Agenda and draft minutes
Lleoliad: via video conference
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 197 KB Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol
neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd fel un i'w ystyried yn y
cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafodd unrhyw
gysylltiad ei ddatgan. |
|
MATERION BRYS Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Derbyn
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ac Archwilio a gynhaliwyd
ar 27 Ionawr 2021 (copi’n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ac
Archwilio a gynhaliwyd ar 27 Ionawr 2021. Cadarnhaodd y Swyddog Monitro y byddai nifer o ddiweddariadau yn cael eu
cyflwyno i'r Pwyllgor ynghylch y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru)
2021 pan fo angen. Cadarnhad nad oedd angen newidiadau i strwythur y Pwyllgor
Llywodraethu Corfforaethol ac Archwilio nes Mai 2022. PENDERFYNWYD yn amodol ar yr uchod, y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion cyfarfod y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ac Archwilio fel cofnod cywir. |
|
Y DDYLETSWYDD ECONOMAIDD-GYMDEITHASOL I GYMRU PDF 231 KB Ystyried adroddiad gan y Rheolwr y Tîm Cynllunio Strategol
(copi’n amgaeedig) hysbysu aelodau am y diffiniad o'r Ddyletswydd
economaidd-gymdeithasol, sut
y bydd swyddogaethau allweddol yn y Cyngor yn ymaddasu
i ystyried y Ddyletswydd, a'r mesurau sy'n
cael eu rhoi
ar waith i ymateb i'r gofynion. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Gwasanaethau Corfforaethol a Chyfeiriad
Strategol yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol). Hysbyswyd yr aelodau am y
newidiadau a groesawyd gan Lywodraeth Cymru o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010
adrannau 1-3. Eglurwyd y
byddai’n rhaid cynnal adolygiad gan swyddogion o weithdrefnau o fewn y cyngor
yn dilyn y newidiadau. Y nod fyddai gostwng anfantais economaidd-gymdeithasol
ar draws yr awdurdod. Esboniwyd wrth yr aelodau bod yr adroddiad wedi ei roi gerbron y pwyllgor
er mwyn cyflwyno’r prif newidiadau yn y prif swyddogaethau er mwyn bodloni
gofynion y ddeddfwriaeth. Cadarnhawyd y byddai’r polisi'n cael ei roi ar waith
i'r swyddogion ei fabwysiadu. Ychwanegodd y Rheolwr Tîm Cynllunio Strategol bod gwaith eisoes ar droed i
adolygu nifer o fframweithiau allweddol ar gyfer llunio penderfyniadau a
chynllunio sydd wedi eu mabwysiadu gan y cyngor ar hyn o bryd. Yn yr adroddiad,
manylir am y bwriad i adolygu'r polisi cynllunio, y modiwlau e-ddysgu a’r
cynnwys ar y we ar y tudalennau cydraddoldeb a’r polisi AD. Cadarnhawyd y
byddai Archwilio Mewnol hefyd yn ystyried y ddyletswydd hon ar gyfer gwaith yn
y dyfodol. Diolchodd yr aelodau i'r swyddogion a nodwyd y ddyletswydd i gynnwys y
ddyletswydd economaidd-gymdeithasol ym mholisïau a gweithdrefnau’r Cyngor. Felly: PENDERFYNWYD, y
bydd aelodau’n ·
nodi’r rhesymau am y Ddyletswydd, ei diffiniadau, ac ymrwymo i roi sylw
dyledus i’r Ddyletswydd. ·
nodi’r swyddogaethau craidd sy’n addasu i’r Ddyletswydd a sicrhau bod yr
addasiadau’n cael eu gwneud. ·
Arolygu Asesiadau Effaith ar Les o ran anghydraddoldeb canlyniadau sy’n
deillio o anfantais economaidd-gymdeithasol / tlodi; Sicrhau eu bod yn
perchnogi’r Asesiadau Effaith ar Les y maent yn gyfrifol amdanynt; Herio
swyddogion i ddarparu tystiolaeth neu gymryd camau i lenwi bylchau gwybodaeth
mewn Asesiadau Effaith ar Les a herio casgliadau’r Asesiadau, gofyn i
Swyddogion a yw eu casgliadau’n gywir / yn debygol o fod yn gywir neu beidio,
ac osgoi a herio tuedd obeithiol. |
|
PECYN GWAITH MODEL DARPARU GWASANAETH AMGEN (ASDM) PDF 226 KB Ystyried adroddiad gan y Rheolwr y Tîm Cynllunio Strategol
(copi’n amgaeedig) ar y Pecyn cymorth
Model Darparu Gwasanaeth
Amgen (ASDM) ar gyfer y Cyngor Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Gwasanaethau Corfforaethol a Chyfeiriad
Strategol yr adroddiad i'r aelodau (a ddosbarthwyd yn flaenorol). Esboniwyd bod
y pwyllgor wedi gofyn am y pecyn gwaith er mwyn casglu’r holl adnoddau ynghyd mewn
un pecyn. Roedd y pecyn gwaith yn darparu templedi a chanllawiau i swyddogion
weithio tuag atynt wrth gwblhau tasgau. Cyfathrebwyd gyda phob swyddog i roi’r pecyn gwaith yn ei le. Clywodd yr aelodau mae’r bwriad oedd darllen y pecyn gwaith fel canllaw
wrth sefydlu arferion da mewn llywodraethu mewn partneriaeth, gofynion craffu a
darparu sicrwydd fod trefniadau llywodraethu da mewn lle. Diolchodd yr aelodau i’r swyddogion am yr adroddiad cynhwysfawr y gofynnwyd
amdano. Esboniodd y Swyddog Monitro y byddai’n rhaid ystyried nifer o bethau
eraill megis cydymffurfio â gofynion Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol. Mae’r pecyn gwaith yn rhoi canllaw i
swyddogion ac aelodau ei ddilyn. Diolchodd yr aelodau i’r Aelod Arweiniol a’r swyddogion am yr adroddiad.
Felly, PENDERFYNWYD, y bydd aelodau’n nodi cynnwys y pecyn gwaith Model
Darparu Gwasanaeth Amgen, sut y bwriedir iddo gael ei ddefnyddio, ei
ddiffiniadau, a chymeradwyodd y pwyllgor ei ddefnydd o fewn y Cyngor a phan
fydd y Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth. |
|
Yn y fan hon, cytunwyd amrywio trefn y Rhaglen. Dogfennau ychwanegol: |
|
ARDYSTIO GRANTIAU A FFURFLENNI GRANT 2019/20 PDF 205 KB Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Eiddo (copi’n amgaeedig)
sy'n rhoi crynodeb o ganlyniadau allweddol gwaith ardystio SAC ar grantiau a dychweliadau 2019/20 y
Cyngor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd yr
adroddiad Archwilio Cymru gan Bennaeth Cyllid ac Eiddo (dosbarthwyd yn
flaenorol). Roedd yr adroddiad yn rhoi sicrwydd i'r awdurdod ynghylch
trefniadau’r grantiau. Eglurwyd fod cwmpas yr adroddiad wedi lleihau dros y blynyddoedd
blaenorol gan fod Llywodraeth Cymru wedi gostwng nifer y grantiau oedd angen y
lefel hwn o archwiliad. Cadarnhawyd bod gan y Cyngor drefniadau digonol ar
waith ar gyfer cynhyrchu a chyflwyno ceisiadau grant 2019/20. Bu
i gynrychiolydd Archwilio Cymru, Matthew Edwards, egluro fod angen cyflwyno’r
archwiliad pensiynau athrawon i Lywodraeth Cymru, felly roedd rhaid ei sicrhau.
Nid oedd yn bosib cwblhau un o’r profion oherwydd cyfyngiadau Covid. Sicrhawyd
yr aelodau nad oedd gan Archwilio Cymru unrhyw bryderon ynglŷn â chasglu’r
data gan Archwilio Cymru. Yn gyffredinol nododd y Pennaeth Cyllid ac Eiddo ei
fod yn falch o’r canlyniad o ystyried yr anawsterau a wynebwyd yn ystod y
pandemig. Gofynnodd yr
aelodau os fu’n debyg ar gyfer bob awdurdod yng Nghymru. Dywedodd cynrychiolydd
Archwilio Cymru fod materion Sir Ddinbych wedi bod yn benodol i’r awdurdod, sef
nad oedd copïau electronig yn barod i Archwilio Cymru eu monitro. Pwysleisiwyd os byddai hyn yn parhau byddai'r
materion yn cael eu trin wrth drafod gyda’r tîm cyflogau. Cadarnhawyd oherwydd rheoliadau bod angen
i Archwilio Cymru adrodd i’r geiniog wrth archwilio hawliadau grant waeth beth
fo’r swm mae’r canfyddiadau'n cael eu hadrodd yn ôl. Diolchodd y
Cadeirydd i'r Pennaeth Cyllid ac Eiddo a thîm Archwilio Cymru am yr adroddiad. PENDERFYNWYD y byddai’r aelodau yn nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
CRYNODEB ARCHWILIO BLYNYDDOL PDF 206 KB Derbyn gwybodaeth gan Archwilio Cymru
am grynodeb yr Archwiliad Blynyddol ar gyfer Cyngor
Sir Ddinbych (amgaeir copi). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad Crynodeb Archwilio Blynyddol gan Bennaeth Cyllid ac
Eiddo (dosbarthwyd yn flaenorol). Pwysleisiwyd bod yr adroddiad wedi ei ddiweddaru i fod yn haws ei ddefnyddio a chael gwell mynediad
at wybodaeth. Roedd yr adroddiad yn crynhoi’r gwaith a wnaed dros y flwyddyn
flaenorol ar gyfer mynediad sydyn. Bu i Matthew Edwards, cynrychiolydd Archwilio Cymru, gyflwyno Jodie
Williams, eglurwyd wrth aelodau fod Jodie Williams wedi ei dyrchafu yn ddiweddar
yn Arweinydd Archwilio a byddai’n cyfrannu at waith archwilio Sir Ddinbych.
Roedd yr adroddiad yn rhoi trosolwg i aelodau o ddyletswyddau’r Archwilydd
Cyffredinol a Sir Ddinbych ac yn crynhoi’r canfyddiadau. Ychwanegodd David Wilson (cynrychiolydd Archwilio
Cymru) fod nifer o bapurau blaenorol, canfyddiadau Sir Ddinbych a phapurau
rhanbarthol, wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Cadarnhad fod dolenni i’r
adroddiadau wedi eu cynnwys yn y ddogfen. Sicrhawyd aelodau ynghylch gwaith
cyfredol Archwilio Cymru. Bydd gwaith parhaus ar y cynllun adfer Covid a dysgu
Covid yn parhau. Roedd yr aelodau yn cytuno bod yr adroddiad yn darparu eglurder o ran
gwaith Archwilio Cymru. Mewn ymateb i gwestiynau gan aelodau eglurodd y
cynrychiolwyr y canlynol; ·
O ran astudiaethau Llywodraeth
Leol, eglurwyd fod swyddogion yn ystyried yr adroddiad ac yn teimlo ei fod yn
adnabod materion a fyddai'n ymwneud yn benodol â Sir Ddinbych ac adrodd yn y
modd priodol. ·
Sir Ddinbych yn cyfrannu at y
fenter twyll cenedlaethol, anfonwyd gwybodaeth i’r fenter i’w dadansoddi. Cadarnhaodd y Prif Archwilydd Mewnol fod
crynodeb o’r canlyniadau NFI wedi ei gynnwys yn yr adroddiad diweddariad
Archwilio Mewnol. Diolchodd aelodau i'r swyddogion ac Archwilio Cymru am yr ymateb manwl i
gwestiynau. Felly, PENDERFYNWYD, fod aelodau yn nodi Crynodeb Archwiliad Blynyddol Archwilio Cymru i Gyngor Sir Ddinbych.
|
|
CYNLLUN ARCHWILIO ARCHWILIO CYMRU 2021-22 PDF 207 KB Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Eiddo (copi’n amgaeedig) ar yr Cynllun
Archwilio Archwilio Cymru ar gyfer
2021 - 22. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Arweiniwyd yr aelodau drwy’r adroddiad (a
ddosbarthwyd yn flaenorol) gan y Pennaeth Cyllid ac Eiddo. Eglurwyd
fod yr adroddiad yn nodi gwaith Archwilio Cymru i’w gwblhau yn 2021-22 o
safbwynt ariannol a pherfformiad. Cadarnhaodd Matthew Edwards (Archwilio Cymru) bod yr adroddiad blynyddol yn
cynnwys y gwaith ar gyfer y meysydd allweddol o gyfrifoldeb o ran archwilio
perfformiad ac ariannol. Clywodd aelodau fod y cysyniad o fateroliaeth yn
gysylltiedig â’r gwaith. Eglurwyd na geisiwyd sicrwydd llwyr wrth adolygu
datganiadau a nodiadau ariannol. Aethpwyd trwy’r adroddiad a’r risgiau a nodwyd
gan gynrychiolydd Archwilio Cymru. Rhoddwyd rhesymau cynhwysfawr dros y risgiau
i aelodau. Roedd y risgiau allweddol a nodwyd yn cynnwys y
risg o reolwyr yn gwrthwneud rheolyddion, cwmni is-gorff y cyngor - Hamdden Sir
Ddinbych a dau faes a effeithiwyd gan y pandemig Covid-19 - pwysau ar
adnoddau staff yn gweithio o bell yn effeithio o bosib ar baratoi, archwilio a
chyhoeddi cyfrifon. Amlygwyd y
cyfeiriad at y tîm ffioedd ac archwilio, bu i’r cynrychiolydd gadarnhau nad
oedd y ffi wedi newid llawer ac roedd Archwilio Cymru yn hyderus y gallai’r
risgiau penodol gael eu cynnwys yn y ffi a osodwyd. Pwysleisiodd cynrychiolydd Archwilio Cymru bwysigrwydd cyfathrebu da gyda’r
tîm cyllid i barhau i weithio’n effeithiol.
Bu i David Wilson o Archwilio Cymru amlygu’r rhaglen waith o faes
perfformiad y gwaith. Cyfeiriwyd at agwedd gwelliant parhaus yr adroddiad. Canfuwyd y byddai
cyflwyno Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau Cymru 2021 yn cael effaith ar
waith Archwilio Cymru gan gynnwys asesiad o berfformiad a fyddai’n cael ei
archwilio gan Archwilio Cymru. Yn ystod y trafodaethau ehangwyd ar y meysydd canlynol: ·
Byddai’n ddoeth cael
ymateb gydlynus wrth adolygu’r ffynonellau ariannu gan Lywodraeth Cymru.
Cydweithio gydag Archwilio Mewnol a Llywodraeth Cymru i sicrhau fod symiau’n
cael eu datgelu’n gywir a’u dyrannu’n gywir mewn cyfrifon. Ar hyn o bryd nid
oedd angen i Archwilio Cymru ystyried yr agwedd dwyll ar ariannu. Trafodaeth
barhaus ynghylch swyddogaeth Archwilio Cymru. Cadarnhad bod Archwilio Mewnol
wedi cwblhau gwaith ar ymdrin â gwaith grant a ffynonellau ariannu. ·
Roedd ychydig o arian at raid
wedi’i gynnwys yn ffi Archwilio Cymru i fynd i’r afael ag unrhyw ymholiadau gan
etholwyr ac aelodau’r cyhoedd. Eglurwyd os byddai nifer yr ymholiadau yn
cynyddu y gallai hynny gynyddu'r ffi ac y byddai trafodaeth yn cael ei chynnal
gyda'r Pennaeth Cyllid. ·
Clywodd yr Aelodau fod IFRS 16
yn ofyniad ar holl gyrff y sector cyhoeddus. Cafwyd cadarnhad fod hyn wedi cael
ei ohirio yn sgil pandemig Covid-19. Byddai’r safon newydd yn gofyn am gryn
dipyn o waith i gydymffurfio â’r gofynion. Cefnogaeth a thrafodaeth gyda’r
adran gyllid i sicrhau y cydymffurfiwyd. Yn dilyn trafodaethau bu i David Wilson
gadarnhau y byddai'n darparu gwybodaeth ychwanegol i aelodau a sylwedyddion
ynglŷn â’r gweithdrefnau y bu i Archwilio Cymru eu dilyn wrth archwilio
Llywodraeth Ganolog yng ngoleuni’r newidiadau oherwydd pandemig Covid-19. Diolchodd y Cadeirydd i Archwilio Cymru a’r swyddogion am yr adroddiad a: PENDERFYNWYD y
byddai aelodau yn nodi cynnwys Cynllun Archwilio Cymru 2021-22. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y PWYLLGOR LLYWODRAETHU CORFFORAETHOL PDF 382 KB Ystyried rhaglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor (copi’n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ac Archwilio
(a gylchredwyd eisoes) i’w hystyried. Cytunwyd i ddiwygio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol fel a ganlyn: 9 Mehefin 21 – I gynnwys y Datganiad Llywodraethu Blynyddol. 28 Gorffennaf 21 – Adroddiad ar RIPA yn dilyn archwiliad bwrdd gwaith. I gynnwys y Ddeddf Llywodraeth Leol fel eitem i wneud newidiadau i’r
cyfansoddiad ar gyfer yr agenda yn y dyfodol. PENDERFYNWYD nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ac
Archwilio. |
|
SEIBERGADERNID YN Y SECTOR CYHOEDDUS Ystyried adroddiad cyfrinachol ar seibergadernid yn y sector cyhoeddus (copi’n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: GWAHARDD Y WASG A'R CYHOEDD Er mwyn mynd i’r afael â’r pryderon a godwyd yn adroddiad
Swyddfa Archwilio Cymru am Gadernid Seibr yn y sector cyhoeddus ac i drafod yr
adroddiad cyfrinachol - PENDERFYNWYD, dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972,
gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar y sail y byddai gwybodaeth
eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraff 18 Rhan
4 Atodlen 12A y Ddeddf. Adroddiad
cyfrinachol gan Archwilio Cymru (dosbarthwyd yn flaenorol) yn darparu
gwybodaeth yn ymwneud â gwytnwch seiber yn y sector cyhoeddus. Trafododd
aelodau’r angen i fod yn fwy ymwybodol o seiberdroseddu. Nodwyd fod y defnydd o
TG wedi cynyddu yn dilyn y pandemig, teimlai aelodau y byddai’n fuddiol darparu
gwybodaeth i aelodau ynglŷn a gwytnwch seiber. Cytunodd yr
aelodau y byddai’n ddefnyddiol cyflwyno adroddiad dilynol i’r pwyllgor ar y
gwaith mae Sir Ddinbych yn ei wneud mewn perthynas â gwytnwch seiber yn y
sector cyhoeddus. Felly, PENDERFYNWYD bod aelodau yn nodi cynnwys yr adroddiad
cyfrinachol a bod yr adroddiad dilynol yn cael ei gynnwys ar y Rhaglen Gwaith
i’r Dyfodol. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 11.35 a.m. Dogfennau ychwanegol: |