Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd James Elson, a
ymunodd â’r cyfarfod yn ddiweddarach. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cadeirydd, yr
Aelod Lleyg David Stewart, gysylltiad personol mewn perthynas ag eitemau rhif 5
a 6 ar y rhaglen, gan ei fod yn derbyn pensiwn Cronfa Bensiynau Clwyd. Datganodd yr Aelod Lleyg, Paul
Whitham, gysylltiad personol mewn perthynas ag eitemau rhif 5 a 6 ar y rhaglen,
gan ei fod yn derbyn pensiwn Cronfa Bensiynau Clwyd. Datganodd yr Aelod Lleyg,
Nigel Rudd gysylltiad personol gan ei fod yn aelod o Bwyllgor Llywodraethu ac
Archwilio Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Datganodd y Cynghorydd Ellie
Chard gysylltiad personol mewn perthynas ag eitemau rhif 5 a 6 ar y rhaglen,
gan ei bod yn derbyn pensiwn Cronfa Bensiynau Clwyd, yn ogystal â chysylltiad
personol ag eitem rhif 9 ar y rhaglen gan ei bod yn llywodraethwr. |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn
y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth
Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw faterion brys. |
|
Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 20 Tachwedd 2024 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod
y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a gynhaliwyd ar 20 Tachwedd 2024 i’w
hystyried. Materion cywirdeb –
Materion yn codi –
PENDERFYNWYD yn amodol ar yr uchod, y dylid derbyn a chymeradwyo
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Tachwedd 2024, fel cofnod cywir o’r
trafodaethau. |
|
DIWEDDARIAD ARCHWILIO MEWNOL Ystyried adroddiad gan Bennaeth Archwilio Mewnol (copi ynghlwm) yn diweddaru’r aelodau am gynnydd Archwilio Mewnol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Archwilydd Mewnol y wybodaeth
ddiweddaraf am Archwilio Mewnol (a ddosbarthwyd ymlaen llaw). Roedd yr
adroddiad yn rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf â’r Pwyllgor Llywodraethu ac
Archwilio ar gynnydd diweddaraf Archwilio Mewnol, o ran darpariaeth gwasanaeth,
darparu sicrwydd, adolygiadau a gwblhawyd, perfformiad ac effeithiolrwydd wrth
ysgogi gwelliant. Mae’r adroddiad yn rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf am y
gwaith Archwilio Mewnol sydd wedi’i gwblhau ers yr adroddiad diweddaru diwethaf
i’r Pwyllgor ym mis Medi 2024; ers diweddariad diwethaf y Pwyllgor Llywodraethu
ac Archwilio ym mis Medi, cwblhawyd wyth adroddiad archwilio mewnol- mae dau
wedi cael sgôr sicrwydd uchel, tri wedi cael sgôr sicrwydd canolig a thri heb
eu sgorio oherwydd eu bod yn destun adolygiadau ar hyn o bryd. Mae’r flwyddyn hon wedi bod yn un heriol i’r tîm
Archwilio Mewnol oherwydd nifer o ffactorau y tu hwnt i’w reolaeth, gan
gynnwys:-
Ers mis Ebrill 2024, mae dau ymchwiliad arbennig wedi
profi’n heriol a thrwm iawn o ran adnoddau Archwilio Mewnol. Oherwydd
cymhlethdod un o’r cwynion, rydym wedi gohirio’r ymchwiliad, gan fod angen i ni
ddatrys ffactorau ychwanegol yn gyntaf, cyn y gallwn gwblhau ein hymchwiliad.
Mae’r ail ymchwiliad wedi’i gwblhau bellach, ac mae adroddiad wedi’i
lunio. Bu i’r Prif Archwilydd Mewnol
gwrdd â’r Pennaeth Gwasanaeth ac AD ar 16 Ionawr 2025 ynghylch yr ymchwiliad. Yn dilyn y cyflwyniad gan y Prif Archwilydd Mewnol,
trafododd y pwyllgor y pwyntiau canlynol ymhellach –
|
|
STRATEGAETH RHEOLI'R TRYSORLYS Derbyn adroddiad Strategaeth Rheoli'r Trysorlys gan y Pennaeth Gwasanaeth, Cyllid ac Archwilio (copi ynghlwm) er mwyn i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio cymeradwyo'r Strategaeth Rheoli Trysorlys blynyddol ar gyfer 2025/2026 a'r diweddariad chwarterol ar gyfer 2024/25. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio, ynghyd â’r
Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, Ddatganiad Strategaeth
Rheoli'r Trysorlys 2025/26 ac Adroddiad Diweddaru Reoli'r Trysorlys Ch3 2024/45
(a ddosbarthwyd ymlaen llaw). Mae'r Datganiad Strategaeth Rheoli'r Trysorlys yn dangos
sut y byddai'r Cyngor yn rheoli ei fuddsoddiadau a'i fenthyciadau am y flwyddyn
i ddod. Mae hefyd yn pennu'r polisïau y mae'r swyddogaeth Rheoli'r Trysorlys yn
eu dilyn wrth weithredu. Mae’r Adroddiad Diweddaru ar Reoli’r Trysorlys yn rhoi
manylion gweithgareddau Rheoli Trysorlys y Cyngor yn ystod chwarter 3 2024/25. Roedd y Cyngor yn gyfrifol am ei benderfyniadau a’i
weithgareddau Rheoli Trysorlys, a oedd yn cynnwys gofalu am arian parod y
Cyngor. Roedd hyn yn rhan hanfodol o waith y Cyngor gan fod tua £0.5 biliwn yn
mynd drwy gyfrif banc y Cyngor bob blwyddyn. Mae graffiau’r adroddiad yn dangos lefelau balansau benthyca a buddsoddi’r Cyngor dros y tair blynedd
diwethaf. Mae’r siart gyntaf yn dangos cynnydd yn y swm y mae’r Cyngor wedi’i
fenthyca dros y cyfnod hwn. Mae’r ail siart yn dangos gostyngiad yn y swm o
arian sydd ar gael i’w fuddsoddi. Mae’r ddau’n
cyd-fynd â’r rhagolygon ac wedi’u cysylltu’n uniongyrchol â Chynllun Cyfalaf y
Cyngor. Gan gyfeirio at yr adroddiad diweddaru ar Reoli’r
Trysorlys, rhoddodd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio rywfaint o gefndir i’r
adroddiad, cyn rhoi cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau: Byddai’r effaith ar y DU
o Gyllideb yr Hydref y Llywodraeth, toriadau cyfraddau llog arafach, twf
economaidd cymharol wannach dros y tymor canolig, yn ogystal ag effaith ail
dymor yr Arlywydd Trump yn ei swydd ac ansicrwydd
ynghylch polisi domestig a thramor yr Unol Daleithiau, yn cael dylanwad
sylweddol ar Strategaeth Rheoli Trysorlys yr Awdurdod ar gyfer 2025/26.
Rhoddwyd gwybod i’r aelodau hefyd y byddai’r adroddiad rheoli’r trysorlys nesaf
yn cael ei drafod yng nghyfarfod y pwyllgor ym mis Ebrill. Trafododd yr Aelodau’r materion canlynol ymhellach -
|
|
DDIWEDDARIAD AM BENNU CYLLIDEB REFENIW 2025/26 Derbyn adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth Cyllid ac Archwilio, y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Diweddaru (copi’n amgaeedig) ar Setliad Ariannu Dros Dro Llywodraeth Cymru (LlC) ar gyfer Llywodraeth Leol 2025/26 a’i oblygiadau ar gyfer pennu cyllideb gytbwys ar gyfer 2025/26. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio, ynghyd â’r
Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, y wybodaeth
ddiweddaraf am adroddiad Gosod Cyllideb
Refeniw 2025/26 (a ddosbarthwyd ymlaen llaw). Pwrpas yr adroddiad oedd rhannu’r
wybodaeth ddiweddaraf â’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ynghylch Setliad
Dros Dro 2025/26 Llywodraeth Cymru (LlC) ar gyfer
Llywodraeth Leol a’r goblygiadau o ran gosod cyllideb gytbwys ar gyfer 2025/26.
Mae diweddariadau ariannol tymor canolig rheolaidd wedi
eu cyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio trwy gydol y flwyddyn, yn
rhan o rôl y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio o geisio sicrwydd bod gan y
Cyngor brosesau effeithiol a chadarn ar waith ar gyfer gosod cyllidebau
cytbwys. Mae’n ofyniad cyfreithiol i’r Cyngor osod cyllideb gytbwys cyn dechrau
pob blwyddyn ariannol a phennu lefel Treth y Cyngor sy’n deillio o hynny. Yn ei
gyfarfod nesaf ar 18 Chwefror 2025, byddai’r Cabinet yn ystyried adroddiad i
osod cyllideb gytbwys a Threth y Cyngor ar gyfer 2025/26. Yna, bydd y Cyngor yn
ystyried yr adroddiad hwn yn ei gyfarfod ar 20 Chwefror 2025. Cafodd y Cyngor wybod beth oedd y Setliad Dros Dro ar gyfer
2025/26 ar 11 Rhagfyr 2024. Mae Cyllid Allanol Cyfun dros dro’r Cyngor, sy’n
cynnwys y Grant Cynnal Refeniw a’n cyfran ni o gronfa Ardrethi Annomestig
Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025/26 yn dod i £215.222 miliwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi llunio tablau fel bod modd
cymharu lefelau cyllid 2024/25 a 2025/26 ar draws cynghorau Cymru. Mae ffigwr
2024/25 wedi ei ddiwygio gan Lywodraeth Cymru ers iddo gael ei gyhoeddi gyntaf.
Mae cyllid 2025/26 y Cyngor yn cael ei gymharu gyda ffigwr newydd ar gyfer Cyllid
Allanol Cyfun 2024/25, sef £205.729 miliwn, a oedd yn gynnydd o £9.493 miliwn
neu 4.6%. Trafododd y Pwyllgor y pwyntiau canlynol ymhellach –
|
|
ASESIAD PERFFORMIAD PANEL Derbyn adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol: Perfformiad, Digidol ac Asedau (copi ynghlwm).er mwyn caniatáu i'r pwyllgor gael mewnbwn i Ymateb y Rheolwyr drafft i Asesiad Perfformiad y Panel. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol:
Perfformiad, Digidol ac Asedau, ynghyd â’r Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad
ac Asedau Strategol yr Asesiad Perfformiad Panel (a ddosbarthwyd ymlaen llaw). Dywedodd y swyddogion fod yr
adroddiad ar gyfer darparu adroddiad Asesiad Perfformiad Panel (Atodiad 1),
datganiadau ymateb drafft (Adrannau 4.6 a 4.7) a’r Cynllun Gweithredu (Atodiad
2) i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, sy’n nodi ymatebion i’r argymhellion
yn yr adroddiad Asesiad Perfformiad Panel er mwyn i’r pwyllgor gyflawni eu
dyletswyddau dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, sef:
Dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac
Etholiadau (Cymru) 2021 mae’n rhaid i brif Gynghorau wneud trefniadau i sicrhau
bod Panel a benodwyd gan y Cyngor yn asesu i ba raddau y mae’r Cyngor yn
bodloni’r gofynion o ran perfformiad o leiaf unwaith yn ystod y cyfnod rhwng
dau etholiad cyffredinol olynol (mis Mai 2022 a’r un a ragwelir ym mis Mai
2027); hynny yw, unwaith yn ystod tymor pob Cyngor Sir. Yn ogystal â chyflawni gofyniad statudol,
gall Asesiad Perfformiad Panel effeithiol nodi siwrnai gwella’r Cyngor, gan
adeiladu ar yr hunanasesiad blynyddol a’i gefnogi i edrych at y dyfodol o
safbwynt gwahanol. Mae’r Asesiad Perfformiad Panel wedi rhoi cyfle i brofi
meddylfryd, gyda chymheiriaid arbenigol diduedd, sy’n darparu safbwyntiau
gwahanol drwy herio annibynnol, gwrthrychol wrth wneud eu hargymhellion.
Cynhaliodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru’r Asesiad Perfformiad Panel ar ran
Cyngor Sir Ddinbych rhwng 9 a 12 Medi 2024 – yr Asesiad Perfformiad Panel
cyntaf yng Nghymru. Hysbyswyd y pwyllgor o’r datganiad
drafft “I ba raddau yr ydym yn derbyn y casgliadau yn yr adroddiad” fel a
ganlyn: “Mae’r Cyngor yn derbyn yr adroddiad a’i gasgliadau. Mae’n nodi y
bu’r asesiad yn broses ddefnyddiol ac mae’n gwerthfawrogi mor feddylgar a
thrylwyr y bu’r tîm Asesu. Ar gyfer Asesiadau’r dyfodol, byddem yn falch o weld
mwy o sôn yn yr adroddiad terfynol am y dystiolaeth a welwyd sydd wedi arwain
at bob argymhelliad. Sylw cyffredinol, sy’n adlewyrchu ar draws nifer o’n
hymatebion yn y Cynllun Gweithredu, yw yr hoffem fod wedi gweld mwy o bwyslais
yn y broses a’r adroddiad ar y modd rydym yn hybu lles a chadernid y gymuned
a’r Cyngor ar gyfer heriau a ragwelir, yn unol â nodau Llesiant Cenedlaethau’r
Dyfodol a’r pum ffordd o weithio.” Yn dilyn y cyflwyniad,
trafododd yr aelodau y diwygiadau y bu iddynt eu hawgrymu ar gyfer adroddiad yr
Asesiad Perfformiad Panel –
|
|
ESTYN - LLYTHYR CANLYNIAD FFURFIOL I'R AWDURDOD LLEOL Derbyn adroddiad gan y Pennaeth Addysg (copi ynghlwm) yn rhoi gwybodaeth i’r pwyllgor ar y broses a ddilynwyd a chanlyniad Ymweliad Awdurdod Lleol Estyn Hydref 2024. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyn derbyn
gwahoddiad i siarad, ymddiheurodd y cadeirydd i’r swyddogion, oherwydd prinder
amser, eu bod yn trefnu i’r eitem gael ei thrafod cyn gynted â phosibl. Cyflwynodd y
Pennaeth Addysg adroddiad Ymweliad Estynedig Estyn ag Awdurdod Lleol 2024 (a
ddosbarthwyd ymlaen llaw). Mae’n cynnwys gwybodaeth am y broses a ddilynwyd a
chanlyniad Ymweliad Estyn â’r Awdurdod Lleol ym mis Hydref 2024. Dywedodd y Pennaeth
Addysg wrth y pwyllgor, fod Richard Thomas HMI a dau gydweithiwr HMI wedi
cynnal ymweliad estynedig arolygydd cyswllt Awdurdod Lleol rhwng 21 – 23 Hydref
2024, a oedd yn canolbwyntio ar anghenion dysgu ychwanegol a phresenoldeb. Fe
hysbyswyd y pwyllgor nad oedd llythyrau ymweliad estynedig wedi cael eu
cyhoeddi a’u bod nhw’n cael eu rhoi i gefnogi proses wella’r awdurdod. Roedd y
gwasanaeth addysg nawr yn adolygu ac yn mynd i’r afael â’r ystyriaethau a
awgrymwyd drwy gynlluniau gwella ein maes gwasanaeth. I gloi, rhoddwyd
sicrwydd i’r pwyllgor gan y Pennaeth Addysg y byddai rhai o’r ymarferion a
gafodd eu harsylwi yn ystod yr ymweliad yn cael eu defnyddio yn y dyfodol ar
ymweliadau eraill fel arferion da ac y byddent yn cael eu hannog gan awdurdodau
lleol eraill. Roedd yr aelodau'n
falch iawn gyda'r adroddiad. Fe wnaethant dynnu sylw at bryderon mewn perthynas
â lefelau presenoldeb. Dywedodd y Pennaeth Addysg wrthynt fod y materion
presenoldeb yn rhai cenedlaethol a bod y tîm addysg yn rhoi sylw iddynt. Roedd
gwaith ymgysylltu’n cael ei wneud i gael plant mewn i addysg. Roedd y mater wedi cael ei drafod mewn
pwyllgor craffu blaenorol i fynd i’r afael â materion presenoldeb ac ADY, a sut
y byddai’r gwasanaeth yn mynd ati i’w datrys. PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn nodi llythyr
canlyniad ffurfiol Estyn yn adroddiad yr awdurdod lleol. |
|
ER GWYBODAETH - ADRODDIAD BLYNYDDOL RHEOLEIDDIO PWERAU YMCHWILIO (RIPA) Derbyn adroddiad er gwybodaeth gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Llywodraethu a Busnes (copi ynghlwm) ynghylch Rheoleiddiad Pwerau Ymchwilio Blynyddol (RIPA). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Hysbysodd y Cadeirydd y
Pwyllgor fod yr eitem er gwybodaeth yn unig. PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn cydnabod ac yn nodi’r
Adroddiad Blynyddol Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio (RIPA). |
|
RHAGLEN WAITH Y PWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO Ystyried rhaglen
waith y pwyllgor (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen Waith y Pwyllgor Llywodraethu
ac Archwilio (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) i’w hystyried. Oherwydd prinder amser yn y cyfarfod, cytunodd y pwyllgor
i’r cadeirydd drafod y rhaglen waith gyda’r swyddogion y tu hwnt i’r cyfarfod a
bod unrhyw newidiadau neu addasiadau yn cael eu rhannu â holl aelodau’r
pwyllgor llywodraethu ac archwilio dros e-bost. PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, bod Rhaglen Waith y Pwyllgor Llywodraethu ac
Archwilio yn cael ei nodi. |