Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

ADRODDIAD CYLLID

Cyfarfod: 28/10/2014 - Cabinet (Eitem 6)

6 ADRODDIAD CYLLID pdf eicon PDF 102 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau (copi ynghlwm) yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd ar strategaeth y gyllideb a gytunwyd arni.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2014/15 a'r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth gyllidol y cytunwyd arni.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a'r cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllidol y cytunwyd arni.  Rhoddodd y crynodeb canlynol o sefyllfa ariannol y Cyngor -

 

·        rhagwelwyd tanwariant o £9,000 yn y gyllideb refeniw ar gyfer cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol

·        cytunwyd ar arbedion o £7.1m fel rhan o'r gyllideb ac ar hyn o bryd ystyrir bod pob un unai wedi eu cyflawni neu yn y broses o gael eu cyflawni

·        amlygwyd y prif amrywiadau oddi wrth gyllidebau neu dargedau arbedion meysydd gwasanaeth unigol

·        cafwyd diweddariad cyffredinol ynglŷn â’r Cyfrif Refeniw Tai; Cynllun Tai Cyfalaf a’r Cynllun Cyfalaf (yn cynnwys yr elfen Cynllun Corfforaethol).

 

Yr unig faes a gafwyd gorwariant sylweddol oedd Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol, fel y nodwyd mewn adroddiadau blaenorol, a oedd yn cynnwys cludiant ysgol, gostyngiad mewn incwm parcio, a phryderon ynghylch incwm ffioedd dylunio o Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (NMWTRA).  Amlygodd y Cynghorydd David Smith bod y materion hynny i raddau helaeth y tu allan i reolaeth yr awdurdod ac er bod mesurau lliniaru wedi eu cymryd, roedd yn bryderus na fyddai'n ddigon i sicrhau cyllideb gytbwys ar ddiwedd y flwyddyn.  Ystyriodd y Cabinet y camau gweithredu i fynd i'r afael â'r gorwariant gyda llawer o drafodaeth ynghylch incwm parcio ceir.  Cytunwyd i aros am ganfyddiadau'r adolygiad parcio ceir parhaus cyn ystyried p'un ai i ymchwilio i'r opsiwn o allanoli’r ddarpariaeth honno.  O ran llai o incwm o NMWTRA fe ddywedodd y Cynghorydd David Smith bod pryderon wedi codi mewn cyfarfodydd gyda'r Asiantaeth ac mewn llythyrau at Weinidogion.  Yn ymateb i bryderon na fydd y gwasanaeth yn gallu cyflawni cyllideb gytbwys erbyn diwedd y flwyddyn fe adroddodd y Pennaeth Cyllid ac Asedau am y gwahanol gamau o reolaeth ariannol sydd i'w defnyddio yn yr amgylchiadau hynny.

 

Hefyd, trafododd y Cabinet strategaeth y gyllideb ac esboniodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill nad oedd pob gwasanaeth wedi gwneud yr un lefel o doriadau am fod y broses wedi nodi lle y gellid sicrhau’r arbedion gorau posibl gyda’r lleiaf o effaith.  Er bod addysg a gwasanaethau cymdeithasol wedi cael eu diogelu i raddau helaeth roedd meysydd gwasanaeth eraill wedi gorfod wynebu mwy o doriadau.  Cynghorodd y Prif Weithredwr ynglŷn â lefel y toriadau, o ran canrannau a gymerwyd gan wasanaethau unigol hyd yma ac eglurodd y rhesymeg y tu ôl i'r broses gyllideb bresennol a’r sgôp am fwy o arbedion mewn meysydd penodol tra'n adlewyrchu'r blaenoriaethau a nodwyd gan yr aelodau.  Byddai manylion pellach ac effaith y toriadau yn cael eu darparu i aelodau yng Ngweithdy Cyllideb mis Rhagfyr.  Canmolodd yr aelodau y dulliau arloesol a gymerwyd mewn meysydd penodol a oedd wedi achosi arbedion tra'n cynnal lefelau neu’n golygu gwelliannau mewn darpariaeth a chyflenwi gwasanaeth.  Teimlai'r Arweinydd fod broses y gyllideb wedi bod yn agored ac yn eglur, gyda phob aelod wedi derbyn y wybodaeth berthnasol, a bod effaith y toriadau ar drigolion wedi bod yn gyfyngedig.

 

Mewn ymateb i gwestiynau cyffredinol sicrhawyd bod cyfathrebu helaeth wedi bod efo’r Prosiect Gwella Tai Gorllewin y Rhyl a bod aelodau lleol wedi cael eu gwneud yn gwbl ymwybodol o ddatblygiadau.  O ran rheoli'r trysorlys mae rhan fwyaf o falansau buddsoddi'r Cyngor ar gael yn rhwydd.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2014/15 a'r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth gyllidol y cytunwyd arni.