.

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 13:10 p.m.