Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Ystafell Bwllgor 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

2.

DATGAN CYSYLLTIADAU

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd yn un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. 

 

 

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad personol na chysylltiad sy'n rhagfarnu.

3.

MATERION BRYS

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 319 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 25 Ionawr 2017 (mae copi wedi ei amgáu).

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 25 Ionawr 2017.

 

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 25 Ionawr 2017 fel cofnod cywir ac fe’u llofnodwyd gan y Cadeirydd.

 

5.

CYNLLUN ARCHWILIO CYNGOR SIR DDINBYCH 2017 pdf eicon PDF 272 KB

Ystyried adroddiad gan y Prif Gyfrifydd (copi wedi’i amgáu) sy'n rhoi gwybod i’r aelodau am y rhaglen waith sydd wedi’i chynllunio ar gyfer rhaglen archwilio perfformiad ac archwiliad ariannol Swyddfa Archwilio Cymru.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd adroddiad gan y Prif Gyfrifydd (SG) eisoes wedi’i ddosbarthu ynghyd â chopi o’r adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) o dan y teitl ‘Cynllun Archwilio 2017 Cyngor Sir Ddinbych'.

 

Cyflwynodd cynrychiolydd o SAC (AV) yr adroddiad. Roedd yr adroddiad yn egluro’r rhaglen waith sydd wedi ei chynllunio ar gyfer rhaglen archwilio perfformiad a rhaglen archwilio ariannol SAC.  Roedd yr adroddiad hefyd yn nodi manylion ffïoedd ar gyfer y gwaith, y tîm archwilio a’r amserlen ar gyfer y gwaith. 

 

Darparwyd crynodeb o gynnwys cynllun archwilio 2017 – Cyngor Sir Ddinbych, a oedd yn cynnwys -

 

·         Archwiliad o Gyfrifon

·         Ardystiad o grantiau, hawliadau a ffurflenni.

·         Gwaith arall a wnaethpwyd

·         Archwiliad perfformiad

·         Ffi, tîm archwilio ac amserlen.

·         Datblygiadau i’r gwaith archwilio yn y dyfodol.

 

Darparodd cynrychiolydd o Swyddfa Archwilio Cymru (AV) drosolwg i’r Pwyllgor o gynnwys yr adroddiad. Yn ystod trafodaethau codwyd y materion canlynol -

 

·          mae’r datganiadau ariannol a archwiliwyd gan SAC yn archwilio sampl o ddata a gasglwyd i archwilio unrhyw wallau posibl a ganfuwyd.

·         trafodwyd y ffi am waith ar gyfer cydbwyllgor o ran pwy sy’n gyfrifol am y tâl. Nodwyd fod y tâl yn cael ei godi ar yr awdurdod lletyol a bod y ffi wedyn yn cael ei ddosrannu rhwng awdurdodau sy’n aelodau o’r cydbwyllgor.

·         Cyfnewidfa Arfer Da (GPX) SAC a oedd yn trefnu digwyddiadau seminar ar gyfer cyrff cyhoeddus i rannu profiad ymarferol ac arfer da. Rhoddir gwybodaeth am y digwyddiadau hyn ar wefan GPX.

·         Roedd yr adroddiad blynyddol drafft wedi’i gwblhau a byddai’n cael ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn.

 

PENDERFYNWYD - bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn yr adroddiad. 

    

 

6.

SWYDDFA ARCHWILIO CYMRU: ADRODDIAD LLEOL CYNLLUNIO ARBEDION AR GYFER SIR DDINBYCH pdf eicon PDF 388 KB

Derbyn Cynlluniau Arbedion Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer Sir Ddinbych (copi wedi’i amgáu).

 

Cofnodion:

Paratôdd Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) adroddiad (a oedd eisoes wedi’i ddosbarthu) o dan y teitl ‘Cynllunio Arbedion - Cyngor Sir Ddinbych’ yn diweddaru aelodau am gyflawniadau arbed 2015-2016, trefniadau cynllunio ariannol a Chynllun Arbedion 2016-2017.

 

Esboniodd cynrychiolydd SAC (GB) gefndir a chynnwys yr adroddiad.  Roedd teitl yr adroddiad wedi newid o ‘Cydnerthedd Ariannol Cynghorau yng Nghymru’ i ‘Cynllunio Arbedion - Cyngor Sir Ddinbych’. Esboniodd GB fod yr adroddiad yn edrych ar arbedion yn bennaf a’i fod yn ffurfio  rhan o adroddiad mwy ar gydnerthedd ariannol. Hysbyswyd y Pwyllgor fod yr adroddiad yn darparu asesiad positif o drefniadau ariannol y Cyngor.

 

Esboniwyd wrth y Pwyllgor fod manylion am y cynigion gwella i’w gweld yn yr adroddiad. Roedd dau welliant wedi’u nodi -

 

·         datblygu polisi cynhyrchu incwm / codi tâl

·         rhoi sgôr risg ffurfiol i arbedion yn ôl pa mor gyraeddadwy ydynt a nodi camau lliniaru cynaliadwy i'r rheiny a ystyrir yn rhai risg uchel.

 

Cydnabuwyd fod arbed arian yn mynd yn fwyfwy anodd a bod Cynghorau yn wynebu penderfyniadau anodd.

 

Codwyd y materion canlynol wrth drafod –

 

·         tynnwyd sylw at bwysigrwydd egwyddorion clir mewn cysylltiad â newid taliadau.

·          Hysbyswyd y Pwyllgor fod dull cyson o wneud penderfyniadau wedi’i fabwysiadu.  Byddai’n rhaid i doriadau ariannol trwy grantiau Ewropeaidd gael eu hystyried a’u hadolygu yn unol â rheoliadau cyllideb pe bai'r sefyllfa'n codi.

·         mae pwyslais ar arbedion ariannol wedi lleihau effeithiau toriadau ar y cyhoedd. Hysbyswyd y pwyllgor y byddai hyn yn dod yn fwyfwy anodd yn y dyfodol.

·         roedd y pecyn asesu effaith newydd ar y we yn mynd i’r afael â dyletswyddau’r cyngor o dan y Ddeddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

 

Diolchodd y Cadeirydd, y Cynghorydd Jason McLellan, i gynrychiolwyr Swyddfa Archwilio Cymru am yr adroddiadau ac am fynychu’r cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD fod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn yr adroddiad ac yn nodi’r cynigion gwella a wnaethpwyd gan SAC.

 

7.

DIWEDDARIAD ARCHWILIO MEWNOL pdf eicon PDF 263 KB

Ystyried adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Archwilio Mewnol (copi wedi’i amgáu) yn rhoi gwybod i aelodau am gynnydd o ran Archwilio Mewnol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Archwilio Mewnol adroddiad (a oedd eisoes wedi’i ddosbarthu) yn rhoi diweddariad i’r aelodau ar y cynnydd Archwilio Mewnol o ran cyflwyno gwasanaeth, darpariaeth sicrwydd, adolygiadau a gwblhawyd, perfformiad ac effeithiolrwydd wrth yrru gwelliant.

 

Darparodd yr adroddiad wybodaeth am y gwaith a gynhaliwyd gan y Gwasanaeth Archwilio Mewnol ers y cyfarfod Pwyllgor diwethaf. Galluogodd i’r Pwyllgor fonitro perfformiad a chynnydd y Gwasanaeth Archwilio Mewnol yn ogystal â darparu crynodebau o’i adroddiadau er mwyn i’r Pwyllgor dderbyn sicrwydd ar wasanaethau eraill y Cyngor a meysydd corfforaethol.

 

Tywysodd y Pennaeth Archwilio Mewnol aelodau drwy'r adroddiadau a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf hyd at ddiwedd mis Chwefror 2017 ar -

 

·         Adroddiadau archwilio mewnol a ddosbarthwyd yn ddiweddar

·         Dilyn adroddiadau Archwilio Mewnol blaenorol

·         Cynnydd o ran cyflawni’r Cynllun Gweithredol Archwilio Mewnol 2016/17

·         Safonau perfformiad Archwilio Mewnol

 

Codwyd y materion canlynol wrth drafod –

 

·         cytunwyd y byddai fformat yr adroddiadau yn hawdd i’w darllen a hawdd i’w dilyn a’u deall.

·          Mae’r adroddiad yn cwmpasu pob gwasanaeth a dderbyniodd archwiliad ond nid yw’n cyfeirio at wasanaethau a oedd heb eu harchwilio.  Esboniodd y Pennaeth Archwilio Mewnol y gwaith caled yr oedd yr adran Archwilio wedi’ wneud a’r adroddiadau amrywiol a oedd wedi’u creu o ganlyniad.  O ran talu dyledion rhenti Tai, hysbysodd y Pennaeth y Pwyllgor bod raid i unigolion a oedd yn aros yn y Sir neu a oedd yn dychwelyd i'r Sir gydag ôl-ddyledion rhent, dalu'r rhain i'r awdurdod cyn dechrau cytundeb tenantiaeth newydd. Mae arferion mewn lle i weithredu’r polisi hwn.

 

Ychwanegodd y Pennaeth Archwilio Mewnol ei fod yn hapus iawn â pherfformiad y Gwasanaeth Archwilio Mewnol a bod mwyafrif y targedau wedi’u rhagori. Roedd am gydnabod gwaith caled parhaus yr Adran Archwilio Mewnol a oedd yn cwblhau gwaith o fewn terfynau amser.

 

Diolchodd y Cadeirydd, y Cynghorydd Jason McLellan, i’r Pennaeth Archwilio Mewnol a’r tîm Archwilio am yr holl waith caled yr oeddent wedi’i wneud. 

 

PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chofnodi’r adroddiad.

 

 

 

8.

STRATEGAETH ARCHWILIO MEWNOL 2017-18 pdf eicon PDF 261 KB

Ystyried adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaeth Archwilio Mewnol (copi wedi ei amgáu) sy’n rhoi gwybod i aelodau am Strategaeth Archwilio Mewnol 2017-18.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Archwilio Mewnol adroddiad (a oedd eisoes wedi’i ddosbarthu) i roi’r Strategaeth Archwilio Mewnol ar gyfer 2017-2018 i’r Pwyllgor.

 

Esboniodd y Pennaeth Archwilio Mewnol wrth y Pwyllgor fod y tîm archwilio mewnol yn wynebu newidiadau a chyflwynwyd strwythur newydd y tîm i'r Pwyllgor yn yr adroddiad. Cyflwynodd y Pennaeth Archwilio Mewnol Lisa Lovegrove fel Pennaeth Archwilio Mewnol newydd o fis Mehefin ymlaen a chadarnhaodd y byddai’r Tîm Archwilio yn cynnwys 6 aelod o hynny ymlaen.

 

 Dywedwyd wrth y Pwyllgor y byddai adran archwilio mewnol Sir Ddinbych yn cael archwiliad allanol gan Wynedd erbyn mis Mawrth 2018. Cyn yr archwiliad allanol byddai hunanasesiad yn cael ei gynnal a byddai’r canfyddiadau a’r argymhellion yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol i'w hystyried.

 

Tywysodd y Pennaeth Archwilio Mewnol aelodau drwy’r adroddiad gan ddarparu gwybodaeth fanylach am -

 

·         creu map Sicrwydd Corfforaethol a oedd yn cynnwys holl weithgareddau’r cyngor.

·          roedd y traddodiad o amcangyfrif sawl diwrnod a dreulir ar bob prosiect wedi’i ddiwygio. Byddai’r arfer o gyfathrebu rhwng archwilio mewnol a’r timau gwasanaeth yn cael ei fabwysiadu er mwyn pennu amserlen gytûn ar gyfer gwaith prosiect.

·         roedd gan y cynllun mewnol elfen o hyblygrwydd uwch a oedd yn caniatáu i waith gael ei gwblhau a'i flaenoriaethu yn unol â hynny.

 

Bu aelodau’r Pwyllgor yn dadlau ynghylch lefelau staffio ar y tîm archwilio mewnol. Cafwyd trafodaethau ynglŷn ag effeithlonrwydd a gallu’r gwasanaeth i gwblhau ei lwyth gwaith gyda nifer gyfyngedig o aelodau o'r Tîm Archwilio. Teimlai Aelodau y byddai gostwng niferoedd staff ymhellach yn ei gwneud yn anoddach i gwblhau gwaith ar amser. Cadarnhaodd y Pennaeth Archwilio Mewnol y byddai’r tîm, ar ôl gwneud yr holl newidiadau, yn cynnwys 6 aelod a oedd yn ddigonol ar gyfer y gwaith y mae’r Gwasanaeth Archwilio Mewnol yn gyfrifol amdano. Esboniwyd fod pob agwedd wedi’i ystyried wrth bennu niferoedd staff ac y byddai lefelau staffio yn dal i gael eu monitro er mwyn sicrhau fod safonau gwaith uchel yn cael eu cynnal. Sicrhaodd y Pennaeth Archwilio Mewnol y Pwyllgor fod 6 aelod o staff yn debyg i niferoedd Awdurdodau Lleol eraill.

Diolchodd y Cadeirydd, Jason McLellan, i’r Pennaeth Archwilio Mewnol am ei waith caled a’i ymroddiad i’r Pwyllgor ac achubodd ar y cyfle i groesawu Lisa Lovegrove i'w swydd fel Pennaeth Archwilio Mewnol.

 

PENDERFYNWYD - bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn ac yn nodi cynnwys yr adroddiad.

   

 

 

Ar y gyffordd hon, dymunai’r Cadeirydd ddiolch i Ivan, Pennaeth Archwilio Mewnol, am ei waith caled a’i gyfraniad gwerthfawr i’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a dymunodd yn dda iddo yn ei ymddeoliad.

 

Dangosodd yr Aelodau eu gwerthfawrogiad am ei holl waith caled, yr amser a’r egni a dreuliodd yn cynhyrchu adroddiadau hawdd i’w deall a’u darllen a dangoswyd gwerthfawrogiad am y rhinweddau arwain gwych yr oedd Ivan wedi’u dangos i’r Pwyllgor. Dymunwyd yn dda iddo i’r dyfodol ac am ymddeoliad dedwydd.

 

9.

RHAGLEN WAITH Y PWYLLGOR LLYWODRAETHU CORFFORAETHOL pdf eicon PDF 210 KB

Ystyried rhaglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor (copi wedi’i amgáu).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol i'w ystyried a chytunodd yr aelodau ar yr ychwanegiadau canlynol:-

 

·         21 Mehefin 2017 – Adroddiad Blynyddol Llywodraethu Corfforaethol

·         19 Gorffennaf 2017 - Datganiad Drafft o Gyfrifon

·         27 Medi - Cymeradwyo Datganiad Cyfrifon

·         27 Medi – Siarter Archwilio Mewnol

·         29 Tachwedd – RIPA Blynyddol (Rheoleiddiad Deddf Pwerau Ymchwilio 2000)

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar yr uchod bod rhaglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn cael ei gymeradwyo.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.10 a.m.