Agenda and draft minutes
Lleoliad: trwy gynhadledd fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem | |
---|---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Hysbysodd Y Cynghorydd Barry Mellor aelodau ei
fod wedi derbyn neges y byddai'r Cynghorydd Joe Welch a’r Cynghorydd Tony Flynn
yn cyrraedd y cyfarfod ychydig yn hwyr.
|
||
PENODI CADEIRYDD
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gofynnwyd am enwebiadau ar gyfer Aelod i wasanaethu fel Cadeirydd y Pwyllgor
am y flwyddyn i ddod. Cafodd Y Cynghorydd Barry Mellor ei enwebu gan Y
Cynghorydd Ellie Chard, gyda’r Cynghorydd Martyn Holland yn eilio. Ni
dderbyniwyd unrhyw enwebiadau eraill felly; PENDERFYNWYD y dylai’r Cynghorydd Barry
Mellor gael ei benodi fel Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu ar
gyfer y flwyddyn i ddod. |
||
PENODI IS-GADEIRYDD
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gofynnwyd am enwebiadau ar gyfer Aelod i wasanaethu fel Is-Gadeirydd y
Pwyllgor am y flwyddyn i ddod. Cafodd Y Cynghorydd Martyn Holland ei enwebu gan
Aelod Lleyg Paul Whitman, gyda’r Cynghorydd Ellie Chard yn eilio. Ni
dderbyniwyd unrhyw enwebiadau eraill felly; PENDERFYNWYD y dylai’r Cynghorydd Martyn Holland gael ei benodi fel Is-Gadeirydd y
Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu ar gyfer y flwyddyn i ddod. |
||
|
||
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 197 KB
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw ddatganiadau o gysylltiad. |
||
MATERION BRYS
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw faterion brys. |
||
Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a gynhaliwyd
ar 28 Ebrill 2021 (copi’n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod Y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu a gynhaliwyd ar 28
Ebrill 2021. Materion
cywirdeb - Dim Materion sy'n
codi - Dim PENDERFYNWYD yn amodol â’r uchod, y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y Pwyllgor
Archwilio a Llywodraethu fel cofnod cywir. |
||
AROLYGIAD RIPA 2021 PDF 209 KB I dderbyn
adroddiad (copi yn amgaeedig) ar yr archwiliad a gyflawnwyd gan Swyddfa'r
Comisiynydd Pwerau Ymchwilio mewn perthynas â gweithgareddau’r
Awdurdod a gyflawnwyd o dan y Ddeddf Rheoleiddio
Pwerau Ymchwilio 2000. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol (RhGC) adroddiad o archwiliad
RIPA 2021 i’r aelodau (wedi’i ddosbarthu’n flaenorol). Cadarnhawyd
oddeutu bob tair blynedd bod Swyddfa’r Comisiynydd Pwerau Ymchwilio (IPCO) yn
arolygu’r Cyngor o bell o ran ei weithgareddau dan Ddeddf Rheoleiddio Pwerau
Ymchwilio (RIPA) 2000. Hysbyswyd yr
Aelodau fod yr archwiliad wedi cael ei gynnal gan un o Arolygwyr y Comisiynydd,
Graham Wright ym mis Chwefror a mis Mawrth 2021. Eglurwyd fod dull ymarferol a
phragmatig wedi bod i’r archwiliad. Roedd y protocol yn ymddangos fel ei fod yn
dilyn ymarfer bwrdd gwaith gydag archwiliad o bell a phe bai angen byddai
archwiliad mewn person yn cael ei drefnu. Cadarnhaodd y darganfyddiadau nad
oedd angen archwiliad mewn person. Roedd yr
archwiliad yn ymarfer defnyddiol i swyddogion, gan fod yr archwiliad yn
craffu’r polisi cuddwylio, deunyddiau hyfforddiant a chofnodion canolog yr
awdurdod ac yn arddangos cydymffurfiad gan yr awdurdod. Clywodd yr
aelodau bod y cynllun gweithredu o’r archwiliad blaenorol wedi cael ei gwblhau
yn llawn. Cadarnhawyd nad
oedd na unrhyw geisiadau RIPA wedi eu derbyn dros y tair blynedd diwethaf.
Dywedodd y RhGC nad oedd hynny’n anghyffredin gan fod dulliau eraill o gasglu
tystiolaeth. Roedd yr awdurdod wedi
ufuddhau i ddefnyddio’r dulliau eraill o gasglu tystiolaeth cyn cyflwyno cais
RIPA. Roedd
ymwybyddiaeth o’r ddogfen polisi a gweithdrefn yn hanfodol. Roedd hyfforddiant
yn anhepgor i addysgu staff ac amlygwyd hynny fel rhan o’r archwiliad. Roedd yr
arolygwr wedi gweld deunyddiau hyfforddiant ac yn falch gyda’i ddarganfyddiadau
gan gynnig diwygiadau i wella’r deunyddiau hyfforddiant yn barod ar gyfer
hyfforddiant wedi trefnu yn yr hydref. Cadarnhawyd bod digwyddiad wedi’i drefnu
ar gyfer mis Medi ar gyfer swyddogion ymchwilio a swyddogion awdurdodi. O fewn yr
adroddiad cyfeiriodd yr aelodau at Wasanaethau Cymdeithasol gan dalu sylw
penodol i wasanaethau plant. Pwysleisiwyd y pwysigrwydd o gynnal dealltwriaeth
am y gweithdrefnau o fewn Sir Ddinbych. Roedd cyfeiriad at ddata wedi’i nodi yn
yr adroddiad. Yn arbennig, cadw gafael ar ddata, tu hwnt i’w ddefnydd yn dilyn
archwiliad. Sefydlwyd gweithgor RIPA oedd yn cynnwys rheolwyr canol, rheolwyr
gweithredol, y swyddog monitro a’r RhGC i weithio gyda TGCh i sefydlu cofnod
canolog o wybodaeth i gyflwyno’r amserlenni statudol. Cadarnhawyd fod uno diweddar wedi bod rhwng yr adran
Gynllunio a Gwasanaeth Cyhoeddus o ran TCC. Dyma’r
Cadeirydd yn diolch i’r RhGC am y wybodaeth fanwl ynghylch yr archwiliad.
Cafwyd trafodaeth bellach a chodwyd y pwyntiau canlynol: ·
Bod y drosedd o feddiannu cartrefi pobl ddiamddiffyn i
werthu cyffuriau (cuckooing) yn achos i’r heddlu. Byddai’r awdurdod yn
cynorthwyo pe bai angen. ·
Yn y gorffennol mae gweithgaredd RIPA wedi cael ei
ddefnyddio i archwilio deiliadaeth sengl. Nid yw’r gweithgaredd wedi cael ei
ddefnyddio yn y blynyddoedd diwethaf. Protocolau Rhannu Gwybodaeth yn eu lle i
archwilio unrhyw baru data. Dim ond fel y cam olaf y byddai’r broses RIPA yn
cael ei ddefnyddio i archwilio unrhyw dwyll posib. ·
Cadarnhaodd y RhGC y byddai unrhyw bryderon am les plant
yn cael ei archwilio yn unol â’r heddlu. Byddai’r awdurdod yn cynorthwyo gydag
unrhyw archwiliad pe bai angen. Dyma’r Cadeirydd yn diolch i’r RhGC am yr ymatebion i
gwestiynau’r aelodau. Felly, PENDERFYNWYD
fod yr aelodau yn nodi cynnwys yr adroddiad a’r adroddiad archwiliad wedi’i
atodi fel atodiad 1. |
||
ADOLYGIAD PERFFORMIAD BLYNYDDOL 2020-2021 PDF 267 KB I dderbyn adroddiad (copi yn amgaeedig) i gyd-fynd â'r Adolygiad Perfformiad Blynyddol drafft ar
gyfer 2020 i 2021 (wedi’i atodi yn atodiad 1), gan ddarparu ein dadansoddiad
chwarterol a diwedd y flwyddyn, gan dynnu sylw at brosiectau penodol a chamau
i'w cyflawni yn 2021 i 2022. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Arweiniodd y
Rheolwr Tîm Cynllunio Strategol a’r Arweinydd Tîm Cynllunio Strategol a
Pherfformiad yr aelodau trwy’r adolygiad perfformiad blynyddol (wedi’i
ddosbarthu’n flaenorol). Atgoffwyd yr aelodau
mai diben yr adolygiad oedd darparu golwg cyffredinol o’r cynnydd ar
swyddogaethau statudol allweddol. Mae’r
adroddiad hefyd yn cynnwys y bwriad a’r blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn i
ddod yn ôl gofyniad Mesur Llywodraeth Leol. Hysbyswyd aelodau fod y Mesur
Llywodraeth Leol yn cael ei ddileu yn fuan oherwydd y Ddeddf Llywodraeth Leol
ac Etholiadau. Cadarnhawyd mai bwriad y broses arferol o adolygiadau
Perfformiad Blynyddol oedd cyflwyno adroddiad i Graffu Perfformiad, Cabinet ac
i gael ei gadarnhau gan y Cyngor Llawn. O fewn y Ddeddf newydd mae darpariaeth
orfodol ar gyfer hunanasesiad o berfformiad wedi cael ei gynnwys. Cyfrifoldeb y
Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu yw monitro a goruchwylio hunanasesiad.
Cadarnhaodd y RhTCS bod yr hunanasesiad ddim yn ofyniad tan y flwyddyn nesaf.
Fel prawf fe gynigodd y swyddogion fersiwn drafft o hunanasesiad eleni. Bwriad
yr asesiad drafft oedd trafod y cynnwys, ei ffocws, ei rwymedigaethau statudol
a gofynnwyd am sylwadau a safbwyntiau aelodau. Atgoffwyd
aelodau fod y ATCSPh wedi mynychu cyfarfod Archwilio a Llywodraethu i drafod
gofynion yr Hunanasesiad o dan y Ddeddf. Mae’r hunanasesiad yn gofyn i
swyddogion adolygu nifer o ddarnau o dystiolaeth yn cynnwys yr adolygiad
perfformiad blynyddol, unrhyw adroddiadau rheoleiddio allanol a’r datganiad
Llywodraethu blynyddol. Dywedodd y RhTCS wrth yr aelodau unwaith y bydd yr
ardaloedd llywodraethu wedi cael eu hadolygu byddai cynllun gweithredu ar gyfer
gwella corfforaethol yn cael ei ffurfio. Byddai hyn yn ffurfio sail yr
hunanasesiad. Cadarnhawyd fod
monitro’r perfformiad yn parhau i gael ei gynnwys ym mhwyllgor Craffu
Perfformiad a’r Cabinet. Rôl y Pwyllgor Craffu a Llywodraethu byddai derbyn yr
adroddiad yn flynyddol i’w drafod a’i gadarnhau. Darparodd yr
ATCSPh gadarnhad i’r aelodau eu bod wedi derbyn cyngor annibynnol ar y ffordd
orau i adrodd i aelodau. Cytunwyd i gynnwys saith adran llywodraethu o fewn yr
Adroddiad Perfformiad Blynyddol o dan y teitl Iechyd Corfforaethol i ffurfio un
adroddiad. Dyma’r aelodau
yn diolch i’r RhTCS a’r ATCSPh am yr adroddiad manwl a’r eglurhad clir o’r
hunanasesiad. Amlygwyd fod llawer o waith wedi cael ei wneud i greu’r
hunanasesiad drafft. Yn dilyn y drafodaeth, ymhelaethodd y swyddogion ar y
materion canlynol: ·
Roedd y sicrwydd wedi’i nodi yn yr adroddiad wedi cael ei
ddarparu gan archwilydd annibynnol, wedi’i gomisiynu gan CLlLC. ·
Byddai ymrwymiad yn cael ei gynnwys yn y gwaith o ddatblygu
Cynllun Corfforaethol newydd. Byddai dull cynhwysol gan aelodau ac Aelodau
Lleyg yn cael ei fabwysiadu. Cadarnhaodd y RhTCS fod y cyfnod ymchwil wedi
dechrau a’r cyfnod ymrwymo wedi’i lansio. Sesiynau wedi eu trefnu ar gyfer y
cyhoedd gyda sesiynau ymrwymo yn cael eu trefnu i aelodau a staff Adroddwyd ar y broses
i’r TAS a’r Cabinet i’w fonitro. Diolchodd yr
Aelodau i’r swyddogion am yr adroddiad a PHENDERFYNWYD bod yr aelodau yn adolygu a chymeradwyo’r adroddiad drafft, a’i fod
wedi ystyried unrhyw newidiadau sydd eu hangen i ganlyniadau neu gamau
gweithredu y mae’r cyngor yn bwriadu eu gwneud. |
||
DATGANIAD LLYWODRAETHU BLYNYDDOL 2020-21 PDF 210 KB I ystyried adroddiad gan y Prif Archwilydd Mewnol (copi yn amgaeedig) ar y
Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2020-21. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Arweiniodd y Prif Archwilydd Mewnol yr aelodau trwy’r adroddiad ac atodiad
1 (wedi’i ddosbarthu’n flaenorol). Atgoffwyd aelodau fod yr adroddiad yn casglu
gwybodaeth ar weithgaredd archwilio mewnol, adroddiadau rheoleiddiwr allanol a
hunanasesiad mewnol gan y gweithgor Llywodraethu Corfforaethol, oedd yn adolygu
trefniadau llywodraethu’r cyngor. Roedd gan y
Cyngor ddyletswydd statudol i gyhoeddi Datganiad Llywodraethu Blynyddol (DLlB).
Eglurwyd fod y DLlB wedi ffurfio rhan o’r Datganiad o Gyfrifon. Cafodd ei
gyflwyno i’r aelodau ar wahân er mwyn i aelodau allu trafod ac adolygu’r DLlB
yn unigol. Roedd yr
asesiad DLlB yn nodi effaith y pandemig. Un effaith allweddol a nodwyd oedd yr
anallu i gynnal cyfarfodydd pwyllgor ar ddechrau’r flwyddyn oherwydd rheoliadau
cadw pellter cymdeithasol. Roedd yr effaith o adael yr Undeb Ewropeaidd hefyd
wedi’i gynnwys yn yr DLlB. Dywedodd y PAM
wrth yr aelodau fod gofyniad newydd ar gyfer cynnwys datganiad o
gydymffurfiaeth gyda chod rheolaeth ariannol wedi cael ei gynnwys. Pwysleisiwyd
fod pandemig Covid 19 wedi cael effaith sylweddol ar y Cyngor a’r preswylwyr, a
bod angen addasu’r ffordd yr oeddem yn darparu gwasanaethau i breswylwyr. Atgoffwyd
aelodau o achos llywodraethu sylweddol a gafodd ei godi yng nghyfarfodydd
pwyllgor DLlB y llynedd a ddaeth i’r canlyniad na chaniatawyd cynnal
cyfarfodydd pwyllgor. Mae diweddariad wedi cael ei gynnwys yn y DLlB hwn gan
fod cyfarfodydd wedi cael dod yn ôl ar-lein. Bellach roedd pob cyfarfod y
Cyngor a Chraffu a Llywodraethu yn cael eu gweddarlledu. Cadarnhaodd y Swyddog
Monitro fod cyfarfodydd zoom yn defnyddio gwasanaeth cyfieithu o Hydref 2020. Roedd adolygiad
o effeithiolrwydd yn adran allweddol o'r DLlB. Roedd y DLlB hwn yn ymgorffori’r
trefniadau llywodraethu ar gyfer Hamdden Sir Ddinbych Cyf. Pwysleisiodd y
PAM bwysigrwydd y camau Gwelliant sy’n codi o DLlB 2020-21 gan ei fod yn dangos
tryloywder ac yn arddangos lle i wella ac i fynd i’r afael â hynny eleni. Cadarnhaodd
Matthew Edwards, Archwilio Cymru wrth yr aelodau y byddai Archwilio Cymru yn
adolygu’r DLlB fel rhan o’r datganiadau ariannol. Bydd darganfyddiadau’r
adolygiad yn ffurfio sail adroddiad Archwilio Cymru o’r cyfrifon. Bydd y
darganfyddiadau yn cael eu hadrodd yn ôl i’r pwyllgor ym Medi 2021. Felly, PENDERFYNWYD fod aelodau yn adolygu a chymeradwyo’r DLlB drafft
ar gyfer 2020-21 (atodiad 1) ac y mae’n monitro’r cynnydd a wnaed ar y cynllun
gweithredu o DLlB 2019-20. |
||
ADRODDIAD ARCHWILIO MEWNOL 2020-21 PDF 213 KB I ystyried adroddiad gan y Prif Archwilydd Mewnol (Copi yn amgaeedig) ar
ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd fframwaith llywodraethu, risg a rheolaeth y
Cyngor yn ystod y flwyddyn sy'n hysbysu'r ‘datganiad llywodraethu blynyddol’. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Archwilydd Mewnol (PAM) yr Adroddiad Blynyddol Archwilio
Mewnol (wedi’i ddosbarthu’n flaenorol). Darparodd yr adroddiad safbwynt
cyffredinol y PAM ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd fframwaith llywodraeth,
risg a rheolaeth y Cyngor yn ystod y flwyddyn wnaeth hysbysu’r ‘Datganiad
Llywodraethu Blynyddol’. Roedd gwaith
digonol wedi’i gwblhau yn ystod y flwyddyn yn cynnwys archwiliadau mewn camau
drafft er mwyn sicrhau bod sicrwydd yn cael ei ddarparu. Nodwyd fod y pandemig
coronafeirws wedi tarfu ar gyflenwi’r Cynllun Archwilio Mewnol ar gyfer
2020-21. Roedd wedi arwain ffocws arall i’r cynllun ar agweddau o brif
flaenoriaeth i’r cyngor a allai gael ei gyflawni o fewn yr adnoddau sydd ar
gael i Archwilio Mewnol. Cadarnhawyd ar wahân i’r cyfyngiadau wedi’u gorfodi oherwydd y pandemig, ni
chafodd unrhyw gyfyngiadau neu amhariad ar waith yr archwilio mewnol ei nodi.
Newid i weithio gartref wedi digwydd yn esmwyth ac effeithlon. Mewn ymateb i bryderon a chwestiynau a godwyd gan aelodau fe gadarnhaodd y
PAM fod archwilio hyblyg yn cynnwys cynllun a gytunwyd arno o’r hyn i gael ei
archwilio a’r cynnydd yn cael ei adolygu mewn cyfnodau. Y gobaith yw byddai’n
lleihau’r cyfanswm o amser ar gyfer archwilio i alluogi blaenoriaeth ar feysydd
allweddol ar gyfer archwilio. Hysbyswyd aelodau fod archwiliadau wedi’u gohirio neu ganslo yn cael eu
hymgorffori yn y daenlen dadansoddi anghenion yr archwiliad. Mewnbwn gan nifer
o ffynonellau fel Blaenoriaethau Corfforaethol a Chofrestr Risgiau
Corfforaethol a Chofrestrau Risgiau Gwasanaeth yr awdurdod. Cafodd ei
ddiweddaru yn rheolaidd drwy gydol y flwyddyn i asesu blaenoriaeth o waith i
gael ei gwblhau. Meddai’r PAM wrth yr aelodau fod y Fenter Twyll Cenedlaethol (NFI) ar baru
data yn seiliedig ar wybodaeth y mae’r Cyngor wedi’i lwytho i fyny. Casglwyd y
wybodaeth hon o etholiadau a threth y cyngor. Cyn 2018/19 roedd Civico wedi
cydlynu system wahanol ar gyfer casglu data. Nid oes gor-ddefnydd wedi cael ei
wneud o’r NFI. Mae mwy o ymdrech wedi bod i ganolbwyntio ar baru data. Mae
diwygiad i filiau Treth y Cyngor i’r eiddo hynny wedi’i wneud i adennill rhan
o’r arian. Cadarnhaodd PAM fod yr arwydd ar gyfer cofrestru prosiect ar gyfer cartrefi
gwag yn dod i fyny fel gwyrdd. Cyfeirir at unrhyw bryderon pan fydd y gwaith
asesu rheoli prosiectau wedi’i gwblhau. Diolchodd y Cadeirydd i’r PAM am yr adroddiad a’r ymatebion manwl i bryderon
yr aelodau. Felly, PENDERFYNWYD
fod Adroddiad Blynyddol y Prif Archwilydd Mewnol a’r ‘safbwynt’ cyffredinol
yn cael ei dderbyn a’r cynnwys yn cael ei nodi. |
||
TALIADAU UNIONGYRCHOL I BLANT – ADRODDIAD DILYNOL AR YR ARCHWILIAD MEWNOL PDF 206 KB I dderbyn diweddariad (copi yn amgaeedig) ar gynnydd wrth weithredu’r
cynllun gweithredu oedd yn cyd-fynd â’r adroddiad Archwilio Mewnol ar Daliadau
Uniongyrchol i Blant dyddiedig Tachwedd 2020 a gyflwynwyd i’r pwyllgor hwn yn
Nhachwedd 2020. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Archwilydd Mewnol (PAM) yr adroddiad ar y cyd â’r Uwch
Archwilydd (wedi’i ddosbarthu’n flaenorol). Eglurwyd i’r pwyllgor fod adroddiad
sicrwydd isel wedi cael ei gyflwyno i’r pwyllgor ym mis Tachwedd 2020, a
gofynnodd yr aelodau i adroddiad cynnydd gael ei gyflwyno. Amlygwyd yn y
cynllun gweithredu’r cadarnhad fod y raddfa sicrwydd wedi cael ei ail-asesu yn
seiliedig ar y camau gweithredu wedi’u cwblhau
Mae’r raddfa sicrwydd wedi cael ei ailasesu gyda graddfa ganolig. Mae
camau dilynol pellach wedi’u trefnu ar gyfer Medi 2021 i asesu unrhyw gamau
gweithredu heb eu casglu. Darparodd yr uwch-archwilydd yr aelodau gyda gwybodaeth gefndir ar y
taliadau uniongyrchol sy’n egwyddor allweddol o Ddeddf Gwasanaethau
Cymdeithasol a Llesiant i sicrhau fod unigolion yn cael mewnbwn ar y
canlyniadau ac yn derbyn y cymorth sydd ei angen. Allan o’r 14 camau gweithredu
gwreiddiol a godwyd bod pob un ar wahân i 4 wedi’u cwblhau. Mewn ymateb i gwestiynau aelodau fe ymhelaethodd y swyddogion a'r Aelod
Arweiniol ar y canlynol: ·
Cadarnhad fod galw am wybodaeth bellach gan Fforwm
Taliadau Uniongyrchol Cymru Gyfan i ennill gwell dealltwriaeth o broses monitro
Awdurdodau eraill yng Nghymru. Yn anffodus, ni chafwyd llawer o wybodaeth
bellach ganddynt. ·
Gellir derbyn y cyllid ar gyfer ystod o anghenion yn cynnwys
cymorth personol, seibiant a darpariaeth meithrinfa. Cafodd pob plentyn neu
deulu eu hasesu i werthuso’r lefel o gyllid a chymorth sydd ei angen. ·
Roedd yr archwiliad a gynhaliwyd yn benodol ar gyfer
taliadau uniongyrchol i blant. Mae taliadau uniongyrchol yn ei gyfanrwydd dan
fygythiad twyll. Mae gan Awdurdod Lleol gyfrifoldeb i gefnogi unigolion sy’n
derbyn taliadau uniongyrchol, i sicrhau eu bod nhw’n gallu ymrwymo’n ddigonol â
CP a bod unigolion yn ymwybodol o gyfrifoldebau i reoli risgiau. Roedd yr Archwiliad yn mynd i’r afael â’r
angen i reoli’r risgiau. Diolchodd y
Cadeirydd i’r holl swyddogion a’r Aelod Arweiniol am yr adroddiad manwl.
Cytunodd yr aelodau ar Archwilio Mewnol i reoli’r camau gweithredu heb eu
casglu ac ni wnaeth ddiweddariad pellach i’r pwyllgor. PENDERFYNWYD y byddai’r aelodau yn nodi cynnwys yr adroddiad. |
||
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y PWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO PDF 372 KB Ystyried rhaglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor (copi’n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol (RhGD) Y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu i’w ystyried (eisoes wedi ei rannu). Cytunwyd i
ddiwygio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol fel a ganlyn: ·
Dylid
cynnwys adroddiad Archwilio Mewnol dilynol ar Adeiladau’r Frenhines ar raglen
mis Gorffennaf. Hysbysodd y
Cadeirydd yr aelodau ei fod wedi derbyn gohebiaeth gan Archwilio Cymru i
gynnwys adroddiad chwarterol gan Archwilio Cymru. Bwriad yr adroddiad oedd i
ddarparu adroddiadau cenedlaethol i’r pwyllgor â’r wybodaeth ddiweddaraf i
aelodau am y cynnydd wrth ddilyn y cynllun blynyddol. Awgrymodd y Swyddog Monitro y byddai o fudd
i’r pwyllgor dderbyn adroddiad chwarterol. Cytunodd yr
aelodau i gynnwys adroddiad chwarterol â’r wybodaeth ddiweddaraf gan Archwilio
Cymru ar y RhGD. Penderfynwyd i gynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf yn y cyfarfod
a gaiff ei gynnal ym mis Medi 2021. PENDERFYNWYD yn amodol ar gynnwys yr ychwanegiadau uchod, i nodi rhaglen gwaith
i'r dyfodol y Pwyllgor Archwilio a
Llywodraethu. Daeth y
cyfarfod i ben am 11:22am. |