Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

Annual Report of the Corporate Governance Committee

Cyfarfod: 22/10/2014 - Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG) (Eitem 8)

8 AG A CHYMUNEDAU LLEOL pdf eicon PDF 62 KB

Derbyn diweddariad ar lafar gan yr Arweinydd Systemau ar gyfer GwE ynghylch y prosiect i gefnogi ysgolion sy’n gweithio gyda'u cymunedau crefyddol lleol.

 

Cofnodion:

Rhoddodd Arweinydd Systemau GwE (AS) ddiweddariad ar lafar ynghylch y prosiect i gefnogi ysgolion sy’n gweithio gyda'u cymunedau crefyddol lleol, gan roi gwybod mai ymateb cymharol isel a gafwyd gan ysgolion i gais am astudiaethau achos.  O ganlyniad, roedd dyddiad cau ar gyfer ymatebion wedi’i ymestyn ac roedd yr AS wedi llunio ffurflen gydag awgrymiadau a syniadau i'w dosbarthu i ysgolion er mwyn annog ymatebion mwy ysbrydoledig.

 

Roedd yr Aelodau’n tybied mai pwysau a gofynion cyfredol ar ysgolion oedd y rheswm tebygol dros yr ymateb gwael.  Trafododd yr Aelodau ffyrdd o sicrhau y cysylltir ag unigolion perthnasol o fewn yr ysgolion er mwyn ennyn yr ymatebion gorau.  Roedd camau gweithredu ymarferol yn cynnwys -

 

·        cylchredeg copi o'r ffurflen i'r holl aelodau CYSAG i'w rhoi i’w hysgolion

·        anfon y ffurflen yn uniongyrchol i ysgolion ar gyfer sylw'r Cydlynwyr AG er mwyn sicrhau bod y cais yn cael ei dderbyn gan yr unigolyn priodol

·        y posibilrwydd o gynnig cymhelliant i ysgolion i ymateb

·        tynnu sylw aelodau o'r corff llywodraethu i godi ymwybyddiaeth

 

Amlygodd y Cadeirydd yr amser a oedd wedi mynd heibio ers darparwyd unrhyw hyfforddiant penodol, ac yn teimlo mai’r ffordd orau ymlaen fyddai trefnu sesiwn hanner diwrnod benodol ar gyfer pob Cydlynydd AG.  Trafododd yr Aelodau y posibilrwydd o drefnu sesiwn o'r fath a nodwyd na fyddai'r AS yn cael caniatâd i ymgymryd â'r dasg hon fel rhan o'i rôl bresennol.  Cynigiodd Mr. Simon Cameron i gymryd y cyfrifoldeb hwnnw, gan roi gwybod am ei rôl fel Swyddog Ysgolion ar gyfer Esgobaeth Llanelwy a sesiynau tebyg roedd wedi’u trefnu yn rhinwedd y swydd, gan dynnu sylw at werth digwyddiad o'r fath.  Roedd yn hapus i roi ei friff i ysgolion cymunedol os oes angen.  Teimlai'r AS y byddai GwE yn caniatáu iddo fynychu'r sesiwn os oedd Mr Cameron yn barod i gymryd y cyfrifoldeb am drefnu'r digwyddiad, a thynnodd sylw at  fanteision dull cydweithredol.  Adroddodd hefyd ar y trafodaethau diweddar yng ngoleuni'r trefniadau consortia newydd, a oedd yn awgrymu bod angen i CYSAG fod yn fwy rhagweithiol ac yn llai dibynnol ar eu swyddogion cefnogi.  Ychwanegodd y Cadeirydd y byddai Pennaeth Addysg Sir Ddinbych yn debygol o fod eisiau cyfranogi yn y fenter hon.  Diolchodd yr AS a Mr Cameron am eu hymroddiad a -

 

PENDERFYNWYD:-

 

(a)       nodi diweddariad llafar ar y prosiect Cymunedau Lleol ac AG, a

 

(b)       bod Arweinydd Systemau GwE a Mr. Simon Cameron yn cwrdd y tu allan i'r cyfarfod i drafod yr agweddau ymarferol ar drefnu sesiwn ar gyfer Cydlynwyr AG.