Agenda and draft minutes
Lleoliad: YSTAFELL BWLLGOR 1A, NEUADD Y SIR, RHUTHUN LL15 1YN
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.
Cofnodion: Dim datganiad o
fuddiant. |
|
Materion Brys Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Dim. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 13 Gorffennaf
2016 (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd
Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 13
Gorffennaf 2016. Tudalen 6 - Eitem
12 (materion sy’n codi) Gofynnodd Paul
Whitham am gadarnhad bod y wybodaeth a'r canllaw wedi cael ei ddosbarthu i bob
Pennaeth a Chorff Llywodraethu Ysgolion. Cadarnhaodd y
Pennaeth Archwilio Mewnol y byddai'n gwirio hynny ac yn rhoi gwybod i Aelodau'r
Pwyllgor. Tudalen 11 -
Eitem 8 - Adroddiad Blynyddol ar Rannu Pryderon. Gofynnodd Paul
Whitham am ganlyniad yr ymchwiliad. Cadarnhaodd y
Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Gwasanaethau Democrataidd y
byddai'n gwirio hynny ac yn rhoi gwybod i Aelodau'r Pwyllgor. PENDERFYNWYD yn
amodol ar yr uchod, y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor
Llywodraethu Corfforaethol fel cofnod cywir. |
|
PROSES Y GYLLIDEB 2017/18 PDF 100 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Asedau (copi ynghlwm) sy'n rhoi diweddariad
ar y broses i gyflawni'r gyllideb refeniw ar gyfer 2017/18. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol Cyllid, Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad, y Cynghorydd
Julian Thompson Hill adroddiad Proses y Gyllideb 2017/18 (a ddosbarthwyd yn
flaenorol) i roi diweddariad ar y broses i osod y gyllideb ar gyfer 2017/18. Cynhaliwyd Gweithdy'r Gyllideb ddiweddaraf ar 18 Gorffennaf 2016. Yn ystod
y gweithdy, fe amlinellwyd y tybiaethau cynllunio ariannol diweddaraf, y
cyd-destun economaidd, y broses ar gyfer 2017/18 a’r cynnydd wrth fynd i’r
afael â’r bwlch amcangyfrifedig yn y gyllideb Trafodwyd pwyntiau allweddol amrywiol, a chafodd y prif dybiaethau
cynllunio ariannol a’r goblygiadau posibl eu nodi. Tybiwyd y byddai 1% o arbedion effeithlonrwydd yn cael ei gyflwyno bob
blwyddyn fel rhan o'r strategaeth i ymdrin â'r bwlch yn y gyllideb. Roedd manylion y 1% o effeithlonrwydd arfaethedig ar gyfer 2017/18 wedi ei
ddosbarthu i'r Aelodau yn dilyn Gweithdy’r Gyllideb ym mis Gorffennaf 2016. Roedd amserlen y
gyllideb wedi cael ei gosod gan dybio y byddai setliad dros dro Llywodraeth
Leol yn cael ei gyhoeddi ar 19 Hydref 2016. O ystyried hyn, awgrymwyd bod y
Gweithdy Cyllideb a drefnwyd ar gyfer 14 Hydref, 2016 yn cael ei hail-drefnu ar
gyfer 1 Tachwedd 2016. Byddai gweithdy arall yn cael ei gynnal ar 18 Tachwedd
2016 ac wedi hynny, byddai gweithdai ychwanegol yn cael eu trefnu yn ôl yr
angen. Cafwyd trafodaeth
bellach a chodwyd y pwyntiau canlynol: ·
Gwelliant
parhaus i fod yn broses barhaol a arweinir gan Reolwyr. ·
Cytunwyd
na ellid cynnal yr arbedion effeithlonrwydd ar y lefel yr oedd wedi cael ei
osod yn ystod y 5 mlynedd diwethaf.
Rhoddwyd proses ar waith i ysgafnhau’r baich o wasanaethau. Byddai arbediad o 1% yn gyraeddadwy. ·
Cafodd
yr amser rhwng Gweithdy’r Gyllideb ym mis Gorffennaf a 1 Tachwedd ei drafod fel
problem, ond eglurodd yr Aelod Arweiniol, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill bod
angen yr holl ffeithiau a gwybodaeth drylwyr, ac ni fyddai hyn ar gael tan ar
ôl cyhoeddiad y setliad ar 19 Hydref. Diolchodd y
Cadeirydd ar ran y Pwyllgor i’r Aelod Arweiniol a'r Pennaeth Cyllid am eu
gwaith mewn perthynas ynglŷn â Phroses y Gyllideb. Soniodd y
Cadeirydd hefyd am bwysigrwydd presenoldeb Aelodau mewn Gweithdai Cyllideb i
gyflwyno syniadau a gofyn cwestiynau i swyddogion. PENDERFYNWYD bod
Aelodau'r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn ystyried y wybodaeth
ddiweddaraf o Broses y Gyllideb 2017/18 a chafwyd sylwadau fel y bo'n briodol. |
|
LLYTHYR YMHOLIADAU ARCHWILIO SIR DDINBYCH PDF 160 KB Ystyried
adroddiad gan y Prif Gyfrifydd (copi ynghlwm) i gyflwyno'r Llythyr Ymholiadau
Archwilio ac ymateb y Cyngor i'r ymholiadau hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Rheolwr Cyllid a Sicrwydd adroddiad Ymholiadau Archwilio 2015/16 (a
ddosbarthwyd yn flaenorol) i roi gwybod i’r Aelodau am ymateb y Cyngor. Roedd gan Swyddfa Archwilio Cymru (SAC), fel archwilwyr allanol penodedig CSDd,
ddyletswydd i gasglu tystiolaeth am sut mae rheolwyr a’r unigolion hynny sydd â
chyfrifoldeb dros lywodraethu (Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol) yn cyflawni
eu dyletswyddau i atal a chanfod twyll. Mae manylion o ymatebion y rheolwyr (Pennaeth Cyllid) a'r Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol (Cadeirydd PLlC) wedi eu
nodi fel Atodiad i'r adroddiad. Yn gryno, roedd yr ymatebion yn nodi ymagwedd y Cyngor tuag at y meysydd
canlynol o lywodraethu:- ·
Prosesau
rheoli sydd ar waith i adnabod a lliniaru yn erbyn y risg o dwyll ·
Ymwybyddiaeth
o unrhyw achosion gwirioneddol neu honedig o dwyll ·
Prosesau
i gael sicrwydd y cydymffurfiwyd â'r holl gyfreithiau a rheoliadau perthnasol ·
A
oedd unrhyw ymgyfreithiad posibl neu hawliadau
a fyddai'n effeithio ar y datganiadau ariannol ·
Prosesau
i adnabod, awdurdodi, cymeradwyo, cyfrif am a datgelu trafodion partïon
cysylltiedig a pherthnasoedd. Cadarnhaodd
cynrychiolydd SAC, Michelle Phoenix, nad oedd ganddynt unrhyw broblem â’r
ymatebion. PENDERFYNWYD y
dylai Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol gadarnhau yn ffurfiol yr
ymatebion sydd wedi'u cynnwys yn Atodiad 1 i'r adroddiad. |
|
CYMERADWYO’R DATGANIAD CYFRIFON PDF 160 KB Ystyried
adroddiad gan y Prif Gyfrifydd (copi ynghlwm) ar Ddatganiad Cyfrifon 2015/16. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Pennaeth Cyllid adroddiad Cymeradwyo Datganiad Cyfrifon 2015/16 (a ddosbarthwyd
yn flaenorol) i gael eu cymeradwyo’n ffurfiol gan aelodau etholedig ar ran y
cyngor. Roedd gan y
Cyngor ddyletswydd statudol i baratoi Datganiad Cyfrifon sy’n cydymffurfio â
safonau cyfrifo cymeradwy. Cymeradwywyd y
datganiadau ariannol ar gyfer 2015/16, yn amodol ar archwiliad, gan y Pennaeth
Cyllid ar 21 Mehefin 2016. Cyflwynwyd y cyfrifon drafft i'r Pwyllgor
Llywodraethu Corfforaethol ar 13 Gorffennaf 2016 ac roeddent yn agored i’w
arolygu’n gyhoeddus o 11 Gorffennaf - 5 Awst. Roedd Rheoliadau
Cyfrifon ac Archwilio yn gofyn i’r Cyngor gymeradwyo’r cyfrifon a archwiliwyd,
gan gynnwys barn yr archwilydd allanol, yn ffurfiol erbyn mis Medi 2016. Mae’r
cyfrifoldeb dros gymeradwyo’r cyfrifon archwiliedig wedi cael ei ddirprwyo i’r
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol. Cafodd y
Datganiad o Gyfrifon eu paratoi yn unol â Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol
(IFRS). Mae Sefydliad Siartredig Cyllid
a Chyfrifeg Cyhoeddus yn cynhyrchu Cod Ymarfer ar Gyfrifeg Awdurdodau Lleol, yn
seiliedig ar Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol ac mae'r Cyngor wedi paratoi
cyfrifon 2015/16 yn unol â'r Cod hwnnw. Mae etholydd wedi
cofrestru gwrthwynebiad i'r cyfrifon gyda Swyddfa Archwilio Cymru (SAC). Cadarnhaodd cynrychiolydd Swyddfa Archwilio
Cymru Michelle Phoenix, er eu bod yn
cymeradwyo'r Datganiad o Gyfrifon, ni allent gau’r Cyfrifon nes bod y
cwestiynau wedi cael eu hasesu o ran a ydynt yn cyd-fynd â'r meini prawf, a'r
gwrthwynebydd yn fodlon. Felly, roeddynt
wedi diwygio'r paragraff adroddiad archwilio i fynegi hyn. Mae Swyddfa
Archwilio Cymru wedi gweithio'n agos â’r tîm Cyllid er mwyn sicrhau fod yr
archwiliad yn cael ei gwblhau mewn pryd ac yn llwyddiannus. Cafwyd barn broffesiynol oddi wrth nifer o
ddisgyblaethau eraill tu hwnt i gyllid, megis yr adain gyfreithiol, prisio
eiddo, adnoddau dynol a phensiynau. Cynhaliwyd trafodaeth
gyffredinol a mynegodd y Cadeirydd werthfawrogiad ar ran y Pwyllgor am y gwaith
a wnaed gan y Pennaeth Cyllid, ei swyddogion a Swyddfa Archwilio Cymru. PENDERFYNWYD: ·
bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol
yn cymeradwyo Datganiad Cyfrifon 2015/16, sef Atodiad 1 i'r adroddiad ·
yn gofyn i’r Cadeirydd ac i’r Prif Swyddog
Cyllid lofnodi’r Cyfrifon a’r Llythyr Sylwadau. |
|
ADRODDIAD ESTYN AR GONSORTIWM RHANBARTHOL GWE PDF 295 KB Ystyried
adroddiad llafar gan y Pennaeth Addysg ynghylch Adroddiad Estyn ar Gonsortiwm
Rhanbarthol GwE. Cofnodion: Cyflwynodd y
Pennaeth Addysg adroddiad llafar yn dilyn adroddiad Estyn ar Gonsortiwm
Rhanbarthol GwE. Cafodd pedwar
consortia addysg eu sefydlu yn 2013, ac mae GwE yn darparu gwasanaethau
gwelliant i ysgolion ar gyfer y chwe Awdurdod Lleol yng Ngogledd Cymru: Ynys
Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd a Wrecsam. Gogledd Cymru
oedd â'r gyfran isaf o ddisgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol o'r pedwar
rhanbarth Cymreig. At ei gilydd, mae
cyfradd y gwelliant mewn deilliannau disgyblion yng Ngogledd Cymru ar draws
nifer o ddangosyddion dros dair blynedd hyd at 2015 wedi bod fwyaf araf o’r
pedwar rhanbarth. Mae'r consortiwm
wedi gwella ei system rheoli gwybodaeth.
Roedd gan staff y Consortiwm fynediad i’r system, ac o’i ddefnyddio’n
fwy effeithiol, roedd ganddynt wybodaeth amrywiol o safon i gefnogi eu gwaith. Fodd bynnag, nid yw data wedi cael ei
ddefnyddio bob amser yn effeithiol nac yn ddigon priodol i werthuso rhaglenni a
phrosiectau i gefnogi gwella ysgolion. Mae'r consortiwm
wedi bod yn araf i roi her a chefnogaeth glir a chyson i ysgolion ar leihau
effaith amddifadedd ar ddeilliannau. Mae crynodeb o
ganlyniadau'r adroddiadau fel a ganlyn: ·
Cymorth
ar gyfer Gwella Ysgolion - Digonol ·
Arweinyddiaeth
- Digonol ·
Gwella
Ansawdd - Digonol ·
Partneriaethau
- Digonol ·
Rheoli
Adnoddau - Anfoddhaol Mae'r
argymhellion a gynhwyswyd yn yr adroddiad fel a ganlyn: Argymhelliad 1
– Sicrhau fod
gwasanaethau gwella ysgolion yn defnyddio data, gosod targedau a gweithdrefnau
tracio yn fwy effeithiol i herio a chefnogi ysgolion er mwyn gwella perfformiad
pob dysgwr mewn ysgolion a ledled Awdurdodau Lleol, yn enwedig yng nghyfnod
allweddol 4. Argymhelliad 2 - Gwella ansawdd gwerthusiad o ran
darparu gwasanaethau gwella ysgolion. Argymhelliad 3 - Gwella llymder y trefniadau ar gyfer
adnabod a rheoli risg. Argymhelliad 4 - Sicrhau bod busnes a chynlluniau
gweithredol yn cynnwys meini prawf llwyddiant clir a bod y cynnydd yn erbyn y
rhain yn cael eu monitro'n effeithiol. Argymhelliad 5 - Egluro rôl strategol y rhwydweithiau
rhanbarthol a'u hatebolrwydd i'r Cyd-bwyllgor. Argymhelliad 6 – Datblygu fframwaith briodol er mwyn
asesu gwerth am arian; sicrhau bod cynllun ariannol tymor canolig-hir dymor yn
cyd-fynd â’r cynllun busnes a bod ffrydiau gwaith yn cael eu costio’n llawn.
Dywedodd y
Pennaeth Addysg wrth y Pwyllgor fod Prif Weithredwr y chwe Awdurdod Lleol yng
Ngogledd Cymru wrthi’n trafod ynghylch pa weithred yw’r mwyaf priodol i’w
gymryd gyda GwE i fynd i’r afael â’r pryderon. Cytunodd
Aelodau’r Pwyllgor fod yr adroddiad wedi bod yn anfoddhaol ac yn dilyn
trafodaeth, cytunwyd y dylid cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Addysg i'r
Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion i’w diweddaru am gynnydd ar yr
argymhellion yn adroddiad Estyn. PENDERFYNWYD: ·
Bod aelodau yn derbyn a nodi Adroddiad
Estyn ar Gonsortiwm Rhanbarthol GwE ·
Bod y Pennaeth Addysg yn cyflwyno
adroddiad i Gadeiryddion ac Is-gadeiryddion Archwilio ar y cynnydd ynghylch
argymhellion adroddiad Estyn. |
|
DIOGELU CORFFORAETHOL - ADRODDIAD DIWEDDARU PDF 152 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Archwilio Mewnol (copi ynghlwm) sy'n rhoi diweddariad
ar gynnydd gweithredu'r cynllun gweithredu a oedd yn cyd-fynd â’r adroddiad
Archwilio Mewnol ar Ddiogelu Corfforaethol ym mis Awst, 2015. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Pennaeth Archwilio Mewnol, Adroddiad Diweddaru ar Ddiogelu Corfforaethol (a
ddosbarthwyd yn flaenorol) i roi gwybod sut mae’r cyngor yn gweithredu
gwelliannau mewn diogelu corfforaethol ers cyhoeddi adroddiad Archwilio Mewnol
yn 2015. Yn yr archwiliad gwreiddiol, cafwyd “Sicrwydd Isel”, a gafodd ei
ddiweddaru i “Sicrwydd Canolig” ar ddiwedd y casgliad dilynol ym mis Mawrth
2016. Roedd y Pwyllgor
Llywodraethu Corfforaethol wedi gofyn am adroddiad cynnydd i sicrhau bod
materion yn cael eu datrys. Dangosodd yr
adroddiad dilynol bod cynnydd da yn dal i gael ei wneud wrth weithredu'r
cynllun gweithredu ac mae’r sgôr sicrwydd yn parhau i fod yn “Ganolig”. Gwnaed
gwelliannau i reoli risg y gwasanaeth, mesurau i wella rheolaethau ar gyfer yr
asesiadau o atgyfeiriadau Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid (DoLS), ac yn y
Panel Diogelu Corfforaethol. Rydym yn dal i
roi sylw i rai meysydd, yn enwedig mewn perthynas â datblygu hyfforddiant staff
a sicrhau bod gweithwyr ac aelodau etholedig yn ymwybodol o fodolaeth y Polisi
Diogelu Corfforaethol. Mae gwaith hefyd
yn mynd rhagddo i wella sgiliau a gwybodaeth y Rheolwyr Diogelu Dynodedig
(DSMs) drwy ddatblygu fframwaith cymwyseddau a rhaglen hyfforddi. Cafodd y mater o
bresenoldeb isel ymysg aelodau etholedig yn y sesiynau hyfforddi gorfodol ar
ddiogelu ei drafod. Cafodd y Pwyllgor
wybod y gobeithir cyflwyno modiwlau e-ddysgu yn y dyfodol i wella mynediad at
hyfforddiant ar gyfer aelodau etholedig. Cadarnhawyd bod
gwaith yn dal i gael ei wneud ynghylch y drwydded ond byddai adroddiad
ysgrifenedig gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cymunedau yn cael ei gyflwyno i'r
Pwyllgor pan fyddai’r modiwl hyfforddi ar waith. Yn rhan o'r
broses recriwtio, roedd hi’n bwysig gwirio cymwysterau a geirdaon i alluogi
lefel o sicrwydd y staff roedd yr Awdurdod Lleol yn eu cyflogi. Mae’r adran Adnoddau Dynol yn anfon
diweddariadau rheolaidd sy’n cynnwys yr wybodaeth, e.e. nifer y staff sy’n cael
eu recriwtio, a oeddynt yn cydymffurfio â geirda, yn cydymffurfio â chymwysterau
ac yn cydymffurfio swyddfa GDG. PENDERFYNWYD bod
y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn yr adroddiad ac yn nodi y dylid
cyflwyno adroddiad cynnydd ar ôl lansio’r modiwl hyfforddi. |
|
YSGOL MAIR Y RHYL - DIWEDDARIAD ADRODDIAD ARCHWILIO MEWNOL PDF 151 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Archwilio Mewnol (copi ynghlwm) sy'n rhoi diweddariad ar
gynllun gweithredu’r adroddiad Archwilio Mewnol ar gyfer Ysgol Mair. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Pennaeth Archwilio Mewnol adroddiad diweddariad Ysgol Mair, Y Rhyl (a
ddosbarthwyd yn flaenorol). Roedd adroddiad
Archwilio Mewnol ym mis Awst 2015 yn cynnwys cynllun gweithredu ar gyfer nifer
o feysydd gwella yn Ysgol Mair. Roedd yn
amlygu’r diffyg ariannol yn yr Ysgol ac y byddai angen datblygu cynllun adfer
cadarn. Roedd y Pwyllgor
Llywodraethu Corfforaethol wedi trafod yr adroddiad Archwilio Mewnol mewn dau
gyfarfod blaenorol, gan ofyn i adroddiad cynnydd pellach gael ei gyflwyno
gerbron y cyfarfod ym mis Medi 2016. Cadarnhaodd y
Pennaeth Archwilio Mewnol bod yr holl gamau gweithredu o fewn y cynllun gwella,
ar wahân i un, wedi cael sylw. Roedd y Pennaeth,
Stuart Blunkett, yn y cyfarfod i egluro’r camau a gymerwyd. Yr unig faes sy’n
weddill yn y cynllun gweithredu oedd cwblhau’r dogfennau gweithdrefn ariannol i
gynorthwyo gyda hyfforddi a pharhad staff.
Mae gwaith wedi dechrau ar y dogfennau, ond oherwydd salwch staff nid
oeddynt wedi’u cwblhau eto, ond mae gwaith yn awr yn parhau ar y dogfennau gan
fod yr aelod o staff dan sylw wedi dychwelyd i'r gwaith. Pan gyhoeddwyd yr
adroddiad Archwilio Mewnol, roedd yr Ysgol yn rhagweld diffyg ariannol o
£40,000 ar gyfer 2015/16, a fyddai’n codi i dros £300,000 erbyn 2017/18 os na
fyddai’n gweithredu o gwbl. Gan fod y
cynllun adfer wedi cael ei roi ar waith, fe arweiniodd at weddill bychan yn
2015/16 a rhagwelir y bydd gweddill bob blwyddyn hyd at 2018/19 yn seiliedig ar
ddyraniadau presennol y gyllideb.
Cyflawnwyd hyn yn bennaf drwy newidiadau staffio. Ar ran y
Pwyllgor, llongyfarchodd y Cadeirydd y Pennaeth gan ddiolch i’r staff am eu
gwaith caled. PENDERFYNWYD bod
y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn yr adroddiad, yn nodi'r cynnydd
a wnaed ac ysgrifennu llythyr at yr ysgol gan y Pwyllgor yn ymestyn
llongyfarchiadau a diolch i bawb am eu gwaith caled. |
|
Ar y pwynt hwn (11.40 a.m.) cafwyd toriad Ailddechreuodd y cyfarfod am 11.55am. |
|
Ar y pwynt hwn,
cytunwyd i amrywio trefn yr eitemau oedd yn weddill ar yr agenda, a chynigiwyd
ac eiliwyd bod yr eitemau canlynol yn cael eu symud i RAN II – Eitemau
Cyfrinachol. |
|
PENDERFYNWYD
dan ddarpariaethau Adran
100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar
gyfer yr eitemau canlynol ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o
gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 12 ac 13 Rhan 4 Atodlen 12A y
Ddeddf. |
|
ADRODDIAD ARCHWILIAD MEWNOL - GWASANAETHAU PARCIO Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Archwilio Mewnol (copi ynghlwm) sy’n rhoi manylion
adroddiad Archwilio Mewnol diweddar ar Wasanaethau Parcio a gafodd sgôr
sicrwydd “Isel”. Cofnodion: Cyflwynodd y
Pennaeth Archwilio Mewnol adroddiad cyfrinachol Gwasanaethau Parcio (a
ddosbarthwyd yn flaenorol) i roi gwybod i'r aelodau am y cynnydd o ran y
cynllun gweithredu gwella. Cyflwynwyd yr
Archwiliad mewn dwy ran. Mae
Partneriaeth Prosesu Cosbau Cymru (PPCC) wedi bod yn gweithredu yn dda a
derbyniodd sgôr Sicrwydd "Uchel". Fodd
bynnag, roedd rhywfaint o wendidau sylweddol o fewn y Gwasanaethau Parcio a
oedd wedi arwain at sgôr sicrwydd "Isel". Y prif bwyntiau a
godwyd yn yr adroddiad oedd bod gwendidau mewn rheolaeth ariannol o gwmpas
cysoni incwm a gesglir, monitro incwm a gesglir drwy ddulliau "talu dros y
ffôn" a gweinyddu trwyddedau parcio a allai fod wedi arwain at golli
incwm. Ar y cyfan, cytunwyd fod angen
moderneiddio’r prosesau o fewn y gwasanaeth gan eu bod yn aneffeithlon ac yn
cynyddu dyblygu. PENDERFYNWYD derbyn
adroddiad diweddaru a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol gan y
Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch ar y Ffyrdd, ar 23 Tachwedd 2016. |
|
ARCHWILIO SYSTEM RHEOLI GWYBODAETH FEWNOL A RHEOLI TG MEWN YSGOLION Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Archwilio Mewnol (copi ynghlwm) sy’n rhoi manylion
adroddiad Archwilio Mewnol diweddar ar Reoli Gwybodaeth a Rheoli TG mewn Ysgolion
a gafodd sgôr sicrwydd “Isel”. Cofnodion: Cyflwynodd y
Pennaeth Archwilio Mewnol adroddiad cyfrinachol Rheoli Gwybodaeth a Rheoli TG
mewn Ysgolion (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i roi gwybod i'r aelodau am y
cynnydd o ran y cynllun gweithredu gwella. Yn bennaf, cafodd
yr adolygiad archwiliad ei gynnal trwy ymgymryd ag arolwg rheoli gwybodaeth o
ysgolion, a derbyniwyd ymateb da.
Cynhaliwyd ymweliadau â saith ysgol er mwyn gwirio’r trefniadau sydd ar
waith. Ar y cyfan,
canfu'r adolygiad bod sawl maes o wendid o fewn ysgolion sy'n ymwneud â
chydymffurfio â deddfwriaeth, e.e. Deddf Diogelu Data, Diogelwch TG, ac
ymwybyddiaeth gyffredinol o ofynion.
Mae’r Pwyllgor Archwilio Mewnol eisoes wedi mynychu cyfarfod y Fforwm
Clwstwr o reolwyr busnes a chyllid i dynnu sylw at y gwendidau, a byddant yn
anfon nodyn cyfarwyddyd i'r holl benaethiaid er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r
gwendidau a ganfuwyd. PENDERFYNWYD bod
adroddiad cynnydd yn cael ei gyflwyno yn y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol
yn y cyfarfod a fydd yn cael ei gynnal ar 25 Ionawr 2017. |
|
Yn y pwynt hwn, dychwelodd y cyfarfod i RAN I |
|
RHEOLI FFLYD - ADRODDIAD DIWEDDARU PDF 151 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Archwilio Mewnol (copi ynghlwm) sy'n rhoi diweddariad
ar gynnydd gweithredu'r Cynllun Gweithredu a oedd yn cyd-fynd â’r adroddiad
Archwilio Mewnol ar Reoli’r Fflyd Gorfforaethol ym mis Hydref, 2015. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Pennaeth Archwilio Mewnol adroddiad Diweddariad ar Reoli Fflyd Corfforaethol (a
ddosbarthwyd yn flaenorol) i ddarparu gwybodaeth am gynnydd y Cynllun
Gweithredu oedd yn cyd-fynd ag adroddiad Archwilio Mewnol ar Reoli Fflyd
Corfforaethol ym mis Hydref 2015. Roedd yr adroddiad Archwilio Mewnol wedi rhoi
"Sicrwydd Isel ", felly gofynnodd y Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol am adroddiad cynnydd i sicrhau bod y materion yn cael sylw. Dyma'r ail
adroddiad cynnydd, gyda’r un blaenorol ym mis Mawrth 2016. Gwnaed cynnydd da
ar weithredu’r materion a'r risgiau roedd yr Archwiliad Mewnol wedi'u nodi. Roedd rhai camau
gweithredu oedd heb eu cymryd, ond roedd y prif faterion wedi cael sylw,
megis:- ·
datblygu
Polisi Cludiant newydd, gwelliannau ·
gwelliannau
i iechyd a diogelwch, a ·
gwiriadau
gyrrwr. Roedd mynd i’r
afael â materion yn golygu y gallai’r gyfradd sicrwydd wella i "Sicrwydd
Canolig". Yn ystod y
drafodaeth, cytunwyd y byddai adroddiad diweddaru pellach yn cael ei gyflwyno
i'r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ym mis Ebrill 2017. PENDERFYNWYD bod
y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol derbyn a nodi adroddiad Diweddariad ar
Reoli Fflyd Gorfforaethol ac y byddai adroddiad Diweddaru pellach yn cael ei
gyflwyno yn y cyfarfod a oedd i'w gynnal ym mis Ebrill 2017. |
|
RHAGLEN WAITH Y PWYLLGOR LLYWODRAETHU CORFFORAETHOL PDF 197 KB Ystyried Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor (copi ynghlwm.) Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Monitro, Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i’w ystyried. Cadarnhaodd y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor yn
amodol ar gynnwys yr adroddiadau canlynol:- 23 Tachwedd
2016 Adroddiad
Archwilio Mewnol - Gwasanaethau Parcio 25 Ionawr 2017 Archwiliad Mewnol
o Reoli Gwybodaeth a Rheoli TG mewn Ysgolion Ysgol Uwchradd y
Rhyl - Gwersi a ddysgwyd 26 Ebrill 2017 Rheoli Fflyd -
Adroddiad diweddaru PENDERFYNWYD yn
amodol ar yr uchod bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn cymeradwyo’r
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 1.05 pm. |