Agenda and draft minutes
Lleoliad: TRWY GYNHADLEDD FIDEO
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem | ||
---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Joe Welch.
|
|||
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 197 KB
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad. |
|||
MATERION BRYS
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw fater brys. |
|||
Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a gynhaliwyd
ar 9 Mehefin 2021 (copi’n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a gynhaliwyd ar 9
Mehefin 2021. Materion cywirdeb
– Tudalen 9 – Eitem 7 Archwiliad RIPA 2021 dylai’r paragraff olaf ddarllen
‘Cadeirydd’. Materion yn
Codi – Dim PENDERFYNWYD yn amodol ar yr uchod, y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion cyfarfod y
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fel cofnod cywir. |
|||
DATGANIAD DRAFFT O GYFRIFON 2020/21 PDF 230 KB Derbyn adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Eiddo (copi ynghlwm) i ddarparu
trosolwg o'r Datganiad Cyfrifon drafft 2019/20 a'r broses sy'n sail iddo. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Cadarnhawyd y byddai’r Datganiad Cyfrifon Drafft yn
cael ei gyflwyno yn y cyfarfod ar 22 Medi a derbyn y Datganiad Cyfrifon Terfynol
ac adroddiad archwilio gan Archwilio Cymru yn y cyfarfod ar 24 Tachwedd. Cadarnhad ers
cyhoeddi papurau’r rhaglen, roedd y tîm cyllid wedi derbyn y cyfrifon drafft
wedi eu llofnodi gan Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig i’w cynnwys yng nghyfrifon
y grŵp. Cadarnhaodd y
Pennaeth Cyllid bod gohebiaeth a chyfarfodydd rheolaidd wedi eu cynnal i
adolygu’r amserlenni ar gyfer cyfrifon y blynyddoedd ariannol i ddod. Cynigiodd y
Pennaeth Cyllid ac Eiddo i lunio adroddiad diweddariad i’w gyflwyno i’r
pwyllgor yn y flwyddyn newydd i ddiweddaru’r broses gynllunio. Roedd yr Aelodau
yn cytuno y byddai’n fuddiol derbyn adroddiad diweddariad ym mis Ionawr 2022. PENDERFYNWYD ·
bod yr Aelodau'n nodi cynnwys yr
adroddiad. ·
Cytunodd yr Aelodau i gynnwys y Datganiad
Cyfrifon Drafft ym mis Medi 2021 a’r Datganiad Cyfrifon Terfynol ac Adroddiad
Archwilio gan Archwilio Cymru ar y blaenraglen waith ar gyfer Tachwedd 2021. ·
Cynnwys cynnydd ar y broses Datganiad
Cyfrifon yn y blaenraglen waith ar gyfer Ionawr 2022. |
|||
RHEOLI TRYSORFA FLYNYDDOL PDF 235 KB Derbyn adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Eiddo (copi ynghlwm) ar y
diweddariad blynyddol ar Reoli'r Trysorlys a Rheoli'r Trysorlys ynghylch
gweithgaredd buddsoddi a benthyca'r Cyngor yn ystod 2020/21. Mae hefyd yn
darparu manylion am yr hinsawdd economaidd yn ystod yr amser hwnnw ac yn dangos
sut y cydymffurfiodd y Cyngor â'i Ddangosyddion Darbodus, a manylion
gweithgareddau TM y Cyngor yn ystod 2021/22 hyd yma. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod Arweiniol Cyllid,
Perfformiad ac Asedau Strategol yr Adroddiad Blynyddol Rheoli’r Trysorlys (RhT)
(a ddosbarthwyd yn flaenorol). Roedd yr adroddiad yn darparu gwybodaeth am
weithgareddau buddsoddi a benthyca’r Cyngor yn ystod 2020/21. Roedd hefyd yn
darparu manylion am yr hinsawdd economaidd yn ystod yr amser hynny ac yn dangos
sut oedd y Cyngor yn cydymffurfio â’i Ddangosyddion Darbodus. Roedd yr
Adroddiad Diweddariad Rheoli’r Trysorlys (Atodiad 2) wedi’i gynnwys ynghyd â’r
Adroddiad Blynyddol Rheoli’r Trysorlys 2020/21 (Atodiad 1) oedd yn rhoi
manylion am weithgareddau Rheoli Trysorlys y Cyngor yn ystod 2021/22 hyd yma. Cadarnhad bod y
gweithgaredd benthyca ar gyfer y flwyddyn wedi bod ychydig yn is na’r flwyddyn
flaenorol o ganlyniad i dalu am wariant hanesyddol. Amlygwyd bod y Cyngor wedi
cadarnhau ei fod wedi cydymffurfio gyda’i ddangosyddion darbodus
2020/21, a luniwyd ym mis Chwefror 2020 fel rhan o Ddatganiad Strategaeth
Rheoli’r Trysorlys. Arweinwyd yr Aelodau drwy Atodiad B oedd yn rhoi manylion y
Dangosyddion Darbodus (DD). Atgoffwyd yr Aelodau bod nifer o’r Dangosyddion
Perfformiad wedi eu cyflwyno i’r Cyngor Sir fel rhan o’r Adroddiad Cyfalaf, gan
greu set o Ddangosyddion Perfformiad oedd yn canolbwyntio mwy i’r pwyllgor hwn.
Roedd y Dangosyddion Perfformiad wedi mynd i’r afael â’r lefel benthyca a sut
oedd yr awdurdod yn gallu benthyca. Rhoddodd y Pennaeth Cyllid ac Eiddo fwy o
fanylion ar y wybodaeth yn yr adroddiad. Arweiniwyd
Aelodau i Atodiad 2 - diweddariad Rheoli’r Trysorlys. Clywodd yr Aelodau bod cyfarfodydd rheolaidd
gydag ymgynghorydd Rheoli’r Trysorlys annibynnol wedi parhau i gael eu cynnal i
drafod amcangyfrifon a ystyriwyd i newid posibl mewn cyfraddau llog, yr
economi, safiad gwleidyddol a’r sefyllfa ariannol rhyngwladol. Roedd yn ofynnol
i’r awdurdod wario arian i helpu adferiad y Pandemig Covid-19. Roedd parhau i
werthuso benthyca a chyfraddau yn hanfodol. Ymhelaethodd y Pennaeth Cyllid ac Eiddo ar
y Strategaeth Gyfalaf Tymor Canolig, gan nodi bod gwaith wedi dechrau i
ddatblygu strategaeth tymor canolig ar gyfer cyfalaf. Byddai hyn yn helpu i nodi
prosiectau yr oedd yr awdurdod yn bwriadu eu datblygu a buddsoddi ynddynt dros
gyfnod o 5 i 10 mlynedd, ond heb ddatblygu drwy’r broses gymeradwyaeth eto.
Byddai hyn yn cael effaith ar y lefel o fenthyca y byddai’r Cyngor angen ei
gynnal dros y blynyddoedd i ddod. Hysbyswyd yr Aelodau bod model manwl yn cael
ei ddatblygu ar hyn o bryd gyda’n ymgynghorwyr Rheoli Trysorlys i helpu i
lywio’r broses gwneud penderfyniad gan sicrhau bod y balans cywir yn cael ei
gynnal rhwng yr angen i fuddsoddi yn ein hasedau a’r gallu i barhau i ddarparu
rhaglen fuddsoddi uchelgeisiol gan sicrhau bod y cynlluniau’n parhau’n
ddarbodus a fforddiadwy. Diolchodd yr Aelodau i’r Aelod Arweiniol
a’r Pennaeth Cyllid ac Eiddo am yr adroddiadau manwl a nodwyd bod y rhestr o
dalfyriadau yn ddefnyddiol i aelodau. Yn ystod y drafodaeth ymhelaethodd y
Pennaeth Cyllid ac Eiddo ar ymholiadau’r aelodau ar y canlynol: ·
Roedd
y gymhareb nad oedd yn gyfrif refeniw tai yn fenthyca sefydlog nad oedd yr
awdurdod yn gallu ei newid am gyfnod o amser. Roedd swyddogion yn ystyried holl
asedau wrth edrych ar gronfeydd benthyca. Ystyriwyd canfod cydbwysedd o beth
oedd yn hanfodol i’r awdurdod a lefel y benthyca a gynhelir gan yr awdurdod pan
oedd angen benthyca mwy. Roedd y Pennaeth Cyllid ac Eiddo yn pwysleisio’r
gwaith cymhleth o amgylch y Dangosydd Perfformiad penodol hwn. ·
Darparwyd
hyfforddiant gan Arlingclose Ltd cyn y cyfnod clo. Dywedodd y Pennaeth Cyllid
ac Eiddo ei fod yn meddwl y byddai’r sesiwn hyfforddiant nesaf yn dilyn
etholiadau Mai 2022. Dywedodd fod y contract gyda’r cwmni yn cynnwys
hyfforddiant, felly os oedd aelodau yn meddwl bod angen hyfforddiant yna gellir
gofyn. · Roedd ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|||
YMHOLIADAU ARCHWILIO 2020/21 PDF 204 KB Derbyn adroddiad
gan y Pennaeth Cyllid ac Eiddo (copi’n amgaeedig) sydd yn cyflwyno’r Llythyr
Ymholiadau Archwilio ac ymateb y Cyngor i’r ymholiadau hynny. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Pennaeth Cyllid ac Eiddo yr adroddiad (dosbarthwyd yn flaenorol). Atgoffwyd yr
Aelodau am y ddyletswydd i gadarnhau’r ymatebion i ymholiadau Archwilio Cymru. Clywodd yr Aelodau
bod nifer o faterion a godwyd wedi eu cynnwys yn y Datganiad Llywodraethu
Blynyddol ac yn y Datganiad Cyfrifon Drafft a Therfynol. Byddai Cadeirydd y
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a’r Pennaeth Cyllid ac Eiddo yn cytuno ar yr
ymateb yn ffurfiol. Cafodd yr adroddiad ei gyflwyno i’r aelodau ar gyfer
sylwadau. Atodiad 1 ynghlwm oedd y llythyr a
dderbyniwyd gan Archwilio Cymru ac roedd wedi’i gynnwys er mwyn cyfeirio ato.
Roedd yr ail atodiad yn manylu’r canfyddiadau gan Archwilio Cymru oedd angen
trafodaeth. Roedd y Pennaeth Cyllid ac Eiddo yn amlygu’r newidiadau a wnaed o’r
ymatebion a dderbyniwyd yn 2019-2020.
Darparwyd mwy o wybodaeth am y newidiadau: ·
Cynnwys
ymateb ychwanegol i gwestiwn un, i gynnwys ‘adolygiad presennol o
ganllawiau ar y defnydd o brynu cardiau.’ Hysbyswyd yr Aelodau bod yr ymateb
ychwanegol o ganlyniad i adolygiad archwilio mewnol. ·
Newid enw’r pwyllgor o fewn yr adroddiad i adlewyrchu’r
pwyllgor yn newid i bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. ·
Newidiadau i’r ymatebion i gwestiwn 2 i adlewyrchu
cynnwys y risg o dwyll o fewn y Gofrestr Risg Gorfforaethol. ·
Roedd dwy elfen wedi eu cynnwys mewn ymateb i gwestiwn un
o ‘Ymholiadau y sawl sy’n gyfrifol am lywodraethu – mewn perthynas â thwyll.’ Cynnwys rôl y Pwyllgor Llywodraethu ac
Archwilio i adolygu’r Strategaeth ar gyfer Atal a Datgelu Twyll, Llygredd
a Llwgrwobrwyo a Chynllun Ymateb i Dwyll. Ynghyd â’r Pwyllgor Llywodraethu ac
Archwilio i gynnal gorolwg o’r Gofrestr Risg Gorfforaethol oedd yn cynnwys risg
corfforaethol oedd yn ymwneud â thwyll wedi’i ychwanegu i’r golofn ymateb. Cadarnhawyd
unwaith y cytunir gan y pwyllgor y byddai ymateb ffurfiol yn cael ei gyflwyno i
Archwilio Cymru. Roedd yr
Aelodau yn falch i nodi bod cynnwys canfyddiadau Archwilio Mewnol wedi eu
cymryd i ystyriaeth wrth fynd i’r afael â’r ymatebion i gwestiynau Archwilio
Cymru. Roedd yr
adroddiad i sicrhau nad oedd y Datganiad Cyfrifon yn cynnwys unrhyw
gamddatganiadau ariannol. I sicrhau bod trefniadau llywodraethu cadarn ar
waith. Cadarnhaodd y Swyddog Monitro bod Archwiliad Mewnol o drefniadau
Llywodraethu rhwng Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig a’r awdurdod wedi’i gynnal. Roedd
y term ‘partïon cysylltiedig’ yn cyfeirio at unrhyw berthynas gydag unrhyw
unigolyn oedd â pherthynas trafodaethol gyda’r cyngor. Roedd y term parti
cysylltiol yn derm technegol. PENDERFYNWYD bod teitl y pwyllgor yn cael ei newid o fewn yr
argymhelliad a bod yr holl aelodau yn cytuno â’r Cadeirydd i gadarnhau’r
ymatebion oedd wedi eu cynnwys yn Atodiad 2 gyda’r adroddiad yn ffurfiol. |
|||
Derbyn adroddiad gan y Prif Archwilydd Mewnol (copi’n amgaeedig) yn gosod
ymrwymiad y Cyngor i atal, datgelu a rhwystro twyll a llygredd. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif
Archwilydd Mewnol yr adroddiad i’r pwyllgor (dosbarthwyd eisoes). Y Prif
Archwilydd Mewnol oedd wedi ysgrifennu’r adroddiad ac roedd yn cynnwys
cyfraniad gan y Swyddog Monitro a’r Pennaeth Cyllid ac Eiddo. Dywedodd y Prif
Archwilydd Mewnol wrth Aelodau fod y Strategaeth ar gyfer Atal a Chanfod Twyll,
Llygredigaeth a Llwgrwobrwyo (SPDFCB) yn strategaeth sy’n bodoli eisoes a oedd
wedi’i hadolygu a’i diweddaru. Roedd yr adroddiad wedi’i ddiweddaru wedi rhoi
ystyriaeth i’r Strategaeth Llywodraeth Leol - Fighting Fraud and Corruption
Locally 2020. Rhoddwyd
cadarnhad fod y Strategaeth yn ymwneud â gweithgarwch gweithredol er mwyn
canfod ac ymchwilio i dwyll a llygredigaeth, a hefyd yn nodi amcanion ar gyfer
camau gweithredu rhagweithiol er mwyn rhwystro ac atal twyll a llygredigaeth. Roedd y Cynllun
Ymateb i Dwyll (atodiad 2) wedi’i ddiwygio i adlewyrchu prosesau presennol a
chryfhau trefniadau i sicrhau bod pawb perthnasol yn ymwneud ar bwyntiau
allweddol a chynnwys rhagor o aliniad â pholisïau AD yr awdurdod, a’r polisi
disgyblu yn benodol. Er mwyn sicrhau bod
ymchwiliadau’n dilyn y gweithdrefnau cywir a’u bod yn mynd trwy’r sianeli
cywir. Dywedodd y Prif
Archwilydd Mewnol fod y newidiadau allweddol a wnaed i’r SPDFCB wedi’u hamlygu’n goch (atodiad 1). Dangoswyd y
newidiadau arfaethedig i’r Aelodau. Amlygodd y Prif Archwilydd Mewnol
gyfrifoldebau aelodau etholedig a oedd wedi’u diwygio yn y strategaeth.
Byddai’r strategaeth yn cael ei hadolygu fel rhan o’r Datganiad Llywodraethu
Blynyddol. Yn y SPDFCB,
roedd cynllun gweithredu
(atodiad A) wedi’i gynnwys i ddangos canlyniadau bwriedig pob cam
gweithredu. Roedd canllaw i weithwyr
(atodiad B) wedi’i gynnwys i ddarparu gwybodaeth i staff am beth mae angen
iddynt ei wneud os ydynt yn amau bod achos o dwyll yn bodoli. Roedd rhestr o’r
peryglon o Dwyll wedi’i chynnwys hefyd (atodiad C). Diolchodd yr Aelodau i’r Prif Archwilydd
Mewnol am yr adroddiad manwl, ac roeddent yn teimlo bod y newidiadau mewn coch
yn eu gwneud yn haws i’w nodi. Yn ystod y drafodaeth,
ymhelaethodd y swyddogion ar y materion canlynol: ·
Cadarnhaodd
y Prif Archwilydd Mewnol y gallai’r gair ‘disgwyl’ yn fersiwn ddiwygiedig y
Cwmpas a Diffiniadau gael ei addasu er mwyn pwysleisio’r gofyniad ymhellach. ·
Cyfrifoldeb
y Pennaeth Gwasanaeth oedd penderfynu a oedd angen unrhyw gamau gweithredu gan
weithiwr a oedd yn datgan cysylltiad busnes neu gysylltiad personol, a dilyn y
weithdrefn gywir os oedd angen unrhyw gamau gweithredu. ·
Nid
oedd yr awdurdod wedi cael unrhyw bryderon o ran twyll nac adroddiadau gan
gontractwyr, rhai sy’n derbyn cyllid a phartneriaid. ·
Roedd
y term ‘aelodau etholedig’ yn derm generig ar gyfer aelodau’r awdurdod. Roedd
aelodau cyfetholedig yr awdurdod wedi’u cynnwys, oherwydd bod yr aelodau
hynny’n gorfod cydymffurfio â’r cod ymddygiad a byddai cyfrifoldebau aelodau
etholedig yn cyfeirio atynt hefyd. ·
Mae
gofyn i aelodau penodol o staff lenwi’r ffurflen datganiad blynyddol bob
blwyddyn. Roedd angen i’r trefniadau o amgylch y maes hwn wella. Yn dilyn y drafodaeth: PENDERFYNWYD
bod aelodau’n nodi cynnwys yr adroddiad a chytuno bod yr adroddiad yn cael ei
gyfeirio i’r Cabinet i gael ei gymeradwyo. |
|||
DIWEDDARIAD ARCHWILIO MEWNOL PDF 201 KB Ystyried adroddiad gan y Prif Archwilydd Mewnol (copi wedi’i amgáu) yn rhoi
gwybod i aelodau am gynnydd Archwilio Mewnol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif
Archwilydd Mewnol yr adroddiad (a ddosbarthwyd eisoes) yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf
i aelodau ar gynnydd y Tîm Archwilio Mewnol o safbwynt darparu’r gwasanaeth,
darparu sicrwydd, adolygiadau wedi eu cwblhau, perfformiad ac effeithiolrwydd
wrth gyflawni gwelliant. Roedd yr
adroddiad yn rhoi gwybodaeth am y gwaith a oedd wedi cael ei wneud gan
Archwilio Mewnol ers cyfarfod diwethaf y pwyllgor. Roedd yn caniatáu i’r
pwyllgor fonitro perfformiad a chynnydd Archwilio Mewnol yn ogystal â rhoi
crynodebau o adroddiadau Archwilio Mewnol. Cafwyd cadarnhad bod 9 Archwiliad a 2 adolygiad dilynol wedi’u cwblhau ers
cyfarfod diwethaf y pwyllgor. Amlygwyd nad oedd yr un o’r 9 archwiliad a
gwblhawyd wedi cael sicrwydd isel, ac roedd y 2 adroddiad dilynol wedi’u
cynnwys ar yr agenda fel eitemau ar wahân. Atgoffwyd Aelodau fod manylion pob
un o’r archwiliadau wedi’u cynnwys fel atodiad 1 i’r adroddiad. Cyflwynwyd
cefndir cryno o bob archwiliad i’r pwyllgor. Yn ystod y drafodaeth: ·
Nodwyd bod cynnydd o ran rhybuddion gan y Rhwydwaith
Gwrth-Dwyll Cenedlaethol (NAFN) wedi’i weld. Cadarnhaodd y Prif Archwilydd Mewnol
ei bod wedi trosglwyddo unrhyw bryderon i’r rheolwyr yn yr awdurdod. ·
Mynegodd Aelodau bryder am adnoddau staff yn yr awdurdod.
Cadarnhaodd y Swyddog Monitro fod ymarfer cynllunio’r gweithlu wedi’i drefnu ar
gyfer dyddiad yn ddiweddarach yn y flwyddyn er mwyn adolygu unrhyw faterion
staffio gan gynnwys recriwtio a chadw staff. Byddai effaith y 18 mis diwethaf
yn cael ei hystyried. Ychwanegodd y Prif Archwilydd Mewnol fod archwiliad o
gynllunio’r gweithlu wedi’i drefnu. ·
Roedd Aelodau’n siomedig nad oedd mater adnoddau staff yn
yr adran Archwilio Mewnol wedi’i ddatrys. Cadarnhaodd y Prif Archwilydd Mewnol
ei bod yn anodd penodi archwilydd cymwys. ·
Roedd presenoldeb da yng nghyfarfod y Bwrdd Llywodraethu.
Cynhaliwyd y cyfarfod dros y we, ac roedd presenoldeb gwell wedi bod ers i
gyfarfodydd gael eu cynnal o bell. ·
Nid oedd y Prif Archwilydd Mewnol yn sicr o ddyddiad yr
adroddiad terfynu prosiect ar gyfer rheoli contract SC2. Cadarnhaodd y byddai’n
dod o hyd i’r ateb a rhoi gwybod i’r aelodau. ·
Soniodd Aelodau am yr angen i drefnu sesiwn hyfforddiant
i aelodau. Teimlwyd y byddai sesiwn hyfforddiant archwilio effeithiol o fudd.
Dywedodd y Prif Archwilydd Mewnol y byddai’n trafod gyda’r Gwasanaethau
Democrataidd. Diolchodd aelodau
i'r Prif Archwilydd Mewnol am yr ymateb manwl i gwestiynau’r aelodau. Felly, PENDERFYNWYD bod aelodau’n nodi cynnydd a pherfformiad Archwilio Mewnol. |
|||
Ar yr adeg hon
(11.25 a.m.), cafwyd egwyl o 10 munud. Ailddechreuodd y
cyfarfod am 11.35 am. |
|||
Rhoddodd y Prif Archwilydd
Mewnol ddiweddariad i’r aelodau a’r arsylwyr am y dyddiad a gytunwyd ar gyfer
adroddiad Archwilio SC2. Y dyddiad a gytunwyd ar gyfer cwblhau’r adroddiad
terfynu oedd diwedd mis Awst 2021.
|
|||
CAMAU DILYNOL ARCHWILIO MEWNOL – RHEOLI PROSIECT ADEILADAU’R FRENHINES PDF 207 KB Derbyn
diweddariad (copi’n amgaeedig) am gynnydd wrth weithredu’r cynllun gweithredu
oedd yn cyd-fynd ag adroddiad Archwilio
Mewnol Rheoli Prosiect Adeiladau’r Frenhines, a gyflwynwyd i’r pwyllgor ym mis
Ionawr 2021. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Aeth y Prif
Archwilydd Mewnol â’r aelodau trwy’r adroddiad dilynol (a ddosbarthwyd eisoes).
Roedd yr adroddiad yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am gynnydd o ran
gweithredu’r cynllun gweithredu a oedd yn cyd-fynd â’r adroddiad Archwilio
Mewnol ar Reoli Prosiect Adeilad Queen’s dyddiedig Ionawr 2021, a gyflwynwyd
i’r pwyllgor hwn ym mis Ionawr 2021. Cafwyd
cadarnhad bod 8 o’r 12 cam gweithredu a gytunwyd wedi’u cwblhau. Roedd y camau
gweithredu eraill yn dal wrthi’n cael eu cwblhau. Dywedodd y Prif Archwilydd
Mewnol ei bod yn falch â’r gwaith a oedd wedi’i gwblhau. Dangoswyd y camau
gweithredu i’r Aelodau a darparwyd rhagor o wybodaeth. Yn seiliedig ar
ganlyniadau’r adolygiad dilynol, roedd sgôr sicrwydd canolig wedi’i roi. Roedd adroddiad
dilynol pellach wedi’i drefnu ar gyfer mis Rhagfyr 2021 er mwyn adolygu cynnydd
y pwyntiau gweithredu sy’n weddill. Cadarnhaodd y
Prif Archwilydd Mewnol fod contract system VERTO wedi dod i ben a bod y broses
dendro wedi dechrau. Deallwyd y byddai system VERTO yn dal i gael ei defnyddio.
Roedd lefelau mynediad yn cyfeirio at fynediad at system VERTO. Codwyd y mater
o adolygu mynediad unigolion a sicrhau bod gan weithwyr y mynediad sydd ei
angen arnynt. Felly; PENDERFYNWYD bod y pwyllgor yn nodi’r adroddiad dilynol a bod adroddiad dilynol
pellach ar Reoli Prosiect Adeilad Queen’s yn cael ei gynnwys yn yr adroddiad Archwilio
Mewnol yn dilyn camau dilynol nesaf Archwilio
Mewnol. |
|||
CAMAU DILYNOL ARCHWILIO MEWNOL RHEOLI CONTRACTAU PDF 210 KB Derbyn adroddiad
diweddaru (copi'n amgaeedig) am y cynnydd wrth weithredu'r cynllun gweithredu
sy'n cyd-fynd â’r adroddiad Archwilio Mewnol ar Reoli Contractau. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Aeth y Prif
Archwilydd Mewnol a'r Uwch Archwilydd â’r aelodau trwy’r adroddiad dilynol (a
ddosbarthwyd eisoes). Roedd yr adroddiad
hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am y cynnydd wrth weithredu'r
cynllun gweithredu a oedd yn cyd-fynd â’r adroddiad Archwilio Mewnol ar Reoli
Contractau. Yn wreiddiol, roedd yr adolygiad o Reoli Contractau wedi cael sgôr
sicrwydd isel. Rhoddodd y Prif
Archwilydd Mewnol wybodaeth gefndir i atgoffa Aelodau bod y Pwyllgor wedi nodi
bod y cynllun gweithredu gwreiddiol yn cynnwys camau gweithredu nad oeddent yn
ymarferol bellach, o ystyried bod yr Adolygiad o Wasanaethau Cynnal Corfforaethol
wedi’i atal ar anterth pandemig Covid-19. Roedd cynllun gweithredu diwygiedig
wedi’i gytuno yn y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ym mis Ionawr 2021 er
mwyn darparu sicrwydd fod camau gweithredu addas wedi’u dylunio i fynd i’r
afael â’r materion a nodwyd yn yr adroddiad gwreiddiol. Roedd yr adolygiad
dilynol wedi’i seilio ar gamau’r cynllun gweithredu diwygiedig. Dywedodd yr
Uwch Archwilydd wrth Aelodau fod nifer fawr o gamau gweithredu wedi’u codi yn
yr adolygiad dechreuol a’r cynllun gweithredu diwygiedig. Codwyd 14 o gamau
gweithredu yn y cynllun gweithredu diwygiedig; nid oedd 7 cam wedi’u
gweithredu, ac nid oedd yn bryd gweithredu 3 ohonynt. Roedd dyddiadau
gweithredu diwygiedig wedi’u cytuno ar gyfer 31 Hydref 2021. Nododd swyddogion
mai dim ond ychydig o gynnydd oedd wedi’i wneud ar gyfer y camau a nodwyd yn y
cynllun gweithredu diwygiedig a gytunwyd ym mis Ionawr 2021. Roedd gweithredu
nifer o’r camau yn llawn wedi dibynnu ar gymeradwyaeth gan yr Uwch Dîm
Arweinyddiaeth ar gyfer y Fframwaith Rheoli Contractau. Adeg yr adolygiad, nid
oedd y fframwaith drafft wedi bod i’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth i gael sylwadau a
chymeradwyaeth. Mae’r Fframwaith Rheoli Contractau yn nodi sut i sgorio a
chategoreiddio contractau yn dri grŵp. Roedd y fframwaith yn darparu meini
prawf manwl ar gyfer sut i sgorio contractau ac roedd yn nodi’r tasgau a’r
cyfrifoldebau yn seiliedig ar gategoreiddio’r contract. Nodwyd bod
pwysau parhaus o ran capasiti a diffyg adnoddau rheoli contract pwrpasol hefyd
wedi cyfyngu ar allu i ddarparu’r trosolwg, hyfforddiant a chanllawiau rheoli
contract gofynnol. Roedd y
sicrwydd yn dal i fod yn sgôr sicrwydd isel gan arwain at adolygiad dilynol
pellach yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Diolchodd y
Swyddog Monitro i’r swyddogion Archwilio Mewnol am yr adroddiad a’r cymorth a
ddarparwyd yng nghamau dechreuol y cynllun gweithredu. Cymerodd y Swyddog
Monitro gyfrifoldeb llawn dros yr oedi wrth gyflwyno’r Fframwaith Rheoli
Contractau i’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth. Cafwyd cadarnhad bod fframwaith drafft
wedi’i greu yn gynharach yn y flwyddyn i gael ei gyflwyno. Ers hynny,
roedd yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth wedi cael y Fframwaith Rheoli Contractau
drafft a’i gymeradwyo fel cysyniad a ffordd o weithio wrth symud ymlaen. Roedd
y fframwaith yn sicrhau y byddai’r risg sy’n gysylltiedig â’r contract yn cael
sylw cywir a’i sgorio ar y dechrau. Roedd rolau a chyfrifoldebau clir wedi’u
cynnwys yn y Fframwaith Rheoli Contractau i reolwyr contractau gydymffurfio â
nhw. Rhagwelwyd y byddai caffael yn cynhyrchu adroddiadau misol i Benaethiaid
Gwasanaeth adolygu contractau ac er mwyn nodi unrhyw gamau gweithredu i’w
cyflawni. Gobeithiwyd y
byddai rhagor o hyfforddiant pwrpasol ar y Fframwaith Rheoli Contractau yn cael
ei greu ar gyfer rheolwyr contractau a defnyddwyr. Diolchodd y
Cadeirydd ac aelodau’r pwyllgor i’r Swyddog Monitro am y cefndir tryloyw i’r
Fframwaith Rheoli Contractau. Gan ymateb i
gwestiynau aelodau, eglurodd y swyddogion y canlynol: · Nid oedd gan y tîm caffael adnoddau i fod yn reolwyr contractau. Roedd caffael wedi darparu hyfforddiant a chanllawiau generig ar gyfer y modiwl ar Proactis. Roedd cyfrifoldeb ar wasanaethau i reoli contractau. Byddai’r fframwaith yn sicrhau cysondeb ar draws yr awdurdod. Byddai ... view the full Cofnodion text for item 11. |
|||
ADRODDIAD BLYNYDDOL UWCH-BERCHENNOG RISG GWYBODAETH PDF 408 KB Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Gwella
Busnes a Moderneiddio (copi'n amgaeedig) sy'n manylu ar achosion o dorri'r
Ddeddf Diogelu Data a chwynion yn ymwneud â deddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
Arweiniol yr Economi a Llywodraethu Corfforaethol adroddiad blynyddol yr Uwch
Swyddog Risg Gwybodaeth (SIRO) (a ddosbarthwyd eisoes) gan roi gwybodaeth i
aelodau am achosion o dorri’r ddeddf diogelu data a oedd wedi bod yn destun
ymchwiliad yn ystod y cyfnod rhwng mis Ebrill 2020 a 31 Mawrth 2021. Yn ystod y
cyfnod, bu 22 digwyddiad data a oedd yn ymwneud â data personol, cynnydd ar y
llynedd pan mai 13 a fu. Amlygwyd bod achosion o dorri rheolau data ysgolion
wedi’u cynnwys yn yr adroddiad. Rhoddodd y Pennaeth
Gwella Busnes a Moderneiddio wybodaeth gefndir i Aelodau. Clywodd Aelodau am bwysigrwydd goruchwyliaeth gan y
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio er mwyn sicrhau bod data’n cael ei reoli’n
ddiogel yn yr awdurdod. Pwysleisiwyd yr effaith gall diogelu
data ac achosion o dorri rheolau ei chael ar unigolion, nid dim ond ar enw da’r
cyngor. Dywedodd y Pennaeth Gwella Busnes
a Moderneiddio fod cynnydd mawr o ran nifer yr achosion o dorri rheolau wedi’i
gofnodi yn y cyfnod. Roedd dadansoddiad o’r
achosion wedi’i gynnwys yn yr adroddiad. Roedd pob achos wedi’i ymchwilio’n
llawn. Teimlwyd mai’r rheswm dros y cynnydd o
ran nifer yr achosion oedd nad oedd staff wedi bod yn gweithio dan amgylchiadau
arferol nac mewn amgylcheddau arferol. Roedd gwaith i fynd i’r afael â’r
digwyddiadau er mwyn atal achosion pellach o dorri’r rheolau wedi dechrau, gan
gynnwys gwaith gyda Microsoft wrth anfon negeseuon e-bost. Roedd pob aelod o
staff wedi cwblhau hyfforddiant Diogelu Data. Roedd y pecyn hyfforddiant
ar-lein wedi’i adolygu ac roedd adran newydd wedi’i chynnwys i gynnwys peryglon
gweithio gartref gan gynnwys elfennau i leihau nifer y camgymeriadau a wneir.
Roedd hyfforddiant newydd wedi dechrau cael ei gyflwyno i’r staff i gyd ei
gwblhau. Roedd gwaith gyda gwasanaethau wedi bod yn gadarnhaol a chafodd ei
groesawu. Cafwyd cadarnhad fod y gwaith o
amgylch y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol wedi’i gwblhau. Dywedwyd wrth Aelodau fod lefelau
Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth
a Cheisiadau Gan Unigolion i Weld Gwybodaeth Amdanynt Eu Hunain wedi lleihau
dros y flwyddyn ddiwethaf a gwelwyd cynnydd yn y Ceisiadau Gwybodaeth
Amgylcheddol. Dywedodd y Pennaeth Gwella Busnes a Moderneiddio
ei fod yn falch nad oedd unrhyw ddigwyddiadau wedi’u hadrodd i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth i’w hymchwilio yn ystod y cyfnod. Diolchodd yr Aelodau i’r Aelod Arweiniol a’r Pennaeth Gwella Busnes a Moderneiddio am yr
adroddiad cynhwysfawr a’r briff manwl. Yn ystod y drafodaeth, cododd yr
aelodau’r canlynol: ·
Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth wedi’u targedu at wybodaeth
am Gynghorwyr, byddai’r sawl sy’n cyflwyno cais am wybodaeth yn aros yn ddienw
oherwydd bod y cais am wybodaeth, ac nid yn erbyn Cynghorydd unigol. ·
Roedd y Grŵp Llywodraethu Gwybodaeth yn cynnwys
Addysg a chynrychiolwyr Ysgolion. Un
amcan i’r grŵp fu rhannu arfer da rhwng ysgolion a’r awdurdod. ·
Roedd Aelodau
o blaid cynnwys achosion o dorri rheolau data yn adroddiadau’r dyfodol.
Gofynnodd y Pwyllgor fod ysgolion yn cael sicrwydd fod yr awdurdod yno i
gefnogi a chynnig canllawiau. Dywedodd y Pennaeth Gwella Busnes a Moderneiddio
y byddai’n gofyn i’r swyddog cyswllt ysgolion roi adborth i ysgolion. Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddog
a’r Aelod Arweiniol am yr adroddiad a’r ymatebion manwl i gwestiynau’r Aelodau.
PENDERFYNWYD – bod y Pwyllgor Llywodraethu ac
Archwilio yn derbyn ac yn nodi
cynnwys yr adroddiad. |
|||
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y PWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO PDF 392 KB Ystyried rhaglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor (copi’n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen
Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (a ddosbarthwyd eisoes)
i’w hystyried. Cytunwyd i ddiwygio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol fel a ganlyn: ·
Byddai diweddariad gan Archwilio Mewnol yn cael ei
gyflwyno ym mis Tachwedd 2021 ar Reoli Contractau. ·
Byddai diweddariad gan Archwilio Mewnol ar Farchnad
Queen’s yn cael ei gynnwys gyda’r Adroddiad Archwilio Mewnol ym mis Ionawr
2022. ·
Byddai’r adolygiad Chwarterol gan Archwilio Cymru yn cael
ei gyflwyno i’r pwyllgor ym mis Medi 2021. ·
Byddai’r Datganiad Cyfrifon terfynol yn cael ei gyflwyno
yng nghyfarfod mis Tachwedd 2021. ·
Byddai’r Datganiad Cyfrifon Drafft yn cael ei ychwanegu
at Raglen Gwaith i’r Dyfodol mis Medi 2021. ·
Adroddiad diweddaru ar yr amserlen ar gyfer cau ym mis
Ionawr 2022. ·
Byddai’r adroddiad Iechyd a Diogelwch a Risg Tân
blynyddol yn cael ei gynnwys ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol. ·
Byddai adroddiad ar Gwynion, yn unol â Deddf Llywodraeth
Leol ac Etholiadau, yn cael ei ychwanegu at y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol. PENDERFYNWYD, yn amodol ar gynnwys yr ychwanegiadau uchod, nodi cynnwys rhaglen
gwaith i'r dyfodol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. |
|||
Daeth y cyfarfod i ben am 12.45pm. Dogfennau ychwanegol: |