Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwllgor 1A, Neuadd Y Sir, Ruthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Martyn Holland a'r Cynghorydd Joe Welch. Cafwyd
ymddiheuriadau am absenoldeb gan yr Aelod Lleyg Paul Whitham Cafwyd
ymddiheuriadau am absenoldeb gan gynrychiolwyr Swyddfa Archwilio Cymru Derwyn Owen a Gwilym Bury. |
|
Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad
personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd fel un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni chafodd unrhyw
gysylltiad ei ddatgan. |
|
MATERION BRYS Rhybudd o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Dim materion
brys. |
|
Derbyn
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd 2018 (copi’n
amgaeedig). Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd
2018. PENDERFYNWYD y
dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol a gynhaliwyd ar 21
Tachwedd 2018 fel cofnod cywir. |
|
Ar y pryd hwn, cytunwyd amrywio trefn y Rhaglen. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL AM Y CYFANSODDIAD GAN GYNNWYS Y CYLCH GORCHWYL PDF 283 KB Ystyried
adroddiad gan y Swyddog Monitro (copi’n amgaeedig) sy’n rhoi diweddariad i
aelodau am Gyfansoddiad y Cyngor ac adolygiad o’i ddarpariaethau, yn benodol, gweithredu
cydbwysedd gwleidyddol ar gyfansoddiad y Cabinet. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Monitro'r Adroddiad Blynyddol ar y Cyfansoddiad gan
gynnwys y cylch gorchwyl (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn darparu adolygiad i
aelodau o’i ddarpariaethau, yn arbennig, gweithredu cydbwysedd gwleidyddol i
gyfansoddiad y Cabinet.
Cadarnhaodd MO fod y Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol yn rhan o’i gylch gorchwyl sydd ei angen i fonitro ac adolygu
Cyfansoddiad y Cyngor. Roedd yr adroddiad a ddarparwyd i aelodau'n cyfeirio at
ddiweddariadau i’w gwneud i’r Cyfansoddiad i ystyried penderfyniadau’r Cyngor
a’r Cabinet ac unrhyw newidiadau a oedd wedi digwydd ers yr adolygiad diwethaf. Amlygwyd fod y Cyngor wedi cytuno ar gynnig ar 23 Hydref 2018 i ofyn i’r
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ystyried dewisiadau ar sut y gellid newid y
Cyfansoddiad i ddileu'r gofyniad am gydbwysedd gwleidyddol yn y Cabinet ac
adrodd ei gasgliadau i’r Cyngor Llawn ar 19 Chwefror 2019. Tywysodd yr MO aelodau drwy Atodiad 4 yr adroddiad, a oedd yn amlygu’r
newidiadau arfaethedig i’r cyfansoddiad. Sylwodd aelodau bod adroddiad cwynion wedi ei gyflwyno’n rheolaidd i’r
Pwyllgor Craffu Perfformiad a derbyniwyd trosolwg flynyddol o’r weithdrefn
gwyno. Roedd aelodau’n cytuno y dylai’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol
dderbyn adroddiad blynyddol yn monitro’r weithdrefn gwyno ac yn nodi unrhyw
dueddiadau y gallai fod angen eu hystyried. Nodwyd y gellid cyfeirio unrhyw
faterion yn codi o adroddiad o’r fath i Gadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu
bennu a oedd angen unrhyw graffu pellach... Cadarnhaodd Aelodau a’r Cadeirydd eu bod yn cytuno gyda’r diwygiadau arfaethedig. Tywysodd yr MO aelodau drwy Atodiad 1 yr adroddiad, a oedd yn amlinellu
ffurf a chyfansoddiad y Cabinet. Y model a fabwysiadwyd gan Sir Ddinbych ar hyn
o bryd oedd y ‘model arweinydd cadarn’ lle mae gan yr arweinydd yr awdurdod i
benodi aelodau’r Cabinet. Cadarnhawyd mai Cyngor Sir Ddinbych oedd yr unig awdurdod yng Nghymru lle’r
oedd gofyniad i gael Cabinet gyda chydbwysedd gwleidyddol. Nid oes unrhyw
ofyniad cyfreithiol ar y Cabinet i gynnal cydbwysedd gwleidyddol. Yn dilyn trafodaeth fanwl, trafodwyd y pwyntiau canlynol mewn rhagor o
fanylder: ·
Roedd aelodau’n cytuno mai’r Model Arweinydd Cryf oedd y model mwyaf
priodol i ethol aelodau’r Cabinet. ·
Roedd pob plaid wleidyddol yn cyfrannu at y broses benderfynu. Gwahoddwyd arsylwyr i sgwrsio a thrafod materion yn y Cabinet. Mynegodd
Aelodau bryder mai Sir Ddinbych oedd yr unig awdurdod yng Nghymru i fod â’r
gofyniad i gael cydbwysedd gwleidyddol. ·
Cytunwyd fod y newid wedi bod er gwell. Os cytunwyd ar y newid, byddai’n rhaid i’r canlyniad gynnig gwell
canlyniadau i drigolion Sir Ddinbych. Teimlai mwyafrif yr aelodau y byddai diddymu’r gofyniad am gydbwysedd
gwleidyddol yn y Cabinet yn caniatáu cwmpas ehangach i’r unigolion benodi ar y
Cabinet a chynnig rhagor o wybodaeth ac arbenigedd. Nododd aelodau
fod rhan gan bawb mewn penderfyniadau. Diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion am yr adroddiad manwl a'r gwaith a
gyflwynwyd. Roedd aelodau’n gwerthfawrogi cymhlethdod y testun. Cynigiodd Aelodau argymell i’r Cyngor y dylid diddymu’r gofyniad am
gydbwysedd gwleidyddol a pharhau â’r model Arweinydd Cryf a fabwysiadwyd.
Pleidleisiodd yr Aelodau chymeradwywyd y cynnig. Felly; PENDERFYNWYD bod aelodau’n i.
Argymell bod y Cyngor yn dileu
Cydbwysedd Gwleidyddol yn y Cabinet ac yn mabwysiadu’r model “Arweinydd Cryf”; ii.
cytuno i’r newidiadau
arfaethedig i’r Cyfansoddiad fel y nodir yn Atodiad 3 a 4 i’r adroddiad. |
|
STRATEGAETH RHEOLI TRYSORLYS FLYNYDDOL PDF 216 KB Ystyried
adroddiad gan y Prif Swyddog Cyllid (copi’n amgaeedig) ar Reoli Trysorlys er
mwyn caniatáu i’r pwyllgor adolygu’r Strategaeth Rheoli Trysorlys a
Dangosyddion Darbodus cyn iddynt gael eu hystyried i’w cymeradwyo gan y Cyngor
ar 19 Chwefror 2019. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Prif Swyddog Cyllid (CFO) Adroddiad y Datganiad Strategaeth Rheoli Trysorlys
Flynyddol (TMSS) (Atodiad 1 – cylchredwyd yn flaenorol) a oedd yn dangos sut y
byddai’r Cyngor yn rheoli ei fuddsoddiadau a’i fenthyca am y flwyddyn i ddod ac
mae’n amlinellu’r Polisïau y mae’r swyddogaeth Rheoli Trysorlys yn gweithredu
oddi mewn iddynt. Mae’r Adroddiad
Diweddaru ar Reoli Trysorlys (atodiad 2) yn rhoi manylion am weithgareddau
Rheoli Trysorlys y Cyngor yn ystod 2018/19. Mae Cod Ymarfer
Rheoli Trysorlysoedd y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth
(“Cod TM CIPFA”) yn gorchymyn fod y Cyngor yn cymeradwyo’r TMSS a’r
Dangosyddion Darbodus yn flynyddol. Mae gofyn i’r Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol adolygu’r adroddiad hwn cyn y caiff ei gymeradwyo gan y Cyngor ar
19 Chwefror 2019. Codwyd y
materion canlynol yn ystod trafodaethau - ·
Rhoddwyd cadarnhad y byddai’r adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor
llawn yn dilyn argymhelliad yr aelodau. ·
Nododd y CFO bod y Cyngor yn defnyddio Ymgynghorwyr Trysorlys Arlingtonclose
Ltd. Roedd y contract gyda’r asiantaeth ymgynghori wedi ei adnewyddu ym mis
Ionawr 2019 am dair blynedd. ·
Benthycodd Cyngor Sir Ddinbych arian at ddibenion cyfalaf yn unig. Mae’r Cyngor wedi benthyca mwy o gyllid yn sgil datblygiadau diweddar yn
y Sir. ·
Roedd y
gronfa Bensiynau yn gronfa ar wahân a oedd a’i threfniadau llywodraethu ei hun. Diolchodd y
Cadeirydd i’r swyddogion am yr adroddiad agored a chydnabod y gwaith caled
roedd yr adran gyllid wedi ei wneud yng nghanfyddiadau’r adroddiad. PENDERFYNWYD fod y Pwyllgor yn nodi
Datganiad Strategaeth Rheoli Trysorlys ar gyfer 2018/19, a’r dangosyddion Darbodus o 2019/20 i 2020/21. Mae’r Pwyllgor yn nodi’r Adroddiad Diweddaru Rheoli Trysorlys ac yn cadarnhau ei fod wedi darllen, deall
ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les fel rhan o’i ystyriaethau. |
|
CAU’R DATGANIAD CYFRIFON PDF 383 KB Ystyried
adroddiad gan y Prif Gyfrifydd (copi’n amgaeedig) yn rhoi’r wybodaeth
ddiweddaraf i aelodau ar y cynnydd o ran y broses statudol o gau'r cyfrifon yn
gynnar. Cofnodion: Cyflwynodd y
Prif Gyfrifydd yr adroddiad (a gylchredwyd yn flaenorol) a oedd yn rhoi
crynodeb o’r gwaith oedd angen yn ystod y broses o gau cyfrifon ar ddiwedd y
flwyddyn ariannol a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau ar y cynnydd a wnaed
tuag at gau cyfrifon yn gynnar yn ôl statud. Amlygodd yr adroddiad newid a
gytunwyd arno yn y ffordd y mae’r Cyngor yn delio â gwallau ansylweddol a nodir
yn ystod yr archwiliad a fydd yn effeithio ar adroddiad terfynol Swyddfa
Archwilio Cymru i’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol. Tywysodd CA yr
aelodau drwy’r adroddiad, gan amlygu cynnig Llywodraeth Cymru i ddod â
dyddiadau cyhoeddi’r Datganiad Cyfrifon yn eu blaen. Cadarnhawyd y sylwyd ar
gynnydd y llynedd i gau’r Datganiad Cyfrifon yn gynharach na’r flwyddyn
flaenorol. Rhoddodd y CA sicrwydd i aelodau fod y Cyngor yn gwneud cynnydd
cadarnhaol wrth weithio tuag at derfynau amser cynharach ar gyfer y flwyddyn i
ddod. Diolchodd y CA
i gynrychiolwyr a swyddogion SAC am y gefnogaeth a gweithio i sicrhau fod
cydymffurfiad â'r terfyn amser cynharach wedi ei gyflawni. Cadarnhawyd fod
perthynas waith gryf wedi ei sefydlu rhwng Swyddogion Sir Ddinbych a SAC ar
gyfer gwaith cydlynol, Adleisiodd y
cynrychiolydd SAC y diweddariad gan y CA, gan ychwanegu fod cyfathrebu gyda’r
Tîm Cyllid yn parhau'n dryloyw. Byddai cwblhau set o gyfrifon glan yn parhau i
fod yn flaenoriaeth i’r Cyngor a SAC. Codwyd y
materion canlynol yn ystod trafodaethau - ·
Rhoddwyd sicrwydd
fod y terfynau amser hyd yma i gyd wedi eu cyflawni ac roedd gwaith i gwrdd â'r
targed ar gyfer 18/19 ar y trywydd cywir. ·
Roedd gwaith i drosglwyddo'r Datganiad Cyfrifon craidd o Ddogfen Word i
Daenlen Excel wedi dechrau. Teimlwyd y byddai hyn yn cyflymu’r broses o grynhoi yn y mis terfynol a
helpu i ddileu gwallau teipio. PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn yr adroddiad a nodi, I. y cynnydd a wnaed tuag at gyflawni’r dyddiadau cau
cynnar a fynnir gan Lywodraeth Cymru, II. y newid dull o ran y ffordd mae’r Cyngor yn delio â
nodi croniadau sydd wedi eu
cytuno arnynt gyda SAC, sy’n cynnwys cyflwyno de-minimis o £1,000 ar gyfer
croniadau gorfodol. |
|
LLYTHYR ARCHWILIO BLYNYDDOL PDF 272 KB Derbyn er
gwybodaeth Llythyr Archwilio Blynyddol Cyngor Sir Ddinbych 2018–2019, gan
Swyddfa Archwilio Cymru (copi'n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Darparodd
Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) lythyr gwybodaeth i Aelodau (dosbarthwyd yn flaenorol) yn
rhoi manylion y llythyr Archwilio Blynyddol i Gyngor Sir Ddinbych 2018-2019. Cadarnhaodd y
cynrychiolydd SAC y byddai adroddiad ar ardystio hawliadau grantiau a
ffurflenni yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol unwaith
y byddent yn cael eu cwblhau. PENDERFYNWYD, fod y pwyllgor yn
derbyn ac yn nodi cynnwys llythyr SAC. |
|
Ar y pwynt hwn
(11:10 a.m.) roedd 10 munud o egwyl. Ailddechreuodd y cyfarfod am 11.20 a.m. |
|
DIWEDDARIAD ARCHWILIO MEWNOL PDF 361 KB Ystyried
adroddiad gan y Prif Swyddog Mewnol (copi'n amgaeedig) yn rhoi gwybod i aelodau
am gynnydd Archwilio Mewnol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Prif Archwilydd Mewnol yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn rhoi’r
wybodaeth ddiweddaraf i aelodau ar gynnydd y Tîm Archwilio Mewnol o safbwynt
darparu’r gwasanaeth, sicrwydd darparu, adolygiadau wedi eu cwblhau,
perfformiad ac effeithiolrwydd wrth gyflawni gwelliant. Roedd yr
adroddiad yn rhoi gwybodaeth ar y gwaith a wnaed gan Archwilio Mewnol ers y
cyfarfod pwyllgor diwethaf. Roedd yn caniatáu’r
pwyllgor i fonitro perfformiad a chynnydd Archwilio Mewnol
yn ogystal â rhoi crynodebau o adroddiadau Archwilio Mewnol. Tywysodd y CIA
aelodau drwy'r adroddiadau a oedd yn cynnig y wybodaeth ddiweddaraf hyd nes
diwedd mis Rhagfyr 2018 ar - ·
Adroddiadau
archwilio mewnol a gyhoeddwyd yn ddiweddar h.y. Rheoli Risg, Caffael TG,
Gwasanaeth Cofrestru ac Anghenion Dysgu Ychwanegol, Adennill a Lleoliadau Tu
Allan i’r Sir; ·
Cynnydd ar y gwaith Archwilio Mewnol hyd yma
yn 2018-19; ·
Cynnydd ar waith gwrth-dwyll gan gynnwys
Tystysgrifau Cronfa’r Ysgol; ·
Y wybodaeth ddiweddaraf ar berfformiad
Archwilio Mewnol yn erbyn safonau a osodwyd; a ·
Y wybodaeth ddiweddaraf ar gynnydd gyda Arfer
Da CIPFA ar gyfer Pwyllgorau Archwilio. Trafodwyd y
materion canlynol yn fanylach – ·
Anghenion Dysgu Ychwanegol, Adennill a Lleoliadau Tu Allan i’r Sir –
Cadarnhaodd y CIA fod y gyllideb oedd ei hangen yn fater cenedlaethol. Roedd aelodau’r Cabinet wedi eu hysbysu am y sefyllfa bresennol ac roedd
y risgiau wedi eu monitro’n dda hyd yma. ·
Rheoli Risg – Nododd yr Aelodau’r gwaith oedd wedi ei wneud i wella
Rheoli Risg yn y Cyngor. Amlygwyd fod rheoli risg wedi gweithio’n dda. ·
Caffael TG – Cyfeiriodd y CIA at y materion a amlygwyd yn yr adroddiad. Cadarnhawyd fod gwaith wedi dechrau i fynd i’r afael â’r materion a
godwyd yn yr archwiliad ac roedd gwaith ar y gweill i fynd i’r afael â materion
oedd heb eu datrys. ·
Cynnydd gyda Gwaith Atal Twyll – Cadarnhaodd y CIA bod swyddogion o’r
adran archwilio wedi mynd ar gwrs sgiliau ymchwilio twyll. Nododd aelodau fod ffigyrau twyll wedi cynyddu. Cadarnhaodd y CIA fod
gwaith gyda AD wedi parhau i sefydlu unrhyw dueddiadau. Roedd yn bwysig amlygu
pwysigrwydd rhoi gwybod am achosion twyll. Roedd aelodau’n falch i nodi’r
gwaith gan swyddogion i fynd i’r afael â thwyll. ·
Tystysgrif Cronfa’r Ysgol – Roedd ceisiadau i Ysgolion am Dystysgrifau
Cronfa’r Ysgol wedi symud yn eu blaen. Roedd y gwaith i gael pob tystysgrif ysgol yn parhau. Diolchodd Aelodau
i’r CIA a’r tîm oedolion am y gwaith parhaus. Teimlai Aelodau ei bod yn bwysig
amlygu pwysigrwydd gweithio gyda Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â phryderon
cenedlaethol ynghylch anghenion dysgu ychwanegol. PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn yr adroddiad gyda
diweddariad am yr adain archwilio mewnol, a nodi ei gynnwys. |
|
ADRODDIAD DIWEDDARU - YR UNED GAFFAEL AR Y CYD PDF 269 KB Ystyried
adroddiad gan y Prif Swyddog Mewnol (copi’n amgaeedig) sy’n darparu diweddariad
i aelodau am gynnydd o ran gweithredu’r camau gweithredu a gytunwyd o ran
adroddiad sicrwydd isel “Yr Uned Gaffael Gorfforaethol ar y Cyd” a gyflwynwyd
i’r Pwyllgor hwn ym mis Mehefin 2018. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Prif Archwilydd Mewnol yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol). Roedd yr
adroddiad yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau ar gynnydd wrth gyflwyno’r
cam a gytunwyd arno yn ymwneud â’r adroddiad sicrwydd isel “Uned Gaffael ar y
Cyd” a gyflwynwyd i’r Pwyllgor ym mis Mehefin 2018. Tywysodd y
Rheolwr Gweithrediadau Cyfreithiol (LPOM) a Chaffael yr aelodau drwy’r
adroddiad. Rhoddodd yr LPOM y wybodaeth ddiweddaraf i aelodau ar bob gweithred
a godwyd fel rhan o’r archwiliad cychwynnol a phwysleisiodd y gwaith oedd wedi
ei wneud i fynd i’r afael â’r pryderon a amlygwyd. Cadarnhaodd y
CIA fod Sir y Fflint wedi derbyn yr adroddiad. Roedd yr Archwiliad wedi bod yn
adlewyrchiad ar berthynas waith ar y cyd ac roedd wedi bod yn hollbwysig i’r
ddau awdurdod graffu ar y canfyddiadau. Pwysleisiodd y Swyddog
Monitro’r gwaith oedd wedi ei sefydlu gan yr LPOM i wella’r safonau a mynd i’r
afael â phryderon yr uned gaffael ar y cyd. Amlygwyd fod angen gwneud gwaith
pellach i sicrhau fod gweithdrefnau cadarn. Hysbyswyd aelodau pa mor bwysig
oedd hi fod y swyddogion yn deall y polisïau a gweithdrefnau yn ymwneud â
chaffael. Diolchodd y
Cadeirydd i’r LPOM am yr esboniad tryloyw ac agored am y gwaith oedd wedi ei
sefydlu i fynd i’r afael â’r pryderon a godwyd yn y lle cyntaf. Roedd aelodau’n
falch i weld fod gwaith wedi dechrau i sefydlu ymagwedd gadarnhaol tuag at
weithio ar y cyd â Sir y Fflint. Nodwyd fod yr adran archwilio mewnol wedi
trefnu adolygiad dilynol a fyddai’n digwydd ym mis Mawrth. Cadarnhaodd y CIA y
byddai canfyddiadau’r adolygiad a fyddai’n cael ei gynnal ym mis Mawrth yn cael
eu cyflwyno i aelodau ar ôl y canfyddiadau. PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad diweddaru gan y Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol a nodi’r cynnwys. |
|
ARCHWILIAD MEWNOL O’R GWASANAETH COFRESTRU PDF 185 KB Ystyried
adroddiad gan y Prif Swyddog Mewnol (copi'n amgaeedig) sy’n rhoi manylion am
adroddiad Archwilio Mewnol diweddar ar y Gwasanaeth Cofrestru a gafodd raddfa
Sicrwydd 'Isel'. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Prif Archwilydd Mewnol (CIA) yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol), yn
rhoi manylion i aelodau ynghylch adroddiad yr Archwiliad Mewnol o’r Gwasanaeth
Cofrestru a oedd wedi cael sgôr sicrwydd ‘Isel’. Tywysodd yr
Aelod Arweiniol Safonau Corfforaethol, gyda’r Rheolwr Cyfreithiol a Chymorth
Busnes, yr aelodau drwy’r adroddiad Archwilio. Croesawodd yr
Aelod Arweiniol yr adroddiad a chydnabu'r materion a godwyd ganddo. Nodwyd fod
y cais am archwiliad wedi ei wneud gan yr adran i gynorthwyo swyddogion i
wella’r gwasanaeth cofrestru a ddarparwyd gan y Sir. Hysbyswyd aelodau fod
nifer o newidiadau wedi eu gwneud yn y gwasanaeth. Dywedodd y
Swyddog Monitro fod y materion a godwyd yn yr adolygiad o’r archwiliad wedi eu
nodi a’u hadnabod gan yr adran er mwyn eu gwella. Roedd gwaith i wella’r
gwasanaeth wedi dechrau cyn y cyfarfod uwchgyfeirio a nodwyd a oedd yn ddull
cadarnhaol o adrodd canfyddiadau. Canmolodd Aelodau’r gwaith i ddatblygu’r gwasanaeth cofrestru ac roeddent
yn falch gyda’r symud i Neuadd y Dref y Rhyl at ddibenion cofrestru.
Llongyfarchodd yr aelodau’r adran am y gwaith roeddynt wedi ei wneud i hyrwyddo
gwasanaethau cofrestru’r awdurdod. Diolchodd y Cadeirydd i’r Aelod Arweiniol a Swyddogion am yr adroddiad
tryloyw. Rhoddwyd canmoliaeth i’r cais am archwiliad a rhoddwyd cefnogaeth gan
aelodau i wella’r gwasanaeth cofrestru. Cytunodd yr aelodau i fonitro’r cynllun
gweithredu archwilio a gofynnodd i adroddiad diweddaru gael ei roi i’r pwyllgor
ym mis Medi 2019. PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol; I. Yn derbyn yr adroddiad ac yn nodi ei gynnwys a II. Cynnwys diweddariad ar yr Uned Gaffael ar y Cyd yn y
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ar gyfer mis Medi 2019. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y PWYLLGOR LLYWODRAETHU CORFFORAETHOL PDF 309 KB Ystyried rhaglen
gwaith i’r dyfodol y pwyllgor (copi’n amgaeedig). Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol
(a ddosbarthwyd eisoes) i’w hystyried. Cadarnhaodd y
Pwyllgor Raglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol, yn
ddibynnol ar y diwygiadau canlynol:- Mawrth 2019 - ·
Adroddiad RIPA blynyddol. Yn cynnwys adroddiad yr arolygiad. ·
Adroddiad Strategaeth Flynyddol Archwilio Mewnol. 5 Mehefin 2019
- ·
Adroddiad Blynyddol Archwilio Mewnol ·
Adroddiad diweddaru ar yr Adroddiad Archwilio Mewnol Caffael 11 Medi 2018 – ·
Adroddiad diweddaru ar Adroddiad Archwilio Mewnol y Gwasanaeth Cofrestru PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn
cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol. |
|
Daeth y cyfarfod
i ben am 12:35 p.m. |