Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwllgor 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Dim. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 197 KB Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd fel un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Datganodd y
Cynghorydd Tony Flynn gysylltiad personol yn eitem 5 ar y rhaglen – Adroddiad
Atal Digartrefedd, gan ei fod yn landlord eiddo rhent. Datganodd y
Cynghorydd Barry Mellor a'r Cynghorydd Alan James gysylltiad personol yn eitem
7 ar y rhaglen – Diweddariad Archwilio Mewnol, gan fod y ddau ar y bwrdd
Partneriaeth TCC.
|
|
MATERION BRYS Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
fater brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 07 Chwefror 2018
(copi’n amgaeedig). Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 07 Chwefror
2018. Dim materion yn
codi. PENDERFYNWYD yn amodol ar yr uchod, y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion cyfarfod y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol fel cofnod cywir. |
|
ADRODDIAD ATAL DIGARTREFEDD PDF 216 KB Derbyn er
gwybodaeth (copi wedi'i amgáu) diweddariad am gynnydd y Cynllun Gweithredu Atal
Digartrefedd i’w gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu Partneriaethau ar 03 Mai 2018. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Tony Flynn gysylltiad personol â’r eitem hon ar y
rhaglen. Darparwyd adroddiad gwybodaeth gan y Rheolwr Gwasanaeth – Gwasanaethau
Cymunedol a Busnes (a gylchredwyd yn flaenorol). Roedd y
Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth yn bresennol ar
gyfer yr eitem. Eglurodd Rheolwr y Gwasanaeth (SM) fod yr adroddiad gwasanaeth wedi’i
gyflwyno i'r Pwyllgor Craffu Partneriaethau 3 Mai 2018 er mwyn cael trafodaeth.
Cyflwynwyd yr adroddiad i’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol er gwybodaeth,
ac i roi sicrwydd i aelodau bod y gwasanaeth wedi ymateb i’r argymhellion a
gafwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru. Yn dilyn trafodaethau, cadarnhaodd yr SM - ·
Roedd cyllideb y flwyddyn ar y gweill wedi’i phennu ·
Roedd Aelodau wedi cael gwybod am y gwahaniaeth rhwng
llety mewn argyfwng a dros dro ·
Cynhyrchwyd yr adroddiad i fynd ati i atal digartrefedd
yn Sir Ddinbych. Roedd gwaith i atal digartrefedd yn Sir Ddinbych wedi dechrau,
a byddai’n parhau ochr yn ochr â’r cynllun gweithredu (cynllun gweithredu’n
amgaeedig) ·
Roedd gwaith gyda gwasanaethau eraill wedi parhau, roedd
perthnasau gyda thrydydd parti wedi parhau ochr yn ochr â’r cynllun gweithredu Diolchodd y Cadeirydd y Swyddog a’r Aelod Arweiniol am yr adroddiad a'r
gwaith a oedd wedi’i ddechrau ar y cynllun gweithredu. Atgoffodd y Cadeirydd yr aelodau bod yr
adroddiad i’r Pwyllgor Craffu Partneriaethau’n cael ei drafod mewn manylder. PENDERFYNWYD
bod y Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol yn derbyn ac yn nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
CYDYMFFURFIO Â PHOLISI RHEOLI RISGIAU SIR DDINBYCH PDF 307 KB Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Tîm Cynllunio
Strategol (copi wedi'i amgáu) ar y Fframwaith Rheoli Risgiau Strategol a
ddefnyddir yng Nghyngor Sir Ddinbych. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Tîm Cynllunio Strategol (SPTM) yr adroddiad (a
gylchredwyd yn flaenorol), i grynhoi sut cafodd y gofrestr Risg Gorfforaethol
ei monitro yn yr awdurdod. Cytunwyd ar fersiwn ddiweddaraf ffurfiol o'r
Gofrestr Risg Gorfforaethol yn Sesiwn Briffio’r Cabinet 9 Ebrill 2018, ac fe’i
cyflwynwyd gerbron y Pwyllgor Craffu Perfformiad er mwyn ei ystyried 26 Ebrill
2018. Roedd y Gofrestr Risg Gorfforaethol yn cael ei hadolygu’n ffurfiol
ddwywaith y flwyddyn gan y Cabinet a’r Tîm Gweithredu Corfforaethol (CET),
gydag unrhyw risgiau sylweddol newydd neu sy’n dwysáu, wedi’u nodi gan
CET. Fe wnaeth yr SPTM arwain aelodau drwy’r adroddiad
a'r atodiadau a oedd yn amgaeedig. Yn dilyn trafodaethau, trafodwyd y pynciau
canlynol - ·
Credyd Cynhwysol – Cadarnhaodd
yr SPTM fod briff wedi’i dderbyn gan bob cyfarfod Grŵp Ardal Aelodau
ynghylch gweithredu’r system Credyd Cynhwysol newydd. ·
Ymosodiadau seiber – Roedd y
risg o ymosodiad seiber wedi'i hymchwilio ac roedd diweddariad i Risg iii i
gynnwys ymosodiad seiber wedi’i gynnwys. ·
Diogelu Data – Gyda
gweithrediad y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol newydd, roedd diweddariad i
Risg iv wedi’i ddiwygio i gynnwys y ddeddfwriaeth newydd. Roedd gwaith wedi
dechrau i leihau’r maes hwn o risg, a byddai monitro'n parhau yn dilyn
gweithrediad. ·
Byrddau Corfforaethol – Roedd
dau Fwrdd Corfforaethol wedi’u sefydlu i reoli’r Cynllun Corfforaethol. ·
Gweithio gydag awdurdodau
cyfagos – Cadarnhaodd yr SPTM fod gwaith wedi’i wneud ar sefydlu perthnasau
gwaith gydag awdurdodau cyfagos. Roedd arsylwadau wedi digwydd i sefydlu
rhyngweithiadau cadarnhaol. Diolchodd y Cadeirydd i’r Rheolwr Tîm Cynllunio
Strategol am yr adroddiad tryloyw. PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn
ac yn nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
DIWEDDARIAD ARCHWILIO MEWNOL PDF 265 KB Ystyried
adroddiad gan y Prif Archwilydd Mewnol (copi wedi’i amgáu) yn rhoi gwybod i
aelodau am gynnydd Archwilio Mewnol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y
Cynghorydd Barry Mellor gysylltiad personol â’r eitem hon ar y rhaglen
(Adroddiad TCC). Cyflwynodd y
Prif Archwilydd Mewnol (CIA) adroddiad diweddaru Archwilio Mewnol (a
ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn rhoi diweddariad i’r aelodau ar gynnydd Archwilio
Mewnol o ran darparu gwasanaeth, darparu sicrwydd, adolygiadau a gwblhawyd,
perfformiad ac effeithiolrwydd wrth sbarduno gwelliant. Roedd yr adroddiad yn darparu gwybodaeth am waith yr Adain Archwilio Mewnol
ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor. Aeth y CIA drwy'r adroddiadau a oedd yn
rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf hyd at fis Mawrth 2018 ar: ·
Adroddiadau
archwilio mewnol a gyflwynwyd yn ddiweddar ·
Camau
dilynol Adroddiadau Archwilio Mewnol ·
Cynnydd
gwaith Archwilio Mewnol hyd yma yn 2017 - 18. ·
Crynodeb
o brosiectau nesaf yr Adain Archwilio Mewnol ·
Safonau
Perfformiad Archwilio Mewnol Codwyd y materion canlynol wrth drafod – ·
Gwasanaethau Ariannol – Eglurodd y CIA i aelodau fod sawl
adroddiad archwilio wedi’u cwblhau mewn perthynas â'r Gwasanaethau Ariannol i
gyd yn rhoi sicrwydd uchel. Roedd gwaith yn parhau ar y pwyntiau gweithredu a
godwyd gan archwilio mewnol. Roedd gwaith wedi’i wneud i leihau’r ganran uchel
o anfonebau a anfonwyd heb archeb brynu. Eglurodd y CIA fod unrhyw dueddiadau
neu glystyrau problematig yn cael eu harwain a’u cefnogi i leihau achosion o
anfonebau heb archeb brynu lle bo’n bosibl. ·
Rheoli’r Risg o Dwyll – Mesurau Ataliol - Eglurodd y CIA
fod cynllun Gwrth-dwyll a Llygru wedi’i ddatblygu gan Archwilio Mewnol, a
rhoddodd eglurhad ynghylch rhai o'r gweithdrefnau a oedd yn eu lle i atal
twyll. Eglurodd y Swyddog Monitro fod polisïau yn eu lle i uwch swyddogion
ddatgan cysylltiadau personol. Roedd angen codi lefel ymwybyddiaeth staff o’r
polisïau a’r gweithdrefnau. ·
Teithio a Chynhaliaeth – Rhoddwyd cadarnhad gan y CIA i’r
pwyllgor ar weithrediad llwyddiannus y modiwl electronig newydd ar gyfer
prosesu costau teithio. Eglurodd y CIA fod y polisi’n datgan bod yn rhaid i bob
gweithiwr gwblhau Ffurflen Ganiatâd Hawl i Yrru, o fewn yr archwiliad, cafodd
Staff Sir Ddinbych a ddefnyddiodd y system newydd eu harchwilio, ond nid oedd
hyn yn cynnwys aelodau. ·
Llywodraethu Partneriaeth TCC – Cododd Aelodau’r diffyg
gwybodaeth a gyflwynwyd gan Heddlu Gogledd Cymru. Cadarnhaodd y Cadeirydd fod
peth gwybodaeth wedi’i chyflwyno i fwrdd y Bartneriaeth yn ystod ei
chyfarfodydd. Roedd y berthynas rhwng Heddlu Gogledd Cymru a Bwrdd Partneriaeth
TCC yn gwella. Cododd trafodaethau ynghylch adroddiad i Lywodraethu
Corfforaethol yn diweddaru aelodau ar y berthynas a oedd gan y Sir gyda
darparwyr trydydd parti. Cadarnhaodd y CIA fod gwaith wedi dechrau ar adroddiad
yn ymchwilio i waith a roddwyd gan drydydd parti. PENDERFYNWYD fod
y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn yr adroddiad wedi’i ddiweddaru
ac yn nodi ei gynnwys, a bod adroddiad Sicrwydd Partneriaeth blynyddol yn cael
ei gyflwyno i’r Pwyllgor ar ddyddiad diweddarach. |
|
Ar y pwynt hwn
(11.10 a.m.) cafwyd egwyl o 10 munud. Ailddechreuodd y cyfarfod am 11.20 a.m. |
|
STRATEGAETH ARCHWILIO MEWNOL PDF 192 KB Ystyried adroddiad gan Y Prif Archwilydd Mewnol (copi wedi ei amgáu) am
Strategaeth Archwilio Mewnol 2018-19. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Pennaeth Archwilio Mewnol (CIA) adroddiad (a gylchredwyd yn
flaenorol) i roi’r Strategaeth Archwilio Mewnol ar gyfer 2018-19 i’r Pwyllgor. Aeth y CIA â’r aelodau drwy’r adroddiad a roddodd wybodaeth, ymhelaethodd y
CIA ar - ·
Roedd
gan y cynllun archwilio mewnol elfen fawr o hyblygrwydd a oedd yn caniatáu i
waith gael ei gwblhau a'i flaenoriaethu yn unol â hynny ·
Mae
gwaith gwrth-dwyll a llygredd yn parhau i fod yn flaenoriaeth uchel i’r Cyngor.
Bydd gwaith yn parhau yn y maes hwn, gydag adroddiadau’n cael eu cyflwyno i
Lywodraethu Corfforaethol mewn cyfarfodydd o’r dyfodol. ·
Cadarnhaodd
y CIA fod Cyngor Gwynedd wedi cwblhau'r asesiad allanol ym Mawrth 2018.
Byddai'r canlyniad a'r cynllun gwella'n cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor
Llywodraethu Corfforaethol pan fyddent yn dod i law. ·
Roedd
cyflwyno VERTO i gofnodi cynnydd yn erbyn camau y cytunwyd arnynt wedi lleihau
nifer y diwrnodau gofynnol ar gyfer gwaith dilynol, o bosibl. ·
Archwilio
Mewnol yn ymchwilio i elfennau allweddol o wasanaethau ac adrodd yn ôl i’r
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol gydag unrhyw ganlyniadau a ganfyddir. Diolchodd y
Cadeirydd i’r Swyddog Archwilio Mewnol am yr adroddiad a’r wybodaeth. Canmolodd
bawb yn ystod yr holl newidiadau o fewn y gwasanaeth dros y 12 mis blaenorol. PENDERFYNWYD bod
y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn ac yn nodi cynnwys yr
adroddiad. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL ARCHWILIO MEWNOL PDF 280 KB Ystyried adroddiad gan y Prif Archwilydd Mewnol (copi wedi’i amgáu) ar
ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd fframwaith llywodraethu, risg a rheolaeth y
Cyngor yn ystod y flwyddyn sy'n llywio'r 'datganiad llywodraethu blynyddol'. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Archwilydd Mewnol (CIA) Adroddiad Blynyddol Archwilio
Mewnol (a gylchredwyd yn flaenorol). R Rhoddwyd cyflwyniad sioe sleidiau i Aelodau a
ddangosodd y gwaith a gwblhawyd gan Archwilio Mewnol yn ystod cyfnod 2017-2018.
Rhoddodd yr adroddiad farn gyffredinol y CIA ar ddigonolrwydd ac
effeithiolrwydd fframwaith llywodraethu, risg a rheolaeth y Cyngor yn ystod y
flwyddyn ac sy’n cyfrannu at y ‘Datganiad Llywodraethu Blynyddol'. Roedd y CIA wedi rhoi ‘sicrwydd canolig’ ar ddigonolrwydd ac
effeithiolrwydd cyffredinol amgylchedd rheolaeth fewnol y Cyngor, gan gynnwys
ei drefniadau ar gyfer llywodraethu a rheoli risg. Cyfeiriodd y CIA at 31 barn
archwilio a gyhoeddwyd yn ystod y flwyddyn, a chadarnhaodd y byddai'r 4 a
nodwyd yn y categori sicrwydd isel yn cael eu monitro. Byddai’r Pwyllgor
Llywodraethu Corfforaethol yn cael adroddiadau cynnydd gan y gwasanaeth i
oruchwylio gweithrediad y gwelliannau y cytunwyd arnynt. Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan aelodau ynghylch gwaith a wnaed mewn
ysgolion, cadarnhaodd y CIA fod gwaith wedi’i wneud a fyddai’n cynnwys cynllun
gweithredu i ysgolion. Roedd gwaith wedi’i wneud i atal twyll. Roedd gwaith
wedi’i gwblhau ar bolisïau a gweithdrefnau gan y tîm archwilio, i roi sicrwydd
ac arweiniad, ac atal twyll rhag digwydd lle bo’n bosibl. Roedd ymrwymiad gan bob awdurdod i leihau’r
lefel o weithgareddau twyllodrus wedi cael cytundeb. Gofynnodd yr aelodau am sicrwydd bod elw o fuddsoddiad wedi bod yn destun
ymchwiliad ac archwiliad. Cadarnhaodd y CIA fod gwiriadau sampl wedi’u cwblhau
mewn ardaloedd i fonitro canfyddiadau ac enillion. Yn dilyn trafodaeth: PENDERFYNWYD y dylid derbyn Adroddiad Blynyddol y Pennaeth
Archwilio Mewnol a derbyn a nodi’r 'farn' gyffredinol. |
|
DATGANIAD LLYWODRAETHU BLYNYDDOL DRAFFT PDF 270 KB Ystyried adroddiad gan y Prif Archwilydd Mewnol (copi wedi’i amgáu) sy’n
darparu’r adroddiad hunanasesu drafft ar drefniadau llywodraethu a gwella'r
Cyngor ar gyfer 2017/18. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Aeth y Prif Archwilydd Mewnol (CIA) â’r aelodau drwy ddrafft o’r Datganiad
Llywodraethu Blynyddol (a gylchredwyd yn flaenorol). Roedd yr adroddiad yn cynnwys yr adroddiad hunanasesu drafft ar drefniadau
llywodraethu a gwella'r Cyngor ar gyfer 2017-18, ac yn rhoi cyfle i’r Pwyllgor
roi sylw ar ddrafft cyntaf y ‘Datganiad Llywodraethu Blynyddol'. Eglurodd y CIA i aelodau am bwysigrwydd yr adroddiad, gan nodi bod yr
adroddiad drafft wedi'i gyflwyno i'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth, Cyfarwyddwyr
Corfforaethol a Swyddfa Archwilio Cymru am sylwadau. Amlygodd y CIA y saith egwyddor allweddol i’r Fframwaith Llywodraethu
Corfforaethol. Eglurwyd y swyddogaeth sylfaenol o lywodraethu da yn y Cyngor i
sicrhau y cyflawnir canlyniadau. Nododd y CIA na fu unrhyw faterion sylweddol i
roi gwybod amdanynt gyda’r holl ddiwygiadau a gynhwysir yn atodiad A (copi'n
amgaeedig). Holodd y CIA yr aelodau bod unrhyw sylwadau a diwygiadau’n cael eu
cyfeirio ati hi i’w hadolygu a’u haddasu lle bo angen. Diolchodd y Cadeirydd i’r tîm Archwilio am yr adroddiad tryloyw ac anogodd
aelodau i ddarllen yr adroddiad yn drylwyr a chysylltu â'r CIA gydag unrhyw
gwestiynau neu ddiwygiadau. PENDERFYNWYD
bod y Pwyllgor
Llywodraethu Corfforaethol: I.
Yn derbyn yr
adroddiad ac yn nodi ei gynnwys a Chyfeirio unrhyw
ddiwygiadau neu gwestiynau at y CIA o fewn pythefnos. |
|
CYNLLUN ARCHWILIO BLYNYDDOL SWYDDFA ARCHWILIO CYMRU PDF 279 KB Derbyn adroddiad
gan Swyddfa Archwilio Cymru (copi wedi’i amgáu) ar Gynllun Archwilio Blynyddol
2018 ar gyfer Cyngor Sir Ddinbych. Cofnodion: Cyflwynodd
cynrychiolydd (AV) o Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) yr adroddiad a ymgorfforodd
Gynllun Archwilio 2018 – Cyngor Sir Ddinbych. Roedd yr adroddiad yn egluro’r
rhaglen waith sydd wedi ei chynllunio ar gyfer rhaglen gwaith perfformiad archwilio
ariannol a rhaglen waith archwilio perfformiad SAC. Roedd yr
adroddiad hefyd yn nodi manylion ffioedd ar gyfer y gwaith, y tîm archwilio a’r
amserlen ar gyfer y gwaith. Darparwyd
crynodeb o gynnwys cynllun archwilio 2018 – Cyngor Sir Ddinbych, a oedd yn
cynnwys - ·
Archwiliad
o Gyfrifon ·
Archwiliad
perfformiad ·
Ardystio
hawliadau a ffurflenni grant ·
Ffi,
tîm archwilio ac amserlen ·
Datblygiadau
i’r gwaith archwilio yn y dyfodol Darparodd
cynrychiolydd SAC drosolwg i’r Pwyllgor o gynnwys yr adroddiad. Yn ystod
trafodaethau codwyd y materion canlynol - ·
Roedd
rhywfaint o’r drafodaeth yn canolbwyntio ar symleiddio trefniadau sicrwydd,
drwy gyflwyno ‘Atodlen Gryno o Grantiau Ardystiedig Llywodraeth Cymru’ i bob
elfen unedol. Dywedodd y cynrychiolydd SAC hwn y byddai rhagor o wybodaeth yn
cael ei rhoi i’r pwyllgor yn hwyrach ymlaen. ·
Eglurodd
y swyddog SAC bod agweddau ar risg yn cael eu hymchwilio ac asesiadau risg
cyflawn o feysydd cymhleth. ·
Rhoddwyd
esboniadau i’r dulliau a ddefnyddiwyd wrth gylchredeg gwahoddiadau i seminarau
a gweithdai. Rhoddodd cynrychiolydd SAC (GB) wybod i aelodau am y dull i
danysgrifio ar gyfer newyddlen SAC, i gael gwybodaeth am hyfforddiant a
chyhoeddi adroddiadau. PENDERFYNWYD bod
y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn ac yn nodi cynnwys yr
adroddiad. |
|
RHAGLEN WAITH Y PWYLLGOR LLYWODRAETHU CORFFORAETHOL PDF 290 KB Ystyried rhaglen
gwaith i’r dyfodol y pwyllgor (copi wedi’i amgáu). Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol
(a gylchredwyd eisoes) i’w hystyried. Cymeradwywyd
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn amodol ar y
diwygiadau canlynol:- 6 Mehefin 2018
- ·
Asesiad allanol – Adroddiad Prif Swyddog Gweithredol
Archwilio Cyngor Sir Gwynedd – Adroddiad a chynllun Gwella 11 Gorffennaf 2018 - ·
Adroddiad Blynyddol Uwch-berchennog Risg Gwybodaeth 26 Medi 2018 - ·
Ymholiadau Archwiliad Blynyddol SAC ·
Diweddariad ar adroddiad Archwiliad Cyfleustodau
Cyhoeddus 21 Tach 2018 - ·
Adroddiad sicrwydd trydydd parti blynyddol PENDERFYNWYD yn amodol ar y sylwadau uchod, bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn cymeradwyo'r
Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD
dan ddarpariaethau
Adran 100A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r
cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig
yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 14, Rhan 4, o
Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. |
|
ADRODDIAD ARCHWILIO MEWNOL – CYFLEUSTERAU CYHOEDDUS Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Prif Archwilydd Mewnol (copi wedi’i
amgáu) ar adroddiad Archwilio Mewnol diweddar ar Gyfleusterau Cyhoeddus, a
gafodd sgôr sicrwydd 'Isel'. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Archwilydd Mewnol (CIA) yr adroddiad cyfrinachol (a
gylchreddwyd yn flaenorol), yn rhoi manylion i aelodau ynghylch yr adroddiad
Archwilio Mewnol ar Gyfleustodau Cyhoeddus a oedd wedi cael sgôr sicrwydd
‘Isel’. Aeth yr Aelod Arweiniol Cyllid, Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad,
gyda'r Swyddog Arweiniol – Contractau a Chyfleusterau (LO), â’r aelodau drwy’r
adroddiad Archwilio. Rhoddodd yr LO ychydig o wybodaeth gefndirol i aelodau, a
rhoi sicrwydd i'r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol bod gwaith wedi dechrau
ar yr argymhellion o'r archwiliad. Diolchodd y
Cadeirydd i’r swyddogion am roi’r adroddiad ac am egluro pryderon aelodau. PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn nodi
cynnwys yr adroddiad, a bod adroddiad diweddaru’n cael ei roi yng nghyfarfod
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol Medi. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 13:10 p.m. |