Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1A, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Y Cynghorwyr S.A.
Davies a H.C. Irving. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 135 KB Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes a
nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.
Cofnodion: Eitem 6 ar yr Agenda:
Adolygiad o’r Gofrestr Risg Corfforaethol – Datganwyd cysylltiad personol gan y
Cynghorydd M.L. Holland. Y rheswm am y datganiad oedd
mai ef oedd Cyfarwyddwr Asiantaeth Menter Sir Ddinbych. |
|
MATERION BRYS Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Yn unol â gofynion Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, nododd y
Cadeirydd ei fwriad i gynnwys y mater canlynol i’w drafod oherwydd bod angen
rhoi sylw brys iddo o dan ddarpariaethau Rhan II:- (i)
Adroddiadau Gwybodaeth: - (a)
Cynnydd ar Gynllun Sicrwydd Archwilio
Mewnol Blynyddol 2014/15 - Mewn ymateb i gwestiwn gan Mr P. Whitham ynghylch yr
hunanasesiad a gynhaliwyd gan Archwilio Mewnol, cytunodd y Pennaeth Archwilio
Mewnol (PAM) y gellid cyflwyno’r Cynllun Gweithredu sy’n codi o'r asesiad o ran
gwella'r gwasanaeth i'r cyfarfod Pwyllgor ym mis Ionawr, 2015. (IB i Weithredu) (b) Adrodd ar y
Gwasanaeth Gorfodi Cyfraith Bwyd Anifeiliaid - Mewn ymateb i bryderon a godwyd
gan Mr P. Whitham ynghylch yr amserlen ar gyfer dosbarthu’r ddogfen, a'r angen
posibl i godi proffil yr adroddiad, eglurodd yr AEI bod cyflwyniad yr adroddiad
yn rhan o broses i fynd i'r afael ag unrhyw Adroddiadau Rheoleiddio Allanol
nodedig. (ii)
Gwahoddiad
i Gwrs Llywodraethu Da Hysbysodd
HLHDS y Pwyllgor y byddai'n dosbarthu gwahoddiad, a gafwyd gan Swyddfa
Archwilio Cymru, am enwebiadau ar gyfer pum cynrychiolydd i fynychu Cwrs
Llywodraethu Da, a gynhelir yn Llanrwst ar 11 Rhagfyr 2014. (GW i Weithredu) |
|
(a)
Derbyn
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 3 Medi
2014. (b)
Derbyn
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 29
Medi 2014. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: (a)
Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor
Llywodraethu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 3 Medi 2014. Materion yn codi:- 6. Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor
Llywodraethu Corfforaethol - Hysbyswyd yr Aelodau y byddai Adroddiad Blynyddol
y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn cael ei gynnwys ar Raglen Gwaith i’r
Dyfodol y Cyngor ar gyfer y cyfarfod ar 3 Chwefror, 2015. (JM (Cadeirydd) a GW i Weithredu) 5. Diweddariad Ysgol Uwchradd Gatholig y
Bendigaid Edward Jones - Mewn ateb i gwestiwn gan y Cadeirydd ynghylch y cais i
gyflwyno’r adroddiad Archwilio Mewnol ar reolaeth ariannol ysgolion i'r
Pwyllgor, cadarnhaodd y PAM y gellid cyflwyno’r adroddiad i gyfarfod y Pwyllgor
ym mis Rhagfyr, 2014. (IB i Weithredu) PENDERFYNWYD – y dylid derbyn a
chymeradwyo’r Cofnodion fel cofnod cywir. (b)
Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor
Llywodraethu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 29 Medi 2014. Materion yn codi:- 6. Cynllun Gwella Llywodraethu - Eglurodd y
PAM y byddai'r diweddariad ar y cynnydd o ran y Strategaeth Caffael yn cael ei
ymgorffori yn yr Adroddiad Diweddaru Adeiladu a Gwasanaethau sydd i'w gyflwyno
i gyfarfod y Pwyllgor ym mis Rhagfyr, 2014. (IB i Weithredu) PENDERFYNWYD – y dylid derbyn a
chymeradwyo’r Cofnodion fel cofnod cywir. |
|
PROSES Y GYLLIDEB 2015/16 PDF 271 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Asedau, sy'n rhoi diweddariad ar y broses i
gyflawni'r gyllideb refeniw ar gyfer 2015/16. (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd adroddiad, ac atodiad cyfrinachol, gan y
Pennaeth Cyllid ac Asedau (PCA), a oedd yn rhoi diweddariad ar y broses i
gyflawni'r gyllideb refeniw ar gyfer 2015/16, wedi ei ddosbarthu eisoes. Cyflwynodd y PCA yr adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad ar y broses i
gyflwyno'r gyllideb refeniw ar gyfer 2015/16, a oedd wedi symud i'w ail gam ers
y diweddariad diwethaf. Roedd Atodiad 1 yn dangos y darlun o broses y
gyllideb, ac roedd tabl o ddigwyddiadau allweddol yn y broses wedi’i gynnwys yn
yr adroddiad Daeth y rownd gyntaf o weithdai cyllideb i gasgliad ar 22 Medi. Roedd llawer yn
bresennol yn y gweithdai, gydag ystod eang o drafodaeth a nifer o gwestiynau yn
cael eu gofyn. Gofynnwyd i Aelodau fynegi barn ynghylch a ddylai cynigion
arbed gael eu 'mabwysiadu', ‘datblygu', neu
eu 'gohirio'. Yn ogystal, aethpwyd ag Aelodau drwy gyllideb pob
gwasanaeth a'u gwahodd i wneud sylwadau ar bob un. Cafodd cynigion
y dynododd yr aelodau y buasent yn fodlon eu mabwysiadu eu cyflwyno i’r Cyngor
Sir i'w cymeradwyo ar 9 Medi. Daeth y cynigion a gymerwyd i’r Cyngor fel arbedion
Cam 1 i gyfanswm o £3.7m ar gyfer 15/16 ac £870k ar gyfer 16/17. Roedd strategaeth cyllideb y Cyngor wedi nodi bwlch yn y gyllideb o hyd at
£18m dros ddwy flynedd. Cafodd hyn ei lywio’n bennaf gan arwyddion y byddai
setliad cyllido’r Cyngor yn cael ei dorri o 4.5%. Cafodd y Setliad
Llywodraeth Leol Drafft ei gyhoeddi ar 8 Hydref, ac roedd y setliad wedi nodi y
byddai'r gostyngiad arian parod i'r gyllideb yn 3.7% a oedd yn cyfateb i £5.3m. Gyda’r pwysau o
ran costau, roedd yn rhaid i’r Cyngor ariannu'r bwlch yn y gyllideb ar gyfer
2015/16 a oedd bellach tua £8.2m ac amcangyfrifir y bydd tua £8.8m yn 2016/17.
Amlygodd y CA bwysau posibl a allai godi o ganlyniad i addasiadau, i mewn ac
allan, sy’n gysylltiedig â chyllid grant penodol. Cyfeiriwyd yn benodol at yr
effaith o amgylch y Gronfa Gydweithredu Rhanbarthol ar gyfer y rhaglen Gofal
Cymdeithasol. Ar gais y Cadeirydd, cytunodd y CA i ddarparu
manylion am y goblygiadau ar y gyllideb mewn perthynas â phwysau’r cyllid
grant. Roedd ail gam proses y gyllideb bron wedi'i
gwblhau. Roedd aelodau wedi nodi cynigion a oedd yn gyfanswm
o £3.2m ar gyfer 2015/16 ac £1.8 miliwn ar gyfer 2016/17 a fyddai'n ceisio
cymeradwyaeth ym mis Rhagfyr. Os byddai'r holl gynigion a gymerwyd i'r gweithdy
terfynol ym mis Hydref yn cael eu hargymell i'w cymeradwyo, yna byddai'r
cyfansymiau yn £4.0m ar gyfer 2015/16 a £2.1m ar gyfer 2016/17 o Gam 2. Byddai cynigion Cam 2 yn cael eu cyflwyno i'r
Cabinet ac yna i'r Cyngor i'w cymeradwyo ym mis Rhagfyr. Byddai Cam 3 yn
ystyried cynigion terfynol i gydbwyso cyllideb 2015/16, gan gynnwys opsiynau ar
gyfer Treth y Cyngor ac unrhyw ddefnydd o gronfeydd wrth gefn. Byddai'r
materion hyn yn cael eu trafod yng Ngweithdy’r Aelodau ym mis Rhagfyr cyn cael
cymeradwyaeth derfynol ym mis Chwefror. Byddai Cam 3 o’r broses
hefyd yn parhau i ddatblygu opsiynau arbedion ar gyfer 2016/17. Roedd manylion
y broses ymgynghori a fabwysiadwyd yng nghyswllt y toriadau yn y gyllideb wedi
cael eu crynhoi yn yr adroddiad. Cyfeiriodd y Cadeirydd at gylch gwaith y Pwyllgor i archwilio'r broses gosod cyllideb y teimlai ei fod wedi bod yn agored ac yn dryloyw. Fodd bynnag, roedd wedi bod yn ymwybodol o faterion a godwyd mewn perthynas â'r Adolygiad o Wasanaethau Cynghori ar Les. Tynnodd sylw at y goblygiadau ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau a'r gymuned ehangach, y risgiau a nodwyd yng ngweithdy cyllideb mis Gorffennaf ynghylch diswyddiadau, a'r Flaenoriaeth Gorfforaethol ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
ADOLYGIAD COFRESTR RISG CORFFORAETHOL PDF 104 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Busnes, Gwella a Moderneiddio (copi wedi’i amgáu) oedd
yn ceisio ystyriaeth am fersiwn ffurfiol ddiweddaraf y Gofrestr Risg
Corfforaethol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Adroddiad gan y Pennaeth Busnes, Cynllunio a Pherfformio (HBPP), a ofynnodd
i ystyried y fersiwn wedi’i ddiweddaru’n ffurfiol o'r Gofrestr Risgiau
Corfforaethol (CRR) y cytunwyd arno ym Mriff y Cabinet, a ddosbarthwyd ynghynt. Gyda chymorth cyflwyniad PowerPoint, oedd yn rhoi manylion am y system
VERTO sydd ar gael i'r holl Aelodau ar Fewnrwyd y Cyngor, darparodd y Swyddog
Gwella Corfforaethol (CIO) grynodeb manwl o'r adroddiad. Galluogodd y CRR i’r cyngor reoli’r tebygolrwydd ac effaith y risgiau roedd
yn eu hwynebu drwy werthuso effaith unrhyw weithredoedd cyfredol i liniaru
risg, a chofnodi dyddiadau cau a chyfrifoldebau ar gyfer gweithredoedd pellach
a ddylai sicrhau rheolaeth well. Cafodd ei ddatblygu gan CET ac yn eiddo iddynt, ac
roedd y broses adolygu wedi cael ei nodi yn yr adroddiad. Cafodd y Gofrestr ei gwirio’n ffurfiol gan y Cabinet a gan CET ddwywaith y
flwyddyn. Byddai unrhyw risgiau newydd neu gynyddol sylweddol
a nodwyd yn cael eu cyflwyno i'r Tîm Rheoli Corfforaethol, drwy’r Tîm Gwella
Corfforaethol. Yna, byddai CET yn penderfynu a ddylid cynnwys y
risg yn y CRC. Yn dilyn pob adolygiad ffurfiol o’r Gofrestr, byddai’r ddogfen ddiwygiedig
yn cael ei chyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol. Byddai’r
gweithredoedd a nodir er mwyn delio â risgiau corfforaethol yn cael eu cynnwys
mewn Cynlluniau Gwasanaethau, lle y bo’n briodol, a fyddai’n galluogi i’r
Pwyllgor Archwilio Perfformiad fonitro cynnydd. Dylid amlygu unrhyw
faterion perfformiad mewn perthynas â darparu’r digwyddiadau fel rhan o broses
Herio Perfformiad Gwasanaethau. Roedd Archwiliad Mewnol y Cyngor (IA) yn darparu sicrwydd annibynnol ar
effeithiolrwydd dulliau rheoli mewnol a’r dulliau sydd wedi’u gosod er mwyn
lliniaru risgiau yn y cyngor. Roedd hefyd yn cynnig her annibynnol i sicrhau bod
egwyddorion a gofynion rheoli risg yn cael eu defnyddio’n gyson ym mhob rhan
o’r Cyngor. Roedd Gwasanaethau Archwilio
Mewnol hefyd yn defnyddio gwybodaeth o’r gwasanaethau a’r Gofrestr Risg
Corfforaethol er mwyn penderfynu ar eu rhaglen gwaith i’r dyfodol. Cyfeiriodd y CIO at Atodiad 1 yr adroddiad a oedd yn cynnwys y prif
newidiadau a wnaed i'r Gofrestr Risg Gorfforaethol, ynghyd ag unrhyw bwyntiau o
bwys. Darparwyd crynodeb o'r Camau Gweithredu canlynol
gan y CIO: - -
Diwygiad i DCC007: 'Y risg bod gwybodaeth hanfodol neu
gyfrinachol yn cael ei cholli neu ei datgelu'. -
Risg newydd, DCC027: 'Ni chaiff y risg bod y penderfyniadau
sy'n angenrheidiol i alluogi darpariaeth o gyllideb gytbwys ei gymryd neu ei
weithredu yn ddigon cyflym'. -
Risg newydd, DCC029: 'Risg o her lwyddiannus
ein bod yn amddifadu pobl o'u rhyddid yn anghyfreithlon'. Ymatebodd y CIO i gwestiynau gan Aelodau, ac amlygwyd y materion canlynol:
- -
DCC013: ‘Y risg o rwymedigaethau ariannol ac enw da
sylweddol yn deillio o reoli sefydliadau o Hyd Braich'. Cwestiynodd y
Cynghorydd G.M. Kensler ddyddiad
cyflwyno disgwyliedig o fis Mawrth 2015 ar gyfer y toriadau arfaethedig i’r
gyllideb. Cadarnhaodd y CIO fod y risg a nodwyd yn ymwneud â
rheolaeth y sefydliad. -
DCC018: 'Y risg na fydd buddiannau rhaglen a phrosiect yn
cael eu gwireddu'n llawn'. Cadarnhaodd y COI fod y cam gweithredu wedi sicrhau
bod y prosiectau a weithredir yn gwireddu’r manteision y cytunwyd gan yr Achos
Busnes yn wreiddiol. - DCC021: 'Y risg
nad yw partneriaethau a rhyngwynebau effeithiol rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol
Betsi Cadwaladr a Chyngor Sir Ddinbych (CSDd) yn datblygu, gan arwain at
camleoliad sylweddol rhwng cyfeiriad strategol a gweithredol Bwrdd Iechyd
Prifysgol Betsi Cadwaladr a Chyngor Sir Ddinbych'. Cadarnhaodd y
CIO y byddai'r risg yn cael ei adolygu ym mis Mawrth neu fis Ebrill, 2015. - DCC028: 'Y risg bod y gwasanaethau rydym yn eu graddio yn ôl yn cael mwy o effaith negyddol na'r disgwyl'. Eglurwyd y byddai'r ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
TALIAD ARIANNOL I RAI SY’N GADAEL GOFAL - DIWEDDARIAD PDF 76 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Archwilio Mewnol, (copi ynghlwm) sy’n rhoi'r wybodaeth
ddiweddaraf am gynnydd y cynllun gweithredu sydd wedi’i gynnwys yn adroddiad Archwilio Mewnol am Daliadau Ariannol i Rai sy’n Gadael
Gofal a ddosbarthwyd ym mis Mawrth 2014. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Adroddiad gan y Pennaeth Archwilio Mewnol (HIA) (mae copi yn amgaeedig)
sy’n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd gyda'r cynllun gweithredu a
gynhwyswyd yn yr adroddiad Archwilio Mewnol ar Daliadau Ariannol i’r Rheini
sy’n Gadael Gofal a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2014. Roedd adroddiad wedi’i gyhoeddi gan Archwilio
Mewnol ar Daliadau Ariannol i’r Rheini sy’n Gadael Gofal ym mis Mawrth 2014, a
oedd wedi cynnwys Cynllun Gweithredu gyda phedwar Mater Cymedrol ac 14 o gamau
gweithredu i fynd i'r afael â nhw. Ar 15 Ebrill 2014,
mynegodd y Pwyllgor rai pryderon o ran bod y broses dalu bresennol yn
anghynaladwy ac felly bu i’r Pwyllgor ofyn i Archwilio Mewnol gynnal adolygiad
dilynol ac adrodd yn ôl iddynt. Rhoddodd Atodiad 1 ddiweddariad ar gynnydd y
cynllun gweithredu a ddangosodd mai dim ond pump o’r camau gweithredu oedd wedi
eu cwblhau, gyda thri arall ar y gweill. Nid roddwyd sylw i
chwech o’r camau gweithredu, gan gynnwys y prif fater a godwyd (Mater 1), a
oedd yn gofyn am adolygiad llawn o'r broses ar gyfer gwneud taliadau i bobl
sy'n gadael gofal. Yn dilyn trafodaethau cychwynnol, ni fu unrhyw
gyswllt rhwng y Gwasanaethau Cymdeithasol a Refeniw a Budd-daliadau er mwyn
trafod dull corfforaethol. Roedd y diffyg cynnydd o ran y mater allweddol hwn
hefyd wedi cael effaith ar faterion eraill o fewn y cynllun gweithredu. Bydd Archwilio
Mewnol yn cynnal adolygiad pellach ym mis Ionawr 2015. Cytunodd y Cadeirydd â'r farn a fynegwyd gan y pennawd gweithredu, nad oedd
cyfarfod wedi ei gynnal rhwng y Pennaeth Refeniw a Budd-daliadau a'r Rheolwr Gwasanaeth
- Plant sy'n Derbyn Gofal, wedi cael effaith andwyol ar rai o'r camau
gweithredu eraill a nodwyd. Mynegwyd pryderon ynghylch y diffyg
cynnydd o ran gweithredu'r camau y cytunwyd arnynt, a methiant i gwrdd â
therfynau amser, gan y Pwyllgor, a chyfeiriwyd yn benodol at Rif Gweithredu 1
heb ei gwblhau. Awgrymodd y dylai mwy o fanylion cefndir a
chyd-destun gael eu darparu gan y Gwasanaethau Cymdeithasol ar yr effaith roedd
y diffyg camau gweithredu yn ei gael ar y defnyddwyr gwasanaeth. Cadarnhaodd yr
HIA fod y broses bresennol a ddefnyddiwyd wedi cael ei nodi fel hen-ffasiwn ac
angen ei adolygu. Cefnogodd y Pwyllgor awgrym y Cynghorydd J. Butterfield y dylid gwahodd y
Pennaeth Refeniw a Budd-daliadau a'r Rheolwr Gwasanaeth - Plant sy'n Derbyn Gofal
i fynychu'r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ym mis Rhagfyr 2014 i egluro'r
diffyg cynnydd a rhoi sicrwydd bod y cynllun gweithredu bellach ar waith. Gofynnodd yr
Aelodau bod adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor gan ddarparu mwy
o fanylion a chyd-destun ar yr effaith roedd y diffyg gweithredu yn ei gael ar
ddefnyddwyr gwasanaethau. PENDERFYNWYD - bod y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol: - (a)
yn derbyn yr adroddiad. (b)
yn cytuno i wahodd y
Pennaeth Refeniw a Budd-daliadau a'r Rheolwr Gwasanaeth - Plant sy'n Derbyn
Gofal i fynychu cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ar 17 Rhagfyr,
2014, ac (c)
yn gofyn bod adroddiad
pellach yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor er mwyn darparu mwy o fanylion a
chyd-destun ar yr effaith roedd y diffyg gweithredu yn ei gael ar ddefnyddwyr
gwasanaethau. (IB i Weithredu) |
|
POLISI TWYLL A LLYGREDD PDF 83 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd, ar y Polisi
Twyll a Llygredd (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Mae adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau
Cyfreithiol, AD a Democrataidd (HLHDS) wedi’i ddosbarthu’n flaenorol. Cyflwynodd yr HLHDS yr adroddiad ac eglurodd fod y
Cyngor yn cyflogi dros 4,000 o staff ac yn gwario tua £250 miliwn y flwyddyn. Comisiynodd a
darparodd amrywiaeth eang o wasanaethau i unigolion a chartrefi ac mae wedi
gweithio gydag ystod eang o sefydliadau yn y sectorau preifat, cyhoeddus a
gwirfoddol. Tynnodd sylw at y risg barhaus o golled o ganlyniad
i dwyll a llygredd o ffynonellau mewnol ac allanol, a'r risg o lwgrwobrwyo wrth
i’r Cyngor ddarparu a chaffael nwyddau, gwaith a gwasanaethau. Cafodd systemau
cymesur eu cyflwyno i leihau'r risgiau a chafodd y rhain eu hadolygu'n gyson. Cafodd y
systemau a’r gweithdrefnau eu nodi yn y canllawiau ym mharagraff 5.12. Cafodd Polisi diwygiedig drafft, Atodiad 1, a oedd
yn ddogfen hir sengl, ei rannu’n ddwy ddogfen. Roedd Atodiad 1 yn
ddatganiad o Bolisi yn cynnwys y prif egwyddorion y byddai'r Cyngor yn mynd i’r
afael â thwyll, llwgrwobrwyo a llygredigaeth. Roedd Atodiad 2 yn
ddogfen gyfarwyddyd yn egluro cefndir a'r polisïau a'r gweithdrefnau sydd ar
waith i gefnogi'r Polisi. Darparodd yr HLHDS grynodeb manwl o gynnwys yr Atodiadau. Pwysleisiodd bwysigrwydd bod unrhyw bolisi sy'n
honni i wrthsefyll y bygythiad o dwyll a llygredd yn cael ei gadw'n gyfoes a'i
adolygu yng ngoleuni datblygiadau deddfwriaethol, technolegol a phroffesiynol
newydd. Byddai'r polisi yn cael ei adolygu bob tair blynedd
hyd nes ceid unrhyw newidiadau penodol mewn deddfwriaeth. Eglurwyd y
byddai'r Adran Gwaith a Phensiynau yn cynnal gwasanaeth unigol ymchwilio i
dwyll o fis Ebrill, 2015 ac y byddai'r Polisi yn cael ei ddiwygio yn unol â
hynny. Cafodd teitl y polisi ei ddiwygio i gynnwys
cyfeiriad at lwgrwobrwyo, er mwyn ystyried newidiadau i ddeddfwriaeth a ddaeth
yn sgil Deddf Llwgrwobrwyo 2010. Ystyriwyd canllawiau arfer gorau gan y
canllawiau hefyd, megis y CIPFA - "Llyfr Coch 2 - Rheoli'r Risg o
Dwyll". Darparodd y Datganiad Polisi a’r gweithdrefnau
ategol neges glir na fyddai'r Cyngor yn goddef unrhyw amhriodoldeb gan
weithwyr, Aelodau Etholedig na sefydliadau trydydd parti. Cadarnhaodd yr
HLHDS ei bod yn bwysig cynnal gwyliadwriaeth a bod yr holl weithwyr, Aelodau
Etholedig a phartneriaid yn ymwybodol o'r broses ar gyfer adrodd am bryderon
neu amheuon. Mae Atodiad 2 yn rhoi cyngor clir ar y broses
adrodd. Cafwyd datganiad clir o ymrwymiad y Cyngor i gymryd
camau gorfodi cadarn lle caiff gweithgaredd anghyfreithlon neu lygredig ei
ganfod. Cadarnhawyd y byddai'r Cyngor yn parhau i addasu a
mabwysiadu dull rhagweithiol i atal gweithgareddau twyllodrus, ac y byddai
Archwilio Mewnol yn cynnal adolygiad blynyddol o effeithiolrwydd y rheolaethau. Mewn ymateb i awgrym gan y Cynghorydd H.L. Holland
y dylid gwneud bwriad y Cyngor i ddelio ag unrhyw gamymddygiad cysylltiedig yn
gliriach ac yn fwy cadarn, cytunodd yr HLHDS bod angen diwygio Rhif 8 o’r
Datganiad Polisi, Tudalen 55, i ddarllen "Nid yw'r Cyngor yn cymryd rhan,
ac ni fydd yn cymryd rhan, yn anuniongyrchol neu fel arall, mewn unrhyw
weithgarwch sy’n annog llwgrwobrwyo. Mae’r Cyngor yn
ymrwymedig i atal, osgoi a darganfod llwgrwobrwyaeth.” A gall Rhif 9 gael ei
gynnwys i ddarllen "Nid yw’r Cyngor yn goddef dim twyll, lladrad, llygredd
na llwgrwobrwyo". Mewn ymateb i gwestiwn gan Mr P. Whitham, cytunodd
yr HLHDS y dylid diwygio cyfeiriad at Aelodau Etholedig yn Atodiad 2 i gynnwys
Aelodau Cyfetholedig, neu gynnwys diffiniad o Aelodau. Nododd Mr
Whitham hefyd nad oedd unrhyw gyfeiriad at Lwgrwobrwyo, dim ond at Dwyll a
Llygredd, ar Dudalen 18 o Atodiad 1 a Thudalen 32 o Atodiad 3. PENDERFYNWYD - bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol, yn amodol ar y materion a godwyd, yn nodi cynnwys ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
RHEOLAU’R WEITHDREFN GONTRACTAU PDF 80 KB Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Caffael Strategol Dros Dro, sy'n cyflwyno'r Rheolau
Gweithdrefn Contractau diwygiedig cyn eu cyflwyno i'r Cyngor i'w cymeradwyo
(copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd adroddiad gan y Rheolwr Caffael Strategol
Dros Dro (ASPM) eisoes wedi'i ddosbarthu. Cyflwynodd yr adroddiad y Rheolau Gweithdrefn Contractau drafft i'r
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ar gyfer ei adolygu a rhoi sylwadau arno
cyn ei gyflwyno i'r Cyngor llawn i'w gymeradwyo ar 9 Rhagfyr 2014, fel y mae’r
manylion yn dangos yn Atodiad 1 o’r adroddiad. Nid oedd y Rheolau Gweithdrefnau Contract presennol wedi cael eu hadolygu'n
llawn ers eu mabwysiadu yn 2004. Roedd y ddogfen wedi caei ei hadolygu gan y
Rheolwr Caffael Strategol Dros Dro a Dirprwy Swyddog Monitro yn unol â
deddfwriaeth gyfredol a’r gweithdrefnau caffael arferion gorau diweddaraf. Mae ychwanegu cymalau sy'n gwneud ystyried cymalau Budd i'r Gymuned ym mhob
contract uwchlaw £2,000,000 wedi cyfrannu at flaenoriaeth y Bwrdd Uchelgais
Economaidd a Chymunedol. Yr isaf yw’r trothwyon ariannol, byddai’n galluogi i
fwy o gyfleoedd gwerth tendro llai i gael eu hysbysebu a fyddai’n caniatáu i
fusnesau bach a chanolig lleol i fod yn fwy ymwybodol o gyfleoedd. Cynhaliwyd
ymgynghoriad gyda'r holl feysydd Gwasanaeth o ran adolygu Rheolau Gweithdrefn y
Contractau. Roedd yr holl sylwadau wedi cael eu hadolygu a’u
hystyried lle bo'n briodol ac yn berthnasol i ofynion y ddogfen. Cadarnhaodd ASPM y gallai’r brif risg godi o Adrannau nad ydynt yn
cydymffurfio â'r Rheoliadau Gweithdrefn Contractau newydd a all amharu ar
Reolau Caffael y DU a'r UE. Byddai rhaglen hyfforddi’n cael ei darparu ar gyfer
pob maes gwasanaeth yn dilyn gweithredu'r dogfennau diwygiedig i ddiffinio ei
gofynion a’r goblygiadau o beidio â chydymffurfio. Roedd y Rheolau
Gweithdrefn Contractau diwygiedig, Atodiad 1, a chrynodeb o'r newidiadau
allweddol, Atodiad 2, wedi eu cynnwys gyda'r adroddiad. Ymatebodd ASPM i gwestiwn gan y Cynghorydd M.L. Holland a rhoddodd fanylion rheolaethau’r
weithdrefn gymeradwyo. Cadarnhaodd bod newidiadau i'r system rheoli
gwybodaeth ar gyfer ysgolion wedi eu cyflwyno yn ddiweddar, ac eglurodd y
byddai gwerthuso tendrau, o ran y pris ac ansawdd, o fewn cylch gwaith y
Rheolwr Prosiect. Cytunodd yr ASPM i ddarparu ymateb i Mr P. Whitham mewn perthynas â
materion sy'n ymwneud ag agregau. Mewn ymateb i gwestiwn gan Mr P. Whitham, cytunwyd y byddai cynnig o
hyfforddiant i Aelodau Etholedig o ran Rheolau Gweithdrefn Contractau, gan
gynnwys arddangosiad o'r system, yn cael ei gynnwys yn yr adroddiad i'w
gyflwyno i'r Cyngor. Ymatebodd yr ASPM i gwestiynau gan y Cynghorydd G.M. Kensler a rhoddodd fanylion y Rhestr
Gymeradwy o Gontractwyr, a oedd yn anhylaw ac a fydd yn dirwyn i ben ym mis
Ebrill, 2016 a'i ddisodli gan gytundebau fframwaith gyda nifer llai o
gyflenwyr. Darparodd yr HLHDS fanylion am y broses ar gyfer gwerthu neu gaffael tir. Eglurodd y
byddai Priswyr Cymwysedig yn Adran Ystadau’r Cyngor yn cynghori ar y dulliau
priodol ar gyfer ymdrin â materion o'r fath. Cadarnhawyd y byddai'r
holl drafodion yn destun proses prisiad proffesiynol. Eglurodd y
Cynghorydd J. Thompson-Hill bod gweithdrefn gwaredu ar waith, a oedd yn cynnwys
Cynllun Dirprwyo, a oedd y tu allan i gylch gwaith y Rheolau Diogelu Defnyddwyr. PENDERFYNWYD - bod y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol:- (a)
yn nodi ac yn derbyn y
Rheolau Gweithdrefn Contractau diwygiedig ac yn awdurdodi eu cyflwyno i'r
Cyngor llawn i'w cymeradwyo ym mis Rhagfyr, 2014. (b)
yn cytuno bod y cynnig o
hyfforddiant i Aelodau Etholedig o ran Rheolau Gweithdrefn Contractau yn cael
eu cynnwys yn yr adroddiad i'w gyflwyno i'r Cyngor, ac (c)
yn gofyn i’r ASPM
ddarparu ymateb i Mr P. Whitham mewn perthynas â materion sy'n ymwneud ag
agregau. (SA i Weithredu) |
|
EICH LLAIS - DEFNYDDIO ADBORTH CWSMERIAID PDF 78 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cwsmeriaid a Chymorth Addysg (copi ynghlwm) sy'n rhoi
trosolwg o weithgarwch ymgysylltu â chwsmeriaid ar draws yr Awdurdod, ac mae'n
cynnwys enghreifftiau penodol o wasanaethau sy’n defnyddio adborth gan gwsmeriaid i lunio
gynllunio a darparu gwasanaethau. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd adroddiad gan Bennaeth Cefnogaeth Cwsmeriaid ac Addysg (PCChA), a ddarparodd
drosolwg o weithgareddau ymgysylltu â chwsmeriaid ar draws yr Awdurdod ac
enghreifftiau penodol o wasanaethau sy’n defnyddio adborth cwsmeriaid i
gynllunio a darparu gwasanaethau wedi cael ei ddosbarthu’n flaenorol. Cafodd yr adroddiad ei gyflwyno yn dilyn trafodaeth yn y Pwyllgor Archwilio
Perfformiad ynglŷn â sut yr ymatebodd yr Awdurdod i adborth cwsmeriaid a
gweithredu yn sgil hynny. Cadarnhawyd y dylai parhau i chwilio am ffyrdd i
wella gwasanaethau fod yn rhan hanfodol o weithgarwch y busnes. Roedd y defnydd
o adborth gan gwsmeriaid a gafwyd, a oedd yn cynnwys cwynion, canmoliaeth ac
awgrymiadau, yn darparu cyfleoedd i wella cynllun a darpariaeth gwasanaethau,
gan feithrin hyder y cyhoedd bod yr Awdurdod yn nodi ac yn gweithredu ar
adborth gan gwsmeriaid. Gofynnwyd i bob gwasanaeth ddarparu enghreifftiau o’r mecanwaith a
ddefnyddir ganddynt i ymgysylltu â'u cwsmeriaid, gan ganolbwyntio'n benodol ar
ddefnyddio adborth wrth gynllunio a darparu gwasanaethau. Cafodd manylion
am y broses eu darparu yn Atodiad 1 yr adroddiad. Roedd
ymgynghoriadau’n cynnwys adroddiadau misol i'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth, gan
adrodd yn ôl bob chwarter i'r Pwyllgor Archwilio Perfformiad, ac adroddiadau
blynyddol i'r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol. Ymatebodd y PCChA i gwestiwn gan
y Cynghorydd J. Butterfield ac eglurodd y broses a fabwysiadwyd, drwy'r
Penaethiaid Gwasanaeth perthnasol, ar gyfer ymgysylltu â Threfi a Chynghorau
Cymunedol a Grwpiau o Gwsmeriaid i fynd i’r afael â materion lefel gwasanaeth. Tynnwyd sylw at
ddatblygiad y gwasanaeth EMMA a Chalendr Digwyddiadau’r Holl Aelodau, drwy
ddefnyddio adborth gan Grŵp Ymwybyddiaeth o Hyfforddiant i Aelodau. PENDERFYNWYD - bod y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn yr adroddiad ac yn nodi defnydd
yr Awdurdod o adborth cwsmeriaid. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL EICH LLAIS 2013/14 PDF 126 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cwsmeriaid a Chefnogi Addysg (copi ynghlwm) sy’n
cynnig trosolwg o’r adborth a dderbyniwyd dan bolisi adborth cwsmeriaid Cyngor
Sir Ddinbych ‘Eich Llais’ yn ystod cyfnod 01.04.13 -
31.03.14. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd adroddiad gan y Pennaeth Cwsmeriaid a Chefnogaeth Addysg (PCChA), a
ddarparodd trosolwg o’r adborth a gafwyd drwy bolisi adborth cwsmeriaid Sir
Ddinbych ‘Eich Llais’ yn ystod y cyfnod 01/04/13 i 31/03/14, wedi’i
ddosbarthu’n flaenorol. Nid oedd yr adroddiad yn cynnwys data
Gwasanaethau Cymdeithasol a gafodd ei adrodd ar wahân. Eglurodd y PCChA fod adrodd am gwynion yn cael ei annog ac nad oedd cwynion yn cael eu
hystyried yn negyddol gan eu bod yn gyfle i wella'r gwasanaeth a ddarperir. Cyflwynodd yr
adroddiad drosolwg o’r nifer a’r mathau o adborth a gafwyd yn ystod 2013/14,
a’r wybodaeth ynglŷn ag Adroddiad Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau
Cyhoeddus Cymru a’r llythyr ategol. Cafodd y penawdau canlynol ar gyfer 2013/14 eu
cynnwys yn Atodiad 1:- ·
Cofnodwyd cyfanswm o 510 o gwynion - gostyngiad o 8% o
gymharu â'r flwyddyn flaenorol lle cafwyd 556 cwyn. ·
Yn ystod y flwyddyn, ymatebwyd i 96% (488/510) o'r
cwynion o fewn terfynau amser 'Eich Llais'. Roedd hyn yn welliant o
gymharu â ffigur 2012/13 o 93% ac roedd yn rhagori ar y targed corfforaethol o
95%. ·
Lleihaodd nifer y
cwynion a ddeliwyd â hwy’n llwyddiannus ar gam 1 o 94% y llynedd i 91%. ·
Cafodd cyfanswm o
749 o ganmoliaethau eu cofnodi. Gostyngiad o 9% o gymharu â'r flwyddyn flaenorol lle
cafwyd 820 canmoliaeth. ·
Cofnodwyd cyfanswm
o 67 o awgrymiadau, sef cynnydd o 319% o gymharu â chyfanswm y flwyddyn
flaenorol o 16. Byddai’r maes hwn yn cael ei hyrwyddo i annog mwy o adborth er
mwyn llunio ein gwasanaethau. Gwnaed tri deg chwech o gwynion i'r Ombwdsmon yn
ystod 2013/14, a oedd yn uwch na chyfartaledd Awdurdod Lleol Cymru, fel y nodir
yn Atodiad 2. Nid oedd hyn yn destun pryder gan mai dim ond dwy gŵyn yn
ymwneud â Gwasanaethau Cymdeithasol a gafodd eu hymchwilio gan yr Ombwdsmon, a
oedd yn cyfateb i gyfartaledd Awdurdod Lleol Cymru.
Cyhoeddwyd un adroddiad Adran 21 a oedd yn ymwneud â
Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion. Cafodd
crynodebau o’r cwynion eu cynnwys yn Atodiad 3. Gwnaed pedwar
cwyn am Aelodau yn torri'r Cod Ymddygiad yn ystod 2013/14, yr un nifer â'r
llynedd, fel y nodwyd yn Atodiad 4. Roedd ymgynghori yn cynnwys cyflwyno
adroddiadau misol i'r UDA, adrodd yn chwarterol i'r Pwyllgor Craffu Perfformiad
ac Adroddiad Blynyddol i’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol. Cwestiynodd y Cadeirydd y posibilrwydd o archwilio
cyflwyno proses i fynd i'r afael â chwynion sy’n ymwneud â gwasanaethau a oedd
yn wynebu toriadau gorfodol yn y gyllideb. Eglurodd y PCChA fod gwaith
rhagweithiol yn cael ei wneud gyda darparwyr gwasanaethau i archwilio safonau
gwasanaeth, o ran rheoli disgwyliadau cwsmeriaid. Tynnwyd sylw at yr
angen i gyfathrebu â chwsmeriaid ynghylch lefelau darparu gwasanaethau, ynghyd
â'r angen i wahaniaethu ynglŷn â natur y cwynion a dderbynnir, oherwydd
nid yw pob cwyn o reidrwydd yn cael eu priodoli i'r toriadau. Cyfeiriodd Mr P. Whitham at y dilema o risgiau yn
deillio o wella gwasanaethau tra'n mynd i'r afael â'r mater o argaeledd
cyfyngedig o adnoddau. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd G.M.
Kensler, eglurodd y PCChA fod y Pwyllgor
Craffu Perfformiad wedi cael eu hannog i edrych yn fanwl ar natur benodol y
cwynion mewn meysydd gwasanaethau unigol, a byddai hyn yn cael ei gyflawni gyda
chyfranogiad Aelodau Arweiniol a Phenaethiaid Gwasanaethau perthnasol. Tynnodd y
Cynghorydd M.L. Holland sylw at yr angen i wahaniaethu rhwng ceisiadau a
chwynion gwasanaethau, a'r posibilrwydd y gallai nifer y cwynion a gofnodwyd
ymwneud ag un mater penodol. PENDERFYNWYD - bod y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn ac yn nodi perfformiad y
gwasanaethau. |
|
CYLCH GORCHWYL PWYLLGOR LLYWODRAETHU CORFFORAETHOL PDF 80 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd (copi ynghlwm) a cheisio barn
yr aelodau ar drosglwyddo meysydd o Gylch Gorchwyl y Pwyllgor hwn i Bwyllgor
Safonau y Cyngor. Cofnodion: Cafodd adroddiad gan y Dirprwy Swyddog Monitro, a
oedd yn ceisio barn y Pwyllgor ar drosglwyddo meysydd o Gylch Gorchwyl y
Pwyllgor i Bwyllgor Safonau'r Cyngor yn flaenorol. Eglurodd yr HLHDS fod llwyth gwaith y Pwyllgor
Llywodraethu Corfforaethol yn cynyddu. Roedd yr adroddiad yn gofyn
am safbwyntiau ar drosglwyddo meysydd y gellid ymdrin â hwy o bosibl gan y
Pwyllgor Safonau. Roedd ‘awdurdod’ presennol y Pwyllgor Safonau ond
yn ymdrin â chydymffurfio monitro â’r Cod Ymddygiad i Aelodau, codi safonau
moeseg a gonestrwydd, hyfforddiant ar y Cod Ymddygiad a chwynion ynghylch
Aelodau a delio â chyfeiriadau gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
(OGCC); gan gynnwys chwarae rôl ym Mhrotocol Hunan Reoliadol y Cyngor. Roedd y
Pwyllgor Safonau yn cyfarfod bob dau fis ar gyfartaledd ac yn cynnwys 2
Gynghorydd Sir, 4 aelod annibynnol a gafodd eu recriwtio drwy hysbyseb
cyhoeddus ac 1 aelod o Gyngor Cymuned. Dim ond pan fyddai’r
mwyafrif sy’n bresennol yn Aelodau annibynnol y gallai’r Pwyllgor Safonau fod
yn gworwm. Roedd rhai awdurdodau lleol wedi ymestyn cylch
gorchwyl eu Pwyllgor Safonau i ymdrin â materion fel rhannu pryderon a chwynion
i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru gan aelodau o'r cyhoedd ynghylch
camweinyddu. Eglurodd y Dirprwy Swyddog Monitro fod cyfle i
ystyried llwyth gwaith cynyddol y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a’i
drosglwyddo i'r Pwyllgor Safonau. Byddai'r penderfyniad terfynol yn cael ei wneud gan
y Cyngor Llawn ac yn cael ei ymgorffori yn yr adolygiad o'r Cyfansoddiad. Roedd yr
adroddiad yn gofyn am farn y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ar yr ymagwedd
hon. Roedd trafodaethau rhwng Cadeiryddion y Pwyllgorau
yn ymddangos bod lle i ddadlau ar drosglwyddo rhai neu bob un o'r meysydd
canlynol o’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol i’r Pwyllgor Safonau, yn
ogystal â chadw ei gylch gwaith presennol:- a)
Rhannu pryderon. b)
Indemniadau ar gyfer Swyddogion ac Aelodau. c)
Cwynion gan gynnwys Cwynion i’r OGCC gan aelodau o'r
cyhoedd am y Cyngor (camweinyddu). d)
Cwynion Comisiynydd Gwybodaeth ac adolygiad o
weithgareddau’r Cyngor o dan y Ddeddfwriaeth Gwybodaeth (Diogelu Data a Rhyddid
Gwybodaeth). Cafodd y materion eu trafod yn sydyn yn y Pwyllgor
Safonau ar 18 Gorffennaf, 2014 ac roedd diddordeb wedi bod mewn ymgymryd â
chylch gwaith ehangach. Mynegwyd y safbwyntiau canlynol gan Aelodau o'r
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol: - Teimlai'r Cadeirydd y gellid trosglwyddo a) a b)
i'r Pwyllgor Safonau, ond mynegodd amheuon ynghylch trosglwyddo c) a d). Teimlai y dylai
d) aros gyda'r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol, fel c), a allai olygu mynd
i'r afael â materion ar lefel gorfforaethol. Mynegodd y Cynghorydd G.M. Kensler y farn y gellid trosglwyddo d) i’r
Pwyllgor Safonau, a chadw a) ac c) gyda'r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol. Teimlai'r Cynghorydd J. Butterfield y gellid
trosglwyddo a), b), ac c) i'r Pwyllgor Safonau, ond roedd angen rhagor o
wybodaeth mewn perthynas â d). Cyfeiriodd y Cynghorydd M.L. Holland at
gyfansoddiad y Pwyllgor Safonau. Roedd o'r farn y gellid trosglwyddo a) i’r Pwyllgor
Safonau o ystyried y gymhareb o Aelodau Annibynnol. Awgrymodd Mr
P. Whitham y gallai'r gwaith a wneir gan y Pennaeth Archwilio Mewnol, o ran
blaen raglen waith y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol, a chynnwys Adroddiad
Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol, gael eu defnyddio wrth
ystyried trosglwyddo meysydd gwaith. Gan fod d) wedi cael ei
nodi fel Risg Gorfforaethol, teimlai y dylai aros gyda'r Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol, a gan fod a) yn rhan annatod o'r Polisi Gwrth-dwyll,
Llygredigaeth a Llwgrwobrwyo, y dylai aros gyda'r Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol. Hysbysodd HLHDS y Pwyllgor y byddai angen taro cydbwysedd o ran d) ynghylch ble byddai’r lle mwyaf priodol i osod meysydd gwaith. Eglurodd y byddai swyddogion yn delio â cheisiadau am wybodaeth a bod Polisi ar waith i fynd i'r afael ... view the full Cofnodion text for item 12. |
|
DIWEDDARIAD CYNLLUN GWELLA LLYWODRAETHU PDF 101 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Archwilio Mewnol (copi ynghlwm) sy’n darparu
diweddariad am Gynllun Gwella
Llywodraethu’r Cyngor o ganlyniad i ‘ddatganiad llywodraethu blynyddol’
2013/14 y Cyngor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd adroddiad gan y Pennaeth Archwilio Mewnol wedi’i ddosbarthu’n
flaenorol. Cyflwynodd y Pennaeth Archwilio Mewnol yr adroddiad ac eglurodd fod
diweddariad ar y Cynllun Gwella Llywodraethu a gyflwynwyd ar 29 Medi, 2014,
wedi cynnwys bylchau lle nad oedd ymatebion wedi dod i law oddi wrth swyddogion
allweddol, a gofynnodd yr Aelodau am y diweddaraf ar yr eitemau nodedig hynny
yn y cyfarfod nesaf. Cafodd teitl 'datganiad llywodraethu blynyddol’ diweddaraf y Cyngor ei alw
yn ‘Darparu llywodraethu da a gwelliant parhaus’. Roedd y ddogfen yn darparu
hunanasesiad eglur a chytbwys o drefniadau llywodraethu'r Cyngor, gan dynnu
sylw at unrhyw wendidau llywodraethu arwyddocaol a meysydd eraill i'w gwella. Roedd meysydd gwella wedi eu cynnwys yng Nghynllun Gwella’r Drefn
Lywodraethol, a oedd yn cynnig camau gweithredu i fynd i'r afael â gwendidau, y
swyddogion sy'n gyfrifol am y camau gweithredu hynny ac amserlenni. Roedd y
diweddariad cyntaf i'r Pwyllgor ar 29 Medi, 2014 wedi bod yn anghyflawn, gan
nad oedd ymatebion wedi cael eu darparu er mwyn galluogi i’r Pennaeth Archwilio
Mewnol ddiweddaru'r Cynllun cyfan. Roedd yr ymatebion hyn bellach wedi’u derbyn
ac wedi’u cynnwys yn Atodiad 1 o’r adroddiad. Pe na bai Cynllun Gwella’r Drefn Lywodraethol yn cael ei weithredu,
cadarnhaodd y Pennaeth Archwilio Mewnol y byddai gwendidau yn aros yn nhrefn
lywodraethol y Cyngor, a allai arwain at:- ·
adroddiadau rheoleiddiol niweidiol; ·
defnydd gwael o arian cyhoeddus; ·
methiant i wella meysydd corfforaethol a meysydd
gwasanaeth allweddol; ·
colli hyder budd-ddeiliaid; ac ·
effaith andwyol ar enw da'r Cyngor. Yn dilyn trafodaeth bellach:- PENDERFYNWYD - bod y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn ac yn nodi’r adroddiad. |
|
ADBORTH O'R CYFARFOD CYDRADDOLDEB CORFFORAETHOL Derbyn adroddiad
ar lafar gan y Cynghorydd M.L. Holland. Cofnodion: Esboniodd y Cynghorydd M.L.
Holland nad oedd y Grŵp Cydraddoldeb Corfforaethol wedi cyfarfod ers
cyflwyno'r adroddiad blaenorol i'r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol. |
|
RHAGLEN WAITH Y PWYLLGOR LLYWODRAETHU CORFFORAETHOL PDF 180 KB Ystyried rhaglen
gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor (copi wedi’i amgáu). Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor
Llywodraethu Corfforaethol (a gylchredwyd eisoes) i’w ystyried. Cadarnhaodd y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor yn amodol ar gynnwys yr adroddiadau
canlynol:- 17 Rhagfyr,
2014:- -
Adroddiad diweddaru gan y Pennaeth Archwilio Mewnol ar
Daliad Ariannol i rai sy'n gadael gofal. -
Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar Drefniadau
Cynllunio Ariannol Sir Ddinbych. -
Adroddiad Blynyddol AGGCC. -
Adroddiad Cyfansoddiad Enghreifftiol newydd i’w
aildrefnu ar gyfer 28 Ionawr, 2015. 28 Ionawr,
2015:- -
Adroddiad Blynyddol AGGCC. -
Adroddiad ar y Cyfansoddiad Enghreifftiol
Newydd. PENDERFYNWYD - yn amodol
ar yr uchod bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol. Daeth y Cyfarfod i ben am 13.25 pm. |