Mater - cyfarfodydd
Annual Report of the Corporate Governance Committee
Cyfarfod: 22/10/2014 - Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG) (Eitem 8)
8 AG A CHYMUNEDAU LLEOL PDF 62 KB
Derbyn
diweddariad ar lafar gan yr Arweinydd Systemau ar gyfer GwE ynghylch y prosiect
i gefnogi ysgolion sy’n gweithio gyda'u cymunedau crefyddol lleol.
Cofnodion:
Rhoddodd
Arweinydd Systemau GwE (AS) ddiweddariad ar lafar ynghylch y prosiect i gefnogi
ysgolion sy’n gweithio gyda'u cymunedau crefyddol lleol, gan roi gwybod mai
ymateb cymharol isel a gafwyd gan ysgolion i gais am astudiaethau achos. O
ganlyniad, roedd dyddiad cau ar gyfer ymatebion wedi’i ymestyn ac roedd yr AS
wedi llunio ffurflen gydag awgrymiadau a syniadau i'w dosbarthu i ysgolion er
mwyn annog ymatebion mwy ysbrydoledig.
Roedd yr
Aelodau’n tybied mai pwysau a gofynion cyfredol ar ysgolion oedd y rheswm
tebygol dros yr ymateb gwael. Trafododd yr Aelodau ffyrdd o sicrhau y
cysylltir ag unigolion perthnasol o fewn yr ysgolion er mwyn ennyn yr ymatebion
gorau. Roedd camau gweithredu ymarferol yn cynnwys -
·
cylchredeg
copi o'r ffurflen i'r holl aelodau CYSAG i'w rhoi i’w hysgolion
·
anfon
y ffurflen yn uniongyrchol i ysgolion ar gyfer sylw'r Cydlynwyr AG er mwyn
sicrhau bod y cais yn cael ei dderbyn gan yr unigolyn priodol
·
y
posibilrwydd o gynnig cymhelliant i ysgolion i ymateb
·
tynnu
sylw aelodau o'r corff llywodraethu i godi ymwybyddiaeth
Amlygodd y
Cadeirydd yr amser a oedd wedi mynd heibio ers darparwyd unrhyw hyfforddiant
penodol, ac yn teimlo mai’r ffordd orau ymlaen fyddai trefnu sesiwn hanner
diwrnod benodol ar gyfer pob Cydlynydd AG. Trafododd
yr Aelodau y posibilrwydd o drefnu sesiwn o'r fath a nodwyd na fyddai'r AS yn
cael caniatâd i ymgymryd â'r dasg hon fel rhan o'i rôl bresennol. Cynigiodd
Mr. Simon Cameron i gymryd y cyfrifoldeb hwnnw, gan roi gwybod am ei rôl fel
Swyddog Ysgolion ar gyfer Esgobaeth Llanelwy a sesiynau tebyg roedd wedi’u
trefnu yn rhinwedd y swydd, gan dynnu sylw at werth digwyddiad o'r fath. Roedd
yn hapus i roi ei friff i ysgolion cymunedol os oes angen. Teimlai'r
AS y byddai GwE yn caniatáu iddo fynychu'r sesiwn os oedd Mr Cameron yn barod i
gymryd y cyfrifoldeb am drefnu'r digwyddiad, a thynnodd sylw at fanteision dull cydweithredol. Adroddodd
hefyd ar y trafodaethau diweddar yng ngoleuni'r trefniadau consortia newydd, a
oedd yn awgrymu bod angen i CYSAG fod yn fwy rhagweithiol ac yn llai dibynnol
ar eu swyddogion cefnogi. Ychwanegodd y Cadeirydd y byddai Pennaeth
Addysg Sir Ddinbych yn debygol o fod eisiau cyfranogi yn y fenter hon. Diolchodd
yr AS a Mr Cameron am eu hymroddiad a -
PENDERFYNWYD:-
(a) nodi diweddariad llafar ar y prosiect Cymunedau Lleol ac AG, a
(b) bod Arweinydd Systemau GwE a Mr. Simon Cameron yn cwrdd y tu allan i'r
cyfarfod i drafod yr agweddau ymarferol ar drefnu sesiwn ar gyfer Cydlynwyr AG.