Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Ystafell Bwllgor 1A, Neuadd Y Sir, Rhuthun LL15 1YN

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

2.

PENODI CADEIRYDD

Penodi Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol am y flwyddyn i ddod.

 

Cofnodion:

Gofynnwyd am enwebiadau i aelod wasanaethu fel Cadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn i ddod. Enwebodd y Cynghorydd Alan James y Cynghorydd Barry Mellor, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Martyn Holland. Ni dderbyniwyd enwebiadau eraill ac felly;

 

PENDERFYNWYD penodi'r Cynghorydd Barry Mellor yn Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ar gyfer y flwyddyn i ddod.

 

 

3.

PENODI IS-GADEIRYDD

Penodi Is-Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol am y flwyddyn i ddod.

 

Cofnodion:

Gofynnwyd am enwebiadau i aelod wasanaethu fel Is-Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn i ddod. Enwebodd y Cynghorydd Alan James y Cynghorydd Martyn Holland ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Mabon ap Gwynfor. Ni dderbyniwyd enwebiadau eraill ac felly;

 

PENDERFYNWYD penodi'r Cynghorydd Martyn Holland yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ar gyfer y flwyddyn i ddod.

 

 

 

4.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd fel un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorwyr Mabon ap Gwynfor, Martyn Holland a Barry Mellor gysylltiad personol ag eitem 8 ar y rhaglen gan eu bod yn llywodraethwyr ysgol.

 

 

5.

MATERION BRYS

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

Cofnodion:

Dim.

 

6.

COFNODION pdf eicon PDF 301 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 22 Mawrth 2017 (copi wedi ei amgáu).

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 22 Mawrth 2017.

 

PENDERFYNWYD derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Mawrth 2017 fel cofnod cywir.

 

 

7.

ADRODDIAD GWELLA BLYNYDDOL SWYDDFA ARCHWILIO CYMRU pdf eicon PDF 416 KB

Derbyn adroddiad a chyflwyniad gan Swyddfa Archwilio Cymru (copi ynghlwm) ar yr Adroddiad Gwella Blynyddol 2016/2017.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd cynrychiolydd Swyddfa Archwilio Cymru (GB) yr adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ac eglurodd ei gynnwys. Eglurodd fod yr adroddiad wedi ei greu i grynhoi gwaith archwilio Swyddfa Archwilio Cymru, gan gynnwys astudiaethau ar lywodraethu, rheoli gwybodaeth a defnyddio adnoddau. Mae’r adroddiad ar y cyfan yn gadarnhaol ynghylch y Cyngor ac nid yw’n cynnwys unrhyw argymhelliad sylweddol ar gyfer newid. Mae chwe chynnig ar gyfer gwella wedi ei nodi yn yr adroddiad a bu i gynrychiolydd Swyddfa Archwilio Cymru ymhelaethu arnynt.

Derbyniwyd yr adroddiad, a gyflwynwyd i’r Cyngor llawn, gan yr aelodau a chytunwyd y dylid monitro’r cynigion ar gyfer gwella. Diolchodd y Cadeirydd i Swyddfa Archwilio Cymru am eu gwaith caled.

 

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn ac yn nodi cynnwys yr adroddiad.

 

 

8.

ADRODDIAD BLYNYDDOL IECHYD A DIOGELWCH CORFFORAETHOL pdf eicon PDF 193 KB

Derbyn adroddiad gan y Rheolwr Iechyd a Diogelwch Corfforaethol (copi ynghlwm) sy’n hysbysu’r aelodau am raglen waith flynyddol a pherfformiad Iechyd a Diogelwch Corfforaethol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Iechyd a Diogelwch Corfforaethol yr Adroddiad Iechyd a Diogelwch Blynyddol (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) gan ddiweddaru’r aelodau am reolaeth iechyd a diogelwch yn y Cyngor o safbwynt y tîm Iechyd a Diogelwch Corfforaethol.

Aeth y Rheolwr drwy’r adroddiad gan ddweud ei fod yn darparu crynodeb blynyddol o’r materion a nodwyd ac a drafodwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Wrth ystyried yr adroddiad, trafodwyd y mater canlynol yn fanylach -

 

Ystadegau Damweiniau

 

Mae ystadegau’r flwyddyn ddiwethaf yn dangos yr un nifer o ddigwyddiadau RIDDOR adroddadwy â’r flwyddyn flaenorol. Eglurodd y Rheolwr bod hwn yn ystadegyn boddhaol. Nid oes tueddiadau wedi eu canfod mewn perthynas â’r digwyddiadau a roddwyd gwybod amdanynt.

Soniodd y Rheolwr am y gofyniad cyfreithiol i roi gwybod am ddigwyddiadau, ond mae modd rhoi gwybod am fân ddigwyddiadau ar lefel leol, na fyddai’r tîm Iechyd a Diogelwch yn ymchwilio iddynt.

Mae monitro o fewn ysgolion wedi newid gyda rhai pynciau fel dylunio a thechnoleg yn cael eu monitro’n ofalus. Mae hyfforddiant mewnol wedi ei ddarparu i staff ac mae’r Rheolwr yn fodlon ar yr hyfforddiant a ddarperir i staff ysgol.

 

Diolchodd aelodau’r Pwyllgor i’r Rheolwr am yr adroddiad a’r manylion sy’n gwneud yr adroddiad yn un cynhwysfawr. Diolchodd y Cadeirydd i’r tîm Iechyd a Diogelwch am eu gwaith caled.

 

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn, yn nodi’r cynnwys ac yn cymeradwyo cynllun gwaith 2017/18 y tîm Iechyd a Diogelwch.

 

 

9.

DATGANIAD CYFRIFON DRAFFT 2016/17 pdf eicon PDF 194 KB

Ystyried adroddiad gan y Prif Gyfrifydd (copi ynghlwm) ar y Datganiad o Gyfrifon 2016/2017 drafft.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd adroddiad y Prif Gyfrifydd, a oedd yn rhoi trosolwg o’r Datganiad Cyfrifon drafft ar gyfer 2016/17 a'r broses sy'n sail iddo, wedi ei gylchredeg ymlaen llaw.

 

Mae gan y Cyngor ddyletswydd statudol i baratoi Datganiad Cyfrifon sy’n cyrraedd y safonau cyfrifo cymeradwy. Mae’n rhaid i aelodau gymeradwyo'r cyfrifon a archwiliwyd yn ffurfiol ar ran y Cyngor ac mae’r rôl hon wedi ei dirprwyo i’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol. Mae’r cyfrifon drafft wedi eu cwblhau a’u llofnodi gan y Pennaeth Cyllid ar 13 Mehefin. Mae’r cyfrifon drafft ar gael i’w harchwilio yn ôl y gofyn ac mae modd i’r cyhoedd eu harchwilio rhwng 10 Gorffennaf a 7 Awst 2017.

 

Rhoddodd y Prif Gyfrifydd grynodeb manwl o Atodiad 1, Datganiad Cyfrifon 2016/17, a chafwyd trafodaeth ar y canlynol:

 

Ysgolion – Eglurodd y Prif Gyfrifydd fod 2016/17 wedi bod yn flwyddyn anodd iawn i ysgolion. Mae newidiadau i bensiynau wedi achosi rhai problemau. Cafodd ysgolion eu monitro’n ofalus, a darparwyd cymorth i ysgolion gyda chronfeydd negyddol er mwyn cael arian dros ben.

Gofal Cymdeithasol – Mae cronfeydd wrth gefn wedi eu defnyddio yn ystod 2016/17 felly mae cryn dipyn o bwysau ar y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol i ail-lenwi’r cronfeydd.

Treth y Cyngor – Mae Asesiad Treth y Cyngor i ragfynegi incwm yn ystod y flwyddyn nesaf wedi ei sefydlu. Dywedodd y Pennaeth Cyllid bod gennym ni fel sir ganran uchel o Dreth y Cyngor yn cael ei gasglu.

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl roedd ar y Pwyllgor eisiau diolch i’r Pennaeth Cyllid, y Prif Gyfrifydd a’r tîm am y gwaith maent wedi ei wneud o fewn y terfynau amser, a diolchwyd hefyd am yr ymatebion manwl a ddarparwyd i’r cwestiynau a ofynnwyd.

 

Dywedodd y Prif Gyfrifydd fod modd i’r aelodau gysylltu ag o’n uniongyrchol os oedd ganddynt unrhyw gwestiwn neu ymholiad pellach. Dywedodd fod y Datganiad Cyfrifon yn elfen allweddol o fframwaith llywodraethu'r Cyngor a’i bod yn bwysig darparu sicrwydd bod y cyfrifon wedi eu llunio yn unol â'r safonau perthnasol. Bydd y cyfrifon terfynol a archwiliwyd yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ar 27 Medi i'w cymeradwyo.

 

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn yr adroddiad ac yn nodi'r sefyllfa fel y'i cyflwynir yn y cyfrifon drafft a geir yn Atodiad 1 i'r adroddiad.

 

 

10.

ADRODDIAD BLYNYDDOL RHEOLI'R TRYSORLYS pdf eicon PDF 224 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cyllid (copi ynghlwm) ar Adroddiad Blynyddol Rheoli’r Trysorlys.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cylchredwyd adroddiad y Pennaeth Cyllid ymlaen llaw. Rhoddodd y Pennaeth Cyllid a’r Prif Gyfrifydd grynodeb manwl o’r adroddiad ac atodiadau 1 a 2.

 

Mae’r term ‘rheoli trysorlys’ yn cynnwys rheoli benthyciadau, buddsoddiadau a llif arian y Cyngor. Mae oddeutu £0.5 biliwn yn mynd trwy gyfrifon banc y Cyngor pob blwyddyn. Roedd swm benthyca’r Cyngor heb ei dalu ar 31 Mawrth 2016 yn £184.73 miliwn ar gyfradd gyfartalog o 4.94% ac roedd gan y Cyngor fuddsoddiadau o £12 miliwn ar gyfradd gyfartalog o 0.14%.

Eglurodd y Pennaeth Cyllid y risgiau ynghlwm wrth reoli trysorlys a bod y Cyngor yn monitro ac yn rheoli'r risgiau hynny. Roedd yr adolygiad archwiliad mewnol diweddaraf yn gadarnhaol ac ni chodwyd unrhyw fater arwyddocaol.

Darparwyd yr ymatebion canlynol i’r materion a godwyd gan aelodau'r Pwyllgor-

·         Mae cyfanswm y benthyca yn cynnwys dyled dros 10 oed. Caiff y portffolio benthyciadau ei fonitro a lle y bo’n ymarferol telir dyledion a benthycir arian pan fo’n briodol

·         Bydd y gwaith o fonitro’r swyddogaeth rheoli trysorlys yn parhau a bydd adroddiadau yn cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Adran Gyllid am yr adroddiad a’r amser a dreulir yn monitro’r swyddogaeth rheoli trysorlys.

 

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn yr adroddiad ac yn nodi’r canlynol:

      i.        Perfformiad swyddogaeth rheoli trysorlys y Cyngor yn ystod 2016/17 a’i gydymffurfiaeth â’r dangosyddion darbodus, fel yr adroddwyd yn Adroddiad Rheoli Trysorlys Blynyddol 2016/17 (Atodiad 1)

    ii.        Bod y Pwyllgor wedi darllen, deall ac ystyried yr asesiad lles.

 

 

11.

ADRODDIAD BLYNYDDOL UWCH-BERCHENNOG RISG GWYBODAETH pdf eicon PDF 314 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Gwella Busnes a Moderneiddio (copi ynghlwm) sy'n manylu ar achosion o dorri'r Ddeddf Diogelu Data a chwynion yn ymwneud â deddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd yr adroddiad gan y Pennaeth Gwella Busnes a Moderneiddio wedi ei gylchredeg ymlaen llaw. Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Reolwr Tîm Gwybodaeth Busnes ar ran y Pennaeth Gwella Busnes a Moderneiddio a chyflwynodd yr adroddiad i’r Pwyllgor.

Roedd yr adroddiad yn cwmpasu'r cyfnod o fis Ebrill 2016 i fis Mawrth 2017 ac yn rhoi manylion achosion o dorri'r Ddeddf Diogelu Data gan y Cyngor a oedd wedi bod yn destun ymchwiliadau gan yr Uwch Swyddog Risg Gwybodaeth. Mae hefyd yn ymdrin â chwynion am y Cyngor o ran deddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth sydd wedi eu cyfeirio at Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ac yn rhoi gwybodaeth am geisiadau Mynediad i Wybodaeth/ Rhyddid Gwybodaeth a wneir i'r Cyngor.

 

Ni fu unrhyw achos difrifol o dorri’r Ddeddf Diogelu Data yn y Cyngor yn ystod 2016/17. Ceir pum achos o ddigwyddiadau llai difrifol, ac eglurwyd y rheiny gan y Rheolwr Tim Gwybodaeth Busnes. O'r pum achos dim ond un cafodd ei adrodd wrth Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ac ni chymerwyd unrhyw gam gweithredu. O ganlyniad i ymchwiliad Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, argymhellwyd y dylid datblygu polisi ffurfiol mewn perthynas â staff yn mynd â gwybodaeth/data am gleientiaid allan o'r swyddfa. Dywedwyd wrth y Pwyllgor bod camau wedi eu cymryd i greu a gweithredu’r polisi hwn.

 

Mae crynodeb o geisiadau Rhyddid Gwybodaeth a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Mae tabl 1 yn darparu manylion nifer y ceisiadau a gwblhawyd ar gyfer 2014/15 a 2016/17. Mae’r ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol yn canolbwyntio ar feysydd penodol ac maent gan amlaf yn gysylltiedig â busnes neu gan unigolion. Mae’r ceisiadau mwyaf cyffredin yn ystod y 12 mis diwethaf wedi eu nodi yn y tabl yn Atodiad 1. Cadarnhaodd Rheolwr Tîm Gwybodaeth Busnes fod rheoli ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth / Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol yn parhau i gyflwyno cost o ran adnoddau i'r Cyngor.

Mewn ymateb i gwestiynau gan yr aelodau ynglŷn â nifer y ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol, cadarnhaodd Rheolwr Tîm Gwybodaeth Busnes bod unigolion sy’n cyflwyno ceisiadau am wybodaeth sydd ar gael ar y rhyngrwyd yn cael eu cyfeirio at yr wybodaeth berthnasol. Os derbynnir nifer o geisiadau am ddarn penodol o wybodaeth, pan fo’n bosibl bydd yr wybodaeth honno yn cael ei chyhoeddi i’r cyhoedd.

 

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn ac yn nodi cynnwys yr adroddiad.

 

 

12.

ADRODDIAD CYNNYDD ARCHWILIO MEWNOL pdf eicon PDF 187 KB

Derbyn adroddiad gan y Prif Archwilydd Mewnol Dros Dro (copi ynghlwm) yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau am gynnydd o ran Archwilio Mewnol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Archwilydd Mewnol adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn rhoi diweddariad i’r aelodau ar gynnydd Archwilio Mewnol o ran cyflwyno gwasanaeth, darparu sicrwydd, adolygiadau a gwblhawyd, perfformiad ac effeithiolrwydd wrth sbarduno gwelliant.

 

Mae’r adroddiad yn darparu gwybodaeth am waith yr Adain Archwilio Mewnol ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor. Roedd yn galluogi’r Pwyllgor i fonitro perfformiad a chynnydd yr Adain Archwilio Mewnol yn ogystal â darparu crynodebau o’i adroddiadau.

Aeth y Prif Archwilydd Mewnol drwy'r adroddiadau a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf hyd at ddiwedd mis Mehefin 2017 ar -

·         Adroddiadau archwilio mewnol a gyflwynwyd yn ddiweddar

·         Adroddiadau Archwilio Mewnol dilynol

·         Cynnydd gwaith Archwilio Mewnol hyd yma yn 2017/18

·         Crynodeb o brosiectau nesaf yr Adain Archwilio Mewnol

·         Safonau perfformiad Archwilio Mewnol

 

Codwyd y materion canlynol wrth drafod –

·         Pryderon ynghylch nifer y materion heb eu datrys – eglurodd y Prif Archwilydd Mewnol bod y rhain yn cael eu monitro a bod gwaith ar y gweill i’w datrys

·         Derbyniodd a chanmolodd y Pwyllgor y prosiectau nesaf y bydd yr Adain Archwilio Mewnol yn eu cynnal

 

Ychwanegodd y Prif Archwilydd Mewnol fod adroddiad cynnydd yr Adain Archwilio Mewnol yn eitem sefydlog ar raglen y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol, er mwyn monitro a thrafod gwaith ac adroddiadau’r Adain Archwilio Mewnol. Roedd y Prif Archwilydd Mewnol yn hapus iawn â pherfformiad yr Adain Archwilio Mewnol hyd yma.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r cynnwys.

 

 

13.

RHEOLI FFLYD pdf eicon PDF 191 KB

Derbyn adroddiad gan y Prif Archwilydd Mewnol Dros Dro (copi ynghlwm) sy'n rhoi diweddariad i’r aelodau ar gynnydd gweithredu'r cynllun gweithredu a oedd yn cyd-fynd â’r adroddiad Rheoli Fflyd Corfforaethol ym mis Hydref 2015.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Archwilydd Mewnol yr adroddiad (a gylchredwyd ymlaen llaw) sy’n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd wrth weithredu'r cynllun gweithredu sy'n cyd-fynd â’r adroddiad Archwilio Mewnol ar Reoli’r Fflyd Gorfforaethol ym mis Hydref 2015.

 

 Mae’r adroddiad yn darparu gwybodaeth ynglŷn â sut mae’r Cyngor yn gwella trefniadau rheoli fflyd. Mae'r cynllun gweithredu dilynol i’r Archwiliad Mewnol (a geir yn Atodiad 1) yn dangos bod cynnydd da wedi ei wneud wrth weithredu ar y materion a’r risgiau a nodwyd yn yr Archwiliad Mewnol.

O’r 13 mater a godwyd yn ystod yr archwiliad gwreiddiol yn 2015, mae 11 bellach wedi eu datrys yn llwyddiannus, gan gynnwys datblygu Polisi Cludiant newydd a gwelliannau i wiriadau iechyd a diogelwch gyrwyr. Mae gwaith yn parhau o ran y ddau fater sy’n weddill. Mae’r Prif Archwilydd Mewnol yn hyderus y bydd y rhain yn cael eu datrys ac mae’n fodlon ar y cynnydd hyd yma.

 

Mewn ymateb i’r pryderon a godwyd mewn perthynas â rheoli cyflenwadau tanwydd a chardiau tanwydd, eglurodd y Prif Archwilydd Mewnol fod gwaith ar y gweill i fonitro cardiau tanwydd ac mae datganiadau yn cael eu gwneud gan yrwyr i ddefnyddio’r cardiau at ddibenion busnes yn unig. Dywedodd y Prif Archwilydd Mewnol bod y system fflyd bellach yn cynnwys mwy o wybodaeth werthfawr sy’n haws ei chanfod a'i monitro.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r cynnwys.

 

 

14.

ADRODDIAD BLYNYDDOL ARCHWILIO MEWNOL pdf eicon PDF 203 KB

Ystyried adroddiad gan y Prif Archwilydd Mewnol Dros Dro (copi ynghlwm) ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd fframwaith llywodraethu, risg a rheolaeth y Cyngor yn ystod y flwyddyn sy'n llywio'r 'Datganiad Llywodraethu Blynyddol'.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Archwilydd Mewnol yr adroddiad (a gylchredwyd ymlaen llaw) a oedd yn cynnwys manylion Adroddiad Blynyddol Archwilio Mewnol 2016/17. Mae’n cynnwys y farn gyffredinol ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd fframwaith llywodraethu, risg a rheolaeth y Cyngor yn ystod y flwyddyn ac sy’n cyfrannu at y ‘Datganiad Llywodraethu Blynyddol'.

 

Cyfeiriodd y Prif Archwilydd Mewnol at y 27 adroddiad archwilio a gwblhawyd yn ystod y flwyddyn a chadarnhaodd mai dim ond un arolwg archwilio sydd wedi ei roi yn y categori sicrwydd isel. Sicrhaodd fod yr adroddiad ‘Gwasanaethau Parcio’, sydd wedi derbyn sgôr sicrwydd isel, yn cael ei fonitro gan yr Adain Archwilio Mewnol. Gofynnodd y Cynghorydd Mabon ap Gwynfor am gael cylchredeg yr wybodaeth ynglŷn â’r mater pwysig a godwyd yn adroddiad 'Sicrwydd Blaenoriaeth Corfforaethol: Datblygu’r Economi Lleol’ i’r aelodau, yn ogystal â diweddariad ar unrhyw arolwg archwilio a gwblhawyd mewn perthynas â’r adroddiad hwn.

 

PENDERFYNWYD,

(i) derbyn a nodi Adroddiad Blynyddol a ‘barn’ gyffredinol y Prif Archwilydd Mewnol, a

(ii) cylchredeg unrhyw waith dilynol mewn perthynas â’r adroddiad sicrwydd isel i’r aelodau.

 

 

15.

ADRODDIAD DATGANIAD LLYWODRAETHU BLYNYDDOL pdf eicon PDF 189 KB

Ystyried adroddiad gan y Prif Archwilydd Mewnol Dros Dro (copi ynghlwm) sy’n darparu’r adroddiad hunanasesu ar drefniadau llywodraethu a gwella'r Cyngor ar gyfer 2016/2017.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd adroddiad y Prif Archwilydd Mewnol, a oedd yn cynnwys adroddiad hunanasesu ar drefniadau llywodraethu a gwella'r Cyngor ar gyfer 2017/17, ei ddosbarthu ymlaen llaw.

Mae Datganiad Llywodraethu a Gwella Blynyddol 2016/17 yn cynnwys hunanasesiad o drefniadau llywodraethu'r Cyngor ac yn dangos meysydd gwella yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol. Roedd yn tynnu sylw at wendidau mewn cynllun gweithredu, y byddai’r Pwyllgor hwn yn eu monitro i sicrhau y gwneir y gwelliannau angenrheidiol. Dywedodd y Prif Archwilydd Mewnol nad oes unrhyw fater arwyddocaol wedi ei godi eleni, ac y bydd y gwaith monitro a’r diweddariadau yn parhau yn ystod y flwyddyn i ddod.

 

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn ac yn nodi cynnwys yr adroddiad.

 

 

16.

RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y PWYLLGOR LLYWODRAETHU CORFFORAETHOL pdf eicon PDF 284 KB

Ystyried rhaglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor (copi ynghlwm).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) i’w hystyried.

 

Cymeradwywyd Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor yn amodol ar gynnwys yr adroddiad canlynol:-

 

29 Tachwedd 2017:-

Rheoli Gwybodaeth a Rheoli TG mewn Ysgolion (yn lle cyfarfod 27 Medi 2017).

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.40 a.m.