Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

HOME TO SCHOOL TRANSPORT ELIGIBILITY POLICY

Cyfarfod: 30/09/2014 - Cabinet (Eitem 5)

5 POLISI CYMHWYSTER CLUDIANT O’R CARTREF I’R YSGOL pdf eicon PDF 305 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol Addysg (copi'n amgaeedig) yn gofyn am gymeradwyaeth i gael mannau codi disgyblion ysgolion uwchradd ac i egluro'r polisi presennol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

(a)       cytuno i ddiwygio'r polisi presennol i gyflwyno mannau casglu canolog ar gyfer pob disgybl ysgol uwchradd;

 

(b)       nodi'r polisi llawn yn Atodiad 1 i'r adroddiad a fydd yn ei grynodeb yn darparu cludiant am ddim i'r ysgol uwchradd briodol agosaf o fan casglu dynodedig;

 

(c)        caniatáu i ddisgyblion ysgol uwchradd presennol barhau i gael mynediad i gludiant am ddim am weddill eu bywyd ysgol statudol presennol o fan casglu canolog;

 

(d)       nodi nad oes unrhyw newid i gludiant ar gyfer disgyblion ysgol gynradd;

 

(e)       cytuno bod yr argymhellion uchod yn cael eu rhoi ar waith ar unwaith yn unol â galwad y Cyngor o ran rheolau gweithdrefn a gynhwysir yn y cyfansoddiad yn wyneb yr amgylchiadau a nodir ym mharagraff 4.1 o'r adroddiad,

 

(f)         gofyn i'r Grŵp Strategol Addysg Gymraeg adolygu categori iaith pob ysgol yn ystod tymor yr hydref a chyflwyno adroddiad i’r pwylgor archwilio yn gynnar yng ngwanwyn 2015; a

 

(g)    fod asesiad o effaith adolygu’r polisi yn cael ei gynnal gyda’r canfyddiadau yn cael eu cyflwyno i bwyllgor archwilio ar derfyn blwyddyn gyntaf ei weithrediad.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol Addysg adroddiad (copi'n amgaeedig) yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i weithredu mannau codi ar gyfer disgyblion ysgolion uwchradd ac i egluro'r polisi presennol. 

 

Darparwyd ychydig o gefndir i'r adroddiad ynghyd ag eglurhad o'r broses ymgynghori a'r amserlenni i’w gweithredu.  Diolchodd y Cynghorydd Williams i ymatebwyr i’r ymgynghoriad am eu cyfraniad.  Mae'r holl ymatebion wedi'u hystyried yn ofalus ac mae'r prif faterion a godwyd wedi cael sylw yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y Cabinet i weithredu mannau casglu canolog ar gyfer disgyblion ysgolion uwchradd a fyddai'n cynhyrchu arbedion o tua £272k a nodwyd bod adborth wedi bod yn gadarnhaol ar y cyfan yn dibynnu os oedd y prosesau asesu risg perthnasol yn eu lle.  Canolbwyntiodd y Cabinet hefyd ar ganlyniad gorfodi'r polisi newydd i gael gwared ar anghysondebau hanesyddol yn y broses cymhwyster ynghyd â'r pryderon a godwyd fel rhan o'r broses ymgynghori, gan gydnabod ei fod yn fater cymhleth iawn.  O ganlyniad, gofynnodd yr aelodau gwestiynau yn ogystal â cheisio cael sicrwydd ynghylch materion penodol a godwyd er mwyn bodloni eu hunain bod y cynigion a gafwyd yn yr adroddiad yn cynrychioli'r ffordd orau ymlaen.

 

Canolbwyntiodd prif rannau’r drafodaeth ar y canlynol -

 

·        cydnabuwyd bod unrhyw arbedion a gynhyrchir yn gweithredu mannau casglu canolog yn mynd i'r afael â'r gorwariant presennol yn y gyllideb cludiant ysgol yn unig ac ni fyddai'n dod i rym tan fis Medi 2015 – o ystyried y sefyllfa ariannol bresennol sydd ohoni byddai adrannau anstatudol eraill o’r polisi yn debygol o fod yn amodol i adolygiad yn y dyfodol

·        eglurwyd bod anghysondebau wedi'u creu dros nifer o flynyddoedd oherwydd y diffyg eglurder yn y polisi gyda swyddogion wedi cymryd ymagwedd bragmatig a rhesymol i geisiadau, ond mae'r costau cynyddol a diffyg eglurder yn golygu bod angen adolygiad i fynd i'r afael â'r materion hynny – roedd aelodau’n cydnabod bod yna angen am bolisi clir a chryno i sicrhau dull cyson ar draws Sir Ddinbych a chydraddoldeb i bob disgybl

·        dywedodd y swyddogion er mwyn bod yn gymwys am gludiant ysgol am ddim roedd y pellter rhwng y cartref a'r ysgol yn cael ei gyfrifo gan ddefnyddio ffyrdd dosbarthiadol - cydnabuwyd o bosib na fyddai’r llwybr mwyaf uniongyrchol yn cael ei ddefnyddio i gludo disgyblion yn dibynnu ar y nifer a lleoliad y disgyblion eraill i gael eu cludo a chan gymryd i ystyriaeth y llwybr mwyaf diogel, a dyna pam mae anghysondeb lle mae'r man codi ar gyfer disgyblion yn nes i ysgol wahanol na'r un y maent yn ei fynychu - efallai y bydd achlysuron pan ei fod yn fwy cost-effeithiol i ddarparu cludiant i ysgol arall a'r hawl i ddefnyddio disgresiwn yn yr amgylchiadau penodol hynny wedi cael ei gynnwys yn y polisi hwn

·        nododd yr aelodau bryderon rhieni yn ardal Saron lle byddai gorfodi’r polisi yn effeithio’r arw ar eu plant ac er  y cafodd y posibilrwydd o  ysgolion sy'n bwydo gael ei grybwyll cydnabuwyd mai’r dull o gyfrifo cymhwyster o'r cartref i'r ysgol yn hytrach na ysgol i ysgol a ddefnyddiwyd ac ni fyddai'n gyfreithlon i wneud eithriad i'r polisi ar gyfer un ysgol neu ardal benodol

·        dangosol yn unig oedd y rhestr o fannau codi yn y polisi drafft ar hyn o bryd a byddai'n amodol ar asesiadau risg a wnaed yn unol â'r Mesur Teithio i Ddysgwyr (Cymru) – darparodd swyddogion fanylion penodol am y broses asesu risg a rhoi sicrwydd bod y ffordd rhwng Saron a Chyffylliog (a oedd wedi bod yn destun pryder penodol) ddim yn cael ei ddefnyddio gan fysiau ysgol ac yn amodol ar asesiad risg ar gyfer  ...  view the full Cofnodion text for item 5