Agenda and draft minutes
Lleoliad: SIAMBR Y CYNGOR, NEUADD Y SIR, RHUTHUN LL15 1YN
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau |
|
DATGAN CYSYLLTIAD {0><}100{>Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol
neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd yn un i'w ystyried yn y
cyfarfod hwn.<0} Cofnodion: Datganodd y
Cynghorwyr Martyn Holland a Jason McLellan gysylltiadau personol gan fod y ddau
ohonynt yn llywodraethwyr ysgol. |
|
Materion Brys {0><}100{>Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y
Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf
Llywodraeth Leol 1972.<0} Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
fater brys. |
|
{0><}92{>Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol a gynhaliwyd ar 23 Tachwedd 2016 (copi’n amgaeedig).<0} Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 23 Tachwedd
2016. Cywirdeb - Tudalen 5: Datganiadau o Gysylltiad - cyfeiriodd y Cadeirydd at ei ddatganiad
o gysylltiad gan ei fod "yn" un o weithwyr Llywodraeth Cymru ac nid
"yn arfer" gweithio i Lywodraeth Cymru. Canmolodd y
Cadeirydd y cofnodion am ei fod wedi bod yn gyfarfod hir. Roedd y cofnodion yn
manylu ar yr holl drafodaethau a gafwyd. PENDERFYNWYD –
yn amodol ar yr uchod, derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd
ar 23 Tachwedd 2016 fel cofnod cywir. |
|
RHEOLI GWYBODAETH A RHEOLI TG MEWN YSGOLION PDF 227 KB {0><}79{>Ystyried adroddiad gan Bennaeth Gwasanaethau Addysg a Phlant/ Prif Reolwr
Addysg (copi’n amgaeedig) i roi diweddariad ar y gwaith a wnaed mewn perthynas
â’r adroddiad a rannwyd 28 Medi 2016, a oedd yn rhoi manylion ynghylch Rheoli
Gwybodaeth a Rheoli TG mewn ysgolion a gafodd sgôr Sicrwydd “Isel”.<0} Cofnodion: Cyflwynodd y Prif
Reolwr Cymorth Addysg yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i roi
diweddariad ar y gwaith a wneir mewn perthynas â’r adroddiad a rannwyd 28 Medi
2016, a oedd yn rhoi manylion ynghylch Rheoli Gwybodaeth a Rheoli TG mewn
ysgolion a gafodd sgôr Sicrwydd “Isel”. Darparwyd
gwybodaeth am sut mae'r Cyngor yn gweithredu gwelliannau yn y ffordd mae
ysgolion yn rheoli gwybodaeth ers cyhoeddi adroddiad Archwilio Mewnol a roddodd
'Sicrwydd Isel'. Roedd y Pwyllgor
Llywodraethu Corfforaethol wedi gofyn am adroddiad cynnydd i sicrhau bod
materion yn cael eu datrys. Cafodd
gwelliannau eu gwneud drwy weithredu Offeryn Archwilio Statudol y bu i bob
ysgol ei gwblhau. Rhoddodd yr offeryn
wybodaeth i’r ysgol a’r Awdurdod Lleol am y lefelau o sicrwydd mewn meysydd
gwahanol. Roedd y broses archwilio wedi bod yn glir wrth
amlygu cefnogaeth a dargedwyd mewn ardaloedd penodol a gydag ysgolion penodol. Bydd cynnwys yr
Archwiliad Rheoli Gwybodaeth yn cael ei adolygu ym mis Gorffennaf 2017, a’i
anfon i ysgolion eto ym mis Medi 2017. Bydd y ddwy gyfres o ganlyniadau'n cael
eu cymharu gyda disgwyliad y bydd y gwelliannau a amlygwyd wedi'u gwneud. Mae Swyddfa'r
Comisiynydd Gwybodaeth wedi eu hamserlennu i gyflwyno hyfforddiant i
Benaethiaid a Rheolwyr Busnes ar 9 Chwefror, 2017. Cafodd hyfforddiant hefyd ei
gyflwyno yn flynyddol i'r Llywodraethwyr.
Roedd Polisi
Cyfryngau Cymdeithasol newydd wedi bod mewn ymgynghoriad ag undebau llafur a
bydd yn cael ei ddosbarthu yn dilyn cytundeb. Mae ymweliadau
pellach i’w cynnal mewn ysgolion ac roedd disgwyliad, yn dilyn archwiliad y
dyfodol, y byddai pob ysgol yn dangos yn wyrdd (Ansawdd Da / Ardderchog). Os na, byddai ysgolion yn cael eu cwestiynu
gan eu bod wedi cael yr holl wybodaeth a hyfforddiant. Roedd gan ysgolion gyfrifoldeb i sicrhau bod
prosesau ar waith i gyd-fynd â gofynion deddfwriaethol. PENDERFYNWYD bod
y Pwyllgor yn nodi'r adroddiad a bod adroddiad cynnydd pellach yn cael ei
gyflwyno yn y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ar 27 Medi 2017. |
|
ADOLYGIAD YMARFER PLANT PDF 80 KB {0><}0{>Ystyried adroddiad gan Bennaeth
Gwasanaethau Addysg a Phlant (copi’n amgaeedig) i roi diweddariad ar y gwaith a
wnaed mewn perthynas â’r adroddiad a rannwyd ym mis Gorffennaf 2015, a oedd yn
rhoi manylion i’r Aelodau am yr Adolygiad Ymarfer Plant, mewn perthynas â
marwolaeth drasig plentyn yn Sir Ddinbych.<0} Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth y Gwasanaethau Addysg a Phlant yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn
flaenorol) i roi diweddariad ar y gwaith a wnaed mewn perthynas â’r adroddiad a
rannwyd ym mis Gorffennaf 2015, a oedd yn rhoi manylion i’r Aelodau am yr
Adolygiad Ymarfer Plant, mewn perthynas â marwolaeth drasig plentyn yn Sir
Ddinbych. Yn y cyfarfod fis
Gorffennaf 2015, nodwyd pwysigrwydd y Pwyllgor yn cael sicrwydd bod Cynllun
Gweithredu ar gyfer yr Adolygiad Ymarfer Plant wedi cael ei weithredu’n
llawn. Diben yr Adolygiad oedd darganfod
a oedd gwersi i'w dysgu am y ffordd y mae gweithwyr proffesiynol yn cydweithio
i ddiogelu plant, amlygu’r gwersi hynny a gwella ymarfer. Yn ystod y drafodaeth, nodwyd ei bod yn bwysig pwysleisio bod yr Awdurdod
Lleol yn ymwybodol ac yn sensitif i deulu ar yr adeg hon. Roedd
gwersi i'w dysgu y byddai angen mynd â hwy ymhellach. Cadarnhawyd y byddai’r swyddogaethau hynny yn
cael eu cefnogi fel ymyrraeth gynnar, gan mai atal sy'n allweddol. Roedd yr
aelodau'n cytuno mai damwain anffodus a arweiniodd at golled erchyll plentyn
oedd hyn. PENDERFYNWYD bod
y Pwyllgor wedi nodi’r adroddiad a'r Cynllun Gweithredu ac na fyddai angen i’r
Pwyllgor gymryd unrhyw gamau pellach. |
|
Y DIWEDDARAF AR UNO GWASANAETHAU ADDYSG A GWASANAETHAU PLANT PDF 154 KB {0><}100{>Ystyried adroddiad gan y Cyfarwyddwr
Corfforaethol:<0} {0><}0{>Cymunedau (copi’n amgaeedig) i roi
diweddariad ar y cynnydd a wnaed ar uno Gwasanaethau Addysg a Gwasanaethau
Plant.<0} Cofnodion: Cyflwynodd y
Pennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol)
i ddarparu gwybodaeth am y cynnydd a wnaed wrth uno Addysg a Gwasanaethau
Plant. Roedd y ddau wasanaeth wedi bod
yn gweithredu yn flaenorol fel gwasanaethau unigol, ond daethant at ei gilydd
ym mis Ionawr 2016. Ym mis Medi 2014,
bu newidiadau arfaethedig i strwythur y sefydliad y Cyngor a oedd yn cynnwys
uno’r Gwasanaeth Addysg a'r Gwasanaeth Plant a Theuluoedd i greu gwasanaeth
newydd - Addysg a Gwasanaethau Plant. Prif ganlyniad y
newid oedd gwelliant ar unwaith mewn gwaith rhwng y gwahanol grwpiau. Roedd gallu'r gwasanaeth newydd i symud yn
gyflym yn ei ymateb i anghenion plant a phobl ifanc yn y sir, er mwyn sicrhau
eu diogelwch a'u cefnogi i gyrraedd eu potensial trwy addysg a chyfleoedd
cymdeithasol wedi bod yn hynod o effeithiol. Roedd Tîm Rheoli
ar y cyd gyda chynllun busnes un gwasanaeth.
Cydnabuwyd amcanion ac roedd wedi dod â manteision cadarnhaol i blant a
phobl ifanc yn Sir Ddinbych. Mynegodd yr
Aelodau eu cymeradwyaeth mewn perthynas ag uno’r ddau wasanaeth, ynghyd â'u
gwerthfawrogiad i'r Pennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant a'i staff am eu holl
waith caled. PENDERFYNWYD bod yr Aelodau'n
ystyried ac yn nodi'r diweddariad ynghylch Ymuno Addysg a Gwasanaethau Plant. |
|
ADRODDIAD RHEOLIADAU ARIANNOL YSGOLION (DIWEDDARIAD) PDF 162 KB {0><}0{>Ystyried adroddiad gan Bennaeth Cyllid/ Rheolwr
Adnoddau a Chymorth Addysg (copi’n amgaeedig) i roi diweddariad ynglŷn â
rheoliadau ariannol sydd ar draws Ysgolion Sir Ddinbych.<0} Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Pennaeth Cyllid yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i ddarparu diweddariad
ynglŷn â rheoliadau ariannol sydd ar waith ar draws ysgolion Sir
Ddinbych. Yn dilyn cyfarfod
Llywodraethu Corfforaethol ar 15 Mehefin 2016, cyflwynwyd adroddiad ar
ddiweddariadau arfaethedig i Reoliadau Ariannol yr Awdurdod ei hun. Yn ystod y trafodaethau yn y cyfarfod,
gofynnwyd cwestiwn ynglŷn â Rheoliadau Ariannol mewn ysgolion, a pha un a
ydynt yn gweithio i Reoliadau Ariannol yr Awdurdod ei hun. Cynhaliwyd arolwg
o holl ysgolion Sir Ddinbych, y mae eu canlyniadau'n cael eu dangos yn Atodiad
1 yr adroddiad. Daeth ymatebion i law a
ddatgelodd bod holl ysgolion Sir
Ddinbych yn gweithio o fewn Cynllun Sir Ddinbych ar gyfer Ariannu Ysgolion. Roedd y Cynllun yn cynnwys gofynion sy’n
ymwneud â rheolaeth ariannol a materion cysylltiol ac roedd yn orfodol ar yr
Awdurdod ac ysgolion. Yn ystod y
drafodaeth, cododd y mater ynglŷn â llywodraethwyr ysgol, a p’un a gawsant
ganllawiau ar y Rheoliadau Ariannol.
Cadarnhawyd y byddai'r wybodaeth yn cael ei chynhyrchu drwy Reolwr
Cyllid neu Fusnes yr ysgol, ond byddai'n ofynnol i'r Llywodraethwyr
gymeradwyo'r rheoliadau. Yn y fan hon,
esboniodd y Pennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant bod yr Awdurdod Lleol, ynghyd
â'r Rheolwyr Busnes a Chyllid, yn cyfarfod yn rheolaidd ac y byddai'r eitem hon
yn cael ei hychwanegu at y Rhaglen nesaf ar gyfer trafodaeth. Cynhaliwyd cyfarfodydd rhwng Penaethiaid a'r
Awdurdod Lleol bob tymor. Dylai ysgolion
sicrhau bod eu rheoliadau yn cael eu hadolygu yn rheolaidd a bod staff a
llywodraethwyr yn ymwybodol ohonynt. Cadarnhaodd y Pennaeth Archwilio Mewnol bod ei staff wedi gwneud adroddiad
ar wahân yn 2016 ac wedi datblygu set newydd o ganllawiau, y byddai drafft
ohonynt ar gael mewn tuag wythnos. Byddai’r canllawiau drafft yn mynd
allan i’r clwstwr er mwyn ceisio eu barn, gan ei bod yn ofynnol iddynt fod ar
waith erbyn mis Ebrill 2017. Ni archwiliodd yr
Adran Archwilio Mewnol ysgolion Sir Ddinbych ond awgrymodd y Pennaeth Archwilio
Mewnol y gellid cynnal ymarfer rheoli ansawdd. Gofynnodd y
Cadeirydd, y Cynghorydd Jason McLellan bod y canllawiau cronfeydd ysgol yn cael
eu cyflwyno i'r Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Archwilio i'w trafod
mewn Pwyllgor Archwilio. Cytunwyd y byddai
Rheoliadau Cyllid Ysgolion yn cael eu hychwanegu at raglen waith 29 Tachwedd
2017 ar gyfer adroddiad diweddaru. PENDERFYNWYD bod
yr adroddiad yn cael ei nodi a bod diweddariad yn cael ei ychwanegu at y
Rhaglen Waith i'r Dyfodol ym mis Tachwedd 2017 ar gyfer trafodaeth bellach. |
|
HYSBYSIAD O ARDYSTIAD CYFRIFON 2015/16 PDF 155 KB {0><}81{>Ystyried adroddiad gan y Prif Gyfrifydd (copi’n
amgaeedig) i ddarparu'r Pwyllgor gyda hysbysiad ffurfiol fod y broses ardystio
archwilio ar gyfer Datganiad Cyfrifon 2015/16 wedi ei chwblhau.<0} Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol Cyllid, Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad, y Cynghorydd
Julian Thompson Hill yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i roi hysbysiad
ffurfiol i’r Pwyllgor bod y broses ardystio archwiliad ar gyfer Datganiad
Cyfrifon 2015/16 wedi ei chwblhau. Yn dilyn
archwiliad cyhoeddus o'r cyfrifon, codwyd gwrthwynebiad gan aelod o'r cyhoedd i
Swyddfa Archwilio Cymru ar 27 Medi 2016. Gellir cadarnhau
bellach bod pob gohebiaeth wedi dod i ben a’r materion wedi’u datrys. Ni arweiniodd unrhyw un o’r gwrthwynebiadau a
godwyd yn rhan o’r broses arolygu gyhoeddus at newid y ffigurau na’r nodiadau
ategol a ddatgelwyd yng nghyfrifon 2015/16. PENDERFYNWYD bod
Aelodau yn nodi bod y broses ardystio archwiliad wedi dod i ben yn ffurfiol o
ran Datganiad Cyfrifon 2015/2016. |
|
ADRODDIAD RHEOLI TRYSORLYS PDF 90 KB {0><}83{>Ystyried adroddiad gan y Prif Swyddog Cyllid (copi'n amgaeedig) ar Reoli
Trysorlys.<0} Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Pennaeth Cyllid yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) a oedd yn dangos sut
y byddai'r Cyngor yn rheoli ei fuddsoddiadau a'i fenthyciadau ar gyfer y
flwyddyn i ddod ac yn nodi'r polisïau ymhle mae'r swyddogaeth Rheoli Trysorlys
yn gweithredu. Roedd yr adroddiad hefyd yn amlinellu effaith
debygol y Cynllun Corfforaethol ar y strategaeth ac ar y Dangosyddion
Darbodus. Roedd yr Adroddiad Diweddaru
ar Reoli Trysorlys yn darparu manylion ar weithgareddau Rheoli Trysorlys y
Cyngor yn ystod 2016/17. Mae Cod Ymarfer y
Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth ar Reoli Trysorlys (y
"Cod RhT SSCCCh") yn gofyn i'r Cyngor gymeradwyo'r DSRhT a'r
Dangosyddion Darbodus yn flynyddol. Roedd
yn ofynnol i'r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol adolygu'r adroddiad cyn ei
gymeradwyo yn y Cyngor ym mis Chwefror 2017.
Sicrhaodd
cynllunio ariannol a gwneud penderfyniadau bod sylw priodol yn cael ei roi i
ofynion Deddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol. Yn ystod y
drafodaeth codwyd y pwyntiau canlynol: ·
Rhoddodd y Cyngor arian
o'r neilltu bob blwyddyn i ad-dalu dyled – Isafswm Darpariaeth Refeniw (MRP). Derbyniodd y Polisi MRP adolygiad
blynyddol. ·
Roedd y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn gyfrifol am graffu ar swyddogaeth rheoli’r
trysorlys. Byddai
gofynion hyfforddi blynyddol yn cael eu cytuno gyda'r Pwyllgor. ·
Roedd
yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol (CLG) wedi cadarnhau y byddai Trysorlys
EM (HMT) yn cymryd y camau deddfwriaethol angenrheidiol i ddiddymu Bwrdd
Benthyca Gwaith Cyhoeddus. Dywedodd y CLG na fyddai'n cael unrhyw
effaith ar fenthyciadau sy'n bodoli eisoes a ddelir gan Awdurdodau Lleol neu
Bolisi’r Llywodraeth ar fenthyca yr Awdurdod Lleol. ·
Cadarnhawyd
y byddai Adroddiad Rheoli'r Trysorlys yn cael ei gyflwyno yn y Cyngor llawn ym
mis Chwefror 2017. PENDERFYNWYD
bod y Pwyllgor yn nodi Datganiad Strategaeth
Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2017/18, y Dangosyddion Darbodus 2017/18 i 2019/20
ac Adroddiad Diweddaru Rheoli'r Trysorlys 2016/17 |
|
Ar y pwynt hwn (11.25 am) cafwyd egwyl o 20 munud. Ailddechreuodd y cyfarfod am 11.45 a.m. Cytunwyd gan bawb
oedd yn bresennol i amrywio trefn gweddill yr eitemau ar y Rhaglen. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD
dan ddarpariaethau
Adran 100A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod
ar gyfer yr eitemau canlynol ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn
debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 14 o Ran 4 o
Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. |
|
ARCHWILIAD GWASANAETHAU PARCIO – AIL ADRODDIAD DIWEDDARU {0><}89{>Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y
Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch Ffyrdd (copi’n amgaeedig) yn rhoi
diweddariad ar y camau adferol a gymerwyd ers cyhoeddi'r Archwiliad
Gwasanaethau Parcio ym mis Awst 2016.<0} Cofnodion: Cyflwynodd y
Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch ar y Ffyrdd yr adroddiad cyfrinachol (a
ddosbarthwyd yn flaenorol) i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau adferol a
gymerwyd ers cyhoeddi'r Archwiliad Gwasanaethau Parcio ym mis Awst 2016, a'r
adroddiad diweddaru cychwynnol a gyflwynwyd i'r Pwyllgor hwn ym mis Tachwedd
2016. Cadarnhawyd y
camau gweithredu adferol i aelodau'r Pwyllgor. Diolchodd y
Cadeirydd, y Cynghorydd Jason McLellan, i'r Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch
ar y Ffyrdd gan fod yr holl gamau gweithredu wedi cael eu gwneud ac ni fyddai
angen diweddariadau pellach ar y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol. PENDERFYNWYD bod
y Pwyllgor yn nodi cynnwys yr adroddiad a chadarnhau na fyddai angen unrhyw
ddiweddariadau pellach ar y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol. |
|
Yn y pwynt hwn, dychwelodd y cyfarfod i RAN 1 Gwahoddir y wasg a'r cyhoedd i fynychu rhan hon y
cyfarfod. |
|
ADOLYGIAD O’R GOFRESTR RISG GORFFORAETHOL, RHAGFYR 2016 PDF 172 KB Ystyried
adroddiad gan Reolwr Tîm Cynllunio Strategol / Swyddog Cynllunio Strategol
(copi'n amgaeedig) ar reoli Risg Gorfforaethol ac adolygu'r Gofrestr Risg
Gorfforaethol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd
Rheolwr Tîm Cynllunio Strategol yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i
grynhoi sut cafodd y Gofrestr Risg Gorfforaethol ei monitro a'i rheoli ac,
felly, yn cynrychioli adroddiad blynyddol ar gyfer y Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol i ystyried sut mae'r Gofrestr Risg Gorfforaethol yn cael ei
rheoli yn yr Awdurdod. Cytunwyd ar y
fersiwn ddiweddaraf ffurfiol o'r Gofrestr Risg Gorfforaethol yng nghyfarfod
Briffio’r Cabinet ar 9 Ionawr 2017, a bydd yn cael ei chyflwyno i’w hystyried
gan y Pwyllgor Archwilio Perfformiad ar 26 Ionawr 2017. Bu’r Tîm
Gweithredu Corfforaethol a’r Cabinet yn adolygu’r Gofrestr Risg Gorfforaethol
yn ffurfiol ddwywaith y flwyddyn. Ond
cafodd unrhyw risgiau newydd arwyddocaol neu risgiau sy’n cynyddu yn cael dwyn
i sylw’r Tîm Gweithredu Corfforaethol (drwy’r Tîm Cynllunio Strategol) pan
gawsant eu canfod. Yna bu i’r Tîm
Gweithredu Corfforaethol benderfynu a ddylid cynnwys y risg yn y Gofrestr Risg
Gorfforaethol. PENDERFYNWYD bod
y Pwyllgor yn nodi sut y rheolir Risg Gorfforaethol o fewn yr Awdurdod. |
|
DIWEDDARIAD AR GYNLLUN AMDDIFFYN ARFORDIR GORLLEWIN Y RHYL PDF 147 KB {0><}84{>Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Archwilio (copi’n amgaeedig) yn rhoi
diweddariad i’r Pwyllgor ar gynnydd gweithredu’r cynllun gweithredu a oedd yn
rhan o adroddiad yr Adain Archwilio Mewnol a ddaeth yn sgil yr adolygiad o
Gynllun Amddiffyn Arfordir Gorllewin y Rhyl Cam 3.<0} Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Pennaeth Archwilio Mewnol yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) gyda
diweddariad i’r Pwyllgor ar gynnydd y cynllun gweithredu a oedd yn rhan o
adroddiad yr Adain Archwilio Mewnol a ddaeth yn sgil yr adolygiad o Gynllun
Amddiffyn Arfordir Gorllewin y Rhyl Cam 3. Trafodwyd yr
adroddiad Archwilio Mewnol gwreiddiol ar Gynllun Amddiffyn Arfordir Gorllewin y
Rhyl Cam 3 yn y cyfarfod Pwyllgor ar 27 Ebrill 2016, a gofynnodd y Pwyllgor am
ddiweddariad ar weithredu gwelliannau ym mis Ionawr 2017. Yn y dyfodol, os
byddai canlyniad melyn yn cael ei gynhyrchu gan Archwilio Mewnol, cadarnhawyd
mai cyfrifoldeb y gwasanaeth fyddai cyflwyno adroddiad i'r Pwyllgor
Llywodraethu Corfforaethol ynghyd ag esboniadau. Roedd y broses
wedi gweithio'n arbennig o dda o ran Cynllun Amddiffyn Arfordir Gorllewin y
Rhyl. Ymatebodd
Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Phriffyrdd i ymholiad yr Aelod
Annibynnol, Paul Whitham, ynghylch Risg 4 - Hyfforddiant Caffael a sicrwydd na
fyddai hyn yn cael ei anwybyddu. Mae
cynnwys yr hyfforddiant i’w adolygu a byddai'r hyfforddiant yn cael ei
gynllunio ac ar gael o fis Chwefror. Cadarnhaodd
Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Phriffyrdd bod llawer iawn o waith wedi
cael ei wneud i roi sylw i'r materion, a bod gweithdrefnau cadarn bellach yn eu
lle. Cadarnhaodd fod ganddo bellach
lawer mwy o ffydd ym mhrosesau’r gwasanaeth. Cadarnhaodd y
Cadeirydd, y Cynghorydd Jason McLellan fod y Pwyllgor yn fodlon bod y risgiau
wedi eu nodi, eu rhoi ar waith a’u cwblhau, ac na fyddai angen unrhyw
ddiweddariad pellach gan y Pwyllgor. PENDERFYNWYD bod
y Pwyllgor yn nodi'r adroddiad a'r cynnydd a wnaed hyd yma ac yn fodlon na
fyddai angen diweddariad pellach. |
|
DIWEDDARIAD ARCHWILIO MEWNOL PDF 147 KB {0><}86{>Ystyried adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau
Archwilio Mewnol (copi’n amgaeedig) yn diweddaru aelodau ar y cynnydd o ran
Archwilio Mewnol.<0} Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Pennaeth Archwilio Mewnol yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i roi
diweddariad ar y cynnydd Archwilio Mewnol diweddaraf o ran cyflwyno gwasanaeth,
darpariaeth sicrwydd, adolygiadau a gwblhawyd, perfformiad ac effeithiolrwydd
wrth sicrhau gwelliant. Darparodd yr
adroddiad wybodaeth ar y gwaith a gynhaliwyd gan Archwilio Mewnol ers y
cyfarfod Pwyllgor diwethaf. Galluogodd
i’r Pwyllgor fonitro perfformiad a chynnydd yr Adain Archwilio Mewnol yn
ogystal â darparu crynodebau o adroddiadau'r Adain Archwilio Mewnol er mwyn i’r
Pwyllgor dderbyn sicrwydd ar wasanaethau eraill y Cyngor a meysydd
corfforaethol. Roedd angen
monitro a mesur camau dilynol adroddiadau blaenorol yr Adain Archwilio Mewnol
er mwyn gwella amser y camau dilynol. Yn y pwynt hwn,
hysbysodd y Pennaeth Archwilio Mewnol y Pwyllgor y byddai’n gadael yr Awdurdod
ym mis Mai a bod Lisa Lovegrove wedi ei phenodi yn ei le. Roedd Lisa ar gyfnod mamolaeth ar hyn o bryd
a bydd yn dychwelyd ym mis Mehefin 2017. Dymunodd y
Cynghorydd Alice Jones a’r Pwyllgor yn dda iddo ar gyfer y dyfodol. PENDERFYNWYD y
dylid derbyn a chofnodi’r adroddiad. |
|
RHAGLEN WAITH Y PWYLLGOR LLYWODRAETHU CORFFORAETHOL PDF 150 KB {0><}100{>Ystyried rhaglen gwaith i’r dyfodol y
pwyllgor (copi’n amgaeedig).<0} Cofnodion: Cyflwynwyd
Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol i'w ystyried a
chytunodd yr aelodau ar yr ychwanegiadau canlynol:- · 27 Medi
2017 - Rheoli Gwybodaeth a Rheoli TG mewn Ysgolion · 29
Tachwedd 2017 - Rheoliadau Cyllid Ysgolion PENDERFYNWYD yn amodol ar yr uchod bod rhaglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn cael ei gymeradwyo. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 12.30pm. |